Page 1

Y Drych

Cylchgrawn

Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhydychen

Rhifyn 2017-18

Awst 2018


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018

Golygyddol: Y Drych Mae wedi bod yn bleser cael golygu’r Drych eleni, ar ddiwedd fy nghyfnod fel myfyriwr yn y brifysgol ac yn aelod o Gymdeithas Dafydd ap Gwilym. Dros y tair blynedd a dreuliais yn Rhydychen, roedd y gymdeithas yn rhan fawr o'm mywyd yn arbennig y prif ddigwyddiadau, megis y gwasanaeth carolau, cinio Gŵyl Ddewi a'r Eisteddfod. Hefyd yn rhan o'r traddodiad hwn mae'r Drych, sy'n hynod bwysig o ran cadw cofnod o weithgareddau'r gymdeithas. Mae adroddiad y Caplan, sydd eleni more llawn ac erioed yn cofnodi hynt a helynt y flwyddyn. Cewch weld lluniau o'r flwyddyn yng nghefn y rhifyn i roi blas i chi o'r gweithgareddau. Mae'r Drych yn gyfrifol am gofnodi llawer mwy na gweithgareddau'r flwyddyn. Cewch gip ar aelodau'r gymdeithas trwy eu herthyglau, a'u dewis o destunau. Mae'r rhyddid o gael dewis testun yn dangos yn glir yr hyn sy'n bwysig i'n haelodau yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol. Ar yr edrychiad cyntaf, gall y testunau sy'n cael eu trin a'u trafod yn y cylchgrawn edrych yn amrywiol iawn, o hanes bandiau pres, i bortread o R.S. Thomas, i Wenglish yn yr Oesoedd Canol! Ond mae un thema sy'n ymddangos ym mhob erthygl ac yn dangos ei phwysigrwydd i aelodau'r Dafydd, sef gwerthfawrogi y dylanwadau sydd wedi creu Cymru heddiw. Trafodir pobl ddylanwadol megis Meredith Lloyd a Thomas Charles - dau a gyfranodd mor helaeth tuag at ein diwylliant. Mae gan hanes Thomas Charles neges berthnasol iawn i aelodau'n cymdeithas, sef pwysigrwydd bod Charles wedi dychwelyd i Gymru ar ôl bod mor ffodus â chael addysg yn Rhydychen.

Mae cymhelthodau dwyieithrwydd yn cael ei weld yn glir yn erthygl Rhys Underdown wrth drafod penbleth R.S. Thomas o ran cyfathrebu gyda'i gyd-Gymru. Mae perthynas yr iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg yn un oesol fel y dangosir yn erthygl Llewelyn Hopwood am bresenoldeb Wenglish mewn barddoniaeth o'r Oesoedd Canol. Mae trin diwylliannau sy'n cyd-fyw yn rhan o ethos y Dafydd, fel y gwelir yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn - yr Eisteddfod, a gafodd ei atgyfodi llynedd. Cewch flas ar y cystadlu gyda'r gweithiau buddugol a'r beirniadaethau yng nghefn y cylchgrawn. Awgryma cynnwys y cylchgrawn fod aelodau ein cymdeithas yn deall pwysigrwydd defnyddio ein profiad yn Rhydychen yn ôl yng Nghymru yn y dyfodol. Braf yw felly gallu cyflwyno cylchgrawn sy'n dangos pwysigrwydd Cymru a'r Gymraeg i fyfyrwyr Rhydychen. Rwy'n argyhoeddiedig bod yr agwedd hon wedi cael ei fagu gan waith caled y gymdeithas i roi cartref i Gymreictod mewn dinas mor Seisnig. I barhau â'r gwaith gwerthfawr hwn, mae angen cymorth ariannol. Mae manylion ynglŷn â sut gallwch helpu ar dudalenau cefn y cylchgrawn. Bydd eich cefnogaeth yn hanfodol i sicrhau bod traddodiadau fel y Drych a'r Eisteddfod yn gallu parhau ar gyfer cenedlaethau i ddod. Hoffwn ddiolch i holl gyfranwyr y Drych eleni, yn arbennig i Gwyndaf Oliver am fy rhoi ar ben ffordd ac i Gwilym Tudur am ddarparu blas o'r Eisteddfod yn y Drych. Gyda thinc o hiraeth, hoffwn ddymuno’n dda i’r pwyllgor flwyddyn nesa, ac yn enwedig i Jamie Gravell â fydd ȃ’r fraint o fod yn olygydd y Drych. Elan Llwyd Coleg y Santes Ann

1


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018

Cynnwys Golygyddol Elan Llwyd tud. 1 Swyddogaethau 2017-19 tud. 3 Adroddiad gan y Caplan Lois Llywelyn Williams tud. 4 Thomas Charles yn Rhydychen H. Gwilym Tudur tud. 8 Meredith Lloyd - ‘Dyn Hysbys’ Osian Prys Elis tud. 12 Band Cymru: Poblogrwydd y Bandiau Pres Gwyndaf Oliver tud. 18 Wenglish: Dwyieithrwydd Cymru heddiw a’r Oesoedd Canol Diweddar Llewelyn Hopwood tud. 20 ‘What language, / Life? Oh, what language?’: R.S. Thomas a’r Cwestiwn Iaith Rhys Underdown tud. 23 Portread o R. S. Thomas Shauna Leigh Brown tud. 26 Beirniadaethau a Chyfansoddiadau yr Eisteddfod tud. 27 Lluniau o’r flwyddyn tud. 40 Codi Arian ar gyfer y Gymdeithas Owain Caron James tud. 43

2


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018

Swyddogaethau 2017-18

Swyddogaethau 2018-19

Y Llywydd (sef yr aelod hŷn): Dr Rosalind Temple Y Coleg Newydd

Y Llywydd (sef yr aelod hŷn): Dr Rosalind Temple Y Coleg Newydd

Y Caplan: Lois Llywelyn Williams Coleg yr Iesu

Y Caplan: Osian Prys Elis Coleg yr Iesu

Yr Is-gaplan a'r Prif-ddefodydd: Gwilym Tudur Neuadd Wycliffe

Yr Is-gaplan a'r Prif-ddefodydd: I'w gadarnhau

Y Trysorydd: Lowri Howard Coleg y Santes Ann Yr Archarogldarthydd: Bedwyr ab Ion Neuadd Sant Edmwnd Yr Ysgrifennydd: Jamie Gravell Coleg y Santes Ann Y Swyddog TG: Llewelyn Hopwood Coleg yr Iesu Golygydd y Drych: Elan Llwyd Coleg y Santes Ann

Y Trysorydd: Gwilym Tudur Neuadd Wycliffe Yr Archarogldarthydd: Steffan Williams Coleg y Santes Catrin Yr Ysgrifennydd: Lowri Howard Coleg y Santes Ann Y Swyddog TG: Rhys Underdown Coleg Balliol Golygydd y Drych: Jamie Gravell Coleg y Santes Ann

Swyddog Codi Arian: Owain Caron James Coleg y Drindod Cyfryngau Cymdeithasol: Josh Frost Coleg yr Iesu

3


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018

Adroddiad Blynyddol y Caplan 2017-18 Bydd yn rhaid i mi agor yr adroddiad blynyddol yn ôl yr arferiad o gynnig gair o ddiolch am gael y cyfle i fod yn Gaplan Y Dafydd eleni. Mae’r un fath wedi cael ei ddweud gan Gapleiniaid y gorffennol, ac hyderaf y bydd yr un fath yn cael ei ddweud yn y blynyddoedd i ddod. Mae wir yn fraint ac anrhydedd i gael meddu ar deitl y Caplan, ac rwyf wedi mwynhau pob agwedd o’r gwaith, ond yn enwedig, cael cwmnïaeth hoff y pwyllgor a’r aelodau dros y flwyddyn. Mae Rhydychen wir yn lwcus o gael carfan mor arbennig o Gymry hwyliog a chwim eu meddyliau yn byw ac yn astudio yma. Dechreuodd gwaith y pwyllgor yn Ffair y Glas yn yr Examination Schools, wrth groesawu Cymry newydd y brifysgol i’r ddinas a’u hannog i ymuno â’r Gymdeithas. Gall Ffair y Glas fod yn lle prysur iawn gyda phobl yn ciwio, stwffio, bachu pob peth sydd i’w gael am ddim - ddim yn anhebyg i faes yr Eisteddfod i ddweud y gwir! Ond, mi lwyddodd y Cymry i ddod o hyd i stondin Y Dafydd a oedd wedi’i addurno â sawl draig goch. Atynodd y dreigiau (ac aelodau cyfeillgar y pwyllgor) dros hanner cant o aelodau newydd i’r gymdeithas ar ddiwedd y ffair. Dechrau da i’r flwyddyn, felly. Penderfynwyd y byddai’r cyfarfod agoriadol yn digwydd yng Ngholeg y Drindod eleni, er mwyn i’r Dafydd gymryd cam y tu allan i Goleg yr Iesu am ysbaid, a pha ddigwyddiad sy’n well ar gyfer yr achlysur na’r clasur Pice a Phenderyn? Eleni, bûm yn lwcus iawn o dderbyn cymorth Hannah Burrows, sy’n astudio yng Ngholeg yr Iesu, er mwyn dod o hyd i

nawdd i gynnal digwyddiadau y Dafydd. Cysylltodd Hannah â chwmnïau Cymreig yn gofyn a fydden nhw’n fodlon ariannu rhai o’n digwyddiadau, felly mae ein diolch i Hannah. Heb ffrwyth ei llafur hi, ni fyddai wedi bod yn bosibl cynnal nifer o’n digwyddiadau eleni, ac mae Noson Pice a Phenderyn yn un o’r digwyddiadau hynny. Roedd cwmni Watkin Jones yn ddigon caredig i noddi’r noson gartrefol hon, felly diolch iddyn nhw. Yn ogystal, diolch i Gwyndaf am baratoi’r cacennau cri hyfryd a brofwyd yno, rydw i’n siwr ei fod wedi bod yn brysur iawn! Petawn i’n gorfod rhoi gair o gyngor i bwyllgor y flwyddyn nesaf, mi fyddwn i’n awgrymu prynu mwy na dwy botel o Benderyn - mae’n amlwg bod aelodau’r Dafydd yn hoff o’u chwisgi. ‘Doedd dim diferyn ar ôl! Braf iawn oedd cael gwahodd aelodau’r Gymdeithas i’r swper ffurfiol blynyddol y Caplan yn nhrydydd wythnos tymor Mihangel. Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, Coleg yr Iesu oedd cartref y swper hwn. Paratowyd gwledd i’r criw a fynychodd, a symudodd yr aelodau i lawr i far y coleg yn dilyn y bwyd, lle roedd y sgwrs (a’r gwin) yn llifo tan yn hwyr. Uchafbwynt tymor Mihangel oedd y Gwasanaeth Carolau Cymraeg. Unwaith eto, Coleg yr Iesu oedd y lleoliad, ac roedd yn braf cael diweddu’r tymor yn nodau soniarus Clywch Lu’r Nef. Cymrodd nifer o aelodau’r gymdeithas ran yn y gwasanaeth drwy wneud darlleniadau a gweddïau. Eleni, nid oedd gennym bregethwr gwadd, ond yn hytrach, cawsom anerchiad ddifyr iawn gan Gwilym Tudur, oedd yn myfyrio ar le Duw yn ein bywydau yn ystod cyfnod y Nadolig. Braf oedd cael gweld cymaint yn mynychu’r gwasanaeth – bu’n rhaid argraffu mwy o raglenni munud

4


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 olaf gan fod cymaint mwy na’r disgwyl wedi dod allan yn yr oerfel. Roedd y gwasanaeth yn gyfle arbennig i gloi’r tymor yng nghwmni aelodau hen a newydd. Ar ôl dychwelyd i Rydychen ym mis Ionawr wedi cyfnod yng Nghymru fach dros y Nadolig, cawsom gyfle am gyfarfod anffurfiol o sgwrsio dros ddiod yn nhafarn y King’s Arms ar Ionawr y 25ain er mwyn dathlu Dydd Santes Dwynwen. Bu aelodau’r gymdeithas yn torri eu syched yn y Royal Blenheim yn reit aml hefyd, wrth wylio gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar rai Sadyrnau tymor Ilar, er na fu llwyddiant mawr i’r tîm cenedlaethol. Cysylltodd Maria Moore gyda’r gymdeithas yn nhymor Ilar i sôn am ei gwaith hi gyda mudiad Dolen Cymru, sef y cysylltiad rhwng Cymru a Lesotho yn Affrica. Mae Maria yn nyrs ymchwil yn yr Oxford Vaccine Group, ac ym mis Chwefror mi ddaeth hi draw i Goleg yr Iesu i roi sgwrs am waith Dolen Cymru. Er bod y niferoedd i’r digwyddiad yn isel, roedd y sgwrs yn fuddiol dros ben a chawsom ddysgu llawer am y gwaith sy’n cael ei wneud draw yn Lesotho gan bobl o Gymru. Mae’n debyg bod thema rhyngwladol i ddigwyddiadur Y Dafydd yn nhymor Ilar, oherwydd yn wythnos chwech, aeth aelodau’r gymdeithas ar crewdate gyda chymdeithas Wyddelig y brifysgol i fwyty Tseiniaidd CreAsian. Yn ôl y disgwyl, roedd hi’n noson hwyliog dros ben yn cymysgu gyda’n cefndryd Celtaidd. Aethom ymlaen i far Coleg y Santes Anne cyn mynd allan, a chawsom y cyfle i ddangos ein lleisiau canu gorau wrth ganu caneuon Cymraeg a Gwyddelig bob yn ail. Noson i’w chofio yn wir! Sláinte!

Ac ar ddiwedd tymor Ilar mi gawsom ni Ddydd Gŵyl Dewi. Os cofiwch chi’n iawn, mi gawsom ni ymweliad gan y beast from the east bondigrybwyll ar y cyntaf o Fawrth. Gyda’r ddinas wedi’i gorchuddio dan gynfas wen o eira, parhau i sefyll wnaeth y cennin pedr wrth i Gapel Coleg yr Iesu gael ei lenwi i’r ymylon gyda phobl o Gymru a thu hwnt er mwyn ddathlu diwrnod ein nawddsant. Yr Heneb Dorrien Davies, Archddiacon Caerfyrddin oedd yn pregethu. Er bod sawl un wedi teithio trwy’r eira i gyrraedd y gwasanaeth, ein trechu ni wnaeth y tywydd mawr yn hwyrach ymlaen yn y noson. Cynhaliwyd noson glwb Gymreig ei naws yng nghlwb nos JTs ar George Street i ddathlu dydd Gŵyl Dewi, ond ei throi hi am adref i swatio benderfynodd aelodau’r Dafydd ei wneud yn y diwedd. A chiliodd yr eira ddim gronyn yn ôl yng Nghymru erbyn y penwythnos, er ein bod ni mwy neu lai wedi cael gwared arno yma yn Rhydychen. Ar y dydd Sadwrn, y 3ydd o Fawrth, cynhaliwyd ein Swper Gŵyl Dewi blynyddol, yn y Jam Factory eto eleni. Dyma ffrwyth llafur ein Archarogldarthydd, Bedwyr, a oedd yn gyfrifol am drefnu’r swper a gwahodd gwestai gwadd. Ond, fel y soniais, roedd yr eira yn dal i fod yn fwgan yng Nghymru. Yn anffodus, ni fu’n bosibl i’n gwestai gwadd, Dr Hefin Jones ymuno â ni ar gyfer y swper. Academydd mewn gwyddoniaeth fiolegol ym Mhrifysgol Caerdydd a Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw Dr Hefin, ac roeddem wedi edrych ymlaen at gael ei gwmni ar y noson, ond nid oedd y tywydd yn caniatáu. Gobeithio y cawn ni’r pleser o gael cyfarfod Dr Hefin rhyw dro eto, felly! Oherwydd y newid munud olaf hwn, camodd Bedwyr ei hun i’r adwy a pharatoi araith inni am Ddewi Sant – pwnc

5


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 perthnasol! Diolch i Bedwyr am ei holl waith trefnu ac am fod mor barod i gamu i’r adwy pan oedd rhaid. Ac mae’n rhaid diolch hefyd i gwmni yswyriant Admiral, oherwydd dyma’r cwmni a noddodd y swper, gan olygu bod y pris wedi’i ostwng yn sylweddol i’r aelodau. Roeddem wedi gobeithio cael aelod o staff Admiral yn y swper i siarad gyda ni am y cwmni, ond yn anffodus, nid oedden nhw ychwaith yn medru yswirio eu hunain rhag y tywydd! Ac yna i dymor y Drindod, tymor y tywydd braf a’r arholiadau - heb anghofio Eisteddfod y Dafydd wrth gwrs! Eleni eto, trefnwyd Eisteddfod ar gyfer ein haelodau gyda chystadleuthau llenyddol ar gyfer disgyblion TGAU a chweched ddosbarth mewn ysgolion yng Nghymru, gyda’r bardd ac awdur Llŷr Gwyn Lewis, cyn-aelod o’r Dafydd, yn beirniadu yr holl gystadleuthau. Gwaith Gwilym Tudur, y Prif Ddefodydd ac Is-Gaplan oedd trefnu’r Eisteddfod. Cafodd Gwilym hwyl arbennig arni, gan newid lleoliad yr Eisteddfod i oruwchystafell tafarn y Mitre, a brofodd yn lleoliad delfrydol ar gyfer y fath ddigwyddiad, gydag awyrgylch hynafol ond eto anffurfiol yno. Roedd croeso’r gynulleidfa mor gynnes nes i rai aelodau fod ddigon dewr i benderfynu cystadlu ar y pryd! Cafwyd ymatebion difyr iawn yn y gystadleuaeth siarad cyhoeddus, wrth i’r cystadleuwyr ymateb i’r pwnc ‘i Godi’r Hen Wlad’ sef un o arwyddeiriau gwreiddiol y Dafydd, y gwnaeth Owain James ein Swyddog Codi Arian ddod ar ei draws yn ddiweddar. Roedd yr arwyddair yn fy nharo fel un addas iawn i ddisgrifio amcanion y gymdeithas, felly dyma ei atgyfodi a gobeithio ei ddefnyddio yn amlach o hyn ymlaen.

Uchafbwynt yr Eisteddfod, ar wahân i’r perfformiadau gwefreiddiol gan ein haelodau (cewch weld mwy am y perfformiadau hyn os ewch ar gyfrif Trydar @Y_DapG neu chwilio am #EisteddfodDapG), oedd y seremonïau Cadeirio a Choroni. Yn bersonol, dyma uchafbwynt fy nghyfnod innau fel Caplan, gan fy mod yn cael estyn Cledd y Gymdeithas i’w defnyddio yn y seremoni ac esgus mai fi oedd yr Archdderwydd... Yn anffodus ni fu cystadlu ar y gystadleuaeth i ddysgwyr eleni, ond bu llawn deilyngdod yn y cystadleuthau rhyddiaith a barddoniaeth. Mae cynnal cystadleuthau ar gyfer myfyrwyr ifanc yn ôl yng Nghymru yn bwysig iawn ac yn adlewyrchu ymrwymiad Y Dafydd i geisio annog Cymry talentog i ystyried astudio yn Rhydychen fel posibilrwydd ar gyfer y dyfodol. Mi wnaethom wahodd y buddugwyr i dderbyn eu gwobr yn yr Eisteddfod a chael aros yng Ngholeg yr Iesu (diolch i Matt Williams, yr Access Fellow am wneud hynny yn bosibl), er mwyn rhoi cip iddynt o sut mae bywyd myfyrwyr yma go-iawn. Y bobl ifanc talentog hyn eleni oedd Tomos Brown o Ysgol Gyfun Gŵyr a enillodd gystadleuaeth y Goron, a Lois Medi Wiliam o Ysgol David Hughes, Porthaethwy, a gipiodd y Gadair. Llongyfarchiadau i’r ddau ohonyn nhw. Cymrwch gip ar eu gwaith nhw ac ar feirniadaeth Llŷr ymhellach ymlaen yn Y Drych. Roedd yn Eisteddfod lwyddiannus dros ben a gyda phawb yn cael eu diddanu drwy gydol y noson. Diolch o galon i Gwilym am ei holl waith caled, roedd yn noson i’w chofio. Dyma ddiweddglo teilwng i ddigwyddiadau’r Dafydd am y flwyddyn wrth i fy nghyd-fyfyrwyr droi am y llyfrgelloedd ac i minnau baratoi tuag at fy

6


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 mlwyddyn dramor yn Ffrainc, hoffwn ddymuno bonne chance i Bwyllgor 20182019 a boed iddynt gael tri thymor llewyrchus dros ben. Byddaf yn edrych ymlaen at gael dychwelyd yn 2019 a chlywed yr hanes. Boed i’r Dafydd barhau ‘i Godi’r Hen Wlad’! Lois Llywelyn Williams Coleg yr Iesu

7


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018

Thomas Charles yn Rhydychen Cysylltir enw Thomas Charles (1755— 1814) yn fynych gyda thref y Bala. Yn wir, erbyn y dwthwn hwn, ‘Thomas Charles o’r Bala’ yw Thomas Charles.1 Bellach erys Charles ym meddwl y Cymry fel y gŵr hwnnw y cerddodd Mari Jones (1784— 1864) chwe milltir ar hugain ato er mwyn cael copi o’r Beibl yn Gymraeg. Charles, yn wir, oedd un o bobl amlycaf ei oes. Ef oedd un o sylfaenwyr Cymdeithas y Beibl (sef. 1804); ef oedd awdur dwy gyfrol a siapiodd meddwl y Cymry sef y Geiriadur Ysgrythurol (1805) a’r Hyfforddwr (1807); ef oedd lladmerydd pennaf ymgyrch yr Ysgolion Sul yng ngogledd Cymru.2 Er mai gyda’r Bala y cysylltir enw Charles gan amlaf, ni ellir cyfyngu Charles i’r Bala. Roedd ei wreiddiau yn sir Gaerfyrddin a bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Rhydychen rhwng 1775 a 1778. Bwriad yr erthygl gryno hon ydy manylu ychydig ar brofiadau Thomas Charles ym Mhrifysgol Rhydychen rhwng y blynyddoedd hyn. Tra diddorol ydyw trafod y tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng profiadau Charles yn Rhydychen yn y ddeunawfed ganrif a phrofiad y myfyriwr Cymreig yno yn 2018.

Charles yn pwysleisio pa mor annisgwyl oedd cael y cyfle arbennig hwn i astudio yn Rhydychen: ‘yn y flwyddyn 1775 y darfu i ragluniaeth, yn dra annysgwyliadwy a rhyfeddol, agoryd fy ffordd i fyned i Rydychain’ [sic].4 Sut, felly, mae esbonio’r cyfle annisgwyl a gafodd Charles i astudio yn Rhydychen ym 1775? Rhaid cofio bod costau Prifysgol Rhydychen yn ddrud ym 1775 ac nid oedd cymorth i’w gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru! Mae R. Tudur Jones yn pwysleisio mai ‘cyfforddus, yn hytrach na chyfoethog, oedd cefndir Thomas Charles’.5 Yn ôl yr ysgolhaig D. E. Jenkins, mae’n debyg bod swm sylweddol o arian wedi ei adael i deulu Charles yn ewyllys Jane Bowen, gweddw David Bowen, taid Charles.6 Yn ôl Jenkins, defnyddiwyd yr arian hwn i noddi astudiaethau Charles. Er hynny, yn ôl ysgolheigion eraill, cafodd Charles ei noddi i astudio yn Rhydychen gan ‘fonheddwr cyfoethog’ yn sir Gaerfyrddin.7 Yn wir, anodd yw dod i gasgliad pendant ynglŷn â’r union ffordd y cafodd Charles ei noddi. Yr hyn sy’n glir, fodd bynnag, ydy bod y nawdd hwn ym 1775 yn ‘annisgwyl a rhyfeddol’.8

Wedi astudio yn Academi Caerfyrddin rhwng 1769 a 1775, ym 1775 daeth cyfle i Charles ddechrau ar astudiaethau cwrs BA yng Ngholeg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen.3 Yn ei Gofiant, mae

Wedi cyfeirio at bwysigrwydd 1775, aiff Charles ymlaen yn ei Gofiant i fynegi ei amrywiol emosiynau cyn iddo gychwyn yn Rhydychen. Yn gyntaf, sonia ei fod yn pryderu’n fawr am y syniad o ymgartrefu yn Rhydychen: ‘yr oedd fy

1

4

Eryn Mant White, ‘Gyrfa Thomas Charles yn ei chyd-destun hanesyddol’, yn D. Densi l Morgan (gol.) Thomas Charles o’r Bala (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2014), t. 2. 2 John Roberts, ‘Thomas Charles’, yn Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Llundain: William Lewis, 1953), tt. 67-69. 3 Thomas Jones (cyf.), Cofiant neu Hanes Bywyd a Marwolaeth y Parch. Thomas Charles (Bala: Robert Saunderson, 1816), t. 10.

Ibid. R. Tudur Jones, Thomas Charles o’r Bala: Gwas y Gair a Chyfaill Genedl (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1979), t. 10. 6 D. E. Jenkins, The Life of the Rev. Thomas Charles, Cyf. 1 (Dinbych: Llewelyn Jenkins, 1908), t. 42. 7 John Morgan Jones a William Morgan, Y Tadau Methodistaidd: Cyfrol II (Abertawe: Lewis Evans, 1897), t. 166. 8 Jones, Cofiant, t. 10. 5

8


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 ysprydoedd, yn fynych iawn , yn iselwasgedig gan ofnau ammheuon am fy niogelwch [...]’.9 Er hynny, ym mis Mai 1775, wrth iddo deithio i Rydychen cafodd ei gysuro wrth fyfyrio ar y diogelwch oedd ganddo yn ei Dduw: ‘Yn y mis Mai cychwynais ar fy nhaith yno; ac ar y ffordd rhoddodd yr Arglwydd i mi olygiadau tra chysurus arno ei hun, fel fy Nhad yng Nghrist’.10 Cyrhaeddodd Rhydychen ar 26 Mai 1775 a chafodd ei fatriciwleiddio yn aelod o’r Brifysgol ar 31 Mai 1775.11 Yr hyn sy’n syndod am Gofiant Charles yw pa mor gryno yw ei drafodaeth am ei gyfnod ym Mhrifysgol Rhydychen. Er bod cyfieithiad Thomas Jones o’i Gofiant yn 252 tudalen o hyd, dim ond pedair tudalen sy’n cyfeirio at ei dair blynedd yng Ngholeg yr Iesu. Yn y tudalennau hyn nid yw Charles yn cyfeirio at unrhyw bwnc academaidd nac ychwaith at unrhyw ysgolhaig yn y Brifysgol.12 Mae hyn yn eithriadol o annisgwyl o ystyried pa mor drwyadl a dwys oedd natur addysg academaidd Prifysgol Rhydychen. Yn ei erthygl, ‘Diwylliant Thomas Charles o’r Bala’, dadleua R. Tudur Jones fod gan Charles afael ar Roeg, Hebraeg, Ffrangeg ac Eidaleg—ieithoedd y dichon iddo eu hastudio a’u meistroli yng Ngholeg yr Iesu.13 Os nad yw Charles yn cyfeirio at bynciau academaidd yn ei drafodaeth, beth felly mae yn ei grybwyll wrth sôn am ei gyfnod yng Ngholeg yr Iesu? Gellir nodi tri pheth sy’n ganolog i’w brofiad yn Rhydychen.

9

Ibid., t. 11. 10 Ibid. 11 Jones, Thomas Charles o’r Bala, t. 11. 12 Mae D. E. Jenkins wedi amlinellu’r pwynt hwn yn The Life of the Rev. Thomas Charles, t. 41.

Y peth cyntaf sy’n tynnu ei sylw ydy’r modd y gwnaeth llawer o ffrindiau newydd a chysylltiadau pwysig yn ystod ei amser yn Rhydychen: ‘yn fuan cefais gydnabyddiaeth âg amryw wŷr ieuaingc difrifol a chrefyddol; yr hyn nis gallai lai na bod i mi er cysur a bydd mawr’.14 Yn wir, yn ystod ei gyfnod yn Rhydychen, daeth yn ffrindiau gydag amryw o ddynion ifanc o dueddiadau Methodistaidd gan gynnwys Simon Lloyd (1756—1836) o’r Bala a John Mayor (1756—1826) o Ddolgellau. Roedd Lloyd yn fyfyriwr yng Ngholeg yr Iesu a Mayor yng Ngholeg Caerwrangon. Yn ei Gofiant, ysgrifenna Charles iddo dreulio Gorffennaf 1777 gyda John Mayor yn cynorthwyo’r enwog John Newton (1725— 1807) yn ei eglwys yn Olney, Swydd Buckingham. Yn ôl Thomas Charles, uchafbwynt ei gyfnod yng Ngholeg yr Iesu oedd—yn anad dim arall—y ffrindiau a’r cysylltiadau oesol a wnaeth yn Rhydychen. Yr ail beth mae Charles yn cyfeirio ato yn ei bedwar tudalen o drafodaeth am Rydychen ydy’r anawsterau ariannol a wynebodd pan oedd yno. Wedi dwy flynedd o astudio yn Rhydychen, mae Charles yn sôn bod ei ffynonellau ariannol yng Nghymru wedi sychu ac nid oedd ganddo ddigon o arian i barhau gyda’i astudiaethau academaidd: ‘Fy nghynnaliaeth o Gymru a attaliwyd yn ddisymmwth: ac nid oedd un ffynnonell daearol y gallaswn edrych iddi gyda golygiadau am lwydd’.15 Yn wir, ysgrifenna Charles fod ganddo ddyled o £20 i Goleg yr Iesu ym 1777 sydd werth

13

R. Tudur Jones, ‘Diwylliant Thomas Charles o’r Bala’, yn J. E. Caerwyn Williams (gol.) Ysgrifau Beirniadol IV (Dinbych: Gwasg Gee, 1969), tt. 103-104. 14 Jones, Cofiant, t. 11. 15 Ibid., t. 12.

9


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 llawer iawn mwy heddiw.16 Yn ystod yr argyfwng ariannol hwn, roedd Charles yn ystyried gadael Coleg yr Iesu.17 Er gwaetha hynny, ni fu’n rhaid iddo adael. Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, gwahoddwyd Charles i giniawa gyda ‘gŵr bonheddig’ hael a dalodd ei ddyled o £20: Ychydig ddyddiau ar ôl hynny, anfonodd gwr bonheddig am danaf i giniawa gyd âg; a chyn fy myned o’i dŷ, er fy mawr syndod, efe a estynodd i mi yr ugain punt yr oeddwn yn fyr ohonynt.18

awdurdodau’r Brifysgol. Yn ddiweddarach yn ei lythyr, ysgrifenna Charles: ‘er hynny, ni fuaswn yn ei chyfrif yn ddyletswydd i mi weithredu fel y gwnaeth ef’.21 Roedd Charles, fodd bynnag, yn dyst i’r modd yr oedd awdurdodau Anglicanaidd Rhydychen yn gynyddol ddrwgdybus o fyfyrwyr Methodistaidd erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif.

Y trydydd peth y mae Charles yn ei gofio am ei brofiadau yn Rhydychen ydy gwrthwynebiad awdurdodau’r Brifysgol tuag at Fethodistiaeth. Er nad yw’r thema hon i’w gweld yn ei Gofiant, mewn llythyr at ei gyfaill Edward Griffith ar 11 Rhagfyr 1777, sonia Charles am enghraifft o anoddefgarwch y Brifysgol tuag at Fethodistiaid. Dywed fod Coleg y Trwyn Pres wedi gwrthod rhoi gradd i Robert Roe ym 1777 oherwydd ei ‘egwyddorion Methodistaidd’.19 Pan siaradodd Charles gydag Roe, dywedodd ef ei fod wedi ‘gwneud beth oedd, yn ei dyb ef, yn ddyletswydd iddo, mewn ffordd onest, ddidwyll a chydwybodol’.20 Er bod Charles ei hun yn drwm o dan ddylanwad Methodistiaeth wedi ei dröedigaeth yn gwrando ar Daniel Rowland yn pregethu ym 1773, yr oedd yn fwy pwyllog na Roe ac roedd yn barod i gyfaddawdu gydag

Dyna felly astudiaeth gryno o brofiadau Thomas Charles o’r Bala yng Ngholeg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen. Yn ddi-os, mae llawer o debygrwydd a nifer o wahaniaethau rhwng ei brofiadau ef rhwng 1775—1778 a phrofiad myfyriwr israddedig yn 2018. Yn debyg i Thomas Charles ym 1777, mae myfyrwyr israddedig Rhydychen heddiw yn wynebu problemau ariannol dybryd er bod ychydig o gymorth ar gael trwy Lywodraeth Cymru nad oedd ar gael i Charles. Hefyd, yn dra thebyg i Charles, er bod cyrsiau gradd Prifysgol Rhydychen ymhlith y rhai gorau yn y byd, un o uchafbwyntiau profiad y myfyriwr ydy gwneud ffrindiau newydd a chysylltiadau oesol yn Rhydychen. Er hynny, yn dra gwahanol i brofiad Charles yn gweld Methodistiaid yn cael eu herlid, mae Prifysgol Rhydychen bellach yn sefydliad seciwlar ac mae ei drysau ar agor i bawb—nid i Anglicaniaid yn unig. Wedi i Charles raddio gyda BA yn Rhydychen ym 1778, dychwelodd i Gymru ym 1783. Trwy ei waith a’i weledigaeth ef, trawsffurfiwyd cenedl y Cymry am byth. Boed i fyfyrwyr Cymreig Prifysgol Rhydychen heddiw fod

16

19

Lawrence H. Officer a Samuel H. Williamson, ‘Five Ways to Compute the Relative Value of a UK Pound Amount, 1270 to Present’, MeasuringWorth, 2018 . Gweler: www.measuringworth.com. 17 Ibid. 18 Ibid.

Llythyr Charles at Edward Griffin, 11 Rhagfyr 1777, D. E. Jenkins, The Life of the Rev. Thomas Charles, Cyf. 1, t. 60. Ceir cyfieithiad o rannau o’r llythyr gan R. Tudur Jones yn Thomas Charles: Gwas y Gair a Chyfaill Cenedl, t. 12. 20 Ibid. 21 Jenkins, The Life of the Rev. Thomas Charles, Cyf. 1, t. 60.

10


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 yn debyg i Thomas Charles o’r Bala gan ddychwelyd i Gymru gyda’r addysg a’r cysylltiadau a wnaethom yn Rhydychen. H. Gwilym Tudur Neuadd Wycliffe

11


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018

Meredith Lloyd – ‘Dyn Hysbys’ Pwy wyddys am Meredith Lloyd o Frynelen? Dyma enw sydd wedi’i hanwybyddu a’i golli o’n cof cenedlaethol, ac sy’n hen deilwng ennill cydnabyddiaeth deg am ei gyfraniad nodedig i hanes ein cenedl. Bu’n bresennol yn rhai o drobwyntiau pwysicaf yr ail ganrif ar bymtheg, ac ymhlith cylchoedd deallusol y cyfnod, fe’i cydnabuwyd yn awdurdod medrus mewn meysydd o arbenigedd. Bu’n dyst i fywyd hynod amryddawn, gan iddo fabwysiadu rhawd y milwr a’r bardd, yr ieithydd, hermetydd, alcemydd, metelegwr a’r cyfreithiwr. Beth hefyd am ei ran amhrisiadwy fel hynafiaethydd, yn diogelu trysorau ysgrifenedig ein cenedl? Meddodd ddiddordebau ac arbenigedd eang ym meysydd y gwyddorau a'r celfyddydau, a bu’n sicr yn un o Gymry arbennig ein cenedl. Profodd fywyd lliwgar a chyffrous, yn llawn helynt a helbul, gorchest a llwyddiant. Braslunio hoenusrwydd ei hanes, ei wladgarwch diysgog a’i gyfraniad sylweddol i’r genedl Gymreig yw amcan yr erthygl hon. Yn 1619, ganwyd Meredith Lloyd ym mryniau Sir Drefaldwyn, mewn trefgordd ym mhlwyf Llanfair Caereinion, a enwir hyd heddiw yn Brynelen. Roedd yn fab i John David ap Morgan ag Elizabeth Lloyd. Trwy ddisgynyddiaeth ochr ei fam, gwelwn y deilliodd o dras fonheddig, yn ddisgynnydd o Dafydd ap Gruffydd Fychan, Arglwydd Neuaddwen, Coedtalog a Rhiwhiriaeth, sef uchelwr pwerus yng ngogledd Powys: gwyddom i feibion hwnnw ochri gydag Owain Glyndŵr yng ngwrthryfel 1400-15. Fodd bynnag, yn hytrach na pharhau gyda’r system enwi patronymig – y confensiwn Cymreig yn ystod y cyfnod – mabwysiadodd Meredith

Lloyd cyfenw teuluol ei fam. Mae’n debyg mae’i fwriad oedd pwysleisio’i ddisgynyddiaeth fonheddig. Adlewyrcha’i gyfenw felly agwedd pwysig o ddatblygiadau hanesyddiaeth diweddar: bu modd i statws cymdeithasol danseilio seiliau misogynistaidd yr oes, gan, yn enghraifft Meredith Lloyd, ymddangos drwy ddyrchafu enw’r fam dros y tad. Dyma agwedd fechan o astudiaeth gymhleth, sy’n dangos nad maes syml yw hanes hunaniaeth rhywedd. Rhwng 1632 a 1634, fe’i cofrestrwyd yn Ysgol yr Amwythig, gan roddi mynediad sylweddol i amgylchfyd deallusol ac i addysg safonol. Yn sicr, roedd mynychu’r ysgol hon yn cyfochri â’r tueddiad rhanbarthol, oherwydd trwy gydol yr ail ganrif ar bymtheg, Ysgol yr Amwythig oedd ffocws addysgiadol teuluoedd bonheddig y Canolbarth. Mae’n amlwg fod Meredith Lloyd wedi derbyn addysg dda, o bosib i lefel prifysgol. Fodd bynnag, profodd y rhyfeloedd cartref yn doriad arwyddocaol ar ei lwybr o ddatblygu’n ddeallusol. Pan ddechreuodd y Rhyfel Cartref yn 1642, daeth Cymru’n fuan i’w hadnabod fel cadarnle’r garfan Frenhinol. Nid yw’n syndod felly mai yng nghyd-destun rhyfel y gwelwn y gyfeiriadaeth gynharaf at Meredith Lloyd, a hynny trwy’i bresenoldeb fel milwr Brenhinol yn ystod gwarchae’r Senedd ar Gastell Harlech, dyddiedig 1646 – 1647. Mewn adroddiad gwreiddiol ar ddigwyddiadau’r rhyfel – ‘A short account of the Rebellion in North and South Wales in Oliver Cromwell’s Time’ – enwir ychydig o’r Brenhinwyr pwysig, gan gynnwys ‘Meredith Lloyd, of Llanfair, in Caer einion’, a barhaodd i amddiffyn y castell, hyd ddiwedd penderfyniad y Cyrnol

12


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 William Owen i’w ildio ym mis Mawrth, 1647. Heb os nac oni bai, cyflëir ymdeimlad ‘Thermopolaidd’ i’r frwydr, oblegid 44 milwr yn unig – gweddillion y lluoedd Brenhinol – a barhaodd i warchod y castell. O ganlyniad, mae’n gwbl anhygoel nodi’i bresenoldeb yn y gwarchae enwog, fel un o’r ‘Men of Harlech’. Ar ben hyn, ymddengys nad oedd Meredith Lloyd yn gymeriad dibwys yn ystod y gwrthdaro yn Harlech, oherwydd fe’i cedwir ar wahân i’r ‘twenty-eight common soldiers’. Boed yn aelod o’r cylch canolog ai peidio, mae’n sicr yn achos syfrdandod cofnodi’i rôl yn nigwyddiad terfynol y rhyfel, sef ildio Castell Harlech; y ddalfa Frenhinol olaf ym Mhrydain ôll. Mae’n ddiddorol sylwi ar olion cynnar ei gyfeillgarwch agos gyda theulu y Cyrnol William Owen, Brogyntyn. Mewn llythyr yn 1677, mae Meredith Lloyd yn disgrifio William Owen yr ieuengaf, sef nai’r Cyrnol William Owen, fel ‘my worthy patron in particular; ...God comfort him.’ Yn ariannol ac o ran mynediad i statws cymdeithasol, rhoddodd y teulu nawddogaeth sylweddol i deulu Meredith Lloyd. Darparodd Lewis Annwyl, sef tad yng nghyfraith y Cyrnol William Owen, ail forgais ar Frynelen yn 1638, o bosib i gyllido’i addysg. Hefyd, roedd cefnogaeth teulu Brogyntyn yn sicr yn ffynhonnell dros hyrwyddo statws dyrchafedig yn y gymdeithas. Ond, yn y llythyr uchod, teimlir pryder Meredith Lloyd wedi iddo glywed am salwch ei noddwr – ‘If we be so unfortunate as to lose him, we may expect a sooner Judgment to follow’. Bu farw William Owen yn 1677, ac yn wir i bob gair, dirhaewyd yr ofn blwyddyn yn ddiweddarach; gwelwn ddirywiad yn ei sefyllfa ariannol pan orfodwyd Meredith Lloyd i werthu Brynelen!

Yn y llythyr cynharaf sydd gennym wedi’i hysgrifennu gan Meredith Lloyd, dyddiedig 1652, gyrrir canmoliaeth brwd at Thomas Vaughan, yr athronydd enwog, yn clodfori’i waith am gyfieithu'r ‘Fama Fraternitatis Rosae Crucis’, sef maniffesto a honnodd fodolaeth doethineb cyfrinol i’r ddynoliaeth. Mae’n cyfeirio at yr hen ddewiniaeth a ddylanwadodd ar ddulliau alcemeg yr oes – ‘Barchedig Athro, …i chwi y cyfrannodd Duw o’i guddiedig drysor ddirgel ddawn y Derwyddon, a rhagorol wybodaeth ynghelfyddyd Pheryllt.’ Dyma’r awgrym cryfaf sy’n datgelu diddordeb Meredith Lloyd mewn astudiaethau esoterig y cyfnod, a groesodd yn aml â byd hudoliaeth, lledrith a chyfaredd dewiniaeth! Tyfodd Hermetigiaeth yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, oblegid fe swynodd wyddonwyr trwy’r argyhoeddiad y gellid newid cyfansoddiadau naturiol trwy bwerau goruwchnaturiol. Dyma oedd sylfaen diddordeb ac arbenigedd Meredith Lloyd fel alcemydd a chemegydd. Gwelir hefyd ei agosatrwydd amlwg at Thomas Vaughan, oherwydd daw y ganmoliaeth uchod fel yr ‘hyn sy’n tarddu ond o’m gwir gariad i ti.’ Nid perthynas unochrog mohoni, oherwydd fe atebodd Thomas Vaughan trwy ddweud ‘I have been forced to neglect my friends, and amongst them, you whoe I believe are the onely friend yt hath most of my love.’ Yn ychwanegol, pwysleisia’r ohebiaeth uchod graddau ei deimladau gwladgarol. Gwelir annibyniaeth cymeriad yn ei benderfyniad i ysgrifennu ei lythyr yn Gymraeg. Gwrthdrodd y tueddiad o Saesnigeiddio, a oedd yn prysur hollti’r uchelwyr o’u gwreiddiau ieithyddol. Mae’r llythyr yn dyst o’i falchder at ei genedl, ac yn pwysleisio ei ogwydd gwarchodol at

13


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 Gymru: ‘Y dyledogion hynny yn eu hoessoed ol, yn ôl gwlad-ddiffynwyr gofalgar a gynhaliasant eu gwlad a’i Treftadaeth yn gadarn-eofn ddifwgwl, yn erbyn Nerth, ystriw, a dichell i holl Elynion i’w didrancedig fawl; ...cyffredin fudd a lles Cenedl Gymry oll.’ Teimlir ei hiraeth amlwg am ogoniannau’r gorffennol, a’r gwladgarwch hwn a gymhellodd Meredith Lloyd i ymroi er budd datblygiad hunaniaeth Gymreig. Disgrifiodd ei hun fel ‘gwasanaethydd tylawd a chydwladwr,’ ac yn sicr, fe gyfrannodd yr agwedd hon yn fawr at ddatblygiad ein seiliau deallusol. Gweithiodd Meredith Lloyd er budd gwarchod y dysg draddodiadol Gymraeg. Felly, roedd diogelu trysorau ysgrifenedig yn rhan allweddol o’i wladgarwch diysgog. Yn ei ohebiaeth gyson gyda Robert Vaughan o’r Hengwrt, sef perthynas a chyd-hynafiaethydd, amlygir ei gyfraniad dros warchod cryn dipyn o lawysgrifau pwysicaf ein cenedl. Mewn llythyr a yrrwyd yn 1655, fe’i disgrifir gan Robert Vaughan fel ‘an honest man, well skilled in reading of manuscripts, that hath a faire and legible hand for the writing.’ Yn 1664, danfonwyd llythyr at Syr Thomas Myddleton, gyda’r bwriad o symud i Gastell y Waen, er mwyn sefydlu ffwrnais haearn. Ynddo, teimlir ymffrost yng ngeiriau Meredith Lloyd, oherwydd fe hawliodd mai’i lyfrgell bersonol ef oedd y mwyaf yng Ngogledd Cymru – ‘my Bookes which I presume are more in number & more choise then any studie in Northwales contaynes.’ Heb os nac oni bai, mae’r honiad uchod yn sicr yn achos rhyfeddod i mi, yn enwedig wrth ystyried y pwysigrwydd traddodiadol a roddir i lyfrgelloedd yr Hengwrt a Chefnybraich. Fodd bynnag, os oedd honiad Lloyd yn gywir ai peidio, mae tystiolaeth i ddweud

bod nifer o lawysgrifau wedi bod yn ei berchnogaeth, ac eraill wedi mynd trwy ei ddwylo. Gwyddys iddo rannu llawysgrifau gyda’r Hengwrt, oherwydd mewn llythyr at Robert Vaughan, dyddiedig 1655, cyflëir y trosglwyddiad pan ddywedir, ‘I have sent you herewith the booke intituled Vita Cadoci of the Authoritie of which ...you wilbe able to give a just accompt.’ Mae’n debyg y gyrrwyd llawysgrif gyfreithiol bwysig i William Maurice, yr hynafiaethydd o Gefnybraich, sef ‘Wynnstay 36 Q’, oherwydd ynddo cofnodir mai ‘Meredydd Llwyd o Fryn Elen fydd wir berchennog i'r llyfr hwn.’ Ysgrifen William Maurice sydd yma. Nid oedd Meredith Lloyd yn llofnodi ei lawysgrifau fodd bynnag, gan awgrymu felly ei fod yn ystyried ei hun yn warcheidwad, yn hytrach nac yn berchennog, ac felly yn hael yn rhannu ysgrifau gyda’i gyfoedion. Yn ychwanegol, dengys fod gan Robert Vaughan farn uchel o ysgoloriaeth Meredith Lloyd, oherwydd ymdrechodd i’w annog i ymgymryd ag astudiaeth pellach o’r hen gyfreithiau Cymreig – ‘you may much improve your knowlegde by being acquainted with ye modern and ancient practise, ...comparing them with our lawes, and if any coherence be found betweene ours and those, question if such things must be ancient and derived from ye findamentall law used by the Britaines till Howell Dda.’ Fe’i cydnabyddwyd yn awdurdod medrus mewn astudiaethau o lawysgrifau canoloesol, a bu’n sicr yn ganolog yn yr ymdrech i’w casglu, dadansoddi a’u gwarchod. Er mor gryf oedd ei ymdeimladau gwladgarol, ni wnaeth ei wladgarwch diysgog gyfyngu ei orwelion deallusol, oherwydd ymddengys iddo rannu cyfnodau sylweddol o’i fywyd rhwng y Trallwng a

14


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 Llundain bell! Mewn llythyr gan John Aubrey yn 1655, dywedwyd bod ‘Meredith Lloyd, chemist, lawyer & antiquary, is living near me at the girdler’s shop under the King’s Tavern in Fleet Street.’ Yn Llundain, felly, y saernïwyd ei statws fel ‘polymath’ gwerth ei halen, gan arbenigo ar faterion gwyddonol, hynafiaethol a chyfreithiol. Fodd bynnag, ni wanhaodd ei ddiddordeb yn yr iaith Gymraeg. I’r gwrthwyneb, allforiodd wybodaeth am yr iaith, oherwydd fe welir yn y llythyr bod Meredith Lloyd wedi casglu ‘much information about Celtic languages and Welsh monuments.’ Ni therfynodd yr ymdrechion hyn, canys fe glywir mewn llythyr gan John Aubrey, dyddiedig 1673, bod Meredith Lloyd wedi cyfrannu at ei astudiaethau etymolegol o darddiad Cymreig ar enwau Saesneg – ‘Mr Meredith Lloyd, ... a great collector of information about the Celtic languages, has sent me a list of Welsh words for my collection’. Gweithiodd i gydnabod dylanwad yr iaith Gymraeg, gan wrth-droi'r tueddiad o Saesnigeiddio, hyd yn oed i’r dwyrain o Glawdd Offa! Roedd gan Meredith Lloyd feistrolaeth gadarn ar yr iaith Gymraeg. Yn sicr, fe welir yn ei lythyrau ddisgrifiadau cywrain o dechnegau cymhleth, geirfa safonol, a llif rhyddiaith naturiol a chyfoethog. Roedd yn fardd adnabyddus, ac yn unol â’r traddodiad barddol, meddodd gymhwysedd fel achyddydd. Gweler isod englyn gan Phylip Griffith, cefnder a chyfaill, yn canmol meistrolaeth Meredith Lloyd o'r 'gerdd dafod': ‘M’redydd Llwyd glan wŷd glain nod pwy yn serch, pen saer y gerdd Dafod. Band odiaeth yn bennaeth bod,

Barddoniaeth Ebrwydd ynod.’ Mae’r farddoniaeth moliant o amgylch ei fywyd yn rhoi mynedfa wych i astudio statws Meredith Lloyd yn ei gymdeithas. Mae’n amlwg ei fod yn gymeriad o bwysigrwydd diwylliannol, heb sôn am ei gyfraniad deallusol. Yng nghanu Phylip Griffith, fe gyflwynir mawl sylweddol i lwyddiannau Meredith Lloyd: ‘M’redidd y kynydd mae kennyd yn rhwydd mewn rhoddiad deg hyfryd. Yn gariadus yn gredyd, Gymro gwych i Gymry i gyd.’ Yn amlwg felly, ymhlith cynulleidfaoedd Cymreig, cydnabuwyd Meredith Lloyd fel Cymro i’r carn. Mae llawysgrifau John Aubrey yn llawn cyfeiriadau at Meredith Lloyd, ac yn datgan yn glir ei fod wedi’i ddefnyddio fel ffynhonnell gwybodaeth ar faterion eang a chymhleth. O fewn ei ‘Brief Lives’, sef casgliad o fywgraffiadau ar unigolyn blaengar yr oes, crybwyllir y llawysgrifau alcemaidd ym mherchnogaeth ei gyfaill, gan ddweud, ‘Mr Meredith Lloyd, ...an able Chymist, who enformed his Majestie and Sir Robert Moray herin.’ Ni ellir gorbwysleisio arwyddocâd y datganiad uchod. Roedd yr Arglwydd Moray yn ffrind agos i Thomas Vaughan, ac yn un o gynghorwyr pwysicaf y Brenin Siarl II. Bu Moray hefyd yn allweddol yn sefydlu’r Gymdeithas Wyddonol Frenhinol yn 1660. Dangosai felly fod Meredith Lloyd wedi cymysgu â chylchoedd o bwysigion, boed yn aristocrataidd, neu o’r teulu brenhinol! Ac ef yn Frenhinwr pybyr, gallwn dybio y gwellhaodd ei sefyllfa gymdeithasol wedi

15


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 adferiad y Frenhiniaeth yn 1660. Yn wir, cawn gofnod ohono fel casglwr treth ‘firehearth’ yn Sir Drefaldwyn, tua 1655. Fodd bynnag, dirywiodd ei sefyllfa’n drychinebus erbyn 1667, oherwydd fe nodir mewn dogfennaeth lywodraethol – ‘Immediate extent ordered against …Meredith Lloyd, late Receiver of Hearth money for co. Montgomery, …now in the Sergeant’s hands, …and removed into the Fleet prison.’ Yn rhyfeddol, cafodd ddihangfa gwbl ‘Houdinaidd’, oherwydd ail apwyntiwyd ef yn gomisiynydd dros Sir Drefaldwyn yn ddiweddarach yn 1672, 1677 a 1679! Mae’n amlwg ei fod yn Gymro blaengar, oblegid ei astudiaethau ffilolegol, ieithyddol, cemegol, a’i ddiddordeb brwd yn y traddodiad prydyddol a llawysgrifau hynafiaethol. Pan glymwn y diddordebau hyn gyda’i ogwydd Hermetaidd, hawdd y buasai dychmygu y gwnaethpwyd cysylltiadau gydag un o brifysgolion y dydd. Yn anffodus, dichon mai tenau yw’r dystiolaeth am unrhyw addysg prifysgol ffurfiol. Gellir dadlau bod ei gyfeillgarwch agos gyda Thomas Vaughan, myfyriwr o Goleg yr Iesu, yn awgrymu eu bod wedi treulio amser gyda’i gilydd yn Rhydychen, cyn y Rhyfeloedd Cartref. Mae’n amlwg fod ganddo ffrindiau eraill wedi mynychu Prifysgol Rhydychen hefyd, gan gynnwys John Aubrey, a astudiodd yng Ngholeg y Drindod tua throad yr 1640’au. Mae’r cysylltiad yn amlygu’n ddiweddarach mewn llythyr gan John Aubrey at Anthony Wood, Prifathro Coleg Merton, dyddiedig 1673: ‘Meredith Lloyd hath written to you, and I hope will come and live at Oxon. Ll. Jenkins has invited him.’ Nid oes tystiolaeth bod Meredith Lloyd wedi cyrraedd Rhydychen yng nghyfnod Sir Leoline Jenkins fel Prifathro Coleg yr Iesu,

ond mae’n amlwg bod yr alwad yn dystiolaeth o’r gydnabyddiaeth eang a roddwyd iddo mewn maes dysg. Nid oes gennym wybodaeth dros ddyddiad marwolaeth Meredith Lloyd. Gwyddom ei fod yn dal yn fyw pan yrrodd Thomas Madox lythyr at Edward Lhuyd, dyddiedig 1691, oherwydd dywedir ‘I have, since ...talkt with Mr. Meredith Lloyde.’ Erbyn y flwyddyn hon, buasai’n saithdeg a thri blwydd oed. Gyda’r disgwyliad oes yn llawer is, buan, y mae’n debyg, y bu farw Meredith Lloyd. Ceir y cyfeiriad hanesyddol olaf ato mewn llythyr a ysgrifennwyd yn 1701 gan Edward Lhuyd ‘there was of late years one Bedo, or Mredydh Lhwyd, at the Charter House who had ye character of being somewhat of a Welsh antiquary'n.’ Erbyn hyn, roedd Meredith Lloyd mewn sefyllfa fregus yn ariannol, ac wedi’i dderbyn i’r Charterhouse yn Llundain, sef cartref pensiynwyr i ‘gentlemen by descent and in poverty.’ Fodd bynnag, gwelir hefyd agwedd ddychanol tuag ato. Mae defnydd y llysenw ‘Bedo’ yn cyfleu’r bychanu o’i alluoedd. Ymddengys, erbyn hyn, fod y genhedlaeth newydd ddim yn sylweddoli gwerth cyfraniad Meredith Lloyd. Pa bynnag ei amryw dalentau, dechreuwn weld ei enw’n diflannu o’r cof hanesyddol. Bu Meredith Lloyd, y ‘dyn hysbys’, yn dyst i fywyd hynod liwgar ac anturus; bu’n byw mewn canrif gwbl gythryblus, a bu’n gysylltiedig gyda throbwyntiau mwyaf y cyfnod, gan gynnwys y Rhyfeloedd Cartref, teyrnasiad Cromwell, ag adferiad brenhinol y Stiwartiaid. Profodd fywyd hynod amryddawn, a bu’n sicr yn un o ddynion deallusol yr ail ganrif ar bymtheg. Pwysleisia Dr Nesta Lloyd, yr hanesydd, gyfraniad y deallusion hyn, megis Meredith

16


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 Lloyd, dros amddiffyn y traddodiad Cymreig yn erbyn llid llanw’r cyfnod – ‘nawdd i fardd a pharch i ddysg yn pallu a gwelwyd dirywiad ar ei hacraf o bosibl, yn y dinistrio bwriadol ar lawysgrifau a oedd yn un o nodweddion tristaf y Rhyfel Cartref. …Nid oedd dim yn amgylchiadau’r oes i awgrymu y byddai’r ddysg draddodiadol Gymraeg … yn goroesi lawer yn hwy.’ Heb ddiystyru ei ddiddordebau eraill, rhaid cydnabod cyfraniad Meredith Lloyd, a’i gyfoedion, yn hel ac amddiffyn llawysgrifau pwysicaf ein cenedl. Trwy eu harbenigedd diwylliedig, gwladgarwch diysgog, a’u haelioni mawr yn amddiffyn ein trysorau ysgrifenedig, gallwn ni heddiw, fwynhau ffrwyth diwylliant cyfoethog.

G. Southcombe a G. Tapsell, Restoration Politics, Religion, and Culture: Britain and Ireland, 1500-1700 M. Walker, Architects and Intellectual Culture in Post-Restoration England K. Wrightson, English Society, 1580-1680

Osian Prys Elis Coleg yr Iesu Llyfryddiaeth: A. Clark (ed), ‘Brief Lives’, Chiefly of Contemporaries, 2il gyfrol P. Crawford a S. Mendelson, Women in Early Modern England, 1550-1720 M. Dimmock, The Intellectual Culture of the English Country House, 1500-1700 J. G. Jones, Early Modern Wales, c. 15251640 N. Lloyd, ‘Meredith Lloyd’, Cylchgrawn Gymdeithas Lyfryddol Gymreig, cyfrol rhif 3-4 (1975-76) A. Lovel, Practical Rule of Christian Piety J. C. Morrice, Wales in the Seventeenth Century: Its Literature and Men of Letters and Action. M. Roberts a S. Clarke, Women and Gender in Early Modern Wales D. Scott, Politics and War in the Three Stuart Kingdoms, 1637-49 D. Smith, A History of the Modern British Isles, 1603-1707: The Double Crown.

17


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018

Band Cymru: Poblogrwydd y Bandiau Pres Ym mis Ebrill, bu rownd derfynol Band Cymru, lle’r oedd bandiau pres, chwyth a jas yn cystadlu ar S4C, gyda Cory yn ennill am yr ail dro (y tro cyntaf yn y gystadleuaeth gyntaf yn 2014). Gan nad yw cystadlaethau bandiau pres yn arfer cael eu darlledu ar y teledu, mae llwyddiant Band Cymru, sydd erbyn hyn wedi digwydd tair gwaith, yn addawol iawn ar gyfer byd y bandiau. Ers blynyddoedd yn awr, dioddef oedd stori’r bandiau pres, gyda chyllid ar gyfer addysg gerddorol yn mynd yn llai o hyd, ac ers i’r pyllau glo gau, nid oedd yr un fath o gymuned ar gael i’r bandiau godi ohono. Er hyn, goroesodd y bandiau pres, ac yng Nghymru mae dau o’r bandiau gorau yn y byd. Band Cory Ar sawl gwefan, mae rhestr o’r bandiau gorau yn y byd, gyda system pwyntiau yn penderfynu ar eu safle. Mae Band Cory yn gyntaf, ers sawl blwyddyn yn awr, ar y rhan fwyaf o’r rhain, gyda Band Tredegar wedi ei leoli rhwng nawfed a phumed ym mhob un. Felly rhaid gofyn, ai Band Cymru yw Cory, neu fand y byd? Gallwn edrych ar rai o’r canlyniadau ym myd bandiau pres Prydain ac Ewrop, i weld pa mor gywir yw’r rhestrau hyn, neu a yw’r system pwyntiau yn ffafrio bandiau Cymru. Yn 2018, nid yw Cory wedi bod yn gwbl llwyddiannus, er iddyn nhw ennill Band Cymru, a’r gystadleuaeth ‘ranbarthol’, er mwyn cymryd rhan ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Cenedlaethol Prydain, a chynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Ewrop 2019. Ym mis Mai, bu Pencampwriaeth Ewrop 2018, lle daeth Cory yn ail, i fand Valaisia o’r Swistir. Yn

ogystal â hyn, yn 2017, ni enillodd Cory unrhyw un o’r pedair prif gystadleuaeth gan ddod yn drydydd ym Mhencampwriaeth Genedlaethol Prydain, y ‘British Open’, a Phencampwriaeth Ewrop, ac yn bedwerydd yn ‘Brass in Concert’. Felly, gellir casglu nad yw’r safleoedd yn golygu llawer, gan mai trydydd yw’r safle uchaf iddynt gyrraedd mewn blwyddyn. Fodd bynnag, mae’n rhaid edrych yn ôl ymhellach i ddeall hyn. Yn 2016, bu Cory yn fuddugol ym mhob un o’r pedair prif bencampwriaeth, rhywbeth sydd erioed wedi cael ei gyflawni gan unrhyw fand arall, er iddynt ddod yn ail yn y gystadleuaeth ranbarthol. Wrth wneud hyn, yn amlwg bu iddynt fynd ymhell ar y blaen gyda phwyntiau, gan sefydlu eu lle fel band gorau’r byd (a Chymru, a Phrydain, ac Ewrop!). Rhaid felly ystyried beth yw gwerth y canlyniadau hyn a ddigwyddodd bron i ddwy flynedd yn ôl, o’u cymharu â chanlyniadau 2017 a 2018, lle y gellir dadlau mai Valaisia ddylai gael y safle cyntaf, gan iddynt ennill y bencampwriaeth genedlaethol yn y Swistir, yn ogystal â’r bencampwriaeth Ewropeaidd, a’r British Open. O gymharu canlyniadau’r ddau fand felly, gwelwn fod angen bod ar, neu yn agos at, y brig am amser hir yn gyson. Oherwydd hyn, mae Cory ymhell o flaen gweddill y bandiau, er bod yr ail safle yn newid yn aml. Traddodiad y Bandiau Pres Cymru a gogledd Lloegr yw cynefin naturiol y bandiau pres, gyda’r traddodiad yn un sydd wedi ei gysylltu’n agos â’r pyllau glo a’r chwareli. Yn aml, byddai band cyfan o’r un pwll - y ‘colliery bands,’ yn cynnwys yr enwog ‘Grimethorpe Colliery Band,’ a oedd yn chwarae yn y ffilm ‘Brassed Off.’ Oherwydd hyn, mae’r bandiau pres yn gysylltiedig â’r dosbarth

18


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 gweithiol, er nad yw hyn yn hollol wir erbyn hyn, gyda’r bandiau’n dod yn fwy poblogaidd, ac felly yn denu pobl o bob cefndir i chwarae offerynnau neu wrando. Er hyn, gan fod y stigma hwn o fod yn draddodiad dosbarth gweithiol, nid yw’r bandiau mor gryf yn ne Lloegr. Bandiau ym Mhrifysgol Rhydychen Nid oes llawer o ofyn am fandiau pres ym Mhrifysgol Rhydychen ac mae’n ddiddorol gweld pa mor wahanol yw’r cymysgedd o bobl ym mand y brifysgol, o’i gymharu â’r ystadegau am gefndir y myfyrwyr ar draws y brifysgol, sydd gan amlaf yn dangos bod llawer o dde Lloegr ac wedi bod i ysgolion annibynnol. Yn y band pres, mae hyn yn hollol wahanol. Mae canran o’r band sydd o Gymru, Gogledd Lloegr, ac ysgolion y wladwriaeth yn eithriadol o uchel o’i gymharu â’r rhai ar draws y brifysgol, gan ddangos nad yw’r datblygiad hwn o fod yn weithgaredd i’r dosbarth gweithiol, i fod yn weithgaredd i bawb, wedi cyrraedd de Lloegr, lle mae cerddoriaeth gerddorfaol dal yn teyrnasu.

neu gerddorfa. Yn ffodus, mae sawl band erbyn hyn yn cynnig lle i bobl o bob oedran i ddysgu canu offerynnau pres, heb fod angen unrhyw brofiad o’r blaen. Yn aml maent hefyd yn darparu offerynnau, gan leihau’r gost ar yr addysg gerddorol hon. Gwaith fel hyn, sy’n cael ei wneud gan wirfoddolwyr yw dyfodol y bandiau pres, ac er mwyn iddyn nhw weithio, rhaid cael cystadlaethau fel Band Cymru. Wrth ddangos y bandiau gorau yng Nghymru (ac felly, yn y byd) ar y teledu, mae’n bosib ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gerddorion, a chadw’r traddodiad yn fyw. Gwyndaf Oliver Coleg Magdalen

Dyfodol y Bandiau Pres Er bod poblogrwydd y bandiau yn tyfu, nid yw’n symud ymhell o’r llefydd yr oedd yn gryf ers y dechrau, ac felly mae dyfodol y traddodiad Prydeinig hwn mewn perygl. Wrth i’r pyllau gau, collwyd llawer o fandiau, gan nad oedd yr arian ar gael yn yr ardal i gadw’r band, ac roedd y di-waith yn gwerthu offerynnau er mwyn medru bwyta. Goroesodd y traddodiad yn yr amser anodd hwn. Yn awr, mae perygl newydd i fandiau pres, ac i gerddoriaeth o bob math, sef toriadau i gyllid addysg gerddorol. Wrth i’r llywodraeth leihau’r cyllid hwn yn arw o flwyddyn i flwyddyn, mae’n mynd yn anoddach i blant a phobl ifanc ddysgu i ganu offerynnau, ac yna dod yn rhan o fand

19


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018

Wenglish: Dwyieithrwydd Cymru heddiw a’r Oesoedd Canol Diweddar Wenglish. Gair sy’n cwmpasu sawl agwedd ar gymysgu’r Saesneg a’r Gymraeg. Canu geiriau Welsh ar alaw English, neu i’r gwrthwyneb. Enghraifft glasurol yw sut mae’n bosib rhedeg berf Saesneg fel petai yn un Gymraeg: “fi’n getto fe” (‘I get it), neu fynegi meddiant yn Gymraeg gair am air fel y Saesneg ‘(mae) fi’n cael’ (‘I have’), yn hytrach na’r ffurf Geltaidd ‘mae gen i...’ (‘there is...with me’). Dyma air hyll ar un olwg: cyhuddiad athro neu gwyn plismon iaith. Gwraidd y dicter yn y term yw’r ffaith fod dynwarediad geirfa neu gystrawen (calquing) mewn cyddestun iaith leiafrifol yn medru bod yn arwydd o lygredd neu farweidd-dra iaith (language moribundity), ac felly’n symbol o ddirywiad safon ac urddas y Gymraeg wrth iddi gael ei llyncu gan Saesneg. Ond tybed a oes gan y term ystyr amgen? Oherwydd, heb os, mae plethu’r ddwy iaith yn rhan annatod o’n Cymraeg llafar ni erbyn heddiw, ac fel y gwelwn isod, roedd hi’n ffenomen ieithyddol gyffredin i Gymraeg yr Oesoedd Canol hefyd. Sgwn i, felly, a all persbectif positif weld Wenglish nid yn unig fel llygredd anymwybodol ond hefyd fel plethu bwriadol sy’n destimoni i ddawn a hyblygrwydd ymennydd dwyieithog unigolyn? I archwilio’r mater, cymrwn gipolwg ar ambell gerdd sy’n perthyn i’r math hwn o Wenglish athrylithgar. Yn y lle cyntaf, cofiwn fod defnyddio geiriau un iaith mewn iaith arall yn naturiol i bob iaith dan haul – gan gynnwys

Saesneg. Ecsploetio hwn a wna Aled Lewis Evans yn ei gerdd ddigri ‘Over the Llestri’; profa fod defnydd o’r Saesneg yn y Gymraeg yn digwydd i’r gwrthwyneb hefyd. Yma, cawn lais disgybl ysgol yn siarad gyda’i ffrindiau yn Saesneg, a mentraf ddweud bod y llinellau cymysg fel “I’ve got to go to the Swyddfa / to fill a ffurflen hwyr” yn atgoffa nifer o aelodau’r Dafydd o atsain coridorau eu hysgolion uwchradd. Er mai adlewyrchu ieithwedd sgwrsio gyffredin a wna’r bardd, mae’r ffaith iddo gyfansoddi pleth ieithyddol yn dangos bywiogrwydd ei ymennydd dwyieithog. Yn ail, yn 2014, enillodd Ceri Wyn Jones y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli gyda’r awdl ‘Lloches’. Ei arwyddocâd i ni yma yw ei fod yn llawn llinellau meistrolgar sy’n priodi’r Gymraeg a’r Saesneg, a’r tro hwn fe’i gwna drwy’r dull Cymraeg unigryw hwnnw, y gynghanedd. Dilynwn gymeriad ar drywydd hunaniaeth ei filltir sgwâr, Aberteifi, ac egyr y ffilm o gerdd hon mewn tafarn lle mae’r Cymro lleol a dieithryn meddw yn disgwyl am beint: Dou yn stond yn eu standoff ‘I was here first, so eff off!’ ‘Will you shut up, you Welsh twat, or I –’ ac mae’n troi’n reiat... Wenglish bwriadol o’r dechrau oll, ond gan glecian cynghanedd y tro hwn: croes o gyswllt ddwyieithog i agor, a chynghanedd draws Saesneg i ddilyn. Yn wir, prif gwyn Alan Llwyd, un o feirniaid y gystadleuaeth, oedd bod y defnydd, neu’r gorddefnydd, o’r Saesneg yn “gwbl anfoddhaol”, ac mai dim byd ond “ymarferiad geiriol” oedd y

20


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 rheswm drosto.1 Nid beirniad llenyddol ydw i, ond cytunaf fod cynganeddu – twrio’r ymennydd am y geiriau perffaith yn unol â synnwyr y neges, sain y llinell, a rheolau Cerdd Dafod – mewn unrhyw iaith yn ymarferiad geiriol, ac yn ymarferiad geiriol ac ieithyddol heb ei ail at hynny; un all brofi rhuglder, hyder, a dyfeisgarwch unigolyn. Ac yn ail, noder hefyd, fel sy’n wir am y ddwy gerdd uchod, bod llwyddiant gwehyddu dwyieithog fel hyn yn dibynnu ar gynulleidfa ddwyieithog hefyd.

Unwaith eto, egin-gynghanedd groes sy’n agor yr englyn gyntaf, a chawn lusg yn y drydedd linell. Nodwedd hudolus ychwanegol y gerdd hon yw sut y treiddia’r Wenglish i’r orgraff hefyd. Defnyddia’r bardd ymennydd Cymreig wrth sillafu yn Saesneg, e.e. “yntw ddy ffest” am ‘unto the feast’. Galwa hwn i gof sut y mae’r steil chwareus hwn yn parhau’n boblogaidd heddiw, e.e. ymateb Hedd Gwynfor ar twitter i’r pwnc tanllyd ‘Despite Being Taught In Welsh’: “Ai'm feri gwd at speling in Inglish. #DispaitBîingTôtInWelsh”.3

Os yw cynganeddu yn Saesneg yn dangos sgil bardd dwyieithog yn ogystal â lefel cyfatebol o ddwyieithrwydd ymysg y gynulleidfa, beth yw goblygiadau’r ffaith nad Ceri Wyn Jones oedd y cyntaf i’w wneud, a bod gwreiddiau’r ffenomen ieithyddol hon i’w canfod yn yr Oesoedd Canol? Rhaid dychwelyd i’r flwyddyn 1470 ac i ddinas y Dafydd, Rhydychen, i ganfod un o enghreifftiau cynharaf y gamp, ‘Hymn to the Virgin’. Dyma awdl fer yn cyfarch Crist drwy’r Forwyn Fair gan Ieuan ap Hywel Swrdwal (bl. 1436-70), y bardd Eingl-Gymreig cyntaf yn ôl rhai:2

Yn agosach at ddefnydd Ceri Wyn Jones o ddwyieithrwydd yw’r ‘Ymddiddan Rhwng Cymro a Saesnes’ a briodolir i Tudur Penllyn (bl. 1420-90). Yn y cywydd doniol hwn, dyma’r bardd yn ceisio denu Saesnes anfodlon, gan fanteisio ar y diffyg dealltwriaeth ieithyddol rhwng y ddau i ddibenion digrifwch:

Saesneg Canol (Sillafu Cymraeg) O michti ladi, owr leding - tw haf at hefn owr abeiding: yntw ddy ffest efrlesting i set a braents ws tw bring. Saesneg Modern O, mighty lady, our leading - to have at heaven our abiding: to bring us unto the everlasting feast ye planted a branch. 1

Hughes, J. E. (gol.), Cyfansoddiadau a Beierniadaethau, (Llandysul: Gwasg Gomer, 2014). 2 Evans, D. F. (gol.), Gwaith Hywel Swrdwal a'i Deulu, (Aberystwyth, 2000).

‘Na fydd ddig, Seisnig Saesnes, yn war gad ddyfod yn nes.’ ‘By the rode I'll make the blodei, anon I wyle plucke oute thyn ei.’ Eto fyth, mae cyfansoddi deialog chwareus rhwng y ddwy iaith yn gofyn am afael hyderus arnynt, a thra gall gynulleidfa ‘Hymn to the Virgin’ fod yn uniaith Saesneg, fel y gwelsom yn y cerddi modern uchod, allwedd ddeublyg dwyieithrwydd yn unig allai ddatgloi’r ystyr a’r doniolwch yng ngherdd Tudur Penllyn gan awgrymu bod gan gynulleidfa ei gerdd ef ddealltwriaeth ieithyddol gyfatebol.

3

Gwynfor, H., (@heddgwynfor): https://twitter.com/heddgwynfor/status/690900153 146957825 (23/01/16).

21


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 Felly, pa mor gyffredin oedd hi i fod yn ddwyieithog yng Nghymru’r 15fed G? Ar y naill law, roedd Saesneg eisoes wedi tyfu i fod yn famiaith naturiol i nifer o drigolion ardaloedd dinesig Cymru a’r gororau erbyn hynny, ac ar y llall, canai beirdd Cymraeg fel Owain ab Llywelyn ab y Moel (bl. 14701500) i noddwyr ar bob ochr Clawdd Offa; felly digon posib y bu sawl un yn rhugl yn y ddwy.4 At hynny, cofiwn fod Cymru wedi bod yn wlad amlieithog ar hyd y canrifoedd. Bu trefedigaethau Gwyddelig a Llychlynnaidd yma, a Ffrangeg Normanaidd a Lladin oedd ieithoedd gweinyddol y wlad am ganrifoedd. Gwyddwn hefyd yr oedd tywysog Gwynedd y 12fed G, Gruffydd ap Cynan, yn medru sawl iaith, ac mae’n rhaid y bu Owain Cyfeiliog yn hyderus yn ei Ffrangeg er mwyn dwrdio Brenin Harri II yn Amwythig fel y gwnaeth.5 Ai’r beirdd uchod oedd yr unig ieithwyr cymwys i farddoni yn Saesneg a Chymraeg? A beth am ieithoedd eraill y wlad? A beth am ieithoedd mwy diweddar fel iaith Sipsiwn y 18fed G, neu Bwyleg, Urdu a Chantoneg Cymru heddiw? A beth oedd rôl cyfieithwyr? Mae gwaith twrio i’w wneud... Llewelyn Hopwood Coleg yr Iesu

4

Smith, Ll. B., ‘The Welsh and English Languages in Late-Medieval Wales’, yn Trotter, D. A. (ed.) Multilingualism in Later Medieval Britain (Cambridge: D. S. Brewer, 2000). p. 7. 5 Russel, P., ‘Externarum linguarum excellens: The Rhetoric and Reality of the Languages of Gruffudd

ap Cynan, Ruler of Gwynedd († 1137)’ yn Putter, A., a Jefferson, J. (eds.), Multilingualism in Medieval Britain (c. 1066-1520): Sources and Analysis (Turnhout: Brepols, 2013).

22


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018

‘What language, / Life? Oh, what language?’: R.S. Thomas a’r Cwestiwn Iaith ‘What language, / Life? Oh, what language?’, gofynna’r bardd R.S. Thomas yn ei gerdd ‘Sarn Rhiw’ (Experimenting). Ni ddisgwylais orfod holi’r union gwestiwn i mi fy hun wrth ddychwelyd i fy hen ysgol uwchradd i siarad â disgyblion y chweched dosbarth yn ddiweddar, am y profiad o astudio yn y brifysgol. Fel myfyriwr o Gymru yn astudio Saesneg mewn prifysgol yn Lloegr, fe allai’r cwestiwn a hola R.S. fod yn un lletchwith i’w wynebu, cyn meddwl am ei ateb. Wrth ddychwelyd i’r ysgol, cefais fy siomi ar yr ochr orau wrth glywed bod pob un o ryw bymtheg o ddisgyblion y siaradais â nhw am ymgeisio i astudio yn un o brifysglion Cymru, a thua thraean ohonynt eisiau astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth sylwi nad oedd fy mhrofiad prifysgol i yn hynod o berthnasol i’r mwyafrif ohonynt (o leiaf ran byw ymhellach o gartref, ac astudio mewn iaith wahanol i’r arfer) fe wnes i o ddifri gwestiynu yr agwedd yr oedd gennym tuag at ddyfodol addysg yng Nghymru: y teimlad o ddyletswydd i geisio annog mwy o ddisgyblion o Gymru i geisio am brifysgolion fel Rhydychen. Fe wnaeth y profiad fy annog i ailymweld â’r un cwestiwn a hola R.S.: pa iaith? Ai Rhydychen yw’r lle i wella sefyllfa bresennol a dyfodol y wlad, ac i gryfhau ein llais cenedlaethol? Pa hawl sydd gen i i annog disgyblion i symud o Gymru?

1

Brown, t. 182. Tony Brown, ‘“On the Screen of Eternity”: Some Aspects of R.S. Thomas’s Prose’ (1988), yn 2

Teimlai R.S., fel nifer o Gymry eraill cyn ac ers ei gyfnod ef, yn gryf bod dyfodol y wlad a hunaniaeth Cymru yn ddibynnol ar oresgyniad yr iaith Gymraeg. Ond mae ei berthynas ef â’r iaith yn un sydd yn lliwio ei gerddi mewn ffordd hynod bwerus. Fe ysgrifennodd mewn un traethawd ym 1958, ‘heb allwedd yr iaith Gymraeg mae’n rhaid i bawb a phob un gamu heibio’r drws sy’n agor ar Gymru wir’; heb yr iaith, meddai ef, mae’r unigolyn yn parhau i fod ‘yn ddyn dieithr’ yng Nghymru.1 Wrth siarad â disgyblion y chweched, deallais y math o euogrwydd a fynega R.S. yma, ac yn gyson yn ei waith. Ni ddysgodd R.S. yr iaith Gymraeg cyn ei ddegfed blwyddyn ar hugain; yn hyn o beth y mae R.S. yn unigryw ymysg beirdd EinglGymreig tebyg yn yr ugeinfed ganrif, megis David Jones, Vernon Watkins a Dylan Thomas, gan nad oedd y posibilrwydd o ysgrifennu yn y Gymraeg ar gael iddynt (er bod eu barddoniaeth yn aml yn gwneud defnydd o elfennau cerddorol a chynganeddol yr iaith). Teimlai R.S., felly, fel petai unrhyw ymdrech i ysgrifennu barddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn annigonol, ac yn dirywio safon y gerdd a’r iaith, yn ogystal â dieithrio cynulleidfa Saesneg, ac yn cyfyngu ar raddfa ei lwyddiant fel bardd (amlinellwyd ei agwedd a’i bryderon am ysgrifennu yn y Gymraeg, a’i euogrwydd cyfamserol at ysgrifennu yn Saesneg, yn ei draethodau ‘Hunanladdiad y Llenor’ (1977) a ‘Pe medrwn yr iaith’ (1980)).2 Ar wahân i un gerdd Gymraeg ym 1970, ni ysgrifennodd air o farddoniaeth yn yr iaith, er ei fod wedi Critical Writings on R.S. Thomas, golygwyd gan Sandra Astley (Seren Books, 1992), 182-201, (t. 184).

23


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 cyfansoddi dros ddeg ar hugain o draethodau, llythyron, darlithoedd a sermonïau trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod ei fywyd. Mae’r ffaith hon yn sbarduno nifer o gwestiynau diddorol am y berthynas rhwng iaith a barddoniaeth, rhwng barddoniaeth a rhyddiaith; ond yn y traethawd hwn, mae gen i ddiddordeb penodol yn y cwestiwn mwyaf difrifol, ac efallai yn bersonol, i ni fel Cymry sy’n astudio mewn prifysgol yn Lloegr: beth yw, neu beth ddylai fod, y berthynas rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, ac i ba raddau caiff y berthynas hon effaith ar yr wlad rydym yn deillio ohoni? Mae R.S. yn fardd oedd yn enwog am ofyn cwestiynau caled: i’r Cymry, cwestiynau sydd yn torri yn agos iawn at yr asgwrn, am ein hiaith, natur ein Cymreictod, ac ein perthynas gyda’n hanes a’n cyd-wladwyr: I have walked the shore For an hour and seen the English Scavenging among the remains Of our culture, covering the sand Like the tide and, with the roughness Of the tide, elbowing our language Into the grave we have dug for it (‘Reservoirs’). Mae’r llinellau yn hynod bwerus gan iddynt fod wedi’u hysgrifennu mewn Saesneg; mae’n bosib datgelu ei siom bersonol wrth ysgrifennu yn yr iaith fwyaf cyffredin iddo, a’i ymwybyddiaeth ei hun ei fod yn cyfrannu at gladdu’r iaith. Mae mesur y gerdd yn creu naws anghyfforddus, a phob llinell yn teimlo fel ergyd arall i mewn i fedd dyfnach. Mae’r ddelwedd a gyflëir yn anghyfforddus hefyd: nid yw’r syniad o’r llanw yn llifo dros dywod yn un hynod o arw, ond yn hytrach yn rhywbeth naturiol a

chyson. Mae’n ddisgrifiad anisgwyl sydd yn cymhlethu lle i gyfeirio’r bai am farwolaeth yr iaith ym mhen y bardd, gan awgrymu ei fod yn rhy hawdd, hyd yn oed yn llwfr, i roi’r bai ar Loegr yn unig am gyflwr yr iaith. I Gristnogion, hefyd, fe holodd yn ddi-ofn am drafferthion siarad â Duw, Duw sydd yn aml ond yn bresennol trwy ei absenoldeb: ‘In summer, waiting for the God / To speak; the air a staircase / For silence’, ysgrifennai yn ‘Kneeling’: Prompt me, God; But not yet. When I speak, Though it be you who speak Through me, something is lost. The meaning is in the waiting. Mae ei berthynas â Duw absennol yn debyg i’w berthynas gyda’i gydwladwyr a’u hiaith, a’r Cymru coll y mae ef yn eu darlunio yn ei farddoniaeth. Mae distawrwydd yn elfen hanfodol o gerddi R.S.—distawrwydd cenedl sydd yn parhau i sefyll ‘ar erchwyn y dibyn’. Mae Cymru yn bodoli yn ei gerddi trwy absenoldeb yn yr un ffordd ag y mae ei Dduw. Mae’r llinellau uchod yn amlinellu ei berthynas â’r iaith Gymraeg: ‘When I speak, […] something is lost’. Pwysleisia hyn ei bryder am ei ddefnydd o’r Gymraeg, ac am drafferthion a chymhlethdod cyfathrebu gyda phobl yn gyffredinol. Serch hyn, mae’r tawelwch hwn yn aml yn bodoli ymysg ffrwydrad o sŵn byddarol. Fel is-deitl ei gerdd ‘Those Others’ mae llinellau o gerdd Dewi Emrys: ‘A gofid gwerin gyfan / Yn fy nghri fel taerni tân’. Cyfeiriai R.S. at y ddelwedd yma o floeddio i ddarlledu ‘gofid gwerin gyfan’, ond yn cyfleu ei anallu ei hun a’i genedl i leisio eu 24


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 gofidion. Mae lleisiau ei gerddi yn fud, dilais: I see the wise man With his mouth open shouting Inaudibly on this side of the abyss (‘Eheu! Fugaces!’, The Way of It) Mae’r bardd yn distewi’r floedd sydd yn barod wedi cychwyn yn nychymyg y darllenwr wrth iddo oferu’r llinell. Mae llais y dyn doeth yn hanner bloedd, hanner tawelwch; ymgais i gadw llais y dyfodol yn fyw, ond hefyd yr anallu i’w wneud. Mae’r llinellau yn awgrymu rhywbeth digyswllt, amwys: mae’r ‘abyss’ yn gwahanu’r bardd a’r dyn doeth oddi wrth rywbeth, ond ni ellir gweld beth. Ysgrifenna R. George Thomas am y syniad hwn o ‘wahanu dwy genedl’ ym marddoniaeth R.S., ac fe all y gwrthgyferbyniad rhwng sŵn a distawrwydd symboleiddio, o bosib, y gwagle dieithr a welodd R.S. rhwng Cymru a Lloegr.3 Yn sicr, mae’r teimlad hwn yng nghanol y gerdd ‘A Welshman in St. James’s Park’: I fumble In the pocket’s emptiness; my ticket Was in two pieces. I kept half. Ydy’r R.S hwn yn awgrymu bod angen gwneud dewis rhwng dau hanner y tocyn? Nid yw mor syml â hynny. Efallai ei bod hi’n ffaith gyfleus nad yw R.S. yn datgelu pa ochr i’r tocyn mae ef yn ei gadw. Mae hyn yn fanylyn arwyddocaol sy’n awgrymu nad yw’r fath wahaniaeth, rhwng y Gymru ddelfrydol a gweddill y byd Saesneg, yn bosib, yn enwedig i fardd fel R.S. sydd yn ddibynnol ar y ddwy wlad a’r ddwy iaith.

Ond efallai fod y llinellau hefyd yn cyfleu’r gwacter rhwng y gorffennol a’r presennol, y presennol a’r dyfodol, a lle saif Cymru ymysg hyn â gweddill y byd. Mae R.S. yn trafferthu gyda’r cwestiwn iaith a’n dyletswydd tuag ati. Mae ei bortread o iaith yn ei gerddi yn un o gymhlethdod, dieithriad, ac o fethiannau dibaid. Teimlaf fod R.S. yn pryderu am yr un cwestiynau sydd o bwys i ni heddiw: sut mae modd cydbwyso defnydd yr iaith Gymraeg â chyfraniad tuag at weddill Prydain a’r byd, heb esgeuluso’r iaith a’n hunaniaeth? Mae’r cylchgrawn hwn yn un enghraifft pwerus a phwysig: mae’n fodd o gynnal y cydbwysedd hwn trwy ddarparu a dilysu trafodaethau academaidd yn yr iaith Gymraeg yn Rhydychen. Mae hi’n un enghraifft o eraill di-ri, o sut mae cymdeithasau o Gymry yn cadw’r iaith a’r hunaniaeth yn fyw hyd yn oed ymhell o’r wlad. Ac os ydyn ni fel Cymry yn bwriadu dychwelyd i’r wlad neu beidio; yn bwriadu magu plant y dyfodol yno, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, neu beidio; mae’r cwestiwn o sut mae Cymru—ei chymdeithas a’i hiaith—yn cael ei heffeithio, yn un pwysig ac yn un gwerth ei ofyn. Fel y gofynna R.S.: ‘When spring wakens the hearts / Of the young children to sing, what song shall be theirs?’ Rhys Underdown Coleg Balliol

3

R. George Thomas, ‘Humanus Sum: A Second Look at R.S. Thomas’ (1970), yn Critical Writings on R.S. Thomas, 19-29 (t. 25).

25


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018

Portread o R.S. Thomas gan Shauna Leigh Brown, Coleg Regent’s Park

26


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018

Beirniadaeth Rhyddiaith Roedd hon yn gystadleuaeth gref gyda nifer fawr o ymgeisiau; 26 i gyd. Y rhyddiaith ddwywaith yn fwy poblogaidd na’r farddoniaeth felly — sgwn i pam? Tybed a yw pobl yn teimlo ei bod yn haws cyfansoddi rhyddiaith? Ai gwaith cwrs Lefel A Cymraeg sy’n dylanwadu? Yn sicr, roedd blas y cwrs ar sawl un o’r darnau, o ran teitlau, ffurf a themâu. Nid nad oes ots am hynny, a phob un o’r darnau yn dangos dawn ysgrifennu a chrebwyll gwirioneddol. Yn gyffredinol, cefais fy synnu gan aeddfedrwydd y mynegiant, dyfeisgarwch a chreadigrwydd y darnau, a gallu pob awdur hefyd i drin iaith yn ddeheuig. Efallai ar brydiau fod rhai o’r themâu a’r sefyllfaoedd yn rhai treuliedig, a thrwm — deuthum ar draws cryn nifer o straeon am feichiogrwydd yn yr arddegau, trais yn y cartref, galar, a rhyfel yn ei amryfal ffurfiau. O’r herwydd, roedd unrhyw arlliw o hiwmor neu ysgafnder yn teimlo fel chwa o awyr iach. Yn gyffredinol, byddwn i’n argymell i’r awduron geisio bod ychydig yn fwy ymatalgar rhag i’r dramatig ymylu ar y melodramatig, a rhag i deimladrwydd droi yn sentiment. Byddai meddwl rhagor am amrywio ffurf yn gallu bod yn fanteisiol hefyd; roedd nifer fawr iawn o’r darnau yn fath ar fonologau, neu’n ymsonau wedi’u cyfeirio at unigolyn di-lais. Mae i’r llais person cyntaf hwn ei fanteision, wrth gwrs, ond ei anfanteision hefyd: all y person arall ddim ateb 'nôl, felly un ochor o unrhyw stori a gawn. Does dim llawer o gyfle chwaith am ddeialog, ac mae’r ymadroddi yn gallu tueddu at y gorddramatig a theatrig yn aml ar y ffurf hon.

Wedi dweud hyn oll, fe’i cefais yn anodd iawn gosod unrhyw un yn y trydydd dosbarth! Pe bai raid dewis, efallai mai gyda’r isod y dechreuwn, er bod ynddyn nhw lawer o rinweddau. Dyma air byr am bob un, heb fod o reidrwydd mewn trefn lem o ran teilyngdod. Dosbarth 3 Gan Durwen (2) cawsom ddyddiadur sy’n dechrau’n llawen ar ddiwrnod priodas. Ond buan y mae’r berthynas yn chwerwi, a’r gŵr yn troi’n greulon a threisgar. Yr unig achubiaeth i’r wraig yw’r babi yn ei chroth. Cawn ein taflu i ganol y tywyllwch hwn heb fawr reswm na datblygiad, a gan nad ydym yn gwybod fawr ddim am y ddau, anodd yw gallu cyd-deimlo’r boen i’r byw. Gan Lili Wen y cawsom unig ddarn mynegi barn y gystadleuaeth, yn trafod y tyndra mawr hwnnw rhwng cymdeithas grefyddol a chymdeithas seciwlar. Er bod yr awdur wedi gwneud llawer o ymchwil trylwyr, cyflwynodd ddwy ochr y ddadl i ni ar wahân, a’r ddwy ochr yn swnio’r un mor unllygeidiog â’i gilydd. Byddai cyfosod a chymharu rhai o’r dadleuon yn galluogi’r awdur i lunio rhyw fath o gasgliad soffistigedig. Mae Bro Arlais yn sicr yn awdur crefftus a thelynegol, sy’n gallu trin rhythm a miwsig brawddeg yn fedrus, a chreu tameidiau da o ddeialog hefyd. Mae yma oreiriogrwydd a gor-deimladrwydd ar brydiau, ac er mor gryf yw’r ymdeimlad o dristwch wrth i’r ferch golli ei hiaith, byddai mwy o gymhlethdod a datlygu cymeriadau yn cyfoethogi’r darlun. Hen ŵr sydd gan y Ladi Wen, yn marw’n araf o Alzheimer’s mewn cartref gofal ac yn edrych yn ôl ar hapusrwydd ei

27


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 blentyndod, a’r galar o golli ei wraig. Mae yma ysgrifennu digon medrus ar adegau, ond eto yma does yna fawr o ddatblygiad na stori, dim ond pentyrru tristwch ar ben tristwch. Tywyllwch llwyr sydd yn stori Durwen (1) wrth i ferch ysgol gael ei threisio’n rheolaidd gan ei llysdad. Mae yma fanylion iasol ac yn hynny o beth mae’r ysgrifennu’n bwerus. Ond mae’n rhaid i’r darllenydd ofyn: pam ysgrifennu’r stori hon o gwbl? A oes rhyw ddatblygiad neu benderfyniad neu lygedyn o obaith i’w gael, neu ddim ond erchylltra diddiwedd. Gan Gwylfa Hiraethog cawn berthynas dreisgar arall, a’r ferch y tro hwn wedi penderfynu dianc a gadael. Mae yma ddeialog ddifyr, a symud digon medrus yn ôl ac ymlaen rhwng y presennol a’r gorffennol, ond mae’r diwedd yn gwbl anghredadwy a heb weithio. Yr un thema eto a gawn gan Pwt Pinc. Gall greu vignettes a delweddau bach deheuig, yn ogystal â deialog fedrus. O leiaf yma mae rhywfaint o ddatblygiad, a chawn brofi’r adegau melys yn ogystal a’r trais chwerw, ond byddwn yn argymell i Pwt Pinc a rhai o’r uchod i ysgrifennu am rywbeth sydd yn nes at eu profiad eu hunain. Eto mae gan Taten ddawn ysgrifennu digon deheuig, ond mae angen meddwl yn fwy gofalus am syniadau gwreiddiol. Ymson sydd yma, a Hedd Wyn yn adrodd. Ond ailbobi golygfeydd o’r ffilm enwog a wna’r awdur mewn gwirionedd, ac felly cawn y teimlad ein bod wedi gweld hyn o’r blaen.

Dosbarth 2B Ymson debyg iawn a gawsom gan Phoenix Blackthorn, ond â bardd y gadair ddu ar ei wely angau y tro hwn. Mae yma fwy o ymgais i dreiddio i fyfyrodau Hedd Wyn mewn ffordd fwy gwreiddiol, ond mae’r awdur yn dal i bwyso’n o drwm ar y ffilm am ei syniad, ei strwythur, ei gymeriadau a’i ddelweddau. Mae’n amlwg i holl drychineb Aberfan ddal dychymyg Y Ferch o’r Bont a’i sbarduno i ysgrifennu monolog annwyl, gyda chyffyrddiadau cofiadwy a delweddau arhosol. Tybed ai ymson oedd y ffurf fwyaf addas i’r stori hon? Gan Bro Arlais cawn stori gwbl wreiddiol ac unigryw, ac mae’r awdur hwn wedi penderfynu dechrau wrth ei draed, rwy’n amau. Defnyddir dyfais ddifyr a gwreiddiol yma, sef myfyrdod disgybl sydd i fod wrthi’n ateb cwestiynau arholiad, ond sydd yn methu gwneud hynny gan ei fod yn poeni am orfod gadael cartref oherwydd tirlithriad. Cawn gipolwg ar drafodaethau a phryderon y gymdeithas drwy lygaid y disgybl, gan gydymdeimlo â’r unigolyn ac â’r gymuned gyfan. Dosbarth 2A Yn ‘Dirywiad Dyn’ gan Ladi Wen, cawn bortread gofalus a sensitif o wraig sy’n ceisio dygymod â gweld ei gŵr yn mynd i ymladd yn Afghanistan, ac yn dychwelyd yn ddyn tra gwahanol gan ei gadael hithau’n unig. Mae yma ymadroddion coeth a thelynegol, ac mae manylion bychain y canlyn ar ddechrau’r berthynas yn gofiadwy. Efallai fod angen meddwl am ffordd o ddatblygu a newid tua’r diweddglo, i gadw diddordeb y darllenydd.

28


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 'Nôl i’r 1960au â ni, ac at stori drist arall, yng nghwmni Penfelen sy’n ein cludo i Gapel Celyn, gan edrych yn ôl ar gyfnod boddi Cwm Tryweryn drwy atgofion un o’r trigolion yn 2005. Drwy ganolbwyntio ar fanylion a synhwyrau, a thrwy gyfosod sain yr emyn a sŵn y Jac Codi Baw, llwydda’r adroddwr i ennyn ein cydymdeimlad a’n tristwch. Mae yma glo effeithiol a theimladwy hefyd. Yr Ail Ryfel Byd yw cyfnod Blodeuwedd, wrth gofnodi dyddiadur peilot o’r enw Glyn Roberts. Dyma ysgrifennu bywiog, egniol, llawn asbri’r frwydr ond a rhyw ymatal a chynildeb yn nes ymlaen hefyd. Mae’r manylion a’r enwau yn taro deuddeg, a hoffwn weld Blodeuwedd yn datblygu rhywfaint ar y stori hon — gallai fod yn un arbennig o dda gydag ychydig o ymhelaethu. Cawsom un o olygon mwyaf gwreiddiol y gystadleuaeth ar destun go gyffredin, sef ‘Gadael Cartref’, gan Gwylfa Hiraethog (2). Mae’n amlwg bod llawer o ymchwil a dysgu wedi bod yn rhan o’r broses cyn ysgrifennu, a thrwy ddewis a dethol ffeithiau, gwybodaeth a manylion, creir darlun byw a chredadwy o gynefin yr Americaniaid brodorol. Mae yma symud deheuig hefyd rhwng y presennol a’r atgofion, a thrwy ymatal rhag mynegi emosiwn yn rhy barod, mae’r awdur yn creu cryn deimlad ynom ninnau fel darllenwyr. Da iawn. I danchwa Senghennydd yr awn yng nghwmni Melangell, ac ydi, y mae’r tristwch a’r galar yn drwm ar y darn hwn hefyd. Ond mae’r cyfan wedi’i drin yn sensitif, ymatalgar a deheuig, a’r cymeriadau a’r berthynas rhyngddynt yn gredadwy. O’r herwydd, rydym yn teimlo

i’r byw drostynt yn eu trallod. Efallai fod y diweddglo’n dod yn ddisymwth ac y gellid ymestyn ychydig yma. Teulu o ffoaduriaid, o Syria efallai, sydd yn destun stori Mei, ac mae’n amlwg eto fod yr awdur wedi mynd i gryn ymdrech i beintio a darlunio byd â chymeriadau tra real a chredadwy. Mae yma hefyd, yn bwysig, stori: cawn ein tynnu ymlaen drwy’r digwydd, eisiau gwybod beth sy’n digwydd i’r teulu drwy eu trybini. Cyrhaeddir uchafbwynt tra brawychus, ac mae’r diweddglo’n iasol. Portread mwy cymhleth a soffistigedig na’r lleill, o bosib, o drychineb Aberfan a gawn gan Pompeii. Mae gan yr awdur ddyfais o wneud i’r darllenydd geisio dyfalu beth sy’n wir, a beth sy’n rhan o ddychymyg a hunllefau’r fam a’r ferch, sy’n cadw’n diddordeb ac yn cynnig golwg newydd ar hen stori drist o gyfarwydd. Dosbarth 1 Closiais yn fawr at nifer o ddarnau dosbarth 2A, ac ystyriais yn ddwys eu gwobrwyo ar ryw bwynt. Darnau caboledig bob un, ac yn sicr dylid eu datblygu ymhellach a dal ati’n ddygn i ysgrifennu. Mae Hazel, Neb (2), Neb (3) a Grug yn codi i’r dosbarth cyntaf. Gweddol dreuliedig yw deunydd Grug — merch yn dygymod a chael babi yn ei harddegau, a’r tad yn gwrthod ei arddel. Ond mae’r mynegiant mor ffraeth, mor wreiddiol ac mor ddigrif ar brydiau nes na all rhywun beidio a chlosio at y darn. Hoffais yn enwedig y defnydd o ddeialog a negeseuon testun yn y darn. Nid yw’r rhain yn hawdd eu portreadu yn llwyddiannus, ond medrodd Grug yn

29


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 arbennig o dda. Mor braf hefyd oedd rhywfaint o ysgafnder ynghanol y trallod! Cyfres o ymsonau a gawn gan Hazel, a golwg newydd ar hanes trist Anne Frank trwy gyfosod ei hymson hi ag ymson ei chwaer a’i thad. Mae hon yn ddyfais ddifyr sy’n gadael i ni weld y cyfan o wahanol safbwyntiau, ac yn gwneud y fonolog ddigalon olaf gan y tad yn fwy ingol o’r herwydd. Dyma ddarnau wedi eu mynegi mewn dull cynnil, ymatalgar, a sensitif. Fe allai portread Neb (2) o werthwr Big Issue fod yn dreuliedig ac yn llawn ystrydebau. Llwydda’r awdur i osgoi hyn yn llwyr, fodd bynnag, trwy gymariaethau a throsiadau gwreiddiol a byw, a thrwy greu cymeriad credadwy, o gig a gwaed: rhywun y gallwn gydymdeimlo ag ef i’r byw a chynhesu ato. Wrth glywed am ei fywyd hapus blaenorol, a’r torcalon a ddaw i’w ran, a’r casineb y mae’n ei wynebu ar strydoedd Caerdydd, teimlwn gywilydd, euogrwydd a thrueni. Hyfryd yw’r ferch fach ar y diwedd sydd yn cynnig rhyw fath o oleuni a gobaith yn y gaeaf llwm. Mae hiwmor a sylwebaeth grafog a ffraeth yn nodweddu stori wreiddiol Neb (3), sy’n gosod hen stori Branwen mewn cyddestun modern. Mae Neb yn gallu dweud stori’n feistraidd, ac rydym yn gallu credu trawsnewidiad araf Matthew o’r pennaeth fflyrtiog i’r partner meddw, haerllug. Mae’r ffordd y gosodwyd ac yr addaswyd hen stori mewn cyd-destun cyfoes, sy’n gwneud i ni feddwl am drafodaethau diweddar ynghylch y modd y mae dynion yn dal i fanteisio ar fenywod yn y gweithle, yn hynod effeithiol ac yn codi ias.

Daeth Neb (2) a Neb (3) yn agos iawn ati, ac mae eu gwaith yn haeddu cryn glod. Ond wedi sawl darlleniad, roedd pedwar ymgeisydd arall yn mynnu codi’n uwch eto: Rwdlan, Mwsog, P.M. ac Arlais. Yn ‘Newid’ gan Rwdlan cawsom ein cludo i fyd ffantasi, yn llawn o dylwyth teg, hud a lledrith a swyn. Ond roedd iddo hefyd dinc milain a sinistr, wrth i’r brif dylwythen deg fynd ati i ‘gar-gipio’. Dyma stori ddyfeisgar dros ben sy’n ei cymryd ar daith drwy fyd cyfareddol ac mae’n teimlo bron fel rhyw fath o nofel fer, oherwydd y gwahanol olygfeydd a’r cast o gymeriadau. Dengys yr awdur ddyfeisgarwch syfrdanol a fedrai redeg ras â Robin Llywelyn yn hawdd, wrth greu cymeriadau, cysyniadau a rhigymau. Mae yma ddawn farddonol, eiriol go iawn. Wedi dychmygu byd cyflawn — cryn gamp — ac wedi cynnal ein diddordeb a’n cred yn byd hwn drwyddi draw — mwy fyth o gamp. Tybed a yw’r diweddglo yn rhy ddisymwth neu’n rhy hawdd? Beth sy’n ein gwneud mor sicr y bydd y fam yn newid ei meddwl? Gan Arlais cawsom bortread cynnes, gonest, aeddfed ac amlweddog o Dad-cu’r awdur. Llwyddod y darn i gadw cydbwysedd hynod rhwng anwyldeb a hiwmor, oedd yn taro deuddeg i’r dim. Mae gan yr awdur hwn feistrolaeth dros ei holl adnoddau ieithyddol a chanddo reolaeth lwyr dros gywair sydd yn lled ffurfiol ac eto’n agos-atoch a chyfeillgar. Mae’r darn hwn yn un hynod orffenedig hefyd. Teimlwn, erbyn y diwedd, fy mod yn adnabod y tad-cu yn dda — a dyna gamp y portread wrth gwrs. Gellir bod yn falch dros ben o’r darn hwn.

30


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 Gan P.M. y cafwyd yr amrywiaeth fwyaf gan un awdur. Cawson bedair ymson tra gwahanol yma: merch ifanc yn gadael Capel Celyn cyn boddi Cwm Tryweryn, ffoadur ifanc o Syria, merch sydd a’i chwaer newydd adael am y coleg, a mam ifanc. Cysylltir y pedwar darn drwy fod pob un o’r adroddwyr yn ferch 16 oed — ac eto roedd pob llais yn llais unigryw a gwahanol i’w gilydd. Mae gan yr awdur ddawn arbennig o ran amrywio cyweiriau, lleisiau, sefyllfaoedd, cymeriadau. Eto mae rhyw dinc o adleisio rhyngddynt hefyd, sydd yn gynnil ond yn effeithiol. Dyma awdur hyderus iawn. Tybed a oes rhywfaint o orysgrifennu ar brydiau efallai? Gormod o wneud y cyfan yn gwbl ddiamwys, yn lle gadael i’r darllenydd ddod i ddeall rhai pethau ei hun, a pheidio â rhoi popeth ar blât. Fyddai’r cymeriadau, synhwyraf, ddim bob amser yn dweud hyn i gyd, dim ond ei awgrymu. Does dim angen cau pen y mwdwl mor daclus bob amser — gellid rhoi rhywbeth i’r darllenydd gnoi cil arno ac ysu am fwy. Ond mae yma hiwmor a mynegiant medrus dros ben, ac mae deunydd nofelydd go swmpus yma yn sicr. Ysgrifennodd Mwsog stori fer — stori dipyn byrrach, yn wir, na nifer o’i gydgystadleuwyr. Ond nid yw hynny’n wendid; yn wir, mae’n gryfder yn nwylo’r awdur hynod gynnil hwn sy’n gallu creu golygfa gyfan ac ychydig frawddegau. Wrth i’r milwr ddychwelyd adref at ei deulu am hoe o’r Ail Ryfel Byd, roeddwn yno gydag o yn yr ardd, a’i blant o’i gwmpas, a’r llysiau’n berwi rhwng ‘arogleuon selsig a siffrwd y radio’. Mae gan yr awdur hwn glust, llygad, cynildeb — roeddwn yno, gallwn weld a chlywed, arogleuo, teimlo — a choelio. Ni chafwyd gormodedd o ddeialog ond roedd y cyfan

yn real a chlywadwy, a’r seibiau yn dweud cymaint a’r geiriau eu hunain. Dim ond unwaith neu ddwy efallai yr oeddwn i’n gofyn ‘tybed?’, neu’n methu â chredu rhyw ddarn — ond buan y byddai’r paragraff nesaf yn dod i argyhoeddi drachefn. Roedd hynny’n bennaf oherwydd cynildeb anhygoel yr awdur, a’i ddawn i awgrymu yn hytrach na dweud yn blaen, a phopeth fel pe baen dan yr wyneb. Efallai y gellid datblygu ychydig ymhellach — a oedd y sgwrs dyngedfennol wrth i’r awdur ddatgelu’r erchyllterau ychydig yn rhy fyr a chynnil? Ai dim ond un noson o ‘leave’ y byddai milwr yn ei gael? Mae angen tacluso rhywfaint yn ieithyddol hefyd. Ond i mi, dyma’r ddawn dweud stori naturiol orau, a dyma’r diweddglo mwyaf boddhaol o bell ffordd yn y gystadleuaeth. Daeth y stori i ben heb fod yn rhy hawdd, amlwg, neu ddisgwyliedig, ond heb fod yn rhy ddramatig nac anghydnaws chwaith. Eto, roedd y clo hwn yn gynnil, gynnil deimladwy. Yn ôl greddf roeddwn yn teimlo bod yna rywbeth arbennig am y stori y tro cyntaf y darllenais hi, a greddf a’m perswadiodd yn y diwedd hefyd mai Mwsog sy’n fuddugol. Llongyfarchiadau gwresog iddo, ac i’r holl gystadleuwyr am ornest o safon hynod uchel. 1 Mwsog 2 Rwdlan ac Arlais (cydradd ail) 3 P. M. Llŷr Gwyn Lewis

31


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018

Gwaith Buddugol: Rhyddiaith Cymraeg Iaith Gyntaf

dros y rhiniog, ond buan y gwibiodd drwy’r awyr, ar donnau arogleuon selsig a siffrwd y radio, i’r ardd gefn.

Ffugenw: Mwsog Newid Newid Hercian. Esgidiau trymion wedi hen dreulio o gerdded, nôl ac ymlaen trwy faes didrugaredd y gad yng nghrafangau gormesol y gaeaf. Chwifiai ymylon ei got heulfelyn dreuliedig gan chwythiadau’r ysgafn yr awel i rythm cyson y 7fed o Ionawr 1941, yn union fel baner yn cyhwfan wrth groesawu’r brenin adref. Gwasgodd ei law ei het gylchog am ei ben i amddiffyn ei wyneb main rhag pelydrau’r haul gwan ac o dan ei rymun cysgodol syllai ei lygaid tywyll pŵl, blinedig. Eisteddai chwaer a’i brawd bach ar wal garreg, yn siglo’u coesau byrion yn ôl ac ymlaen, ymlaen ac yn ôl wrth i fodiau eu troed ymwthio trwy’u hesgidiau carpiog. Trodd dau wyneb annwyl i syllu yn swil ar yr ymwelydd, a goleuodd eu hwynebau fel llusernau. Arafodd y camau trymion a chychwynnodd llamau sionc i’w gyfarch fel dau genau cyffrous. “Dad!” sgrechodd y plant yn unsain wrth redeg i mewn i’w freichiau cryfion. Ymgasglodd deigryn yn ei lygaid, y deigryn cyntaf iddo wylo ers hydoedd ac am eiliad lleddfwyd poen y rhyfel. Yn araf agorodd y drws. Roedd hi'r un mor brydferth ag arfer, er gwaethaf y crychni a ffurfiwyd gan bryder a straen y blynyddoedd. Gwisgai ffedog am ei chanol. ‘Roedd wrthi’n paratoi bwyd mae’n siŵr’ meddyliodd. Rhedodd y plant heibio’u mam i mewn i’w cartref yn don o sŵn. Cododd Spitfire o lawr y cyntedd, yn barod i saethu’r gelyn yr eiliad y troediai

Roedd yr ardd fel tŷ Jeroboam. Tyfai rhesi o datws a moron yn y llaid yn blith draphlith ynghanol y chwyn, a swatiai hen bêl droed wastad yn segur ger y drws. Ond nodwedd mwyaf sylweddol yr ardd oedd y cysgod Anderson a edrychai fel rhyw gragen crwban arallfydol. Roedd ei arwynebedd llyfn, du yn rhwystr i’r plant wrth iddynt ei ddringo’n drafferthus. Llithrodd y ferch i’r llawr wrth glywed siffrwd siarad ei rhieni yn agosáu ond safai’r bachgen yn dalsyth ar ben y cysgod, mewn ymgais efallai, i gadw ei afael ar bŵer urddasol gwryw hynaf y tŷ. Cododd y tad ei aeliau wrth weld y llanast. Daeth gwg i’w dalcen o weld ei ardd, a fu unwaith yn gymaint o destun balchder iddo, yn anialwch o dyfiant. “Roedd y cysgod yn angenrheidiol, rwy’n flin” ymddiheuriodd ei wraig. Daeth sŵn y llysiau’n berwi i dynnu’r oedolion yn ôl i’r presennol. Rhuthrodd hi yn ôl i’r gegin. Taflodd y tad wên lydan at y plant cyn ei dilyn hithiau. “Sut mae hi yn Affrica?” gofynnodd wrth orffen paratoi cinio, “A wneud di osod platiau ag ati ar y bwrdd?”. “So ti’n darllen y papurau newyddion a gwrando ar y Radio?” poenodd ef hi. “Efo ‘Miss Gwybod yn well’ a ‘Helynt ar ddwy goes’ yn fy nghadw ar bigau’r drain? Mae’n ddigon delio efo’r rhyfel cartref hwn heb sôn am y rhyfel draw ar y cyfandir.

32


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 Chwarddodd yntau yn uchel, “Digon teg… digon teg”. Crynhodd yn fras hanes yr ymladd yn Affrica a’r brwydro yn erbyn Yr Eidal. “Yn ôl pob sôn, mae Iddewon Awstria yn cael eu halltudio i getoau yng Ngwlad Pwyl”. “Druan ohonynt,”, “Beth a wnaeth yr Iddewon erioed i’r Almaenwyr?"— ysgytwodd ei phen—“O leiaf mai Churchill ar eu hochr nhw, a’n hochr ni hefyd diolch byth”. “Ydy” cytunodd yntau. Roedd cinio yn ddigwyddiad teuluol hapus am unwaith. Ceision nhw fwynhau’r bwyd cymaint ag y gallent, er bod dogni wedi lleihau’r amrywiaeth a maint y wledd a sglaffiai’r teulu. Gwelai ond yn rhy glir yr arwyddion o syrffed a newyn ar wynebau ei blant, a gwelai’r llawenydd a’r diolch ynddynt am i’w Mam ddarparu gwyrth o bryd iddynt. Chwerthynwyd ar straeon doniol am drigolion yr ardal, am Mr Green yn y tŷ cyferbyn a saethodd gath Mr Penry yn ystafell fyw ei dŷ gan gredu mai “Jerry” oedd y gath. Roedd ei hangladd yfory. Gwrandawyd mewn llonyddwch a chegau agored ar anturiaethau arwyr ar y cyfandir pell. Rhannwyd hanes tanciau ac awyrennau, gynnau a bomiau, yn y frwydr ddi-baid yn erbyn y gelyn. Llifodd cwestiynau a sgyrsiau’n siriol am awr neu ddwy nes i’r ddau blentyn ddechrau pendwmpian wrth wres llethol y tân. Gafaelodd y tad yn ei fab, y fam yn ei merch a’u cario’n ofalus i fyny’r grisiau i’w stafell lle rhannent wely mawr plu. Wrth i’r fflamau ddawnsio a llyfu ac ysu plocyn o bren dyfnhaodd y sgwrs rhyngddynt.

“Clywais fod y bomio yn Llundain yn gwaethygu,”, “Ma’ llawer o’r farn y daw Abertawe yn fwyfwy o darged, efo’r dociau ag ati” ac ysgydwodd hi ei phen mewn gofid. “Yn bendant”—ochneidiodd yntau—“Sut mae’r plant yn ymdopi? Mae’r rhyfel bellach yn fwy real iddynt ers marwolaeth ei hwncwl yn Ffrainc” “Neithiwr… a phob noson ers i’r bomio ddechrau mae hi wedi bod yn dioddef o hunllefau erchyll—” “Druan ohoni!” ac ymestynnodd yntau ei freichiau i afael ynddi’n dynn, ei chysuro ac anwesu ei gwallt. “Sut hwyl ma’ nhw’n ei gael yn yr ysgol?” Gwenodd hi arno, cyn syllu i berfedd y tan. “Gwaith yn ddiflas…”—gwenodd yn ddireidus wrth ddynwared ei mab—“...yr ychydig waith mae’n ei wneud, hynny yw. Ma' fe fel pob bachgen a’i fryd ar ymuno â’r fyddin ac ymladd dros ei wlad. Ar y llaw arall, mae hi’n ddigon disglair ac am fod y Florence Nightingale nesaf. Fe wneith nyrs dda” “Da merch i” a gwenodd wrth i ddeigryn arall gronni yn ei lygaid. “Beth oedd hi fel yn Affrica?” Nid atebodd. Boddwyd y tawelwch am eiliadau hir gan dipian bygythiol y cloc. Ond ni phwysodd arno. Gwyddai y deuai ymateb cyn hir a hwyr ac unwaith i’r llifddorau agor, na fyddai taw arno. Adnabyddai hi ef yn iawn ar ôl ugain mlynedd o briodas.

33


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018

“Mae’r gwres llethol Affrica yn codi ymdeimlad o ddiogi ar bawb ac mae rhai’n dioddef o ‘heatstroke’ yn aml. Mae’r gwres yn creu hunllef o’r system carthffosiaeth, ac nid yw’r lluestau yn llawer gwell, yn llawn drewdod pydredig o faw a chwys sy’n mynnu glynnu at ein ffroenau. Ni fu llawer o ymladd, ar y dechrau, dim ond sibrydion gan sgowtiaid am symudiadau’r gelyn tu hwnt i’r gorwel. Dechreuodd efo Operation Compass.”

“Roeddwn i a John Williams Tycoch yn ceisio cipio tŷ. Buom ni’n brwydro am oriau a fy swydd i oedd gwylio am elynion a bod yn gefn iddo. Torron ni i mewn i’r tŷ. Yn yr ystafell gyntaf gwelais gysgod tu allan i’r ffenestr ond anwybyddais yr arwyddion. Symudodd John i’r stafell nesaf ond gwibiodd bwledi trwy’r ffenestr ac wrth i’w gorff ysgwyd a gollwng yn llipa i’r llawr sylweddolais y byddai ei deulu heb ŵr, a heb dad oherwydd fy niofalwch...”

“Operation Compass?” ymholodd hi. “Operation Compass. Ymgyrch filwrol fawr y Cynghreiriaid yn yr anialwch gorllewinol. Y nod oedd ymosod ar rymoedd Eidalaidd yng Ngorllewin yr Aifft ac yn Libya. Dechreuais chwarae fy rhan i yn Ionawr yn rhan o’r Western Desert Force yn Affrica. Ar yr 12fed dyma ni yn ymosod ar Eidalwyr yn Tobruk. Fy swydd i a fy mataliwn oedd cipio’r porthladd.” “Beth ddigwyddodd?” pwysodd hi “Cafwyd storm dywod erchyll pan ymosodon ni ac wrth i’r tywod droi a throelli fel rhyw chwyrligwgan gwyllt fe chwipiai ein hwynebau a’n dallu wrth i ni symud tuag at y gelyn. Roedd nifer o’m ffrindiau yn fy mataliwn ac fe golles i nifer ohonynt i’r ffrwydron cudd yn y tywod. Clywsem synnau gynnau yn saethu ymhobman a ffrwydron yn tanio ond oherwydd y tywod a’n dallai ymddangosai fel petaem yn ymladd ryw elyn anweledig. Brwydron ni yn ffyrnig i gipio’r porthladd am oes cyn i’r Eidalwyr wanhau a dechrau colli tir.” “Sut gefaist dy glwyfo?” gofynnodd hi

“Paid â beio...” mentrodd hi wrth afael yn dynn yn ei chariad wrth i’r dagrau ddechrau cronni yn ei lygaid. “Nid oeddwn i hyd yn oed yn ddigon dewr i lusgo ei gorff i ddiogelwch! Hyrddiais fy hun o olwg y ffenestr, ond nid cyn i fwled fy nharo yn fy nghlun. Y peth olaf a gofiaf yw ei lygaid glas oeraidd yn syllu’n gyhuddgar arnaf cyn i mi syrthio’n anymwybodol a deffro mewn ysbyty, ar ben fy hun mewn artaith yng nghanol rhyfel uffernol. Ni allaf ddianc rhag y llygaid cyhuddgar yna. Bob tro rwy’n cau fy llygaid mynnant ymddangos fel llafnau i dyllu i’m henaid. Beth wnaf fi? Sut alla i fyw fel hyn?” “Dere.” Gwasgodd hi ef yn dynn yn ei mynwes. “Fe ddoi di drwyddi. Mae’n rhaid i ti ddod drwyddi er fy lles i, a lles y ddau yna sy’n hanner dy addoli lan lloft. Reit, dere i ti hefyd gael noson dda o gwsg...” *

*

*

Hercian. Esgidiau trymion wedi hen dreulio o gerdded. Dawnsiai ymylon ei got heulfelyn dreuliedig gan rym gwynt

34


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 stormus y 8fed o Ionawr 1941. Crafangai ei law ei het gylchog rhag iddi chwythu ymaith i bwll o ddŵr a dallwyd ei lygaid tywyll pwl a bwledi’r glaw. Yn ffram y drws swatiai chwaer a’i brawd rhwng breichiau eu mam yn chwifio’u breichiau yn ôl ac ymlaen, ymlaen ac yn ôl yn llipa a thrist. Trodd ei wyneb i syllu’n hiraethus ar ei deulu a’i gartref, dagrau’n cronni yn eu llygaid. Cyflymodd y camau trymion, yn ôl tuag at y rhyfel. Tomos Brown

35


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018

Beirniadaeth Barddoniaeth Daeth 13 o gerddi i law ac roedd hon yn gystadleuaeth o safon. Cafwyd amrywiaeth o destunau – y tyndra rhwng natur a phobl, ymgyrch y swffragetiaid, bywyd nos Abertawe, rhyfel, gwewyr meddwl, digwyddiadau penodol a fu yn y newyddion yn ddiweddar – a hyd yn oed y pwysau o orfod dewis beth i'w fwyta yn McDonalds. Cafwyd amrywiol fesurau hefyd – yn sonedau, cerddi vers libre, a phenillion telyn ar fydr ac odl. Doedd yma’r un gerdd wael, ac mae pob un o’r beirdd yn gwybod sut i ysgrifennu cerdd afaelgar. Byddwn yn annog pob un ohonynt i ddal ati, i arbrofi â gwahanol ffurfiau a thestunau, ac i ddal i arfer y lleisiau cynnil, aeddfed, ymatalgar ond dychmygus sydd ganddyn nhw eisoes. Yn yr ail ddosbarth rwy’n gosod ‘Y Pryd Hapus’, ‘Blodeuwedd’, ‘Penfelen’ (1), ‘Taten’ ac ‘Ystlum Gwyn’. Gan ‘Ystlum Gwyn’ cawsom sefyllfa ddigri wedi ei hadrodd yn sionc a hwyliog. Mae yna elfen grafog i’r stori hefyd ond efallai fod y darllenydd yn disgwyl ergyd fwy trawiadol i gloi’r gerdd. Cafwyd ymgais dda ar benillion mydr ac odl gan ‘Blodeuwedd’, er bod ambell linell ychydig yn fwy trwsgl na’i gilydd. Tybed a yw’r diweddglo yn rhy simplistaidd? Gellid herio’r syniad bod milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf wedi marw i ‘ni gael byw mewn hedd’ yn lle derbyn hynny’n ddigwestiwn. Cri o’r galon, eto ar fydr ac odl, sydd gan ‘Taten’, ac mae’r ysfa yma i gicio’n erbyn y tresi yn amheuthun. Efallai y byddai rhyw drobwynt neu amheuaeth yn help i greu tyndra creadigol. Mae gan ‘Ystlum Gwyn’ strwythur cryf i’w gerdd ‘Y Panig’, a defnydd doeth o ailadrodd ymadroddion dros dri phennill.

Ond efallai y byddai rhywfaint mwy o amrywiaeth yn rhoi rhyddid i’r mynegiant ac yn gwneud y gerdd yn fwy eglur. Mae gan ‘Adfail’ (1) rai delweddau ac ymadroddion dirdynnol, a chlust am rhythm llinellau’r wers rydd hefyd. Ond gellid cwtogi rhywfaint yn ogystal â gosod y cyd-destun yn fwy eglur. Ac yng nghwmni Adfail, symudwn bellach i’r dosbarth cyntaf. Cafwyd soned grefftus iawn gan ‘Mei’, sydd yn amlwg yn gryn feistr ar y mesur. Mae angen ychydig rhagor o ofal o ran cywirdeb ieithyddol, ac efallai y gellid ffrwyno rhywfaint ar deimladrwydd tanbaid y dweud hefyd. Ond mae yma ergyd glodwiw, a deunydd diddorol hefyd wrth drafod y Tân yn Llŷn. Dim ond trwch blewyn oedd yn rhwystro’r ddau ‘Neb’, ‘Penfelen’ (2) a Melangell rhag cyrraedd y brig. Mae’n amlwg iawn fod gan ‘Neb’ (1) glust am eirfa a rhythm ac odl a chyflythrennu, a bron nad yw’n cynganeddu ar brydiau. Yn sicr dyma farddoniaeth sydd yn swnio’n arbennig o dda, ac mae yma ddelweddau a theimladrwydd dwys. Ond weithiau mae’r ymgais i swnio’n dda yn tarfu ar yr ystyr ac yn golygu ein bod yn colli golwg ar beth yn union sydd gan y bardd dan sylw. Gan ‘Neb’ (2) wedyn cawsom fynegiant tipyn mwy uniongyrchol, wrth fwrw golwg ar hanes y swffragetiaid, a throsglwyddo grym eu gwaith i’r hyn y gallwn ninnau eto’i gyflawni. Mae’r dweud yn uniongyrchol a grymus, ond efallai y gellid oedi’n hirach dros ambell i gymal neu linell er mwyn chwilio am fynegiant a delweddau mwy gwreiddiol a thrawiadol. Mae gan ‘Penfelen’ (2) hefyd glust am rhythm a mynegiant, dawn peintio darlun, ac ieithwedd goeth a glân. Dewisodd destun heriol wrth drafod marwolaeth dyn ifanc yn y Sioe Frenhinol, ac wrth geisio cyfleu

36


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 teimlad, dwyster a dyfnder y galar a’r golled, mae perygl weithiau i’r mynegiant fynd yn orddramatig a sentimental. Cawsom ddarlun bywiog, cyfoes, llachar gan ‘Melangell’, ac yma rydym yn dringo i dir uchel iawn yn y gystadleuaeth. Cyfres o gameos sydd yn y portread o noson allan yn Abertawe, ac mae’r mynegiant yn wreiddiol a thrawiadol drwy’r gerdd. Hoffais yn fawr y diweddglo cynnil wrth dynnu’r darllenydd i mewn i un ddelwedd fach olaf. Ond roedd tri ymgeisydd yn mynnu dringo i dir uwch eto, sef Sycharth, Fieldsend, a 1955. Cerdd weddol hir a gawsom gan Sycharth, ond roedd y cynildeb a’r ddawn dweud o fewn pob llinell yn cynnal diddordeb y darllenydd. Mae yma droeon ymadrodd gwirioneddol hyfryd a gwreiddiol, fel ‘sŵn traed yn cynganeddu’, neu drafod ‘gwenwyn dihangol cariad’ yn tynnu’r cariadon ‘fel rhuban / at fflyrtian y môr’ – hyfryd. Mae’r tro yng nghynffon y stori fer hon o gerdd hefyd yn annisgwyl ac yn effeithiol. Gwylied y bardd rhag mynd i ymadroddi yn rhy undonog ar brydiau, gyda’r un patrwm (farddonllyd braidd) dair neu bedair gwaith ar frig yr ail dudalen. Byddai defnyddio mwy o ferfau gweithredol (yn hytrach na berfenwau) yn rhoi mwy o fywyd i’r rhan hon, ac efallai hefyd y gellid cwtogi rhywfaint ar y darn. Ond cerdd ardderchog serch hynny. Tir go gyfarwydd a droedia Fieldsend ar un olwg. Go brin, fe’ch clywaf yn ochneidio, fod angen cerdd arall yn Gymraeg am yr Holocost. Ond gwnaeth Fieldsend gryn gamp â deunydd sydd mewn perygl o ddod yn llawer rhy gyfarwydd a normal i ni, ac ystyried ei erchylltra, gan ddod â’r cyfan i

lawr i lefel y personol, a lleoleiddio’r profiad i Gymru heddiw. Trwy hynny, llwyddodd i oresgyn nifer o’r ystrydebau a’r llesgedd sy’n rhan o ganu ar y pwnc hwn yn aml. Bu i Fieldsend gwrdd â rhywun a oroesodd yr Holocost, ac yn syth mae hynny’n ein gwreiddio yn nhir profiad real: o’r herwydd, mae’r gerdd yn fwy credadwy. Gallwn weld y sefyllfa, ac mae’r llinell agoriadol yn ein diarfogi â’i symlrwydd: ‘Daeth i’n plith fel unrhyw daid’. Wrth ganolbwyntio ar fanylion bychain, megis y ‘pysgota am y paced mintys yn llwch ei boced’, mae’r bardd yn llwyddo i osgoi trafod yr erchyllter a brofodd y goroeswr yn uniongyrchol (rhywbeth amhosibl, mae’n siŵr) ond ar yr un pryd yn ei flaendirio ac yn ein hatgoffa ohono drwy gyfeirio at y llwch. Yn sicr, y pennill cyntaf cyfareddol hwn yw cryfder pennaf y gerdd. Efallai fod y mynegiant yn yr ail a’r trydydd pennill fymryn yn fwy cyffredin, ac y gellid ceisio cynnal y dyfeisgarwch cynnil hwnnw yn well drwy’r gerdd. Ond mae rhywbeth i’w ddweud hefyd dros symlrwydd moel y mynegiant, heb ildio i fod yn flodeuog na goreiriog, ac mae her i’r darllenydd hefyd yng nghynffon y gerdd. Ardderchog. Mynd â ni’n ôl mewn hanes a wna 1955 hefyd, fel yr awgryma’r ffugenw, ac i sefyllfa arall go gyfarwydd mewn cerddi, sef hanes Rosa Parks ddewr a wrthododd ildio’i sedd. Fel Fieldsend, llwydda 1955 i fynegi’r profiad eto o’r newydd ac yn ffres, ac osgoi’r hen ystrydebau treuliedig, a hynny drwy dynnu cysylltiad rhwng heddiw’r bardd a chyfnod Parks ei hun. Nid hawdd hynny, gan mor wahanol eu sefyllfaoedd, ‘a lliw ein gruddiau’n sedd wag rhyngom’. Ond drwy ddod i ddysgu am yr hanes, ‘doist ti wedyn i eistedd wrth f’ymyl’. Yn nes ymlaen, mae hi’n ‘dal i

37


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 wrthod ildio dy sedd yn fy nghof’. Ac fel yn achos Fieldsend, mae gan Rosa Parks her i 1955 ar y diwedd: ‘ydi’n bryd i minnau fod yn arwr, fel ti?’ Yn enwedig, awgryma’r bardd, yn ein cymdeithas heddiw lle mae tensiynau hiliol fel pe baent yn codi’u pennau hyll drachefn. Efallai fod yma rywfaint o ailadrodd a thindroi ynghanol y gerdd, ac y gellid colli’r trydydd pennill yn hawdd heb golli dim ar ei llif. Ond mae’n agor ac yn cloi’n hynod drawiadol, a’r mynegiant drwy’r gerdd yn goeth ac awgrymog.

Yn y pen draw, roedd hi’n agos iawn iawn rhwng Fieldsend a 1955. Byddwn yn ffafrio 1955 un funud ac yna Fieldsend y nesaf. Ond oherwydd iddo dirio’r profiad mor gadarn yn ein heddiw ni, ac oherwydd uniongyrchedd cynnil y dweud, Fieldsend sy’n mynd â hi gyda phob clod. Llŷr Gwyn Lewis

38


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018

Gwaith Buddugol: Barddoniaeth Cymraeg Iaith Gyntaf Ffugenw: Fieldsend Creithiau (Wedi imi gwrdd â goroeswr o’r Holocost) Daeth i’n plith fel unrhyw daid, Ei wyneb yn grychau, ac ôl marc sbectol ar ei drwyn. Gwên lydan, garedig a’i ddwylo cynnes yn pysgota am y paced mintys yn llwch ei boced. Ond yna, agorodd giatiau ei hanes A’n cymell i gamu drwyddynt, Ein cludo o Gymru ein presennol I’w Almaen gynt, dan grafanc y Natsi. A’i brop oedd y nod ar ei arddwrn Yn atgof parhaol o’i orffennol A’r uffern fawr a brofodd. Na, nid unrhyw daid cyffredin mohono, A’r graith a lechai dan ei lawes Yn ein siarsio i drysori ein dyfodol.

Lois Medi Wiliam

39


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018

Lluniau o’r flwyddyn Tymor Mihangel

Tomos ac Osian yn mwynhau pice yn noson agoriadol y flwyddyn

Lois yn cyfarch y Gymdeithas yn y noson agoriadol

Swper ffurfiol blynyddol yng ngholeg y Caplan, Lois, sef Coleg yr Iesu

40


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 Tymor Ilar - Cinio Gŵyl Dewi Gyda diolch i Gwilym Tudur am ei ffotograffiaeth

Bedwyr, ein Archarogldarthydd, yn camu i’r adwy gyda’i araith

Tair cenhedlaeth o gaplanoedd, Llew, Lois ac Elin, yn codi’r canu

41


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 Tymor y Drindod - Eisteddfod Cymdeithas Dafydd ap Gwilym

Math yn diddanu’r gynulleidfa gyda ei unawd piano

Lois a Tomos, y llenorion buddugol

Gwilym, ein Prif Ddefodydd ac Is-Gaplan yn cyfarch y gynulleidfa

Llŷr Gwyn yn gofyn i Winston Churchill am help wrth feirniadu

42


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018

Codi Arian ar gyfer y Gymdeithas Yn ôl yn 1886, pan sefydlwyd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, roedd y gymdeithas yn edrych yn wahanol iawn i fel y mae hi heddiw. Nid ydym mwyach yn darllen papurau academaidd yn ein cyfarfodydd nac ychwaith yn trafod cerddi gan Dafydd ap Gwilym (arferion y dylem efallai eu hatgyfodi o bryd i’w gilydd!). Yn gyffredinol, er ein bod ni’n dal i gael digwyddiadau arbennig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi ac yn cynnal Eisteddfod yn flynyddol, mae gweithgareddau’r Dafydd yn edrych yn wahanol iawn bellach: nosweithiau picau ar y maen a Phenderyn, digwyddiadau ar y cyd â’r Gymdeithas Wyddelig, gigs a mwy. Yn ogystal, yn wahanol i ddechreuadau’r Dafydd, nid ydym yn cyfyngu ein haelodaeth i ugain o bobl erbyn hyn; yn wir, rydym wedi gweld nifer fawr o bobl yn mynychu ein digwyddiadau yn ddiweddar. Ond mae un gwahaniaeth mawr arall y mae’n hawdd ei anghofio – nid ydym mwyach yn codi tâl aelodaeth! Ac, ar y cyfan, mae hyn yn beth da. Golyga fod ein digwyddiadau yn gwbl agored i bawb. Nid ydym am fod ag unrhyw rwystr i neb fod yn rhan o fywyd y gymdeithas, a phopeth rydym yn ei gynrychioli. Ac eto, mae problem amlwg. Nid yw’r Dafydd yn derbyn incwm trwy’r dull yma, fel yr oedd yn y gorffennol. Felly, os ydym am ehangu ar waith y Dafydd, a sicrhau dyfodol disglair i’r gymdeithas yn y blynyddoedd i ddod, mae’n rhaid bellach ddibynnu ar roddion ariannol gwirfoddol. Fel aelodau a chyn-aelodau o’r Dafydd, y rhai sydd wedi cael y budd mwyaf o waith y Dafydd, ni yw’r rhai amlwg i gyfrannu yn y ffordd yma. Felly, hoffwn gynnig cyfle i chi i wneud gwahaniaeth trwy gyfrannu bob hyn a hyn, fel na fydd angen i bwyllgorau’r dyfodol bryderu am sefyllfa ariannol y Dafydd. Mae dwy ffordd o gyfrannu: 1. Os ydych yn bancio ar-lein, gallwch gysylltu â’ch banc yn uniongyrchol i drefnu creu archeb sefydlog (standing order). Enw’r cyfrif: Cymdeithas Dafydd ap Gwilym; rhif y cyfrif: 27196468; côd didoli (sort code): 306359. 2. Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen isod er mwyn trefnu eich archeb sefydlog. I wneud hynny, bydd rhaid i chi fynd â’r darn gwaelod i’ch banc. Gellir canfod y ffurflen hefyd trwy ddilyn y ddolen ganlynol: https://goo.gl/Hzohw7. Byddai’n braf iawn, hefyd, pe baech chi’n anfon ebost atom (dafapgwil@gmail.com) gyda’ch manylion cyswllt, er mwyn inni anfon atoch i ddiolch am y rhodd a hefyd er mwyn cadw mewn cysylltiad at y dyfodol. Gwerthfawrogwn bob cyfraniad, boed yn fach neu’n fawr, yn fisol neu’n flynyddol, er mwyn sicrhau dyfodol y Dafydd. Byddwn yn ddiolchgar hefyd pe baech chi’n rhannu ein neges ag unrhyw un arall a fyddai â diddordeb neu a fyddai’n gallu ein helpu. Owain Caron James Coleg y Drindod

43


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2017-18, Awst 2018 CYMDEITHAS DAFYDD AP GWILYM

Amgaeaf Orchymyn Banc (£_____). / I enclose herewith a Bankers Order (£_____). Enw/Name

_________________________________

Cyfeiriad E-bost/Email Address _________________________________________________ Llofnod/Signature ______________________________ Dyddiad/Date _______________________ Banc/Bank ___________________________________________

GORCHYMYN BANC / BANKERS ORDER. At Sylw’r Rheolwr,/To The Manager, Banc______________________________________________________________________Bank

Cyfeiriad/Address ____________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ Talwch i Lloyds Bank, Plc., Aberhonddu gredyd i gyfrif Cymdeithas Dafydd ap Gwilym (Rhif Cyfrif: 27196468; Côd Didoli: 30-63-59) £_______ nawr ac ___________________ (e.e. yn flynyddol / yn fisol) hyd nes hysbysir yn wahanol. Please pay to Lloyds Bank, Plc., Brecon for credit to the A/c of Cymdeithas Dafydd ap Gwilym (A/c No. 27196468; Sort Code: 30-63-59) the sum of £_______ now and ________________ (e.g. annually / monthly) until further notice, charging such payment to the debit of my account.

Côd Didoli/Sort Code _______________________ Rhif Cyfrif/Account No. ______________________________________ Llofnod/Signature __________________________________________ Cyfeiriad/Address ______________________________________________________________________ ______________________________________________________________________ _________________________________ Côd Post/Post Code ________________________ Dyddiad/Date

_____________________________________

44

Y Drych 2017-18  

Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, Rhydychen. Rhifyn y flwyddyn academaidd 2017-18. Awst 2018. Darnau ac erthyglau gan: Elan Llwyd, Loi...

Y Drych 2017-18  

Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, Rhydychen. Rhifyn y flwyddyn academaidd 2017-18. Awst 2018. Darnau ac erthyglau gan: Elan Llwyd, Loi...

Advertisement