Page 1

intouch RHIFYN 74 | GWANWYN 2013 | AM DDIM

Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West

Yn y rhifyn hwn... Y diweddaraf am osod tai Ai lletywr yw’r ateb? Adroddiad Blynyddol Larwm mewn Argyfwng 2012/13 Cystadleuaeth ffotograffau – cyfle i ennill £100


O bryd i’w gilydd, mae pob angen rhoi ystyriaeth fanwl meddwl pa mor dda y mae mynd, a beth fyddai’n gwneud well.

cwmni i’w gwaith a pethau’n pethau’n

Rydym yn siarad gyda phobl bob ac yn gwybod pa mor anodd yw ganfod rhywle i fyw, a dyna pam ein bod ni eisiau tyfu a darparu rhagor o gartrefi i bobl leol. Rydym hefyd yn gwybod y gallwn wneud gwahaniaeth i’n preswylwyr drwy’r modd rydym yn rhedeg Tai Wales & West.

dydd hi i

Rydym wedi cymryd golwg fanwl arnom ni ein hunain, ar bopeth rydym yn ei wneud, ac eisiau dweud wrthych beth rydym wedi ei ganfod. Gydag In Touch fe fyddwch hefyd wedi cael eich copi o ‘Gwneud pethau’n iawn...’ Rhowch funud neu ddwy o’ch amser i ddarllen hwn, ac yna rhowch eich adborth i ni. Os gwnewch chi hynny, ac y byddwch yn rhoi eich manylion cyswllt i ni, fe gewch eich cynnwys yn ein raffl fawr. Mae’n hawdd iawn. Naill ai: atebwch y neges destun y gwnaethom ei hanfon atoch os oes gennym rif ffôn symudol cyfredol ar eich cyfer atebwch ar-lein ar ein gwefan www.wwha.co.uk Neu ewch i www.surveymonkey.com/s/Ge ngItRight2013 neu ffonio’r rhif rhadffôn 0800 052 2526 a gofyn am arolwg cwsmeriaid ‘Gwneud pethau’n iawn’ Bydd tri phreswyliwr ffodus a ddewisir ar hap o blith pawb sy’n rhoi adborth i ni yn ennill gwerth £100 o dalebau Argos. Ond peidiwch ag oedi – nodwch na fydd arolygon a gawn ar ôl 30 Mehefin yn cael eu cynnwys yn ein raffl fawr.

C I ENYFLE NILL

£10 o da

Argloebau s

0


Llythyr y golygydd | intouch | www.wwha.co.uk | 03

Llytyr y golygydd Croeso i rifyn gwanwyn 2013 o In Touch – y cylchgrawn arbennig ar gyfer preswylwyr Tai Wales & West. Mae cael digon o arian i dalu’r biliau, bwyta a chadw to uwch ein pennau yn gallu bod yn bryder o ddifrif i nifer o bobl yn yr oes sydd ohoni. Os yw hyn yn swnio’n gyfarwydd, cymerwch olwg ar ein hadran Materion Ariannol (tudalennau 16 i 18), sydd fel arfer yn eich cyfeirio ar ddigon o lefydd lle ceir cymorth a chyngor. Dewis arall, os ydych chi’n brin o arian, yw croesawu lletywr o bosibl (tudalennau 12 i 14). Rydym yn edrych ar y pethau o blaid ac yn erbyn hynny, ynghyd â darparu canllaw ar sut i fynd a , os ydych yn penderfynu fod hyn yn iawn i chi. A diolch i bawb a roddodd o’u hamser i ddweud wrthym beth maen nhw’n ei feddwl o’r hyn rydym yn bwriadu ei wneud gyda’r ffordd rydym yn gosod ein cartrefi (tudalennau 6 i 8). Yn olaf, ni allwch beidio â chael eich ysbrydoli gan ddwy stori wahanol iawn am bobl: Freda, sydd wedi rhoi’r gorau i ysmygu ac wedi arbed cymaint o arian fel ei bod hi wedi gallu prynu car newydd iddi hi ei hunan (tudalen 19), a Libby, sydd wedi cael ei swydd iawn gyntaf gyda ni (tudalen 32) – ac mae hi wrth ei bodd yn gwneud y gwaith!

Cadwch mewn cysyll ad!

Cysylltu â ni

Cynnwys Newyddion a gwybodaeth WWH Materion ariannol Byw’n iach Y diweddaraf am fanciau bwyd Cynnal a chadw wedi’i gynllunio Iechyd a diogelwch Adroddiad blynyddol y larwm mewn argyfwng Cymdogaethau sy’n gweithio Y datblygiadau diweddaraf Gwaith.sgiliau.profiad Adroddiad chwarterol Cydraddoldeb ac amrywiaeth Cyfranogiad preswylwyr Gwobrau gwneud gwahaniaeth Crynodeb o wobrau Y diweddaraf am elusennau Eich newyddion a’ch sa wyn au Byw’n wyrdd Pen-blwyddi a dathliadau Cystadleuaeth ffotograffau

4 16 19 20 22 24 26 29 31 32 35 40 42 45 47 49 51 52 53 55

Wyddech chi eich bod chi nawr yn gallu cael mwy o newyddion a diweddariadau ar-lein? Dilynwch ni ar twi er @wwha

Ieithoedd a fformatau eraill Os hoffech chi dderbyn copi o’r rhifyn hwn o In Touch yn y Saesneg neu mewn iaith neu fformat arall, er enghrai , mewn print bras, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni eich helpu chi.

Tai Wales & West Cyf., 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD | Ffôn: 0800 052 2526 | Testun: 07788 310420 E-bost: contactus@wwha.co.uk | Gwefan: www.wwha.co.uk Minicom: 0800 052 5205. Gallwch hefyd gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost. Er enghrai , joe.bloggs@wwha.co.uk


Egluro

04 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol

Paneli Rhent Oes gennych chi lawer o ôl-ddyledion rhent? Ydych chi’n gwrthod trafod gyda ni? Gallai hyn fod yn gyfle olaf i chi achub eich tenan aeth Yn ein rhifyn diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi erthygl ar ein gwasanaeth casglu rhen . Ynddi, fe wnaethom egluro ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth allwn ni i’ch helpu i dalu eich rhent a rheoli eich arian yn effeithiol. Fe wnaethom hefyd egluro nad ydym eisiau troi pobl allan - ond efallai y bydd yn rhaid i ni wneud hynny fel y dewis terfynol. Bydd hyn yn digwydd os nad ydych yn siarad gyda ni er mwyn i ni gytuno ar ffordd i chi dalu’r arian sy’n ddyledus i ni, sef eich ôl-ddyledion rhent. Serch hynny, fel sefydliad sy’n ymfalchïo mewn bod yn deg, rydym eisiau rhoi un cyfle olaf i unrhyw breswyliwr sy’n wynebu cael eu troi allan cyn i ni gymryd camau cyfreithiol i atafaelu eu cartref. Gan hynny, fel rhan o’n Gwasanaeth Casglu Rhen , rydym wedi cyflwyno ein Panelau Ren ein hunain. Yn ei hanfod, mae Gwrandawiad Panel Rhent yn drafodaeth cyfle olaf, lle gofynnir

i breswyliwr ddod i gyfarfod gyda’u Swyddog Tai, Rheolwr Tai a / neu’r Pennaeth Tai. Nod y panel yw cyrraedd cynllun talu sy’n addas i’r preswyliwr er mwyn atal cartref y preswyliwr rhag cael ei atafaelu. Lle bo’r angen, bydd swyddog Cyngor ar Arian yn bresennol neu wrth law i roi cyngor a chymorth gyda chyllidebu. Mae barnwyr ledled y wlad wedi croesawu ein dull, sy’n dangos iddyn nhw ein bod ni wirioneddol wedi rhoi cynnig ar bopeth i ymgysylltu â’n preswylwyr er mwyn osgoi gorfod defnyddio’r broses gyfreithiol i atafaelu eu cartrefi. • Yn ystod 2012, fe wnaethom gynnal 62 Panel Rhent • Daeth 54 preswyliwr i’r cyfarfodydd hynny, ac maen nhw’n cadw at y trefniadau ac yn dal yn eu cartrefi • Fe wnaeth 18 preswyliwr naill ai beidio â bod yn bresennol neu beidio â chadw at y cytundeb, ac maen nhw wedi colli eu cartref erbyn hyn.


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 05

Newidiadau

i fudd-daliadau

goroesi ’r storm Mae’r newidiadau i fudd-daliadau wedi bod yn nodwedd amlwg ar ein hagenda, ac yn parhau i fod felly, yn enwedig effaith ‘y dreth ar ystafelloedd gwely’, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill.

Drwy weithio’n effeithlon ag awdurdodau lleol ledled Cymru, rydym wedi gallu nodi dros 800 o aelwydydd WWH ledled Cymru a fydd yn cael eu heffeithio gan y newid. Mae ein staff wedi cysylltu â’r holl breswylwyr a gaiff eu heffeithio i esbonio’r newidiadau, trafod yr effaith bosibl ar gyllidebau aelwydydd a gweithio gyda nhw i ganfod atebion fforddiadwy. Hyd heddiw, mae’r mwyafrif llethol o’n preswylwyr wedi dweud wrthym eu bod nhw’n bwriadu aros yn eu cartrefi presennol, er y bydd nifer yn cael anhawster dod o hyd i’r arian sydd ei angen yn lle’r budd-dal a gollir. Gan gydnabod y bydd nifer o’n preswylwyr angen rhagor o help i gynnal eu tenantiaethau, rydym hefyd wedi buddsoddi’n drwm mewn darparu cymorth parhaus drwy greu saith swydd gwbl newydd – y Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth. Bydd y swyddogion yn dechrau gweithio gyda ni yn awr ledled Cymru, gyda

Natalie Davies ac Amanda Collins, dwy o’n saith Swyddog Cefnogi Tenan aeth newydd, yn mwynhau seibiant dros baned yn ein swyddfa yng Nghaerdydd

phedwar (Natalie Davies, Amanda Collins, Stuart Lock a Sharon Jones) yn y De, un (Donna Steven) yn y Canolbarth a dau (William Brook a Jen Bailey) yn gweithio yng Ngogledd Cymru. Fe fyddan nhw’n gweithio gyda phreswylwyr i’w helpu nhw i ddelio ag effaith yr holl newidiadau arfaethedig i fudd-daliadau, gan gynnwys cyflwyno’r Credyd Cynhwysol, gan roi’r wybodaeth, y dewisiadau, y nerth a’r gobaith iddyn nhw allu goroesi’r storm. Wrth gwrs, un o effeithiau’r dreth ar ystafelloedd gwely yw ein bod ni’n gweld rhai o’n cartrefi mwy o faint – yn enwedig cartrefi teuluol â thair ystafell wely – ar gael. Unwaith eto, rydym yn gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid yn yr awdurdodau lleol, a phob partner priodol arall, i sicrhau fod y bobl briodol sydd angen tai yn cael mynediad at y cartrefi fforddiadwy hyn.


06 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol

Newid ein dull o

osod tai

Yn rhifyn blaenorol In Touch, fe wnaethom ddweud wrthych am ein cynlluniau i newid y ffordd rydym yn rhoi cartrefi ar osod. Er bod ein polisi cyffredinol yn aros yr un fath, efallai y cofiwch ein bod yn bwriadu newid maint y tŷ neu’r fflat y byddem yn ei gynnig i deulu, fel ei fod yn cydymffurfio â rheolau newydd ‘y dreth ar ystafelloedd gwely’. Fe wnaethom ofyn i chi am eich sa wyn au ac am farn nifer o unigolion a sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw. Cawsom 41 ymateb gyda’i gilydd: roedd 21 o blaid y cynigion, nid oedd 5 yn cytuno, ac roedd y 15 arall yn ansicr, neu heb nodi barn. Fe wnaethom ystyried sylwadau pawb, ac rydym wedi newid rhywfaint ar ein cynigion.

Felly, sut bydd y newidiadau yn effeithio arnoch chi? Rydym yn cynnig rhoi ein cartrefi ar osod yn unol â rheolau’r dreth ar ystafelloedd gwely, felly mae’n bosibl y bydd hyn yn effeithio arnoch chi os ydych eisiau trosglwyddo o’ch cartref presennol gyda WWH i un gwahanol. Mae’r dull newydd yn gymwys i bob preswyliwr o oedran gweithio, pa un ai a ydych yn cael budd-dal tai ai peidio. Nid yw preswylwyr sy’n cael credyd pensiwn yn cael eu heffeithio gan y newid hwn. Mae’r tabl gyferbyn yn crynhoi’r prif newidiadau. Os ydych yn rhiant sengl

gyda mynediad at blentyn / plant, gallwch weld mai dim ond fflat/tŷ ag un ystafell wely y mae gennych hawl i’w chael, felly ni fyddwch yn gallu trosglwyddo i lety mwy o faint. Os ydych yn deulu gyda dau o blant dan ddeg oed sydd eisoes yn byw mewn tŷ dwy ystafell wely, ni fyddwch yn gallu ymgeisio am dŷ mwy o faint. Mae rhai eithriadau i’r tabl, ac mae’r rhain wedi cael eu cyflwyno o ganlyniad i’r ymgynghoriad y gwnaethom ei gynnal. Rydym yn fodlon ystyried tan-feddiannu dan yr amgylchiadau a ganlyn: • Pan fyddwn yn cael anhawster canfod teuluoedd digon mawr i lenwi tŷ yn ôl y canllawiau; • Lle mae angen dybryd am lety, fel yr an gen i ddarparu neu dderbyn cymorth, neu lle mae perygl o drais, ac nad oes cartrefi o’r maint priodol; • Aelwydydd sydd angen llety o ganlyniad i angen meddygol neu anabledd corfforol/meddyliol, pan na fydd llety llai o faint yn cwrdd â’u hangen yn rhesymol.


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 07

CARTREF i’w GOFRESTRU

MATH O DEULU (PRESENNOL)

Stiwdio / fflat / tŷ 1 ystafell wely Unigolyn Fflat / tŷ 1 ystafell wely

Cwpl heb blant

MATH O DEULU (ARFAETHEDIG) Unigolyn Cwpl heb blant Rhiant unigol gyda mynediad at blentyn / plant

Fflat, fflat deulawr neu dŷ dwy ystafell wely

Cwpl neu riant unigol gyda phlentyn Rhiant unigol gyda mynediad at blentyn

Fflat, fflat deulawr neu dŷ tair ystafell wely

Cwpl neu riant unigol gyda 2 neu 3 phlentyn, heb ystyried eu rhyw Rhiant unigol gyda mynediad at 2 neu 3 phlentyn, heb ystyried eu rhyw

Cwpl neu riant unigol gyda phlentyn Cwpl neu riant unigol gyda 2 blentyn dan 10 oed Cwpl neu riant unigol gyda 2 blentyn o’r un rhyw dan 16 oed Cwpl neu riant unigol gyda bachgen a merch, gydag o leiaf un dros 10 oed Cwpl neu riant unigol gyda 3 phlentyn Cwpl neu riant unigol gyda 4 plentyn (2 fachgen a 2 ferch) Cwpl neu riant unigol gyda 4 plentyn (3 o’r un rhyw, 1 o’r rhyw arall, lle mae o leiaf 2 o’r plant dros 10 oed, a ddim o’r un rhyw)

Fflat, fflat deulawr neu dŷ pedair ystafell wely

Cwpl neu riant unigol gyda 4 neu 5 plentyn, heb ystyried eu rhyw

Cwpl neu riant unigol gyda 4 plentyn (3 o’r un rhyw, 1 o’r rhyw arall, lle mae o leiaf 3 o’r plant dros 10 oed) Cwpl neu riant unigol gyda 5 plentyn


08 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol Yn yr holl achosion hyn, fe wnawn ni gynnal prawf gwirio i sicrhau eich bod yn gallu fforddio talu’r rhent ac unrhyw ddiffygion ariannol o ganlyniad i’r dreth ar ystafelloedd gwely. Bydd yn rhaid i chi hefyd ddarparu rhywfaint o brawf i ni eich bod chi angen symud ar frys.

Os ydych ar ein rhestr drosglwyddo yn barod, yna efallai eich bod chi wedi cael galwad ffôn yn barod gan ein Tîm Dewisiadau Tai i drafod eich cais am drosglwyddiad. Os nad ydych wedi clywed gennym yn barod, yna fe wnawn ni gysylltu â chi’n fuan.

Mewn amgylchiadau eraill, gan gynnwys y rhain, fe wnawn ni ganiatáu tan-feddiannu heb wirio eich bod yn gallu fforddio talu’r rhent:

Os ydych yn ystyried ymgeisio am drosglwyddiad, yna siaradwch gyda’ch Swyddog Tai neu ffoniwch ein Tîm D ewisiadau Tai ar 0800 052 2526. Fe fyddan nhw’n gallu eich cynghori ar y sefyllfa yn eich ardal ac ynghylch eich amgylchiadau personol.

• Aelwydydd gyda phlentyn heb ei eni, sy’n golygu y byddan nhw’n gymwys am ystafell wely ychwanegol, neu lle bydd oedrannau’r plant yn golygu y byddan nhw’n gymwys am ystafell wely ychwanegol ymhen dwy flynedd; • Lle mae aelod hynaf aelwyd preswyliwr yn cael credyd pensiwn o fewn dwy flynedd, ac felly wedi’u heithrio rhag ‘y dreth ar ystafelloedd gwely’.

Enillydd Debyd Uniongyrchol

Nodwch – rydym yn aelodau o Restrau Aros Cyffredin yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg, felly gallai rheolau gwahanol fod yn gymwys.

£ £ £

Cyfle i ennill £100 drwy dalu eich rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol Miss A Burgess, o Lwyn Alun, yr Hob, Sir y Fflint, yw enillydd lwcus y £100 yn ein raffl chwarterol diweddaraf i breswylwyr Debyd Uniongyrchol, a bydd yn cael ei siec gennym ni’n fuan iawn. I fod yn gymwys am le yn y raffl, y cyfan y mae gofyn i chi ei wneud yw talu eich rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol. Mae

hi mor hawdd â hynny, ac mae’n hawdd iawn sefydlu’r cyfan.

Cysylltwch â’ch Swyddog Tai, a wnaiff eich helpu gydag unrhyw ymholiad a allai fod gennych, neu ffoniwch ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0800 052 2526.


Hysbyseb | intouch | www.wwha.co.uk | 09

Helping tenants across Wales to swap homes using Facebook

Yn helpu tenantiaid ledled Cymru i gyfnewid cartrefi gan ddefnyddio Facebook Like our Facebook page Hoffwch ein tudalen

Facebook

1 2

Dangoswch eich cartref

£

Post your property

Join a group

Ymunwch â grŵp

3

4

Find a swap!

Dewch o hyd i gyfnewidiwr!

www.houseswapwales.co.uk facebook.com/houseswapwales

Noddwyd Sponsoredgan by


10 | www.wwha.co.uk | intouch | Hysbyseb

LJŇĞĞĐǁŝƟĂƌĞŶŶŝƌ Brython Drive Llaneirwg, Caerdydd zĚLJĐŚĐŚŝ͛ŶLJƐƚLJƌŝĞĚƉƌLJŶƵĞŝĐŚĐĂƌƚƌĞĨĞŝĐŚŚƵŶĂŶ͍ Mae gennym 3 chartref hyfryd Etz ar werth am 70% o bris y farchnad. Fel arfer, byddai’r tai 2 ystafell wely hyn yn ĐŽƐƟŽάϭϭϵ͕ϬϬϬ͕ŽŶĚƌLJĚLJŵLJŶĞƵĐLJŶŶŝŐ ĂƌLJĨĂƌĐŚŶĂĚĂŵĚĚŝŵŽŶĚάϴϯ͕ϯϬϬĚĂŶ ĞŝŶLJŶůůƵŶĐǁŝƟĂZĞŶŶŝƌ͘DĂĞŶŶŚǁ ŵĞǁŶĂƌĚĚƵůůĚƌĂĚĚŽĚŝĂĚŽůŐLJĚĂŚŽůů fanteision adeilad newydd, gan gynnwys: ͻ īĞŝƚŚůŽŶƌǁLJĚĚLJŶŶŝŝĂƌďĞĚĂƌŝĂŶ ͻ ƌLJƐĂƵƉĂƟŽ ͻ DĂŶƉĂƌĐŝŽĚLJŶŽĚĞĚŝŐ ͻ 'ĂƌĚĚLJŶLJĐĞĨŶ͕ŐĂŶŐLJŶŶǁLJƐƉĂƟŽ

ǁĐŚŝǁǁǁ͘ǁǁŚĂ͘ĐŽ͘ƵŬŶĞƵīŽŶŝǁĐŚLJƌŚŝĨƌŚĂĚīƀŶϬϴϬϬϬϱϮ ϮϱϮϲĂŐŽĨLJŶĂŵLJdŠŵĞǁŝƐŝĂĚĂƵdĂŝ LJĨLJŶŶǁĐŚϬϭͬ/dͬϬϱϭϯ


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 11

Shayne yn cyflwyno

tys olaeth i’r Senedd

Fe wnaeth Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Masnachol WWH, ymuno â ffigyrau blaenllaw eraill o’r sector tai cymdeithasol yng Nghymru i roi tys olaeth i senedd San Steffan ynghylch effaith ‘y dreth ar ystafelloedd gwely’. Cyflwynodd Shayne dys olaeth i’r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig ar 16 Ebrill, ac eglurodd nad oes digon o gartrefi un ystafell wely i bobl eu newid am eu cartrefi mwy o faint er mwyn osgoi effeithiau’r ‘dreth ar ystafelloedd gwely’. Cafodd gwmni Nick Benne , Prif Weithredwr Tai Cymunedol Cymru, Duncan Forbes, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Cymunedol Bron Afon, ac Antonia Forbes, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Cynon Taf, a gyflwynodd dys olaeth yn y Pwyllgor yn ogystal. Y diwrnod blaenorol, roedd Gweinidog Tai Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi

tys olaeth gerbron y Pwyllgor, sy’n cael ei gadeirio gan David Davies AS. Cynhaliwyd pedwaredd sesiwn ddydd Mawrth 14 Mai am 9.30am yn Ystafell Thatcher, Tŷ’r Porthcwlis, lle bu’r Arglwydd Freud, Is-ysgrifennydd Gwladol y Senedd ar Waith a Phensiynau, yn cyflwyno ei dys olaeth gerbron y Pwyllgor. Cafodd y sesiwn hon ei darlledu ar y teledu, hefyd.

Mae’r Pwyllgor yn ystyried yr holl dys olaeth a gafodd. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ewch i h p://www.parliament.uk/welshcom Yna cliciwch ar y tab ‘The impact of changes to housing benefit in Wales.’ Yno, gallwch ddarllen yn llawn y dys olaeth a gyflwynodd yr holl dys on gerbron y Pwyllgor, a gwylio fideos o Shayne a’i gydweithwyr yn siarad gyda’r Aelodau Seneddol.


12 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol

Cymryd lletywr

y manteision a’r anfanteision Os oes gennych ystafell neu ystafelloedd sbâr yn eich cartref, efallai yr hoffech ystyried cymryd lletywr. Gallai hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol os ydych chi’n ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd o ganlyniad i newidiadau yn y system fudd-daliadau. Yma, rydym yn bwrw golwg ar yr hyn mae’n ei olygu, y manteision a’r anfanteision, a sut i fynd i’r afael â’r mater os penderfynwch fod cymryd lletywr yn addas i chi.

Manteision cymryd lletywr • Fe gewch chi incwm ychwanegol • Ni fydd yr £20 cyntaf o’r incwm wythnosol a gewch drwy gymryd lletywr yn effeithio ar eich budd-daliadau. • Gallwch ennill hyd at £4,250 y flwyddyn mewn rhent cyn i chi orfod talu unrhyw dreth incwm. • A gan fod y rhent blynyddol hwn o £4,250 yn “ddi-dreth”, ni fydd yn effeithio ar faint o Gredydau Treth Plant na Chredydau Treth Gwaith a gewch, chwaith. • Cwmni / cyfeillgarwch • Diogelwch – rhywun arall yn eich cartref • Sgiliau ychwanegol yn eich cartref

Anfanteision cymryd lletywr • Bydd yn rhaid i chi fod yn fodlon â’r syniad o rannu eich cartref â dieithryn • Byddai perthynas neu ffrind agos yn byw gyda chi ac yn byw fel aelod o’ch aelwyd fel arfer yn cael ei drin fel rhywun ‘nad yw’n ddibynnol arnoch’ o ran budd-daliadau, a byddai eu hincwm yn effeithio ar eich budd-dal tai. • Os ydych yn cael mwy na £20 yr wythnos o rent, mae’r arian ychwanegol yn debygol o effeithio ar eich budd-daliadau. Serch hynny, rydych yn dal yn debygol o fod ar eich ennill. Bydd eich swyddog tai, eich awdurdod lleol neu eich cymdeithas cyngor ar dai yn gallu dweud wrthych yn union beth fydd effaith yr arian ychwanegol hwn ar eich budd-daliadau. • Gall pethau fynd o’u lle os nad ydych yn glir o’r dechrau beth sy’n dderbyniol yn eich cartref, a beth na fyddwch yn ei oddef. Os aiff pethau o’u lle, ac nad ydych yn gallu trafod yn ddigynnwrf a sydyn i ddatrys unrhyw broblem, fe allai eich cartref fod dan straen a llawn tensiwn, yn hytrach na’ch hafan dawel o sŵn y byd.


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 13

Wedi ystyried popeth ac eisiau bwrw ymlaen â phethau? Dyma ein harweiniad gam wrth gam ar rentu ystafell 1. Siaradwch gyda ni, eich landlord Mae’n rhaid i chi ein cynnwys ni yn eich penderfyniad i gymryd lletywr, gan y bydd modd i ni eich cynghori os yw hyn yn bosibl dan eich cytundeb tenan aeth gyda ni. Ffoniwch y rhif rhadffôn 0800 052 2526 a siaradwch gyda’n Tîm Dewisiadau Tai, neu siaradwch gyda’ch Swyddog Tai y cyfle cyntaf gewch chi. Fe allan nhw – ac fe wnawn nhw – eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a yw cymryd lletywr yn addas i chi. 2. Paratowch eich cartref ar gyfer rhentu Sicrhewch fod eich cartref a’r ystafell rydych eisiau ei rhentu yn ddiogel, ddim mewn perygl o dân, a bod y mesurau diogelwch cyffredinol yn eu lle. Yn ogystal, siaradwch gyda’ch darparwr budd-daliadau i wirio a fydd yr arian ychwanegol yn effeithio ar eich hawl am fudd-daliadau, ac os felly, beth fydd yr effaith. Fe allai fod yn fuddiol i chi siarad gyda’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. 3. Felly, faint o dâl gaf i ei godi? Yr ateb, wrth gwrs, yw ‘mae’n dibynnu’. Bydd sawl ffactor yn effeithio ar werth eich ystafell. Bydd y lleoliad, math y cartref, safon yr addurno, y dodrefn ac a , i gyd yn effeithio ar yr hyn y gallwch godi tâl amdano. Y cyfartaledd yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd am ystafell ddwbl, gan gynnwys rhywfaint o’r biliau, yw tua £90 yr wyth-

nos. Trowch at www.spareroom.co.uk a chymerwch olwg ar faint mae pobl eraill gerllaw yn ei godi. Rhowch eich cod post neu enw’r ardal yn y blwch chwilio ar y dudalen gartref a chliciwch ar y botwm chwilio. Neu, fe allech wirio faint mae pobl eraill yn ei godi yn eich ardal chi ar wefannau fel gumtree. com, neu yn adran ‘ystafelloedd ar osod’ eich papur lleol. 4. Hysbysebu Ceisiwch roi hysbysiad yn eich siop leol neu ewch ar-lein a hysbysebwch yr ystafell am ddim drwy un o sawl gwefan sydd ar gael. Os ydych yn byw’n agos at goleg neu brifysgol, efallai y byddwch eisiau cofrestru eich diddordeb gyda nhw mewn rhoi ystafell ar osod. 5. Canfod rhywun sy’n iawn i chi Mae gadael i rywun fyw yn eich cartref yn gam mawr, felly mae’n talu bod yn barod. Cymerwch eich amser wrth siarad gyda’r bobl sy’n dod i weld eich cartref er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gweddu’n dda ar gyfer eich cartref. Y mae hefyd yn dda pennu rheolau cyffredinol yn gynnar, fel bod y ddwy ochr yn gwybod beth i’w ddisgwyl. 6. Gofynnwch am dystlythyrau Gofynnwch i’ch lletywr newydd a allan nhw ddarparu tystlythyrau gan gyflogwr neu landlord blaenorol. Mae’n well cael y rhain ar bapur, ac ni fyddai’n ddrwg o beth ffonio i wirio gyda’u canolwr. Fe all hyn roi rhagor o dawelwch meddwl i chi fod y cytundeb rydych yn bwriadu ei sefydlu yn debygol o fod yn iawn.


14 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol 7. Trefnwch gytundeb ysgrifenedig Trefnwch gytundeb ysgrifenedig rhyngoch chi a’ch lletywr. Mae hyn yn bwysig – i’r ddau ohonoch, ac at hwn y byddwch yn cyfeirio petai pethau’n mynd o’u lle. Dylai eich cytundeb ysgrifenedig gynnwys: • swm y rhent a manylion talu • pa ystafelloedd/cyfleusterau gaiff eich lletywr eu defnyddio • gwasanaethau rydych yn cytuno i’w darparu • manylion am rannu biliau’r aelwyd • hyd y cyfnod nes bydd swm y taliad yn cael ei adolygu • rheolau’r tŷ • cyfnod hysbysu.

Am ragor o wybodaeth, h, ewch ment/ i www.gov.uk/government/ oomspublica ons/le ng-rooms-forin-your-home-a-guide-forresident-landlords

Os yw hyn yn codi rhywfaint o ofn arnoch, peidiwch â phoeni. Mae sawl canllaw da ar gytundebau lletywyr ar gael mewn siopau llyfrau, gwerthwyr papurau neu ar-lein. Neu ffoniwch ein Tîm Dewisiadau Tai, fydd yn gallu anfon copi atoch.

Cynghorion syml i’ch helpu i gadw’n ddiogel • Trefnwch fod ffrind y gallwch ymddiried ynddyn nhw gyda chi pan fyddwch yn cyfweld lletywyr posibl • Cadwch eich nwyddau gwerthfawr dan glo yn ystod y cyfweliad • Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r cyfweliad fel cyfle i holi ynghylch unrhyw beth sy’n sy n eich pryderu


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 15

Arolwg Bodlonrwydd Preswylwyr - enillwyr! IYm mis Hydref a Thachwedd 2012 fe wnaethom gynnal ein harolwg bodlonrwydd preswylwyr blynyddol, a anfonwyd at draean o’n preswylwyr yn gofyn iddyn nhw am eu sa wyn au ar amrywiaeth eang o wasanaethau. Fe wnaethom grynhoi canlyniadau’r arolwg hwn yn rhifyn blaenorol In Touch. I ddiolch i breswylwyr am lenwi a dychwelyd yr arolwg, cafodd pob aelwyd eu cynnwys mewn raffl fawr, a’r enillwyr ffodus oedd: Gwobr 1af o £100 mewn talebau Argos i Mr Phil Jones yn Llai, Wrecsam. Dywedodd wrthym, “Dyna syrpreis hyfryd! Diolch yn fawr iawn, Wales & West. Dyma’r peth cyntaf i mi ei ennill mewn 70 mlynedd!”

Aeth yr ail wobr o £75 mewn talebau Argos i Jackie Desmond o Dreganna, Caerdydd. “Rydw i mor hapus – dydw i byth yn ennill dim byd, ac rydw i’n mynd i brynu glanhawr carpedi Vax. Diolch yn fawr iawn i chi,” meddai .

Claire Jones, y Swyddog Tai, gyda’r enillydd Jackie Desmond

Rhian Marsh, y Swyddog Tai, yn cyflwyno’r wobr i Phil.

Ac aeth y 3edd gwobr o £50 mewn talebau Argos i Miss R Jones o’r Wyddgrug. Llongyfarchiadau i’n holl enillwyr, a diolch yn fawr i bawb a roddodd o’u hamser i lenwi ein harolwg.


16 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion ariannol

Yn poeni am newidiadau i fudd-daliadau?

Does dim angen. Mae help wrth law. Yn gyntaf, rhowch gynnig ar www.yourbenefitsarechanging.co.uk. Rhedir y cynllun gan Tai Cymunedol Cymru, ac mae’r wefan hon hefyd y cynnig digonedd o wybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i ddygymod â’r newidiadau i’r system fudd-daliadau. Mae dolenni i’r wefan hon o’n gwefan ein hunain: www.wwha.co.uk. A pheidiwch â phoeni os nad ydych ar-lein. Ffoniwch 0300 303 1073, neu anfonwch y gair ‘change’ mewn neges destun i 80018 ac fe wnaiff cynghorwr eich ffonio chi yn ôl. Neu gallech roi cynnig ar Turn2us. Mae Turn2Us yn elusen sy’n helpu pobl i gael mynediad at yr arian sydd ar gael iddyn nhw – drwy fudd-daliadau, gran au a dulliau eraill.

Yn ddiweddar, maen nhw wedi llunio gwefan ragorol sy’n amlygu’r holl newidiadau i’r system fudd-daliadau. Ewch i www.benefitsawareness.org.uk Gallwch hefyd gysylltu â’r safle hwn o’n gwefan ni: www.wwha.co.uk lle ceir rhagor o wybodaeth ynghylch rheoli eich arian yn yr adran preswylwyr. A pheidiwch ag anghofio y gallwch siarad gyda’ch swyddog tai ynghylch eich cyllid ac unrhyw beth sy’n peri pryder i chi, unrhyw dro.


Materion ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 17

Lwfans byw i’r anabl – y diweddaraf Ar ôl canolbwyn o ar y dreth ar ystafelloedd gwely yn rhifynnau blaenorol InTouch, y tro hwn rydym yn rhoi sylw i newid i fudd-daliadau sydd heb gael llawer o sylw. Mae Lwfans byw i’r anabl (DLA) yn fudddal y gallwch ei hawlio os ydych angen help gyda chostau cynyddol o ganlyniad i anabledd. Efallai bod gennych hawl i’w gael os ydych angen help i ofalu amdanoch eich hunan neu os ydych yn cael anhawster cerdded. O fis Mehefin 2013 yng Nghymru, nid yw’r Llywodraeth yn derbyn ceisiadau newydd am DLA os ydych rhwng 16 a 64 oed, gan gynnig budd-dal newydd yn ei le o’r enw Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP). Bydd yr asesiad newydd hwn o fudd-daliadau yn canolbwyn o ar sut mae eich anabledd yn effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd a sut mae’n effeithio ar eich gallu i wneud gwahanol bethau. Bydd gofyn i’r rhan fwyaf o bobl ddod i ymgynghoriad wyneb yn wyneb â gweithiwr iechyd proffesiynol cyn gwneud unrhyw ddyfarniad. Os ydych yn hawlio’r DLA ar hyn o bryd, bydd y broses o drosglwyddo i PIP yn digwydd ar adegau gwahanol, yn dibynnu ar eich dyfarniad: • O fis Hydref 2013, os ydych yn hawlio DLA yn barod ac yn cyrraedd diwedd eich dyfarniad presennol neu’n rhoi gwybod am newid yn eich anghenion gofal neu symudedd, cewch eich gwahodd i hawlio PIP. • os oes gennych blentyn sy’n cael DLA a’u bod nhw’n cael eu pen-blwydd yn

16 oed yn ystod neu ar ôl mis Hydref 2013, fe gawn nhw hefyd eu gwahodd i hawlio PIP. • Ar gyfer unrhyw un arall sy’n cael DLA ac yn meddu ar ddyfarniad penagored (nid ydych wedi cael cyfarwyddyd i adnewyddu eich hawl i gael DLA) ni fyddwch yn cael eich effeithio gan y newid hwn tan fis Hydref 2015. Os ydych ar-lein, mae modd cael rhagor o wybodaeth ar www.gov.uk/pip


18 | www.wwha.co.uk | intouch |Materion ariannol

Y gwasanaeth cyngor ar arian Mae’r Gwasanaeth Cyngor ar Arian yn wasanaeth annibynnol, a sefydlwyd gan y llywodraeth i helpu pobl i wneud y defnydd gorau o’u harian. Maen nhw’n rhoi cyngor di-dâl, diduedd i bawb ledled y Deyrnas Unedig – ar-lein, ar y ffôn ac wyneb yn wyneb. O gyngor ariannol ar sut i ddelio â digwyddiadau sy’n newid bywydau, fel cael baban neu ymddeol i gynghorion cyffredinol ynghylch rheoli eich arian, mae gan y Gwasanaeth Cyngor ar Arian wybodaeth ddefnyddiol i bawb. Mae gan y wefan gyngor ynghylch y Credyd Cynhwysol, sef system fudd-daliadau newydd y Llywodraeth y mae disgwyl iddi gael ei rhoi ar waith ledled Prydain erbyn diwedd 2013. Er na fydd hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o bobl yn y dyfodol agos, mae rhai agweddau y byddai’n werth paratoi ar eu cyfer yn awr:

Ewch ar-lein

Bydd y system newydd yn gofyn i bobl hawlio eu budd-dal ar-lein. Er bod defnyddio’r rhyngrwyd yn gallu ymddangos yn frawychus, mae nifer o lyfrgelloedd yn cynnal sesiynau i ddangos i bobl sut i’w ddefnyddio a dangos iddyn nhw fuddiannau niferus defnyddio’r rhyngrwyd yn eich bywyd bob dydd. Neu ffoniwch Cymunedau 2.0 ar 0845 474 8282, a allai

ddweud wrthych chi am gyrsiau addas sy’n lleol i chi.

Agor cyfrif banc Bydd y Credyd Cynhwysol yn cyfuno’r holl fudd-daliadau rydych yn eu cael mewn un swm misol, y bydda angen ei dalu i mewn i gyfrif banc. Mae gan y Gwasanaeth Cyngor ar Arian lawer o gyngor ynghylch agor cyfrif banc, crynhoi’r cyfrifon sydd ar gael a’r broses o agor cyfrif.

Cewch ragor o wybodaeth drwy fynd i www.moneyadviceservice. org.uk, eu ffonio nhw ar 0300 500 5000 neu drefnu apwyn ad wyneb y wyneb drwy ffonio 0300 330 0520.


Byw’n iach | intouch | www.wwha.co.uk | 19

Arbed arian

ac achub eich bywyd... Nid yw hi byth yn rhy hwyr i roi’r gorau i ysmygu “Ni allai unrhyw beth fy atal rhag ysmygu 30 sigarét bob dydd a hyd at 12 paced yr wythnos” meddai Freda Watkins, un o breswylwyr WWH ac un sy’n falch ei bod wedi rhoi’r gorau i ysmygu. Cafodd Freda ei sigarét gyntaf pan oedd yn 14 oed. “Roedd naw o’r un ar ddeg oedd yn fy nheulu yn ysmygu. Roeddem yn teimlo’n cŵl ac aeddfed, ac roedd pawb wrthi bryd hynny. “Yn 32 oed, cefais fy nhrawiad gyntaf ar y galon, a hyd yn oed ar ôl tri thrawiad arall a thair strôc, doeddwn i ddim yn gallu rhoi’r gorau iddi - roedd yr arfer wedi cael gafael arna i,” cyfaddefodd. “Dros y blynyddoedd rydw i wedi rhoi cynnig ar hypnotherapi, plasteri atal ysmygu a hyd yn oed sigaréts electronig, ond nid oedd unrhyw beth yn gweithio nes i mi gael ‘yr’ alwad i newid fy arferion – dywedodd fy meddyg wrthyf fod yn rhaid i mi roi’r gorau i ysmygu neu byddwn yn colli fy nghoesau o fewn deuddeg mis. Hyd yn oed wedyn, fe wnes i gael sigarét ar ôl mynd adref! “Ond yn sydyn, sylweddolais beth oedd yn digwydd, a rhoddais y gorau i ysmygu ar unwaith. 28 Rhagfyr 2012 oedd hi, ac mae’r dyddiad wedi ei serio ar fy nghof. “Mae fy ngŵr David yn ysmygu, ond mae wedi lleihau nifer y sigaréts y mae’n eu hysmygu yn arw ers i mi roi’r gorau iddi, ac mae’n mynd allan i ysmygu; dwi’n meddwl y gwnaiff yntau roi’r gorau iddi maes o law.

Daethom yn ôl i Gymru o Sussex yn 1999, ac rydym yn mwynhau ein fflat gyda WWH yn Danymynydd yng Nghwm Garw - mae’r bob l mor gyfeillgar yma. Roedd yn rhaid i ni gael gwared ar yr holl ddodrefn yn y fflat, o’r cyrtens i’r carpedi, oherwydd roeddwn yn dal i allu arogli mwg sigaréts. Yn ogystal â chael gwedd newydd ar y fflat, rydw i wedi gallu prynu car Mitsubishi Colt coch newydd llachar fel anrheg i mi fy hun gyda’r holl arian rydw i wedi ei arbed. Mae’n wych. “A minnau’n 62 oed, mae fy iechyd yn gwella’n raddol – rydw i’n gallu cerdded ymhellach heb flino, ac mae’r buddiannau yn dal i ddod i’r amlwg. Mae fy nheulu mor falch ohonof. Rydw i’n teimlo bod meddwl yn gadarnhaol wedi bod o gymorth - dweud wrthyf fy hunan y gallwn lwyddo, a pheidio â gadael i bethau fynd yn drech na mi. “Os yw’r neges hon yn cymell dim ond un i roi’r gorau i ysmygu, yna byddaf yn falch iawn, a bydd y cyfan werth yr ymdrech.” Ydych chi eisiau rhoi’r gorau iddi? Am ragor o wybodaeth, cymorth ac i ofyn am becyn rhoi’r gorau iddi yr NHC, ewch i: www.smokefree.nhs.uk neu ffoniwch Smokefree ar 0800 0224 332


20 | www.wwha.co.uk | intouch | Y diweddaraf am fanciau bwyd

Cefnogi

banciaubwyd ledled Cymru

Mae adroddiad diweddar * yn nodi bod yr aelwydydd tlotaf ym Mhrydain wedi gwario tua chwarter o’u hincwm ar fwyd 2012. Dywedodd pedwar o bob pum athro hefyd bod rhai o’u disgyblion yn llwglyd pan maen nhw’n cyrraedd yr ysgol. Gyda biliau bwyd aelwydydd ar gynnydd, mae disgwyl i’r ffigyrau hyn gynyddu hefyd. Rydym yn cefnogi Ymddiriedolaeth Trussell, elusen sy’n cynnal banciau bwyd mewn cymunedau lleol. I wneud hyn, rydym wedi sefydlu mannau casglu banciau bwyd yn: • • • • • • •

Y brif swyddfa, Caerdydd Swyddfa’r Fflint Tŷ Wilfred Brook, Caerdydd Hanover Court, y Barri Tŷ Pontrhun, Merthyr Tudful Cwrt Anghorfa yn y Pîl ac ym mis Ebrill 2013 yn Nhŷ Gwaunfarren, Merthyr Tudful

Ers i ni ddechrau gwneud hyn fis Rhagfyr llynedd, mae pum banc bwyd o bob rhan o Gymru wedi cael cyfraniadau gan ein mannau casglu. Gyda chaniatâd Ymddiriedolaeth Trussell, fe wnaethom hefyd ddefnyddio rhywfaint o’r bwyd a gyfrannwyd i ddarparu bocsys o fwyd i dri theulu mewn argyfwng oedd yn byw

mewn cartrefi sy’n perthyn i ni yng Nghaerdydd. “Wrth siopa, mae staff a phreswylwyr sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn rhoi eitem neu ddwy yn eu basged siopa, ac mae’n rhyfeddol sut mae hyn yn gallu cronni” meddai Anne Hinchey. “Mae haelioni ein staff a’n preswylwyr tuag at eraill mewn argyfwng yn ysbrydoliaeth.” Fel arfer, bydd rhestr o’r eitemau y mae banciau bwyd eu hangen yn cynnwys pethau sylfaenol fel llaeth UHT/sych, llysiau/ffrwythau / cig / pysgod a chawl mewn tun, grawnfwydydd, bagiau te/coffi, reis/pasta, Sawsiau pasta. Mae gan bob banc bwyd restr o’r bwyd maen nhw’n brin ohono, yn dibynnu ar y nwyddau a gafwyd. Mae banc bwyd Merthyr Cynon wedi dechrau ailgylchu hen ddillad, esgidiau a bagiau llaw i godi arian ychwanegol. “Pan ofynnom iddyn nhw, fe wnaeth ein holl gynlluniau er ymddeol ym Merthyr Tudful gytuno i fod yn fannau casglu i’r eitemau dros ben hyn, sy’n ffantas g,” meddai Alison Chaplin, y Swyddog Datblygu Cyfranogiad y Gymuned. *Adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2013 gan Kellogg’s


Y diweddaraf am fanciau bwyd | intouch | www.wwha.co.uk | 21

Aelodau o staff WWH - Karen Lewis a Phil Howell, gyda Cleida Correia o fanc bwyd Merthyr Cynon, yn casglu cyfraniadau o Dŷ Pontrhun. Yn y llun isod gwelir cydweithfa fwyd arall a agorwyd yn ddiweddar yng Nghwrt Pentwmpath yn Llai, Wrecsam.

Mae banciau bwyd yn darparu lleiafswm o 3 diwrnod o gymorth mewn argyfwng a bocsys o fwyd i bobl leol mewn argyfwng. - colli swydd, oedi cyn talu budd-daliadau, y teulu yn chwalu neu fil annisgwyl. Os hoffech gefnogi eich banc bwyd lleol, ac y byddech yn hoffi cael rhestr ar gyfer eich ardal, neu os hoffech ragor o wybodaeth am waith banciau bwyd, ffoniwch ni ar y rhif rhadffôn

0800 052 2526 a holwch am Herman, Vy neu Alison, ein swyddogion prosiectau datblygu cymunedau, a fydd yn barod i’ch helpu. Neu, gallwch fynd i h p://www.trusselltrust.org h p://www.trusselltrust.org

Dwy o breswylwyr Cwrt Pentwmpath, Sue a Dilys, yn didoli cyfraniadau at eu banc bwyd newydd.


22 | www.wwha.co.uk | intouch | Cynnal a chadw wedi’i gynllunio

Cynnal a chadw wedi’i gynllunio

Gwanwyn a haf 2013 Dyma ein rhestr gyfredol o waith cynnal a chadw wedi’i gynllunio. Ffoniwch ni ar y rhif rhadffôn 0800 052 2526 os hoffech gael rhagor o wybodaeth. Ceginau Ffenestri a drysau Gwaith yn parhau yn Nhwyncarmel, Merthyr Tudful Clos Meithrin, Prestatyn Christchurch Court, Llandrindod

Ystafelloedd Ymolchi Heol y Fynnon, Aberhonddu Cwrt Tarrell, Aberhonddu Spinney Close, Caerdydd Clos y Waun, Pen-y-bont ar Ogwr Teilos Drive, Pen-y-bont ar Ogwr Cricklewood Close, Pen-y-bont ar Ogwr Llys Colwyn, Hen Golwyn Lon Odyn, y Fflint Albert Place, Cei Connah Fishermans Wharf, Cei Connah Coleford Drive, Caerdydd Clos y Betws, Caerdydd Clos Tregare, Caerdydd Clos y Gornant, Caerdydd Clos yr Onnen, Caerdydd Clos y Berllan, Caerdydd

Newid tanwydd Yew Tree Court, Caerdydd St Catherine’s Court, Caerffili Clos yr Ardd, Caerdydd

Hammond Way, Caerdydd Graham Close, Caerdydd Salmon Close, Caerdydd A ield Close, Caerdydd Tyn Twll Lane, Treffynnon (drysau blaen a chefn yn unig) Pen Lon, Wrecsam (drysau blaen a chefn yn unig) Lon Odyn, y Fflint (drysau blaen a chefn yn unig) Barracksfield, Wrecsam (ymyl y toeon yn unig)


Sylw ar gynnal a chadw wedi’i gynllunio | intouch | www.wwha.co.uk | 23

“Dydw i erioed wedi cyfarfod criw o fechgyn cleniach na nhw” Dywedodd Mrs June Watkins sy’n byw yn Nhrelái, Caerdydd, ei bod wedi ei rhyfeddu pan gafodd hi gegin newydd. Cafodd nid yn unig ddewis y wynebau gweithio, y cypyrddau, y llawr a’r teils, ond roedd gweithwyr Cynnal a Chadw Cambria yn fodlon gosod y silffoedd a’r goleuadau iddi, gan wneud mwy na gofynion eu cynllun gwaith. Dywedodd, “Mae fy nghegin lawer mwy, ac mae gen i ddigon o le i’r cypyrddau a’r droriau. Daeth gweithwyr Cambria ar ddydd Llun, ac fe weithiodd yr un gweithwyr nes iddyn nhw orffen, bedwar diwrnod a hanner yn ddiweddarach. Mae hyn gymaint gwell na chael gweithwyr gwahanol yn mynd a dod bob amser.

yn ymddiried ynddyn nhw i weithio ar ben eu hunain yn fy nghartref. Yn aml byddwn yn eu gadael i fynd ymlaen â’r gwaith. Fedra i ddim eu canmol ddigon, mi wna i ddewis Cambria bob amser o hyn ymlaen. Fedra i ddim dweud dim byd negyddol amdanyn nhw o gwbl. Roedden nhw’n fechgyn clên a gweithgar.

“Mi wnaethon nhw lanhau ar eu holau bob dydd, ac ar ôl iddyn nhw orffen mi wnes i feddwl y byddai’n rhaid i mi lanhau yma ac acw, ond, nid oedd angen i mi wneud dim, roedd pob man fel pin mewn papur. Mi fydden nhw’n cyrraedd rhwng 7.30am a 8am bob bore, ac roedden nhw wrthi’n gweithio’n galed trwy’r dydd. Mi wnaethon nhw wneud yn fwy na’r arfer er mwyn gwneud yn siŵr fy mod i’n hapus â phopeth. “Cefais fy siomi ar yr ochr orau gan eu gonestrwydd a’u dibynadwyedd, ac roeddwn

“Roeddwn i’n arfer bod yn gogydd yn gweithio mewn amgylchedd prysur iawn yng Nghaerdydd, ond roedd yn rhaid i mi roi’r gorau iddi oherwydd fy iechyd, ond rydw i wrth fy modd yn coginio ac mae’n rhaid i mi gael popeth yn ei le yn y gegin. Mi wnaethon nhw hefyd dynnu’r hen socedi trydan i gyd a gosod rhai newydd – a rhai ychwanegol - yn eu lle. Rŵan mae fy nghegin yn haws i’w glanhau, ac rydw i’n cael pleser wrth goginio ynddi hi. Dwi wrth fy modd.”


24 | www.wwha.co.uk | intouch | Iechyd a diogelwch

Bwyleri nwy, eich diogelwch chi

ein cyfrifoldeb ni Os oes gennych fwyler nwy ac rydych yn byw yn un o’n cartrefi ni, mae angen i ni roi gwasanaeth i’ch bwyler bob blwyddyn. Ydi hynny’n ormodol? Ddim o gwbl. Mewn gwirionedd, fel eich landlord mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau fod y bwyler nwy yn eich cartref wedi cael gwasanaeth bob blwyddyn, fel yr ysgrifenna’r Rheolwr Masnachol Mike Wellock.

angen gwasanaeth, a’r unig beth sydd angen i chi ei wneud yw trefnu faint o’r gloch sy’n gyfleus i chi er mwyn iddyn nhw gael mynediad i’ch cartref.

Pam? I wneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n iawn, ddim yn gollwng nwy carbon monocsid a allai fod yn farwol, ac fel nad yw eich iechyd a’ch lles mewn perygl.

Ar ôl i’r contractwr alw, byddwch yn gwybod fod eich cartref yn berffaith ddiogel, a hefyd fe fydd eich enw’n cael ei roi yn ein cystadleuaeth ar gyfer un o ddwy wobr gwerth £250 sy’n cael eu cynnig bob tri mis.

Nwy gwenwynig iawn yw carbon monocsid sy’n cael ei ryddhau pan mae tanwyddau, yn cynwys nwy, yn cael eu llosgi; ac os nad yw eich offer gwresogi yn gweithio’n iawn, os yw’r nwy’n cael ei rwystro, neu os nad yw’r ystafell wedi’i awyru’n iawn, gall carbon monocsid ddal gafael yn sydyn a mygu’r rhai hynny sydd y tu fewn.

Oeddech chi’n gwybod fod 50 o bobl ar gyfartaledd yn marw o wenwyn carbon monocsid bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig? A bod 200 o bobl yn cael eu clwyfo’n ddifrifol, a 4000 arall yn cael eu heffeithio bob blwyddyn yn sgil yr effeithiau tymor hir ar eu hiechyd?

Mae rhan fwyaf o’n preswylwyr yn deall ac yn gwerthfawrogi’r angen am y gwasanaeth hwn yn flynyddol, ac maen nhw’n cydweithio â ni er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud. Ond, yn anffodus mae ambell un o’r farn nad yw’r gwasanaeth blynyddol hwn yn angenrheidiol, ac maen nhw’n rhwystro contractwyr rhag cael mynediad i’w cartrefi, sy’n golygu nad yw eu bwyler yn cael ei brofi. Mae rhoi gwasanaeth i’ch bwyler yn dasg sydyn a glân, felly helpwch ni i wneud yn siŵr na fyddwch chi na’ch teulu yn destun stori drist. Mae’n hawdd i’w drefnu. Bydd ein contractwr PH Jones yn cysylltu â chi pan fydd eich bwyler

I’r rhai hynny sy’n ein rhwystro rhag cael mynediad at eu cartrefi er mwyn rhoi gwasanaeth i’w bwyler, efallai na chawn nhw mo’r cyfle i’n rhwystro’r tro nesa. Ar y gwaethaf gall arwain at farwolaeth neu anaf difrifol, ac ar y gorau mi wnaiff yn sicr olygu dyfarniad llys, talu £150 o gostau llys a’n gorfodi i wthio ein ffordd i mewn i’ch cartrefi i wneud gwaith y gallech fod wedi ennill siec am £250 am ganiatáu i ni ei wneud. Sicrhewch fod eich bwyler nwy yn cael gwasanaeth bob blwyddyn – rydych yn gwybod fod hyn yn gwneud synnwyr.


Iechyd a diogelwch | intouch | www.wwha.co.uk | 25

Trefnwch fod eich bwyler nwy yn cael gwasanaeth ac

fe allech ennill £250

Dyma Mrs June Wells o Edwardsfield, y Drenewydd, yn derbyn ei siec am £250, blodau a gwin pefriol gan Paul Carter, Rheolwr Gweithrediadau Ardal (Cymru) P H Jones, ac Annerley Brown, Swyddog Rheoli Asedau WWH. Roedd Mrs Wells wrth ei bodd ei bod yn fuddugol yn ein raffl fawr, gan nad oedd wedi ennill unrhyw beth o’r blaen.

Roedd Mrs Frances Jones o Lys Hebron, y Rhondda, wedi gwirioni pan enillodd ei gwobrau. “Rydw i’n mynd i ddefnyddio’r arian mewn ffordd dda drwy ei wario ar fy wyres, a fydd yn 18 oed y mis hwn, a thrwy fwynhau dathliad i’r teulu” meddai Frances.

Gallech CHI hefyd fod yn ENILLYDD – y cyfan mae’n rhaid i chi ei wneud i fod yn gymwys yw ein galluogi i wasanaethu eich bwyler ar eich apwyn ad cyntaf neu roi o leiaf 48 awr o rybudd i ni ohirio’r ymweliad.


26 | www.wwha.co.uk | intouch | Adroddiad blynyddol y larwm mewn argyfwng

Adroddiad blynyddol y larwm mewn argyfwng 2012

Croeso! LJŵĂƌĂŝīĞŝƚŚŝĂƵĨĞůLJŐĂůůǁĐŚǁĞůĚƐƵƚƌLJĚLJŵǁĞĚŝƉĞƌīŽƌŵŝŽLJŶLJƐƚŽĚϮϬϭϮ͕ ŐĂŶŐLJŶŶǁLJƐĞŝŶĐLJŇĂǁŶŝĂĚĂƵĂĐŚĂŶůLJŶŝĂĚĂƵĞŝŶŚĂƌŽůǁŐ͘ ͻ

ͻ

ͻ

ͻ

Yn 2012 fe wnaethom ateb 93,305 o alwadau – ar gyfartaledd, mae hynny’n 250 galwad bob dydd. Roedd 1,408 yn alwadau brys, pan wnaethom alw un o’r gwasanaethau brys i helpu. Fe wnaethom 53,004 o alwadau i wirio eich bod yn iawn. Fe wnaethom gynyddu nifer ein cwsmeriaid i 4,050.

^ƵƚǁŶĂĞƚŚŽŵďĞƌīŽƌŵŝŽ zƐĂĨŽŶƉĞƌīŽƌŵŝĂĚĂďĞŶŶŝƌŐĂŶLJ'LJŵĚĞŝƚŚĂƐ 'ǁĂƐĂŶĂĞƚŚĂƵdĞůĞŽĨĂů;d^Ϳ͕LJƐĞĨLJĚůŝĂĚƐLJ͛ŶĂƌŽůLJŐƵ ein gwasanaeth, ar gyfer ateb galwadau o fewn 60 eiliad lle mae bygythiad i fywyd yw ϵϴ͘ϱй. 9DĞǁŶŐǁŝƌŝŽŶĞĚĚ͕ĨĞǁŶĂĞƚŚŽŵĂƚĞď

ϵϵ͘ϲйŽďŽďŐĂůǁĂĚŽĨĞǁŶϲϬĞŝůŝĂĚ zƐĂĨŽŶd^ĂƌŐLJĨĞƌĐĂŶƌĂŶĂƚĞďŐĂůǁĂĚĂƵŽĨĞǁŶϯ munud lle mae bygythiad i fywyd yw ϵϵй͘ 9&ĞǁŶĂĞƚŚŽŵĂƚĞďϭϬϬйŽďŽďŐĂůǁĂĚ

ŽĨĞǁŶϯŵƵŶƵĚ DĂĞŚLJŶLJŶŐŽůLJŐƵĞŝŶďŽĚŶŝǁĞĚŝƉĞƌīŽƌŵŝŽLJƚƵ ŚǁŶƚŝ͛ƌƐĂĨŽŶĂƵĂďĞŶŶǁLJĚŐĂŶLJd^͘


Adroddiad blynyddol y larwm mewn argyfwng | intouch | www.wwha.co.uk | 27

ĂŶůLJŶŝĂĚĂƵĂƌŽůǁŐϮϬϭϮ Os oes gennych uned larwm ar wasgar, fe wnaethom ofyn i chi roi sgôr allan o 10 i ni, ac os na wnaethoch roi sgôr o 10 i ni, fe wnaethom ofyn beth allem ei wneud i wella. Fe wnaeth y 280 o bobl a ddychwelodd arolwg – diolch i bawb ohonoch – roi sgôr gyfartalog o ϵ͘ϱĂůůĂŶ ŽϭϬ i ni.

zŶĨŽĚůŽŶąĐŚLJŇLJŵĚĞƌLJƌLJŵĂƚĞď

ϵϲй Roedd yr atebwr yn gymwynasgar

ϵϴ͘ϳй Fe wnaeth yr atebwr gynorthwyo â’ch problem

ϵϴй

Os gwnaethom alw trydydd ƉĂƌƟŽŐĂŶůLJŶŝĂĚŝ͛ĐŚŐĂůǁĂĚ͕ĨĞ fyddwn wedi gofyn i chi lenwi arolwg gwahanol. Fe wnaeth 231 o bobl ymateb i’r arolwg hwn, hefyd – diolch i chwithau!

ZŽĞĚĚLJƌĂƚĞďǁƌLJŶďƌŽīĞƐŝLJŶŽů

ϵϵ͘ϱй

DĂĞ͛ƌĸŐLJƌĂƵĂŐĂŶůLJŶLJŶ dangos pa mor fodlon ydych chi gyda’n gwasanaeth. Rydym yn falch iawn gyda nhw, gan fod y ĸŐLJƌĂƵŚLJŶLJŶĐLJŶƌLJĐŚŝŽůŝƌŚĂŐŽƌ o welliannau ar ganlyniadau llynedd, oedd eisoes yn dda.

ŽĚůŽŶƌǁLJĚĚą͛ƌŐǁĂƐĂŶĂĞƚŚĐLJīƌĞĚŝŶŽů gan ystafell reoli’r larwm mewn argyfwng

ϵϲ͘ϯй Ydych chi’n meddwl bod y gwasanaeth Larwm mewn argyfwng yn werth da am arian?

ϵϴ͘ϭй

hĐŚĂĩǁLJŶƟĂƵϮϬϭϮ ͻ Mawrth 2012 – ni oedd LJŶLJƌϴĨĞĚƐĂŇĞLJŶ ƌŚĞƐƚƌLJ^ƵŶĚĂLJdŝŵĞƐŽ ŐǁŵŶŢĂƵŐŽƌĂƵ͛ƌ^ĞĐƚŽƌ LJŚŽĞĚĚƵƐͬdƌLJĚLJĚĚ ^ĞĐƚŽƌ͘ ͻ Ebrill 2012 – fe wnaethom ennill contract i fonitro larwm mewn argyfwng LJŵĚĞŝƚŚĂƐdĂŝEĞǁLJĚĚ ym Mro Morgannwg ac Aberdâr. ͻ Ebrill 2012 – cawsom

arolwg gan Archwilwyr 'ǁĂƐĂŶĂĞƚŚĂƵdĞůĞŽĨĂů͘ d^ĂŽĞĚĚLJŶ ͻ Rhagfyr 2012 – fe wnaethom ennill defnyddio eu cod contract ar gyfer ymarfer newydd a atgyweiriadau y tu allan llymach – fe wnaethom i oriau ac ymddygiad lwyddo’n rhagorol! Medi 2012 – Jackie gwrthgymdeithasol Edwards, Rheolwr y LJŵĚĞŝƚŚĂƐdĂŝ Bron Afon ar gyfer 'ĂŶŽůĨĂŶ'ǁĂƐĂŶĂĞƚŚĂƵ eu preswylwyr, a Cwsmeriaid, yn parhau i monitro dros 1,000 gynrychioli ystafelloedd rheoli Larymau mewn o larymau tân a mwg Argyfwng Cymru ar yn eu cynlluniau tai ĨǁƌĚĚLJ'LJŵĚĞŝƚŚĂƐ gwarchod.


28 | www.wwha.co.uk | intouch | Adroddiad blynyddol y larwm mewn argyfwng

ZŽĞĚĚLJƌĂĚďŽƌƚŚĂŐĂĨǁLJĚŐĞŶŶLJĐŚĐŚŝLJŶLJƐƚŽĚϮϬϭϮLJŶĐLJŶŶǁLJƐ͗ Roeddwn yn ddiolchgar iawn i’r gweithredwr am aros gyda mi tra’r oeddwn yn aros i’r ambiwlans gyrraedd. Drwy siarad, roedd modd i mi ymdopi â’r boen a’r teimlad pryderus.” - Mr S, Bwcle Mae’r gwasanaeth “werth y byd yn grwn.” - Mrs S, Pen-y-bont ar Ogwr “Gwasanaeth rhagorol, a dim cwynion. Cymerodd yr atebwr reolaeth lwyr ar y sefyllfa a’m helpu i gadw fy mhwyll.” - Mrs G, Bagillt ͞,ŽīǁŶĚĚŝŽůĐŚŝ͛ƌƵŶŝŐŽůLJŶŽĞĚĚĂƌĚĚLJůĞƚƐǁLJĚĚLJ noson honno. Fe wnaeth i mi deimlo lawer yn well.” Mrs B, Llanilltud Fawr ͞DĂĞ͛ƌĐLJŶůůƵŶLJŶƌŚĂŐŽƌŽů͘DĂĞ͛ƌƐƚĂīLJŶƌŚĂŝĚĂĂŵŐĞŝƐŝŽ ĚĞĂůůLJƐĞĨLJůůĨĂ͕ĂĐĨĞīŽŶŝŽĚĚƌŚLJǁƵŶĮĚƌĂŶŶŽĞƚŚŝǁĞůĚĂ oeddwn yn iawn.” - Mrs P, Ynys Môn

ǁLJŶŝŽŶ EŝĐŚĂĨŽĚĚŽŶŶĞĐƚϮϰ gwynion “swyddogol” yn ystod 2012 – serch hynny, ĐĂĨǁLJĚϮϴĐǁLJŶŐLJīƌĞĚŝŶĂ gafodd eu datrys ar y pryd

ŐĂŶĞŝŶƐƚĂīŐŽƌƵĐŚǁLJůŝŽ mewn modd cyfeillgar gyda’r rhai a fu’n cwyno. EŝĐŚĂĨǁLJĚĐǁLJŶŝŽŶĂŵ ddigwyddiadau mawr, felly

ZLJĚLJŵLJŶĂĚŽůLJŐƵĞŝŶƉĞƌīŽƌŵŝĂĚ monitro larwm mewn argyfwng yn rheolaidd, felly yn ystod 2013/14 byddwn yn gofyn i aelodau Only Residents Aloud ;KZͿŝ͛ŶŚĞůƉƵŐLJĚĂŚLJŶŽƐLJĚLJŶŶŚǁ͛Ŷ defnyddio’r gwasanaeth. KƐŚŽīĞĐŚŐĂĞůĞŝĐŚĐLJŶŶǁLJƐ͕ĂĐŽƐŶĂĚ ydych yn aelod o ORA, yna cysylltwch â Jayne Orchard.

ni fu’n rhaid i ni adolygu ein gweithdrefn na newid y īŽƌĚĚƌLJĚLJŵLJŶŐǁĞŝƚŚŝŽ͘

KƐŽĞƐŐĞŶŶLJĐŚLJŵŚŽůŝĂĚĂƵŶĞƵƐLJůǁĂĚĂƵ ĂŵLJƌĂĚƌŽĚĚŝĂĚŚǁŶ͕ĐLJƐLJůůƚǁĐŚąŵŝ͕ :ĂLJŶĞKƌĐŚĂƌĚ͕ĂƌLJƌŚŝĨƌŚĂĚīƀŶ

ϬϴϬϬϬϱϮϮϱϮϲ


Cymdogaethau sy’n gweithio | intouch | www.wwha.co.uk | 29

Ein dull newydd o ddelio â

‘niwsans’ Croeso i’n trydydd diweddariad yn y gyfres sy’n dweud wrthych am ein cynnydd gyda’n dull newydd o ddelio â’ch cwynion am niwsans, yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig i chi. Hyd yn hyn, rydym wedi dechrau defnyddio ein dull newydd mewn ardaloedd yng Nghaerdydd, Powys a Phen-y-bont ar Ogwr, ac rydym yn parhau i gynnwys rhagor o ardaloedd, felly yn fuan iawn bydd hyn yn dod yn ddull sefydledig i ni ym mhob ardal ac yn y cartrefi rydym yn berchen arnyn nhw ac yn eu rheoli. Yn yr erthygl hon, rydym yn canolbwyn o ar yr adborth gan breswylwyr sydd wedi cael profiad o’r cwynion hyn yn cael sylw yn y ffordd newydd hon. Rydym yn credu mai eich sa wyn au chi yw’r ffordd orau o brofi a ydym yn gwneud pethau’n iawn. Rydym hefyd wedi siarad gyda phreswylwyr Grŵp 500 (ORA - Only Residents Aloud, erbyn hyn – gweler tudalen 42) sydd wedi cytuno y cawn ni gysylltu â nhw i holi beth yw eu barn. Wrth ddylunio ein dull newydd, roeddem eisiau deall yn well a ydym wedi dehongli’n iawn beth yw eich disgwyliadau pan fyddwch yn gwneud cwyn – yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig i chi. Roedd yr adborth yn galonogol iawn, ac mae’n braf gwybod ein bod wedi deall

beth sy’n bwysig i chi. Ar ôl siarad gydag aelodau ORA, rydym wedi dysgu fod y rhan fwyaf wedi cael profiad o gymdogion sy’n niwsans, a’u bod nhw wedi teimlo’n rhwystredig fod angen ‘profi popeth’. Nid oedden nhw chwaith yn hoffi’r ffaith eu bod nhw’n gorfod treulio llawer o amser yn egluro beth oedd y broblem wrth staff y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid bob tro roedden nhw eisiau rhoi gwybod am faterion yn ymwneud â chymdogion, dim ond i’r broblem gael ei throsglwyddo i’r Swyddog Tai, pan fyddai angen ailddechrau egluro unwaith eto.

Felly, sut hwyl rydym yn ei gael ar bethau hyd yn hyn? Rydych eisiau: ‘siarad gyda’r unigolyn priodol’ Roedd 41 (85%) o bobl yn meddwl eu bod nhw wedi siarad gyda’r unigolyn priodol a 15% (7) yn teimlo nad oedden nhw. Fe wnaeth y 7 hynny nodi rhesymau fel: roedd y swyddog tai ar wyliau, cafodd un drafferth cysylltu â’r swyddog tai, ac roedd un eisiau siarad â’r rheolwr tai.


30 | www.wwha.co.uk | intouch | Cymdogaethau sy’n gweithio Rydych eisiau: ‘ymateb cyflym’ Roedd 39 (81%) o’r farn eu bod nhw wedi cael ymateb cyflym, ond teimlai 9 (19%) nad oedd hynny’n wir. Yn ddiddorol, roedd pob un o’r 9 wedi cwyno am niwsans sŵn, felly fe wnaethom ystyried eu cwynion er mwyn deall y rhesymau pam roedd y gŵyn benodol hon yn golygu nad oeddem wedi ymateb mor sydyn ag y bydden nhw wedi dymuno. Fe wnaethom ganfod mai canlyniad aros i dimau llygredd sŵn y cyngor brofi fod y sŵn yn digwydd ar yr amseroedd a’r lefelau dynodedig oedd wrth wraidd yr oedi. Mae hwn yn fater y byddwn yn gobeithio ei ddatrys drwy weithio gyda thimau’r cyngor i gyflymu’r ymateb i gwynion am sŵn.

Rydych eisiau: ‘cael gwybod am hynt eich cwyn wrth i’r mater gael ei archwilio’ Roedd 34 (70%) o’r farn eu bod nhw wedi cael gwybod y diweddaraf, ond 14 (30%) yn teimlo nad oedd hynny wedi digwydd. Mae hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ei wella. O’r hyn rydym yn ei ddysgu, mae pawb yn wahanol, a byddai rhai pobl yn hoffi llawer mwy o gysyll ad â’u swyddog Tai. Mae angen i ni ganfod y cydbwysedd priodol, o pan fyddwn yn dechrau rhoi sylw i’r gŵyn, ynghylch y ffordd orau o roi gwybod i’r rhai sy’n cwyno am gynnydd y mater, a pha mor aml y gallwn wneud hyn o fewn rheswm.

Rydych eisiau – ‘teimlo’n ddiogel a bod yn ddiogel yn eich cartref a lle’r ydych yn byw’ Fe wnaeth y rhan fwyaf o bobl, sef 34 (70%) nodi eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel ond dywedodd 14 (30%) nad oedden nhw’n teimlo’n ddiogel. Rydym yn ystyried y canlyniad hwn i weld lle’r oedd y bobl a ddywedodd nad oedden nhw’n teimlo’n ddiogel yn byw. Efallai eu bod nhw’n teimlo fel hyn o ganlyniad i brofi niwsans, neu fe allai fod yn ganlyniad rhywbeth y gallwn ni ei wneud, fel gwella’r goleuadau neu wella systemau mynediad drwy ddrysau cymunol.

Rydych eisiau: ‘i ni atal y niwsans rhag digwydd eto’ Gan ein bod wedi cysylltu â phobl i wneud ein harolwg ar wahanol gamau o’r broses, gallai eu cwyn fod wedi dod i ben, neu fod yn un barhaus mewn rhai achosion. Mae hyn oherwydd ein bod ni eisiau cael clywed os nad ydym yn gwneud pethau’n iawn y tro cyntaf, fel ein bod yn gallu gwneud rhywbeth am y peth bryd hynny. Gan hynny, rydym wedi didoli’r atebion i’r cwes wn ‘a yw’r broblem wedi cael ei datrys?’ i ddau gategori - ‘ achosion agored’, lle mae’r mater dan sylw o hyd, ac ‘achosion wedi dod i ben’, lle nad oes camau’n cael eu cymryd ar hyn o bryd. O’r ‘achosion agored’, roedd 38% o bobl yn teimlo bod eu hachos wedi cael ei ddatrys, a 62% yn teimlo nad oedd wedi cael ei ddatrys. Yn ôl y disgwyl, pan ofynnom yr un cwes wn i’r bobl yr oedd eu hachosion wedi dod i ben, cododd nifer y rhai a oedd yn teimlo fod y mater wedi cael ei ddatrys i 85%. Unwaith eto, mae’n ymddangos mai cwynion am niwsans sŵn yw’r anoddaf i’w datrys, yn enwedig mewn blociau o ffla au.


Cymdogaethau sy’n gweithio | intouch | www.wwha.co.uk | 31 Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar brosiectau i roi cynnig ar leihau effaith sŵn, a byddwn yn monitro’r effaith y mae’r rhain yn ei gael.

Ein gwaith: ‘egluro beth allwn ei wneud i ddatrys y mater neu beth allwn ei wneud i’ch helpu i oddef y sefyllfa’n well’ Mae adborth i’r cwes wn hwn yn tueddu i fod yn sylwadau yn hytrach nag atebion ‘ie’ neu ‘na’. Roedd pobl yn tueddu i deimlo ein bod yn ceisio ein gorau, ac yn deall pam na allem ddatrys eu problem os mai felly’r oedd pethau. Roedd dealltwriaeth hefyd o’r angen i asiantaethau eraill weithio gyda swyddogion i ddatrys problemau.

Os hoffech ragor o wybodaeth am ein gwaith ail-ddylunio a sut rydym yn defnyddio sylwadau preswylwyr i lunio’r gwasanaeth newydd, cysylltwch â mi, Bridget Garrod, ar

bridget.garrod@wwha.co.uk

Neu cymerwch olwg ar y diweddariad nesaf yn rhifyn nesaf In Touch.

Y datblygiadau diweddaraf Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cael swm sylweddol o arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’n helpu ni i adeiladu rhagor o gartrefi fforddiadwy y mae eu hangen yn fawr ledled Cymru.

Ddiwedd yr hydref llynedd, fe wnaethom ddweud y byddem yn darparu 800 o gartrefi newydd dros y pum mlynedd nesaf. Diolch i’r buddsoddiad newydd hwn, rydym yn awr yn debygol o allu darparu 1,000 o gartrefi newydd yn y pedair blynedd nesaf. Un o’r cynlluniau diweddaraf rydym yn gweithio Aron ar hyn o bryd yw ym Maes Glas, Sir y Fflint, lle’r ydym wedi cael caniatâd cynllunio i adeiladu 58 cartref newydd. Mae’r Contractwr Anwyl

Construc on wedi dechrau gweithio ar y datblygiad hwn, sy’n werth £7.8 miliwn, a dylai’r cartrefi fod yn barod ddiwedd hydref 2014. Mewn man arall yn Sir y Fflint, mae ein cynllun gofal ychwanegol / gofal demen a newydd yn Llys Jasmine bron â chael ei gwblhau, gyda disgwyl i’r preswylwyr newydd symud i mewn yn yr hydref. Mae amser i ymgeisio o hyd, gan fod ymgeiswyr yn cael eu hasesu ar sail eu hanghenion, ac nid ar sail y cyntaf i’r felin. Ffoniwch ein Tîm Dewisiadau Tai am ragor o wybodaeth. Yn olaf, am ragor o wybodaeth ynghylch ein holl ddatblygiadau newydd, gweler ein gwefan www.wwha.co.uk


32 | www.wwha.co.uk | intouch | gwaith. sgiliau. profiad

‘Mae fy rhieni mor falch ohonof!’ Croeso cynnes i un o’r ychwanegiadau diweddaraf i deulu Tai Wales & West, sef Libby Price, ein Swyddog Cyswllt â’r Gymuned yn Hightown yn Wrecsam. Dechreuodd Libby weithio gyda ni fis Chwefror eleni, diolch i bartneriaeth gyda sefydliad gyrfaoedd, Go Wales, menter wedi ei chyllido gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd i gefnogi pobl ifanc i agor eu llwybrau gyrfa eu hunain. Dywedodd Libby: “Ni allwn gredu’r peth pan gefais y swydd – mae fy rhieni mor falch ohonof! Mae’n anodd iawn dod o hyd i waith ar hyn o bryd. Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr yn gofyn am brofiad gwaith gan bobl ifanc, ac nid oes ganddyn nhw’r profiad hwnnw. Mae’n gylch dieflig. Byd-

dwn yn argymell bod pob unigolyn ifanc yn dyfalbarhau ac yn dal i gadw golwg ar wefannau fel gowales.co.uk.” Mae Libby yn gweithio gyda’r gymuned yn Wrecsam i ganfod beth fydden nhw’n hoffi ei weld yn eu Canolfan Adnoddau Cymunedol newydd, y mae disgwyl iddi gymryd lle’r hen ganolfan gymunedol yn ystod yr haf eleni. Mae’r ganolfan newydd yn rhan o’n gwaith adfywio gwerth £17 miliwn o’r ardal, a fydd hefyd yn darparu 147 o gartrefi fforddiadwy erbyn gaeaf 2014.


gwaith. sgiliau. profiad | intouch | www.wwha.co.uk | 33 Mae Libby wedi mwynhau llwyddiant gyda digwyddiad Pasg a drefnodd, ac a oedd yn boblogaidd gyda’r bobl leol, er gwaetha’r eira. Cafodd Swae Basg Hightown lawer o glod gan ddwsinau o aelodau’r gymuned a oedd yn bresennol (gweler y llun isod), staff y cyngor a phapur lleol Wrecsam, The Leader. “Fy ucha wynt hyd yn hyn oedd y digwyddiad Pasg, yn bendant,” meddai. “Allwn i ddim credu fod cymaint o bobl wedi dod yno drwy’r storm eira! Doedd hyd yn oed ffotograffydd y papur newydd ddim yn credu’r peth! “Rydw i’n bendant eisiau parhau i weithio yn y sector tai. Fe astudiais am radd mewn

cynhwysiant cymdeithasol, ac rydw i’n frwd dros gydraddoldeb. Mae WWH yn gyflogwyr gwych, hefyd!”

Os ydych chi’n hanu o Wrecsam ac y byddech yn hoffi dweud eich dweud am yr hyn yr hoffech chi ei weld fwyaf yn y Ganolfan Adnoddau Cymunedol newydd, os oes gennych sylwadau am y datblygiad, neu os hoffech gael gwybod y diweddaraf am newyddion Hightown a Pharc Caia, trowch at www.hightownflats.com


34 | www.wwha.co.uk | intouch | gwaith. sgiliau. profiad

Corby Atherton a Nathan Pla , dau o’r pren siaid yn Llys Jasmine yn yr Wyddgrug, gyda’r AC Sandy Mewies

Cefnogi prentisiaethau Cafodd yr Aelodau Cynulliad Sandy Mewies ac Aled Roberts brofiad o sut beth yw bod yn bren s adeiladu am ddiwrnod yn ystod ymweliadau diweddar â’n safleoedd adeiladu yn yr Wyddgrug, yn Sir y Fflint, ac yn Hightown yn Wrecsam. Fe wnaeth Wythnos Pren siaethau – a gynhaliwyd ym mis Mawrth – amlygu doniau a sgiliau pren siaid, i annog pobl ifanc a gweithwyr cyflogedig i feddwl sut gallai pren siaeth fod yn fuddiol iddyn nhw. I ddangos ei chefnogaeth, fe wnaeth Sandy Mewies, yr Aelod Cynulliad dros Delyn, dreulio’r diwrnod gyda phren siaid ar safle adeiladu Llys Jasmine, cyfleuster gofal ychwanegol / gofal demen a WWH yn yr Wyddgrug. Dywedodd Sandy: “Fe wnes i fwynhau gweld drosof fy hunan sut beth yw bod yn bren s. Mae pren siaethau yn chwarae rhan allweddol i ddarparu gyrfaoedd parhaol a llwyddiannus mewn diwydiannau fel adeiladu, gyda phren siaethau yn dod â llawer o fudd i gyflogwyr.”

Yn y cyfamser, fe wnaeth yr Aelod Cynulliad Aled Roberts gwrdd â grŵp o bren siaid adeiladu ar safle ein datblygiad yn Hightown, Wrecsam, i ddysgu am eu hyfforddiant a rhoi cynnig ar rai o’u tasgau dyddiol. Dywedodd Aled: “Ni fu hi erioed mor bwysig cefnogi ac annog rhagor o bobl ifanc a chyflogwyr i gymryd rhan mewn pren siaethau a’u datblygu.” Wedi’i drefnu gan CITB-Construc onSkills, y Cyngor Sector Sgiliau a Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant ar gyfer Adeiladu, mewn partneriaeth ag Anwyl Construc on a Thai Wales & West, roedd y digwyddiadau yn ddau o blith nifer a gynhaliwyd ledled Cymru i ddathlu cyflawniadau a sgiliau pren siaid.


Adroddiad chwarterol | intouch | www.wwha.co.uk | 35

Beth sy’n bwysig i chi? Dyma bedwerydd rhifyn ein nodwedd reolaidd ar berfformiadau ar draws pob agwedd ar ddarparu gwasanaethau Tai Wales & West. Rydym yn diweddaru ein gwybodaeth am berfformiad bob tri mis, felly rydym yn gobeithio y bydd hyn mor ddefnyddiol a pherthnasol â phosibl i chi. Bydd darllenwyr rheolaidd In Touch eisoes yn ymwybodol ein bod ni wedi canolbwyn o’n flaenorol ar Osod Tai, Rhen ac Atgyweiriadau, ac mewn erthygl ar wahân am gymunedau sy’n gweithio.

Serch hynny, hoffem wybod a oes meysydd eraill yr hoffech chi gael gwybod amdanyn nhw er mwyn i ni ganolbwyn o arnyn nhw yn y dyfodol. Oes gennych chi ddiddordeb neilltuol mewn agwedd benodol ar ein gwaith? Rhowch wybod i ni, ac fe ddywedwn ni wrthych chi!

Felly, pa mor dda ydym ni’n ei wneud ar bob agwedd ar y busnes? (Mae’r holl wybodaeth yn ymwneud ag

Ionawr - Mawrth 2013)

2274

Rhent

69.5%

(32% o Denan aethau)

Nifer y cyfrifon rhent sydd ag ôl-ddyledion

1

% y cyfrifon lle mae cynllun talu cytunedig ar waith

Troi allan Gyda’r holl newidiadau i Fudd-daliadau, mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod heriol iawn i breswylwyr, ac mae’r staff yn gweithio’n galed i’w helpu a’u cefnogi gyda’u taliadau rhent. Felly, mae’n wych gweld bod yn agos at 70 % o’r preswylwyr yn cadw at eu taliadau i ostwng eu hôl-ddyledion. Rydym wedi cyflogi Swyddogion Cefnogi Tenan aethau i roi cymorth ychwanegol i breswylwyr baratoi ar gyfer y newidiadau o ran y dreth ar ystafelloedd gwely a’r Credyd Cynhwysol y mae preswylwyr yn ei wynebu dros y misoedd nesaf.


36 | www.wwha.co.uk | intouch | Adroddiad chwarterol

66%

99.34% Mae 47 o gartrefi yn weddill lle mae gofyn gwirio’r cyfarpar nwy

Cydymffurfio â diogelwch nwy

Atgyweiriadau a gwblhawyd ar un ymweliad

Atgyweiriadau

9.3/

10

Bodlonrwydd preswylwyr

97.1% Atgyweiriadau a lwyddodd yn barhaol

16 Nifer cyfartalog y dyddiau i gwblhau atgyweiriad

Mae Gwasanaethau Cynnal a chadw Cambria wedi ehangu, ac ers 1 Ionawr 2013 mae’n darparu gwasanaethau cynnal a chadw i breswylwyr yng Ngogledd Cymru yn ogystal â De a Chanolbarth Cymru. Rydym yn falch bod ein lefelau bodlonrwydd wedi aros yn uchel, ac fe wnawn ni barhau i ddysgu yn sgil adborth. Rydym wedi gwneud llawer o waith ar wasanaethu cyfarpar nwy i sicrhau ein bod yn cael mynediad at gartrefi preswylwyr. Erbyn hyn rydym wedi cwblhau 99.34% o’r holl waith gwasanaethu, a bydd hyn yn parhau i fod yn faes pwysig i ni.


Adroddiad chwarterol | intouch | www.wwha.co.uk | 37

41

246/1503 17% wedi’u cwblhau hyd yn hyn

Gosod bwyleri newydd

Cynnal a chadw wedi’i gynllunio

Ystafelloedd ymolchi wedi’u cwblhau

77/369

9.2/

10

21% wedi’u cwblhau hyd yn hyn

Ceginau wedi’u cwblhau

Bodlonrwydd preswylwyr

Mae rhaglen cynnal a chadw wedi’i gynllunio 2013 wedi dechrau, ac rydym yn falch o’n cynnydd yn darparu ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd. Rhan o’n rhaglen arferol yw gosod ffenestri newydd yn ystod y chwe mis yng nghanol y flwyddyn, pan rydym yn disgwyl i’r tywydd fod yn well. Dechreuodd ein rhaglen fis Ebrill eleni, ac fe welwch y set gyntaf o ystadegau ynghylch gosod ffenestri yn rhifyn nesaf yr Adroddiad Chwarterol.


38 | www.wwha.co.uk | intouch | Adroddiad Chwarterol

9.3/

10

Bodlonrwydd preswylwyr

179

Gosod ac adeiladu cartrefi

16 Tai

104 Anghenion cyffredinol

75

Gosod

20

Ymddeol

O’r 16 a adeiladwyd o’r newydd, mae 12 ar rent cymdeithasol a 4 yn ganolradd.

4 Ffla au

Cartrefi newydd

O’r 20 tŷ newydd a sicrhawyd gennym, mae 16 wedi eu hadeiladu o’r newydd a 4 tŷ drwy ein cynllun achub morgeisi, lle buom yn helpu pobl ag anawsterau ariannol i allu aros yn eu cartrefi eu hunain. Mae gennym nifer fawr o gynlluniau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu, felly fe welwch y ffigyrau hyn yn tyfu! Mae bodlonrwydd preswylwyr yn parhau’n gryd, ac rydym yn parhau i ddysgu ar sail yr hyn y mae preswylwyr yn ei ddweud wrthym. Rydym yn neilltuol o falch bod nifer o’n preswylwyr yn hapus iawn gyda’r cyngor ar gymorth ariannol maen nhw wedi’i gael.

38,143 Teleffonau

69,120

Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid/ Larwm mewn argyfwng

30,977

Cyfanswm nifer y galwadau a atebwyd

Larwm mewn argyfwng

97% Nifer y galwadau a atebwyd o fewn 30 eiliad

5

5 eiliad - hyd cyfartalog yr amser cyn ateb


Adroddiad chwarterol | intouch | www.wwha.co.uk | 39

110 Ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) (difrifol, gan gynnwys troseddol)

18

212

Materion ynghylch rheoli stadau sy’n effeithio ar Achosion y denan aethau cawsom wybod amdanyn nhw

Cymdogaethau sy’n gweithio

Nifer cyfartalog y dyddiau ymchwilio - ASB

Nifer cyfartalog y dyddiau ymchwilio – rheoli stadau

12

72

30 Achosion yn y system dreialu newydd

7.5/

10

Bodlonrwydd preswylwyr

Mae nifer yr achosion rydym wedi delio â nhw yn 2013 wedi gostwng yn sylweddol ers 2012m ac mae’r ffordd a’r cyflymder yr ydym wedi delio â nhw wedi gwella. Mae ein hamser cyfartalog i archwilio achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) wedi gostwng i 18 diwrnod, ac mae hyn wedi digwydd gan ein bod wedi adolygu sut rydym yn ymdrin ag achosion, ac rydym wedi ceisio ei gwnned yn llawer haws a symlach i breswylwyr roi gwybod am achosion. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o asiantaethau sy’n ceisio delio ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, ac yn cynnal gwaith ar y cyd ag awdurdodau lleol a’r heddlu.

Felly, beth yw wich barn ar ein perfformiad ac unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth? Os oes gennych unrhyw sylw neu adborth ar unrhyw beth rydym wedi ei ddweud wrthych, rhowch wybod i ni. Gallwch gysylltu â ni ynghylch hyn neu unrhyw fater arall, unrhyw dro.

swyddfeydd. • Rydym bob amser yn falch o glywed gennych chi, pa un ai eisiau gofyn cwes wn ydych chi, dweud rhywbeth wrthym, cynnig awgrym, rhoi canmoliaeth neu gyflwyno cwyn.

Gellir rhoi adborth mewn amrywiaeth o ffyrdd – ar-lein drwy ein gwefan, e-bost, llythyr, ffôn neu neges destun, neu wyneb yn wyneb ag aelod o staff neu yn ein

• Mae’r adborth hwn yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau ynghylch ein cynl luniau ar gyfer y dyfodol a gwelliannau i’n gwasanaethau. Diolch!


40 | www.wwha.co.uk | intouch | Cydraddoldeb ac amrywiaeth

hil

Dyma’r 6ed erthygl nodwedd mewn cyfres o erthyglau sy’n egluro Deddf Cydraddoldeb 2010 – yn y 5 rhifyn diwethaf, rydym wedi edrych ar oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaethau sifil, a mamolaeth, fel yr ysgrifenna Claire Bryant, y Swyddog Polisi ac Amrywiaeth.


Cydraddoldeb ac amrywiaeth | intouch | www.wwha.co.uk | 41 Mae 9 ‘nodwedd wedi’u diogelu’ yn y Ddeddf, a nod yr erthyglau hyn yw dadansoddi’r materion cyfreithiol fel eu bod yn hawdd i bawb eu deall.

Beth yw’r 9 nodwedd a ddiogelir? Oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, tueddfryd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, rhyw, ethnigrwydd, a chrefydd neu gred. Yn yr erthygl hon, rydym yn rhoi sylw i hil. Mae Prydain yn gymdeithas llawer mwy amrywiol nag yr oedd genhedlaeth yn ôl. Mae yn agos at 1 o bob 6o bobl ym Mhrydain yn dod o leiafrif ethnig. Mae bron i 1 o bob 10 o blant Prydain yn cael eu magu ar aelwyd aml-hil. Ym mydoedd amlwg iawn y llywodraeth, adloniant a chwaraeon, mae arwyddion o gynnydd: mae mwy na phedair gwaith o Aelodau Seneddol o blith pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn Senedd y Deyrnas Unedig ag yr oedd yn 1993. Mae nifer cynyddol o gyfarwyddwyr ar restr FTSE 100 yn dod o leiafrifoedd ethnig, ac rydym wedi gweld cynnydd arwyddocaol mewn pobl yn sefydlu busnesau. Mae actorion Du ac Asiaidd yn chwarae’r rhannau blaenllaw mewn sioeau teledu oriau brig yn aml. Mae agweddau’n newid - mae’r adroddiad a gyhoeddwyd yn 2010, ‘How fair is Britain?’, yn dweud fod pobl yn

gynyddol yn fodlon iawn cydweithio a gweithio i bobl o gefndir ethnig gwahanol iddyn nhw. Fe wnaeth gwaith ymchwil a gynhaliwyd ar gyfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 10 mlynedd ar ôl adroddiad cwest Stephen Lawrence ganfod y byddai 70% o’r rhai a arolygwyd yn fodlon pe bai eu mab neu eu merch yn dewis priodi rhywun o hil neu grefydd wahanol. Fe wnaeth Arolwg Dinasyddiaeth 2008/09 nodi bod 81% o oedolion yng Nghymru a Lloegr yn cynnal cysyll ad ystyrlon o leiaf unwaith y mis â rhywun o gefndir ethnig neu grefyddol gwahanol. Serch hynny, mae’n deg dweud nad yw popeth yn gadarnhaol. Mae dynion a merched du yn eu hugeiniau cynnal ddwywaith yn fwy tebygol o beidio â bod mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant nag ydyw pobl wyn. Mae diffynyddion Du ac Asiaidd yn dal i fod yn fwy tebygol o fynd i’r carchar na’u cymheiriaid gwyn pan geir nhw’n euog o droseddau tebyg – ac maen nhw’n cael dedfrydau hirach. Cam diweddaraf cynnydd y Deyrnas Unedig tuag at gydraddoldeb yw Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae’n nodi ei bod yn anghyfreithlon i rywun wahaniaethu ar sail hil. Mae’r Ddeddf yn diffinio hiliaeth fel hil, lliw, cenedligrwydd neu darddiad ethnig neu genedlaethol. Yn y rhifyn nesaf, byddwn yn rhoi sylw i grefydd a chred.


42 | www.wwha.co.uk | intouch | Cyfranogiad Preswylwyr

Yn cyflwyno Only Residents Aloud Helo! Jane ydw i (yn y llun gyferbyn) ac rydw i’n aelod o Only Residents Aloud (ORA). Na, nid ydym yn canu mewn côr! Mae’n ffordd o rannu ein syniadau a rhoi adborth i Tai Wales & West (WWH). Roedd yn arfer cael ei alw’n Grŵp 500 ond mae wedi cael enw newydd, wedi ei ddewis gan breswylwyr, ac rydym ni’n meddwl ei fod yn enw mwy addas. Beth ydw i’n ei wneud? Rydw i’n rhoi fy marn ar lawer o bethau, fel: • Pa mor dda yw WWH am ddweud wrthyf beth maen nhw’n ei wneud • Pa mor dda yw WWH am ofyn am ein barn a gwrando ar y farn honno, gan eu defnyddio i wella gwasanaethau • Gwasanaethau newydd / ffyrdd newydd o wneud pethau y mae WWH yn ystyried eu gwneud • Gwefan WWH www.wwha.co.uk • Cylchgrawn preswylwyr, In Touch • Dogfennau newydd, a gaiff eu hanfon at breswylwyr

Pam rydw i’n ei wneud? Rydw i’n hoffi’r ffaith bod Tai Wales & West yn gwrando ar yr hyn sydd gen i i’w ddweud, a’u bod yn defnyddio fy sa wyn au i wneud gwasanaethau’n well i bob preswyliwr. Mae’n ffordd dda o ganfod rhagor am yr hyn y mae WWH yn ei wneud. Bob tro rydw i’n cymryd rhan, rydw i’n cael fy nghynnwys mewn cystadleuaeth

flynyddol - dim ond am gymryd rhan! Mae’n hawdd iawn!

Sut rydw i’n rhoi fy marn? Mae’n well gen i ddefnyddio gwefan Tai Wales & West, ond gallwch hefyd roi eich barn drwy’r post neu dros y ffôn. Rydw i’n cael neges e-bost a neges ybod destun i roi gwybod i mi bod arolwgg yn cael n. Mae ei gynnal ar-lein. fnos i gennym bythefnos wy’n ymateb, felly rwy’n gallu ei lenwi arr us i adeg sy’n gyfleus ynd mi. Rydw i’n mynd H ar wefan WWH d ac yna’n eistedd do gyda chwpaned n goffi, yn darllen y wybodaeth ac yn llenwi’r arolwg ar fy nghyfrifiadur. Dim ond tua e’n ei 20 munud mae’n gymryd fel arfer.

Only Residents AL OUD


Cyfranogiad Preswylwyr | intouch | www.wwha.co.uk | 43

Cwrdd â’ch Grŵp Llywio

Jane Styles

Cyfranogiad Preswylwyr (RPSG) Pwy ydym ni?

Rydym yn grŵp o hyd at 18 o breswywyr WWH o bob rhan o Gymru, sy’n helpu Wales & West i fonitro cyfranogiad preswylwyr. Rydym yn cyfarfod bob chwe mis i sicrhau bod sa wyn au preswylwyr yn cael eu hystyried bob amser, beth bynnag yw’r gwasanaeth dan sylw. Mae hyn yn golygu ein bod yn siarad gyda llawer o wahanol aelodau o staff WWH ac yn clywed am lawer o wasanaethau WWH yn ein cyfarfodydd. Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y gogledd a’r de bob yn ail.

Beth rydym wedi ei wneud hyd yn hyn eleni?

Rydym wedi gweithio gyda TPAS Cymru i edrych ar ein sgiliau a nodi hyfforddiant priodol i’n helpu ni i wneud ein gwaith yn well, gan gynnwys hyfforddiant monitro a gwerthuso. Rydym wedi cael hyfforddiant yn barod i ddysgu am annog pobl ifanc i gymryd rhan, a phrosiectau amgylcheddol. Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried sut gall WWH ddarparu hyfforddiant i

breswylwyr sy’n cymryd rhan, sut gall preswylwyr roi ein barn yn y ffordd rydym yn dymuno gwneud hynny, cyfranogiad lleol (Cynlluniau Gwella Ardaloedd) a’r grant Gwneud iddo Ddigwydd (gweler tudalen 44). Yn ogystal, rydym nawr yn edrych ar faint mae WWH wedi ei wario ar gyfranogiad, a beth maen nhw’n bwriadu ei wario yn ystod y chwarter nesaf.

Aelodau newydd

Hoffem estyn croeso cynnes i’n haelodau newydd – Jan Sco o Gaerdydd, Freda Watkins o Flaengarw a Jeff Bunce o Ben-y-bont ar Ogwr. Rydym yn parhau i chwilio am aelodau yn ardal Caerdydd. Gan fod llawer o’n haelodau cyfredol dros 50 oed, hoffem annog pobl dan 50 oed i ymgeisio, fel y gallwn glywed eich sa wyn au chi, hefyd.

I ymuno ag Only Residents Aloud neu ein RPSG, cysylltwch â: Claire Hammond, y Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr, ar claire.hammond@wwha.co.uk neu ffoniwch 0800 025 2526. I fod yn aelod o ORA, nid oes yn rhaid i chi fod yn ddeiliad tenan aeth, a gall mwy nag un o’r un aelwyd ymuno.


44 | www.wwha.co.uk | intouch | Cyfranogiad Preswylwyr

Mae’r haf

ar ei ff ordd Eisiau rhoi cynnig

ar rywbeth newydd? Mae gennym lawer o ffyrdd i’ch helpu i ddod at eich gilydd gyda’ch cymdogion a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Mae ein gran au Gwneud iddo Ddigwydd yn gran au bychan o hyd at £500 i helpu preswylwyr i ddod at ei gilydd yn eich cynllun neu eich stad, ac nid oes yn rhaid i chi fod yn rhan o grŵp i ymgeisio. Gallwn dalu am gyfarpar ar gyfer gweithgareddau yr hoffech roi cynnig arnyn nhw. Dyma rai gweithgareddau y mae’r grant wedi galluogi’r preswylwyr i ymgymryd â nhw: • cyfarpar coginio i ddechau clwb cinio wythnosol • offer a deunyddiau i wneud cardiau neu emwaith i’w gwerthu a chodi arian ar gyfer rhagor o weithgareddau • paen o wynebau a chyfarpar chwarae i gynnal diwrnod hwyl ar gyfer yr holl deulu • consol a rheolyddion Wii-fit i wneud zumba a chwarae gemau i beri i chi symud • peiriant bingo i gynnal nosweithiau bingo llawn hwyl, lle gallech ennill gwobr Gallwn hefyd helpu os ydych angen

Glenys Vandervolk a Jimmy Barnes yn plannu pys yng Ngardd Gymunedol Llaneirwg, Caerdydd

hyfforddiant i’ch helpu i wneud eich gweithgaredd newydd, fel hyfforddiant hylendid bwyd, fel y gallwch baratoi bwyd yn ddiogel mewn clwb cinio. Gallwn roi arian i chi ddechrau prosiectau garddio newydd i dyfu ffrwythau a llysiau drwy ein grant Amgylcheddol a’n grant Gwneud iddo Ddigwydd. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu am gyfrifiaduron, gallwn helpu i ddod â thiwtoriaid gyda gliniaduron i’ch dysgu yn eich cynllun neu ar eich stad.

Os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw gymorth neu weithgareddau a grybwyllir yma, cysylltwch â Claire Hammond, y Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr, ar claire.hammond@wwha.co.uk neu ffoniwch 0800 052 2526


Gwobrau gwneud gwahaniaeth | intouch | www.wwha.co.uk | 45

Pwy yw eich arwr chi? Pwy ydych chi’n eu hadnabod sy’n gwneud gwahaniaeth o ddifrif i’ch cymdogaeth? Rhywun sy’n mynd y fill r ychwanegol i helpu ffrindiau a chymdogion? Efallai eu bod nhw wedi dechrau grŵp ieuenc d neu gymunedol? Efallai eu bod nhw’n gofalu am ardd hyfryd, neu efallai eu bod nhw’n tyfu ffrwythau a llysiau – neu wedi dechrau tyfu eu cynnyrch eu hunain ar randir? Neu efallai eu bod nhw wedi goresgyn problemau difrifol i ddychwelyd i’r gwaith? Neu wedi mynd i’r coleg i gael cymwysterau newydd? Beth bynnag yw eu stori, rydym eisiau ei chlywed.

Ddydd Gwener 11 Hydref, byddwn yn cynnal ein chweched seremoni Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth flynyddol. Wedi sefydlu ei hun yn gadarn erbyn hyn fel ucha wynt blwyddyn Tai Wales & West, mae’r gwobrau’n dathlu ymdrechion gwych ein holl arwyr ac arwresau di-glod – ynghyd â bod yn noson allan wych.


46 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwobrau gwneud gwahaniaeth

Bydd pawb a gaiff le ar y rhestr fer – a’r bobl a’u henwebodd – yn cael cyfle i fwynhau pryd tri chwrs o’r radd flaenaf ac adloniant yng ngwesty Mercure Holland House, Heol Casnewydd, Caerdydd. Gallwch weld rhagor drosoch eich hunan ar YouTube – chwiliwch am Wales & West Housing Associa on’s Making A Difference Awards, lle gallwch weld fideos byr o seremonïau’r blynyddoedd diweddaraf Y categorïau unwaith eto eleni yw: Cymydog da, Dechrau o’r newydd, Eco bencampwr, Garddwr gorau (Pobl hŷn), Garddwr gorau (Pobl iau), Prosiect Cymunedol ac Arwr Lleol David Taylor. Nid oes angen talu i ymgeisio – nid oes gennych unrhyw beth i’w golli, ond llawer iawn i’w ennill.

Felly, os hoffech gopi o’r ffurflen enwebu, naill ai ewch i’n gwefan www.wwha.co.uk lle gallwch lwytho copi i lawr, neu ffoniwch Sharon neu Keri ar 0800 052 2526 unrhyw dro, ac fe fyddwn yn falch o anfon ffurflen atoch, a’ch helpu gydag unrhyw gwes wn a allai fod gennych ynghylch y gwobrau. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener 30 Awst 2013.


Gwneud y peth iawn | intouch | www.wwha.co.uk | 47

Crynodeb gwobrau Pan aed i’r wasg, roedd nifer o’n staff a’n preswylwyr naill ai wedi ennill neu wedi cael lle ar restr fer gwobrau mawreddog. Dyma’r manylion:

Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru 2013 Llongyfarchiadau i’n garddwyr medrus, sef yr ‘Eco Ryfelwyr’ o Western Court, ein cynllun er ymddeol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Fe’u gwelir yn y llun isod, ac fe wnaethon nhw ennill Gwobr Gwella’r Amgylchedd. Cafodd y Swyddog cyngor Ariannol, Les Cooper, gymeradwyaeth wresog am gyrraedd y trydydd safle yn y Wobr Cydweithiwr Ysbrydoledig. Yn drist, bu farw Les yn annisgwyl yn gynharach eleni. Fe’i gwelir yn y llun isod, ac roedd yn gweithio yn ein swyddfa yn y Fflint yng ngogledd Cymru. Roedd yn aelod gweithgar o Fforwm Galluedd Ariannol Gogledd Cymru, ac yn hynod ddylanwadol ac uchel ei barch yn y sector. Cafodd effaith gadarnhaol dros ben ar fywydau pawb a fu mewn cysyll ad ag ef.

Gwobrau Arwyr Tai CIH Mae’r Rheolwr Cynllun Helen Jones, uchod, o Landudno, Conwy, wedi cael lle ar restr fer categori hynod gystadleuol y Cydweithiwr Ysbrydoledig yn y gwobrau hyn, sy’n gymwys i bawb yn y Deyrnas Unedig. Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu datgelu mewn noson gala carped coch yn Llundain ar 24 Mehefin – pob lwc, Helen, a da iawn am gyrraedd mor bell yn y gwobrau mawreddog hyn.


48 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud y peth iawn a hefyd wedi dal gafael yn y radd tair seren mawr ei bri i’r Cwmnïau gorau.

Sydney Hall Court ymhlith 5 Llety er ymddeol mwyaf caredig at anifeiliaid yn y Deyrnas Unedig yn ôl y Cinnamon Trust Gwobrau Rhagoriaeth mewn Adnoddau Dynol Mae Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, wedi cael lle ar restr fer Gwobr y Prif Weithredwr sy’n canolbwyn o orau ar bobl yn y sector elusennau / nid er elw. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i Anne gael ei chynnwys ar restr fer y wobr hon, ac unwaith eto, hi yw’r unig Brif Weithredwr o gwmni o Gymru ar y rhestr fer hon, sydd wedi cael ei dewis ar sail canlyniadau Cwmnïau Gorau 2013 y Sunday Times.

Cwmnïau gorau 2013

Mae Sydney Hall Court, Cei Connah, yn arwain y sector eto drwy gael ei gynnwys ymhlith 5 Llety er ymddeol mwyaf caredig at anifeiliaid yn y Deyrnas Unedig yn ôl y Cinnamon Trust. Da iawn i’r rheolwr Cynllun Rob Holmes, yr holl breswylwyr, ac, wrth gwrs, eu hanifeiliaid anwes hapus iawn am helpu’r cynllun i ddal gafael yn y statws pwysig hwn. “Yn ddiweddar, cyfrannodd yr ymddiriedolaeth £250 at Sydney Hall Court, a fydd yn ein galluogi i ddarparu man cerdded diogel i gŵn yn y cynllun” meddai Rob. Yn awr, rydym yn edrych ymlaen at groesawu criw ffilmio’r Cinnamon Trust i’r cynllun dros yr haf – cadwch olwg am fanylion!

Roeddem wrth ein bodd ein bod wedi gwella unwaith eto ar ein lle yn y rhestr o Gwmnïau (Nid er elw) gorau, gan gyrraedd y 7fed safle yn y Deyrnas Unedig eleni, a chodi un safle o lle’r oeddem y llynedd. Mae hyn yn golygu ein bod wedi dal gafael yn ein safle fel cwmni nid-er-elw gorau Cymru, Beryl Haslam gyda Cheeky y cocka el


Y diweddaraf am elusennau | intouch | www.wwha.co.uk | 49

A neidio! Mwy na £10,000 wedi’i godi tuag at Gymdeithas Strôc Cymru

mor hael fel rhan o’u hymdrechion codi arian.”

Fe wnaeth m awyrblymio dewr Tai Wales & West, sef Verity Kimpton, Di Barnes ac Anne Hinchey, lwyddo i neidio er budd Cymdeithas Strôc Cymru – gan godi dros £10,000 yn y broses.

Mae gan Verity brofiad personol o effeithiau dinistriol strôc, can fod ei mam Julie wedi cael strôc pan oedd hi’n 45 oed.

Neidiodd y tair o uchder o 13,000 uwchlaw maes awyr Abertawe mewn heulwen braf ar 6 Ebrill, ac maen nhw wedi disgrifio’r naid fel un “frawychus” ond “arbennig.” Hyd yn hyn, mae’r tair wedi codi £10,034 tuag at Gymdeithas Strôc Cymru, ac maen nhw’n gobeithio codi hyd yn oed mwy. Dywedodd Ana Palazon, Cyfarwyddwr Cymdeithas Strôc Cymru: “Dyna gyflawniad a hanner! Rydym wedi gwirioni ac wrth ein bodd gyda dewrder y rhai a neidiodd o gymaint o uchder i gefnogi’r Gymdeithas Strôc – nid oedd hon yn dasg i’r gwangalon, yn sicr. Mae codi £10,000 ar ein cyfer yn sgil un digwyddiad yn rhyfeddol. Rydym yn hynod ddiolchgar i’r rhai a neidiodd, ac i’r rhai a gyfrannodd

A hithau nawr yn 60 oed, mae Julie wedi gwella’n wych, diolch i’r drefn, a dywedodd Verity ei bod hi wedi neidio ar y cyfle – yn llythrennol, felly – i godi arian tuag at Gymdeithas Strôc Cymru, gan ei bod hi’n grediniol na fyddai Julie gystal ag y mae hi heddiw heb eu cymorth nhw. “Nid oeddwn wedi breuddwydio am wneud y fath beth ag awyrblymio, a dim ond newydd ddod at ei hun mae curiad fy nghalon,” meddai Verity. “Ond rydw i mor falch o’r tair ohonom - roedd yn brofiad gwirioneddol wych.”


50 | www.wwha.co.uk | intouch | Y diweddaraf am elusennau

Preswylwyr Nant y Môr yn cefnogi’r ddwy elusen

Trosglwyddo siec o £26,500.00 i Help for Heroes Ym mis Chwefror, teithiodd m elusennol WWH o Gaerdydd i Tedworth House yn Swydd Wiltshire, cartref yr elusen Help for Heroes, i drosglwyddo siec am £26,500.00. Dyma’r swm rhyfeddol a godwyd gan dîm elusennol WWH yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae Tedworth House yn ganolfan adfer nodedig. Ei diben yw ysbrydoli’r rhai a glwyfwyd, a anafwyd neu sy’n sâl ar ôl cyfnod yn y fyddin, lle gallan nhw fynd am gymorth gydol oes.

Marguerite a’i merch Jenny gyda’i sieciau cyflwyno.

Fe wnaeth un o breswylwyr Cynllun Gofal Ychwanegol Nant y Môr ym Mhrestatyn, Marguerite Kinsella, ynghyd â’i merch Jenny, drefnu diwrnod codi arian y Jiwbilî llynedd a gododd gyfanswm o £376.46. Cafodd y swm teilwng hwn ei rannu’n gyfartal wedyn rhwng Help for Heroes a Hosbis St Ken gern. Cafodd y cyflwyniad ei ohirio tan 1 Ebrill 2013 o ganlyniad i afiechyd Mrs Kinsella. “Llongyfarchiadau ar y cyflawniad gwych hwn i holl breswylwyr Nant y Môr, a diolch o galon i Marguerite” meddai Yveline Hands, Rheolwr Cynllun Gofal Ychwanegol Nant y Môr.

Staff WWH yn rhoi cynnig ar 10 Ras Dydd Gŵyl Dewi yng Nghaerdydd Ymysg y 2000 o redwyr ym Mharc Bute yng Nghaerdydd ar 3 Mawrth, roedd yr aelodau o staff WWH, Roy Preece, Suzanne Round a Glyn Smith, a redodd y ras 5k gyda Sean Gough a’i efeilliaid yn eu harddegau, sydd i’w gweld yn y llun uchod. Bu Rochelle a Fearghas yn rhedeg y ras 10k. Trefnwyd y ras gan Luoedd Arfog Prydain i godi arian tuag at Ymchwil Canser ac elusennau etholedig eraill. Rhwng y grŵp, fe wnaethon nhw godi £338 tuag at Gymdeithas Strôc Cymru.


Eich newyddion a’ch sa wyn au | intouch | www.wwha.co.uk | 51

Eich storïau o bob rhan o Gymru henwebu gan ei merch, Anwen, a oedd eisiau dangos pa mor ddewr ac arbennig yw ei mam. Mae Chris yn fam ac yn nain ryfeddol i’w 3 o wyrion, Ellis, Finnlay ac Isaac, sy’n sicr yn ei chadw’n heini!

Cyfarfod ffarwelio i Roz a Peter Cynhaliodd preswylwyr Sylvester Court bar ffarwelio yn gynnar ym mis Rhagfyr i ddau o’r preswylwyr, Roz a Peter Whi aker, a oedd yn symud i Cumbria i fod yn nes at eu teulu. Daeth nifer dda yno i ddiolch iddyn nhw am eu gwaith gyda phreswylwyr ynghyd â Chymunedau yn Gyntaf a “Dynion mewn Siediau” Barracksfield - prosiect i annog rhagor o ddynion i ddatblygu diddordeb mewn garddio. “Fe wnaeth y ddau wahaniaeth mawr i fywydau cymaint o breswylwyr sy’n byw yn Sylvester Court, a bydd colled fawr ar eu hôl” meddai Dianne Hughes, y Rheolwr Cynllun.

Enillydd ‘Mam y Flwyddyn’ y Daily Post Cafodd Mrs Chris ne Williams o Dŷ Gwynn Jones ei henwi’n ‘North Wales Mum in a Million’ gan y Daily Post ar gyfer Sul y Fam, ar ôl cael ei

Adloniant heb ei ail yn Nant y Môr Bu preswylwyr yn taro eu traed ar y llawr ac yn clapio eu dwylo i seiniau “Strings & Things”, band bluegrass a fu’n diddanu am dros awr. Fe wnaeth casgliad sydyn godi £65 tuag at elusen Tŷ Gobaith ym Mae Colwyn.

Lena Charles yn cael cydnabyddiaeth yn 95 oed. Ar ôl cael ei henwebu gan Yvonne Humphreys, y Rheolwr Cynllun yn Danymynydd yng Nghwm Garw, cafodd Lena Charles Wobr yr Arglwydd Faer am ei gwaith elusennol ledled y Cymoedd dros y blynyddoedd. Aeth i’r seremoni ar 15 Mawrth gyda’i merch.


52 | www.wwha.co.uk | intouch | Cyfranogiad preswylwyr

Byw’n wyrdd gyda’n cronfa amgylcheddol

Wyddech chi fod gan WWH bot o arian ar gael i breswylwyr ddatblygu prosiectau amgylcheddol ac yn yr ardd? Mae bod yn gymwys am gymorth ariannol yn broses syml: • Dewch ynghyd gyda’ch ffrindiau a’ch cymdogion • Meddyliwch am ffordd ecogyfeillgar o wella eich cymdogaeth • Cytunwch i weithio fel m • Ymgeisiwch am arian gan WWH Un prosiect o’r fath y mae ein Cronfa Amgylcheddol yn ei gefnogi yw’r Ardd Gymunedol a sefydlwyd yn ddiweddar yn Llaneirwg yng Nghaerdydd Caerdydd. Mae’r m sy’n gyfrifol am yr ardd gymunedol hon yn awr yn chwilio am ragor o breswylwyr i gymryd rhan a datblygu’r man gwyrdd hwn. Mae enghrei iau da eraill o brosiectau’r Gronfa Amgylcheddol yn cynnwys Caerau Po ers ar Caerau Court Road, Caerdydd, a Gardd Gymunedol Buxton Court yn y Rhyl. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae preswylwyr Western Court yn parhau i ddatblygu eu mannau tyfu, ar ôl ychwanegu at eu dau wely plannu wedi’u codi gyda llwyni ffrwythau mewn rhan arall o’r r. Yng Nglan yr Afon, ger Maesteg, mae preswylwyr yn parhau i ddatblygu eu

mannau tyfu, ac maen nhw newydd brynu rhagor o bridd da. Yn y cyfamser, yng nghynllun er ymddeol Oak Court ym Mhenarth, mae preswylwyr wrthi’n dechrau eu clwb garddio eu hunain, ac fe fyddan nhw’n datblygu rhywfaint o’r r o amgylch y cynllun fel man tyfu. Mae’r holl brosiectau uchod bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu, felly os ydych yn byw’n agos at un o’r cynlluniau a enwir uchod, peidiwch ag oedi cyn galw draw ac ymuno â nhw. Yn olaf, os oes gennych syniadau ynghylch gwella eich cymdogaeth neu fannau gwyrdd yn eich cymuned, cysylltwch ag Owen Jones Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd, owen.jones@wwha.co.uk Nodwch na all eich cronfa amgylchedd dderbyn ceisiadau gan unigolion ar hyn o bryd, yn anffodus.


Pen-blwyddi a dathliadau | intouch | www.wwha.co.uk | 53

Pen-blwydd hapus, Nan Dathlodd Mrs Annie (Nan) Law ei 100fed pen-blwydd yng nghynllun er ymddeol Llys Hafren, y Drenewydd, Powys, gyda phar a gynhaliwyd gan ei ffrindiau a’i theulu ar 9 Chwefror.

Darrell Smith, Swyddog Rheoli Asedau, Rhian Marsh, Swyddog Tai, Nan, ac Amy Parry, Rheolwr Cynllun Llys Hafren, ar ben-blwydd Nan.

Pedwar pen-blwydd mawr Bu digon o gyfle i fwynhau yn Nhŷ Pontrhun, yn Nhroedyrhiw, Merthyr Tudful, gyda phedwar dathliad pen-blwydd yn ystod mis Mawrth: Roedd Mr Clayton Jones yn 80 oed ar 23 Mawrth Roedd pen-blwydd dwbl ar 27 Mawrth, gydag Alec Anderson yn 90 oed, a Michael Rees yn 60 oed

Pen-blwydd Joan Woods yn 90 oed

Daeth perthnasau, ffrindiau a chymdogion ynghyd ddydd Iau 21 Mawrth yn y lolfa gymunol yn Sydney Hall Court, Cei Connah, i ddathlu 90ain pen-blwydd un o breswylwyr mwyaf newydd y cynllun, Joan Woods.

Trefnodd ei merch a’i mab bar a bwffe, ac roedd nifer o’i pherthnasau a’i chymdogion yn bresennol. A hithau’n hanu o Lerpwl yn wreiddiol, symudodd Joan i’r cynllun ym mis Hydref 2012 i fod yn nes at Linda a Carlo, ei merch a’i mab yng nghyfraith. Mae Joan yn ddarllenwraig frwd, ac yn nain falch i bump o wyrion, a hefyd yn hen nain i bump, gyda disgwyl i chweched gor-ŵyr gael ei eni yn ddiweddarach eleni. Dywedodd y Rheolwr Cynllun, Rob Holmes, “Roedd yn wych bod Joan wedi gallu dathlu ei phen-blwydd yn y ffordd hon gyda chyfarfod dathlu mawr.” Ychwanegodd Joan, a wasanaethodd ym Myddin y Tir yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ei bod “eisiau diolch i bawb, o waelod fy nghalon, am wneud fy mhen-blwydd y gorau erioed ac yn gofiadwy dros ben.”

Roedd Pauline Orchard yn 72 oed ar 29 Mawrth

Pen-blwydd hapus i bawb ohonoch! Joan yn rhoi cynnig ar dorri ei theisen ben-blwydd yn 90 oed!


54 | www.wwha.co.uk | intouch | Pen-blwyddi a dathliadau

Pen-blwydd Priodas Ddiemwnt

Frank a Flo Munn yn Byron Court, Bro Morgannwg Ar ôl anfon llythyrau at ei gilydd am dros dair blynedd, fe wnaeth Frank anfon llythyr at Flo yn gofyn iddi ei briodi pan oedd yn y Llu Awyr Brenhinol yn yr Ai . Dywed Frank ei fod wedi anfon yr arian a i brynu modrwy, a bod y gemydd wedi edrych yn rhyfedd arni pan aeth ato ar ei phen ei hun! Cyrhaeddodd adref ar 21 Chwefror 1953, a chynhaliwyd y briodas ar 28 Chwefror dan drwydded arbennig. Mae’r cariadon hyn yn dweud eu bod nhw wedi byw mewn 29 lle gwahanol yn ystod eu bywyd gyda’i gilydd. Maen nhw’n disgrifio pob cartref newydd fel ‘antur gyda ffrindiau newydd ac atgofion hyfryd’. Pen-blwydd priodas hapus, Frank a Flo.

Lena yn torri ei theisen briodas a’i cherdyn gan aelodau o’i theulu, Gill a Gareth.

Pen-blwydd hapus Lena Dathlodd Lena Charles ei phen-blwydd yn 95 oed mewn steil yn Danymynydd, Pen-y-bont ar Ogwr, ar 23 Mawrth.

Enillydd y gystadleuaeth ffotograffiaeth Enillydd y gystadleuaeth ffotograffiaeth yn rhifyn y gaeaf dan y thema ‘Cyfeillgarwch’ oedd Mrs Lindsey Harrison, o’r Paddock, Mancot, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, sydd i’w gweld yn cael copi wedi’i fframio o’r llun buddugol a’i thalebau Argos gan Craig Atherton, y Swyddog Tai.


Cystadleuaeth ffotograffau | intouch | www.wwha.co.uk | 55

ŶĨŽŶǁĐŚĞŝĐŚīŽƚŽŐƌĂīĂƵ ĂƚŽŵĂŵŐLJŇĞŝĞŶŶŝůů͊ zŶŐŶŐŚLJƐƚĂĚůĞƵĂĞƚŚĨĨŽƚŽŐƌĂĨĨĂƵ͛ƌƌŚŝĨLJŶŚǁŶ͕ƌLJĚLJŵLJŶĐŚǁŝůŝŽĂŵ ĨĨŽƚŽŐƌĂĨĨĂƵƐLJ͛ŶĂĚůĞǁLJƌĐŚƵďLJǁĂŐǁĞŝƚŚŝŽŐLJĚĂdĂŝtĂůĞƐΘtĞƐƚ͘ ǁĐŚĂƟŝĚLJŶŶƵůůƵŶŝĂƵ͕ĂĐĨĞĂůůĞĐŚĞŶŶŝůů ŐǁĞƌƚŚάϭϬϬŽĚĂůĞďĂƵƌŐŽƐ͘DĂĞ͛ƌŵLJŶĞĚŝĂĚ D/D͕ĂĐŵĂĞ͛ƌŐLJƐƚĂĚůĞƵĂĞƚŚLJŶĂŐŽƌĞĚŝ ŚŽůůďƌĞƐǁLJůǁLJƌĂƐƚĂītt,ůĞĚůĞĚLJŵƌƵ͕Ž ďŽďŽĞĚƌĂŶ͘ ŶĨŽŶǁĐŚĞŝĐŚĐLJŶŝŐŝŽŶŶĂŝůůĂŝĚƌǁLJĞͲďŽƐƚ;īŽƌŵĂƚ JPEG os gwelwch yn dda) at: keri.jones@wwha. ĐŽ͘ƵŬŐLJĚĂƚŚĞŵĂ͚LJǁĂŐǁĞŝƚŚŝŽŐLJĚĂdĂŝtĂůĞƐΘ tĞƐƚ͛ĨĞůƉĞŶŶĂǁĚ͕ĂƌŚŽǁĐŚĞŝĐŚĞŶǁ͕ĞŝĐŚŽĞĚƌĂŶ͕ ĞŝĐŚĐLJĨĞŝƌŝĂĚĂ͛ĐŚƌŚŝĨīƀŶLJŶLJŶĞŐĞƐ͘EĞƵ͕ŐĂůůǁĐŚ ĂŶĨŽŶĞŝĐŚůůƵŶŝĂƵĂƚ<Ğƌŝ:ŽŶĞƐ͕dĂŝtĂůĞƐΘtĞƐƚ͕ϯ ůĞdžĂŶĚƌĂ'ĂƚĞ͕&ĨŽƌĚĚWĞŶŐĂŵ͕dƌĞŵŽƌĨĂ͕ĂĞƌĚLJĚĚ &ϮϰϮh͘ŽĮǁĐŚŐLJŶŶǁLJƐĂŵůĞŶąƐƚĂŵƉĂ͛ĐŚ ĐLJĨĞŝƌŝĂĚĂƌŶŝŽƐŚŽīĞĐŚŝŶŝĚĚLJĐŚǁĞůLJĚLJůůƵŶŝĂƵŝĐŚŝ͘ ƌǁLJŐLJŵƌLJĚƌŚĂŶLJŶLJŐLJƐƚĂĚůĞƵĂĞƚŚŚŽŶ͕ŶŽĚǁĐŚ ĞŝĐŚďŽĚLJŶĐLJƚƵŶŽ͛ŶĂǁƚŽŵĂƟŐLJĐĂŝīƵŶƌŚLJǁůƵŶ ĂĂŶĨŽŶǁĐŚĞŝĚĚĞĨŶLJĚĚŝŽŐĂŶtt,ĞƌĚŝďĞŶŝŽŶ ŵĂƌĐŚŶĂƚĂŶĞƵŚLJƌǁLJĚĚŽ͘

Y dyddiad cau ar ŐLJĨĞƌĐLJŶŝŐŝŽŶLJǁϯϭ 'ŽƌīĞŶŶĂĨϮϬϭϯ͕Ă ďLJĚĚWƌŝĨtĞŝƚŚƌĞĚǁƌ tt,͕ŶŶĞ,ŝŶĐŚĞLJ͕ ĂŚĂĚĞŝƌLJĚĚLJǁƌĚĚ͕ <ĂƚŚLJ^ŵĂƌƚ͕LJŶĚĞǁŝƐLJƌ ĞŶŝůůLJĚĚ͕ĂĨLJĚĚLJŶĐĂĞů ŐǁĞƌƚŚάϭϬϬŽĚĂůĞďĂƵ ƌŐŽƐ͕LJŶŐŚLJ̹ЌŽƉŝ ǁĞĚŝ͛ŝīƌĂŵŝŽŽ͛ƵůůƵŶ͘ LJĚĚLJůůƵŶďƵĚĚƵŐŽůLJŶ cael ei gynnwys yn rhifyn ŶĞƐĂĨ/ŶdŽƵĐŚ͘


stroke.org.uk

Cymerwch gamau yn erbyn strĂ´c aâ&#x20AC;&#x2122;n helpu ni i godi arian trwy drefnu digwyddiad â&#x20AC;&#x2DC;Sipian ar gyfer StrĂ´câ&#x20AC;&#x2122;. *ZDKRGGZFKHLFKÇ&#x2039;ULQGLDXWHXOX F\PGRJLRQQHXJ\GZHLWKZ\UDWKUHIQZFK XQUK\ZEHWKRIRUHFRÇ&#x17D;WHSDUWLQHXK\G \QRHGEDUWLFRFWHOĹŠPDHĹĄUSRVLELOLDGDXĹĄQ GGLGGLZHGGIHOO\E\GGZFK\QJUHDGLJRO ,JDHOPZ\RZ\ERGDHWKDPĹ 6LSLDQDUJ\IHU 6WUÂśFĹĄDFLGGHUE\QHLFKSHF\QFRGLDULDQ \QUKDGDFDPGGLPF\V\OOWZFK¤7K°P &RGL$ULDQ&\PUXDU029 2052 4417 QHX DQIRQZFKQHJHVHERVWDW fundraisingwales@stroke.org.uk Wediâ&#x20AC;&#x2122;i chofrestru fel Elusen yng Nghymru a Lloegr (Rhif 211015) ac yn yr Alban (SC037789). Hefyd wediâ&#x20AC;&#x2122;i chofrestru yng Ngogledd Iwerddon (XT33805), Ynys Manaw (Rhif 945) a Jersey (NPO 369).

(UEÄ&#x160;Ä&#x201D;G\*\Ä&#x201A;Ä&#x201D;HÞĤKÜģ6WÄ&#x2021;Ă&#x160;F Gyda chefnogaeth garedig

Intouch Gwanwyn 2013  

Y cylchgrawn i breswylwyr Wales & West Housing

Advertisement