Issuu on Google+

Health & Safety | intouch | www.wwha.co.uk | 17

intouch RHIFYN 76 | HYDREF 2013 | AM DDIM

Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West

Yn y rhifyn hwn... Arbed arian ar eich biliau ynni Iechyd meddwl – gadewch i ni drafod Buddugoliaeth genedlaethol i eco-ryfelwyr Adroddiad Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2013


switch on to cheaper energy… newidiwch i ynni rhatach . . .

CYD CYMRU

WALES TOGETHER ENERGY COLLECTIVE CYDWEITHFA YNNI

Sign up today. Collectively we can save more. You could save between £60 and £250 off the cost of your household energy bill. By coming together to buy our energy in Wales, we can negotiate better deals and pass on the savings to you! There’s no obligation to switch, we will tell you how much you can save before you decide.

Cofrestrwch heddiw. Gyda’n gilydd gallwn arbed mwy. Gallech arbed rhwng £60 a £250 oddi ar gost biliau ynni eich cartref Drwy ddod ynghyd i brynu ein hynni yng Nghymru, gallwn sicrhau gwell bargen a throsglwyddo’r arbedion i chi! Does dim rhaid i chi newid, byddwn yn rhoi gwybod i chi faint y gallwch ei arbed cyn i chi benderfynu.

www.cydcymru-energy.com www.cydcymru-egni.com

0800 093 5902


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 03

Llythyr y Golygydd Helo bawb A hithau’n nosi’n gynt a’r tymheredd yn gollwng – ydi, mae’r hydref yn sicr wedi cyrraedd, a chroeso i rifyn hydref 2013 In Touch. Mae cadw’n gynnes yn hanfodol i bob un ohonom os ydym am gadw mor iach â phosibl yn ystod misoedd y gaeaf, ond mae biliau ynni yn poeni pawb ohonom. Felly, i’ch helpu, mae gennym lawer o awgrymiadau ar sut gallwch arbed arian ar eich biliau ynni ac aros yn ddiogel ac yn glyd (gweler Materion Ariannol, tudalennau 11-12). Oeddech chi’n gwybod y bydd un o bob pedwar ohonom yn cael problem iechyd meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol? Mind, yr elusen iechyd meddwl, yw un o’r sefydliadau sy’n gweithio’n galed i chwalu’r s gma sy’n gysyll edig â phroblemau iechyd meddwl. Rydym yn siarad ag un dyn am ei brofiadau - a sut mae cael cyflogwr cefnogol wedi gwneud byd o wahaniaeth (gweler Byw’n Iach - tudalennau 26 - 27). Yn ogystal, mae gennym adroddiad llawn ar ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blynyddol – ac roedd hi’n noson wych! Ac mae cyn enillwyr y Gwobrau o Ben-y-bont ar Ogwr wedi mynd gam ymhellach ac ennill gwobr tai cynaliadwy blaenllaw yn y Deyrnas Unedig (gweler Byw’n Wyrdd, tudalen 34). Rwy’n gobeithio y byddwch yn mwynhau ein cylchgrawn rhowch wybod i ni beth yw eich barn amdano a beth hoffech chi ei weld yn rhifynnau’r dyfodol, gan fod croeso mawr i’ch sylwadau bob amser. Cymerwch ofal a chadwch mewn cysyll ad.

Cysylltu â ni

Cynnwys Newyddion a gwybodaeth WWH Materion ariannol Cynnal a chadw wedi’i gynllunio Cymdogaethau sy’n gweithio Adroddiad chwarterol Byw’n iach Cydraddoldeb ac amrywiaeth Cyfranogiad preswylwyr Byw’n wyrdd Eich newyddion a’ch sa wyn au Y diweddaraf am elusennau Pen-blwyddi a dathliadau Cystadleuaeth y Nadolig

4 10 16 18 21 26 28 31 37 39 42 45 47

Wyddech chi eich bod chi nawr yn gallu cael mwy o newyddion a diweddariadau ar-lein? Dilynwch ni ar twiƩer

@wwha

intouch mewn ieithoedd a fformatau eraill Os hoffech chi dderbyn copi o’r rhifyn hwn o In Touch yn y Saesneg neu mewn iaith neu fformat arall, er enghrai , mewn print bras, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni eich helpu chi.

Tai Wales & West Cyf., 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. Ffôn: 0800 052 2526 | Testun: 07788 310420 Ebost: contactus@wwha.co.uk | Gwefan: www.wwha.co.uk Minicom: 0800 052 5205. Gallwch hefyd gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost. Er enghrai , joe.bloggs@wwha.co.uk


04 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol

Buddsoddiad £1m yn y Caerau Dylai preswylwyr yn Caerau Court yng Nghaerdydd deimlo’n llawer mwy clyd yn eu cartrefi eu hunain cyn bo hir, diolch i fuddsoddiad o £1 miliwn yn ardal Caerau. “Mae’r prosiect hwn yn cynrychioli buddsoddiad o tua £10,000 fesul cartref yn Caerau Court, ac rydym yn falch iawn o allu helpu ein preswylwyr yn yr ardal hon drwy’r cynllun hwn.

Gan ddefnyddio cyllid rydym wedi ei sicrhau o raglen Arbed Llywodraeth Cymru, a thrwy weithio gyda Melin Homes, mae ein contractwyr wedi bod yn gweithio’n galed i wella tua 150 o gartrefi yn y cynllun hwn yng ngorllewin Caerdydd. Mae’r gwelliannau rydym yn eu gwneud yn cynnwys: • Inswleiddio waliau allanol • Gosod systemau gwres canolog newydd • Gosod dwsinau o fwyleri nwy cyddwyso newydd sy’n defnyddio ynni’n effeithlon • Systemau awyru newydd a gwell • Gosod op meiddiwyr cam foltedd gyda’r bwriad o ostwng biliau trydan Dywedodd y Rheolwr Masnachol Robin Alldred:

“Yn ogystal â gwneud cartrefi preswylwyr yn fwy clyd, dylai’r gwelliannau rydym yn eu gwneud helpu i’w gwneud yn rhatach i’w gwresogi . Ac rydym yn gobeithio y bydd y gwaith yn rhoi gweddnewidiad ar y cynllun hefyd. Er enghrai , rydym yn cael gwared â’r holl ddysglau lloeren unigol a osodwyd ar y waliau, ac yn lle hynny yn darparu lloeren gymunedol, a thrwy roi cladin ar y tu allan, cawn gyfle i dacluso’r holl wifrau a phibellau allanol a fydd, gobeithio, yn gwella gwedd yr ardal.” Cafodd y preswylwyr gyfle i drafod cynnydd y prosiect mewn dau ddigwyddiad ymgynghori llwyddiannus iawn, y cyntaf ym mis Gorffennaf a’r ail ym mis Medi. Dywedodd Rachel Williams, sy’n disgwyl ei phlentyn cyntaf y Nadolig hwn: “Rwyf mor falch bod Wales &West yn gwneud hyn i gyd i ni – ni allaf ddiolch digon! Rwy’n hoffi fy fflat yn fawr iawn, ond mae wedi teimlo’n llaith ar adegau ac mae hi wedi bod yn ddrud ei wresogi. Mae’r holl waith hwn yn debyg i anrheg Nadolig cynnar i ni, ac wedi dod ar yr union adeg iawn gan y bydd fy maban yn cael ei eni y Nadolig hwn.”


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 05

‘Mae’n anhygoel’ Llys Jasmine yn creu argraff ar breswylwyr a pherthnasau

Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH (chwith) a’r Cynghorydd ChrisƟne Jones gyda David Bloodworth

Mae cynllun gofal ychwanegol / gofal demen a Llys Jasmine wedi agor ei ddrysau i breswylwyr gydag adborth ardderchog. Mae’r adeilad sy’n werth £8.3 miliwn, sy’n cynnwys 61 fflat a dau fyngalo gofal ychwanegol yn yr Wyddgrug, wedi croesawu preswylwyr 65 oed a hŷn sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae’r cynllun o’r radd flaenaf wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, ac mae’n cynnwys 15 o ffla au a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer pobl â demen a. Credir mai dyma’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, gan ei fod yn cynnwys ffla au wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ar gyfer pobl sy’n byw gyda demen a. David Bloodworth, sy’n 82 oed, oedd y preswyliwr cyntaf i symud i mewn. Dywedodd: “Rwyf wedi cael fy syfrdanu. Mae pawb wedi gwneud i mi deimlo’n gartrefol iawn ac mae’n anhygoel. Rwy’n

hoffi fy ystafell ac rwyf wrth fy modd gyda’r bwyd yma. Dyma fy nghartref yn awr!” Mae’r cynllun wedi creu argraff ar berthnasau hefyd. Fe wnaeth Tim Willan, sy’n 49 oed, helpu i symud ei fam Nancy i’r cynllun. “Rydw i’n falch iawn o weld pa mor dda yw safon y gofal y mae fy mam yn ei gael. Mae hi’n hapus iawn yma ac mae’n galonogol gwybod ei bod hi mewn dwylo da.” Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Tai Wales & West: “Rwy’n falch iawn o groesawu preswylwyr i’r cynllun arloesol hwn, a hoffem ddiolch i’n partneriaid, Cyngor Sir y Fflint, am helpu i wneud hyn yn bosibl. Bydd y cyfleusterau gwych a’r gwasanaeth cymorth rhagorol yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau preswylwyr, ac mae’n hyfryd eu gweld yn ymgartrefu yn eu cartrefi newydd.”


06 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol

Calon y gymuned

eisiau cynnal eu gweithgareddau neu eu cyfarfodydd am bris rhesymol.

Mae preswylwyr sy’n byw yn Hightown, Wrecsam, yn edrych ymlaen at agor eu canolfan adnoddau cymunedol newydd o’r radd flaenaf, sydd wedi cael ei ddatblygu fel rhan o brosiect ailddatblygu sy’n werth £15m. Mae’r ganolfan, sydd i agor ym mis Ionawr, wrth ymyl canolfan feddygol newydd a 127 o gartrefi fforddiadwy o ansawdd da, ar draws dau safle ar Kingsmill Road a’r Rivulet Road cyfagos. Bydd y ganolfan ar gael i breswylwyr Hightown a’r gymuned ehangach. Gyda neuadd weithgareddau fawr, ystafelloedd cyfarfod a chegin llawn offer, bydd y ganolfan yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd

Cafodd y preswylwyr lleol gipolwg ar y ganolfan wrth i’r paentwyr fynd yno. Dywedodd Paula Darnia, cadeirydd grŵp llywio’r ganolfan: “Pan welais y ganolfan gyntaf roeddwn yn hapus iawn gyda’i faint a pha mor olau ac yn awyrog mae’n ymddangos. Rwyf wrth fy modd gyda’r lliwiau ac ni allaf aros iddo agor.” Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth agos â Chyngor Wrecsam, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, er mwyn gwneud y datblygiad hwn yn bosibl. Mae’r ganolfan newydd yn un agwedd yn unig ar helpu i wneud y gymuned yn lle gwell i fyw.” Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu lle, ffoniwch 0300 123 20 70. Cymerwch olwg ar www.hightownflats. com am ddiweddariadau rheolaidd, dilynwch ni ar Twi er @wwha a chadwch lygad ar ein gwefan www.wwha.co.uk

Yn galw ar breswylwyr Wrecsam! Ydych chi’n un o breswylwyr Tai Wales & West sy’n byw yn Wrecsam? Ydych chi eisiau cyngor ar rent a materion tai, neu angen siarad gyda rhywun am rywbeth sy’n eich poeni chi? Yna galwch draw i’n gweld ni – bob dydd Mercher mae’r swyddogion tai Donna Su on, Tanya Bell

a Jill Wilcox ynghyd â’r Cynorthwyydd Gwasanaethau Eiddo Jane Duckers a’r Cynorthwyydd Tai Karen Boyce, ar gael am sgwrs rhwng 10am a 1pm. Ewch i Ganolfan Adnoddau Tŷ Luke O’Connor, Barter Court, Hightown, Wrecsam LL13 8QT.


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 07

Gwelliannau mawr i gynllun yng Nghaerdydd Mae gwaith adnewyddu mawr, gan gynnwys rhaglen enfawr i osod ffenestri a drysau newydd, wrthi’n cael ei chynnal yn West Lee, cynllun anghenion cyffredinol o 130 o ffla au yn Nhreganna, Caerdydd. Mae sgaffaldiau wedi cael ei chodi o amgylch y cynllun, a hyd yn hyn gwnaed gwaith atgyweirio ar y to, gosodwyd ffasgau pren newydd, byrddau bondo a gwteri a pheipiau landerau upvc, ail-bwyn o ac atgyweirio gwaith maen gan gynnwys trin arwynebeddau concrid agored, inswleiddio rhagor

ar y waliau ceudod a ailosod cymalau ehangu i atal cracio. Mae’r tu allan i’r cynllun wedi cael ei addurno hefyd drwyddi draw, gan gynnwys y ddihangfa dân fetel a’r balconïau, y grisiau, y colofnau a’r traws au concrid, mannau parcio ceir, pibellau nwy’r prif gyflenwad – ac rydym gosod drysau mynediad cymunedol newydd ac uwchraddio system mynediad y drws. Rhagwelir y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Tachwedd 2013.


08 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol

Cydnabod cynllun am

groesawu anifeiliaid Mae preswylwyr sy’n byw yn Sydney Hall Court yng Nghei Connah, Sir y Fflint, yn hynod falch bod eu cynllun wedi cael ei gydnabod unwaith eto fel un o’r pedwar cynllun er ymddeol sy’n rhoi’r croeso gorau i anifeiliaid anwes yng Ngwobrau Croeso i Anifeiliaid Anwes 2013, a drefnwyd gan y Cinnamon Trust. Mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Lanesborough yn Llundain, cafodd rheolwr cynllun WWH, Rob Holmes, dystysgrif mewn ffrâm a £250 i’w wario ar brosiect sy’n gysyll edig ag anifeiliaid anwes yn y cynllun, i’w gytuno gyda’r preswylwyr. Ar hyn o bryd mae wyth ci, cath a bwji yn byw yn y cynllun. Dywedodd Rob: “Rwy’n falch iawn bod Sydney Hall Court wedi cael ei gydnabod unwaith eto. Mae cael anifail anwes yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i fywyd preswylwyr. Mae’n rhoi cwmni iddyn nhw, cyfrifoldeb dros ofalu am eu hanifail anwes a rheswm i fynd allan, gan eu cadw’n iach. I’r rhai nad ydyn nhw’n ddigon da i ofalu am anifeiliaid anwes, maen nhw’n mwynhau cael eu tywys o amgylch y cynllun.

“Mae’r gerddi cefn wedi eu hamgáu’n llawn fel bod yr anifeiliaid anwes yn cael eu cadw mewn amgylchedd diogel. Mae Tai Wales & West yn croesawu anifeiliaid anwes i’r cynllun ac maen nhw’n cael mynd i’r lolfa gymunol.” Mae’r Cinnamon Trust yn sefydliad wedi’i leoli yng Nghernyw sy’n cynorthwyo pobl oedrannus yn benodol ag anifeiliaid anwes.


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 09

Llwyddiant dwbl i frodyr Mae dau frawd o Fagillt, gogledd Cymru, wedi cael eu cyflogi fel pren siaid yng Ngwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn Nhreffynnon. Mae dau o fyfyrwyr gwaith brics Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy, Sam a Lewis Edwards, yn falch iawn o’u pren siaethau cynnal a chadw newydd.

yn rhoi gwell cyfle i Sam a Lewis gyda’u gyrfaoedd. Mae hyn nid yn unig o fudd iddyn nhw ond i Cambria yn ogystal â’r economi leol.”

Dywedodd Lewis, sy’n 20 oed: “Mae’n wych dysgu am wahanol sgiliau mewn gwaith cynnal a chadw.” Cytunodd ei frawd Sam, 18. “Mae’n werth mynd am y bren siaeth. Nid oes ots gennyf weithio ym mhob tywydd, chwaith. Gobeithio y bydd y cyfle hwn yn arwain at gyflogaeth llawn amser.”

Dywedodd Dave Roberts, Dirprwy Gyfarwyddwr Adeiladwaith yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy: “Cael myfyrwyr i sicrhau gwaith yw ein prif nod. Mae’n dyst bod y cydweithio hwn yn gweithio’n effeithiol bod dau o’n dysgwyr wedi cael pren siaeth gan sefydliad blaengar, llawn egni.”

Bydd y brodyr yn mynd i Goleg Cambria Glannau Dyfrdwy fel myfyrwyr sy’n cael eu rhyddhau am ddiwrnod. Fe fyddan nhw’n astudio Diploma NVQ Lefel 2 am 12 mis mewn Gweithrediadau Cynnal a Chadw Adeiladu. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant yn y coleg a thys olaeth yn y gwaith mewn meysydd fel gwaith maen, gwaith coed, plymio, plastro a gwaith addurno atgyweiriadau.

Ychwanegodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Mae darparu cyfleoedd hyfforddi a gwaith i bobl leol wedi dod yn rhan greiddiol o’n busnes, ac rwy’n hynod falch o groesawu Sam a Lewis i’n sefydliad. Mae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria wedi ehangu yn ddiweddar i Ogledd Cymru, ac rwy’n hynod falch ein bod wedi ffurfio partneriaeth gref gyda Choleg Cambria.”

Dywedodd Nigel Parry, Pennaeth Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria y Gogledd: “Roeddwn yn chwilio am fyfyrwyr a oedd yn awyddus i wneud pren siaeth gwaith cynnal a chadw aml-sgil, sy’n unigryw yng Ngogledd Cymru. Roeddwn yn llawn edmygedd wrth weld Sam a Lewis fel nad oedd gen i ddewis ond cynnig pren siaeth i’r ddau ohonyn nhw. Yn hytrach nag arbenigo mewn un sgil, bydd y pren siaethau hyn


10 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion Ariannol

Ffyrdd syml o arbed arian ar eich biliau ynni Gallai llawer o aelwydydd arbed rhwng £150 a £300 y flwyddyn ar eu biliau ynni, meddai Clare Elias, Cydlynydd Atgyweiriadau WWH. Cofiwch y bydd yr arbedion y gallwch eu gwneud yn dibynnu ar yr hyn rydych yn ei wneud ar hyn o bryd, a faint o newidiadau rydych yn dewis eu gwneud. Gallech arbed hyd at £155 y flwyddyn heb wario ar unrhyw declyn ychwanegol mae mor syml â hynny. A dyma sut ... Mae nifer o gartrefi wedi gosod eu gwres canolog yn uwch na’r hyn sydd ei angen. Ceisiwch droi thermostat eich ystafell i lawr un radd. Gallai pob gradd y byddwch yn ei droi i lawr arbed tua £65 y flwyddyn ar eich bil gwresogi! Trowch yr holl oleuadau, offer a gwefryddion i ffwrdd pan nad ydych yn eu

defnyddio. Gellir diffodd bron y cyfan o’r offer trydanol ac electronig yn ddiogel yn y plwg - yr unig eithriadau yw recordwyr lloeren a theledu digidol, y dylid eu gadael ymlaen. Gallech arbed rhwng £50 a £90 y flwyddyn yn unig drwy ddiffodd pethau! Gallech arbed £40 arall y flwyddyn drwy wneud dim mwy na bod yn ofalus sut rydych yn defnyddio eich offer cegin. Gosodwch eich peiriant golchi i olchi ar 30°C. Defnyddiwch eich peiriant sychu dillad dim ond pan na fyddwch yn gallu sychu eich dillad y tu allan. Peidiwch â llenwi eich tegell i’r eithaf bob tro - dim ond berwi faint o ddŵr sydd ei angen arnoch.


Materion Ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 11

Gallech hefyd fuddsoddi mewn cynnyrch arbed ynni, a bydd rhai mesurau yn talu’n ôl yn gyflym iawn: Buddsoddwch mewn pen cawod eco dŵr-effeithlon os oes gennych gawod sy’n cymryd dŵr poeth yn syth o’ch bwyler neu danc dŵr poeth, a gallwch dorri eich defnydd o ddŵr poeth heb sylwi bron â bod ar unrhyw wahaniaeth pan fyddwch yn cymryd cawod. Mae pennau cawod dŵr-effeithlon newydd yn defnyddio technoleg sy’n gallu cynhyrchu llif dŵr sy’n teimlo’n llawer uwch nag y mae mewn gwirionedd – mae’n ffordd hawdd o arbed dŵr ac ynni. Fodd bynnag, ni ddylech osod un ar gawod drydan gan y gallai hyn achosi difrod peryglus posibl i’ch uned gawod. Gallai cawod eco gos o tua £27 a gallai teulu o bedwar arbed tua £75 y flwyddyn ar wresogi dŵr, a £90 arall ar filiau dŵr os oes gennych fesurydd dŵr. Os oes gennych silindr dŵr poeth sydd heb ei inswleiddio, gallech ddechrau arbed arian yn awr drwy osod siaced tanc ac inswleiddio unrhyw bibellau poeth

agored o amgylch y silindr ac o amgylch y boeler. Bydd y deunyddiau ar gyfer hyn yn cos o tua £25 yn unig, a byddwch yn arbed tua £60 y flwyddyn. Bylbiau golau ynni isel - rydych yn awr yn gallu cael sbotoleuadau LED sy’n ddigon llachar i gymryd lle bylbiau halogen, yn ogystal â bylbiau arbed ynni arferol mewn amrywiaeth o siapiau, mein au a ffi adau ar gyfer popeth arall, bron iawn. Gallai hyn arwain at arbediad o tua £60 y flwyddyn.

Dolenni defnyddiol h p://www.energysavingtrust.org.uk/ wales/Take-ac on/Start-saving-money h p://welshwater.faq-help. com/?search=water+meter#


Materion Ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 13

Ymuno â’n gilydd i brynu

ynni rhatach

Mae preswylwyr yn cael eu hannog i ymuno i gael bargen well ar eu nwy a thrydan drwy gynllun sy’n cael ei lansio ledled Cymru.

Drwy gofrestru eich diddordeb, bydd cartrefi fwy neu lai yn ymuno gyda’i gyda’i gilydd a bydd arwerthiant yn cael ei gynnal gan y trefnwyr â chyflenwyr ynni i weld pa gwmni sy’n cynnig y pris isaf. Y gobaith yw y bydd prynu ynni ar y cyd yn arwain at filiau’r cartref yn disgyn gymaint â channoedd o bunnoedd y flwyddyn. Mae cynllun tebyg a sefydlwyd yng Nghernyw flwyddyn yn ôl yn arwain at arbedion o £133 ar gyfartaledd. Dywedodd Owen Jones, Swyddog Cynaladwyedd a’r Amgylchedd WWH: “Mae fersiwn Cymru, Cyd Cymru, wedi cael ei ddatblygu gan gynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg gyda chefnogaeth gan awdurdodau lleol a chymdeithasau tai eraill lleol ledled Cymru – gan gynnwys ni ein hunain. Mae’r cynllun yn gobeithio newid y ffordd y mae ynni’n cael ei brynu, symleiddio system dariff gymhleth, a mynd i’r afael â’r mater o brisiau tanwydd yn codi wrth i’r gaeaf nesáu.” “Bwriadwyd Cyd Cymru ar gyfer y preswylwyr hynny nad ydyn nhw erioed wedi newid eu darparwr ynni na’u tariff. Mae’n ffordd wych i’r preswylwyr hynny newid eu tariffau ynni, a dylai fod yn hawdd iawn ac yn syml iawn, gyda’r trefnwyr yn cymryd y baich i gyd.

“Gall newidwyr profiadol roi cynnig arni hefyd, ond efallai na fyddan nhw’n gwneud cymaint o arbediad â’r rhai nad ydyn nhw wedi newid ers peth amser, neu nad ydyn nhw erioed wedi newid.”

Sut mae’n gweithio • Dylai preswylwyr gofrestru eu diddordeb gan roi gymaint â phosibl o fanylion am eu defnydd o ynni. • Cofrestrwch drwy www.cydcymru-energy.com neu drwy ffonio 0800 0935902 • Bydd cydweithfa’n cael ei ffurfio ar ôl y cyfnod cofrestru a bydd yr holl ddata yn cael ei goladu a’i gyflwyno ar gyfer arwerthiant ynni • Bydd arwerthiant yn cael ei gynnal wedyn, gydag amrywiaeth o gwmnïau ynni yn cynnig eu prisiau gorau • Anfonir cynnig personol at y rhai sydd wedi cofrestru, gyda syniad o’u harbedion • Gallwch wedyn benderfynu newid os ydych yn hoffi’r cynnig. Os byddwch yn penderfynu peidio â newid, byddwch yn cael gwybodaeth am y cyfle nesaf i newid. Cofrestrwch nawr drwy www.cydcymru-energy.com neu drwy ffonio 0800 0935902 a dyfynnwch “Tai Wales & West”.


14 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion ariannol

O geiniog i geiniog…

Efallai bod yr economi yn cry au, ond mae arian yn parhau i fod yn hynod o dynn i’r rhan fwyaf o bobl. Mae ein staff Tai a Swyddogion Cefnogi Tenan aeth wedi bod yn gweithio’n ddiflino i helpu cymaint â phosibl o’n preswylwyr nid yn unig i ofalu am y ceiniogau, ond i wneud y gorau o bob punt sydd ganddyn nhw. Dyma’r Cynorthwy-ydd Tai Liz Daniels (yn y llun ar y dde) yn rhoi ychydig o enghrei iau o bethau mae ein staff wedi bod yn ei wneud:

yn gallu ychwanegu credyd at eu Budd-dal Tai am gyfnod cyfyngedig os ydyn nhw’n cael eu heffeithio gan y dreth ar ystafelloedd gwely.

• Rydym wedi bod yn rhoi llawer o wybodaeth am gynllun Cymorth Dŵr Cymru. Dan y fargen hon, gallwch gael cap ar eich bil os ydych yn gymwys – nail ai gan eich bod yn dioddef cyflyrau meddygol penodol neu os oes gennych dri neu ragor o blant dan 19 oed sy’n byw gartref gyda chi, yr ydych yn hawlio budd-dal plant yn eu henwau.

Gan weithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru, rydym wedi gallu nodi pob aelwyd WWH ar draws Cymru a fydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau i Fudd-daliadau Lles, ac mae ein saith Swyddog Cefnogi Tenan aeth arbenigol yn gweithio gyda nhw i’w helpu i ddelio ag effaith pob diwygiad lles sydd ar y gweill, gan gynnwys cyflwyno’r Credyd Cynhwysol, gan roi gwybodaeth, dewisiadau, cryfder a gobaith iddyn nhw allu goresgyn y storm sydd ar ddod.

• Rydym wedi bod yn gwneud cais am gran au “Achub y Plant”, sy’n agored i rieni cymwys gyda phlentyn dan dair oed. Os byddan nhw’n llwyddiannus, gall ymgeiswyr ddefnyddio’r arian i brynu cyfarpar hanfodol, cadair uchel, ac weithiau teganau neu lyfrau. • Rydym yn gwneud cyfrifiadau ag elusen ariannol “Turn2us” ac wedi cael canlyniadau gwych. Roedd un preswylydd, er enghrai , ddim yn ymwybodol o gwbl fod ganddi hawl i gredydau treth plant nes i ni ddechrau gweithio gyda hi. • Rydym wedi helpu preswylwyr i wneud cais am daliadau tai dewisol a fydd, os ydyn nhw’n llwyddiannus,

Hyd yma, mae ein staff tai a Swyddogion Cefnogi Tenan aeth wedi: 1. Cefnogi 70% o’n 750 o aelwydydd sy’n ‘rhy fychan’ i’w cartrefi yn ôl y rheolau newydd i reoli eu cyllid er mwyn gallu talu’r ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ 2. Helpu preswylwyr i ennill £165,000 mewn incwm ychwanegol drwy geisiadau llwyddiannus am DHPS, newid tariffau ynni, ceisiadau am gran au a budd-daliadau heb eu hawlio 3. Helpu preswylwyr i ddelio â thros £100,000 o ddyled bersonol.


Materion ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 15

Liz Daniels, Cynorthwyydd Tai

Mae’r adborth rydym wedi ei gael yn dweud wrthym fod ein preswylwyr yn fwy bodlon ar eu sefyllfa ariannol ac yn teimlo’n llai pryderus am y gostyngiad yn eu budd-dal. Ac mae awdurdodau lleol sy’n bartneriaid i ni wedi gwerthfawrogi ein safiad cefnogol a’n dymuniad i osgoi camau cyfreithiol fel mater o drefn.

Eich cyfle i

Yn ddiweddar, fe wnaeth Sian Hope, sy’n aelod o Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr WWH ac sy’n byw yn Wrecsam, ganmol Swyddog Cefnogi Tenan aeth sy’n gweithio yng ngogledd Cymru am y cyngor ariannol a roddwyd iddi, a arweiniodd at arbediad o 20% ar filiau dŵr yn y dyfodol. Llwyddodd y Swyddog hefyd i ôl-ddyddio’r gostyngiad yn ei biliau dŵr. Os ydych yn cael trafferth gyda’ch sefyllfa ariannol, peidiwch â dioddef yn dawel. Siaradwch gyda’ch swyddog tai neu eich Swyddog Cymorth Tenan aeth, a fydd yn gallu esbonio lle gallwch gael help. Neu ffoniwch ni ar y rhif rhadffôn 0800 052 2526.

ENNILL £100

Gallech CHI hefyd fod yn ENILLYDD os dewiswch dalu eich rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol. Bob chwarter mae WWH yn dewis enillydd yn electronig o blith y preswylwyr sy’n talu eu rhent trwy Ddebyd Uniongyrchol, gan ddefnyddio dull dewis rhif ar hap, i ennill gwobr o £100. Mae hyn yn golygu eich bod yn gymwys yn awtoma g ar gyfer cael eich cynnwys yn y gystadleuaeth cyn belled ag y byddwch yn talu eich rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Ein ENILLYDD diweddaraf yw Dennis Dowle (67) o Gaerdydd, a ddywedodd “Roeddwn i wedi synnu cymaint ac ar ben fy nigon - mae’n wych oherwydd bydd yn mynd tuag at fy gwyliau.” I sefydlu taliad rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol, cysylltwch â’ch Swyddog Tai neu ffoniwch ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0800 052 2526. Pob lwc!


16 | www.wwha.co.uk | intouch | Cynnal a chadw wedi’i gynllunio

Caru’r cypyrddau

Mae preswylwyr sy’n byw ym Maes y March, yr Wyddgrug, Sir y Fflint, yn edrych ymlaen at aeaf clyd gan fod eu ceginau wedi cael eu hailwampio gan Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, yn ôl yr angen. Mae Maes y March yn safle deniadol o 42 o gartrefi sy’n cynnwys ffla au 1 a 2 ystafell wely a thai 2, 3 a 4 ystafell wely. Mae Julia Cunningham, sy’n 58 oed ac sy’n byw mewn cartref dwy ystafell wely, wedi cael cegin newydd. Dywedodd: “Rwyf wedi byw yma am 12 mlynedd gyda fy nghi Lucy, ac mae Tai Wales & West wedi bod yn wych. Cyn iddyn nhw ddechrau gweithio ar fy nghegin, dywedodd Cynnal a Chadw Cambria wrthyf beth y bydden nhw’n ei wneud, ac fe roddon nhw ddewis o arddulliau ar gyfer fy nghypyrddau cegin newydd. “Mae’r dynion cynnal a chadw wedi bod yn wych, gan weithio’n dda iawn

gyda’i gilydd fel m. Maen nhw bob amser yn glanhau ar eu hôl yn dda, gan wneud pethau’n haws i mi. Mae fy nghegin yn edrych yn hyfryd.” Dywedodd Andy Richards, Rheolwr Masnachol WWH ar gyfer Atgyweiriadau: “Mae’r gwaith ailosod ceginau yn rhan o’n haddewid i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae gennym ymrwymiad i osod ceginau newydd bob 15 mlynedd ac ystafelloedd ymolchi bob 25 mlynedd, neu’n amlach os oes angen.” Dywedodd Nigel Parry, Pennaeth Cambria yn y Gogledd: “Rydym yn cynnig dewis da o ddyluniadau a lliwiau i’n preswylwyr pan fydd eu ceginau’n cael eu hailosod fel eu bod yn fodlon gyda’r canlyniadau. Mae dyluniad unrhyw waith uwchraddio yn caniatáu lle ar gyfer peiriant golchi a sychwr dillad lle bo angen, ac rydym yn gwneud yn siŵr bod plymio ac awyru digonol yn y ceginau ac yn yr ystafelloedd ymolchi.”


Cynnal a chadw wedi’i gynllunio | intouch | www.wwha.co.uk | 17

Cynnal a chadw wedi’i gynllunio Isod, nodir y cynlluniau yr ydym yn bwriadu eu huwchraddio yn ystod gweddill 2013: Ceginau

Twyncarmel, Merthyr Tudful Keystowe Place, Caerdydd Llanrumney Avenue, Caerdydd Maes y March, yr Wyddgrug

Ystafelloedd ymolchi

Greyfriars Court, Pen-y-bont ar Ogwr Newent Road, Caerdydd Bryn y Barcut, Wrecsam

Newid tanwydd

Llys Hafren, y Drenewydd Queens Court, y Drenewydd

Ffenestri a drysau West Lee, Caerdydd

Cyfle i ENNILL siec am £250, siampên a siocledi I fod yn gymwys ar gyfer y GYSTADLEUAETH bydd angen i chi gael gwasanaeth ar eich bwyler nwy ar yr apwyn ad CYNTAF, neu roi o leiaf 48 awr o rybudd i ni ohirio’r ymweliad. Mr a Mrs Jones o Gaerdydd oedd ein enillwyr lwcus yn y De. Nid yw Mrs Jones wedi bod yn dda, felly

mae ei gŵr yn mynd i wario’r arian a gafodd yn wobr arni hi pan fydd yn teimlo’n well. Mr Lloyd o Aberhonddu oedd ein hail enillydd o Ganolbarth / Gogledd Cymru. Roedd yn falch iawn gan ei fod yn mynd i’w ddefnyddio i fynd allan am ginio dydd Nadolig.


18| www.wwha.co.uk | intouch | Cymdogaethau sy’n gweithio

Caws a throsedd

– rysáit lwyddiannus Ymunodd Heddlu De Cymru a Wales & West Tai ar gyfer ail ddigwyddiad ‘caws a throseddau’ ar 8 Hydref. Roedd y noson yn dilyn arbrawf llwyddiannus iawn dan yr un enw a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn. Roedd y digwyddiad yn arddangos nifer o adrannau yn Heddlu De Cymru sy’n gweithio ac yn gweithredu yn ardal Caerau yng Nghaerdydd. Roedd yr adrannau a fu’n cynnal stondinau yn cynnwys Gwarchod y Gymdogaeth, 101, Mannau Trosedd, y Tîm Plismona Bro, Partneriaeth Prifddinas Ddiogelach, Cymru Ddiogelach ac Uned Gwarchod y Cyhoedd, sy’n arbenigo mewn troseddau yn cynnwys trais yn seiliedig ar anrhydedd a thrais yn y cartref. Pwrpas y noson oedd tynnu sylw at yr adnoddau sydd ar gael y tu hwnt i swyddogion ymateb arferol yr heddlu, yn fwyaf cyffredin yn llygad y cyhoedd. Cafodd llawer o daflenni defnyddiol eu darparu, a dangosodd swyddogion eu bod yn ceisio ymgysylltu ag oedolion a phlant fel ei gilydd. Dywedodd Sion Phillips, Swyddog Gorfodi Tenan aeth: “Roedd cynnal y digwyddiad yng Nghanolfan Hamdden Western yn y Caerau yn ffactor pwysig wrth sicrhau bod y digwyddiad yn gyfeillgar ac yn hygyrch i bawb.

Cynhaliodd Heddlu De Cymru weithgareddau amrywiol i blant, gan gynnwys olion bysedd, olion traed a golygfeydd o fannau troseddau, a darparu llawer o gofroddion bach i’r plant fynd adref gyda hwy, fel allweddellau gyda’u holion bysedd arnyn nhw, helmedau plas g yr heddlu ac a . Roedd hwn yn sicr yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn, ac roeddem yn ddigon ffodus i fod yr unig ddarparwr tai a gafodd wahoddiad i gymryd rhan.”

?


Cymdogaethau sy’n gweithio | intouch | www.wwha.co.uk | 19

System newydd i roi gwybod am Yn rhifynnau diweddaraf In Touch rydym wedi bod yn dweud wrthych am ein hadolygiad o’r ffordd rydym yn ymdrin ag adroddiadau o niwsans ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydym wedi gwrando ar y pethau rydych wedi eu dweud wrthym yn yr arolygon preswylwyr, ac wedi ailgynllunio’r system i ddarparu ymateb cyflymach gennym i’ch cwyn gychwynnol. Rydym yn bwriadu rhoi’r pwyslais ar y rhesymau sylfaenol y tu ôl i’r digwyddiad yn ein hymchwiliad, gyda’r gobaith o roi ateb sy’n para’n hirach, meddai Gareth Hughes, y Swyddog Meddwl drwy Systemau. Rydym wedi newid y ffordd rydym yn cofnodi adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ein system gyfrifiadurol gan ei fod yn atal Swyddogion Tai rhag siarad gyda chi’n sydyn a delio â’r mater, a gallem ddweud fod hynny’n rhwystredig i chi. Rydym wedi rhoi’r gorau i’r hen ffordd

ASB

o gofnodi, ac yn awr byddwn yn ceisio eich cysylltu chi â’ch Swyddog Tai yn syth, fel y gallwch drafod y mater gyda nhw cyn gynted ag y bo modd yn ystod y broses. Drwy wrando ar yr hyn rydych wedi bod yn ei ddweud wrthym, rydym wedi ailddylunio ein system gyda’r ‘hyn sy’n bwysig i chi’ yn rhan ganolog ohoni. Rydym yn gwybod: • Eich bod eisiau siarad gyda’r unigolyn priodol pan fyddwch yn cysylltu â ni • Eich bod eisiau ymateb cyflym • Eich bod eisiau cael gwybod y diweddaraf • Eich bod eisiau i ni wneud y peth iawn i chi yn eich amgylchiadau • Nad ydych eisiau i’r niwsans ddigwydd eto Rydych eisiau teimlo a bod yn ddiogel yn eich cartref a’r fan lle’r ydych yn byw.


20 | www.wwha.co.uk | intouch | Cymdogaethau sy’n gweithio

Byddwn yn ceisio gwneud y pethau hyn pryd bynnag y byddwn yn ymchwilio i achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Er mwyn ein helpu i wneud hyn yn llwyddiannus, mae’n bwysig i ni: • Ein bod yn deall yr hyn rydych eisiau i ni ei wneud • Eich bod yn chwarae rhan mor fawr ag y gallwch yn y gwaith o ddatrys y mater • Eich bod yn gwybod a ydym yn gallu datrys y mater neu beth y gellir ei wneud fel ei bod yn haws goddef y sefyllfa Rydym yn mynd i drin pob digwyddiad yn ôl ei deilyngdod, a bydd eich Swyddogion Tai yn gwneud penderfyniad rhesymol ynglŷn â sut i fwrw ymlaen ag unrhyw gwynion o niwsans neu ymddygiad

gwrthgymdeithasol pan fyddan nhw’n siarad gyda chi ar ddechrau’r broses. Pan allwn ddatrys materion, fe wnawn ni hynny. Os na allwn ni helpu yn y sefyllfa, neu os na allwn ddatrys y sefyllfa yn llawn, byddwn yn nodi hynny’n glir, yn hytrach na chodi eich gobeithion yn ddiangen. Efallai y byddwn yn gofyn i chi gyfrannu at ddatrys y broblem, o bosibl drwy ffonio’r Heddlu neu siarad gyda rhywun a all fod yn rhan o’r broblem, ond ni fyddwn yn gofyn i chi wneud unrhyw beth nad ydych yn gallu ei wneud. Yn y ffordd hon rydym yn gobeithio meithrin eich hyder a’ch gwybodaeth am sut i ddatrys materion drosoch eich hunain neu fel cymuned, gan fod profiad yn dweud wrthym fod atebion yn rhai hir a pharhaol pan fydd hyn yn digwydd, a dyna y mae pawb ohonom ei eisiau.

A’r enillydd yw… Diolch yn fawr i bawb a anfonodd eu hawgrymiadau ar gyfer ‘cerddoriaeth aros eich tro’ llinell ffôn ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid. Yr enillydd yw Sarah Jones o Gefn y Nant yn Wrecsam, a awgrymodd drac gan y Manic Street Preachers. Parodd Sarah i ni feddwl am ddefnyddio cerddoriaeth a berfformir gan gerddorion o Gymru, yn clasurol a chyfoes, felly cadwch olwg am fanylion yn fuan! Bydd Sarah yn cael taleb Argos gwerth £45.


Adroddiad chwarterol | intouch | www.wwha.co.uk | 21

Beth sy’n bw ysig i chi?

Dyma rifyn diweddaraf ein herthygl nodwedd reolaidd ar berfformiad ar draws pob maes darparu gwasanaethau yn Tai Wales & West. Rydym yn diweddaru ein gwybodaeth ar berfformiad bob tri mis, felly rydym yn gobeithio y bydd hyn mor ddefnyddiol a pherthnasol â phosibl i chi. Mae gennym ddiddordeb bob amser mewn clywed beth arall yr hoffech ei wybod – er enghrai , a oes unrhyw faes eraill y byddech yn hoffi gwybod amdano ac i ni ganolbwyn o arno yn y

dyfodol? Oes gennych chi ddiddordeb arbennig mewn maes o’n gwaith? Rhowch wybod i ni ac fe fyddwn yn fodlon dweud wrthych am hynny!

Felly, pa mor dda ydym ni’n ei wneud ym mhob maes yn y busnes? (All informa on relates to January - Sept 2013)

2408 Nifer y Cyfrifon Rhent sydd ag ôl-ddyledion

Rhent

56%

13

% y cyfrifon lle mae cynllun talu y cytunwyd arno ar waith

troi allan

Rydym yn parhau i gefnogi ein preswylwyr â’r heriau a wynebir oherwydd y drefn Diwygio Budd-daliadau. Mae nifer y preswylwyr sy’n cael eu heffeithio yn parhau i ostwng oherwydd y rhai sy’n ceisio symud er mwyn dod o hyd i lety addas, mae aelodau o’r teulu yn symud yn ôl i mewn i’r eiddo neu breswylwyr yn mewn i weithion ac nid ydyn nhw’n hawlio Budd-dal Tai mwyach.


22 | www.wwha.co.uk | intouch | Adroddiad chwarterol Ar gyfer y rhai sy’n aros yn eu heiddo, mae’r mwyafrif yn parhau i dalu’r diffyg ac mae’r rhai sy’n cael trafferth yn cael cynnig cymorth gan ein Swyddogion Cefnogi Tenan aeth. Mae’r cymorth a roddir yn amrywio o help i reoli dyled i lenwi ffurflenni cais, y cyfan gyda golwg ar uchafu incwm gwario’r preswylwyr. Rydym hefyd wedi gweld y teuluoedd hynny a gafodd eu heffeithio gan y cap ar fudd-daliadau yn cael llai o fudd-dal tai. Mae ein Swyddogion Cefnogi Tenan aeth wedi ymweld â phob un a gafodd eu heffeithio i gynnig cymorth tebyg i’r rhai a gafodd eu heffeithio gan y dreth ar ystafelloedd gwely, a hyd yn hyn, mae’r holl teuluoedd a gafodd eu heffeithio yn ymdopi â’r gostyngiad yn eu budd-dal. Gyda heriau pellach ar y gorwel a’r gostyngiad yn y cyllid ar gyfer asiantaethau cynghori, bydd gwaith ein staff i gefnogi preswylwyr yn parhau i fod yn hanfodol er mwyn eu helpu i gynnal eu tenan aethau.

99.8%

63.7%

(12 eiddo sy’n weddill lle mae angen gwasanaeth nwy)

Cydymffurfio â Diogelwch Nwy

9.1/

10

Boddhad preswylwyr

Atgyweiriadau

Atgyweiriadau a gwblhawyd mewn un ymweliad

14.5

96.6% Atgyweiriadau llwyddiannus

Nifer cyfartalog y dyddiau a gymerwyd i gwblhau gwaith atgyweirio

Mae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria bellach yn wasanaeth Cymru gyfan sy’n parhau i gynnal lefelau uchel o foddhad ymysg preswylwyr, gyda pherfformiad cryf parhaus o ran yr amser a gymerir i gwblhau tasgau ac atgyweiriadau llwyddiannus. Mae gwasanaethu offer nwy yn parhau i fod yn faes pwysig i ni ganolbwyn o arno, ac mae’n braf iawn gweld bod 99.8% o gartrefi’n cydymffurfio. Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd mynediad i’r 12 eiddo sy’n weddill sydd angen gwasanaeth nwy.


Adroddiad chwarterol | intouch | www.wwha.co.uk | 23

135 eleni (yn ogystal â 106 o unedau eraill a osodwyd dan y rhaglen newid i nwy)

1003/1503 67% wedi’i gwblhau hyd yn hyn

Adnewyddu Bwyleri

Cynnal a chadw wedi’i gynllunio

Ystafelloedd Ymolchi a gwblhawyd

258/369

9.1/

10

70% wedi’i gwblhau hyd yn hyn

Ceginau a gwblhawyd

Boddhad preswylwyr Mae’r rhaglen cynnal a chadw a gynlluniwyd ar gyfer 2013 yn parhau i wneud cynnydd da. Mae darparu ceginau newydd yn dilyn y drefn tra bod ystafelloedd ymolchi ychydig ar ei hôl hi, gan adlewyrchu’r manylebau gwahanol sy’n ofynnol gyda’r gwaith. Yn gyffredinol mae preswylwyr yn parhau i fod yn hapus gyda’r dewis sy’n cael ei gynnig, ynghyd â’r gwasanaeth gosod. Mae’r sgôr bodlonrwydd cyffredinol yn parhau i fod yn 9.1 allan o 10. Mae’r cyfnod da o dywydd yn ystod yr haf wedi ein galluogi i adnewyddu ffenestri ar garlam yn ystod y trydydd chwarter, ac mae’n arbennig o braf gweld y rhaglen fawr yn West Lee yn cael ei darparu fel y bwriadwyd, a hynny i safon uchel. Mae hwn yn un o nifer o brosiectau mawr sy’n cael eu cynnal, ac un arall yw insiwleiddio waliau allanol a gwelliannau cysyll edig yn Caerau Court – gwaith sydd wedi dechrau yn ddiweddar, a rhoddir gwybod am y cynnydd gyda’r gwaith hwnnw yn y diweddariad nesaf.


24 | www.wwha.co.uk | intouch | Adroddiad chwarterol

9.3/

10

Boddhad preswylwyr

259 39

Cartrefi newydd

Tai

Anghenion cyffredinol

Gosodiadau

136

97

396

655

Gosodiadau ac adeiladu eiddo

Tai er ymddeol

Ffla au

O’r 136 o dai newydd yr ydym wedi eu caffael, mae 131 newydd gael eu hadeiladu a 5 o dai wedi dod drwy ein cynllun achub morgeisi, lle’r ydym yn helpu pobl ag anawsterau ariannol i allu aros yn eu cartrefi eu hunain. Fel rydym eisoes wedi ei ddweud wrthych, mae gennym nifer fawr o gynlluniau sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd ledled Cymru, felly byddwn yn parhau i roi gwybod i chi am y diweddaraf o ran ein cynnydd. Mae boddhad preswylwyr yn parhau’n gryf, ac rydym yn parhau i ddysgu ar sail yr hyn y mae preswylwyr yn ei ddweud wrthym. Rydym yn dibynnu arnoch chi i roi adborth i ni fel y gallwn wella’r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.

Materion rheoli ystadau (EM) sy’n effeithio ar denan aethau

Ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) (difrifol, gan gynnwys troseddol)

8.3/

10

233

640

268

7.2/

10

(system dreialu)

Boddhad preswylwyr

Cymdogaethau sy’n gweithio

10

(diwrnod) ASB

9

(diwrnod) EM

Hyd cyfartalog yr amser ymchwilio

139 Achosion yn y system dreialu newydd


Adroddiad chwarterol | intouch | www.wwha.co.uk | 25 Mae nifer yr achosion rydym wedi ymdrin â nhw yn 2013 wedi gostwng yn sylweddol ers 2012, ac mae’r ffordd a’r chyflymder ydym wedi delio â nhw wedi gwella. Mae’r amser cyfartalog rydym yn ei gymryd i ymchwilio i achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) wedi gostwng yn sylweddol yn y trydydd chwarter i 10 diwrnod. Parhaodd yr adolygiad o sut rydym yn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod y trydydd chwarter, a fe wnaethom ehangu nifer y swyddogion tai sy’n treialu ffordd newydd o weithio i 7 o swyddogion. O ganlyniad i lwyddiant y system dreialu, rydym yn falch o nodi y byddwn yn cyflwyno’r system hon i bob maes gweithredu o fis Hydref 2013 ymlaen. Bydd y ffordd newydd o weithio yn ceisio mynd i’r afael â’r rheswm craidd dros yr achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol, a anwybyddwyd yn aml yn y gorffennol, gan arwain ato’n digwydd eto yn ddiweddarach.

5 Eiliad Amser ateb ar gyfartaledd

97.4% Nifer y galwadau a atebwyd o fewn 30 eiliad

87,150 Larwm mewn argyfwng

196,407 Cyfanswm nifer y galwadau a atebwyd

Y Ganolfan /larwm mewn argyfwng

109,257 Galwadau cyffredinol

Felly, beth yw eich barn ar ein perfformiad ac unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth? Os oes gennych unrhyw sylw neu adborth ar unrhyw beth rydym wedi ei ddweud wrthych, rhowch wybod i ni. Gallwch gysylltu â ni am hyn neu unrhyw fater arall ar unrhyw adeg.

• Rydym bob amser yn falch o glywed gennych, pa un ai gofyn cwes wn, dweud rhywbeth wrthym, gwneud awgrym, canmol neu wneud cwyn rydych chi eisiau ei wneud.

Gellir rhoi adborth mewn nifer o ffyrdd - ar-lein drwy ein gwefan, e-bost, llythyr, ffôn, drwy neges destun, neu wyneb yn wyneb ag aelod o staff neu yn ein swyddfeydd.

• Mae’r adborth hwn yn ein helpu i wneud penderfyniadau am ein cynlluniau a’n gwelliannau i’n gwasanaethau yn y dyfodol. Diolch!


26 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n iach

Iselder

Mae Nigel Parry, Pennaeth Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn y Gogledd, wedi darparu cefnogaeth lawn i’w weithiwr er mwyn ei helpu mewn cyfnod anodd

Mae iselder yn fwy cyffredin nag y byddech yn ei feddwl yn y lle cyntaf, ond nid yw’n hawdd cyfaddef eich bod yn ddioddefwr. Eto i gyd, dyna’n union y dylech ei wneud. Dyma stori un gweithiwr: “Rwyf wedi teimlo’n isel o’r blaen yn fy mywyd, ond byth mor ddrwg â hyn. Dechreuais guddio fy hunan rhag pobl eraill a chau’r rhai a oedd agosaf ataf allan o fy mywyd, gan gynnwys fy ngwraig a’m plant. Dechreuodd y cyfan ym mis Chwefror. Ni fyddwn yn siarad gydag unrhyw un a byddwn yn cael hunllefau yn gyson. Roedden nhe mor ddrwg fel fy mod yn ofni mynd i gysgu, ac yn casáu ei

gweld hi’n nosi. Roedd fy hunllefau yn cynnwys pethau erchyll yn digwydd i fy mhlant a fabwysiadwyd - nid y fi’n gyfrifol am y pethau hynny, ond pobl eraill. Cafodd y plant ddechrau ofnadwy yn eu bywydau, ac mae hynny wedi effeithio arna i. Roeddwn i’n gwybod fy mod angen help felly es i weld y meddyg, a roddodd dabledi i mi. Ond fe wnaeth


Byw’n iach | intouch | www.wwha.co.uk | 27 hynny bethau’n waeth pan yfais win gyda nhw. Roeddwn wedi mynd i yfed yn drwm - potel bob nos - a oedd yn atal y tabledi rhag gweithio. Doeddwn i ddim eisiau codi yn y bore, felly rhoddais y gorau i fynd i’r gwaith. Yna, un diwrnod, ni allwn gymryd dim mwy, a gosodais y tabledi mewn rhes yn barod i’w cymryd gyda’i gilydd. Pen a bai fy chwaer wedi galw draw, nid wyf yn gwybod a fyddwn yn dal i fod yma. Aethpwyd â fi i Ysbyty Bangor am wythnos. Roedd fy nheulu i gyd yn gefnogol, gan gynnwys fy nhad, sydd yn ei 80au, ond a aeth ar y bws i’r ysbyty bob dydd i wneud yn siŵr fy mod yn iawn. Newidiodd yr ysbyty fy meddyginiaeth gan nad oedd yn iawn i mi, a bod hynny wedi cyfrannu at yr hunllefau. Fe wnaethon nhw roi sesiynau cwnsela i mi hefyd, lle gwres i ddysgu llawer. Roedd yn dda cael siarad gyda chleifion eraill. Fe wnaeth i mi sylweddoli fod pobl eraill yn union fel fi. Fis Tachwedd diwethaf bu farw fy nith o ganser, a hithau’n ifanc iawn yn 27 oed. Roedd hi wedi bod mor gefnogol i mi a’m gwraig drwy’r broses fabwysiadu, ac roedd y plant wrth eu boddau gyda hi. Rwyf yn meddwl bod ei marwolaeth wedi fy nharo i’n galed iawn, ond nid oeddwn yn gwybod hynny ar y pryd. Dechreuais siarad yn fwy agored gyda fy ngwraig a threulio mwy o amser gyda fy mhlant. Daeth fy ngwraig draw i’r sesiynau cwnsela, felly mae ganddi well dealltwriaeth rŵan ac mae hi’n gallu sylwi ar yr arwyddion os byddaf yn dechrau llithro eto.

Roedd Nigel Parry, fy rheolwr, sef pennaeth Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn y Gogledd, mor gefnogol a rhoddodd gymaint o help i mi. Daeth â fi allan o’r rhigol, a dywedodd y gallwn ddod i’r gwaith a gwneud ychydig oriau, beth bynnag oedd orau. Rhoddodd gyfle i mi ddod i arfer codi eto yn y boreau, ac roedd y gwaith fy nghadw i’n brysur. Rydw i’n sylweddoli bod siarad gydag o a rhannu fy mhrofiad i wedi ei gwneud yn haws i mi reoli fy mywyd a cheisio dod drwy’r cyfnodau drwg. Mae pawb yn Cambria wedi bod mor dda gyda mi. Pan fyddaf yn meddwl am fy nith, rydw i’n dweud ei bod wedi eistedd ar seren. Yna, mae fy mhlant yn ceisio chwilio amdani yn yr awyr. Rydw i wedi dechrau mwynhau bywyd eto – rydw i wedi dechrau mynd i sesiynau ioga, ac mae fy mhlant wedi ymuno hefyd! Rydym hefyd wedi symud i dŷ mwy sy’n agosach at fy nheulu, ac rydw i’n mwynhau’r addurno! Wrth i mi edrych yn ôl dros eleni, rydw i’n gwybod fy mod i wedi symud ymlaen. Rydw i’n edrych ymlaen at fy nyfodol. Fy neges i unrhyw un sy’n teimlo fel y gwnes i ydi gwneud yn siŵr eich bod yn siarad gyda phobl. Os nad ydych yn gallu siarad gyda’r rhai sydd agosaf atoch chi, yna siaradwch gyda rhywun yn y gwaith neu eich meddyg. Rydw i mor falch fy mod wedi gwneud hynny. Mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr yn fy mywyd.”


28 | www.wwha.co.uk | intouch | Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Beth sydd orau i chi? Fyddai’n well gennych chi gael eich cylchgrawn In Touch yn Saesneg neu drwy e-bost, tâp sain neu CD? Gallwn drefnu hynny i chi yn ddidrafferth. Rhowch wybod i’ch swyddog tai neu reolwr y cynllun neu gallwch ffonio ein rhif rhadffôn 0800 052 2526 a gallwn wneud nodyn ar ein system gyfrifiadurol.

Rydym eeisoes yn darparu In Touch i lawer o breswylwyr y modd hwn, ac roeddem bresw yn aw awyddus i atgoffa preswylwyr bod croeso cro i chi ofyn am y cylchgrawn yn y ffurfiau hyn! Rydym yn gobeithio y byddwch yn parhau i’w fwynhau ym mha bynnag ffurf sydd sy fwyaf addas i chi.

Rhywedd Dyma’r 8fed mewn cyfres o erthyglau sy’n egluro Deddf Cydraddoldeb 2010 - yn y 7 rhifyn diwethaf, rydym wedi edrych ar oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaethau sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, a chrefydd neu gred, fel yr ysgrifenna Claire Bryant, y Swyddog Polisi ac Amrywiaeth. Mae 9 ‘nodwedd wedi’u diogelu’ yn y Ddeddf, a nod yr erthyglau hyn yw mynd rhywfaint o’r ffordd at egluro pam mae’r ddeddfwriaeth yn bodoli. Beth yw’r 9 nodwedd a ddiogelir eto? Oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, tueddfryd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, rhyw, ethnigrwydd, a

chrefydd neu gred. Yn yr erthygl hon, rydym yn rhoi sylw i rywedd. Fel y gwyddom, mae penderfynu rhyw embryo yn fater gene g, sy’n digwydd yn ystod beichiogiad. Mae’r broses hon yn cynnwys cromosomau, sef y strwythurau biolegol sy’n cynnwys “glasbrin au” biolegol, neu enynnau – gan wneud gwrywod (XY) a benywod (XX). O’u genedigaeth, mae’r rhan fwyaf o rieni yn trin eu plant yn unol â rhywedd y plentyn. Mae plant yn datblygu dealltwriaeth glir yn gyflym eu bod nhw naill ai’n fenyw neu’n wryw, gan fabwysiadu ymddygiadau priodol i’w rhywedd.


Equality and Diversity | intouch | www.wwha.co.uk | 29

Yn fyr, bioleg sy’n “rhoi’r cefndir,” ond rhyngweithiadau plant o fewn y gymdeithas mewn gwirionedd sy’n pennu natur rhywedd. Yn draddodiadol, rôl ystrydebol y fenyw yw priodi a chael plant. Mae hi’n rhoi lles ei theulu cyn ei lles ei hun; mae’n gariadus, tosturiol, gofalgar, yn meithrin ac yn dangos cydymdeimlad. Rôl ystrydebol y gwryw yw bod yn darparwr ariannol. Mae disgwyl iddo hefyd fod yn bendant, yn gystadleuol, yn annibynnol, yn ddewr, yn canolbwyn o ar ei yrfa a rheoli ei emosiynau. Fodd bynnag, gall y mathau hyn o ystrydebau weithiau fod yn niweidiol; fe allan nhw fygu mynegiant a chreadigrwydd unigol, yn ogystal â rhwystro twf personol a phroffesiynol. Mae agweddau sy’n gwahaniaethu

ar sail rhywedd yn aml yn seiliedig ar gredoau mewn ystrydebau traddodiadol. O ychwanegu materion eraill fel trais / cam-drin ar sail rhywedd, gwahaniaethu ar sail rhyw yn y gwaith a mynediad at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, dyna pam mae cydraddoldeb rhywedd yn destun llawer o drafod a gweithredu o amgylch y byd. Er nad oes unrhyw wlad yn y byd wedi cyflawni cydraddoldeb rhywedd eto, y gwledydd Nordig sy’n gyson yn amlwg fel y rhai sy’n cau’r bwlch. Mae gwledydd Nordig yn gyson yn darparu mynediad rhagorol at addysg gynradd ac uwchradd a lefelau uchel iawn o gofrestru merched a dynion mewn prifysgolion. Mae gwledydd Nordig yn ymddangos ym mhen uchaf tablau cyfranogiad economaidd a chyfleoedd oherwydd cyfuniad o ffactorau: cyfranogiad uchel


30 | www.wwha.co.uk | intouch | Cydraddoldeb ac amrywiaeth

gan weithlu benywaidd a bylchau yr isaf yn y byd rhwng cyflogau marched a dynion. Mae’r gwledydd hyn wedi ei gwneud yn bosibl i rieni gyfuno gwaith a theulu, gan arwain at fwy o ferched yn y gweithle, mwy o rannu’r gwaith o ofalu am blant, dosbarthiad mwy cyfartal o lafur yn y cartref, a chydbwysedd gwell rhwng gwaith a bywyd hamdden yn achos merched a dynion. Mae polisïau yn y gwledydd hyn yn cynnwys gwyliau tadolaeth gorfodol ar y cyd â chyfnod gwyliau mamolaeth, a budd-daliadau absenoldeb rhiant mandadol hael gan y wladwriaeth. Mae’r gwledydd hyn hefyd yn arddangos cydraddoldeb drwy ddangos llwyddiant gyda pholisïau sydd wedi’u hanelu at hybu arweinyddiaeth ymysg menywod. Yn Norwy, mae’n ofynnol i gwmnïau a restrir yn gyhoeddus fod â 40 y cant o bob rhyw ar eu byrddau. Yn hanesyddol, enillodd y gwledydd Nordig y blaen drwy roi’r hawl i ferched bleidleisio cyn gwledydd eraill. Heddiw, mae gan Sweden un o’r

canrannau uchaf o ferched yn y byd yn eu senedd. Er bod anghydraddoldeb rhywedd yn fater byd-eang, pan na fydd marched a dynion yn cael mynediad ‘cyfartal’ at adnoddau neu gyfle cyfartal, mae costau economaidd a chymdeithasol uniongyrchol yn sgil hynny. Mae’r rhain yn effeithio ar ferched yn bennaf, ond hefyd yn effeithio ar eu plant, eu cymunedau a’u gwledydd. Yn yr un modd, yng nghanol y galw am gydraddoldeb i ferched, mae’n hawdd iawn anghofio nad yw’r ddadl ynghylch rhywedd o reidrwydd yn ymdrin â merched yn unig. Gallai cywiro cyfleoedd effeithio ar ddynion, hefyd. Er enghrai , gyda’r disgwyliadau cymdeithasol bod yn rhaid i ddynion ddarparu’n ariannol yn golygu eu bod yn gaeth i’r gweithle yn sgil eu cyfrifoldebau ariannol at eu teuluoedd, rwy’n siŵr fod y newidiadau parhaus yn y diwylliant gwaith yn golygu y gallai dynion gael eu cymell i weithio’n wahanol - er enghrai , treulio mwy o amser yn y cartref neu gael mwy o reolaeth dros eu hamser. Yn yr erthygl olaf yn y gyfres hon, byddwn yn edrych ar dueddfryd rhywiol.


Cyfranogiad Preswylwyr | intouch | www.wwha.co.uk | 31

Synnwyr cymunedol yn amlwg eto yn y Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth!

Roeddem wrth ein bodd unwaith eto ein bod wedi cael cyfle i ddathlu synnwyr cymunedol preswylwyr o bob cwr o Gymru yn ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blynyddol. Bellach yn eu chweched blwyddyn, daeth 150 o bobl i’r cinio nos a’r seremoni wobrwyo yng Ngwesty Mercure Holland House, Caerdydd, nos Wener 11 Hydref. Aeth enillwyr y saith categori o bob cwr o Gymru: • Cymydog da – Colin Nash, Caerdydd • Dechrau newydd – David Williams, y Rhondda • Eco bencampwr – Gardd Gymunedol Buxton Court, y Rhyl, Sir Ddinbych • Garddwr gorau (Pobl hŷn) – Denise Thorne, y Rhondda • Garddwr gorau (Anghenion cyffredinol) – Glenys Vandervolk, Gardd Gymunedol Llaneirwg, Caerdydd • Prosiect cymunedol – Prosiect Plannu a Chwarae rhwng y Cenedlaethau Hightown, Wrecsam • Arwr Lleol – Enillwyr ar y cyd, sef Suresh Rajah, o Hightown, Wrecsam, a Mukesh Patel, o’r Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr Yn ogystal, dyfarnodd Kathy Smart, Cadeirydd Bwrdd WWH, ac Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, ddwy Wobr Ysbrydoliaeth Arbennig. Enillodd Jemma Bere, o Cradoc Close, Aberhonddu, y wobr Ysbrydoliaeth Arbennig gyntaf, diolch i’w hymdrechion

i gadw ei theulu gyda’i gilydd ar ôl marwolaeth ei mam mewn damwain car. Mae Jemma, sy’n 30oed ac sy’n gweithio i Ganolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru, yn ymgyrchu i ddod â’i brawd a’i chwaer iau, Alex a Billie, adref o gartref i blant amddifad o Sbaen, ac mae wedi eu magu ar ei phen ei hun am y pum mlynedd diwethaf. Ar y noson, dywedodd Jemma: “Rydw i wedi cael fy syfrdanu ac yn rhyfeddu fy mod i wedi cael Gwobr Ysbrydoliaeth Arbennig. Rydw i’n fythol ddiolchgar a mymryn bach yn emosiynol! Diolch yn fawr!” Enillodd Michael a Carol Down, Mynydd Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr, wobr Ysbrydoliaeth Arbennig hefyd, diolch i’r dewrder y maen nhw wedi ei ddangos ar ôl i Michael, sy’n 63 oed, fod mewn damwain ddifrifol yn y gwaith dur yr oedd yn gweithio ynddo ym Mhort Talbot. Dywedodd Carol, sy’n 60 oed, ac sy’n gynnyrs iechyd meddwl: “Mynd i’r seremoni wobrwyo hon oedd y tro cyntaf i Michael a minnau fynd allan fel hyn ers ei ddamwain,


32 | www.wwha.co.uk | intouch | Cyfranogiad Preswylwyr ac roedd yn gam seicolegol enfawr i ni wneud hynny. “Ond roedd y noson gyfan mor ddyrchafol ac ysbrydoledig. Roedd clywed straeon pawb arall am yr hyn y maen nhw wedi ei wneud ar gyfer eu cymunedau, a sut maen nhw wedi goresgyn adfyd, wedi rhoi hwb o ddifrif i Michael a minnau. A phan glywsom ein bod wedi ennill Gwobr Ysbrydoliaeth Arbennig, fe wnaeth ein calonnau doddi.” Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Tai Wales & West: “A ninnau’n cynnal y seremoni ers chwe blynedd, y Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yw ein ffordd ni o gydnabod cryfder, anhunanoldeb a synnwyr cymunedol ein preswylwyr, ac mae clywed eu straeon bob amser yn brofiad sy’n gwneud i chi deimlo’n ostyngedig iawn ac maen nhw’n sicr yn ysbrydoliaeth. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am haelioni parhaus y contractwyr sy’n bartneriaid i ni ac sy’n noddi’r digwyddiad hwn. Heb eu cefnogaeth wych ni fyddem yn gallu cynnal y gwobrau.” Prif noddwr y digwyddiad oedd Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, o Dremorfa, Caerdydd, a Threffynnon, y Fflint, ac roedd y noddwyr hefyd yn cynnwys: • Anwyl Construc on, o’r Rhyl, Sir Ddinbych • CJS Electrical, o Lysfaen, Caerdydd • City Satellite, o Dreganna, Caerdydd • Gibson Specialist Technical Services, Charnwood Park, Pen-y-bont ar Ogwr • GKR Maintenance, Bedwas, Caerffili

• Denmans Electrical Wholesalers, Broad Plain, Bryste • Ian Williams Ltd, Sanatorium Road, Caerdydd • Jewson, Coventry • Roca UK, Llundain • Wall Lag Group, yr Wyddgrug, Sir y Fflint • Simmons Services, Rhuddlan, Sir Ddinbych • Solar Windows, Bedwas, Caerffili • Washington Design Consultancy, Penarth, Bro Morgannwg Gallwch ddarllen rhagor am ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth ar ein gwefan www.wwha.co.uk, a byddwn yn pos o fideo o’r noson ar ein sianel YouTube wwhahomesforwales yn fuan iawn.


Cyfranogiad Preswylwyr | intouch | www.wwha.co.uk | 33

Kathy Smart, Cadeirydd WWH, Colin Nash – enillydd y wobr Cymydog Da, a Mike Halbert o City Satellite

Kathy Smart, David Williams – enillydd y wobr Dechrau Newydd, a Ceri Price o CJS Electrical

Kathy Smart a Paul Gibson o Gibson Specialist Technical Services gydag Eco Bencampwyr Buxton Court – Chris ne Bowden, Daisy Jones, Barbara Griffiths, David Waddington, Sue a Keith Owen, Shirley Sco a Patricia Coleman

(yn y cefn) Kathy Smart, Cadeirydd Bwrdd WWH, Tracy Coppack, Sharon Young o Roca UK, Sharon Menzies, Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH, (yn y blaen) Lewis Williams, Megan Tynan ac Eilidh Wiseman


34 | www.wwha.co.uk | intouch | Cyfranogiad Preswylwyr

Kathy Smart, Dee Thorne – enillydd y wobr Garddwr Gorau (tai er ymddeol) a Jayne Rowland-Evans o GKR

Kathy Smart, Glenys Vandervolk – enillydd y wobr Garddwr Gorau (anghenion cyffredinol) a Steve Lenahan o gwmni Ian Williams

Kathy Smart, Alex Williams, Jemma Bere – enillydd gwobr Ysbrydoliaeth Arbennig, Dan Hurt, Billie Williams, Tony Moss o Simmons Services ac Anne Hinchey

O’r chwith i’r dde Kathy Smart, Cadeirydd Bwrdd WWH, Suresh Rajah, enillydd y wobr i Arwr Lleol ar y cyd â Mukesh Patel, Robert Jenkins o Solar Windows, Mukesh Patel, ac Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH AL LOCERO H

OD R GO HBOU IG NE

GREEN RS FINGE

RETIREMENT

H ES T FR TARBUILD S W NE

N GREGEERS FIN

Kathy Smart, Tom Anwyl o Anwyl ConstrucƟon, Michael a Carol Down – enillwyr gwobr Ysbrydoliaeth Arbennig, ac Anne Hinchey

3 201

ECO

CHAMPI

ON

FRESH START

ITY UN MM C T CO PROJE


Cyfranogiad Preswylwyr | intouch | www.wwha.co.uk | 35

Rhestrau llawn rownd derfynol y gwobrau: Cymydog da • Tony Williams, Hanover Court, Llandudno • Gary Probert, Maes y Ffynnon, Crughywel • Colin Nash, Hope Court, Caerdydd • Sandra Williams, Llys Nazareth, Pentre Garddwr gorau (anghenion cyffredinol) • Mr a Mrs Steel, The Green, Sarn • Mrs Greagsby, Bromley Drive, Trelái • Mr a Mrs Down, Yr Hendre, Mynyddcynffig • Glenys Vandervolk, Llaneirwg, Caerdydd • Alfred Davies, Dan y Coed Rise, Bracla Garddwr gorau (tai er ymddeol) • Garddwyr Hope Court, Caerdydd • Hanover Court, yr Eglwys Newydd, Caerdydd • Dee Thorne, Tŷ Ddewi, Ton Pentre • Malcolm Aspland, Beddoes View, Llanandras Arwr lleol • Mukesh Patel, Tegfryn Stores, y Pîl • Emrys Phillips, St Catherine’s Court, Caerffili • Suresh Rajah, Kingsmills Road, Wrecsam • Inez White, Four Elms Court, Caerdydd

Dechrau newydd • Kenneth Bartlett, Bro Ogwr • Jemma Bere, Aberhonddu • David Williams, Llys Ben Bowen Thomas, Ystrad • Paul Clark, Oak Court, Penarth • Royston Hill, Cwrt Andrew Buchan, Rhymni • Freda Watkins, Danymynydd, Pen-y-bont ar Ogwr Prosiect cymunedol • Ole Constantine a Jane Styles, Sir y Fflint • Prosiech chwarae a phlannu rhwng y cenedlaethau Hightown, Wrecsam • Margaret Thomas, Llys Nazareth, Pentre • Jenny Finlayson, Bronrhiw Fach, Caerffili Eco bencampwr • Oak Court Gardening Club, Penarth • Buxton Court Communal Gardens, y Rhyl • Jan Taylor, Clarendon, Cyncoed • Western Court Eco Warriors, Pen-y-bont ar Ogwr


36 | www.wwha.co.uk | intouch | Cyfranogiad Preswylwyr

Ac yn olaf, da iawn i bawb a gafodd eu henwebu ar gyfer gwobrau MAD eleni. Mae pob un ohonoch yn haeddu cael eich cydnabod am y gwahaniaeth rydych yn ei wneud yn eich cymunedau: • Jean Morris, Tŷ Brynseion, Merthyr Tudful • Rachel Samways, Bridgeman Court, Penarth • Malcolm Aspland, Beddoes View, Powys • Ann Jones, Bodalaw, Merthyr Tudful • Shirley Wynne, Nant y Môr, Prestatyn • Geraint ap Dyfed, Four Elms Court, Caerdydd • Mavis Coles, d/o Bridgeman Court, Penarth • Samantha Broom, Bridgeman Court, Penarth • Jo Foley, Tŷ Pontrhun, Merthyr Tudful • Fran Parry, Ann Badcott, Sally Clayton, Tŷ Gwyn Jones, Abergele • Pat Lavercombe, Glan yr Afon, Maesteg • Penny Alford, Cwrt Anghorfa, y Pîl • Tony a Sandra Slade (RSVP), Tŷ Ddewi, Ton Pentre • Francis Jenny Finlayson, Bronrhiw Fach, Caerffili • Prosiect Chwarae a phlannu rhwng y cenedlaethau BFTA, Hightown, Wrecsam • Ole Constantine, Ystad Goffa Court, y Fflint • Margaret Thomas, Llys Nazareth, Pentre • St Catherine’s Puffers & Planters, Caerffili • Beryl Cleaver, Doyle Court, Caerdydd • Nan George, Trem y Mynydd, Treherbert • Gardd gymunol Buxton Court, y Rhyl • Clwb Garddio Oak Court, Penarth • Mrs Jan Taylor, Clarendon, Cyncoed • Jane Styles, Cwrt Leighton, Cei Connah • Freda Watkins, Danymynydd, Pen-y-bont ar Ogwr • Royston Hill, Cwrt Andrew Buchan, Rhymni • Jemma Bere, Cradoc Close, Aberhonddu • Malcolm Aspland, Beddoes View, Powys • David Williams, Llys Ben Bowen Thomas, Ystrad Kenneth Bartlett, Bridge Street, Bro Ogwr • Paul Clark, Oak Court, Penarth

Garddwyr Western Court, Pen-y-bont ar Ogwr • Charlie Adams ac Eric Fitton, Nant y Môr, Prestatyn • Vanessa Brindley, Fusilier Way, Wrecsam • Claire Grice, 12 Cefn y Nant, Wrecsam • Alexander Foulds, Cily-Coed, Henllan • Sam Hough, Cil-y-Coed, Henllan• Josh Askins, Cil-y-Coed, Henllan Denise Thorne, Tŷ Ddewi, Ton Pentre • Glwb Garddio Lord Pontypridd, Treganna, Caerdydd • Garddwyr Sir David’s Court, Treganna, Caerdydd • Jeff Johnson, Bridgeman Court, Penarth • Garddwyr Hope Court, Caerdydd • Hanover Court, yr Eglwys Newydd, Caerdydd • Sureshkuma Rajah, Kingsmills Road, Wrecsam • Mukesh Patel, Tegfryn Stores, y Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr • Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr Emrys Phillips, St Catherine’s Court, Caerffili • Inez White, Four Elms Court, Caerdydd • Mandi Watkins, Abermiwl, Powys • Mr a Mrs Downs, Yr Hendre, Mynyddcynffig • Mr a Mrs Steel, The Green, Sarn • Glenys Vandervolk, Llaneirwg, Caerdydd • Mrs Greagsby, Bromley Drive, Trelái • Alfred Davies, Dan y Coed Rise, Bracla • Gary Probert, Maes y Fynnon, Crughywel • Colin Nash, Hope Court, Caerdydd • Tony Williams, Hanover Court, Llandudno • Sandra Williams, Llys Nazareth, Pentre • Emrys Phillips, St Catherine’s Court, Caerffili • Freda Watkins, Danymynydd, Pen-y-bont ar Ogwr • Malcolm Aspland, Beddoes View, Powys


Byw’n wyrdd | intouch | www.wwha.co.uk | 37

Gwobr arall i Western Court!!! Mae ein Hecoryfelwyr yn ein cynllun er ymddeol yn Western Court ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dathlu ar ôl ennill gwobr fawreddog genedlaethol am gynaladwyedd - eu hail wobr fawr eleni. “Rydym yn dal i fod mewn sioc,” meddai Jeff, sy’n dad-cu i ddau o blant. “Pan welsom ansawdd y cynigion eraill, roeddem yn meddwl nad oedd gennym unrhyw gyfle o gwbl. Ond yna pan ddywedon nhw ein bod ni wedi ennill wel, roeddem yn syfrdan.

Bu Jeff Bunce, sy’n 65 oed, a Derek Rose, sy’n 77 oed, yn cynrychioli Ecoryfelwyr Western Court mewn seremoni yng Ngwesty’r Lancaster yn Llundain, a drefnwyd gan gylchgrawn Inside Housing a’i chwaer-gyhoeddiad Sustainable Housing.

“Cawsom ddiwrnod hollol wych yn Llundain, ac rydym wedi mynd â’r wobr o gwmpas y cynllun yn barod, gan ei dangos i bawb, oherwydd mae hi’n wobr i bawb ohonom a’r hyn rydym yn ei wneud yn Western Court, nid dim ond y fi a Derek.”

Fe wnaeth y grŵp o’r cynllun poblogaidd ar Ffordd Oaklands ddod i’r brig mewn cystadleuaeth gref a oedd yn cynnwys mwy na 100 o geisiadau o bob cwr o’r Deyrnas Unedig i ennill gwobr Tenan aid Gwyrdd y Flwyddyn y cylchgrawn Sustainable Housing. Fe gawson nhw eu tlws gan Josie Long, y digrifwr llwyfan sydd i’w gweld ar y teledu a’r radio yn rheolaidd.

Fe wnaeth Ecoryfelwyr Western Court argraff ar y beirniaid gyda’u hymrwymiad i dyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain, gan ailgylchu pa bynnag ddeunyddiau y gellir eu defnyddio i greu nodweddion, gan gynnwys lloriau pren, ffensiau, dalwyr planhigion a bwydwyr adar, a gwneud yr hyn a allan nhw i annog bioamrywiaeth yn eu gerddi, a gan ddefnyddio’r gerddi a’u cynnyrch yn ei gyfanrwydd fel ffordd iach o ddod â chymuned Western Court at ei gilydd.

A dyma’r ail wobr fawr y mae’r grŵp wedi hennill eleni, ar ôl ennill gwobr ‘Gwella’r Amgylchedd’ yng Ngwobrau Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenan aid Cymru 2013 ym mis Mai.

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Tai Wales & West: “Rwyf wrth fy modd bod Ecoryfelwyr Western Court wedi cael eu cydnabod yn y modd hwn, ond nid ydw i’n synnu oherwydd


38 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n wyrdd ein bod yn gwybod beth mae Jeff, Derek a’u ffrindiau a’u cymdogion wedi ei wneud, ac yn parhau i’w wneud, i wella eu hamgylchedd a chefnogi eu cymuned - mae’n wirioneddol ysbrydoledig.” Gan ddefnyddio’r gerddi cymunol yn y cynllun, a gefnogir gan gynllun Gwneud iddo Ddigwydd WWH a gran au’r Gronfa Amgylcheddol, mae Jeff, Derek a’r m wedi meithrin un o’r cymunedau mwyaf cyfeillgar - a gwyrdd – y gellid ei dychmygu. Mae datblygiadau diweddar yn cynnwys: • Adeiladu lloriau pren hygyrch o amgylch y sied gymunol • Trosi storfa biniau segur yn dŷ gwydr / tŷ poeth • Plannu bylbiau ‘caredig i wenyn’, lafant a blodau gwyllt i annog pryfed a gwenyn yn enwedig • Plannu coed ffrwythau brodorol prin o Gymru – eirin Dinbych, ceirios Cariad a gellyg Brenhines yr Wyddfa Mae cynnyrch o erddi’r cynllun yn cael ei goginio a’i fwyta’n rheolaidd gan yr holl breswylwyr pan geir prydau bwyd ar y cyd, gan helpu i frwydro yn erbyn unigrwydd ac unigedd. “Mae’r llysiau rydym yn eu tyfu yn dda, mae dod ynghyd yn dda, mae’r ymarfer corff yn dda ac mae’r gerddi yn rhywbeth i edrych arnyn nhw ni waeth pa adeg o’r flwyddyn ydi hi,” meddai Jeff, a fu’n

gweithio fel gyrrwr bws. “Rydym wedi cael llawer o gefnogaeth a chymorth gan Wales & West - mewn gwirionedd, hebddyn nhw ni fyddem wedi gallu gwneud popeth rydym wedi’i wneud. Ond rydym wrth ein bodd yn ei wneud ac yn y pen draw, rwyf yn meddwl bod ein gerddi wedi helpu i’n gwneud i ni i gyd ychydig bach yn iachach yma.” Dywedodd Jess McCabe, golygydd Sustainable Housing: ‘Mae landlordiaid cymdeithasol yn parhau i fod ar flaen y gad o ran gwneud yn siŵr bod tai yn gynaliadwy. Pan fyddwch yn edrych ar rai o’r prosiectau gwyrdd, fforddiadwy mwyaf uchelgeisiol yn y wlad, fe welwch mai landlordiaid cymdeithasol sy’n arwain y ffordd. Mae ein gwobrau blynyddol yn cydnabod y gorau o blith y goreuon.” Os cawsoch eich ysbrydoli gan yr erthygl hon, ac yr hoffech ymgeisio am Grant Gwneud iddo Ddigwydd, cysylltwch â Claire Hammond ar 0800 052 2526, neu e-bost: claire. hammond@wwha.co.uk Ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gran au ein Cronfa Gymunedol, cysylltwch ag Owen Jones, ein Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd, ar 0800 0522526, owen.jones@wwha.co.uk


Eich newyddion a’ch sa wyn au | intouch | www.wwha.co.uk | 39

Preswylwyr yn mynd i hwyl y gân yn Oldwell… a delynores Joy Cornock a Bethan Semmens, a berfformiodd amrywiaeth o gerddoriaeth o ganeuon Cymreig traddodiadol i jazz sy’n peri i’ch traed ddawnsio. Fe wnaeth clwb y ‘Cywennod a Choffi’ gyfarfod yng nghynllun er ymddeol Oldwell Court yng Nghaerdydd i fwynhau perfformiad arbennig gan ‘Live Music Now’ gyda’r soprano

Dywedodd y Rheolwr Cynllun Sandy Houdmont “Roedd y merched yn wych ac yn annog y preswylwyr i wir ymuno yn yr hwyl. Rhaid diolch yn fawr i Amy Thomas a ddaeth draw i helpu a gwneud teisennau hyfryd ar gyfer y digwyddiad.”

...yn rhoi anrhegion i faban newydd... Pan ymwelodd Kathy Torres, glanhawr yn Oldwell Court, â phreswylwyr yn y cynllun yn ddiweddar gyda’i

mam a’i merch fach newydd, cafodd ei synnu a’i llonni pan welodd eu bod wedi dod ynghyd a phrynu tocynnau anrheg iddi wario ar ei baban, Naomi. Mae Kathy yn gobeithio dychwelyd i’r cynllun yn dilyn ei chyfnod mamolaeth.

...ac mae Alfie yn ymwelydd rheolaidd Mae’r bachgen bach dyflwydd oed Alfie nid yn unig yn ŵyr i Sandy Houdmont, Rheolwr Cynllun yn

Oldwell Court, ond mae ei dad Tony Thomas hefyd yn arolygydd safle yn y cynllun. Mae Alfie yn ymwelydd rheolaidd ac yn boblogaidd iawn gyda phawb, ac yn rhoi gwên ar wynebau pobl lle bynnag y mae’n mynd.


40 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich newyddion a’ch sa wyn au

Llwyddiant

Preswylwyr Limebourne yn mwynhau taith hamddenol ar Gamlas Llangollen

Ym mis Awst fe wnaeth preswylwyr o Sylvester Court yn Hightown, Wrecsam, ynghyd â rhai o’u cymdogion, fwynhau taith 5 awr hamddenol ar gwch camlas ar hyd camlas Llangollen, gan deithio 125 troedfedd uwchlaw’r ddaear ar Draphont Ddŵr ryfeddol Pontcysyllte dros afon Dyfrdwy. Roedden nhw’n ddigon ffodus i gael tywydd gwych – cafodd Mike y ci gyfle i fwynhau hufen iâ, hyd yn oed.

Ac fe wnaeth Sylvester Court gynnal brecwast ‘i ferched yn unig’ ym mis Medi a ddaeth â preswylwyr a chymdogion o Hightown ynghyd am sgwrs dros eu coffi a’u tost. Fe wnaeth pawb fwynhau’r dechrau hwn i’w diwrnod gan fynd i drafferth i wisgo’n drwsiadus ar gyfer yr achlysur.

Court yn parhau

Ar ôl 15 mlynedd o barhaus ddod yn gyntaf neu’n ail yng nghystadleuaeth Caerdydd yn ei Blodau, roedd y Rheolwr Cynllun Marilyn Berry a phreswylwyr cynllun er ymddeol Limebourne Court wrth eu boddau eu bod nhw unwaith eto wedi ennill y wobr 1af yn y categori ‘Stryd Breswyl Orau’ yn 2013. Cynhaliwyd y seremoni yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd ar 8 Hydref, lle cafodd Marilyn a’r preswylwyr dlws gan feirniaid Caerdydd yn ei Blodau, Helen Smith a Pat Lewis. Rhaid diolch yn fawr hefyd i’r Arolygwyr Safle Nathan Co le, Bryn Williams a Dean Bevan, sy’n sicrhau bod y cynllun yn cael ei gadw mewn cyflwr da. Yn ogystal, cymerodd Limebourne Court ran yn y gystadleuaeth arddio ‘Cul va on Street’ a drefnwyd gan bapur newydd y Sunday People. Fe gyrhaeddon nhw’r rowndiau terfynol rhanbarthol yn y categori ‘Mul plica on Street’ sy’n cydnabod y stryd sydd â’r rhes hiraf o erddi blaen sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Fe wnaethon nhw ennill £500 o dalebau rhodd gerddi cenedlaethol.


Eich newyddion a’ch sa wyn au | intouch | www.wwha.co.uk | 41

Jenny yw ein harwres leol! Mae preswylwyr yn Bronrhiw Fach yng Nghaerffili wrth eu bodd â’u gwasanaeth bws newydd, diolch i ymdrechion eu cyd-breswyliwr Jenny Finlayson, a enwebwyd ar gyfer gwobr Arwr Lleol eleni yn ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth. Mae Bronrhiw Fach, sef y cynllun lle mae Jenny yn byw, wedi ei leoli wrth droed Mynydd Caerffili, yn edrych dros dref hyfryd Caerffili a’r cymoedd tu hwnt. Nid oedd cludiant cyhoeddus yn galw yn y cynllun pan symudodd Jenny yno, felly aeth a i ymgyrchu am wasanaeth bws i alw yn y cynllun. Fe wnaeth pobl ei rhybuddio hi bod nifer o ymdrechion blaenorol i gael gwasanaeth bws i alw yn y cynllun wedi methu. Ond nid oedd hynny’n poeni

dim ar Jenny, ac aeth at y gwasanaeth bws newydd Connect 2, ac ar ôl llawer o waith caled, mae gan breswylwyr wasanaeth bws sy’n galw ym Mronrhiw bob bore Llun i fynd â phreswylwyr i’r archfarchnad leol. Dywedodd Margaret Jones, y Rheolwr Cynllun sydd hefyd yn byw yn y cynllun “Mae pob un o’r preswylwyr ym Mronrhiw wrth ein boddau. Maen nhw nid yn unig yn gallu teithio o’u cartref i’r siop ac yn ôl, ond mae’n gyfle am allan i rai - efallai mai dyna’r unig le y byddan nhw’n mynd o un wythnos i’r llall. Diolch i’w hymgyrch fysiau, mae Jenny wedi newid bywydau cynifer o bobl yma ym Mronrhiw. Hi yw ein harwres leol.”


42 | www.wwha.co.uk | intouch | Y diweddaraf am elusennau

Ras Andrew

dros Gymdeithas Strôc Cymru Bydd un o Swyddogion Tai WWH, Andrew Pritchard, yn rhedeg Marathon Llundain 2014 - 26.2 millƟr called - er budd y Gymdeithas Strôc. Mae ei stori deimladwy isod yn dangos i ni beth wnaeth ei gymell i gofrestru ar gyfer y ras a dal aƟ drwy adegau anodd. “Penderfynais ar y Gymdeithas Strôc gan fod fy mam-gu wedi dioddef sawl strôc cyn iddi farw, felly fel teulu rydym wedi gweld drosom ein hunain yr effaith y mae’n ei gael ar deulu, yn enwedig fy mam, a geisiodd am ofalu amdani am sawl mis a gweithio’n llawnamser, ond yn y pen draw bu’n rhaid iddi gyfaddef na allai wneud hynny ar ei phen ei hun, felly roedd yn rhaid i fy mam-gu fynd i gartref gofal. Mae’r penderfyniad hwn yn dal i effeithio ar fy mam heddiw, 10 mlynedd ar ôl iddo ddigwydd. “Doeddwn i ddim yn meddwl am fy iechyd fy hunan nes cafodd fy mab Harry ei eni, a sylweddolais fod gen i ffordd o fyw eithaf afiach. Roedd fy mhwysedd gwaed a’m colesterol yn cynyddu. Doeddwn i ddim eisiau peryglu fy iechyd fy hunan yn y dyfodol, felly dechreuais redeg. “Dechreuais redeg ym mis Ionawr 2012 ac yn awr rydw i wedi cwblhau 3 hanner marathon ac wedi colli 3 stôn o

bwysau, ac mae fy mhwysedd gwaed a’m colesterol ar lefelau iach erbyn hyn. “Byddai cwblhau marathon yn cynrychioli diwedd fy her ac yn drawsnewidiad cyfan gwbl yn fy iechyd a’m ffitrwydd cyffredinol. Bydd yn her anodd iawn, ac wrth hyfforddi bydd yn rhaid i mi redeg 40-45 mill r yr wythnos, a fydd yn flinedig iawn, ac yn waith anodd yn ystod nosweithiau oer y gaeaf yn enwedig. Rydw i’n rhedeg ar fy mhen fy hun sydd unwaith eto’n gwneud yr her o hyfforddi yn anodd, gan fod angen i chi gadw eich cymhelliant i redeg mill r ar ôl mill r wrth hyfforddi. Rydw i’n bwriadu ymuno â chlwb rhedeg i helpu gyda’r hyfforddiant. “Mae fy niet wedi newid yn llwyr ers dechrau fy hyfforddiant, gyda llawer o gyw iâr, llysiau a reis brown - yn ddiflas iawn, ond dim ond am 6 mis. Wrth hyfforddi byddaf yn llosgi hyd at 10,000 o galorïau yr wythnos, felly ni fydd ambell far o siocled yn gwneud drwg i mi.


Y diweddaraf am elusennau | intouch | www.wwha.co.uk | 43 “Dyma’r tro cyntaf i mi roi cynnig arni, ond cyn belled ag y bydd pethau’n mynd yn dda, nid dyma fydd fy nhro olaf, gan fy mod yn gobeithio rhedeg llawer mwy o rasys. Fy mhrif gymhelliad yw fy mab a bod yn iach er ei fwyn ef pan fydd yn tyfu i fyny, gan ei fod wrth ei fodd yn rhedeg o gwmpas, sy’n beth da i’w weld. Mae fy ngwraig Lesley yn dygymod â’r sefyllfa’n dda - mae angen cymaint o oriau i hyfforddi ar gyfer marathon, ond mae hi’n gefnogol iawn pan fydda i allan yn rhedeg 5 diwrnod yr wythnos ac yn siarad am redeg bob awr o’r dydd (er fy mod i’n siŵr nad yw hi’n gwrando o ddifrif). “Fy ysbrydoliaeth yw Mo Farah, ac mae ef yn gobeithio rhedeg marathon mewn llai

na 2 awr. Mi fyddwn i’n falch o gwblhau’r ras mewn llai na 4 awr. Yn ogystal, mae fy nhad wedi rhedeg sawl marathon, a llwyddodd i redeg un ras mewn 4 awr 11 munud, ond roedd yn 50 pan wnaeth hynny, felly gobeithio y gallaf ei guro ef. “Mae’n daith i’r teulu erbyn hyn gan fod y rhan fwyaf o’m teulu yn dod i Lundain dros y penwythnos i wylio, a fydd yn gymorth mawr pan fyddaf yn cyrraedd camau olaf y marathon” Yn y rhifyn nesaf byddwn yn dweud wrthych am y gwahanol ffyrdd y gallwch chi gyfrannu at y Gymdeithas Strôc, a rhoi gwybod i chi sut hwyl mae Andrew yn ei gael ar ei hyfforddiant.

Bore Coffi Mwyaf y Byd Yn ystod mis Medi, fe wnaeth nifer o gynlluniau er ymddeol WWH ledled Cymru ymuno â digwyddiad Bore Coffi Mwyaf y Byd, gan gynnal eu boreau coffi eu hunain er budd Cymorth Canser Macmillan, gan gynnwys: Hope Court, Caerdydd – £135.20 Tŷ Gwynn Jones, Abergele – £363.19 Lord Pontypridd House, Caerdydd – £280.00 Danymynydd, Pen-y-bont ar Ogwr – £400.00 Tŷ Gwaunfarren, Merthyr Tudful – £283.00 Ystad Goffa, y Fflint – £226.50 O’r chwith i’r dde, Tŷ Gwaunfarren - Charlo e Powles (gwirfoddolwraig), y Rheolwr Cynllun David Morgan, Glenys Sullivan (gwirfoddolwraig) a Sylvia Rogers, Glanhawraig


44 | www.wwha.co.uk | intouch | Y diweddaraf am elusennau

Pat yn codi £124 i’r Gymdeithas Strôc Yn ddiweddar, fe wnaeth Pat Hill, sy’n byw yn Hanover Court ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wau bwndeli o sgarffiau i’w gwerthu er budd Cymdeithas Strôc Cymru, gan godi’r swm gwych o £124. Yn 1983 roedd Pat yn “Warden” i Hanover Housing fel y’i gelwid ar y pryd, ac yn 1997 dychwelodd i fyw yn y cynllun. Pan ymddeolodd y Rheolwr Cynllun presennol yn 2009, fe wnaeth Pat astudio ar gyfer dyfarniad hylendid bwyd yn ei hamser hamdden a llwyddo i gael tystysgrif, gan ei bod eisiau i’r cyfarfodydd bore coffi wythnosol barhau. Mae Pat hefyd yn helpu i drefnu a chynnal gweithgareddau eraill yn Hanover Court.

Jeans for Genes Cododd staff WWH gyfanswm o £82.88 ddydd Gwener 20 Medi – Diwrnod Jeans for Genes 2013. Mae Jeans for Genes yn elusen sy’n anelu at newid y byd i blant sydd ag anhwylderau gene g.

WWH yn cefnogi taith feiciau Shelter Fe wnaeth Tai Wales & West noddi Taith Feicio Arfordir Copr Mike Norman ac Amanda Harris yng Ngweriniaeth Iwerddon ar 26 Awst er budd Shelter Cymru. “Ar ôl taith fferi hir fe gyrhaeddom Rosslare. Roedd rhai wynebau pryderus y bore y gwnaethom ddechrau ar y faith, o wybod fod gennym bedwar diwrnod a 300 mill r o’n blaenau! “Fe wnaeth y 9 beiciwr glosio’n gyflym iawn, a oedd yn caniatáu i ni aros fel un uned. Yn ogystal â bryniau tonnog a mynd ar goll o gwmpas Cork, fe wnaethom fwynhau Kinsale a Dungarven, gwrando ar gerddoriaeth Wyddelig fyw rhagorol a hiwmor y bobl. Roeddem yn lwcus i weld golygfeydd anhygoel, a chwrdd â phobl hyfryd wrth gwrs. Rydym yn ddiolchgar iawn i Wales & West am eu cefnogaeth barhaus!”


Pen-blwyddi a dathliadau | intouch | www.wwha.co.uk | 45

Jane yn mwynhau ei pharƟ pen-blwydd yn 99 oed

Peggy yn dathlu ei chanfed pen-blwydd

Dathlodd Jane Evans ei phen-blwydd mewn steil gyda phreswylwyr a ffrindiau yn Llys Nazareth yn Pentre, Rhondda, ar 4 Medi. Ar ôl byw yn Llys Nasareth am ddwy flynedd ar hugain, mae Jane wedi gwneud llawer o ffrindiau, gan barhau i fyw bywyd annibynnol iawn. Mae hi wrth ei bodd gyda chacennau cartref o hyd. “Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer ei phen-blwydd mawr nesaf. Bydd Ei Mawrhydi, wrth gwrs, yn cael gwybod a’i gwahodd i’r par ” meddai Pauline Gregory, Rheolwr y Cynllun.

Fe wnaeth Morfydd Ison, sef Peggy i’w ffrindiau, ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed ar 18 Hydref. Daeth tua 64 o westeion i’w phar mawreddog, gan gynnwys aelodau o’i theulu a oedd wedi teithio o California.

Jane yn y blaen yn y canol gyda’i ffrindiuau a Pauline

Pen-blwydd hapus Maria Dathlodd Maria Deere ei phen-blwydd yn 90 oed yn Oldwell Court, Caerdydd gyda’r preswylwyr ar 11 Hydref. Trefnodd ffrind agos Maria, Carol, bar ar ei chyfer yn y Clwb Cywennod a Choffi yn y bore. Dywedodd y Rheolwr Cynllun, Sandy Houdmont, “Mae pawb yn hoffi Maria yma – mae hi’n fenyw arbennig iawn sydd â synnwyr digrifwch gwych, ac rydym i gyd yn dymuno’r gorau iddi.”

Yn un sy’n frwd dros grosio, mae Peggy yn dal i fwynhau chrosio ac wedi gwneud llawer o flancedi ar gyfer elusennau dros y blynyddoedd, sydd wedi cael eu hanfon ledled y byd. “Rwyf wrth fy modd yn crosio”, meddai Peggy, “Rwyf wedi bod yn gwneud hyn ers blynyddoedd. Mae’n cadw fy meddwl yn weithgar.” Mae gan Peggy bump o wyrion, saith o or-wyrion ac un gor-or-wyres. Er gwaethaf ei hoedran, mae Peggy yn parhau i fod yn annibynnol ac yn dal i goginio ar ei chyfer ei hun. Mae ei merch a’i theulu bob amser yn agos ac yn ymwelwyr rheolaidd yn y cynllun.

Peggy Ison gyda’i cherdyn pen-blwydd gan y Frenhines


46 | www.wwha.co.uk | intouch | Pen-blwyddi a dathliadau

Catherine yn dathlu ei phen-blwydd yn 89 oed

Cariad yn blodeuo i Marie a John

Dathlodd Catherine Rees ei phen-blwydd yn 89 oed ar 16 Hydref gyda bwffe mawreddog yn y lolfa gymunol yn Nhŷ Pontrhun ym Merthyr Tudful, ynghyd a’i ffrindiau a’i theulu. Mae Catherine wedi byw yn Nhroedyrhiw, Merthyr Tudful, am y rhan fwyaf o’i bywyd, ac eithrio am chwe blynedd pan symudodd i Ddinbych-y-pysgod i weithio mewn gwesty, lle gwnaeth hi gyfarfod ei chariad gydol oes, William Rees. Symudodd Catherine a William yn ôl i Troedyrhiw yn nechrau’r 50au. Mae ganddyn nhw dri o blant, sef Mike, sydd bellach yn byw yn Nhŷ Pontrhun, a Tyrone a Pauline, sydd hefyd yn byw yn lleol. Mae gan Catherine saith o wyrion a phedwar o or-wyrion. “Roedd Catherine yn annwyl iawn yng ngolwg ei diweddar ŵr, ac mae ei holl deulu yn ei charu’n fawr. Mae hi’n mwynhau gêm o bingo ac yn ymuno ym mhopeth yn y cynllun” meddai Karen Lewis, Rheolwr Cynllun yn Nhŷ Pontrhun.

Marie a John ar ddiwrnod eu priodas

Fe wnaeth preswylwyr yn Hanover Court yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd, ddod at ei gilydd yn ddiweddar i ddathlu par plu Marie Mills. Addurnwyd yr ystafell gymunol gyda balwnau a rhubanau, ac fe wnaeth y preswylwyr y dathliad yn ddigwyddiad cofiadwy drwy wisgo’n drwsiadus a dod â diodydd a bwyd par bwffe gyda nhw. Yr wythnos ganlynol, priododd Marie â John Hawkins yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Rydym yn dymuno dyfodol hapus iawn iddyn nhw gyda’i gilydd..


LJƐƚĂĚůĞƵĂĞƚŚLJEĂĚŽůŝŐ zĚŝŚŝ͛ƌĂĚĞŐŚŽŶŶŽŽ͛ƌŇǁLJĚĚLJŶLJŶďĂƌŽĚ͍ Ydi, mae hi! Ac ar ôl haf braidd yn wlyb mae hin’ dechrau nosi yn gynt eto, ac wrth i chi ddarllen hwn dim ond ychydig o wythnosau sydd ar ôl cyn y Nadolig!!! Bob blwyddyn rydym yn anfon ĞͲŐĞƌĚLJŶEĂĚŽůŝŐĐŽƌīŽƌĂĞƚŚŽů͕ĂĐĞůĞŶŝ ŚŽīĞŵŝĐŚŝĚĚĂƌƉĂƌƵĚĂƌůƵŶƚLJŵŚŽƌŽů gwych i ni ei ddefnyddio ar y cerdyn. I roi rhai syniadau i chi ... ar y chwith gwelir ein cerdyn Nadolig ϮϬϭϮʹƐLJ͛ŶĐLJŶŶǁLJƐīŽƚŽŐƌĂīĂ gymerwyd gan aelod Jayne Orchard, un o’n Swyddogion Gwasanaethau Cwsmeriaid.

CYFLE I ENNILL HAMPER NADOLIG M&S! 'ĂůůǁĐŚĂŶĨŽŶīŽƚŽŐƌĂī͕ĚĂƌůƵŶ͕ƉĂĞŶƟĂĚŶĞƵŚLJĚLJŶŽĞĚ ĐŽůůĂŐĞŶĞƵŐƌĂĸ ŐǁĂŝƚŚĐLJĨƌŝĮĂĚƵƌŽůĂƚŽŵͲŽŶĚďĞƚŚ ďLJŶŶĂŐLJĚLJǁ͕ŵĂĞ͛ŶƌŚĂŝĚŝĚĚŽĨŽĚLJŶǁĂŝƚŚŐǁƌĞŝĚĚŝŽů ŐĞŶŶLJĐŚĐŚŝĂĐŵĂĞ͛ŶƌŚĂŝĚŝĚĚŽĂĚůĞǁLJƌĐŚƵ͛ƌEĂĚŽůŝŐ͘ LJĚĚĞŝŶWƌŝĨtĞŝƚŚƌĞĚǁƌŶŶĞ,ŝŶĐŚĞLJĂŚĂĚĞŝƌLJĚĚLJ ǁƌĚĚ͕<ĂƚŚLJ^ŵĂƌƚ͕LJŶďĞŝƌŶŝĂĚƵ͛ƌĐLJŶŝŐŝŽŶĂďLJĚĚLJƌ ĞŶŝůůLJĚĚLJŶĐĂĞů,ĂŵƉĞƌEĂĚŽůŝŐDΘ^ƐLJ͛ŶǁĞƌƚŚĚƌŽƐάϱϬ͘ DĂĞ͛ƌŐLJƐƚĂĚůĞƵĂĞƚŚLJŶĂŐŽƌĞĚŝďƌĞƐǁLJůǁLJƌtt,ŽďŽď ŽĞĚƌĂŶ;ŐĂŶŐLJŶŶǁLJƐƉůĂŶƚͿ͕Ă͛ƌĚLJĚĚŝĂĚĐĂƵLJǁϭϯZŚĂŐĨLJƌ͘ ŶĨŽŶǁĐŚĞŝĐŚĐLJŶŝŐŝŽŶĚƌǁLJĞͲďŽƐƚĂƚsarah.manners@ wwha.co.ukŶĞƵĂŶĨŽŶǁĐŚŶŚǁĚƌǁLJ͛ƌƉŽƐƚĂƚY Golygydd – Cystadleuaeth Cerdyn Nadolig, In Touch, Tai Wales & West, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. Rheolau arferol cystadlaethau’n gymwys, a bydd penderfyniad y Prif Weithredwr yn derfynol


Ydych chi, neu rywun rydych chi’n eu hadnabod, yn chwilio am rywle i fyw ym Mhowys? Mae ein rhestri yn agored. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n Tîm Dewisiadau Tai

0800 052 2526 contactus@wwha.co.uk

www.wwha.co.uk @wwha DĂĞŐĞŶŶLJŵŐĂƌƚƌĞĮůĞĚůĞĚWŽǁLJƐ͕ ŐĂŶŐLJŶŶǁLJƐ͗ďĞƌŚŽŶĚĚƵ͕LJ ƌĞŶĞǁLJĚĚ͕>ůĂŶĨĂŝƌͲLJŵͲDƵĂůůƚ͕ dĂůŐĂƌƚŚ͕>ůĂŶĂŶĚƌĂƐĂŚƌƵŐŚLJǁĞů

ĞǁŝƐŝĂĚĂƵƚĂŝ

Cradoc Close, Aberhonddu

Cwrt Tarrell, Aberhonddu

&ĨŽƌĚĚŝĂĚǁLJ LJŵDŚŽǁLJƐ

Llys Hafren, , y Drenewydd

Plough Court, Aberhonddu


In touch hydref 2013