Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch - Project Unigol - Meithrin Sgiliau

Page 1

Project Unigol –Meithrin Sgiliau

Cynnwys

1. Cyflwyniad

2. Gweithgaredd Cynllunio a Threfnu

3. Gweithgaredd Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau

4. Gweithgaredd Creadigrwydd ac Arloesi

Cyflwyniad

Mae'r adnodd Meithrin Sgiliau hwn yn cynnig tri gweithgaredd, pob un yn canolbwyntio ar un o'r Sgiliau Cyfannol – Cynllunio a Threfnu; Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau; a Chreadigrwydd ac Arloesi.

Byddant yn cynnwys y Sgiliau Penodol, a ddangosir yn y tabl, y bydd angen i chi eu dangos yn Asesiad Project Unigol. Gan ddefnyddio eich sgiliau

Effeithiolrwydd Personol , byddwch yn gallu casglu adborth, myfyrio ar eich cynnydd a'i werthuso.

Sgìl Cyfannol Sgiliau Penodol

1.1 – Adnabod rhesymeg y project.

1.2 – Pennu nodau ac amcanion priodol a realistig.

1.3 – Cynllunio ymchwil priodol a pherthnasol.

Cynllunio a Threfnu

1.6 – Diffinio blaenoriaethau a meini prawf llwyddiant.

1.8 – Rheoli adnoddau, amserlenni a risgiau posibl.

1.9 – Rheoli a blaenoriaethu gwaith.

2.2 – Cymhwyso dulliau i ddatrys problemau cymhleth, gan gynnwys technegau ymchwil wedi'u canolbwyntio i gasglu gwybodaeth gynradd ac eilaidd.

2.3 – Dewis gwybodaeth briodol drwy werthuso hygrededd yn feirniadol ac adnabod tuedd a thybiaethau.

Meddwl yn

Feirniadol a Datrys Problemau

2.4 – Dadansoddi gwybodaeth gymhleth a chynnig pwyntiau allweddol.

2.5 – Cyfosod gwybodaeth gynradd ac eilaidd sy'n cynnwys barnau, safbwyntiau a dadleuon eraill.

2.6 – Gwneud defnydd manwl gywir o ddull academaidd o gyfeirnodi.

2.9 – Llunio barnau dilys a chasgliadau wedi'u rhesymu.

Project Unigol – Meithrin Sgiliau 2

Sgìl Cyfannol Sgiliau Penodol

3.1 – Cynhyrchu syniadau yn annibynnol.

3.3 – Creu cysylltiadau rhwng gwahanol wybodaeth i  gefnogi deilliannau.

3.4 – Defnyddio meddwl creadigol i ddadansoddi

gwybodaeth a syniadau.

3.5 – Ystyried ymarferoldeb rhoi syniadau a chanlyniadau

ar waith.

3.7 – Archwilio, mireinio, addasu a datblygu syniadau a deilliannau priodol.

3.8 – Datblygu dulliau cyfathrebu arloesol sy'n briodol i'r  gynulleidfa.

4.3 – Dangos perfformiad wrth gwblhau tasgau

gweithgareddau wrth weithio'n annibynnol.

4.4 – Dangos cyfraniad wrth gydweithio.

4.5 – Ymateb i adborth a rhoi adborth i bobl eraill, lle y bo'n  briodol.

4.6 – Myfyrio ar eu hymddygiadau, eu perfformiad a'u

Effeithiolrwydd

deilliannau eu hunain wrth weithio'n annibynnol a/

neu wrth gydweithio.

4.7 – Adnabod meysydd i'w gwella wrth weithio'n

annibynnol a/neu wrth gydweithio.

4.8 – Gwerthuso'r deilliannau a gyflawnir mewn

perthynas â nodau, amcanion a meini prawf

llwyddiant.

3 Advanced Skills Baccalaureate Wales
Creadigrwydd ac Arloesi
Personol

Gweithgaredd Ymarfer Cynllunio a Threfnu

Casglu gwybodaeth gynradd i gynhyrchu

calendr

Senario

Mae gwybodaeth gynradd yn dod o lygad y ffynnon, sy'n golygu casglu gwybodaeth wreiddiol yn uniongyrchol o'r ffynhonnell yn hytrach na gwybodaeth sydd wedi'i chreu gan rywun arall.

Mae llun yn gywerth â mil o eiriau. Er bod amrywiaeth o fathau o wybodaeth gynradd yn bodoli, yn aml byddwn ni'n anghofio am ffotograffau wrth wneud gwaith ymchwil. Mae'r rhain yn cofnodi digwyddiadau byw, yn dystiolaeth hanesyddol, neu'n gallu dal ennyd syml mewn amser. Maen nhw'n rhoi gwybodaeth amhrisiadwy am unigolyn, cyfnod neu le. Maen nhw hefyd yn ffordd syml a chyflym o gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi.

Eich tasg chi yw creu calendr

12 mis, felly bydd angen 12 ffotograff gwahanol. Byddwch

chi'n casglu eich gwybodaeth

gynradd (ffotograffau) eich

hunain gan sicrhau bod gennych

chi ffotograff ar gyfer pob mis

sy'n cynrychioli'r mis penodol

hwnnw. Mae yna amrywiaeth eang o themâu y gallech chi eu defnyddio yn eich calendr.

Oherwydd GDPR, chewch chi ddim cynnwys pobl yn eich ffotograffau.

Project Unigol – Meithrin Sgiliau 4
Hydref 2005
Dydd Sul Dydd Llun Dydd Mawrth Dydd Mercher Dydd Iau Dydd Gwener Dydd Sadwrn

Profi Sgiliau Penodol

1.1 – Adnabod rhesymeg y project. Tasg 1

1.2 – Pennu nodau ac amcanion priodol a realistig. Tasg 1

1.3 – Cynllunio ymchwil priodol a pherthnasol. Tasg 2

1.6 – Diffinio blaenoriaethau a meini prawf llwyddiant. Tasg 2

1.8 – Rheoli adnoddau, amserlenni a risgiau posibl. Tasg 3

1.9 – Rheoli a blaenoriaethu gwaith. Tasg 3

Tasgau

1. Dewiswch thema i'ch calendr – gallai fod yn seiliedig ar chwaraeon, hobi, gwyliau crefyddol ac ati. Cofiwch bod rhaid i chi dynnu'r ffotograffau eich hun. Rhaid i bob un o'r ffotograffau adlewyrchu'r mis mae'n ei gynrychioli; efallai y bydd angen i chi fod yn greadigol i wneud hyn. Cynhyrchwch sail resymegol ar gyfer pam dewisoch chi'r thema honno i'ch calendr a pha fathau o luniau hoffech chi eu tynnu. Pennwch nodau ac amcanion priodol a realistig.

Dylai sail resymegol gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r ffocws, y cwmpas a'r cefndir.

Cofiwch mai'r nodau yw'r strategaeth, a'r amcanion yw'r camau gweithredu penodol i gwblhau'r nodau.

2. Cynlluniwch sut rydych chi'n mynd i gasglu eich gwaith ymchwil a beth yw eich blaenoriaethau a'ch meini prawf llwyddiant.

Pa ffotograffau sydd eu hangen arnoch chi? Ble byddwch chi'n eu tynnu nhw? Faint o amser fydd hynny'n ei gymryd?

Pa adnoddau fydd eu hangen arnoch chi? Beth yw eich amserlenni?

3. Defnyddiwch eich cynllun i reoli a blaenoriaethu eich gwaith, gan gynnwys adnoddau, amserlenni, a risgiau, i greu calendr. Gallwch chi greu eich calendr mewn sawl ffordd. Dyma rai syniadau i chi: Microsoft Calendars, Vertex, Calendars Quick, neu ddogfen Word/PowerPoint. Rhannwch eich cynnyrch gorffenedig â dysgwyr eraill i gael adborth.

5 Advanced Skills Baccalaureate Wales

Gweithgaredd Ymarfer Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau

Adroddiad sy’n mynd i’r afael â’r cwestiwn 'Ddylai Cymru godi'r oed cyfreithlon i brynu alcohol i 21?'

Senario

Yng Nghymru, yr oed cyfreithlon i brynu alcohol yw 18. Fodd bynnag, mae ymchwil gan Lywodraeth Cymru wedi datgelu mai Cymru sydd â'r nifer mwyaf o yfwyr dan oed yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi canfod bod pobl yng Nghymru yn fwy tebygol o oryfed mewn pyliau na neb arall ym Mhrydain.

Gan ddefnyddio'r linc isod, astudiwch y ffeithlun sy'n dangos y 10 gwlad uchaf yn Ewrop o ran goryfed mewn pyliau (ymysg bechgyn a merched). Mae'n dangos sut mae Cymru'n cymharu â gwledydd eraill o ran goryfed mewn pyliau ymysg pobl ifanc.

https://www.dailymail.co.uk/news/article-6208243/British-girlsnamed-heaviest-binge-drinkers-Europe-study-finds.html

Mae canlyniadau camddefnyddio alcohol yn ddifrifol. Yn ôl Ymchwil y Senedd (2019) roedd 14,588 o achosion o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty yn benodol oherwydd alcohol a 540 o farwolaethau cysylltiedig ag alcohol, sy'n gynnydd o 7.1%. Mae'r Swyddfa

Ystadegau Gwladol yn dweud bod marwolaethau cysylltiedig ag alcohol wedi cynyddu 19% i'r lefel uchaf ers 20 mlynedd yn 2020, ac mai clefyd yr iau/afu sy'n achosi'r rhan fwyaf o'r marwolaethau hyn.

Er bod yr isafswm oed yfed yng Nghymru yn 18, yn UDA mae'r isafswm oed yfed yn 21. Fodd bynnag, mewn rhai gwledydd does dim oed cyfreithlon neu mae yfed alcohol wedi'i wahardd yn llwyr.

Project Unigol – Meithrin Sgiliau 6

Mae angen i chi ysgrifennu adroddiad sy’n mynd i’r afael â’r cwestiwn 'Ddylai Cymru godi'r oed cyfreithlon i brynu alcohol i 21?', gan ddefnyddio'r pum ffynhonnell gwybodaeth eilaidd isod.

Profi Sgiliau Penodol

2.4 – Dadansoddi gwybodaeth gymhleth a chynnig

pwyntiau allweddol.

2.5 – Cyfosod gwybodaeth eilaidd sy'n cynnwys

barnau, safbwyntiau a dadleuon eraill.

2.6 – Gwneud defnydd manwl gywir o ddull

academaidd o gyfeirnodi.

Tasg 1

Tasg 2

Tasg 3

Tasg 3

2.9 – Llunio barnau dilys a chasgliadau wedi'u rhesymu. Tasg 3

Tasgau

1. Gan ddefnyddio'r ffynonellau canlynol, cynigiwch y pwyntiau allweddol i'ch helpu chi i ateb y cwestiwn 'Ddylai Cymru godi'r oed cyfreithlon i brynu alcohol i 21?'

Ffynhonnell 1

Alcohol ac Iechyd Cyhoeddus

Ffynhonnell 2

Ydy pobl ifanc yng Nghymru'n troi eu cefnau ar alcohol?

Ffynhonnell 3

Galw Amser Newid. Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol

2020–2024

Ffynhonnell 4

Deddfau isafswm oed yfed cyfreithlon

Ffynhonnell 5

Prynu ac yfed alcohol

7 Advanced Skills Baccalaureate Wales

Pa ddulliau allech chi eu defnyddio i gynnig pwyntiau allweddol o wybodaeth gymhleth?

Sut gallech chi gyflwyno eich pwyntiau allweddol i wneud synnwyr o'r wybodaeth a'i chyfosod ar fformat rhesymegol?

2. Dadansoddwch eich gwybodaeth i sicrhau ei bod hi'n cynnwys barnau, safbwyntiau a dadleuon gwahanol fel sail i'ch adroddiad.

Allech chi ddefnyddio PESTLE, STEEPLE, PRESTLE i helpu i ddadansoddi'r ffynonellau?

3. Cynhyrchwch adroddiad 1000 gair sy'n cynnwys:

• eich canfyddiadau sy'n cyfosod y pwyntiau allweddol o'r ffynonellau gwybodaeth eilaidd rydych chi wedi'u defnyddio

• casgliad sy'n crynhoi eich canfyddiadau er mwyn ffurfio barn ddilys a chyfiawnhad clir i ateb y cwestiwn

• rhestr gyfeirio sy'n defnyddio dull cyfeirio academaidd.

Pa nodweddion trefniadaeth sydd gan adroddiadau?

Project Unigol – Meithrin Sgiliau 8

Gweithgaredd Ymarfer Creadigrwydd ac Arloesi

Ymateb creadigol i fater amgylcheddol

Senario

Mae moroedd, traethau ac

afonydd nawr yn ffynhonnell

gyson o lygredd plastig, lle mae

eitemau o fwyd tecawê, diodydd a bwyd cyffredinol yn chwarae mwy

a mwy o ran yn y ffrwd o sbwriel

sy'n effeithio ar ein dyfrffyrdd.

Casgliad ymchwil gafodd ei

gyhoeddi yn y cyfnodolyn

Nature Sustainability oedd: ‘O ran tarddiad sbwriel, eitemau

traul i fynd â nhw allan – yn bennaf

bagiau plastig a phapur lapio, cynwysyddion bwyd a chyllyll

a ffyrc, poteli plastig a gwydr, a thuniau – oedd y gyfran fwyaf.’

(Carrington, 2021)

Eitemau Plastig yn Dominyddu

Sbwriel y Cefnforoedd

Y 10 eitem wastraff fwyaf cyffredin sy'n llygru cefnforoedd y byd*

Bagiau plastig

Poteli plastig

Cynwysyddion bwyd/ cyllyll a ffyrc

Papur lapio

Rhaffau synthetig

Eitemau pysgota

Caeadau plastig

Defnydd pecynnu

diwydiannol

Poteli gwydr

Tuniau diodydd

*Yn seiliedig ar eitemau gwastraff gafodd eu canfod mewn saith ecosystem ddyfrol yn fyd-eang.

Ffynhonnell: Carmen Morales-Caselles et al. (2021)

Gan fod dim ond 10 cynnyrch plastig yn cyfrannu 75% o'r holl

eitemau rydyn ni'n eu canfod yn llygru ein prif ffynonellau dŵr, caiff defnyddwyr eu hannog yn fwy nag erioed i gefnu ar blastig untro ac ailddefnyddio, ailgylchu a chwilio am ddewisiadau amgen lle bynnag mae hynny'n bosibl.

‘Mae tua 11m tunnell fetrig o blastig yn mynd i'r moroedd bob blwyddyn, a heb gymryd camau drastig, gallai'r swm hwn bron

dreblu erbyn 2040. Dim ond unwaith mae'r rhan fwyaf o ddefnydd

pecynnu plastig yn cael ei ddefnyddio, a dim ond 14% sy'n cael ei gasglu i'w ailgylchu bob blwyddyn , sy'n golygu bod gwerth degau o biliynau o ddoleri o ddefnydd pecynnu plastig yn cael ei golli i'r economi.’ (ocean.economist.com)

9 Advanced Skills Baccalaureate Wales

Fodd bynnag, mae gan unigolion y grym nid yn unig i gyfrannu, ond i reoli newid! Drwy ddewis defnyddio llai, dewis pa ddefnyddiau i'w defnyddio a chymryd y cyfle i ailgylchu lle bynnag mae'n bosibl, mae gan entrepreneuriaid a dylunwyr y gallu i newid y broses ddylunio yn y tarddle.

Gan fod llygredd plastig yn fater byd-eang lle mae angen cyfraniad creadigol ar y cyd, mae gan ddylunwyr nawr, yn fwy nag erioed o'r blaen, gyfle digynsail i newid eu dyluniadau a'u cynhyrchion er gwell. Mae bod yn ddylunydd yn gyfle cyffrous – mae'n gyfle i ailfeddwl y berthynas ddylunio rhwng gwastraff a datblygu datrysiadau newydd i broblem plastig. Gallwch chi ddefnyddio gwastraff fel adnodd – nid yn unig y byddwch chi'n cael gwared ar elfennau gwastraff plastig o'r amgylchedd, ond byddwch chi hefyd yn darparu adnoddau newydd sbon i ddylunwyr. Mae uwchgylchu gwastraff plastig ar ffurf defnydd newydd yn gyfle cyffrous a chreadigol i unrhyw ddylunydd i gyfrannu at leihau gwastraff plastig a lleihau eu heffaith eu hunain ar yr amgylchedd.

Wrth i bartneriaethau brandiau megis Adidas x Parley ddylunio a chynhyrchu esgidiau wedi'u gwneud o blastig o'r cefnfor ac wrth i eco ddylunwyr fel Sarah Turner wneud gwaith celf, cerfluniau a goleuadau o ddefnyddiau wedi'u hailgylchu, mae'r diwydiant sy'n gysylltiedig ag ailddefnyddio ac ailbwrpasu ein plastig gwastraff yn tyfu. Mae'r diwydiant ‘dylunio er gwell’ yn bwysicach nag erioed, o safbwyntiau ecoleg, cynaliadwyedd, moesoldeb a'r economi.

Wrth i Gymru ehangu ar ei llwyddiant o gyfyngu ar blastig untro, gallai ehangu'r farchnad ddylunio hon fod yn gymorth pellach i Gymru i daro'r targed o fod yn economi ddi-garbon. Fel dylunwyr, gwneuthurwyr ac arbenigwyr creadigol, mae dyfodol dylunio cynaliadwy yn eich dwylo chi!

Project Unigol – Meithrin Sgiliau 10

Rydych chi wedi cael y cyfle i ddylunio a chynhyrchu eitem o'ch dewis chi o ddefnyddiau ailgylchadwy neu ddefnyddiau rydych chi wedi dod o hyd iddyn nhw.

Profi Sgiliau Penodol

3.1 – Cynhyrchu syniadau yn annibynnol.

3.3 – Creu cysylltiadau rhwng gwahanol wybodaeth i  gefnogi deilliannau.

3.4 – Defnyddio meddwl creadigol i ddadansoddi  gwybodaeth a syniadau.

3.5 – Ystyried ymarferoldeb rhoi syniadau a  chanlyniadau ar waith.

3.7 – Archwilio, mireinio, addasu a datblygu syniadau  a deilliannau priodol.

3.8 – Datblygu dulliau cyfathrebu arloesol sy'n  briodol i'r gynulleidfa.

Tasg 1

Tasg 2

Tasg 3

Tasg 3

Tasg 3–4

Tasg 2–4

11 Advanced Skills Baccalaureate Wales
Adidas Ultraboost Parley, esgidiau rhedeg ecogyfeillgar wedi'u gwneud yn rhannol gyda Parley Ocean Plastic

Tasgau

1. Disgrifiwch o leiaf tri syniad cychwynnol ar gyfer eitemau gallech chi eu cynhyrchu. Dewiswch a chyfiawnhewch eich hoff syniad drwy ystyried dichonoldeb, creadigrwydd a diogelwch.

Sut gallech chi lunio ac arddangos eich syniadau? Er enghraifft, SCAMPER, meddwl awyr las, creu map meddwl.

Dyma ddechrau eich cofnod datblygu arteffact. Cofnodwch bob cam wrth i chi ddylunio a datblygu'r canlyniad terfynol, gan gofio dadansoddi a gwerthuso'r broses wrth i chi fynd yn eich blaen. Dylai hyn gynnwys lluniau a thestun i ddangos cyfathrebu arloesol.

2. Crëwch gysylltiadau rhwng gwahanol wybodaeth a syniadau i gynhyrchu dyluniadau cychwynnol i'ch eitem. Cydweithiwch ag eraill i gasglu adborth am eich syniadau cyn symud ymlaen ag un dyluniad.

Sut gallech chi gasglu adborth sy'n rhoi sail i'ch dewisiadau dylunio? Sut gallech chi gyflwyno a chofnodi eich dewisiadau dylunio?

3. Meddyliwch yn greadigol i ddadansoddi eich holl wybodaeth a syniadau i ddatblygu dyluniad terfynol eich eitem. Bydd angen i chi ystyried dewisiadau defnyddiau, ffactorau amgylcheddol, yr arferion gwaith diogel a pha mor ddichonadwy yw eich syniad. Dylech chi fireinio, addasu a datblygu eich syniadau wrth i chi weithio.

Sut gallech chi wneud mwy i gofnodi eich bwriadau dylunio a'ch cymhwysiad ymarferol, gan ystyried defnyddiau a phrosesau?

Project Unigol – Meithrin Sgiliau 12

4. Datblygwch a chynhyrchwch eich eitem o ddefnyddiau wedi'u

hailgylchu neu ddefnyddiau rydych chi wedi dod o hyd iddyn

nhw. Cofnodwch y broses gynhyrchu a'r canlyniad terfynol yn eich cofnod datblygu.

Sut gallech chi gyflwyno eich eitem mewn modd creadigol?

13 Advanced Skills Baccalaureate Wales
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.