Cylchgrawn 'REconnect' - Rhifyn 3

Page 1

Rhifyn 3


Cyflwyniad Croeso i drydydd rhifyn ‘REconnect’. Mae rhifynnau blaenorol wedi bod yn boblogaidd iawn ymhlith canolfannau a gobeithio y bydd hwn yr un mor ddefnyddiol. Nod ein cylchgrawn yw cynnig awgrymiadau ar gyfer addysgu'r manylebau diwygiedig a gwybodaeth allweddol am ein cymwysterau Astudiaethau Crefyddol CBAC/Eduqas. Mae hyn yn cynnwys dyddiadau ar gyfer arholiadau 2019 a chynadleddau safoni i Arholwyr. Os nad ydych wedi gwneud hynny'n barod, ewch i'n gwefan adnoddau i weld ein hadnoddau addysgu rhad ac am ddim: https://adnoddau.cbac.co.uk/ Gobeithio y bydd y wybodaeth yn yr erthyglau yn ddefnyddiol i chi a'u bod yn ennyn diddordeb eich dysgwyr ac yn eich helpu i baratoi ar gyfer y cyrsiau hyn. Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd eu syniadau at y rhifyn hwn. Os hoffech gyfrannu at y cylchgrawn drwy ysgrifennu erthygl neu rannu ambell awgrym addysgu defnyddiol, cysylltwch â ni drwy e-bost. Edrychwn ymlaen at gydweithio â chi dros y misoedd nesaf.

Cofion cynnes, Lynda Maddock ac Andrew Pearce

2


Andrew Pearce Swyddog Pwnc (TAG UG/U) Ffôn: 029 2240 4274 Ebost: andrew.pearce@cbac.co.uk

Lynda Maddock Swyddod Pwnc (TGAU) Ffôn: 029 2240 4274 Ebost: lynda.maddock@cbac.co.uk Eira Morgan Swyddog Cefnogaeth Pwnc (TAG UG/U) Ffôn: 029 2240 4274 Ebost: eira.morgan@cbac.co.uk Christopher Barfoot Swyddog Cefnogaeth Pwnc (TGAU) Ffôn: 029 2240 4274 Ebost: christopher.barfoot@cbac.co.uk

» 3


Cynnyws Lefel A

Dysgu Gwrthdro yn yr Ystafell Ddosbarth Addysg Grefyddol..................................6 Damcaniaeth Rhinwedd.............................................................................................................. 8 Ai fel Rhan o Gêm Iaith yw'r Ffordd Orau o Ddeall Iaith Grefyddol? ..............10 Hwyaden. Bwled. Milfeddyg. – Ymatebion Da ar gyfer AA2....................................13

TGAU Hindŵaeth: Project Cysegr....................................................................................................21 Astudiaethau Crefyddol mewn Ffilmiau...........................................................................23 Torri i mewn i'r Cwestiwn: Mynd i'r afael â'r Cwestiynau .....................................25 Defnyddio Ffynonellau o Ddoethineb ac Awdurdod yn Effeithiol........................28 Arolwg Bach o Berfformiad mewn Arholiadau TGAU yn Lloegr yn 2018........29 O Theori i Ymarfer: Defnyddio Dysgu Uniongyrchol yn yr Ystafell Ddosbarth........ 37

4


Lefel A Tudalennau 5 - 13

Dysgu Gwrthdro yn yr Ystafell Ddosbarth Addysg Grefyddol..................................6 Damcaniaeth Rhinwedd.............................................................................................................. 8 Ai fel Rhan o Gêm Iaith yw'r Ffordd Orau o Ddeall Iaith Grefyddol? ..............10 Hwyaden. Bwled. Milfeddyg. – Ymatebion Da ar gyfer AA2....................................13

5


Dysgu Gwrthdro yn yr Ystafell Ddosbarth Addysg Grefyddol Clare Lloyd Weithiau, bydd yn teimlo fel ras yn erbyn amser i gwblhau cwrs cyn yr arholiad. Rwyf wedi gweld amrywiaeth o ffyrdd o ddatrys y broblem hon: • Troi cymhwyster TGAU Astudiaethau Crefyddol yn gwrs tair blynedd • Addysgu rhywfaint o'r cwrs Safon Uwch yn ystod gwyliau'r Nadolig a'r Pasg drwy ddiwrnodau astudio llawn • Cynnal dosbarthiadau Sadwrn, dosbarthiadau cyfnos, grwpiau amser cinio • Rhoi llyfrau gwaith i fyfyrwyr yn ystod y gwyliau er mwyn iddynt ddysgu darnau o'r cwrs ar eu pen eu hunain Mae rhywbeth braidd yn anfoddhaol i mi am y mathau hyn o atebion, lle bydd athrawon a myfyrwyr yn colli amser gorffwys gwerthfawr. Felly, oes ffordd well? Gall y dull dysgu gwrthdro fod yn ffordd ymlaen sy'n lleddfu'r pwysau i athrawon a myfyrwyr ac yn caniatáu amser i bawb ystyried deunydd AA2 yn fanylach. Pan ddechreuais fy sianel YouTube, dyma oedd fy nod gyda fy myfyrwyr.Yr hyn a ddysgais oedd bod yn rhaid i'r dull hwn fod wedi'i strwythuro'n dda er mwyn iddo lwyddo. Mae dysgu gwrthdro yn seiliedig ar y syniad bod y rhan hawsaf o ddysgu deunydd (cyflwyno ffeithiau) yn cael ei chyflawni y tu allan i'r wers, tra bo'r sgiliau mwy heriol, fel dadansoddi a gwerthuso, yn cael eu dysgu yn ystod y gwersi gyda chymorth yr athro. Tri datblygiad strwythurol effeithiol a ddefnyddiais oedd: 1. Sianel YouTube / Amgylchedd dysgu rhithwir / Gwers TES blendspace Dyma fan y cytunwyd arno lle y byddwn yn lanlwytho'r holl gynnwys y byddai angen i'r dysgwyr ei ddysgu y tu allan i'r wers drwy ffilmiau, taflenni gwaith, adnoddau ar-lein neu gyflwyniadau PowerPoint y dylent weithio drwyddynt. Roedd y dull hwn yn gweithio'n dda pan oedd gen i gyfres lawn o ffilmiau i'w defnyddio ar fy sianel, ond nid ffilmiau yw'r unig ffordd o wrthdroi! Gall myfyrwyr ddarllen penodau perthnasol mewn gwerslyfr, ymchwilio i syniadau ar-lein, darllen nodiadau adrannol neu wylio darlith gan ysgolhaig. Mewn

»

6


amgylcheddau dysgu rhithwir neu wefannau fel TES blendspace, gallwch lanlwytho unrhyw gynnwys fel gwersi ar wahân y gellir eu labelu'n glir a'u harchebu i'r myfyrwyr. 2. Ar ddechrau adran o waith, byddwn yn darparu calendr o ddigwyddiadau a chopi o'r rhan honno o'r fanyleb. Roedd y calendr yn cynnwys: • Rhestr o ddyddiad a chynnwys pob gwers ar gyfer y rhan hon o'r cwrs • Rhestr o dasgau i'w cwblhau gan y myfyriwr, ac erbyn pryd • Sut i gael cymorth: Fy manylion cyswllt (cyfeiriad e-bost gwaith, estyniad yr adran) ac amseroedd gweithdy Felly, er enghraifft, roedd fy myfyrwyr yn gwybod mai cyflwyniad i Foeseg Sefyllfa a'r gwahaniaeth rhwng dulliau antinomaidd, deddfol a ffordd ganol fyddai'r wers gyntaf. Cyn y wers hon, roedd disgwyl iddynt wylio'r fideo YouTube 10 munud perthnasol ar fy sianel. (Gallai'r calendr gynnwys cod QR neu rywbeth tebyg fel bod ganddynt ddolen uniongyrchol). 3. Cofrestr ar-lein / Tocynnau Mynediad / Dull cymryd nodiadau drwy hollti'r dudalen. Dyma ffordd o gadarnhau bod y gwaith wedi cael ei gwblhau cyn y wers fel y gall y wers ei hun fod yn ystyrlon i'r myfyriwr. • Gall rhai amgylcheddau dysgu rhithwir gysylltu gwahanol fathau o gynnwys mewn gwers ac yna farcio cofrestr ar eich rhan pan fydd myfyriwr yn cwblhau tasg. • Fel arall, bydd myfyrwyr yn cyrraedd eich gwers â thocyn mynediad sy'n rhestru tri pheth y maent wedi'u dysgu, dau beth yr hoffent wybod mwy amdanynt ac un cwestiwn sydd ganddynt.Y tocynnau mynediad fydd cynllun y wers: Cânt eu rhoi mewn het a'u tynnu ar hap gan y myfyrwyr a fydd naill ai'n ateb, yn ymgynghori ag eraill cyn ateb neu'n eu rhoi i'r athro i gael cymorth. Byddwn yn cwblhau'r broses hon mewn cylch gyda'n gilydd fel dosbarth. Gall y cwestiynau fod yn rhai AA1 lle bo angen egluro'r cynnwys, neu'n rhai AA2 lle bo angen dadansoddi a gwerthuso. • Gellid defnyddio dull cymryd nodiadau drwy hollti'r dudalen ar gyfer tasgau lle bydd myfyrwyr yn cymryd nodiadau o'ch adnodd ar ochr chwith y dudalen ac, ar y dde, yn nodi cwestiynau lle maent wedi drysu neu lle mae ganddynt bwynt gwerthuso i'w wneud. Byddant yn dod â'r pwyntiau hyn i'r wers a gallant ychwanegu atynt yn ystod trafodaeth ddosbarth. Y peth pwysig yw bod cynnwys AA1 yn cael ei ddysgu y tu allan i'r ystafell, gan adael amser i chi weithio ar egluro, dadansoddi a gwerthuso yn yr ystafell. Gellir cwmpasu mwy o ddeunydd mewn gwers, nid oes angen i fyfyrwyr wrando arnom yn addysgu deunydd y gallant ei ddeall yn annibynnol, a chaiff gwersi eu gwahaniaethu yn unol â'r cwestiynau y bydd y myfyrwyr yn eu gofyn.

Mae Clare Lloyd yn athrawes Athroniaeth, Moeseg ac Astudiaethau Crefyddol sydd â 19 mlynedd o brofiad. Mae'n gyflwynydd datblygiad proffesiynol parhaus ac mae hefyd wedi treulio llawer o flynyddoedd yn arholi cymwysterau UG, Safon Uwch a TGAU. Mae Clare yn creu adnoddau i athrawon a myfyrwyr o'i busnes ar-lein, ‘Philosophy Ninja’ ac mae wedi ysgrifennu tri chanllaw adolygu ar gyfer cyfres ‘My Revision Notes’ gyda Hodder.

7


Damcaniaeth Rhinwedd (UG/Safon Uwch) Mark Lambe Datblygwyd yr hyn a elwir heddiw'n ‘Ddamcaniaeth Rhinwedd’ gan yr athronydd Groegaidd Aristotlys (384–322 BCE). Aeth Aristotlys ati i bwyso a mesur cyfres o rinweddau (neu nodweddion dynol) a fyddai'n helpu asiant moesol i fod yn aelod llwyddiannus o'i gymuned. Credai Aristotlys y byddai hyn yn arwain at hapusrwydd (‘eudaimonia’) i'r unigolyn dan sylw. Roedd yn dadlau mai eudaimonia oedd prif nod pob aelod o gymuned. Byddai Aristotlys yn astudio pobl o'i gwmpas, gan astudio aelodau o gymdeithas a oedd, yn ei dyb ef, wedi cyflawni eudaimonia (hapusrwydd yn sgil bod yn aelod llwyddiannus o gymuned) yn arbennig. O'r astudiaethau hyn, datblygodd Aristotlys yr hyn a gredai oedd y rhinweddau hanfodol a fyddai'n galluogi unigolyn i gyflawni eudaimonia. Roedd dau fath o rinwedd, rhinweddau moesol (12) a rhinweddau deallusol (9). Dim ond y rhinweddau moesol rydym yn canolbwyntio arnynt yma. Credai Aristotlys mai dim ond drwy arfer/ymarfer y gellid meithrin y 12 rhinwedd foesol hyn. Un o'r 12 rhinwedd foesol isod: Gormodedd o'r rhinwedd moesol (gwendid)

Rhinwedd Foesol

Diffyg y rhinwedd moesol (gwendid)

Ffwlbri

Ffraethineb

Ffraethineb

Mae'r rhinwedd moesol yn y golofn ganol: yn yr achos hwn, ‘ffraethineb’. Fodd bynnag, fe sylwch fod gan y rhinwedd ormodedd o'r rhinwedd (ar y chwith) a diffyg y rhinwedd (ar y dde). Dyma'r gwendidau (h.y. ffordd anghywir o geisio cyflawni'r rhinwedd moesol). Gwna Aristotlys hyn nid yn unig i ddweud wrthych beth yw'r rhinweddau moesol, ond hefyd er mwyn ceisio esbonio sut i'w cyflawni.

Gwna hyn drwy ddefnyddio'r hyn a elwir yn ‘athrawiaeth y cymedr’ neu'r ‘ffordd ganol’ ddelfrydol. Yn ôl Aristotlys, mae gan bob un ohonom y potensial i feithrin y 12 rhinwedd foesol. Gwnawn hyn drwy sicrhau ein bod yn osgoi gormodedd a diffyg y rhinwedd (y ddau wendid), fel ein bod yn cyflawni'r ‘cymedr’ neu'r pwynt hanner ffordd. Roedd Aristotlys yn dadlau mai'r ffordd o gyflawni'r

»

8


rhinweddau moesol oedd taro cydbwysedd rhwng y ddau eithaf, a bod angen ymarfer hyn nes iddo ddod yn arfer. Os gall pob un ohonom fynd ati, drwy ymarfer, i ddilyn y cymedr (y ffordd ganol) ar gyfer pob un o'r 12 rhinwedd foesol, byddai hyn yn ein helpu i gyflawni ein nod, sef cael hapusrwydd drwy fod yn aelod llwyddiannus o'n cymuned (eudaimonia). Fodd bynnag, roedd yn awyddus i bwysleisio bod angen byw mewn cymdeithas lle y câi'r rhinweddau hyn ffynnu er mwyn cyflawni hyn. Hefyd, dywedodd fod gwir gyfeillgarwch, neu gyfeillgarwch ‘perffaith’ yn gadael i'r rhinweddau ffynnu.

Edrychwn ar enghraifft rhinwedd ‘ffraethineb’. Y ffordd o gyflawni'r rhinwedd moesol hwn yw drwy osgoi'r ddau eithaf (ffwlbri a thaeogrwydd). Mae rhywun sy'n daeog yn anniddorol, ac felly ni fydd yn cyflawni eudaimonia. Yn y pegwn arall, bydd ffŵl yn mynd yn dân ar eich croen yn gyflym ac felly ni fydd hyn yn cyflawni eudaimonia chwaith. Felly, y ffordd o feithrin rhinwedd ffraethineb yw drwy ddilyn y cymedr (y ffordd ganol) rhwng y ddau eithaf, sef ffwlbri a thaeogrwydd.

Credai Aristotlys hefyd mai'r hyn sy'n sail i'r holl rinweddau moesol yw phronesis (doethineb ymarferol). Mae phronesis yn helpu pobl i benderfynu ar y ffordd orau o weithredu. Mae'n ein helpu i gydbwyso ein buddiannau â buddiannau pobl eraill. Credai Aristotlys ein bod yn meithrin phronesis wrth i ni dyfu'n hŷn a dod yn fwy ymreolaethol. Fel y dywedodd Aristotlys: “mae gan y person rhinweddol ddoethineb ymarferol, sef y gallu i wybod pryd a sut yw'r ffordd orau o roi'r rhinweddau ar waith.” Mae Mark Lambe yn arweinydd cyrsiau ac yn arholwr Astudiaethau Crefyddol profiadol iawn sydd bellach yn ysgrifennu canllawiau adolygu ar gyfer cyrsiau TGAU a Safon Uwch Astudiaethau Crefyddol ac yn ymweld â chanolfannau i roi arweiniad ar bob agwedd ar gynnwys cyrsiau, ynghyd â strwythur cwestiynau/traethodau a sesiynau adolygu i athrawon a myfyrwyr ledled Cymru a Lloegr.

» 9


Ai fel rhan o gêm iaith yw'r ffordd orau o ddeall iaith grefyddol? Briony Knibbs Mae'r Positifwyr Rhesymegol yn honni bod iaith grefyddol yn anwiriadwy ac yn anwrthbrofadwy, ac felly'n ddiystyr. Fodd bynnag, pan edrychir arni fel rhan o gêm iaith benodol, gellir ystyried ei bod yn ystyrlon i'r rhai sy'n deall rheolau'r gêm benodol honno. Er hynny, ai hwn yw'r dull gweithredu gorau? Cyflwynodd A.J. Ayer (wedi'i ddylanwadu gan David Hume) yr Egwyddor Dilysu i brofi ystyr datganiadau. Tybir bod unrhyw ddatganiad na ellir ei wirio'n ddadansoddol (gan ddefnyddio rhesymeg) neu'n synthetig (gan ddefnyddio profiad y synhwyrau) yn ddiystyr. Golyga hyn nad oes unrhyw ystyr i iaith a datganiadau crefyddol fel ‘Ein Tad, yr hyn wyt yn y nefoedd’. Cred Ayer y dylai pob math o iaith fod yn destun yr un profion trwyadl ac, am nad yw iaith grefyddol yn llwyddo yn y prawf hwn, gellid ystyried ei bod yn israddol i fathau eraill o iaith. Cytunai Antony Flew fod iaith grefyddol yn ddiystyr am na all unrhyw beth byth wrthbrofi datganiad. Teimla fod credinwyr yn parhau i gredu mewn cysyniadau fel Duw neu'r bywyd tragwyddol, er gwaethaf tystiolaeth gynyddol i'r gwrthwyneb (gweddïau heb eu hateb neu bobl yn dioddef, efallai) ac felly na fyddant yn caniatáu i unrhyw beth wrthbrofi eu cred. Felly, mae eu datganiadau'n anwrthbrofadwy ac yn gwbl wahanol i ddatganiadau ystyrlon, gwyddonol a rhaid ystyried eu bod yn ddiystyr. A yw'r safbwynt hwn ynghylch iaith grefyddol yn un teg? Cyflwynir trydydd opsiwn gan Ludwig Wittgenstein. Roedd Wittgenstein yn dadlau bod unrhyw iaith a ddefnyddir fel rhan o gêm iaith yn ystyrlon i'r rhan sy'n cymryd rhan yn y gêm honno. Os nad wyf yn deall rheolau rygbi nac yn gwybod beth yw cais neu drosiad, nid yw hynny'n golygu bod y termau hyn yn ddiystyr, am fod pobl sy'n defnyddio ac yn deall y termau hyn mewn ffordd ystyrlon. Drwy gymhwyso'r rhesymeg hon at grefydd, gwelwn y gall credinwyr sy'n cymryd rhan mewn gêm iaith ddefnyddio a deall iaith crefydd yn llwyddiannus. Felly, mae'n annheg i rywun o'r tu allan fel Ayer ei galw'n ddiystyr. Mae ymadrodd fel ‘mae Iesu yn arbed’ yn ystyrlon i Gristnogion ac mae'r gair ‘arbed’ yn golygu rhywbeth 10


cwbl wahanol i'r ystyr pan gaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destunau eraill, fel ‘mae'r gôl-geidwad yn arbed’. Mae'r ail ymadrodd yn ystyrlon i gefnogwr pêl-droed a gall fod yn gwbl ddiystyr i rywun nad yw'n gwybod beth yw gôl-geidwad. Yn yr un modd, mae'n bosibl na fydd ‘mae Iesu yn arbed’ yn gwneud unrhyw synnwyr i Sikh nad yw'n gyfarwydd â chredoau canolog Cristnogaeth, ond lle'r bobl sy'n perthyn i bob traddodiad yw penderfynu beth sy'n ystyrlon a beth sy'n ddiystyr. Roedd Wittgenstein yn galw pob traddodiad neu grŵp yn ‘ffurf ar fywyd’, felly byddai Cristnogaeth, Sikhiaeth a phêl-droed neu rygbi i gyd yn enghreifftiau o wahanol ‘ffurfiau ar fywyd’ y gall rhywun fod yn rhan ohonynt. Nodir geiriau enwog Wittgenstein – pan ofynnwyd iddo beth oedd ystyr gair – ‘Don’t ask for the meaning, ask for the use’1, sy'n dangos mai dim ond y rhai sy'n deall diben term a'r ffordd y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio sy'n gallu barnu ystyr. Pwysleisiodd hyn yn ei ysgrifennu, gan nodi, ‘The meaning of a word is its use in the language.’2 Mae Wittgenstein yn trin iaith grefyddol fel iaith anwybyddol. Mae'n deall bod iaith yn gwneud mwy na dim ond mynegi pethau y gellir barnu eu bod yn ‘wir’ neu'n ‘anwir’. Nid yw'r ffaith na ellir gwirio na gwrthbrofi ‘mae Iesu yn arbed’ yn bwysig i gredinwyr; mae llawer o ystyr i'r datganiad ac mae'n gwneud mwy na datgan ffaith. Gall fynegi emosiwn neu annog ymroddiad. Dyweda Wittgenstein, ‘Religious people … don’t refer to a verification, but have entirely different ideas.’3 Mae Wittgenstein hefyd yn arddel safbwynt gwrth-realaidd ac yn peidio â disgwyl i ddatganiadau crefyddol berthyn i realiti gwrthrychol yn y byd allanol. Mae'r cysyniad mai'r Iesu yw ein gwaredwr yn gwbl wir i gredinwyr crefyddol, a dyna'r cyfan sy'n bwysig. Mae'n cyd-fynd â'u golwg dderbyniedig ar y byd. Dyweda, ‘A religious belief could only be something like a passionate commitment to a system of reference. Hence, although it’s belief, it’s really a way of living, or a way of assessing life’.4 Felly, mae'r safbwynt hwn yn fanteisiol oherwydd gall helpu i atal pobl o'r tu allan rhag galw iaith grefyddol yn ddisynnwyr. Byddai'n hawdd i Anffyddwyr Newydd fel Richard Dawkins honni na ddylid cymryd crefydd o ddifrif mwyach am fod ei honiadau'n rwtsh diystyr (gan ddefnyddio ymagwedd Positifydd Rhesymegol). Fodd bynnag, mae safbwynt Wittgenstein yn tynnu sylw at y ffaith nad yw iaith crefydd yn fwy diystyr nag iaith Anffyddiaeth, pan ystyrir y ddwy fel rhan o'r naill ffurf berthnasol ar fywyd a'r llall. Felly, nid dadlau o blaid triniaeth arbennig i grefydd a wna Wittgenstein ond, yn syml, dadlau o blaid ystyried pob math o iaith yn yr un ffordd a dadlau na ddylai iaith gael ei diystyru gan bobl nad ydynt yn ei deall. Bydd safbwyntiau eraill weithiau'n dadlau y dylid deall iaith grefyddol mewn ffordd wahanol i fathau eraill o iaith, er enghraifft, fel myth, symbol neu gyfatebiaeth. Er bod gwerth i'r safbwyntiau hyn ac y gellir dweud eu bod yn datrys problemau iaith grefyddol, maent yn dadlau y dylid trin iaith grefyddol yn wahanol i fathau eraill o iaith, a gall hyn gythruddo Anffyddwyr Newydd neu Ddyneiddwyr am nad ydynt yn gweld pam mae crefydd yn haeddu osgoi beirniadaeth. Nid yw hyn yn rhywbeth y mae Wittgenstein na'i gefnogwyr yn dadlau o'i blaid a gellir ystyried bod hyn yn un o fanteision ei weld fel rhan o gêm iaith. Yn olaf, un pwynt diddorol i'w nodi wrth drafod y safbwynt hwn yw na wnaeth Wittgenstein erioed ddefnyddio'r term ‘ffurf ar fywyd’ wrth gyfeirio at grefydd.5 Mewn gwirionedd, ysgolheigion diweddarach a hyrwyddodd y defnydd hwn o syniadau Wittgenstein, er enghraifft Norman Malcolm a ddywedodd, ‘Religion is a form of life; it is language embedded in action – what Wittgenstein calls a “language 1 Clack, Brian An Introduction to Wittgenstein’s Philosophy of Religion (Caeredin: Edinburgh University Press, 1999) t16 2 Wittgenstein, Ludwig Philosophical Investigations wedi'i ddyfynnu yn Clack t16 3 Wittgenstein Lectures and Conversations on Aesthetics, Psychology & Religious Belief (golygwyd gan Cyril Barrett, Rhydychen, Blackwell, 1970) t70 4 Wittgenstein Culture and Value (golygwyd gan G.H. Von Wright, cyfieithwyd i'r Saesneg gan Peter Winch, Rhydychen, Blackwell, 1980) t64 5 Yn ôl Clack An Introduction to Wittgenstein’s Philosophy of Religion t87 11


game.”’6 Fodd bynnag, cewch chi benderfynu p'un a ydych yn cytuno â nhw o ran p'un ai hon yw'r ffordd orau o fynd i'r afael â natur broblemus iaith grefyddol. Briony Knibbs yw Arweinydd y Cwricwlwm ar gyfer Safon Uwch Astudiaethau Crefyddol yng Ngholeg Gŵyr, Abertawe. Mae hefyd yn arholwr profiadol ac mae wrthi'n cwblhau MA mewn Crefydd ac Athroniaeth: Syniadau Dwyreiniol a Gorllewinol

Diffiniadau defnyddiol o dermau allweddol:

Terminoleg ddefnyddiol Datganiad dadansoddol – rhywbeth sy'n wir drwy ddiffiniad am fod y priodoliad wedi'i gynnwys yn y goddrych. Gwrth-realaidd – safbwynt athronyddol bod rhywbeth yn wir os yw'n cyd-fynd â safbwyntiau'r gymuned. Egwyddor Gwrthbrofi – dyfais Flew ar gyfer asesu ystyr drwy ganfod p'un a oes unrhyw resymau a fyddai'n gwneud datganiad yn anwir. Ffurf ar fywyd - y gweithgarwch y mae iaith yn perthyn iddo ac yn benodol iddo. Dyneiddiwr – rhywun sy'n ymddiried yn y dull gwyddonol fel y ffordd orau o ddeall y bydysawd. Gêm iaith – y syniad mai dim ond os deellir rheolau cyd-destun penodol iaith y gellir deall ystyr yr iaith honno (Wittgenstein). Positifiaeth Resymegol – y safbwynt a briodolir i Gylch Fienna mai'r dull gwyddonol yw'r ffordd orau o ganfod ystyr iaith, a boblogeiddiwyd hefyd gan A.J. Ayer. Anffyddiwr Newydd – aelod o'r mudiad o ddechrau'r 21ain ganrif sy'n gweld crefydd fel bygythiad i oroesiad dynol ryw. Anwybyddol – y safbwynt nad yw iaith yn cyfleu cynigion y gellir canfod eu bod yn ‘wir’ neu'n ‘anwir’. Datganiad synthetig – rhywbeth y mae'n rhaid cadarnhau ei fod yn wir gan ddefnyddio'r synhwyrau am nad yw'r priodoliad wedi'i gynnwys yn y goddrych. Egwyddor dilysu – dyfais Ayer ar gyfer asesu ystyr drwy ystyried p'un a ellir dilysu datganiad yn ddadansoddol neu'n synthetig.

6 Malcolm, Norman ‘The Groundlessness of Belief ’ yn 1972 wedi'i ddyfynnu yn Clack An Introduction to Wittgenstein’s Philosophy of Religion t87 12


Hwyaden. Bwled. Milfeddyg. – Ymatebion Da ar gyfer AA2 Gregory A. Barker Helpwch y myfyrwyr i ‘weld’ yr hyn y gallant ei gyflawni yn y cwestiynau Safon Uwch rhan (b) – meddai Greg Barker. Un tro, roedd hwyaden yn hedfan yn llon drwy'r awyr. Roedd hi'n meindio ei busnes ei hun, yn hedfan ar lwybr, uchder a chyflymder a oedd yn gyfforddus ac yn rhagweladwy. Yna, digwyddodd rhywbeth ofnadwy! Roedd heliwr yn aros yn amyneddgar yn y gors islaw. Pan aeth ein hwyaden drosodd, cododd yr heliwr ei wn a saethodd ati! Tarwyd ein hwyaden gan y fwled, a phlymiodd i'r ddaear. Nid dyma ddiwedd ein stori. Drwy lwc, roedd milfeddyg mewn cae cyfagos. Fel y digwyddai fod, roedd y milfeddyg yn ymgyrchydd gwrth-hela. Clywodd hi'r ergyd a rhedodd draw. Cyn i gi'r heliwr gyrraedd yr hwyaden, cododd y milfeddyg yr hwyaden – yr oedd ei chalon yn dal i guro – a rhuthrodd â hi yn ôl i'w milfeddygfa. Rhoddodd fenig llawfeddygol am ei dwylo yn gyflym, a dechreuodd ar ei gwaith. Ac ar y nodyn hwn, daw ein stori i ben yn sydyn! Beth ddigwyddodd i'r hwyaden, meddech chi? A lwyddodd y milfeddyg i achub yr hwyaden – neu a fu'r hwyaden farw? Y cyfan y gallaf ddweud wrthych yw bod y milfeddyg yn fedrus iawn a'i bod wedi defnyddio ei holl allu i geisio dadebru'r hwyaden. (Hoffwn ddiolch i Kate Blackie yn Ysgol Bablake am rannu'r stori hon – a'r syniad – â fi!)

13


Delweddu Ymateb AA2 Mae athrawon yn defnyddio fframiau ysgrifennu gwych gyda'u myfyrwyr ar gyfer ymatebion i gwestiynau AA2. Yn aml, daw'r rhain ar ffurf acronymau fel PEEL (Point, Explain, Evaluate and Link back to the question) neu fy hoff un newydd: ABCD (Answer it, Back it up, Challenge it and Decide). Y syniad yw y bydd ymateb rhagorol yn archwilio sawl mater, nid dim ond un, ar gyfer un cwestiwn yn y ffordd hon. Mae'r fframiau hyn yn annog myfyrwyr i wneud mwy na disgrifio yn unig. Mae'n eu hannog i wneud gwaith gwerthuso, sy'n golygu pwyso a mesur cryfderau a gwendidau'r pwyntiau a'r dadleuon a gyflwynir. Wrth gwrs, nid oes angen ‘ffrâm’ o'r fath ar lawer o fyfyrwyr – byddant yn deall yr her sy'n gysylltiedig â gwerthuso yn reddfol ac yn barod amdani! Fodd bynnag, dysgwyr gweledol yw llawer ohonom yn y bôn. Dywedir bod llun yn gallu adrodd cyfrolau am fod delweddau yn ein helpu i gofio pwyntiau a'u dwyn i gof yn effeithiol ac yn effeithlon. Felly, ystyriwch adrodd y stori hon er mwyn helpu eich myfyrwyr i ddelweddu'r dasg werthuso: 1. Mae yna hwyaden! Dyma un o'ch pwyntiau, materion neu ddadleuon rydych yn eu datblygu mewn ymateb i gwestiwn gwerthuso. Pa fath o hwyaden yw hon? I ble mae hi'n mynd? Pa mor uchel y mae hi'n hedfan? Yr ateb i'r cwestiynau hyn yw eu bod yn ddisgrifiadol – mae angen i ni ddangos ein bod yn deall y pwyntiau rydym yn eu gwneud, gan wybod eu cyd-destun a'u cefndir. Gadewch i ni dybio bod cwestiwn yn gofyn i'r myfyriwr werthuso safbwyntiau bod iaith symbolaidd yn fath ystyrlon o gyfathrebu. Byddai paragraff cyntaf ymateb yn cyflwyno hwyaden sy'n hedfan yn llon drwy'r awyr: safbwynt Tillich na all ffurfiau gwyddonol ar iaith fynegi'r rhan fwyaf o'r hyn a brofwn mewn bywyd, efallai. Disgrifir yr ‘hwyaden’ hon gan aralleirio athrawiaeth Tillich, neu ddyfyniad efallai. Gellid rhoi enghraifft o symbol sy'n mynegi'r ‘pryder eithaf’. O hyn i gyd, gwyddom fod y myfyriwr wir yn deall cryn dipyn am yr hwyaden hon.

2. Mae yna fwled! O na! Mae rhywun yn saethu at yr hwyaden! Mae hyn yn her i'r pwynt sydd newydd gael ei wneud. Ymosodiad ar yr hwyaden yw'r her dan sylw. Beth yw calibr y fwled hon? O ba fetel y mae wedi'i gwneud? Beth yw ei thaflwybr? Bydd y myfyrwyr yn dangos eu bod hyddysg yng nghefndir yr her honno. Mae'r her hon yn effeithiol am ei bod yn ‘gwrthdaro’ yn uniongyrchol â'n pwynt, yn union fel mae'r fwled wedi taro'r hwyaden. Nawr mae'r hwyaden yn plymio i'r ddaear! Yn ôl at ein henghraifft mewn perthynas â Tillich. Mae pwynt Tillich, fel yr hwyaden, wedi bod yn hedfan yn llon drwy'r awyr: oherwydd cred Tillich mai dim ond symbolau a all gyfleu ein pryderon dyfnaf yn effeithiol. Fodd bynnag, mae A. J. Ayer yn cuddio yn y gors! Mae Ayer yn codi ei wn ac yn saethu – ei fwled yw ei haeriad mai datganiadau dadansoddol a synthetig yw'r unig fathau ystyrlon o iaith – ac mae'n taro'r hwyaden! Y cyfan mae Tillich wedi'i wneud yw defnyddio iaith amwys ac amhenodol i ddatblygu pwyntiau na ellir eu hasesu'n iawn! Nawr mae'r hwyaden yn plymio i'r ddaear!

3. Mae'r milfeddyg yn dechrau ar ei gwaith! Mae popeth hyd yma wedi bod ar lefel ddisgrifiadol – mae'r myfyrwyr wedi dangos ymwybyddiaeth o bwyntiau â ffocws pendant y gellir eu cysylltu â'r cwestiwn ac maent wedi llwyddo i ddisgrifio dadleuon. Fodd bynnag, nawr mae angen gwneud y gwaith gwerthuso er mwyn canfod canlyniad ein stori. A yw'r milfeddyg yn gallu dadebru'r hwyaden? A lwyddodd yr her i ‘ladd’ ein pwynt? Neu a yw'r pwynt yn goroesi? Gall diweddglo dramatig y stori fod yn wahanol ym MHOB UN paragraff o ymateb AA2. Golyga hyn y bydd y myfyriwr yn dod i'w ‘gasgliad bach’ ei hun ynglŷn â ‘goroesiad’ pob un o'r pwyntiau y mae wedi'u gwneud. Yn ôl at ein drama: Mae Tillich bellach yn gwaedu ac yn y filfeddygfa. A ellir dadebru ei bwynt ar ôl iddo wrthdaro â bwled Ayer? Efallai y bydd safbwynt Tillich ynghylch hollbresenoldeb symbolau dynol 14


neu'r ffaith na all cynnydd y gwyddorau empirig, hyd yn oed, atal chwilio dirfodol, yn ddigon i ddadebru'r hwyaden? Efallai na fydd yn ddigon? Dim ond y myfyriwr a ŵyr...

Gwraidd y Dasg Werthuso Mae delweddu Hwyaden. Bwled. Milfeddyg. yn arwain at rinweddau y mae arholwyr yn chwilio amdanynt mewn ymateb gwerthusol effeithiol. Mae llawer o fyfyrwyr yn gallu gwneud pwyntiau perthnasol a disgrifio heriau. Er bod y galluoedd hynny'n berthnasol i ymateb i gwestiwn gwerthuso, gallant ond fynd â'r myfyriwr ar hyd rhan o'r daith. Y ddrama ynghylch p'un a all y pwynt gael ei ‘achub’ neu ei ‘ddadebru’ ar ôl wynebu'r her sy'n pennu p'un a yw'r myfyriwr wedi rhoi galluoedd gwerthuso ar waith ai peidio. Dyma ffordd arall o ddweud hyn: a yw'r myfyriwr wedi cyfleu pa un yw'r cryfaf – yr hwyaden neu'r fwled? Y pwynt neu'r her? A yw wedi pwyso a mesur pethau, gan ddod i gasgliad bach? Nid yw ymateb gwerthusol cadarn yn gadael yr holl ddrama tan ddiwedd yr ymateb! Mae ymateb cadarn yn cyflwyno ychydig o hwyaid gwahanol, sydd i gyd yn hedfan yn llon drwy'r awyr ac yn cael eu taro gan fwled wahanol! Mae sawl milfeddyg wrth eu gwaith, gyda rhai ohonynt yn llwyddo a rhai'n methu. Rhaid cyfaddef bod y trosiad hwn braidd yn dreisgar! Fodd bynnag, ni ddywedodd unrhyw un mai menter heddychlon yw archwilio academaidd. Mae Gregory A. Barker yn Gymrawd ym Mhrifysgol Caer-wynt ac mae'n arwain digwyddiadau adolygu a sesiynau DPP mewn ysgolion a cholegau ledled y Deyrnas Unedig.

15


Adnoddau Digidol diweddar ar gyfer Lefel A AC

Uned 3 Hindŵaeth - Cynllun Dysgu https://bit.ly/2wh6cKp

Uned 6 Astudiaethau Testunol https://bit.ly/2IRLAOl

Uned 4, Themau 1, 2 a 3: Crefydd a Moeseg https://bit.ly/2yeonC2

Uned 3b Islam - Adnoddau AA2 cefnogol https://bit.ly/2pOA5i7

Uned 3 Sikhiaeth - adnoddau AA2 cefnogol

Uned 3b Islam - rhestr adnoddau Uned 5 Athroniaeth Crefydd AA1 pellach rhestr adnoddau AA1 pellach

https://bit.ly/2OW9Owt

https://bit.ly/2QJrDfB

https://bit.ly/2Oi3iAC

Unedau 1B & 3B Islam Cynlluniau Dysgu

Uned 5 Athroniaeth Crefydd adnoddau AA2 cefnogol

Uned 3 Bwdhaeth - Cynllun Dysgu

https://bit.ly/2QJqMLV

https://bit.ly/2RKMNeE

https://bit.ly/2NBNwvl

Uned 3 Iddewiaeth - adnoddau AA1 cefnogol

Uned 3 Hindŵaeth - adnoddau AA2 cefnogol

Unedau 1 & 3 Iddewiaeth Cynlluniau Gwaith

https://bit.ly/2OSYzoI

https://bit.ly/2Ef82CD

https://bit.ly/2HrQJMB

» 16


Uned 3 Bwdhaeth - adnoddau AA2 cefnogol https://bit.ly/2yaG3P1

Uned 3 Bwdhaeth - rhestr adnoddau AA1 pellach https://bit.ly/2Pu1e5d

Cefnogaeth bellach ar gyfer AG lefel A Uned 4 Crefydd a Moeseg https://bit.ly/2A6qKYT

Uned 3 Iddewiaeth - rhestr adnoddau AA1 pellach https://bit.ly/2Cbv3DM

Cylchgrawn REconnect Rhifyn 2 https://bit.ly/2YH2XIm

Uned 3C Iddewiaeth

Islam lefel A

Cefnogaeth AA1 & AA2 Cristnogaeth https://bit.ly/2yBTjLI

https://bit.ly/2C8pbYo

https://bit.ly/2Co8JXJ

Mae'n bosib bydd anoddau AC yn cael eu ychwanegu yn y dyfodol, felly ewch i: http://resources.wjec.co.uk/Pages/SearchResources.aspx

17


Dyddiadau Pwysig Arholiadau – TAG Cymru Papur

Dyddiad yr Arholiad

Dyddiad Cynhadledd yr Arholwyr

Uned 1 - Cyflwyniad i Astudio Crefydd (Opsiynau A, B, D)

Iau 16eg Mai

Dydd Sadwrn 25 Mai – CBAC, Swyddfa Treforest

Uned 1 - Cyflwyniad i Astudio Crefydd (Opsiynau B, C, E)

Iau 16eg Mai

Dydd Mercher 29 Mai – Village Hotel, Caerdydd

Uned 2 - Cyflwyniad i Grefydd a Moeseg ac Athroniaeth Crefydd

Iau 23ain Mai

Sadwrn 1af Mehefin – CBAC, 245 Rhoddfa'r Gorllwein, Caerdydd

Uned 3 - Astudio Crefydd (Opsiynau A i F)

Mawrth 4ydd Mehefin

Mawrth 11eg Mehefin – Holiday Inn, Gogledd Caerdydd

Uned 4 - Crefydd a Moeseg

Mawrth 11eg Mehefin

Mawrth 18fed Mehefin – CBAC, 245, Rhoddfa'r Gorllwein, Caerdydd

Uned 5 - Athroniaeth Crefydd

Llun 17eg Mehefin

Llun 24ain Mehefin – CBAC, 245, Rhoddfa'r Gorllwein, Caerdydd

Uned 6 - Astudiaethau Testunol (Y Testament Newydd)

Mawrth 4ydd Mehefin

Dim cynhadledd

18


Dolenni defnyddiol eraill - TAG Ail-lansio Map Google TAU Astudiaethau Crefyddol CBAC Yn sgil y rheoliadau GDPR newydd, bu'n rhaid cael gwared ar ein map blaenorol a oedd yn llwyddiannus iawn. Llenwch yr holiadur yma os byddai gennych ddiddordeb mewn creu map newydd a fydd yn eich galluogi i gysylltu â chanolfannau eraill i rannu syniadau ac adnoddau addysgu a dysgu. https://bit.ly/2P89nfh

» 19


TGAU Tudalennau 21 - 37

Hindŵaeth: Project Cysegr....................................................................................................21 Astudiaethau Crefyddol mewn Ffilmiau...........................................................................23 Torri i mewn i'r Cwestiwn: Mynd i'r afael â'r Cwestiynau .....................................25 Defnyddio Ffynonellau o Ddoethineb ac Awdurdod yn Effeithiol........................28 Arolwg Bach o Berfformiad mewn Arholiadau TGAU yn Lloegr yn 2018........29 O Theori i Ymarfer: Defnyddio Dysgu Uniongyrchol yn yr Ystafell Ddosbarth........ 37

20


TGAU Hindŵaeth: Project Cysegr

Luke Hart, Pennaeth Astudiaethau Crefyddol Ysgol Uwchradd Crucywel. Cwblhaodd myfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Crucywel broject er mwyn eu helpu i ddeall addoliad Hindŵaidd yn y cartref fel rhan o'r astudiaeth systematig o Hindŵaeth ar lefel TGAU. Cyn dechrau'r project, dysgodd y myfyrwyr am nodweddion hanfodol addoliad Hindŵaidd yn y cartref drwy fideos ac ysgogiadau gweledol. Wedyn, cafodd y myfyrwyr eu rhannu'n grwpiau a chawsant ddefnyddio nifer o adnoddau i greu eu cysegrau Hindŵaidd eu hunain. Pan oedd y cysegrau wedi'u cwblhau, aeth y myfyrwyr i weld y modelau a grëwyd gan grwpiau eraill a labelu'r gwahanol nodweddion y gallent eu hadnabod ar nodiadau gludiog. Yma gallai'r myfyrwyr gymhwyso'r hyn roeddent eisoes wedi'i ddysgu am addoliad Hindŵaidd yng nghysegr y cartref. Wedi hynny, aeth y myfyrwyr ati i asesu modelau ei gilydd, gan wneud sylwadau ar gywirdeb ac awgrymu meysydd ar gyfer gwella. Nod y project hwn oedd i'r myfyrwyr ymgysylltu â chynnwys yr astudiaeth systematig o Hindŵaeth a chymhwyso eu gwybodaeth mewn lleoliad ymarferol. Llwyddodd hyn i herio ac ennyn diddordeb dysgwyr ar bob lefel o allu, yn enwedig y dysgwyr mwy cinesthetig. O ganlyniad i hynny, gwelwyd gwelliant mawr yn nealltwriaeth y myfyrwyr o addoliad Hindŵaidd yn y cartref drwy'r gweithgaredd hwn. Dywedodd un myfyriwr o Flwyddyn 10: “Rydw i wedi meithrin dealltwriaeth dda o puja Hindŵaidd. Roedd y wers hon yn llawn hwyl ac fe helpodd fi i ddeall sut beth yw hambwrdd puja Hindŵaidd a sut mae addoli'n digwydd yng nghysegr y cartref. Fe wnes i fwynhau hyn ac fe hoffwn i ei wneud eto”.

» 21


Myfyrwyr Bl10 yn brysur wrth eu gwaith!

Enghraifft o fodel o gysegr wedi'i gwblhau, gyda labeli'r myfyrwyr

Enghraifft arall o gysegr wedi'i gwblhau.

Enghraifft o gysegr wedi'i gwblhau.

Rhai o fyfyrwyr Blwyddyn 10 gyda'u modelau

22


Astudiaethau Crefyddol mewn Ffilmiau Damien Lane Rwyf wedi defnyddio ffilmiau fel adnodd addysgu erioed. Os gallwch ddewis y ffilm gywir, mae'n ffordd ddelfrydol o ennyn diddordeb y disgyblion, ac os gallwch ennyn eu diddordeb bydd dros hanner y frwydr wedi'i hennill! Wrth addysgu'r cwrs Astudiaethau Crefyddol newydd yn ddiweddar, defnyddiais y ffilm o 2014 Selma. Ffilm ydyw am brotestiadau'r Mudiad Hawliau Sifil yn Selma, Alabama, yn 1965. Cafodd ei chyfarwyddo gan Americanes Affricanaidd o'r enw Ava DuVernay, ac mae'n adrodd yr hanes yn dda ac yn dangos pa mor glyfar oedd y trefnwyr. Yn yr achos hwn, dewiswyd dinas lle'r oedd pennaeth yr heddlu, Jim Clark, yn enwog am fod yn barod i ddefnyddio trais yn erbyn protestwyr heddychlon. Cadwch olwg am yr olygfa lle mae'r fenyw wen, sy'n gwylio ar ei theledu gartref, yn gwingo am fod y trais yn erbyn y protestwyr yn codi cymaint o arswyd arni. CYNNWYS Y FANYLEB: HAWLIAU DYNOL/CYFIAWNDER CYMDEITHASOL/RHAGFARN A GWAHANIAETHU/GWRTHDARO RHWNG ARGYHOEDDIAD PERSONOL A'R GYFRAITH Ategwyd y ffilm gan y ffaith bod Barack Obama wedi mynd yno i siarad ar adeg hanner canmlwyddiant y protestiadau. Safodd o flaen pont Edmund Pettus a siaradodd am yr hanner can mlynedd a oedd wedi mynd heibio ers y digwyddiadau a welir yn y ffilm. Mae digonedd o glipiau ar gael ar-lein. Un ffilm ddiweddar iawn a allai fod yn ddiddorol i fyfyrwyr hŷn yw Tehran Taboo (2017) sy'n adrodd hanes ymgais enbyd i ganfod rhyddid a hapusrwydd pan gaiff pedwar person ifanc o Tehran, Iran, eu gorfodi i chwalu tabŵau cymdeithas gyfyngol Islamaidd. (cyfieithiad o ddisgrifiad IMDB) CYNNWYS Y FANYLEB: HAWLIAU DYNOL/CYFIAWNDER CYMDEITHASOL/GWRTHDARO RHWNG ARGYHOEDDIAD PERSONOL A'R GYFRAITH Mae cwrs Astudiaethau Ffilmiau CBAC yn cynnig rhestr ddiddorol o ffilmiau sydd ag amrywiaeth o adnoddau i'w hategu. Mae gan Rabbit-Proof Fence (2002) stori rymus sy'n seiliedig ar

» 23


ddigwyddiadau go iawn. Kenneth Branagh sy'n chwarae'r brif ran, ac mae'r ffilm yn adrodd hanes tair merch ‘half-caste’ a gaiff eu cipio oddi wrth eu teuluoedd yng Ngorllewin Awstralia yn 1931, a'r ffordd yr ânt ati i ddianc o'r anheddiad yr eir â nhw iddo er mwyn ceisio ailymuno â'u teuluoedd. CYNNWYS Y FANYLEB: HAWLIAU DYNOL/CYFIAWNDER CYMDEITHASOL/RHAGFARN A GWAHANIAETHU Ymhlith y ffilmiau eraill o'r cwrs a allai fod o ddiddordeb i athrawon Astudiaethau Crefyddol mae:

The Wave (2008) sy'n sôn am arbrawf ar fyw o dan unbennaeth CYNNWYS Y FANYLEB: GWRTHDARO RHWNG ARGYHOEDDIAD PERSONOL A'R GYFRAITH

District 9 (2009) sef golwg ddychanol ar apartheid yn Ne Affrica drwy lens estroniaid sydd wedi cael eu harwahanu yn Johannesburg. Mae'n seiliedig ar y District Six go iawn: http://districtsix.co.za CYNNWYS Y FANYLEB: HAWLIAU DYNOL/CYFIAWNDER CYMDEITHASOL/RHAGFARN A GWAHANIAETHU

Mae Wadjda (2012) yn adrodd hanes merch ifanc o Saudi Arabia sydd am gynilo i brynu beic CYNNWYS Y FANYLEB: HAWLIAU DYNOL/CYFIAWNDER CYMDEITHASOL/GWRTHDARO RHWNG ARGYHOEDDIAD PERSONOL A'R GYFRAITH Wrth gwrs, nid yw'r syniad o ddefnyddio ffilmiau yn beth newydd. Efallai y bydd rhai pobl yn gwrthwynebu gan ddweud nad oes ganddynt amser i wneud hyn a bod y pwyslais ar asesu'n golygu nad yw'n ddefnydd ymarferol o amser gwerthfawr. Yn syml, fy ateb i hyn yw fy mod, yn bendant, wedi dysgu o brofiad bod myfyrwyr sydd â diddordeb yn yr hyn y maent yn ei ddysgu yn fwy tebygol o lawer o wneud yn dda yn eu harholiadau a bod dyletswydd arnom fel athrawon i feddwl y tu hwnt i osod cwestiynau yn unig. Beth bynnag, nid yw'r syniad o ddysgu sy'n ennyn diddordeb a gwneud yn dda mewn bywyd ac arholiadau yn annibynnol ar ei gilydd.

Ar hyn o bryd, mae Damien yn athro Astudiaethau Ffilmiau. Mae wedi bod yn athro Astudiaethau Crefyddol am ugain mlynedd yn ogystal â Pennaeth Astudiaethau Crefyddol. Mae hefyd wedi bod yn Brif Arholwr ar gyfer cwrs TGAU Y Dyniaethau CBAC yn ogystal ag arholwr a chymedrolwr gwaith cwrs ar gyfer TGAU Astudiaethau Crefyddol. Ef yw un o gydawduron gwerslyfr cwrs y Dyniaethau ac mae wedi bod yn swyddog pwnc i gorff dyfarnu byd-eang.

24


Torri i Mewn i'r Cwestiwn Gregory A. Barker Mae testun hynafol yn cyfeirio myfyrwyr at ymatebion rhagorol ar gyfer y cwestiwn 15 marc TGAU – meddai Greg Barker Ydych chi wedi gweld yr adnod anadnabyddus yn Heseceia sy'n dweud, ‘Na foed i ti ymddiried mewn ffrâm ysgrifennu i arbed dy hun, oherwydd gall y sawl a wna hynny roi ei ymateb i gwestiwn (d) mewn perygl mawr.’? (Hes. 38:17a, Beibl Safonol Newydd Diwygiedig, argraffiad Canadaidd) Mae athrawon ledled y wlad yn defnyddio llawer o fframiau ysgrifennu rhagorol er mwyn helpu eu myfyrwyr i ateb cwestiwn 15 marc rhan (d). Bydd y fframiau hyn yn effeithiol pan fyddant yn atgoffa myfyrwyr o'r angen i symud y tu hwnt i ddisgrifio a/neu esbonio safbwyntiau yn unig, a'u gwerthuso. Cyhyd â'u bod yn adlewyrchu'r hyn sy'n ofynnol yng nghynllun marcio'r Bwrdd, gallant fod yn ffordd ddilys o ddringo'r ‘mynydd’ 15 marc. Mae fframiau ysgrifennu'n cynnig ‘cynhwysydd’ ar gyfer syniadau'r myfyriwr - mae awdur y darn hwn yn Heseceia yn tybio y cânt eu defnyddio. Fodd bynnag, mae'r darn hwn yn herio myfyrwyr i beidio â mynd yn ddiog pan fydd ffrâm ganddynt. Y cam nesaf yn y broses yw meithrin sgiliau gwerthuso fel bod modd llunio ateb gwych i unrhyw gwestiwn 15 marc. Meithrin Sgiliau Gwerthuso Un ymarfer sgiliau y gellir ei ddefnyddio yw ‘torri i mewn i gwestiwn’. Strategaeth pedair rhan yw hon, a gellir ei defnyddio drwy gydol y flwyddyn yn ogystal â mewn sesiynau arbennig sy'n anelu at ragoriaeth mewn arholiadau. Bwriad yr ymarfer yw helpu myfyrwyr i bwyllo, canolbwyntio ar y cwestiwn, a dod o hyd i ffyrdd perthnasol o ymateb.

»

Ar ddechrau'r ymarfer hwn, rhowch restr o gwestiynau (d) posibl i'r myfyrwyr. Wedyn gofynnwch iddynt wneud y canlynol: 25


1. Cylchu gair/geiriau allweddol ym mhob cwestiwn. Mae'r ddau gam cyntaf yn y broses hon yn canolbwyntio ar ddiffinio geiriau allweddol. Wrth gwrs, nid oes yn rhaid i fyfyrwyr ddiffinio'r gair yn yr ymateb arholiad i gwestiwn (d); gallant dybio bod yr Arholwr yn gyfarwydd â'r gair. Ond eto, faint o fyfyrwyr sy'n ei chael hi'n anodd ateb y cwestiynau hyn am nad ydynt yn gwybod y derminoleg? Mae gweithio ar sgiliau diffinio yn rhan allweddol o baratoi ar gyfer arholiad. Felly, yn syml, bydd y myfyrwyr yn cylchu gair mewn cwestiwn ymarfer lle y byddai angen bod â diffiniad cadarn mewn golwg i roi ateb. Er enghraifft, yn y cwestiwn damcaniaethol, ‘Mewn gwirionedd, dydy lle mae rhywun yn addoli ddim yn bwysig’, y gair i'w gylchu fyddai ‘addoli’ – oherwydd byddai'n annirnadwy ystyried ateb y cwestiwn hwn heb wybod y term hwn. 2. Diffinio'r gair allweddol. Nawr, gofynnwch i'r myfyrwyr ysgrifennu diffiniad o'r gair y maent newydd ei gylchu – heb edrych ar eu nodiadau nac mewn gwerslyfr. Mae hyn yn atgyfnerthu'r ffaith bod angen (i) gwybod iaith arbenigol a (ii) cynnal ffocws mewn ymateb. Yn ein henghraifft, gobeithio y bydd y myfyrwyr yn ysgrifennu rhywbeth fel, ‘mynegiant o barch neu ganmoliaeth i Dduw’. Bydd unrhyw anhawster ar y cam hwn yn beth cadarnhaol oherwydd gall annog y myfyrwyr i weithio'n galetach ar eu termau allweddol. Unwaith eto, nid oes angen iddynt ddiffinio'r gair mewn ymateb i gwestiwn arholiad go iawn – ond mae'n hollbwysig diffinio geiriau wrth baratoi ar gyfer yr arholiad. 3. Penderfynu ble i dorri i mewn. Mae cwestiynau gwerthuso mor ddiddorol oherwydd gellir dadlau yn eu cylch! Gofynnwch i'r myfyrwyr osod saeth o dan y gair neu'r cymal gorau i ‘dorri i mewn iddo’ am ei fod yn unochrog neu'n cynnwys barn neu ormodiaith. Yn y cwestiwn, ‘Mewn gwirionedd, dydy lle mae rhywun yn addoli ddim yn bwysig’, y geiriau ‘mewn gwirionedd, dydy’ yw'r pwynt hwnnw – oherwydd, i rai credinwyr crefyddol, nid yw'r mater dan sylw mor syml â hynny! Enghraifft arall bosibl fyddai ‘Ni all credoau crefyddol helpu'r rhai sy'n dioddef.’ (torri i mewn ar ‘ni all’) neu, ‘Mae cyfreithiau bwyd Iddewiaeth yn hawdd i'w dilyn.’ (torri i mewn ar ‘yn hawdd’).

Mae'n wych i fyfyrwyr weld cynrychiolaeth weledol o'r ‘torri i mewn’ – mae'n eu hatgoffa i gynnal eu ffocws dadleugar. Felly, cofiwch farcio'r cwestiynau hynny fel hyn: ‘‘Mewn gwirionedd,

‘Ni

dydy lle mae rhywun yn addoli ddim yn bwysig.’

all credoau crefyddol helpu'r rhai sy'n dioddef’

‘Mae cyfreithiau bwyd Iddewiaeth yn

hawdd i'w dilyn.’

4. Defnyddio ‘mae'n dibynnu’. Yn olaf, gofynnwch i'r myfyrwyr restru cynifer o ddatganiadau ‘mae'n dibynnu’ â phosibl – bydd hyn yn sbarduno eu hymateb i gwestiwn (d). Mae'n anhygoel gweld, pan fydd myfyriwr yn dechrau ymateb i gwestiwn ymarfer â'r geiriau syml ‘mae'n dibynnu’, y bydd ei ateb yn newid o fod yn un syml i fod yn un cymhleth. Rwy'n adnabod rhai athrawon sy'n gofyn i'w myfyrwyr ysgrifennu eu safbwyntiau ar faes gwerthusol heb unrhyw arweiniad. Wedyn, byddant yn gofyn iddynt ail-wneud yr ymarfer gan ddechrau â'r geiriau ‘mae'n dibynnu’. Fel arfer, bydd hyn yn gweddnewid eu hatebion. Felly, gan gymryd yr enghraifft gyntaf uchod, gallai myfyriwr ysgrifennu: · · · ·

Mae'n dibynnu ar ddiffiniad rhywun o'r gair ‘addoli’... Mae'n dibynnu beth mae rhywun yn ei ystyried yn ‘fan addoli’... Mae'n dibynnu beth yw crefydd rhywun... Mae'n dibynnu pa mor llythrennol yw dehongliad rhywun o orchmynion mewn perthynas ag addoli 26


· · · ·

yn eu testun sanctaidd... Mae'n dibynnu i ba raddau y mae rhywun yn cymryd ei grefydd o ddifrif... Mae'n dibynnu ar ddehongliad rhywun o'r gair ‘addoli’... Mae'n dibynnu a yw rhywun yn anffyddiwr neu'n ddyneiddiwr ai peidio... Mae’n dibynnu...

Gall myfyrwyr ddatblygu unrhyw un o'r datganiadau hyn yn baragraff (a meddwl am rai eraill). Golyga hyn eu bod yn meithrin ymdeimlad o safbwyntiau amgen a/neu groes y gellir eu harchwilio mewn cwestiwn (d).

Felly, ar y darn o bapur sydd â sawl cwestiwn arholiad posibl arno, bydd y myfyrwyr wedi (i) cylchu pob gair allweddol, (ii) eu diffinio, (iii) tynnu saethau i ddangos ble y bydd yn torri i mewn, a (iv) dechrau ymatebion â'r geiriau ‘mae'n dibynnu’. Gall y galluoedd y byddant yn eu meithrin drwy'r gweithgareddau hyn ategu unrhyw ffrâm ysgrifennu y maent yn eu defnyddio. Wedyn, pan fyddant yn wynebu cwestiwn arholiad go iawn, byddant yn gallu pwyllo, canolbwyntio ar y cwestiwn a gwybod sut i ‘dorri i mewn i'r cwestiwn’ mewn modd gwerthusol. Gobeithio hefyd y bydd awdur Heseceia 38:17a yn fodlon ar y dull gweithredu hwn, gan mai'r nod yw i fyfyrwyr ymddiried llai yn eu fframiau ysgrifennu a mwy yn eu sgiliau gwerthuso er mwyn llwyddo.

Mae Gregory A. Barker yn Gymrawd ym Mhrifysgol Caer-wynt ac mae'n arwain digwyddiadau adolygu a sesiynau DPP mewn ysgolion a cholegau ledled y Deyrnas Unedig.

27


Defnyddio Ffynonellau o Ddoethineb ac Awdurdod yn Effeithiol. Angela Hill Mae'r cymwysterau TGAU newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar allu ymgeiswyr i gydnabod bod ffynonellau o ddoethineb ac awdurdod (gan gynnwys testunau sanctaidd, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) yn hollbwysig er mwyn deall credoau, athrawiaethau ac arferion crefyddol. Yn aml, gellir defnyddio un darn i ategu llawer o wahanol rannau o gynnwys y fanyleb. Rhoddir enghraifft isod. Natur Duw

Maddeuant a chosb

Y bywyd tragwyddol

Cyfoeth a thlodi a chyfiawnder cymdeithasol

Âť 28


Arolwg bach o berfformiad mewn arholiadau TGAU yn Lloegr yn 2018 Cyflwyniad:

Cynhaliwyd y dadansoddiad hwn o ddata a gasglwyd mewn arolwg wythnos o hyd o athrawon uwchradd er mwyn helpu arweinwyr pwnc i ysgrifennu adroddiadau ar berfformiad mewn arholiadau yn ystod tymor yr hydref 2018. Roedd arolygon uwchradd NATRE blaenorol wedi canfod bod amrywiad sylweddol yn y ffordd roedd y cymhwyster TGAU yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion uwchradd. Ymhlith yr amrywiadau hyn roedd pryd roedd ysgolion yn dechrau addysgu'r cwrs TGAU mewn perthynas â blwyddyn ysgol y disgyblion, dros ba gyfnod roedd yn cael ei addysgu mewn blynyddoedd ysgol a nifer yr oriau addysgu a ddarparwyd ar ei gyfer. Er y gallai'r manylebau cyn 2016 fod wedi cynnig rhai cyfleoedd i wneud iawn am y dulliau cyflwyno hyn, roedd yn amlwg na fyddai'r manylebau newydd yn gwneud hynny. Mae Ofqual yn achredu pob manyleb TGAU ar y sail y bydd angen rhwng 120 a 140 o oriau dysgu dan arweiniad i addysgu cwrs llawn. Mae'r gofyniad hwn yn seiliedig ar y disgwyliad bod un cymhwyster TGAU yn gyfwerth ag unrhyw un arall ar y cwricwlwm. Ers i'r cymwysterau cwrs byr TGAU gael eu tynnu oddi ar y rhestr o'r rhai sy'n cyfrif tuag at dablau perfformiad, mae nifer yr ymgeiswyr a gofrestrir ar gyfer y cwrs hwn wedi lleihau'n gyflym iawn (ffigur 1). Yn anffodus, mae wedi bod yn ofynnol i lawer o athrawon Addysg Grefyddol addysgu cwrs llawn TGAU yn yr amser a oedd wedi'i neilltuo ar gyfer cwrs byr o'r blaen, h.y. tua awr yr wythnos dros bum tymor; tua 70 o oriau dysgu dan arweiniad.

Crynodeb

1. Roedd y perfformiad yn 2018 yn debyg i 2017: Yn y rhan fwyaf o ysgolion, arweiniodd y manylebau newydd a arholwyd yn 2018 at lefel perfformiad debyg i 2017 neu well na hynny. Nodwyd y canlyniad hwn gan 74.1% o'r ysgolion a ymatebodd i'r arolwg. 2. Yn y mwyafrif (65%) o'r ysgolion, roedd y canlyniadau naill ai'n cyfateb i'r cyfartaledd cenedlaethol, yn uwch neu'n llawer uwch na'r ffigur hwnnw 3. Mae amser addysgu wedi cael effaith fawr ar ganlyniadau, yn enwedig mewn perthynas â'r graddau uchaf: Rhoddir yr amser addysgu cywir a ddisgwylir gan Ofqual i'r mwyafrif o'r ysgolion (63.5%) yn ein sampl, ond golyga hyn fod 36.5% yn disgwyl i athrawon ganfod ffyrdd o alluogi disgyblion i gyflawni eu potensial mewn llai o oriau na'r disgwyl. 4. Lle'r oedd ysgolion yn disgwyl i'r cwrs llawn TGAU gael ei gyflwyno yn yr amser a ddisgwylir ar gyfer cwrs byr, roedd yn fwy na phedair gwaith yn fwy tebygol y byddai'r myfyrwyr yn cael canlyniadau llawer is na'r cyfartaledd cenedlaethol a dwywaith yn fwy tebygol o gael canlyniadau is na'r cyfartaledd cenedlaethol. 5. Lle'r oedd ysgolion yn darparu'r amser a ddisgwylir gan Ofqual ar gyfer y cwrs TGAU, mae'r myfyrwyr ddwywaith yn fwy tebygol o berfformio'n llawer gwell na'r perfformiad cenedlaethol cyfartalog, a bron ddwywaith yn fwy tebygol o berfformio'n unol â'r perfformiad cenedlaethol cyfartalog neu'n well na hynny. 6. Roedd 71% o'r ysgolion lle'r oedd y canlyniadau'n cyfateb i'r canlyniadau ar gyfer Saesneg Iaith neu'n gryfach na hynny, yn addysgu'r cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol yn unol â'r amser addysgu a argymhellir gan Ofqual, sef o leiaf 120 awr. Os oedd yr ysgol yn disgwyl i'r cwrs TGAU gael ei addysgu mewn llai o oriau na hynny, roedd y disgyblion ddwywaith yn fwy tebygol o danberfformio o gymharu â Saesneg. 7. Mae addysgu'r cwrs dros dair blynedd yn cael effaith andwyol ar ganlyniadau: Y model cyflwyno mwyaf poblogaidd o hyd yw cwrs dwy flynedd sy'n dechrau ym mlwyddyn 10. Roedd y cynllun hwn yn Copyright: NATRE

1 29


8. 9.

10.

11.

12.

cael ei ddilyn gan bron 48% o'r ymatebwyr. Fodd bynnag, mae ychydig dros 40% o'r ysgolion bellach yn cyflwyno'r cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol dros dair blynedd gan ddechrau ym mlwyddyn 9. Cafodd 43% o'r ysgolion sy'n dilyn y model cyflwyno dwy flynedd, 10-11, ganlyniadau a oedd yn llawer uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol, o gymharu ag 19% o'r rhai sy'n dilyn y model tair blynedd. Cafodd 73% o'r ysgolion ganlyniadau a oedd yn cyfateb i'r cyfartaledd cenedlaethol, yn uwch neu'n llawer uwch na'r ffigur hwnnw gan ddefnyddio'r model cyflwyno dwy flynedd traddodiadol, o gymharu â 58% o'r ysgolion a oedd yn defnyddio'r model tair blynedd 9-11. Mae mwy o fyfyrwyr mewn grwpiau opsiynau yn cael canlyniadau llawer uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol ac mae mwy o fyfyrwyr mewn grwpiau cohort yn perfformio'n is neu'n llawer is na'r cyfartaledd cenedlaethol. Fodd bynnag, mae'r ddau grŵp yr un mod debygol o gael canlyniadau sy'n cyfateb i'r cyfartaledd cenedlaethol neu'n uwch na'r ffigur hwnnw. Mae'r cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol yn orfodol i bob myfyriwr mewn 49.1% o'r ysgolion a ymatebodd ac yn cael ei addysgu mewn grŵp opsiynau mewn 40% o'r ysgolion hynny. Gwnaeth 81% o'r ysgolion lle'r oedd myfyrwyr wedi dewis y cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol naill ai berfformio'n unol â'r cyfartaledd cenedlaethol, yn well neu'n llawer gwell na'r ffigur hwnnw. Cafodd 51% o'r ysgolion lle cofrestrwyd y cohort cyfan yr un canlyniadau. Mewn ysgolion a oedd yn cofrestru'r cohort cyfan yn ogystal â'r rhai a oedd yn cofrestru grwpiau opsiynau, perfformiodd 33% o'r ysgolion yn unol â'r cyfartaledd cenedlaethol neu'n well na hynny.

13. Ffigur 1

Canfyddiadau

Copyright: NATRE

2 30


Cafodd tua thri chwarter yr ysgolion (74.1%) ganlyniadau tebyg neu well na'r llynedd.

Perfformiad ar 9-4 yn 2018 o gymharu ag A*-C yn 2017 13.8%

13.8%

17.0%

17.0%

41.3%

Llawer gwaeth – Mwy na 10.1% yn is

Ychydig yn waeth – Rhwng 5.1% a 10% yn is

Tebyg – rhwng 5% yn uwch a 5% yn is

Ychydig yn well – Rhwng 5.1% a 10% yn uwch

Llawer gwell – Mwy na 10.0% yn uwch

Canran yr ysgolion sy'n cynnig niferoedd gwahanol o oriau addysgu 5.70% 12.10% 12.10%

63.50%

Llai nag 80

80-99

18.80%

100-119

O leiaf 120

Copyright: NATRE

3 31


Darperir yr amser addysgu cywir a ddisgwylir gan Ofqual i'r mwyafrif o'r ysgolion (63.5%) yn ein sampl. Mae'n ffaith amlwg a anwybyddir yn aml mai'r bwriad yw y gellir cymharu cymwysterau TGAU mewn pynciau gwahanol. Un o'r agweddau allweddol ar waith Ofqual yw sicrhau bod hyn yn wir. Golyga hyn, pan fydd Ofqual yn achredu cymhwyster TGAU, ei fod yn disgwyl i'r sefydliad dyfarnu ddangos y gellir bodloni disgwyliadau'r asesiadau, gan gynnwys yr amcanion asesu ac astudio'r cynnwys, o fewn amser penodol. Mae hyn yn destun cryn ddadlau, megis p'un a yw'r ymgeiswyr yn meithrin gwybodaeth neu'n ymarfer y sgiliau sydd eu hangen mewn un pwnc mewn un arall, neu pan fydd yr hyn a ddysgwyd ganddynt yn flaenorol yn rhoi mantais iddynt dros fyfyrwyr eraill, ond mae Ofqual yn rhagnodi mai'r gofyniad ar gyfer cwrs TGAU yw 120-140 o oriau dysgu dan arweiniad.

Copyright: NATRE

4 32


Fel y gellid disgwyl, un o gasgliadau'r arolwg hwn yw bod nifer yr oriau addysgu a ddarperir yn cael effaith sylweddol ar ganlyniadau. Roedd y myfyrwyr mewn ysgolion a oedd yn darparu tua awr yr wythnos yn fwy na phedair gwaith yn fwy tebygol o gael canlyniadau llawer is na'r cyfartaledd cenedlaethol nag ysgolion a oedd yn darparu'r amser a argymhellir gan Ofqual. Roedd yr ysgolion hyn ddwywaith yn fwy tebygol o nodi canlyniadau is na'r cyfartaledd cenedlaethol. Yn yr un modd, yn yr ysgolion hynny a oedd yn darparu'r amser a ddisgwylir gan Ofqual ar gyfer y cwrs TGAU, roedd y myfyrwyr ddwywaith yn fwy tebygol o berfformio'n llawer gwell na'r perfformiad cenedlaethol cyfartalog, a bron ddwywaith yn fwy tebygol o berfformio'n unol â'r perfformiad cenedlaethol cyfartalog neu'n well na hynny. Effaith gwahanol fodelau cyflwyno Mae'r arolwg hwn yn dangos bod ychydig dros 40% o'r ysgolion bellach yn cyflwyno'r cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol dros dair blynedd gan ddechrau ym mlwyddyn 9. Mae'r canlyniad hwn yn debyg i'r hyn a nodwyd yn Arolwg Uwchradd NATRE yn 2016. Serch hynny, mae'r rhan fwyaf o'r ysgolion (bron 48%) yn defnyddio'r dull traddodiadol, sef cynnig cwrs TGAU dros ddwy flynedd ym Mlwyddyn 10 a Blwyddyn 11. Mae'r siartiau cylch sy'n dilyn yn dangos mai'r ffordd fwyaf dibynadwy o gael canlyniadau sy'n llawer uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol yw addysgu'r cwrs dros ddwy flynedd i'r myfyrwyr y mae'r cwrs TGAU wedi'i fwriadu ar eu cyfer, h.y. myfyrwyr 14-16 oed. Cafodd 43% o'r ysgolion sy'n dilyn y model cyflwyno hwn ganlyniadau a oedd yn llawer uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol, o gymharu ag 19% o'r rhai sy'n dilyn y model tair blynedd. Yn yr un modd, cafodd 73% ganlyniadau a oedd yn cyfateb i'r cyfartaledd cenedlaethol, yn uwch neu'n llawer uwch na'r ffigur hwnnw gan ddefnyddio'r model cyflwyno dwy flynedd traddodiadol, o gymharu â 58% o'r ysgolion a oedd yn defnyddio'r model tair blynedd. Dim ond 7.8% o'n sampl a oedd yn cyflwyno'r cwrs TGAU dros ddwy flynedd ym mlwyddyn 9 a blwyddyn 10 felly mae'r sampl hon yn rhy fach i allu dod i gasgliadau cadarn. Fodd bynnag, y model hwn a arweiniodd at y canlyniadau gwaethaf gan gynnwys y gyfran uchaf o ganlyniadau a oedd yn is neu'n llawer is na'r cyfartaledd cenedlaethol. Yn ddiweddar, mae Ofsted wedi beirniadu'r arfer o ddechrau cyrsiau TGAU ym mlwyddyn 9 gan ei fod yn aml, ond ddim bob amser, yn culhau'r cwricwlwm i'r myfyrwyr yn rhy gynnar. https://www.gov.uk/government/speeches/hmci-commentary-curriculum-and-the-new-educationinspection-framework

Sut mae ysgolion yn cyflwyno'r cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol? 7.80% 2.13%

47.87% 42.20%

Dros ddwy flynedd ym mlynyddoedd 10-11 Dros dair blynedd ym mlynyddoedd 9-11 Dros ddwy flynedd ym mlynyddoedd 9-10 Arall

Copyright: NATRE

5 33


Cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol wedi'i gyflwyno dros ddwy flynedd ym mlynyddoedd 10-11

12% 43%

16% 30%

Yn llawer is na'r cyfartaledd cenedlaethol (58% neu lai) Yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol (mwy na 58% ond llai na 72%) Yn unol â'r cyfartaledd cenedlaethol neu'n uwch na hynny (72% neu fwy ond llai na 86%) Yn llawer uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol (86% neu fwy)

Copyright: NATRE

6 34


Cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol wedi'i gyflwyno dros ddwy flynedd ym mlynyddoedd 9-11

19%

39%

18% 24%

Yn llawer is na'r cyfartaledd cenedlaethol (58% neu lai) Yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol (mwy na 58% ond llai na 72%) Yn unol â'r cyfartaledd cenedlaethol neu'n uwch na hynny (72% neu fwy ond llai na 86%) Yn llawer uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol (86% neu fwy)

Cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol wedi'i gyflwyno dros ddwy flynedd ym mlynyddoedd 9-10

32%

23%

27%

18%

Yn llawer is na'r cyfartaledd cenedlaethol (58% neu lai) Yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol (mwy na 58% ond llai na 72%) Yn unol â'r cyfartaledd cenedlaethol neu'n uwch na hynny (72% neu fwy ond llai na 86%) Yn llawer uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol (86% neu fwy)

Copyright: NATRE

7 35


Hoffai adran weithredol NATRE ddiolch i'r holl athrawon hynny a roddodd o'u hamser i gwblhau'r arolwg hwn ar adeg brysur o'r flwyddyn ysgol. Gobeithio y bydd y wybodaeth yn yr adroddiad hwn yn helpu athrawon Astudiaethau Crefyddol i roi eu canlyniadau arholiad mewn cyd-destun. Mae'n bwysig nodi na all athrawon fod yn atebol am effaith penderfyniadau pobl eraill. Rydym yn bwriadu defnyddio canlyniadau'r arolwg hwn gydag Ofqual a'r sefydliadau dyfarnu i roi cymorth pellach i aelodau. 26 Medi 2018 Crynodeb yw hwn o adroddiad hwy sydd ar gael yn Saesneg yn unig ar wefan NATRE. Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd caredig Deborah Weston yn NATRE. SYLWER: GWNAED Y GWAITH YMCHWIL YN LLOEGR OND, GAN EI BOD YN DEBYGOL BOD RHAI O'R PRYDERON HYN YN DEBYG IAWN, TEIMLID Y GALLAI'R CANFYDDIADAU HEFYD FOD YN BERTHNASOL AC YN DDEFNYDDIOL I GYDWEITHWYR YNG NGHYMRU.

‘O Theori i Ymarfer’ - cyfraniad myfyrwyr TAR Addysg Grefyddol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cyflwyniad Mae gwneud, deall a dangos cysylltiadau rhwng theori ac ymarfer yn elfennau craidd o'r cwrs TAR Uwchradd mewn Addysg Grefyddol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae adolygiad yr Athro John Furlong o Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru yn nodi'n glir bod y rhaglenni AGA gorau “yn meithrin cysylltiadau cryf rhwng theori ac ymarfer, mewn ffordd sy’n helpu’r myfyrwyr i ddeall ac i ystyried y cysylltiadau rhwng theorïau addysg ac arferion yr ystafell ddosbarth” (Llywodraeth Cymru, 2015, t.8). Fel y cyfryw, rhoddir cyfleoedd i athrawon dan hyfforddiant ymchwilio i'r cysylltiadau rhwng theori addysgegol ac ymarfer, eu gwerthuso'n feirniadol, a myfyrio ar eu heffaith ar addysgu a dysgu yn yr ystafell ddosbarth Addysg Grefyddol. Ar ôl cwblhau eu Profiad Addysgu Proffesiynol (PAP) cyntaf mewn ysgolion yn ddiweddar, mae llawer o'r cohort Addysg Grefyddol eleni wedi cael cyfle i ymgysylltu â manyleb TGAU newydd CBAC (2017). Yn ôl mewn sesiynau pwnc-benodol yn y Brifysgol, mae'r myfyrwyr hefyd wedi bod yn archwilio amrywiaeth o ddamcaniaethau dysgu, ac yn archwilio'r cysylltiadau sy'n bodoli rhwng y damcaniaethau dysgu hyn ac agweddau ar fanyleb TGAU CBAC. Yn y rhifyn hwn a'r ychydig rifynnau nesaf o REconnect, hoffai athrawon Addysg Grefyddol dan hyfforddiant y cwrs TAR rannu'r cysylltiadau y maent wedi'u gwneud rhwng theori ac ymarfer â chi. Maent wedi archwilio'r pedair damcaniaeth ganlynol ac wedi gwneud awgrymiadau o ran sut y gallwch roi'r damcaniaethau hyn ar waith yn eich ystafell ddosbarth TGAU eich hun:  Damcaniaeth Baich Gwybyddol  Cyfarwyddyd Uniongyrchol  Ymarfer Adalw  Dysgu Gweladwy Y ddamcaniaeth gyntaf yr hoffai'r athrawon dan hyfforddiant i chi edrych arni yw Cyfarwyddyd Uniongyrchol Engelmann (1964).

Mae'r cyfraniad hwn gan Eleri Smith, Rhiannon Kemp, Alex Saunders, Tyler Saunders, Sophie Speck, Libby Morgan a Naomi Winkley.

Copyright: NATRE

8 36


‘O Theori i Ymarfer’ - cyfraniad myfyrwyr TAR Addysg Grefyddol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cyflwyniad

Mae gwneud, deall a dangos cysylltiadau rhwng theori ac ymarfer yn elfennau craidd o'r cwrs TAR Uwchradd mewn Addysg Grefyddol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae adolygiad yr Athro John Furlong o Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru yn nodi'n glir bod y rhaglenni AGA gorau “yn meithrin cysylltiadau cryf rhwng theori ac ymarfer, mewn ffordd sy’n helpu’r myfyrwyr i ddeall ac i ystyried y cysylltiadau rhwng theorïau addysg ac arferion yr ystafell ddosbarth” (Llywodraeth Cymru, 2015, t.8). Fel y cyfryw, rhoddir cyfleoedd i athrawon dan hyfforddiant ymchwilio i'r cysylltiadau rhwng theori addysgegol ac ymarfer, eu gwerthuso'n feirniadol, a myfyrio ar eu heffaith ar addysgu a dysgu yn yr ystafell ddosbarth Addysg Grefyddol.

Ar ôl cwblhau eu Profiad Addysgu Proffesiynol (PAP) cyntaf mewn ysgolion yn ddiweddar, mae llawer o'r cohort Addysg Grefyddol eleni wedi cael cyfle i ymgysylltu â manyleb TGAU newydd CBAC (2017). Yn ôl mewn sesiynau pwnc-benodol yn y Brifysgol, mae'r myfyrwyr hefyd wedi bod yn archwilio amrywiaeth o ddamcaniaethau dysgu, ac yn archwilio'r cysylltiadau sy'n bodoli rhwng y damcaniaethau dysgu hyn ac agweddau ar fanyleb TGAU CBAC. Yn y rhifyn hwn a'r ychydig rifynnau nesaf o REconnect, hoffai athrawon Addysg Grefyddol dan hyfforddiant y cwrs TAR rannu'r cysylltiadau y maent wedi'u gwneud rhwng theori ac ymarfer â chi. Maent wedi archwilio'r pedair damcaniaeth ganlynol ac wedi gwneud awgrymiadau o ran sut y gallwch roi'r damcaniaethau hyn ar waith yn eich ystafell ddosbarth TGAU eich hun: • Damcaniaeth Baich Gwybyddol • Cyfarwyddyd Uniongyrchol • Ymarfer Adalw • Dysgu Gweladwy 37


Y ddamcaniaeth gyntaf yr hoffai'r athrawon dan hyfforddiant i chi edrych arni yw Cyfarwyddyd Uniongyrchol Engelmann (1964).

Mae'r cyfraniad hwn gan Eleri Smith, Rhiannon Kemp, Alex Saunders, Tyler Saunders, Sophie Speck, Libby Morgan a Naomi Winkley.

38


Beth yn union yw Cyfarwyddyd Cyfarwyddyd penodol a fwriedir i feithrin meistrolaeth disgyblion cyn gynted â phosibl (Impact Wales) Cryfderau Mae ymddygiad yn well ac yn haws ei reoli Gall gwersi ganolbwyntio ar yr hyn y mae angen i’r myfyrwyr ei ddysgu yn hytrach na chynllunio gweithgareddau creadigol lle y bydd y dysgu bron yn eilradd i’r dasg. Rhoddir mwy o bwyslais ar ymarfer a dangos yr hyn a ddysgwyd a dealltwriaeth ohono, yn hytrach na threulio amser yn ceisio darganfod rhywbeth sydd wedi cymryd canrifoedd i feddyliau gorau’r gorffennol i’w ddarganfod Y ffordd orau o ddysgu cysyniadau neu sgiliau penodol Mae’n gwneud asesu ar gyfer dysgu yn haws Gall myfyrwyr â chyrhaeddiad uwch wneud cysylltiadau cymhleth, tra gall myfyrwyr â chyrhaeddiad is gymryd rhan yng ngofynion y wers Mae dulliau sydd â llai o gyfarwyddyd uniongyrchol yn arwain at fwy o rwystredigaeth ymhlith myfyrwyr wrth iddynt ei chael hi’n anodd cymryd rhan yn yr hyn y gofynnir iddynt ei wneud Ar y llaw arall, mae hyrwyddwyr cyfarwyddyd uniongyrchol yn dadlau bod dechreuwyr ac arbenigwyr yn dysgu’n wahanol, ac y dylid cyflwyno’r holl wybodaeth hanfodol i ddysgwyr a’i hymarfer drwy arweiniad cyfarwyddiadol penodol (Clark, Kirchner, Sweller, 2012)

Datblygodd Cyfarwyddyd Uniongyrchol o Ddamcaniaeth Cyfarwyddyd Siegfried Engelmann yn 1964.

Gwendidau Digon anhyblyg i lesteirio creadigrwydd yr athro Ystyrir ei fod yn hen ffasiwn

Dim llawer o le i addasu’n fyrfyfyr Mae angen i athrawon ei ddeall yn iawn er mwyn ei ddefnyddio’n effeithiol (llawer o gamddeall)

Mae beirniaid cyfarwyddyd uniongyrchol yn cynnig bod dechreuwyr yn dysgu’n well pan roddir cyfle iddynt ddarganfod rhywfaint o’r wybodaeth hanfodol eu hunain gydag arweiniad rhannol yn unig

39


Dyneiddiwr Humanist

Cyfarwyddyd Uniongyrchol

Anffyddiwr Atheist Crefyddol Religious Crefyddol (arall) Religious (other) Eich Barn Your Opinion

Modelu’r deilliannau dysgu a ddisgwylir drwy roi esboniadau ac enghreifftiau clir.

Cyflwyniad/ Adolygu Paratoi ar gyfer dysgu.

Datblygu

Dod â’r wers i ben drwy dynnu sylw at yr hyn a ddysgwyd.

Ymarfer dan Arweiniad

Monitro’r disgyblion ac ennyn eu diddordeb mewn tasgau dysgu penodedig.

Cau Pen y Mwdwl

Darparu tasgau dysgu sy’n annibynnol ar gymorth yr athro.

Ymarfer Annibynnol

Asesu cynnydd y disgyblion.

Gwerthuso

Rhaid i chi fodelu'r broses, dangos iddynt sut y cafodd ei chyflawni, a cheisio esbonio beth a wnaethoch a pham.

Dyneiddiwr Humanist Anffyddiwr Atheist Crefyddol Religious Crefyddol (arall) Religious (other) Eich Barn Your Opinion

Mae Dyneiddwyr yn credu y dylai menywod gael dewis cael erthyliad ai peidio yn dibynnu ar y sefyllfa (gweler moeseg sefyllfaoedd) Mae Anffyddwyr yn credu mai dewis menyw yw cael erthyliad ai peidio, ac maent hefyd yn arddel yr un safbwynt mai dim ond mewn sefyllfaoedd penodol y dylid ei ganiatáu. Mae rhai Cristnogion yn credu bod erthyliad yn anghywir bob amser. Mewn Catholigiaeth, mae erthyliad yn bechod moesol am ei fod yn mynd yn groes i’r gorchymyn ‘Na ladd’. Mae rhai Mwslimiaid yn credu bod erthyliad yn dderbyniol am nad yw’r enaid yn ffurfio tan ar ôl 180 diwrnod. Beth yw eich barn chi?

Rydym wedi seilio ein hateb ar Uned 1, Rhan B, Thema Bywyd a Bywyd ar ôl marwolaeth (Dyma'r unig gwestiwn ar y papur arholiad sy'n gofyn yn benodol am gynnwys safbwyntiau nad ydynt yn grefyddol). Maes astudio – Tarddiad a Gwerth Bywyd Dynol (Erthyliad). Gallwch ei addasu i gydfynd â chwestiynau Uned 1 3d. eraill. Cofiwch – NID yw safbwyntiau nad ydynt yn grefyddol yn berthnasol i bob cwestiwn.

40


Rhestr Gyfeirio:

Snell, A. (2018). A case for direct instruction. Ar gael: https://www.e-act.org.uk/news/2018/casedirectinstruction/?fbclid=IwAR36SL1Ys_yNPcIR_YnV83HRPa9of9JVNj_RwyPcs3aqVjNucpK1w1_K5qE. Cyrchwyd ddiwethaf 25 Chwefror 2019.

Killian, S. (2014). The Myths & Facts About Direct Instruction. Ar gael: http://www.evidencebasedteaching.org.au/direct-instruction-facts-myths/. Cyrchwyd ddiwethaf 25 Chwefror 2019.

Markusic, M. Some Advantages & Disadvantages of Direct Teaching. Ar gael: https://www.brighthubeducation.com/teaching-methods-tips/5487-pros-and-cons-of-directteaching/. Cyrchwyd ddiwethaf 25 Chwefror 2019.

Snell, A. (2018). A Case for Direct Instruction. Ar gael: https://www.e-act.org.uk/news/2018/casedirect-instruction/?fbclid=IwAR0rOj0Cz7b9yk1ukSJ9B0peX-wRW7PS5AT6ZxrmI4vgttMdjV0HbxDE8Q. Cyrchwyd ddiwethaf 25/02/19.

41


Adnoddau Digidol diweddar ar gyfer TGAU AC

Beth, dim stabl? https://bit.ly/2NOa00X

Gweithgareddau meithrin sgiliau https://bit.ly/2EeIpSe

Cylchgrawn REconnect - Rhifyn 2 https://bit.ly/2YH2XIm

Mae'n bosib bydd anoddau AC yn cael eu ychwanegu yn y dyfodol, felly ewch i: http://resources.wjec.co.uk/Pages/SearchResources.aspx

43


Dolenni defnyddiol eraill - TGAU Adnoddau Newydd gan Hodder: I gael yr holl adnoddau TGAU ar gyfer Astudiaethau Crefyddol CBAC (Cymru): https://www.hoddereducation.co.uk/religious-education-philosophy#&eb=74&limit=false&type=2 Adnodd newydd: Ysgrifennwyd adnoddau Audiopi i ategu'r cymhwyster Eduqas, ond bydd hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer llawer o gynnwys manyleb CBAC (Cymru) ar gyfer Cristnogaeth, Islam, Iddewiaeth a Christnogaeth Gatholig. Dolenni Audiopi i Audiopi Eduqas https://www.audiopi.co.uk/subjects/religious-studies/gcse/eduqas/ christianity https://www.audiopi.co.uk/subjects/religious-studies/gcse/eduqas/islam https://www.audiopi.co.uk/ subjects/religious-studies/gcse/eduqas/judaism Cristnogaeth Gatholig Eduqas: https://www.audiopi.co.uk/subjects/religious-studies/gcse/eduqas

Cymdeithas y Beibl: adnoddau ‘Ffynonellau Doethineb’ ar gyfer TGAU Astudiaethau Crefyddol CBAC Yn ddiweddar, mae Cymdeithas y Beibl wedi rhyddhau adnoddau am ddim i ategu cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol CBAC. Maent yn cwmpasu pob darn o'r Beibl o Uned 1 Rhan A y fanyleb ac yn cynnig gwybodaeth a thasgau sy'n canolbwyntio ar ddylanwad y Beibl ar gredoau ac arferion Cristnogol. Ymhlith y pynciau dan sylw mae: Y Creu: A yw pob Cristion yn credu'r un pethau am y ffordd y cafodd y byd ei greu? Ymgnawdoliad: Beth mae Cristnogion yn ei ddysgu am Iesu o'r straeon am ei enedigaeth? Gair Duw: Mae Cristnogion yn credu mai Iesu oedd ‘y Gair’ – beth yw ystyr hynny? 44


Yr Iawn ac Iachawdwriaeth: Mae Cristnogion yn credu i Iesu eu harbed – ond sut? Y Samariad Trugarog: Beth mae'r stori yn ei ddweud am garu eraill?

Mae'r adnoddau hyn yn ffordd ddelfrydol o integreiddio darnau o'r Beibl yn eich addysgu a hefyd yn gweithio'n wych fel tasgau gwaith cartref.

‘Maen nhw'n wych ar gyfer ennyn diddordeb myfyrwyr yn y ffynonellau Beiblaidd perthnasol, a gwella eu dealltwriaeth ohonynt, ar gyfer eu hastudiaethau TGAU.’

Gallwch eu lawrlwytho am ddim o www.sourcesofwisdom.org.uk

45


Credydau Delweddau Clawr + Tudalennau cynnwys - Buddha and sunse - Napalai Studio / shutterstock Logo clawr - Religious Symbols - pop_jop / getty image Tudalen 6 Look out from the table - GUNDAM_Ai / shutterstock Tudalen 8 Statue of Aristotle - Ververidis Vasilis / shutterstock Tudalen 10 Miscellaneous old board game pieces - Diane C Macdonald / shutterstock Tudalen 13 boy student testing in exercise paper - smolaw / shutterstock Tudalen 21 Ganesha statuette close-up - content_creato / shutterstock Tudalen 23 Empty cinema auditorium - Nikolay Antono / shutterstock Tudalen 25 United hands raised in the air - igorstevanovic/ shutterstock Tudalen 28 Stack of books - ping198 / shutterstock

46


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.