Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch - Project Cyrchfannau'r Dyfodol Meithrin Sgiliau

Page 1

Project Cyrchfannau’r Dyfodol - Meithrin Sgiliau

Cynnwys

1. Rhagarweiniad

2. Gweithgaredd Cynllunio a Threfnu

3. Gweithgaredd Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau

4. Gweithgaredd Creadigrwydd ac Arloesi

Rhagarweiniad

Mae’r adnodd Meithrin Sgiliau hwn yn cynnig tri gweithgaredd, pob un yn canolbwyntio ar un o’r Sgiliau Cyfannol – Cynllunio a Threfnu; Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau; a Chreadigrwydd ac Arloesi.

Byddant yn cynnwys y Sgiliau Penodol, a ddangosir yn y tabl, y bydd angen i chi eu dangos yn Asesiad Project Cyrchfannau’r Dyfodol. Gan ddefnyddio eich sgiliau Effeithiolrwydd Personol, byddwch yn gallu casglu adborth, myfyrio ar eich cynnydd a’i werthuso.

Sgìl Cyfannol Sgiliau Penodol

1.4 – Amserlennu gweithgareddau a thasgau.

Cynllunio a Threfnu

1.5 – Dethol a defnyddio technegau a/ neu adnoddau rheoli project priodol.

1.6 – Diffinio blaenoriaethau a meini prawf llwyddiant.

Meddwl yn

Feirniadol a Datrys

Problemau

2.2 – Cymhwyso dulliau i ddatrys problemau cymhleth, gan gynnwys technegau ymchwil wedi’u canolbwyntio i gasglu gwybodaeth gynradd ac eilaidd.

2.7 – Llunio ymatebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn berswadiol ac yn argyhoeddiadol.

2.9 – Llunio barnau dilys a chasgliadau wedi’u rhesymu.

Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch 2

Creadigrwydd ac

Arloesi

3.1 – Cynhyrchu syniadau yn annibynnol.

3.2 – Cydweithio wrth feddwl yn greadigol a chynhyrchu syniadau newydd drwy rannu, lledaenu ac adeiladu ar y cydweithio hwnnw.

3.3 – Creu cysylltiadau rhwng gwahanol wybodaeth i gefnogi deilliannau.

3.4 – Defnyddio meddwl creadigol i ddadansoddi gwybodaeth a syniadau.

3.5 – Ystyried ymarferoldeb rhoi syniadau a chanlyniadau ar waith.

3.6 – Cyfiawnhau pam y cafodd y syniad mwyaf priodol ei ddethol drwy gymhwyso technegau gwneud penderfyniadau gwrthrychol, gan gynnwys safbwyntiau eraill lle y bo’n briodol.

3.8 – Datblygu dulliau cyfathrebu arloesol sy’n briodol i’r gynulleidfa.

4.1 – Dadansoddi sut y gellid cymhwyso a/neu feithrin ei sgiliau ei hun i fod yn bersonol effeithiol.

Effeithiolrwydd

Personol

4.5 – Ymateb i adborth a rhoi adborth i bobl eraill, lle y bo’n briodol.

4.6 – Myfyrio ar eu hymddygiadau, eu perfformiad a’u deilliannau eu hunain wrth weithio’n annibynnol a/neu wrth gydweithio, a’u gwerthuso.

3 Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch

Gweithgaredd Ymarfer Cynllunio a Threfnu

Cynllunio Ffair Swyddi

Senario

Yn ôl CIPDA (15 Tachwedd 2021), mae gan 47% o gyflogwyr

swyddi gwag y maen nhw’n ei chael hi’n anodd eu llenwi, ac mae 27% yn disgwyl i nifer y swyddi anodd eu llenwi gynyddu dros y chwe mis nesaf.

Mae ffair swyddi yn ffordd fwyfwy poblogaidd i gyflogwyr lenwi swyddi gwag. Fel arfer, cynhelir ffeiriau swyddi dros ddiwrnod cyfan mewn lleoliadau dan do mawr. Bydd cyflogwyr yn gosod

stondinau ac yn siarad â darpar recriwtiaid. Os byddant yn gwneud argraff dda ar gyflogwr, mae’n bosibl y byddant yn cael eu

gwahodd i gyfweliad neu’n cael cynnig swydd yn y fan a’r lle!

Mae ffeiriau swyddi yn gofyn am lawer o gynllunio a threfnu; mae angen i chi reoli’r bobl a fydd yn mynychu, sy’n golygu trefnu’r

logisteg yn gywir a sicrhau cyfathrebu clir. Mae materion iechyd a diogelwch pwysig i’w hystyried hefyd, ynghyd â thasgau trefnu

Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch 4

allweddol fel penderfynu pwy i’w gwahodd a chadw cofnod o’r rhai a fydd yn mynychu, yn ogystal â dod ag unrhyw gyfarpar y gall fod ei angen ar gyflogwyr. Mae hefyd yn bwysig cael adborth gan bawb a fynychodd y digwyddiad er mwyn mesur ei lwyddiant a nodi sut y gellid ei wella, er mwyn helpu i lywio digwyddiadau yn y dyfodol.

Rydych chi wedi cael eich gwahodd i gynllunio ffair swyddi ar gyfer eich ysgol – gallai fod ar gyfer disgyblion o flwyddyn 11 hyd at flwyddyn 13, neu ar gyfer eich coleg.

Profi Sgiliau Penodol

1.4 – Amserlennu gweithgareddau a thasgau. Tasgau 1 a 2

1.5 – Dethol a defnyddio technegau a/ neu adnoddau rheoli project priodol. Tasg 2

1.6 – Diffinio blaenoriaethau a meini prawf llwyddiant. Tasg 3

Tasgau

1. Mae trefnu ffair swyddi lwyddiannus yn gofyn am fanylder, creadigrwydd a chynllunio strategol. Mae llawer o benderfyniadau y bydd angen eu gwneud:

• Dyddiad/amser

• Lleoliad

• Marchnata

• Cyfarpar

• Arlwyo

• Staffio

5 Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch

Efallai y byddwch chi am gasglu ymchwil drwy gydweithio â myfyrwyr eraill i’ch helpu i lunio rhestr o’r holl weithgareddau a thasgau y bydd angen eu cwblhau cyn y ffair swyddi ac ar y diwrnod ei hun. Peidiwch ag anghofio cynnwys hanfodion fel cynnal asesiad risg, gosod byrddau i’r cyflogwyr a darparu bathodynnau enw.

2. Gan ddefnyddio adnoddau/technegau rheoli project, lluniwch gynllun project sy’n blaenoriaethu ac yn amserlennu eich gweithgareddau a’ch tasgau’n glir a fydd yn cefnogi’r project sy’n cael ei gwblhau.

Pa adnoddau/technegau rheoli project y gallwn i eu defnyddio?

3. Er mwyn mesur llwyddiant eich ffair swyddi, nodwch dri dangosydd perfformiad allweddol rydych chi’n gobeithio eu cyflawni drwy gynnal ffair swyddi. Crëwch ffordd o fesur a yw eich ffair swyddi wedi cyflawni ei dangosyddion perfformiad allweddol.

Beth yw dangosyddion perfformiad allweddol?

Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch 6

Gweithgaredd Ymarfer Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau

Ble i fyw?

Senario

Ar ôl i chi gwblhau eich addysg llawn amser, efallai y byddwch chi am ystyried ble yr hoffech chi fyw yn y dyfodol. Gall deall costau byw, cyfleoedd swyddi a phrisiau tai eich helpu i gynllunio ble y byddwch chi’n byw yn y dyfodol. Mae ystyried pa mor agos yw’ch cartref newydd i’ch gwaith yn ffactor pwysig, yn ogystal ag opsiynau o ran cludiant a chymudo. Ystyriwch a yw’r ardal yn addas i’ch ffordd o fyw – er enghraifft, chwiliwch am fwytai lleol os ydych chi’n mwynhau mynd allan am fwyd yn rheolaidd, neu gampfeydd os ydych chi’n hoffi gwneud ymarfer corff.

Awgryma ymchwil mai dyma’r chwe ffactor pwysicaf i’w hystyried:

1. Cyfleoedd gwaith

2. Fforddiadwyedd (e.e. prisiau tai)

3. Troseddu a diogelwch

4. Amwynderau – Siopau a chyfleusterau cyfagos

5. Agosrwydd at deulu a ffrindiau

6. Cymudo a chludiant

Mae dadansoddi data yn agwedd bwysig ar y gweithle a’n bywydau bob dydd. Mae cymaint o ddata ar gael i ni ac mae’n hanfodol ein bod yn gallu penderfynu beth sy’n berthnasol ac yn briodol.

7 Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch

Mae StatsCymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn llunio symiau helaeth o ystadegau a all eich helpu chi i wneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol. Defnyddiwch y lincs isod i weld y mathau o ddata sydd ar gael ar gyfer y ffactorau hyn.

Profi Sgiliau Penodol

2.2 – Cymhwyso dulliau i ddatrys problemau

cymhleth, gan gynnwys technegau ymchwil wedi’u canolbwyntio i gasglu gwybodaeth gynradd ac eilaidd.

2.7 – Llunio ymatebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn berswadiol ac yn argyhoeddiadol.

2.9 – Llunio barnau dilys a chasgliadau wedi’u rhesymu.

Tasgau

Dyma fap sy’n dangos rhanbarthau’r DU.

Tasg 1

Tasg 3

Tasg 2

Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch 8
YR UCHELDIROEDD GRAMPIAN TAYSIDE FIFE LOTHIAN STRATHCLYDE Y GORORAU DUMFRIES AND GALLOWAY SWYDD EFROG A GLANNAU HUMBER DWYRAIN CANOLBARTH LLOEGR DWYRAIN LLOEGR GORLLEWIN CANOLBARTH LLOEGR GOGLEDD CYMRU CANOLBARTH CYMRU DE CYMRU DE LLOEGR LLUNDAIN CANOLOG ANTRIM LONDONDERRY TYRONE ARMAGH DOWN GOGLEDD-DDWYRAIN LLOEGR GOGLEDDORLLEWIN LLOEGR DE-ORLLEWIN LLOEGR Cyfleoedd gwaith StatsCymru SYG Fforddiadwyedd SYG Mynegai Prisiau Tai Cymru Troseddu a diogelwch SYG StatsCymru

1. Dewiswch dri rhanbarth sy’n apelio atoch fel ardaloedd posibl i fyw a gweithio. Gwnewch ymchwil gan ddefnyddio SYG, StatsCymru ac unrhyw ffynonellau dibynadwy eraill o ddata eilaidd a sylfaenol am y canlynol:

• cyfleoedd gwaith (e.e. pa ddiwydiannau/swyddi sydd fwyaf cyffredin)

• fforddiadwyedd (e.e. prisiau cyfartalog tai yn y rhanbarth a chyfraddau cyflog cyfartalog ar gyfer y rhanbarth)

• cyfraddau troseddu (e.e. pa mor debygol ydyw y bydd troseddu yn effeithio arnoch, a pha droseddau sydd fwyaf cyffredin?)

• amwynderau (e.e. beth mae’r rhanbarth yn ei gynnig?)

• agosrwydd at deulu a ffrindiau (e.e. pa mor bell fyddai ffrindiau a theulu yn fras?)

• cymudo a chludiant (e.e. a oes trafnidiaeth gyhoeddus dda ar gael?).

Pa ffynonellau eraill o wybodaeth y gallwn i eu defnyddio i ddod o hyd i ddata eilaidd a sylfaenol?

2. Yn seiliedig ar y data a gasglwyd gennych, rhestrwch y ffactorau sy’n bwysig i chi er mwyn eich helpu i benderfynu pa un o’r tri rhanbarth rydych chi’n ei ffafrio. Gwnewch ddatganiadau dilys am y tri rhanbarth a lluniwch gasgliad rhesymegol i egluro eich penderfyniad.

Sut mae penderfynu pa ffactorau eraill sy’n bwysig i mi wrth benderfynu ar ardal bosibl i fyw ynddi?

3. Cyflwynwch y data a gasglwyd gennych mewn siartiau/graffiau/ diagramau a defnyddiwch nhw i greu ffeithlun darbwyllol ar y rhanbarth rydych chi wedi ei ddewis. Dylech gynnwys gwybodaeth weledol am y ffactorau sydd wedi llywio eich penderfyniad.

Sut mae dewis y siartiau/graffiau/diagramau mwyaf priodol i gyflwyno gwybodaeth?

9 Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch

Gweithgaredd Ymarfer Creadigrwydd ac Arloesi

Cyfle i fod yn hunangyflogedig

Senario

Mae trefi a dinasoedd ledled Cymru yn cael eu trawsnewid o ganlyniad i raglenni adfywio. Nod y rhaglenni adfywio hyn yw rhoi bywyd newydd i adeiladau, ardaloedd a chymunedau. Gall adeiladau adfeiliedig fod yn hyll, yn beryglus a denu troseddwyr, ond o gael eu trawsnewid, gallant ddod yn asedau cymunedol gwych.

Mae The Corporation yn Nhreganna, Caerdydd yn enghraifft o broject adfywio llwyddiannus. Fe’i hadeiladwyd yn 1889 fel tafarn a gwesty. Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2016, penderfynodd y trwyddedai beidio ag adnewyddu’r denantiaeth a chaewyd y drysau.

Fodd bynnag, mae’r adeilad nodedig hwn wedi’i adfywio! Mae’r perchennog wedi ei droi’n lleoliad ag unedau y gall pobl sy’n dymuno dechau eu busnesau eu hunain eu lesio.

Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch 10

Mae hunangyflogaeth yn gyfle cyffrous ac yn bwysig i economi Cymru. Mae nifer y bobl hunangyflogedig yng Nghymru wedi

cynyddu ac mae bron un o bob saith gweithiwr yng Nghymru yn hunangyflogedig erbyn hyn. Mae hunangyflogaeth yn cynnig nifer o fanteision. Mae gweithio i chi’ch hun yn golygu mai chi sy’n gwneud y penderfyniadau a bydd gennych chi’r rhyddid i wireddu

eich syniadau a phrofi boddhad hynny. Gallwch chi hefyd bennu eich oriau eich hun a all helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a gwella eich ansawdd bywyd cyffredinol. Gallwch chi ennill incwm llawer uwch drwy fod yn hunangyflogedig. Fodd bynnag, mae anfanteision hefyd. Ni fyddwch yn cael unrhyw fuddion cyflogai fel tâl salwch neu dâl gwyliau, ac os byddwch chi’n dechrau o ddim, gall eich incwm fod yn afreolaidd, ac efallai na fyddwch yn gwneud elw. Felly, fel entrepreneur, mae’n bwysig iawn eich bod chi’n meddwl am syniad ar gyfer busnes sy’n eich gwneud yn wahanol i fusnesau eraill, fel bod cwsmeriaid yn prynu eich cynhyrchion neu’ch gwasanaethau chi.

Mae perchennog newydd Corp Market (hen dafarn The Corporation) wedi trawsnewid y tu mewn i’r adeilad gan gynnal y ffasâd hanesyddol. Mae wedi creu 24 o unedau y gall pobl eu defnyddio i redeg eu busnesau eu hunain. Mae pob uned yn 4m x 3m o led ac yn cynnwys drws a wal metel â rhwyllau er mwyn i gwsmeriaid allu gweld i mewn. Ymhlith y busnesau sy’n masnachu yn Corp Market mae siop barbwr, siop lyfrau a chaffi.

Siop barbwr

11 Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
Siop lyfrau a chaffi

Profi Sgiliau Penodol

Creadigrwydd ac Arloesi

3.1 – Cynhyrchu syniadau yn annibynnol.

3.2 – Cydweithio wrth feddwl yn greadigol a chynhyrchu syniadau newydd drwy rannu, lledaenu ac adeiladu ar y cydweithio hwnnw.

3.3 – Creu cysylltiadau rhwng gwahanol wybodaeth i gefnogi deilliannau.

3.4 – Defnyddio meddwl creadigol i ddadansoddi gwybodaeth a syniadau.

3.5 – Ystyried ymarferoldeb rhoi syniadau a chanlyniadau ar waith.

3.6 – Cyfiawnhau pam y cafodd y syniad mwyaf priodol ei ddethol drwy gymhwyso technegau gwneud

penderfyniadau gwrthrychol, gan gynnwys safbwyntiau eraill lle y bo’n briodol.

3.8 – Datblygu dulliau cyfathrebu arloesol sy’n briodol i’r gynulleidfa.

Meini Prawf

Tasg 1

Tasg 3

Tasg 5

Tasg 1

Tasg 5

Tasg 3

Tasg 5

Tasg 2/3 (yn fras)

Tasg 2

Tasg 6

Rydych chi wedi cael y cyfle i lesio un o’r unedau hyn ond mae angen syniad busnes dichonadwy arnoch. Mae amodau i lesio uned. Rhaid i’ch syniadau:

• fod yn gysylltiedig â Chymru

• cynnig rhywbeth gwahanol i fusnesau tebyg eraill rydych chi’n ymwybodol ohonynt

• cynnwys costau cychwynnol nad ydynt yn fwy na £5000.

Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch 12

Tasgau

1. Meddyliwch am bedwar syniad busnes o leiaf. Disgrifiwch y syniadau a sut maen nhw’n bodloni pob maen prawf. Cydweithiwch ag eraill i gasglu adborth ar eich syniadau.

Pa dechnegau y gallwn i eu defnyddio i feddwl am syniadau?

Sut y gallaf gasglu adborth?

2. Defnyddiwch dechnegau gwneud penderfyniadau priodol i ddewis a chyfiawnhau’r syniad rydych chi’n ei ffafrio, ac ystyriwch ddichonoldeb eich cynnig busnes.

Pa dechnegau gwneud penderfyniadau allai fod yn ddefnyddiol? Er enghraifft, SODAS, SWOT.

3. Datblygwch eich cynnig drwy feddwl am enw busnes, dyluniad cynllun a disgrifiad ar gyfer yr uned. Rhannwch eich enw, eich dyluniad cynllun a’ch disgrifiad ag aelod arall o’r dosbarth. Ymatebwch i’r adborth a gwnewch newidiadau.

4. Siaradwch ag aelodau eraill o’ch dosbarth. Gofynnwch iddynt am y cynnig y maen nhw wedi ei ddewis ar gyfer un o’r unedau a dywedwch wrthynt am eich cynnig chi. Pan fyddwch chi wedi siarad ag o leiaf pum person arall, dewiswch un ohonynt i gydweithio ag ef i gwblhau Tasgau 5 a 6.

5. Fel pâr, trafodwch sut y gallech chi gyfuno eich syniadau mewn ffordd arloesol er mwyn annog cwsmeriaid i siopa a gwario arian yn y ddwy uned. Defnyddiwch dechnegau cydweithredol ar gyfer meddwl yn greadigol i adeiladu ar syniadau a dadansoddi cyfleoedd. A allech chi gynnig gostyngiadau, hyrwyddiadau, digwyddiadau ar y cyd neu

13 Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch

gyfuno’r hyn rydych yn ei werthu? Er enghraifft, gallai’r siop lyfrau

gynnal digwyddiadau fel darllen llyfrau i gynulleidfa neu gallai’r caffi

gynnig diodydd a byrbrydau i gwsmeriaid y siop barbwr tra bydd eu

gwallt yn cael ei dorri.

Pa dechnegau cydweithredol ar gyfer meddwl yn greadigol y gallech chi eu defnyddio?

6. Datblygwch ddeunydd cyfathrebu arloesol sy’n hysbysebu eich syniad ar gyfer Tasg 5.

Pa fathau o ddeunydd cyfathrebu arloesol y gallwn i eu defnyddio?

Sut mae’n arloesi?

Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch 14
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.