RHIFYN 10
Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi Croesawu Digwyddiadau’n ôl i Met Caerdydd Ar ôl 18 mis hir, rydym yn hynod falch o ddechrau croesawu cleientiaid yn ôl i Met Caerdydd. Ym mis Gorffennaf, cynhaliwyd Rownd Derfynol Genedlaethol y Criw Mentrus gennym. Er nad oedd modd
i’r cystadleuwyr ysgol gynradd fynychu yn y cnawd eleni eto, roedd hi’n wych gweld Cazbah, Syniadau Mawr Cymru, Buffoon Media, a'r tîm i gyd yn cydweithio i greu digwyddiad ffrwd byw mor gyffrous ar gyfer mwy na 100 o blant ysgol gynradd o bob cwr o Gymru.
Gan ein bod ni’n Brifysgol sy'n canolbwyntio ar amrywiaeth a chynwysoldeb, fe wnaethom groesawu diwrnod ymgysylltu B.A.M.E. Heddlu De Cymru i gampws Llandaf â balchder ym mis Gorffennaf. Mynychwyd y diwrnod gan ddeg ar hugain o gynrychiolwyr a gweiniwyd pecyn bwyd bag brown yn yr awyr agored ar ardal patio yr Atriwm. Ym mis Hydref, fe wnaethom gynnal Diwrnod Datblygu Merched CyberFirst ar Gampws Llandaf. Gan mai digwyddiad ychydig yn fwy oedd hwn y’i cynhaliwyd dros y penwythnos, fe’i defnyddiwyd gan y brifysgol fel digwyddiad peilot i brofi'r protocolau Covid ychwanegol sydd wedi’u rhoi ar waith i sicrhau diogelwch ein myfyrwyr, ein staff a'n hymwelwyr. Bu’r digwyddiad yn llwyddiant mawr ac fe wnaeth y myfyrwyr ifanc a fynychodd fwynhau’r cyfle i dreulio eu diwrnod yn dysgu mewn amgylchedd prifysgol uwch-dechnoleg. Ers mis Medi, rydym hefyd wedi dechrau croesawu plant lleol o gymunedau Tsieineaidd a Phwylaidd
yn ôl ar gyfer dosbarthiadau penwythnos, yn ogystal â chleientiaid newydd a rheolaidd eraill i ddefnyddio’n hystafelloedd cynadledda pwrpasol a chynnal digwyddiadau gyda'r nos ar gampws
Cyncoed a Llandaf. Rydym wedi gweld eisiau ein cleientiaid yn fawr felly mae hi wedi bod yn wych i weithio gyda busnesau lleol a'r gymuned, a'u cefnogi, unwaith eto.
01