RHIFYN 1
Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi Ystafelloedd gynadledda ar eu newydd wedd Wyddech chi fod ein tair Ystafell Gynadledda yng Nghyncoed wedi cael eu hadnewyddu'n ddiweddar? Mae'r lliwiau gwyrdd leim a llwyd llechen yn adlewyrchu cefn gwlad Cymru. Gyda dodrefn cyfforddus a modern a chyfleusterau clyweledol pwrpasol, mae'r ystafelloedd yn
cynnig y lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal cyfarfod proffesiynol. Mae'r gofod hyblyg yn cynnig lle i 80 o bobl ar ffurf theatr gyda thafluniad dwbl. Os ydych yn cynllunio cynhadledd neu ddigwyddiad proffil uchel eleni, beth am archebu un o'n Hystafelloedd Cynadledda newydd?
Cymerwch gipolwg yma neu cysylltwch â ni i drafod eich digwyddiad.
Awgrym ar gyfer cynllunio cynhadledd: Bydd lefelau egni'r cynadleddwyr yn codi ac yn disgyn drwy gydol y diwrnod. Ewch ati i wella cyfranogiad cynadleddwyr drwy gynnwys gweithgareddau i dorri'r iâ ar ddechrau'r cyfarfod a gweithgareddau i roi hwb i lefelau egni ar ôl cinio.
Lawrlwythwch ein rhestr wirio ar gyfer digwyddiadau yma.
Mynd allan i'r byd Rydym wedi cynnal ymgyrch farchnata gref eleni drwy fynychu arddangosfeydd, cynnal diwrnod agored, gwella ein strategaeth cyfryngau cymdeithasol a gweithio gyda'r diwydiant twristiaeth yng Nghaerdydd a Croeso Cymru. Gwnaeth 370 o bobl hoffi ein tudalen Facebook yn ystod ei blwyddyn
gyntaf ac mae gennym dros 560 o ddilynwyr ar Twitter. Mae'r Tîm Cynadleddau wedi bod yn gweithio'n galed i ddenu ymwelwyr allanol ychwanegol i'r brifysgol a chodi proffil yr adran drwy ei wasanaeth cwsmeriaid ardderchog a gweithgareddau gwerthu a marchnata ychwanegol.
Cipolwg ar ddigwyddiadau 2016
Awgrym ar gyfer cyfryngau cymdeithasol:
Ystyriwch ddefnyddio 'rhestrau' ac 'analyteg' i fynd i'r afael â'ch methiannau a'ch llwyddiannau. A chofiwch fod eich sianeli cyfryngau cymdeithasol yn beiriannau chwilio pwerus.
Cynhadledd Flynyddol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Cyfarfod Blynyddol yr Eglwys yng Nghymru Ras De Cymru 2016 Cynhadledd Flynyddol y Sefydliad Hyfforddiant Tylino Cynhadledd ac Arddangosfa Feddygol MediConf UK Confensiwn Addysg Uwch UCAS Cynhadledd Ymgysylltu â'r Gymuned Ysgol Iaith Breswyl Ryngwladol
01