Rhifyn 6
Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi Digwyddiadau Iechyd, Lles a Meddygol Roedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch o gael ei dewis i gynnal “Cyfarfod Rhwydwaith Prifysgolion a Cholegau Iach Cymru Gyfan” yn adeilad yr Ysgol Reoli ar 24 Ionawr 2018. Bu’r Tîm Cynadleddau’n gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau digwyddiad llwyddiannus a gafodd adborth gwych gan y trefnydd a’r cynrychiolwyr. Mae gan Gynadleddau Met Caerdydd gysylltiad tymor hir ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Public Health England, gyda’r sefydliadau hyn yn llogi cyfleusterau a chynnal amryw o ddigwyddiadau yma bob blwyddyn.
Dros y 12 mis diwethaf, mae Cynadleddau Met Caerdydd wedi croesawu dros 1,200 o weithwyr meddygol proffesiynol i’r brifysgol ar benwythnosau i fynd i arddangosfeydd a darlithoedd a gynhaliwyd Mediconf UK. MediConf UK yw un o’r darparwyr addysg gofal sylfaenol sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae’r Tîm Cynadleddau wedi gweithio’n agos gyda Mediconf UK dros y 10 mlynedd diwethaf, ac mae nifer y digwyddiadau wedi cynyddu’n sylweddol bob blwyddyn. Mae thema’r darlithoedd yn newid ar gyfer pob digwyddiad, gan amrywio o Asthma i Iechyd Menywod. Yr un fath â phob digwyddiad a gynhelir ar y campws, mae aelod o’r tîm cynadleddau’n bresennol i gyfarch trefnwyr, arddangoswyr a chynrychiolwyr ac i helpu i sicrhau bod pob agwedd ar y digwyddiad yn rhedeg yn esmwyth.
“Mae’n bleser gweithio gyda’r Tîm Cynadleddau bob amser; maen nhw’n broffesiynol ac yn barod i helpu.”
MediConf UK
“Hoffem ddiolch yn fawr i chi a’ch staff am y trefniadau rhagorol cyn ac ar y diwrnod. Roedd yr adborth gan gynrychiolwyr yn gadarnhaol iawn ac roedd y cinio’n flasus dros ben. Yn sicr, byddwn yn ystyried defnyddio’ch gwasanaethau cynadledda eto ar gyfer digwyddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y dyfodol.”
Iechyd Cyhoeddus Cymru
01