RHIFYN 5
Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi Digwyddiadau Diweddar - CyberFirst Ym Mai 2016, lansiwyd CyberFirst sy’n rhan allweddol o Raglen Seiberddiogelwch Cenedlaethol llywodraeth y DU. Mewn cydweithrediad â Phencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU ac ymddiriedolaeth Smallpiece, mae QA yn datblygu ac yn darparu amrywiaeth gyffrous o ddigwyddiadau hyfforddi ar seiberddiogelwch i bobl ifanc mewn prifysgolion a cholegau ledled y DU. Yn ystod haf 2017 cynhaliodd Met Caerdydd dri digwyddiad hyfforddi preswyl llwyddiannus gan groesawu dros 150 o fyfyrwyr i gyrsiau Defenders, Futures ac Advanced CyberFirst. Roedd nifer o bartneriaid o’r diwydiant yn cyfrannu at y cyrsiau gan gynnwys siaradwyr o’r Weinyddiaeth Amddiffyn, CyberSecurity Challenge, Cisco, BeCrypt a BAE.
eu diddordeb yn y maes yn ystod addysg bellach, mewn pynciau megis Cyfrifiadureg, ac yn y pen draw i ddilyn gyrfaoedd ym maes seiberddiogelwch. Yn yr hirdymor, y bwriad yw llenwi’r bwlch sgiliau ym maes seiberddiogelwch yn y DU.
Roedd pob cwrs yn para 4 i 5 niwrnod ac yn targedu disgyblion 14-17 oed i ennyn
Mae Met Caerdydd yn edrych ymlaen at groesawu CyberFirst nôl ym mis Ionawr.
Yr Eglwys Bresbyteraidd
“Roedd yr holl drefniadau’n dda iawn gyda chymorth cyfeillgar ac effeithlon y staff cynadledda ac arlwyo.” Yr Eglwys Bresbyteraidd
Fe fydd CyberFirst yn rhedeg y cyrsiau haf unwaith eto flwyddyn nesaf. Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau, e-bostiwch cyberfirst@smallpeicetrust.org.uk “88% o fyfyrwyr yn ystyried y lleoliad yn Dda neu’n Ardderchog”
Ym mis Gorffennaf, croesawodd Met Caerdydd dros 120 o bobol o bob cwr o Gymru i gynhadledd breswyl Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Parodd y digwyddiad am ddeuddydd a chynhaliwyd sesiynau llawn a chyfarfodydd llai ynghyd â stondinau a siopau llyfrau. Roedd brecwast llawn, cinio bwffe a phrydau 3 chwrs min nos yn cael eu darparu ym mwyty K1 a darparwyd llety yn ein hystafelloedd en-suite newydd sydd gerllaw’r ystafell gynadledda. Roedd wynebau llawen y grŵp wedi llonni ein boreau gyda chytgord eu sesiynau addoli boreol. Gan mai siaradwyr Cymraeg yn bennaf oedd aelodau’r grŵp, gyda dwy ran o dair o’u heglwysi’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, roedd y tîm cynadledda yn falch o’r cyfle i ymarfer eu Cymraeg!
01