RHIFYN 8
Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi Met Caerdydd Yn Profi’n Lleoliad Poblogaidd fel Canolfan Arholiadau Gyda'i hystod eang o leoedd hyblyg gan gynnwys neuaddau ac ystafelloedd dosbarth, nid oes amheuaeth nad yw Met Caerdydd yn ddewis lleoliad poblogaidd i gynnal arholiadau. Ar hyn o bryd mae Cynadledda Met Caerdydd yn gweithio gyda nifer o gwmnïau i weithredu fel lleoliad canolfan arholiadau gan gynnwys Coleg Rheolaeth Ystadau'r Brifysgol (UCEM), Y Brifysgol Agored, Trade Skills 4U, Y Sefydliad Yswiriant Siartredig, Cymdeithas Optegwyr Dosbarthu Prydain a’r Celtic English Academy.
“Mae’n bleser gweithio gyda Clare a’r tîm Gwasanaethau Cynadledda oherwydd eu cymorth cyfeillgar a phroffesiynol. Maen nhw'n mynd yr ail filltir drwy ragweld eich anghenion a gwneud awgrymiadau defnyddiol. Diolch yn fawr! ” Celtic English Academy
Astudiaeth Achos: Celtic English Academy Celtic English Academy (CEA), sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd, yw'r ganolfan arholiadau Prawf Saesneg Galwedigaethol (OET) awdurdodedig gyntaf ac ar hyn o bryd yr unig un yng Nghymru. Mae OET yn gymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol i helpu siaradwyr Saesneg anfrodorol i gofrestru ac ymarfer yn sector gofal iechyd y DU ac amgylcheddau Saesneg eraill. Mae CEA wedi gweithio mewn partneriaeth â Chynadledda Met Caerdydd i gyflwyno'r arholiadau OET misol yn y Brifysgol. Mae diwrnod yr arholiad naill ai'n ddydd Sadwrn neu'n ddydd Sul ac yn cynnwys defnyddio sawl ystafell ar gyfer gwrando, darllen a phrofion ysgrifenedig, yn y bore ac yna ystafelloedd unigol, i bob ymgeisydd, i sefyll y prawf siarad yn y prynhawn. Mae'r holl ystafelloedd hyn yn cydymffurfio â rheoliadau caeth arholiadau OET. Ategir yr ystafelloedd arholiad gan dderbynfa, mannau derbyn, aros a chofrestru / cadw cotiau. Mae sylw arbennig yn cael ei roi i ganolbwyntio ar wneud y profiad arholiad yn bleserus ac yn rhydd o straen, trwy ‘roi pobl, nid y broses, yn gyntaf’. Gwahoddir ymgeiswyr ac unrhyw un sy'n dod gyda nhw i ddod â'u lluniaeth eu hunain yn ogystal â chael gwybod am y gwasanaethau Ffreutur a ddarperir gan y siop goffi ‘Yr Oriel’ ar y campws. Rydym wedi cydweithio, i gefnogi 183 o ymgeiswyr hyd yn hyn, gyda boddhad o 100%! Yn wir, ar gyfartaledd, rydym wedi mwy na dwblu meincnod y DU ac Iwerddon.
“Diolch yn fawr am yr holl help a chefnogaeth rydych chi a'ch cydweithwyr wedi'u rhoi i mi dros yr wythnos ddiwethaf. Mae pawb wedi bod mor gyfeillgar a chymwynasgar gan helpu i wneud y 'swydd' yn llawer haws a mwy pleserus.” Y Brifysgol Agored
01