Conference Services 2018 Wesh

Page 1

RHIFYN 7

Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi Digwyddiadau Diweddar - 'Connect More' yng Nghymru Roedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch iawn o groesawu a chymryd rhan yn nigwyddiad 'Connect More' yng Nghymru dan y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth (Jisc) ar Gampws Llandaf ym mis Gorffennaf. Roedd y sesiwn undydd yn canolbwyntio ar gefnogi ymarferwyr, athrawon, llyfrgellwyr ac ymgynghorwyr ym maes addysg uwch a phellach y DU i ffynnu yn y byd digidol. Cafodd y cynrychiolwyr gyfle i ymwneud â chymheiriaid, cyfnewid arferion da, a chanfod sut i fanteisio i'r eithaf ar gymorth a chyngor ymarferol Jisc, bargeinion y sector a gwasanaethau cyffredin. Roedd y diwrnod yn cynnwys sesiynau llawn yn ein darlithfa fawr, gweithdai yn yr Ystafell Groeso ac ystafelloedd cyfagos ac arddangosfeydd Digilab yn yr Atriwm. Roedd Met Caerdydd yn falch o gyfrannu i'r agenda gyda'n Cyfarwyddwr Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth, Paul Riley, yn estyn y

croeso ac yn siarad am strategaethau digidol gyda'r newyddion diweddaraf am Ysgol Technolegau newydd Met Caerdydd. Yn ogystal â chroesawu dros 100 o gynrychiolwyr i'r achlysur, roedden ni'n hynod falch o gael cwmni dau robot sy'n rhan o dîm Jisc, sef Poppy ac Elfie, oedd ar gael i ddiddanu a darparu gwybodaeth i'r cynrychiolwyr drwy gydol y dydd.

“Cynhaliodd JISC ei chyfarfod ‘Connect More’ yng Nghymru ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd eleni ac roeddent wrth eu bodd gyda’r dewis o leoliad. Mae’r gofod yn un modern iawn ac yn cynnwys yr holl gyfleusterau a oedd angen arnom i gynnal digwyddiad llwyddiannus. Darparodd Eva a thîm y lleoliad cymorth rhagorol cyn ac yn ystod y digwyddiad. Mae’r adborth a gasglwyd gan aelodau yn cefnogi hyn.” Jisc

Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Atal Dweud Prydain Ar ddiwedd Awst roedd yn bleser croesawu dros 150 o gynrychiolwyr preswyl i Gynhadledd Flynyddol Genedlaethol Cymdeithas Atal Dweud Prydain (British Stammering Association - BSA). Roedd y cynrychiolwyr yn lletya ar gampws Cyncoed Met Caerdydd am ddwy noson ac yn cymryd rhan mewn amrediad o ddathliadau i ddathlu 40fed penblwydd BSA. Ymhlith y digwyddiadau roedd sgyrsiau gan westeion arbennig, ynghyd â gweithdai rhyngweithiol, gan gynnig sgiliau a chefnogaeth werthfawr i'r gymuned sydd ag atal dweud arnyn nhw. Roedd y gynhadledd hefyd yn cynnwys gweithgareddau creadigol a cherddorol i blant ynghyd ag arddangosfa gelf agored gyntaf BSA.

“Hoffem ddiolch i dîm cynadledda Met Caerdydd am yr holl gymorth a chefnogaeth wrth gynnal ein cynhadledd fwyaf llwyddiannus erioed. Roedd y tîm yn gefnogol cyn ac yn ystod y gynhadledd, Nid oedd unrhyw beth yn ormod o drafferth; gofal cwsmeriaid o’r radd flaenaf! Dywedodd cyfranogwyr bod y cyfleusterau yn rhagorol. Gallwn argymell Prifysgol Met Caerdydd yn gryf fel lleoliad cynadleddau.” BSA

01


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.