Undeb bangor councillor elections guide 17 18 cymraeg

Page 1

Canllawiau Etholiadau Cynghorwyr Undeb Bangor Rhagarweiniad Mae'n wych bod gennych ddiddordeb mewn dod yn Gynghorydd Undeb Bangor. Bydd y canllawiau hyn yn esbonio popeth rydych angen ei wybod am yr hyn sydd arnoch angen ei wneud i sefyll fel Cynghorydd Undeb Bangor, yn ogystal â'r rheolau a'r rheoliadau sy'n sail i broses Etholiadau Undeb Bangor. Beth yw Cynghorydd Undeb Bangor? Yn fyr, caiff Cynghorwyr Undeb Bangor eu hethol gan eu cyfoedion i eistedd ar Gyngor Undeb Bangor (CUB) a chynrychioli barn eu cyd-fyfyrwyr. Cânt drafod y syniadau a'r polisïau a ddaw i Gyngor Undeb Bangor, a phleidleisio arnynt. Mae hyn yn eu galluogi i gael rhoi eu barn ar ba brojectau a chynlluniau y bydd yr Undeb yn gweithio arnynt dros y flwyddyn, yn ogystal â safiad yr Undeb ar faterion sy'n bwysig i fyfyrwyr. Am fwy o wybodaeth am swyddogaeth Cynghorydd Undeb Bangor, dylech ddarllen y “Canllawiau Byr i fod yn Gynghorydd Undeb Bangor” yma. Cewch ddisgrifiadau swyddi llawn ar gyfer pob swydd Cynghorydd yn www.undebbangor.com/ubcelections. Pwy all fod yn Gynghorydd Undeb Bangor? Mae gan unrhyw fyfyriwr gyfle i fod yn Gynghorydd Undeb Bangor. Y cyfan mae angen i chi ei wneud yw enwebu eich hun ar-lein o fewn y cyfnod enwebu, ac yna cael myfyrwyr i bleidleisio i chi pan ddaw'r amser. Rydym yn darparu rhaglen hyfforddiant lawn a chynhwysfawr i bawb a etholir ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol. Er mwyn bod yn llwyddiannus yn unrhyw un o'r swyddi uchod yr hyn sydd ei angen yw gallu cynnig syniadau a chreadigrwydd, a dangos brwdfrydedd ac egni. Mae gennym hefyd dîm llawn o staff sy'n gweithio i gefnogi a datblygu'r myfyrwyr sy'n cymryd rhan. Cysylltiadau Allweddol a Swyddogion Etholiadau Os oes gennych gwestiynau dewch draw am sgwrs i Undeb Bangor ar 4ydd llawr Pontio, rhowch alwad i ni ar 01248 388000 neu anfonwch e-bost atom i elections@undebbangor.com. Isod, ceir rhai cysylltiadau allweddol eraill: Cysylltu Rob Samuel Cydlynydd Democratiaeth a Chynrychiolaeth Rob.samuel@undebbangor.com 01248 383651

Mair Rowlands Cyfarwyddwr Undeb Bangor a Dirprwy Swyddog Etholiad Mair.rowlands@undebbangor.com UCM Swyddog Etholiad

Cyfrifoldebau Yn gyfrifol am logisteg etholiadau a helpu i gael myfyrwyr i gymryd mwy o ran. Siaradwch gyda Rob os ydych chi am wybod mwy am sefyll fel ymgeisydd ar gyfer etholiad neu os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ystod yr ymgyrchoedd a'r cyfnod etholiadau. Bydd y Dirprwy Swyddog Etholiad yn goruchwylio a gweithredu proses yr etholiadau o ddydd i ddydd. Os oes rhywbeth yn aneglur gwiriwch y mater gyda'r person hwnnw cyn cymryd unrhyw gamau pellach. Er mwyn sicrhau bod ein hetholiadau'n dryloyw, yn deg ac yn ddemocrataidd rydym yn penodi rhywun allanol i oruchwylio dros bob etholiad ffurfiol Undeb Bangor. Y 1


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.