Is-ddeddf 14

Page 1

Passed GM 22/03/18 Cyfansoddiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor: Rhan 2 – Is-ddeddfau Is-ddeddf 14 – Cynrychiolaeth Myfyrwyr Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Cyngor Myfyrwyr ynghyd â’u gweithdrefnau. 1. Egwyddorion 1.1 Mae Cynrychiolwyr Cwrs (Course Reps) yn rhan hanfodol o system addysgiadol y Brifysgol. 1.2 Mae Cynrychiolwyr Cwrs yn darparu adborth ar gynnwys cyrsiau ac asesu, strwythur cyrsiau ac agwedd at addysgu/dysgu, a phrofiad academaidd cyffredinol eu cyd-fyfyrwyr. Gellir trosglwyddo’r adborth hwnnw ar Ysgolion, Colegau, Undeb Bangor, Pwyllgor staff a myfyrwyr ac at staff uwch y Brifysgol. 2. Etholiadau 2.1 Gall unrhyw fyfyriwr cofrestredig ym Mhrifysgol Bangor ethol eu hunain i fod yn Gynrychiolydd Cwrs. Gellir gwneud hynny trwy undebbangor.com. 2.2. Gall pob myfyriwr yn yr ysgol bleidleisio dros Gynrychiolwyr Cwrs. 2.3 Wedi’r etholiadau, bydd Undeb Bangor yn hysbysu’r myfyrwyr, a’r staff yn yr ysgolion priodol. 3. Cyfansoddiad y Cynrychiolwyr 3.1 Dylai nifer y Cynrychiolwyr Cwrs adlewyrchu maint yr ysgol, yn sicrhau bod yr holl fyfyrwyr o bob blwyddyn a chwrs yn cael eu cynrychioli. 3.2 Disgwylir, fel lleiafrif, y bydd y canlynol gan bob ysgol; 3.2.1 Un cynrychiolydd o bob blwyddyn astudiaeth israddedig 3.2.2 Un cynrychiolydd o raglenni dysgedig ôl-raddedig 3.2.3 Un cynrychiolydd o raglenni ymchwil ôl-raddedig. 4. Cyngor Cynrychiolwyr Cwrs 4.1. Bodola Cyngor Cynrychiolwyr Cwrs Undeb Bangor er mwyn: 4.1.1.Amlygu problemau a rhannu’r arferion gorau ar hyd y Brifysgol. 4.1.2.Gwella bywydau myfyrwyr trwy drafod â nhw a deall anghenion y myfyrwyr. 4.1.3.Bod yn lysgenhadon i Undeb Bangor, trafod a dadlau yng nghylch problemau a syniadau, a chreu prosiectau newydd. 4.1.4.Darparu cyfleoedd i’r Cynrychiolwyr Cwrs fagu gwybodaeth a sgiliau pellach. 4.1.5.Darparu cyfle i’r Cynrychiolwyr Cwrs i drafod â’i gilydd ar hyd y Brifysgol. 4.2 Is-lywydd Addysg fydd cadeirydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs. 4.3 Gwahoddir Cynrychiolwyr Cwrs i Gyngor y Cynrychiolwyr Cwrs a byddant yn derbyn cofnodion yn fuan wedi bob cyfarfod. 5. Cyfrifoldebau Undeb Bangor 5.1 Bydd Undeb Bangor yn darparu tudalennau penodol, gan gynnwys mynediad i’r adnoddau digidol ar y wefan ar gyfer y system Cynrychiolwyr Cwrs. 5.2 Bydd Undeb Bangor yn cyfathrebu gwybodaeth berthnasol ynglŷn â chyfarfodydd y Cynrychiolwyr Cwrs gyda’r Uwch Gynrychiolwyr, Cynrychiolwyr Cwrs ac Ysgolion fel sy’n briodol. 5.3 Bydd Undeb Bangor yn darparu llawlyfr electronig gyda gwybodaeth wedi’i diweddaru ar gyfer Uwch Gynrychiolwyr a Chynrychiolwyr Cwrs er mwyn rhoi cymorth i’r myfyrwyr yn y rolau hynny. Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws

Page 1 of 2


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.