Is-ddeddf 11

Page 1

Is-ddeddfau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) Is-ddeddf 11 – Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Cyngor Myfyrwyrynghyd â’u gweithdrefnau. Cyfeirir at yr ‘Undeb Cymraeg’ fel y’i diffinnir gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor fel Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) a caiff ei lywodraethu gan yr is-ddeddf hwn. 1.

2.

Aelodaeth 1.1

Bydd unrhyw fyfyriwr Prifysgol Bangor sy’n medru’r Gymraeg yn ôl rhestr myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dod yn aelod yn awtomatig. Yr aelodau hyn yn unig fydd â hawliau pleidleisio mewn cyfarfodydd cyffredinol, refferendwm neu etholiad o fewn UMCB.

1.2

Bydd hawl gan unrhyw aelod UMCB i dynnu eu haelodaeth yn ôl trwy roi hysbysiad ysgrifenedig i UMCB.

1.3

Gall unrhyw un sy’n medru’r Gymraeg neu’n dysgu’r iaith, neu sydd â diddordeb yn yr iaith a diwylliant Cymru ond nad ydynt ar restr siaradwyr Cymraeg y Brifysgol ymuno ag UMCB fel Aelodau Cysylltiol. Gellir ymuno fel Aelod Cysylltiol hyd at ddiwrnod cyntaf y cyfnod etholiadau ffurfiol.

1.4

Gall unrhyw un nad ydynt yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor sy’n medru’r Gymraeg neu’n dysgu’r iaith, neu sydd â diddordeb yn yr iaith a diwylliant Cymraeg ymuno fel Aelodau Cyswllt am £15 y flwyddyn neu bris arall wedi’i osod yng nghyfarfod cyffredinol UMCB ond ni fyddant yn aelodau o’r Undeb.

1.5

Ni all mwy na 25% o aelodau UMCB fod yn Aelodau Cyswllt. Ni fydd hawl gan Aelodau Cyswllt bleidleisio mewn cyfarfodydd cyffredinol, refferenda neu etholiadau UMCB.

Pwyllgor Gwaith UMCB 2.1

Yn seiliedig ar Erthygl 30.1 ac Erthygl 30.3 yr Undeb, bydd y Pwyllgor Gwaith yn gyfrifol am: 2.1.1

Lywodraethu UMCB;

2.1.2

Cyllido UMCB;

2.1.3

Strategaethau UMCB; a

2.1.4

Digwyddiadau cyffredinol UMCB.

2.2

Etholir y pwyllgor yn flynyddol yng Nghyfarfod Cyffredinol mis Mai, heblaw am gynrychiolydd y flwyddyn gyntaf a chynrychiolydd myfyrwyr cartref (caiff y rhain eu hethol yng nghyfarfod cyffredinol cyntaf y flwyddyn academaidd briodol).

2.3

Y canlynol yw’r swyddogion fydd yn aelodau o’r Pwyllgor Gwaith (14 safle): 2.3.1

Llywydd UMCB- Cadeirydd;

2.3.2

Llywydd JMJ;

Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Law 11 - UMCB

Page 1 of 6


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.