Is-ddedf 5

Page 1

Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau

Is-ddeddf 5 – Bwrdd Ymddiriedolwyr Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a y Cyngor Myfyrwyr ynghyd â’u gweithdrefnau. 1 1.1 1.2 1.3 2

Amcan, Strwythur a Dirprwyo Amlinellir amcan y Bwrdd Ymddiriedolwyr yn Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) Mae hawl gan yr Ymddiriedolwyr i strwythuro’u cyfarfodydd fel y mynnant, cyn belled â’u bod yn cyd-fynd â’r amodau yn yr Erthyglau Cymdeithasiad. Gall yr Ymddiriedolwyr ddirprwyo cyfrifoldeb gweithredol i staff priodol ac is-bwyllgorau fel y bod angen.

Penodiad Ymddiriedolwyr a Cyfnod yn y rôl Bydd Ymddiriedolwyr Lleyg yn cychwyn eu penodiad o ddyddiad eu derbyniad yn Cyngor Myfyrwyr ac yn parhau yn y rôl honno am gyfnod penodol fel yr amlinellir yn 23.2 a 24.2 yn yr Erthyglau Cymdeithasiad. 2.2 Cyfnod arferol Ymddiriedolwyr Swyddogion Sabothol ac Ymddiriedolwyr sy’n fyfyrwyr yw’r 1af o Orffennaf y flwyddyn cânt eu hethol hyd at y 30ain o Fehefin y flwyddyn ganlynol. 2.3 Os bo safle gwag ar gyfer Ymddiriedolwr o’r Swyddogion Sabothol neu o’r myfyrwyr, mae’n rhaid cynnal isetholiad gan ddilyn yr amodau a amlinellir yn yr is-ddeddf etholiadau. Bydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr yn penderfynu ar ddyddiad dechrau y penodiad a bydd yn gorffen ar yr un dyddiad â’r ymddiriedolwyr eraill. 2.1

3 Rôl, Cyfrifoldebau a Disgwyliadau’r Ymddiriedolwyr 3.1 Disgwylir i’r Ymddiriedolwyr: 3.1.1 Gynnal Amcan, Gweledigaeth a Moesau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) ar bob adeg. 3.1.2 Glynu at saith Egwyddor Nolan am Fywyd Cyhoeddus wrth weithredu eu gwaith: Anhunanoldeb, Unplygrwydd, Gwrthrychedd, Atebolrwydd, bod yn agored, Gonestrwydd ac Arweinyddiaeth. 3.1.3 Fynychu bob cyfarfod y Bwrdd Ymddiriedolwyr, ac is-bwyllgorau neu ddanfon ymddiheuriadau ysgrifenedig o flaen llaw. 3.1.4 Hyrwyddo gwaith, amcan a meddylfryd yr Undeb, gan gadw cyfrinachedd pan fo angen. 3.1.5 Ddarlunio, monitor ac asesu cyfeiriad strwythurol yr Undeb. 3.1.6 Fod â diddordeb gweithredol yn yr Undeb a sicrhau eu bod wedi’u paratoi a’u briffio’n addas er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus a fydd yn fuddiol i fyfyrwyr Bangor. 3.1.7 Gyfrannu tuag at ddatblygiad parhaol y Bwrdd Ymddiriedolwyr 3.1.8 Gyfranogi mewn gweithgareddau ychwanegol addas fel y penderfynir gan y Bwrdd Ymddiriedolwyr. 3.1.9 Sicrhau bod yr Undeb yn: cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol, defnyddio arian elusennol ac asedion yn unig er mwyn gwthio’r Undeb i gyrraedd ei amcanion, a sicrhau diddyledrwydd parhaol. 3.1.10 Gymryd camau addas er mwyn osgoi gweithgareddau a allai fod yn risg o ran asedau, adnoddau neu enw da’r Undeb. 3.2

Gwerthusiad Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr 3.2.1 Fel nodir yn yr Erthyglau Cymdeithasiad, mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am ddarparu gwerthusiad addas o Gyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr. 3.2.2 Arweinir gwerthusiad Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr gan y Llywydd â chefnogaeth ‘Is-bwyllgor Gwerthusiad Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr’, bydd ei aelodaeth yn cynnwys y Llywydd; Dirprwy Gadeirydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr a bydd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y Brifysgol hefyd yn bresennol. 3.2.3 Yn flynyddol, bydd ‘Is-bwyllgor Gwerthusiad Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr’ yn cynnig proses gwerthusiad i’w gymeradwyo yng nghyfarfod y Bwrdd Ymddiriedolwyr o flaen llaw cyn gweithredu’r broses gwerthusiad

University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws

Page 1 of 4


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.