Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Isddeddfau
Is-ddeddf 3 – Refferenda Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Cyngor Myfywyr ynghyd â’u gweithdrefnau. 1.
2.
Refferenda 1.1 Gellir galw refferenda er mwyn penderfynu ar unrhyw fater. Polisi 2.1
Gall y rhestr ganlynol alw am Refferendwm ar unrhyw fater: 2.1.1
cydran o Ymddiriedolwyr;
2.1.2
pleidlais fwyafrifol gan y Cyngor Myfyrwyr; neu
2.1.3
fel yr amlinellir yn Erthyglau 26.1 a 28.2.1, Deiseb Ddiogel wedi’i harwyddo gan, neu y cytunir bod, o leiaf 150 o Aelodau Myfyrwyr.
2.2
Fel yr amlinellir yn Erthyglau 26.1 a 28.2.1, er mwyn pasio penderfyniad mae’n rhaid i o leiaf 500 o Aelodau Myfyrwyr fwrw pleidlais a bod mwyafrif syml o’r pleidleisiau hynny’n cytuno â’r penderfyniad.
2.3
Cynhelir refferenda gan ddilyn yr Erthyglau a’r Is-ddeddfau.
2.4
Fel yr amlinellir yn Erthygl 30.3, gall yr Aelodau Myfyrwyr osod polisi yn sgil Refferendwm. Gall y polisi hwn ddod yn lle Polisi wedi’i osod gan y Cyngor Myfyrwyr a Pholisi gan yr Aelodau Myfyrwyr mewn cyfarfod Aelodau Myfyrwyr.
3.
Cyfrifoldebau 3.1 Y Swyddog sy’n dychwelyd, neu ei Ddirprwy, fydd yn gyfrifol am drefnu refferendwm.
4.
Trefn 4.1
5.
Y Swyddog sy’n dychwelyd bydd yn gyfrifol am ei dull o arwain a chydlynu’r refferendwm.
Cyhoeddi 5.1 Bydd y Swyddog sy’n dychwelyd yn cyhoeddi bod refferendwm wedi’i galw ynghyd â rheswm pam o fewn pum (5) diwrnod o’r galw. 5.2 Bydd y Swyddog sy’n dychwelyd yn: 5.2.1 Cyhoeddi’r cynnig a’r dyddiad(au) ar gyfer y refferendwm a dyddiad y cyfarfod. 5.2.2 Gofyn am gyngor gan Bwyllgor Gweithdrefnau Democrataidd pan ddaw at eirio’r cwestiwn caiff ei ofyn. 5.2.3 Trefnu cyhoeddi dwy ochr unrhyw ddadl ynghyd â’r cwestiwn. 5.2.4 Cyhoeddi’r cynnig a’r cwestiwn a hysbysebu dyddiadau’r pleidleisio ymhellach.
6. Pleidleisio 6.1 6.2 6.3
Bydd gan bob aelod yr hawl i bleidleisio. Fel arfer, bydd pleidleisio yn electronig. Dylai opsiynau’r pleidleisio galluogi’r aelodau i bleidleisio o blaid, yn erbyn neu ymatal eu pleidlais.
University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws
Page 1 of 2