Is-ddeddf 10

Page 1

Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau

Is-ddeddf 10 –Gweithdrefn Ddisgyblaethol Aelodau sy’n Fyfyrwyr ac Aelodau Gohebol Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Cyngor Myfyrwyr ynghyd â’u gweithdrefnau. At ddiben Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor), y broses hon fydd y Cod Ymddygiad. Amcan Gweithia Undeb Bangor yn ddi-ffael er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau, digwyddiadau a’n gofodau’n ddiogel ac yn hyrwyddo profiad cadarnhaol i bawb sy’n eu defnyddio. Er mwyn amddiffyn hynny mae Gweithdrefn Ddisgyblaethol gennym er mwyn cyfeirio at faterion o gamweinyddiad. Caiff y weithdrefn ei defnyddio er mwyn delio â gweithredoedd gan y canlynol:   

Aelodau Undeb Bangor Grwpiau Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor Aelodau Gohebol Undeb Bangor yn cyfranogi yng ngweithgareddau Undeb Bangor neu ddefnyddio gofodau Undeb Bangor.

Os cynhelir honiad o gamweinyddiad a darganfyddir eich bod chi neu’ch grŵp wedi ymddwyn yn anaddas byddwch yn derbyn rhybudd neu gosb. Mewn achosion pan dry at y Weithdrefn Ddisgyblaethol o ganlyniad i weithredoedd Grŵp Cyfleoedd Myfyrwyr, bydd yr arweinydd yn cynrychioli’r grŵp a chaiff unrhyw gosb ei rhoi i’r grŵp yn uniongyrchol neu arweinydd y grŵp yn y safle hwnnw ac nid yn erbyn myfyrwyr unigol. Ni ddylid defnyddio’r broses hon os taw gweithredoedd y canlynol sy’n cael eu hymchwilio:     

Etholiadau neu Refferenda Undeb Bangor (delir â rheini trwy Weithdrefn Cwynion Etholiadau a Refferenda Undeb Bangor) Staff sy’n fyfyrwyr neu gyflogedig Undeb Bangor (delir â rhain trwy Weithdrefnau HR Prifysgol Bangor) Ymddiriedolwyr o’r Swyddogion Sabothol neu Ymddiriedolwyr sy’n fyfyrwyr Undeb Bangor (delir â rhain trwy’r Weithdrefn Atebolrwydd Aelodau Etholedig) Allanol Undeb Bangor (delir â rhain trwy Is-ddeddf Bwrdd yr Ymddiriedolwyr) Cynghorwyr Undeb Bangor (delir â rhain trwy Weithdrefn Atebolrwydd Aelodau Etholedig Undeb Bangor)

Am fwy o wybodaeth ac i ddarllen polisïau a gweithdrefnau ewch i’n gwefan www.undebbangor.com Cymorth Gall bod yn destun i ymchwiliad disgyblaethol fod yn gyfnod anodd i’r rheiny sy’n gysylltiedig. Sicrhawn fod unrhyw ymchwiliad yn gyfrinachgar, ac wedi’i gweithredu â gofal ac ystyriaeth. Bydd Undeb Bangor yn sicrhau bod pob cam o’r ymchwiliad yn dilyn polisïau a gweithdrefnau Undeb Bangor. Camweinyddiad Fel arfer, cyfeiria camweinyddiad at:      

Ymddygiad anghymdeithasol Defnyddio neu ddosbarthu sylweddau anghyfreithlon Torri polisi neu weithdrefnau Undeb Bangor Lladrata Ymddygiad a all niweidio enw da Gweithgaredd troseddol arall sy’n ymwneud â gweithgaredd, gofodau neu bobl Undeb Bangor.

University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws

Page 1 of 4


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.