Is-ddeddfau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) Is-ddeddf 11 - Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) Mae'r is-ddeddf hon yn eiddo Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a gall y Bwrdd hwnnw a Chyngor Undeb Bangor wneud newidiadau iddi, yn unol â'u gweithdrefnau. Cyfeirir at yr 'Undeb Cymraeg' fel y diffinnir yn Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor fel Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) a chaiff ei lywodraethu gan yr is-ddeddf hon. 1.
2.
Aelodaeth 1.1
Bydd unrhyw fyfyriwr Prifysgol Bangor sy'n siarad Cymraeg yn ôl rhestr o'r cyfryw fyfyrwyr a gedwir gan Brifysgol Bangor yn dod yn Aelod yn awtomatig. Yr aelodau hyn yn unig fydd â'r hawl i bleidleisio mewn unrhyw gyfarfod cyffredinol, refferendwm neu etholiad yn UMCB.
1.2
Bydd gan bawb sy'n aelodau o UMCB hawl i eithrio o fod yn aelod o UMCB drwy roi gwybod yn ysgrifenedig i UMCB.
1.3
Gall unrhyw fyfyriwr a all siarad Cymraeg neu sy'n dysgu Cymraeg, neu sydd â diddordeb yn yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig, ond nad ydyw ar y rhestr o siaradwyr Cymraeg a gedwir gan Brifysgol Bangor, hefyd ymuno gydag UMCB fel Aelodau Cysylltiol. Gellir rhoi Aelodaeth Gyswllt hyd at ddiwrnod cyntaf y cyfnod enwebu etholiadau ffurfiol.
1.4
Gall unigolion nad ydynt yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, a all siarad Cymraeg neu sy'n dysgu Cymraeg, neu sydd â diddordeb yn yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig, hefyd ymuno gydag UMCB am £15 y flwyddyn fel Aelodau Cysylltiol, neu'r cyfryw swm arall a nodir mewn cyfarfodydd cyffredinol UMCB, ond ni fyddant yn dod yn aelodau o'r Undeb.
1.5
Ni all mwy na 25% o aelodau UMCB fod yn aelodau cysylltiol. Ni fydd gan Aelodau Cysylltiol hawl i bleidleisio yng nghyfarfodydd cyffredinol, refferenda nac etholiadau UMCB.
Pwyllgor Gwaith UMCB 2.1
Bydd Erthygl 30.1 ac Erthygl 30.3 yr Undeb yn berthnasol i'r Pwyllgor Gwaith, a bydd yn gyfrifol am y canlynol: 2.1.1
llywodraethu UMCB;
2.1.2
cyllideb UMCB;
2.1.3
strategaeth UMCB;
2.1.4
a'i weithgarwch cyffredinol.
2.2
Caiff y pwyllgor ei ethol yn flynyddol yng Nghyfarfod Cyffredinol Mai, ac eithrio dwy swydd, sef cynrychiolydd blwyddyn gyntaf a chynrychiolwyr cartref, a gaiff eu hethol yng Nghyfarfod Cyffredinol Hydref ar ddechrau'r flwyddyn.
2.3
Mae'r canlynol yn swyddogion ar y Pwyllgor Gwaith (14 swydd): 2.3.1
Llywydd UMCB a fydd yn gweithredu fel cadeirydd;
Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddf 11 - UMCB
Tudalen 1 o 7