BANGOR UNIVERSITY UCU STATEMENT

Page 1

Datganiad UCU Bangor, 17/11/2022

Bangor UCU Statement, 17/11/2022

Bydd aelodau UCU yma ym Mangor yn mynd allan ar streic am dridiau, ar y 24ain, 25ain a 30ain o Dachwedd. Rydym wedi meddwl yn hir ac yn galed cyn penderfynu gwneud hyn, ac yn sylweddoli ei fod yn mynd i gael effaith negyddol ar addysg ein myfyrwyr. Ond teimlwn fod y materion yn rhy bwysig i’w hanwybyddu, a bod angen inni weithredu er lles y sector addysg uwch cyfan. Rydyn ni'n brwydro dros ein amodau gwaith ein hunain, ond rydyn ni hefyd yn brwydro drosoch chi a'ch addysg.

UCU members here at Bangor will be going out on strike for three days, on the 24th, 25th and 30th of November. We have thought long and hard before deciding to do this, and realise that it is going to have a negative impact on our students’ education. But we feel that the issues are too important to ignore, and that we need to take action for the good of the entire higher education sector. We are standing up for ourselves, but are also standing up for you and your education.

Nid yw ein haelodau wedi cael codiad cyflog mewn termau real ers dros ddegawd. Pe bai cyflogau wedi cadw i fyny â chwyddiant, byddem yn ennill 25% yn fwy na'r hyn yr ydym yn ei ennill ar hyn o bryd. Mae’r argyfwng costau byw yn brathu, ac mae ein haelodau – fel pawb arall – yn poeni am effaith prisiau cynyddol bwyd, tanwydd a thrafnidiaeth.

Our members haven’t had a real-terms pay increase in over a decade. If pay had kept up with inflation, we would be earning 25% more than what we currently earn. The cost of living crisis is biting, and our members – like everyone else – are worried about the impact of rising prices of food, fuel and transport.

Ers 2020 rydym hefyd wedi gweld gwerth ein pensiynau yn gostwng yn ddramatig. Mae staff o dan 40 oed wedi gweld rhwng £100,000 a £200,000 wedi'u dileu o'u hincwm ar ôl iddyn nhw ymddeol. Mae'n aelodau'n gweithio'n galed nawr, gan ddisgwyl y byddan nhw'n gallu cynnal eu hunain ar ôl ymddeol. Oherwydd newidiadau diweddar i'r cynllun pensiwn, a orfodwyd ar aelodau UCU, efallai na fydd hyn yn wir. Ond mae'r streic hon yn ymwneud â mwy na chyflog a phensiynau. Mae llawer o brifysgolion y DU yn dibynnu ar staff rhanamser, yn gweithio ar gontractau cyfnod penodol neu hyd yn oed dim oriau, i ddarparu addysgu, i gefnogi ymchwil, ac i ddarparu gwasanaethau rheng flaen i fyfyrwyr. Mae'r aelodau hyn o UCU yn aml yn gorfod chwilio am un swydd tymor byr

Since 2020 we have also seen the value of our pensions fall dramatically. Staff under 40 have seen between £100,000 and £200,000 wiped from their retirement income. Members are working hard now, with the expectation that they will be able to provide for themselves after retirement. Because of recent changes to the pension scheme, forced on UCU members, this may no longer be the case. But this strike is about more than pay and pensions. Many UK universities rely on part-time staff, working on fixed-term or even zero-hours contracts, to deliver teaching, support research, and provide front-line services to students. These UCU members are often forced to chase one short-term job after another, living stressful, precarious existences.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.