Student Forum Sem 2 Agenda Cym (1)

Page 1


Agenda Fforwm Myfyrwyr 9/4/25

Cyflwyniad – Esboniad am bleidleisio a bleidleisio mynegol

Diweddariad Sabb bach – wedi’i son am isod

Diweddariad arweinwyr rhwydwaith – 2 funud yr un

Pynciau dadl syniadau a deisebau

Syniad / deiseb Gwybodaeth Effaith / nodiadau

Myfyrwyr yn galw am dryloywder o gwahaniadau prifysgol, ffioedd cymdeithasau ac hygyrchedd – Rose, Mya a Hollie

Fel myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn disgwyl i cael lefel digonol o wybodaeth ynglyn a sut mae ein cyllidau yn effeithio gweithgareddau, brifysgol a’r Undeb Myfyrwyr. Tra fod y brifysgol yn hawlio i fod yn ‘tryloyw’ gyda hysbysu staff a fyfyrwyr am ei cyllidau, mae yna anwaith pwrpasol o fanylder o gwmpas y faterion yma. Mae’r materion wedi’i nodi o fewn y deiseb yma yw y gwahaniadau o staff, yr anawsterau mewn hygyrchedd sy’n cael ei profi gan myfyrwyr anabl ac hefyd y ffioedd arfaethedig wedi ei rhoi ar clybiau a chymdeithasau oedd arfer bod am ddim.

Yn gyntaf, credwn bydd y newidadau arfaethedig i’r system aelodaeth yn cael effaith anghyfartal ar ar cymdeithasau llai ac hefyd clybiau chwaraeon ac athletau sydd fel arfer gyda ffioedd uwch. Mae pryder penodol ynlgyn a niferoedd aelodaeth gostyngol a’r effaith ariannol gall y newidiadau yma cael ar myfyrwyr gydag incwm isel. Yn syml, mae’r diffyg eglurder gan yr UM yn ei

Diweddariad cyffredinol gan Rose wedi’i ddilyn gan diweddariad i wneud gyda clybiau a chymdeithasau gan Mya a Hollie

Gofyn os mae’r Fforwm Myfyrwyr eisiau bleidleisio ar ddyl,sai Sabbs gweithio ar y faterion yma / ydy’r Fforwm eisiau’r sabbs i weithio ar hwn?

Pleidleisio i cael ei wneud ar y tri galwad yn unigol

cyhoeddiad o ffioedd aelodaeth cymdeithasau wedi achosu straen rhwng myfyrwyr a mae angen system tryloyw wedi’i ffurfio gan ymgonghori a fyfyrwyr.

 Galw am: Ffioedd isel (neu ddim) i fyfyrwyr a thryloywder ar gwariannau yr Undeb Myfyrwyr

 Hefyd, hoffwn lleisio ein pryderon ynglyn a’r gwahaniadau gwifoddol ac anwirfoddol o 200 aelod o staff. Mae’n heb amheuaeth bod staff sy’n cynnal y brifysgol ac yn darparu ein addysg yw conglfaen y brifysgol yma. Mae’n bryderus bod yna cyfle posib i’r brifysgol diwreiddio eu bywydau.

 Galw am: Cefnogaeth gwell i staff ac i bwrdd gweithredu y brifysgol dangos tystiolaeth o ymrwymiadau eu hunain i gyrraedd eu toriad o £15 miliwn

 Mae yna sawl materion hygyrchedd wedi codi ganj myfyrwyr yn ddiweddar, yn enwedig ynglyn a’r diffyg hyfforddiant iechyd a diogelwch gan staff neuaddau a’r tim diogelwch Corvus sydd wedi arwain at sawl

Citiau trais am ddim a chloriau diodydd – Rose

myfyrwyr yn cael trawiadau ar safle’r brifysgol cael ei esgeuluso ac wedi cael ei ‘cynghori’ i beidio dychwelyd i neuaddau preswyl y brifysgol.Mae hwn yn mater diogelwch difrifol i fyfyrwyr am mae angen i hyfforddiant iechyd a diolelwch safnonol cael ei enwud i’w diogelu.

 Galw am: Hyfforddiant iechyd a diogelwch addas, cefnogaeth gwell ar safle i fyfyrwyr gyda problemau iechyd ac hygyrchedd.

 Bwriad y deiseb yma yw i agor deialog gyda’r adrannau perthnasol o fewn gweinyddiaeth y brifysgol. Rydym yn bwriadu cynnal neu mynychu cyfarfod mewn person lle byddwn yn trafod ar rhan y lleisiau myfyrwyr a staff sydd heb cael ei clywed.

Mae sbeicio yn mater enfawr ym Mangor, i atal hwn rydym yn ofyn bod yna sticeri cwpannau ar gael i bobl sydd eisiau nhw i atal sbeicio. Rydym hefyd yn gofyn bod yna citiau trais ar gael am ddim i fyfyrwyr. Mae trais yn cael ei dan-adrodd yn difrifol, ac mae’r proses o adrodd a cael cit trais yn cael ei wneud gan yr heddlu yn aml yn mewnwthiol ac yn

Citiau trais – methu caniatâd oherwydd problemau sy’n mynd ymlaen ynddo fo a sgwrsiai

Chloriau diodydd – i cael ei phleidleisio

Datblygu polisi gyrfaoedd cynaliadwy i

anghyfforddus gan fod hi felo arfer yn dynion sy’n preennol trwy’r proses cyfan. Bydd citiau trais yn rhoi ffordd i fyfyrwyr teimlo yn fwy diogel ac i trais cael ei adrodd yn fwy aml. Bydd y citiau yma hefyd yn helpu aelodau LHDT+ gan fod astudiaethau gan achosion troseddeg wedi profi bod trais i ddynion a fenywod hoyw sy’n cael ei treisio neu ymosod ar yn cael ei adrodd ar yr un lefelau neu llai na trais ar fenywod cis ac yn digwydd ar amlder debyg.

Mae angen i mwy o ymchwil cael ei wneud, ond bydd y citiau yma dim yn unig yn helpu fenywod ond pobl LHDT+ ac yn sicrhau bod pobl yn atebol. Mater arall mae pobl yn wynebu yw os maent yn teimlo’n ddiogel i fynd i’r awdurdodau yw fod yna ol-groniad o citiau trais sy’n mynd trwy nhw. Tra fod mwy aml na ddim pan fydd nhw’n cael ei profi mae’r DNA yn rhy hen neu wedi ei ddinistrio bydd hyn yn helpu ddatrys y problem ar citiau wedi’i ôl-groniadau fel eu bod yn rhoi rhyddhad i’r system. Mae hi hefyd yn rhoi siawns i fyfyrwyr dod i nabod ag adrodd mewn lle mwy cyfforddus a chefnogol ar ben eu hunain a sy’n gallu cael ei yrru mewn i brofi heb defnyddio’r heddlu pwy sy’n heb digon o staff. Plîs gwthiwch hwn trwodd.

Rydym yn galw ar Brifysgol Bangor i ddatblygu Polisi

cadw cwmnïau tanwyddau ffosil allan o ein ffair gyrfaoedd – Rose a Mya

Gyrfaoedd Cynaliadwy sy’n gwahardd cwmnïau sy’n ymwneud â’r diwydiannau tanwydd ffosil, mwyngloddio ac arfau rhag mynychu fforymau gyrfaoedd ac hysbysebu eu swyddi ar CareerConnect.

Mae Prifysgol Bangor wedi gwneud ymrwymiadau i gynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, ac yn defnyddio’r ymrwymiadau hyn yn gyson at ddibenion marchnata. Fodd bynnag, mae Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol yn hyrwyddo ac yn cefnogi cwmnïau sy’n rhan o’r diwydiannau tanwydd ffosil, arfau a mwyngloddio. Nid ydym yn credu bod hyn yn unol â gwerthoedd na hymrwymiadau Prifysgol Bangor, ac ein barn yw bod hyn yn ychwanegu at y syniad bod y cwmnïau hyn yn rhan dderbyniol o’n cymdeithas a’n dyfodol. Yn ddiweddar, cytunodd Pwyllgor Gweithredol Prifysgol Bangor i greu Polisi Gyrfaoedd Cynaliadwy, ond gwrthodwyd y cais i atal gwahodd cwmnïau sy’n rhan o’r diwydiannau tanwydd ffosil, arfau a mwyngloddio i fforymau gyrfaoedd neu eu hyrwyddo ar CareerConnect. Nid yw’n glir beth fydd cynnwys y Polisi Gyrfaoedd Cynaliadwy hwn, ond heb wahardd y cwmnïau hyn, fe’i hystyrir fel gwyrddoleuo gan nad yw’n cynnwys y newidiadau ystyrlon sydd eu hangen i ddiogelu ein planed a’n poblogaeth. Felly, rydym

yn galw ar y brifysgol i weithredu mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’u hymrwymiadau cynaliadwyedd drwy ymrwymo i roi’r gorau i hyrwyddo a chefnogi cwmnïau sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau anghynaliadwy.

Mae gweithrediadau’r diwydiannau tanwydd ffosil, mwyngloddio ac arfau yn achosi niwed amgylcheddol enfawr: maent yn cyflymu’r argyfwng hinsawdd, yn dinistrio ecosystemau, yn llygru tir a môr, yn difetha tirluniau cyfan ac yn cynyddu trychinebau naturiol. Ar ben hynny, mae’r diwydiannau hyn yn achosi niwed cymdeithasol hefyd – yn dadwreiddio pobl o’u cartrefi a’u tiroedd, yn dinistrio safleoedd sanctaidd brodorol ac yn gadael gweithwyr a chymunedau gyda phroblemau iechyd. Credwn fod hyrwyddo gyrfaoedd yn y diwydiannau hyn yn awgrymu diffyg ymrwymiad i gynaliadwyedd ac yn dangos diffyg undod â’r bobl y mae eu gweithrediadau’n niweidio. Wrth i’n dealltwriaeth o’r diwydiannau hyn a’r niwed y maent yn ei achosi dyfu, mae mwy o bobl – gan gynnwys graddedigion – yn troi eu cefn ar yrfaoedd yn y meysydd hyn. Mae llawer o bobl ifanc yn gweld y diwydiant tanwydd ffosil fel un o’r sectorau lleiaf deniadol i weithio ynddo, ac maent hyd yn oed yn gweithredu i wrthwynebu recriwtio gan y sector hwn.

Mewn ymateb, mae’r diwydiannau hyn wedi troi at wyrdd oleuo, gan guddio eu harferion niweidiol a’u marchnata eu hunain gyda mentrau cynaliadwy sy’n cynrychioli cyfran fach iawn o’u gweithgareddau go iawn.

Fel y soniwyd eisoes, mae gan y brifysgol ymrwymiad i gynaliadwyedd ac mae ganddi strategaeth i'w gyflawni. Yn ogystal, mae’r brifysgol wedi llofnodi Datganiad Dim Tanwydd Ffosil People and Planet, sy’n datgan na fydd yn buddsoddi mewn tanwydd ffosil. Fodd bynnag, nid yw’r brifysgol yn ystyried ei rôl wrth hyrwyddo diwydiannau anghynaliadwy i fyfyrwyr, sy’n golygu nad yw’n gweithredu’n unol â’i hymrwymiadau cynaliadwyedd drwy wahodd cwmnïau sy’n weithgar yn y diwydiannau hyn i fforymau gyrfaoedd a’u hysbysebu ar eu platfform CareerConnect – gan gynnwys RWE, llygrwr mwyaf Ewrop ac un o’r enghreifftiau mwyaf eithafol o wyrddoleuo.

Nid yn unig y byddai gwrthod cefnogaeth y cwmnïau hyn yn galluogi’r brifysgol i gydymffurfio â’i hymrwymiadau cynaliadwyedd, ond byddai hefyd yn rhoi pwysau ar y sefydliadau anghynaliadwy hyn i ddod yn fwy cynaliadwy. Mae'r neges hon yn dod yn gryfach gyda phob prifysgol sy’n gwneud yr un ymrwymiad. Hyd yma, mae 10 prifysgol wedi

gwneud ymrwymiadau tebyg, gan gynnwys 3 yng

Nghymru – gydag

Aberystwyth yn ymuno’n ddiweddar – gan adael

Bangor fel yr unig brifysgol yng Ngogledd Cymru heb ymrwymiad o’r fath. Rydym mewn perygl o lithro ar ôl prifysgolion eraill yng Nghymru a gadael i Aberystwyth edrych yn fwy blaengar na ni.

Felly, rydym yn gofyn i’r brifysgol ymrwymo i roi’r gorau i gefnogi a hyrwyddo cwmnïau tanwydd ffosil, mwyngloddio ac arfau fel rhan o’u Polisi Gyrfaoedd Cynaliadwy, oherwydd eu heffeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol niweidiol. Rydym hefyd yn cynnwys cwmnïau sy’n cyfrannu at y diwydiannau hyn, megis banciau sy’n ariannu echdynnu tanwydd ffosil, a chwmnïau arolygu sy’n darganfod tanwydd ffosil a mwynau ar gyfer echdynnu a mwyngloddio. Mae’r diwydiannau hyn yn gysylltiedig yn agos iawn, ac mae dull cynhwysfawr fel hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y brifysgol yn cyd-fynd â’i hymrwymiadau cynaliadwyedd.

Ni fyddai’r polisi hwn yn atal myfyrwyr rhag mynd i yrfaoedd yn y diwydiannau hyn, a byddai cynghorwyr gyrfaoedd yn dal yn rhydd i roi arweiniad i fyfyrwyr sydd am weithio yn y sectorau hyn. Mae gan y cwmnïau hyn adnoddau enfawr i hyrwyddo eu cyfleoedd

Test PAT y goleuadau yn Neuadd JP - Mya

gyrfa’n annibynnol, felly mae’n debygol y bydd myfyrwyr yn ymwybodol o’r swyddi hyn beth bynnag, heb i Fangor roi llwyfan iddynt i recriwtio gan ddefnyddio deunydd hyrwyddo sy’n wyrdd oleuo.

I gloi, mae ymrwymiad Bangor i gynaliadwyedd yn rhywbeth i’w ddathlu – ond ymrwymiad heb weithredu yw gwyrdd oleuo. Os yw Prifysgol Bangor wir yn dymuno bod yn gynaliadwy, rhaid iddi gymryd camau pendant i sicrhau bod ei gweithgareddau’n unol â’i hymrwymiadau. Trwy wrthod rhoi’r gorau i hyrwyddo cwmnïau sy’n rhan o’r diwydiannau tanwydd ffosil, mwyngloddio ac arfau, mae’r Brifysgol yn parhau i gefnogi’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol y cwmnïau sy’n gyfrifol am yr argyfwng hinsawdd, llygredd, cam-drin hawliau dynol, ac yn fwy. Byddai gwrthod cefnogaeth i gwmnïau o’r fath yn dod ag amryw o fanteision i’r Brifysgol. Ein cais yw bod Prifysgol Bangor yn ymrwymo i wneud hyn drwy eu Polisi Gyrfaoedd Cynaliadwy – gan wahardd cwmnïau tanwydd ffosil, mwyngloddio ac arfau rhag y fforwm gyrfaoedd ac atal eu hyrwyddo ar CareerConnect.

Mae defnyddio Theatr JP ar gyfer ein hymarferion a’n perfformiadau yn rhan hollbwysig o’n profiad myfyrwyr. Bob nos drwy

Diweddaru gan Mya

gydol yr wythnos, mae grŵp o fyfyrwyr yn ymarfer ar y llwyfan ar gyfer eu perfformiad nesaf y maent wedi bod yn gweithio arno drwy’r semester, ac mae’r gofod hefyd yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd gan fyfyrwyr ffilm ar gyfer prosiectau yn rhan o’u cyrsiau, yn ogystal â phrosiectau cymdeithas ffilm. Mae bod yn rhan o grŵp drama neu ddawns sy’n defnyddio’r lleoliad yn bwysig iawn i fyfyrwyr wneud ffrindiau a meithrin cymuned. Mae bod yn rhan o’r grwpiau hyn hefyd yn hybu cyflogadwyedd, gyda llawer o fyfyrwyr sy’n aelodau o gymdeithasau theatr yn mynd ymlaen i fod yn rhan broffesiynol o’r maes y tu allan i’r brifysgol. Mae angen mwy o ofal am y lleoliad hwn, gyda phrofi PAT rheolaidd yn cael ei gynnal a chynnal a chadw’r llawr llwyfan. Eleni, bydd 7 sioe dan arweiniad myfyrwyr yn cael eu heffeithio’n ddifrifol gan nad yw myfyrwyr bellach yn cael defnyddio goleuadau’r llwyfan ar gyfer eu sioeau gan nad yw’r profion PAT wedi’u cynnal mewn pryd (sy’n torri polisïau iechyd a diogelwch y brifysgol). Bellach, mae’n rhaid ailgynllunio’r 7 sioe hyn ar fyr rybudd – gyda’r gynulleidfa wedi’i goleuo ac heb unrhyw ddiffygion goleuni yn ystod y sioe.

Mae’r theatr yn ofod mor werthfawr, ac yn rhan o hanes Bangor y dylid ei ddathlu. Mae angen gofalu

Gwirfoddoli ymhlith myfyrwyr rhyngwladol –Mya

Diweddariad ar ‘Sicrhau bod allweddi radar ar gael i fyfyrwyr anabl er mwyn iddynt allu cael mynediad i’r holl doiledau hygyrch’ – Rose

amdani fel nad yw diffyg cynnal a chadw yn cael effaith ar fyfyrwyr sydd wedi gweithio mor galed drwy gydol y semester i roi sioe ar lwyfan.

Ymateb Undeb y Myfyrwyr:

Mae Undeb y Myfyrwyr wedi codi’r ddeiseb hon a’r sylwadau gan fyfyrwyr ynghylch cynnal a chadw Theatr JP gyda Bwrdd Gweithredol y Brifysgol. Rydym wedi cael cadarnhad gan bennaeth rheoli ystadau’r brifysgol y bydd y goleuadau’n cael eu profi PAT fore dydd Gwener. Mae pob sylw wedi’i nodi, ac os oes gennych unrhyw bryderon pellach ynglŷn â Theatr JP, anfonwch e-bost at mya.tibbs@undebbangor.ac. uk.

Rydym yn cydnabod bod hyn wedi achosi llawer o straen i grwpiau myfyrwyr ac wedi effeithio ar sioeau sydd ar ddod. Byddwn yn gweithio gyda’r Brifysgol i sicrhau bod y gofod hwn yn cyrraedd safon ac yn cael ei gynnal yn briodol yn y dyfodol.

Diweddariad i’w ddarparu am y cynnydd a’r llwyddiannau diweddar gan Mya

Pwyntiau gweithredu o’r Fforwm Myfyrwyr diwethaf:

 Nida i gael allweddi radar ar gyfer toiledau anabl

Diweddariad ar Wneud

Hyfforddiant Ymyrraeth y Llygad-Dyst yn Orfodol –Rose

 Nida i ofyn lle mae myfyrwyr anabl yn gallu cael allweddi radar

Cynhaliwyd pleidlais ddangosol yn y Fforwm

Myfyrwyr diwethaf ar y cwestiwn “A ddylai hyfforddiant ymyrraeth y llygad-dyst fod yn orfodol ac wedi’i amserlennu’n ganolog?”

Canlyniadau: Ie – 12, Ymatal – 0, Na – 0

Taliadau misol ar gyfer ffioedd myfyrwyr rhyngwladol – Rose

Mae diddordeb cryf mewn lobïo’r brifysgol i ganiatáu taliadau misol ar gyfer ffioedd myfyrwyr rhyngwladol, er mwyn ei gwneud yn haws i fyfyrwyr rhyngwladol dalu eu ffioedd. Mae Nida wedi bod yn arwain ar hyn ac yn rhoi diweddariad.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.