Rheolaua Rheoliadau'r Etholiadau 2022

Page 1

Rheolau a Rheoliadau'r Etholiadau – 2021/22 Llywodraethir Etholiadau Cynghorwyr Undeb Bangor gan Is-ddeddf 7 Cyfansoddiad Undeb Bangor Etholiadau, (a gellir ei weld yma -) a chan y rheolau a'r rheoliadau a nodir isod, fel y cymeradwywyd gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Phwyllgor Etholiadau Undeb Bangor. Gall dorri unrhyw un o’r rheolau hyn arwain at osod sancsiynau ar ymgeisydd, ymgyrchydd neu ymgyrch. Enwebiadau 1. Dim ond pan fydd ymgeisydd wedi cyflawni'r meini prawf canlynol yn llwyddiannus y caiff ei gynnwys yn yr etholiad: 1.1. Enwebu ei hun gan ddefnyddio'r broses enwebu ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau. 1.2. Yn gymwys i sefyll yn yr etholiadau fel y diffinnir yn yr Erthyglau Cymdeithasu ac Is-ddeddfau. 1.3. Bod yn bresennol yng Nghyfarfod Briffio’r Ymgeiswyr, neu wedi derbyn cyfarwyddyd ar lafar gan y Dirprwy Swyddog Canlyniadau os nad oedd yn gallu bod yn bresennol oherwydd amgylchiadau arbennig. 1.4. Cytuno i ymrwymo i'r rheolau hyn ac i Is-ddeddf 7 Undeb Bangor - Etholiadau. Cyfarfod Briffio'r Ymgeiswyr 1. Rhaid i bob ymgeisydd fod yn bresennol yng nghyfarfod briffio’r ymgeiswyr. 2. Ni chaniateir i ymgeiswyr nad ydynt yn bresennol yng nghyfarfod briffio’r ymgeiswyr sefyll yn yr etholiadau. 3. Os na all unrhyw ymgeisydd fod yn bresennol yng nghyfarfod briffio’r ymgeiswyr, y broses fydd: 3.1. Rhaid i'r ymgeisydd gyflwyno amgylchiadau arbennig i'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau o fewn 2 ddiwrnod gwaith o ddyddiad cyfarfod briffio'r ymgeiswyr. 3.2. Rhaid i'r ymgeisydd ddarparu manylion yr amgylchiadau arbennig a pham nad yw/nad oedd yn gallu bod yn bresennol. 3.3. Bydd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn penderfynu a ddylid cadarnhau’r amgylchiadau arbennig. 3.4. Pan na all ymgeiswyr fod yn bresennol yn y cyfarfod briffio oherwydd amgylchiadau arbennig, yn unol â'r uchod, bydd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn trefnu cyfle arall i'r ymgeisydd dderbyn cyfarwyddyd llafar. 4. Rhaid i’r ymgeiswyr fod wedi derbyn cyfarwyddyd llafar i ymgeiswyr o fewn 4 diwrnod gwaith o’r cyfarfod briffio ymgeiswyr a gafodd ei amserlennu er mwyn cael eu cynnwys yn yr etholiad. Mae hyn yn cynnwys y rhai a allai fod wedi cyflwyno amgylchiadau arbennig yn unol â'r uchod. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn ôl disgresiwn y Dirprwy Swyddog Canlyniadau, y caniateir i ymgeiswyr sefyll yn yr etholiad os na chyflawnir yr uchod.

Testun y Maniffesto 1. Er mwyn sefyll gyda maniffesto yn yr etholiad rhaid i ymgeiswyr gyflwyno eu maniffesto, yn Gymraeg neu yn Saesneg, erbyn y dyddiad cau yn amserlen yr etholiadau. 2. Cyfyngiadau maniffesto: 2.1. Etholiadau Cynghorydd Undeb Bangor: dim mwy na 300 o eiriau ym mha bynnag iaith y caiff ei gyflwyno. 2.2. Etholiadau Swyddogion Sabothol: dim mwy na 350 o eiriau ym mha bynnag iaith y caiff ei gyflwyno. 1


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.