
Erthyglau Cymdeithas Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau
I’w defnyddio o fewn
UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL BANGOR fel y’u cymeradwywyd gan y Bwrdd Ymddiriedolwyr

Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor):

Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau Is-ddeddf 1 – Swyddogion sy’n Fyfyrwyr
Mae'r Is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, a Chyfarfodydd Aelodau sy'n Fyfyrwyr Undeb Bangor, yn unol â'u gweithdrefnau.
1. Swyddogion
1.1. Swyddogion sy’n Fyfyrwyr/ Ymddiriedolwyr Swyddogion Undeb Bangor fydd:
1.2. Swyddogion Traws-Campws:
1.3. Llywydd
1.4. Is-lywydd Addysg
1.5. Is-lywydd Chwaraeon
1.6. Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli
1.7. Llywydd UMCB / Is-lywydd Myfyrwyr Cymraeg
1.8. Bydd cyfnod gwasanaeth y Swyddogion sy’n Fyfyrwyr yn rhedeg o 1 Gorffennaf i 30 Mehefin bob blwyddyn.
1.9. Bydd 'Cytundeb Swyddogion' yn cael ei ddrafftio a'i lofnodi gan bob Swyddog unigol cyn dechrau yn ei swydd. Bydd y 'Cytundeb Swyddogion' yn amlinellu'r lefelau cyflog a'r dull o'i dalu.
1.10. Dim ond Bwrdd yr Ymddiriedolwyr neu Gyfarfod o'r Aelodau sy'n Fyfyrwyr a gaiff ddiwygio cyflog Swyddogion sy’n Fyfyrwyr.
1.11. Bydd y swydd ddisgrifiadau canlynol yn llywodraethu gwaith y Swyddogion sy’n Fyfyrwyr / Ymddiriedolwyr Swyddogion.
1.12. Bydd pob Swyddog sy’n Fyfyriwr:
1.12.1. Yn ymddiriedolwr Undeb y Myfyrwyr.
1.12.2. Yn cael ei ystyried yn 'ddeiliad un o brif swyddi'r undeb' fel y'i diffinnir gan Ddeddf Addysg 1994.
1.12.3. Yn aelod llawn â phleidlais o Fwrdd Ymddiriedolwyr Undeb Bangor a Thîm Swyddogion Myfyrwyr Undeb Bangor.
1.12.4. Yn cynnig arweinyddiaeth ar gyfeiriad ymgyrchoedd a phortffolio digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr.
1.12.5. Yn cynorthwyo ac yn cefnogi gweithgareddau'r Wythnos Groeso, gan gynnwys Ffair y Glas.
1.12.6. Yn cefnogi gwaith swyddogion a staff yr Undeb. Ar brydiau gall hyn fod gyda'r hwyr ac ar benwythnosau, y tu allan i oriau swyddfa arferol.
1.12.7. Yn hyrwyddo gwerthoedd yr Undeb ar bob adeg.

1.12.8. Yn gweithio i sicrhau bod eu gwaith hwy, a gwaith Undeb y Myfyrwyr, yn cael eu cyfleu'n briodol ac yn effeithiol i fyfyrwyr.
1.12.9. Disgwylir iddynt lunio erthyglau yn rheolaidd ar gyfer cyhoeddiadau'r Undeb, gan gynnwys y wefan.
1.12.10. Yn gweithio i gefnogi a darparu cylch gwaith iechyd, lles, cynaliadwyedd a chymunedol Undeb y Myfyrwyr.
1.12.11. Yn gweithio'n rhagweithiol ar Bolisi a basiwyd drwy'r broses ddemocrataidd
1.12.12. Yn bresennol yng nghyfarfodydd lefel uchel y brifysgol ac yn cynrychioli myfyrwyr ynddynt, gan gynnwys; grwpiau strategol, grwpiau tasg a gorffen a phwyllgorau.
1.12.13. Yn cysylltu ag adrannau perthnasol y brifysgol ar faterion sy'n bwysig i fyfyrwyr.
1.12.14. Yn mynd i gynadleddau cenedlaethol.
1.12.15. Yn eistedd ar baneli cyfweld Undeb y Myfyrwyr a'r brifysgol yn ôl yr angen.
1.12.16. Yn cynorthwyo i gynrychioli myfyrwyr ym mhrosesau apêl a disgyblu'r brifysgol yn ôl yr angen.
1.12.17. Yn mynd i gyfarfodydd Undeb y Myfyrwyr megis y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, gan gyflwyno adroddiadau ac ateb cwestiynau myfyrwyr yn ôl yr angen.
1.12.18. Yn cefnogi Undeb y Myfyrwyr trwy lunio adroddiadau.
1.12.19. Yn ymwneud yn gyson â myfyrwyr ar draws y campws.
1.13. Bydd gan Swyddogion sy’n Fyfyrwyr y portffolios cylch gwaith penodol canlynol:
2. LLYWYDD
2.1. Bydd yn brif swyddog yr Undeb ac yn bennaeth y Tîm Swyddogion Myfyrwyr.
2.2. Bydd yn brif gynrychiolydd yr Undeb i'r brifysgol, gan gysylltu rhwng Undeb y Myfyrwyr a Bwrdd Gweithredol y Brifysgol.
2.3. Bydd yn brif gynrychiolydd yr Undeb i'r gymuned leol a'r cyfryngau lleol a chenedlaethol.
2.4. Bydd yn cynnal cysylltiadau ag undebau myfyrwyr eraill a sefydliadau allanol perthnasol.
2.5. Bydd yn gyfrifol am ddrafftio a gweithredu strategaeth yr Undeb a bydd yn goruchwylio'r polisi gweithredol ar y cyd â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a Chyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr.
2.6. Byddant yn llunio adroddiad ar eu gwaith i'r Panel Atebolrwydd yn ôl yr angen.
2.7. Bydd ganddo/ganddi gyfrifoldeb rheoli llinell wedi'i ddirprwyo dros Gyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr rhwng cyfarfodydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Undeb Bangor.
2.8. Bydd yn brif swyddog ar faterion yn ymwneud â staffio yn yr Undeb.
2.9. Bydd yn ddirprwy gadeirydd cyfarfodydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Undeb Bangor.
2.10. Bydd yn brif swyddog ar faterion yn ymwneud â democratiaeth yr Undeb a bydd yn gyfrifol am gynnal a dehongli'r Is-Ddeddfau a’r Erthyglau.
2.11. Ef/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gylch gwaith cymunedol yr Undeb, gan gynnwys gwaith project myfyrwyr yn y gymuned, ymgyrchoedd cymunedol lleol a byd-eang, yr agenda ddinasyddiaeth a chysylltu â grwpiau preswylwyr a'r cyngor lleol.
2.12. Bydd yn arwain ar faterion yn ymwneud â Sicrwydd Ansawdd y brifysgol.
2.13. Bydd yn gweithio'n agos gyda'r Is-lywydd Addysg ar faterion yn ymwneud ag addysg.

3.1. Ef/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gylch gwaith Addysg yr Undeb, gyda ffocws penodol ar faterion polisi cenedlaethol a lleol, cyllid ac ansawdd addysg. Bydd hyn hefyd yn cwmpasu pob mater sy'n ymwneud ag addysg ôl-radd.
3.2. Bydd yn cysylltu'n rheolaidd â Bwrdd Gweithredol y Brifysgol ar faterion sy'n ymwneud ag addysg.
3.3. Bydd yn gweithio'n agos gyda Llywydd UMCB ar faterion yn ymwneud ag addysg gyfrwng Cymraeg.
3.4. Ef/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gydlynu trefn Cynrychiolwyr Cwrs Undeb y Myfyrwyr ac yn sicrhau cyswllt rheolaidd â'r brifysgol ac ysgolion academaidd unigol.
3.5. Bydd yn cynllunio a hwyluso Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs.
3.6. Bydd yn gweithio'n agos gyda Chabinet y Cynrychiolwyr Cwrs a Chynrychiolwyr Cwrs ar fentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd.
3.7. Bydd yn gweithio'n agos gyda Llywydd UMCB i gydlynu agweddau cyfrwng Cymraeg trefn cynrychiolwyr cwrs y brifysgol.
3.8. Bydd yn cefnogi gwaith Ymchwil Academaidd Undeb y Myfyrwyr.
3.9. Bydd yn cefnogi Undeb y Myfyrwyr trwy lunio adroddiadau'n ymwneud â phrofiad academaidd. Bydd yn llunio adroddiad ar eu gwaith i'r Panel Atebolrwydd yn ôl yr angen.
4. IS-LYWYDD CYMDEITHASAU A GWIRFODDOLI
4.1. Ef/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gylch gwaith Cymdeithasau a Gwirfoddoli Undeb y Myfyrwyr, gan gysylltu'n agos â'r brifysgol a chynrychioli myfyrwyr ar faterion yn ymwneud â Chymdeithasau a Gwirfoddoli.
4.2. Ef/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gylch gwaith cymdeithasau a gwirfoddoli'r Undeb, gan gynnwys bod yn gyfrifol am ei weithrediad a'i gyllid, a sicrhau bod gan ei gymdeithasau'r adnoddau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i weithredu.
4.3. Bydd yn cysylltu â'r Is-lywydd Chwaraeon a'r Is-lywydd Myfyrwyr Cymraeg / Llywydd UMCB i gydlynu pecyn hyfforddi cynhwysfawr ar gyfer aelodau pwyllgor yr UA, Cymdeithasau, Grwpiau Gwirfoddoli a grwpiau UMCB.
4.4. Bydd yn annog ac yn hyrwyddo gweithgareddau hamdden yn y brifysgol ac yn cynnig cymorth trwy Dîm Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor.
4.5. Bydd yn gweithio'n agos gyda Phwyllgorau Gwaith y Cymdeithasau a Gwirfoddoli, ac yn eu cadeirio, ac yn cefnogi mentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd.
4.6. Bydd yn gweithio'n agos gydag aelodau pwyllgorau'r cymdeithasau a gwirfoddoli i gefnogi mentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd.
4.7. Bydd yn cynorthwyo i fonitro gweithgareddau'r cymdeithasau a gwirfoddoli. Ar brydiau gall hyn fod gyda'r hwyr ac ar benwythnosau, y tu allan i oriau swyddfa arferol.
4.8. Bydd yn cynorthwyo i gynllunio a hwyluso digwyddiadau rhyng-golegol y Cymdeithasau a Gwirfoddoli.
● Byddant yn llunio adroddiad ar eu gwaith i'r Panel Atebolrwydd yn ôl yr angen.

5.1. Ef/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gylch gwaith Chwaraeon Undeb y Myfyrwyr, gan gysylltu'n agos â'r brifysgol ac Adran Chwaraeon Bangor, a chynrychioli myfyrwyr ar faterion yn ymwneud â chwaraeon.
5.2. Bydd yn mynd i bob cyfarfod perthnasol Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) a BUCS Cymru.
5.3. Ef/hi fydd Llywydd yr Undeb Athletau, yn gyfrifol am ei weithrediad a'i gyllid ac am sicrhau bod gan ei glybiau'r adnoddau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i weithredu.
5.4. Bydd yn cysylltu â'r gymuned leol a chyrff cenedlaethol ar faterion yn ymwneud â chwaraeon.
5.5. Bydd yn cysylltu â'r Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli a Llywydd UMCB i gydlynu pecyn hyfforddi cynhwysfawr ar gyfer aelodau pwyllgor yr UA, Cymdeithasau, Grwpiau Gwirfoddoli a grwpiau UMCB.
5.6. Bydd yn annog ac yn hyrwyddo cyfranogiad yr aelodau mewn chwaraeon cystadleuol a hamdden yn y brifysgol, gan gynnig cymorth drwy'r Undeb Athletau.
5.7. Bydd yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Gweithredol yr Undeb Athletau ac yn cefnogi mentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd.
5.8. Bydd yn gweithio'n agos gydag aelodau pwyllgorau clybiau chwaraeon i gefnogi mentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd.
5.9. Bydd yn cynorthwyo i fonitro'r Undeb Athletau a gweithgareddau chwaraeon. Ar brydiau gall hyn fod gyda'r hwyr ac ar benwythnosau, y tu allan i oriau swyddfa arferol.
5.10. Bydd yn cynorthwyo i gynllunio a hwyluso digwyddiadau chwaraeon rhyng-golegol.
● Byddant yn llunio adroddiad ar eu gwaith i'r Panel Atebolrwydd yn ôl yr angen.
6. IS-LYWYDD MYFYRWYR CYMRAEG / LLYWYDD UMCB
6.1. Bydd yn siaradwr Cymraeg ac yn cynrychioli pob siaradwr a dysgwr Cymraeg.
6.2. Ef/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gylch gwaith cyfrwng Cymraeg Undeb y Myfyrwyr, gan gysylltu'n agos â'r brifysgol a chynrychioli myfyrwyr ar faterion yn ymwneud â'r iaith Gymraeg.
6.3. Ef/hi fydd Llywydd UMCB, yn gyfrifol am ei weithrediad a'i gyllid, ac am sicrhau bod gan ei grwpiau'r adnoddau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i weithredu.
6.4. Bydd yn cysylltu â'r brifysgol, cyrff lleol cymunedol a chenedlaethol ar faterion yn ymwneud â darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac ehangu cyfranogiad siaradwyr Cymraeg.
6.5. Bydd yn gweithio'n agos gyda'r Is-lywydd Addysg i gydlynu agweddau cyfrwng Cymraeg trefn cynrychiolwyr cwrs y brifysgol, ac ar faterion yn ymwneud ag addysg gyfrwng Cymraeg.
6.6. Bydd yn cwrdd yn rheolaidd â Chynrychiolwyr Cwrs Cymraeg eu hiaith.
6.7. Bydd yn cysylltu â'r Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli a'r Is-lywydd Chwaraeon i gydlynu pecyn hyfforddi cynhwysfawr ar gyfer aelodau pwyllgor yr UA, Cymdeithasau, Grwpiau Gwirfoddoli a grwpiau UMCB.
6.8. Bydd yn annog cynnwys a hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn holl faterion y brifysgol a'r Undeb.
6.9. Bydd yn gweithio i gynnwys y gymuned Gymraeg leol yng ngwaith yr Undeb ac yn cysylltu â'r Llywydd a'r Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli ynglŷn â gwaith cymunedol.
6.10. Gweithio'n agos gyda Bwrdd Gweithredol UMCB ac aelodau pwyllgorau cymdeithasau UMCB i gefnogi mentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd

6.11. Bydd yn cynorthwyo i fonitro gweithgareddau UMCB. Ar brydiau gall hyn fod gyda'r hwyr ac ar benwythnosau, y tu allan i oriau swyddfa arferol.
6.12. Bydd yn cynorthwyo i gynllunio a hwyluso digwyddiadau rhyng-golegol cyfrwng Cymraeg.
6.13. Bydd yn aelod o Gyngor y Brifysgol.
6.14. Byddant yn llunio adroddiad ar eu gwaith i'r Panel Atebolrwydd yn ôl yr angen
7. Panel Atebolrwydd
7.1. Bydd Paneli Atebolrwydd yn cynnwys y canlynol:
7.2. Swyddog, neu gyfatebol, o Undeb Myfyrwyr arall
7.3. O leiaf dri aelod myfyrwyr, wedi'u recriwtio ar ddechrau'r flwyddyn yn ôl penderfyniad Tîm Gwasanaethau Aelodaeth yr Undeb.
7.4. Un aelod ychwanegol sy’n fyfyriwr a fydd yn hwyluso'r cyfarfod
7.5. Aelod o staff a benodir gan y Prif Weithredwr a fydd yn gweithredu fel Ysgrifennydd y cyfarfod.
7.6. Cynhelir o leiaf ddau Banel Atebolrwydd Swyddogion ar gyfer pob Swyddog yn ystod y flwyddyn academaidd.
7.7. Bydd pob Swyddog yn cyhoeddi adroddiad 7 diwrnod cyn pob panel gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau allweddol a'u hamcanion blynyddol.
7.8. Bydd yr Ysgrifennydd yn gwahodd aelodau’r panel i ofyn am adroddiadau ychwanegol ar faterion sy’n berthnasol i gylch gwaith y Swyddog sy’n Fyfyriwr i’w cynnwys yn y panel nesaf.
7.9. Y cworwm ar gyfer paneli atebolrwydd fydd 50% o aelodaeth y Panel Atebolrwydd ynghyd ag un.
7.10. Bydd y Panel, drwy’r Ysgrifennydd, yn cynhyrchu adroddiad ar ganfyddiadau gwaith y Swyddogion i’w gyhoeddi ar Wefan yr Undebau ynghyd ag argymhellion a nodiadau.
8. Cyfarfod Ymgyrch yr Holl Fyfyrwyr
8.1. O leiaf unwaith y flwyddyn bydd y Swyddogion yn cynnal cyfarfod i'r holl fyfyrwyr i helpu i osod blaenoriaethau'r ymgyrch ar gyfer y flwyddyn nesaf.
8.2. Bydd Swyddogion a Staff yr Undeb yn cytuno ar fformat y cyfarfod hwn.
8.3. Ni fydd cworwm i'r cyfarfod hwn
8.4. Ni fydd penderfyniadau a wneir yn y cyfarfod hwn yn derfynol ond dylent gael eu defnyddio gan y Swyddogion Myfyrwyr fel cyngor wrth osod eu hamcanion.

Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau
Is-ddeddf 2 – Refferenda/Pleidlais i Bob Myfyriwr
Mae'r Is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Chyfarfodydd Aelodau sy'n Fyfyrwyr Undeb Bangor, yn unol â'u gweithdrefnau
1. Refferenda
1.1 Gellir galw refferenda fel y'i diffinnir yn Is-ddeddf 5
2. Polisi
2.1 Gellir galw refferendwm ar unrhyw fater trwy’r dulliau canlynol:
2.1.1 methiant Tîm y Swyddogion i basio Syniad Myfyrwyr yn unfrydol
2.1.2 Deiseb, fel y'i diffinnir gan Is-ddeddf (6) o 50 aelod wedi'i llofnodi bythefnos ar ôl naill ai pasio neu wrthod Syniad Myfyriwr yng nghyfarfod Bwrdd Gweithredol y Swyddogion sy’n Fyfyrwyr
2.1.3 yn amodol ar Erthygl 26.1 a 28.2.1, Ddeiseb Ddiogel wedi'i llofnodi neu y cytunwyd arni gan o leiaf 150 o Aelodau sy'n Fyfyrwyr.
2.2 Yn amodol ar Erthyglau 26.1 a 28.2.1, gellir pasio penderfyniad drwy Refferenda os bydd o leiaf 500 o Aelodau sy’n Fyfyrwyr yn bwrw pleidlais yn y Refferendwm a bod mwyafrif syml o'r pleidleisiau o blaid y penderfyniad.
2.3 Cynhelir Refferenda yn unol â'r Erthyglau hyn a'r Is-ddeddfau.
3. Cyfrifoldebau
3.1 Bydd y Swyddog Canlyniadau, neu ei Ddirprwy, yn gyfrifol am drefnu Refferendwm
4. Sefydliad
4.1 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn gyfrifol am gynnal a chydlynu gweinyddiaeth dda’r Refferendwm.
5. Cyhoeddi
5.1 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn cyhoeddi bod refferendwm wedi'i alw a manylion y rheswm pam o fewn pum (5) niwrnod clir o dderbyn yr hysbysiad.
5.2 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn:
5.2.1 Cyhoeddi'r cynnig a'r dyddiad(au) ar gyfer y refferendwm a dyddiad cyfarfod.
5.2.2 Trefnu i ddwy ochr unrhyw ddadl gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r cwestiwn. Yn ogystal ag unrhyw Dystiolaeth a gyflwynwyd yn ystod cyfnod 'Galw am Dystiolaeth' Is-ddeddf 4
5.2.3 Cyhoeddi’r cynnig a'r cwestiwn i'w ofyn a hysbysebu ymhellach ddyddiadau'r pleidleisio.

6. Pleidleisio
6.1 Bydd pob Aelod yn gymwys i bleidleisio.
6.2 Fel rheol, bydd y pleidleisio yn electronig.
6.3 Dylai'r opsiynau pleidleisio ganiatáu i Aelodau bleidleisio o blaid, yn erbyn, neu ymatal dros bob cynnig.
6.4 Cworwm fydd 500 pleidlais (gan gynnwys ymataliadau).
7. Canlyniadau
7.1 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn gyfrifol am ddatgan canlyniad y refferendwm unwaith y byddant yn fodlon bod y Refferendwm wedi'i gynnal yn briodol.
7.2 Dylid cyhoeddi'r canlyniad ar wefan Undeb Bangor cyn gynted ag y bo'n ymarferol ond dim hwyrach na thri diwrnod gwaith ar ôl cynnal y Refferendwm.

Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau
Is-ddeddf 3 - Cyfarfodydd Aelodau sy’n Fyfyrwyr
Mae'r Is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Chyfarfodydd Aelodau sy'n Fyfyrwyr Undeb Bangor, yn unol â'u gweithdrefnau
1. Diben
1.1. Mae Cyfarfodydd yr Aelodau sy’n Fyfyrwyr yn bodoli i:
1.1.4. Cyflwyno cyfrifon yr Undeb yn ffurfiol a derbyn yr Adroddiad Blynyddol.
1.1.5 Cyflawni'r holl ofynion a nodir yn Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor).
1.1.6 Cymeradwyo newidiadau i'r Is-ddeddfau a'r Erthyglau Cymdeithasu
2. Amseru
2.1. Gall yr Undeb gynnal cyfarfodydd eraill i'r Aelodau sy'n Fyfyrwyr yn ogystal â chyfarfod blynyddol yr Aelodau sy'n Fyfyrwyr fel rheol ym mis Hydref a Mawrth / Ebrill.
2.2. Ni chynhelir unrhyw Gyfarfod Aelodau sy’n Fyfyrwyr yn ystod cyfnod gwyliau. Ystyrir bod gwyliau yn golygu unrhyw amser y tu allan i ddyddiadau tymor cyhoeddedig Prifysgol Bangor.
3. Rheolau Sefydlog
3.1. Bydd Cyfarfodydd yr Aelodau sy’n Fyfyrwyr yn cael eu galw, eu hysbysebu a'u cynnal yn unol â'r rheolau a amlinellir yn yr Erthyglau Cymdeithasu.
3.2 Swyddog Myfyriwr neu ei enwebai fydd yn cadeirio'r cyfarfod. Er mwyn osgoi amheuaeth, rhaid i'r cadeirydd fod yn Swyddog Myfyriwr cyfredol neu'n fyfyriwr cofrestredig cyfredol.
3.3. Gall unrhyw aelod sy'n bresennol gynnig unrhyw un o'r cynigion gweithdrefnol canlynol:
3.3.1. Cynnig o ddiffyg hyder yn y Cadeirydd am weddill y cyfarfod
3.3.2. Her i ddyfarniad y Cadeirydd
3.3.3. Bod y cynnig yn cael ei dderbyn mewn rhannau
3.3.4. Bod y mater yn cael ei roi i bleidlais
3.3.5. Bod ailgyfrif yn cael ei gynnal
3.3.6. Bod trefn y busnes yn cael ei newid
3.3. Er mwyn i gynnig gweithdrefnol gael ei basio rhaid iddo gael ei gytuno gan fwyafrif syml o'r rhai sy'n bresennol ac yn gymwys i bleidleisio.

3.4. Agenda
3.4.1. Bydd pob myfyriwr cofrestredig ym Mhrifysgol Bangor a Swyddogion sy’n Fyfyrwyr yn cael cyfle i osod eitemau ar yr agenda, ac yn derbyn yr agenda a'r papurau o leiaf wythnos cyn y cyfarfod.
3.5. Cynigion i'w trafod
3.5.1. Bydd cynigion yn cael eu trafod yn y cyfarfod os ydynt:
3.5.1.1. Yn cael eu cyflwyno erbyn y dyddiad cau priodol ar gyfer cynigion, neu wedi'i dderbyn gan y Bwrdd Gweithredol fel cynnig brys.
3.5.1.2. Yn cael eu paratoi yn y fformat y cytunwyd arno, h.y. 'Mae'r Undeb yn Credu’, ‘Mae'r Undeb yn Credu Ymhellach' a ‘Penderfyniad yr Undeb'.
3.5.1.3. Yn cael eu cynnig a'u henwebu gan ddau fyfyriwr cofrestredig a/neu Swyddogion sy’n Fyfyrwyr.
3.6. Trafod cynigion
3.6.1. Trafodir cynigion yn y dull canlynol:
3.6.1.1. (a.) Araith o blaid (2 funud), eiddo'r cynigydd
3.6.1.2. (b.) Araith yn erbyn (2 funud), agored
3.6.1.3. (c.) Dadl fasged – rhaid iddi fod yn gytbwys, mae hyn yn parhau cyhyd â bod cydbwysedd neu nes bod y Cadeirydd yn penderfynu ei bod er budd gorau'r cyfarfod i symud ymlaen (1 munud yr un)
3.6.1.4. (d.) Cwestiynau anffurfiol, gall y rhai sy'n bresennol ofyn cwestiynau i'r cynigydd er mwyn egluro gwybodaeth.
3.6.1.5. (e.) Crynodeb (1 munud), eiddo’r eilydd
3.6.1.6. (f.) Pleidlais
3.7. Pleidleisio
3.7.1. Bydd cynigion polisi a newidiadau i'r agenda yn cael eu datrys trwy bleidlais fwyafrifol syml, tra bod newidiadau i is-ddeddfau cyfansoddiadol angen mwyafrif o ddwy ran o dair.
3.7.2. Bydd pleidleisio’n digwydd drwy godi dwylo, neu ddull priodol arall
3.7.3. Mae cworwm at ddibenion pleidleisio wedi'i amlinellu yn yr Erthyglau Cymdeithasu.

Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau
Is-ddeddf 4 – Syniadau
Mae'r Is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Chyfarfodydd Aelodau sy'n Fyfyrwyr Undeb Bangor, yn unol â'u gweithdrefnau.
1. Cyflwyno Syniad
1.1. Gall unrhyw aelod o'r Undeb gyflwyno syniad i'r Undeb ar unrhyw adeg.
1.2. Rhaid cyflwyno'r syniad hwn drwy Wefan Undeb y Myfyrwyr a chynnwys enw a rhif myfyriwr yr aelod sy'n cynnig y syniad.
1.3. Rhaid i syniadau ddatgan dau beth: yn gyntaf, beth mae'r aelod eisiau ei newid ac yn ail pam.
1.4. Rhaid i'r syniad gael teitl. Rhaid i deitl y syniad adlewyrchu'r newidiadau arfaethedig.
1.5. Rhaid i syniadau nodi'n glir unrhyw newidiadau perthnasol a gynigir i Erthyglau neu Isddeddfau naill ai o fewn y syniad neu fel gwybodaeth ategol.
1.6. Er mwyn i'w syniad gael ei drafod, rhaid i'r myfyriwr a'i cyflwynodd fod yn aelod o'r Undeb o hyd a rhaid iddo barhau i fod yn un tan ddiwedd y broses fel yr amlinellir yn yr Is-ddeddf hon.
1.7. Bydd yr Undeb yn cydnabod derbyn y syniad ac yn dechrau'r broses o wneud penderfyniadau o fewn 10 diwrnod gwaith.
1.8. Yn ystod y cyfnod hwn gellir gohirio trafod syniadau os yw Swyddogion Llawn Amser yn nodi'r syniad fel un sy’n:
1.8.1. Peri bygythiad ariannol i'r Undeb
1.8.2. Peri bygythiad cyfreithiol i'r Undeb
1.9. Os yw syniad wedi'i ohirio o dan Is-ddeddf 4.1.7 yna bydd maint y bygythiad yn cael ei ymchwilio. Yn ystod yr ymchwiliad hwn, rhoddir y dewis i'r aelod Undeb a gyflwynodd y Syniad:
1.9.1. Newid eu Syniad fel nad yw bellach yn cael ei gydnabod fel bygythiad o dan Isddeddf 4.1.7 cyn ei gyflwyno'n ôl i'r Tîm Swyddogion Myfyrwyr
1.9.2. Tynnu eu syniad yn ôl
1.10. Ni ellir trafod unrhyw syniad sydd â'r un cynnwys yn ei hanfod yng Nghyfarfod Bwrdd Gweithredol y Swyddogion Myfyrwyr ddwywaith mewn un flwyddyn academaidd oni bai ei fod wedi'i ohirio gan bwyllgor blaenorol. Bydd hyn yn cael ei benderfynu gan y Tîm Swyddogion Myfyrwyr
2. Galwad am Dystiolaeth
2.1. Ar ôl cyflwyno syniad a'i dderbyn fel syniad gan yr Undeb, bydd yn agor Galwad am Dystiolaeth am o leiaf 10 diwrnod gwaith.

2.2. Mae'r Galwad am Dystiolaeth yn caniatáu i fyfyrwyr, Cymdeithasau, Grwpiau, Clybiau a rhanddeiliaid perthnasol gyfrannu barn, data, neu sylwadau ar y syniad.
2.3. Gellir cyflwyno tystiolaeth drwy amrywiaeth o ddulliau yn ôl penderfyniad tîm staff yr Undeb.
2.4. Bydd crynodeb o'r ymatebion yn cael ei baratoi a'i gyflwyno i Dîm y Swyddogion.
3. Cyfarfod Bwrdd Gweithredol Tîm y Swyddogion.
3.1. O fewn dau ddiwrnod gwaith i gau'r Alwad am Dystiolaeth, bydd Tîm y Swyddogion yn cyfarfod i drafod y syniad.
3.2. Ar ôl adolygu'r dystiolaeth, bydd Tîm y Swyddogion yn pleidleisio i gymeradwyo neu wrthod y syniad. Os ydyn nhw:
3.2.1. Cymeradwyo’r syniad yn unfrydol (100%) – daw’r syniad yn bolisi swyddogol yr Undeb;
3.2.2. Gwrthod y syniad yn unfrydol (100%) – caiff y syniad ei wrthod;
3.2.3. Methu â chyrraedd cytundeb unfrydol – mae'r syniad yn mynd ymlaen i Bleidlais yr Holl Fyfyrwyr.
4. Deiseb i Herio'r Penderfyniad
4.1. Os yw Tîm y Swyddogion yn cymeradwyo neu'n gwrthod y syniad yn unfrydol, gall myfyrwyr herio'r penderfyniad o hyd.
4.2. Rhaid i ddeiseb (fel yr amlinellir yn Is-ddeddf 6) gael ei llofnodi gan o leiaf 50 o aelodau sy’n fyfyrwyr a'i chyflwyno o fewn 10 diwrnod gwaith i gyhoeddi penderfyniad y Swyddog.
4.3. Bydd deiseb ddilys yn sbarduno Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr yn awtomatig (fel yr amlinellir yn Is-ddeddf 3) ar y syniad.

Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau
Is-Ddeddf 5 - Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Mae'r Is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Chyfarfodydd Aelodau sy'n Fyfyrwyr Undeb Bangor, yn unol â'u gweithdrefnau
1 Diben, Strwythur a Dirprwyo
1.1 Mae pwrpas Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi'i nodi yn Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor)
1.2 Mae'r Ymddiriedolwyr yn rhydd i strwythuro cyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr fel y gwelant yn dda, cyhyd â bod yr amodau a amlinellir yn yr Erthyglau Cymdeithasu yn cael eu bodloni.
1.3 Gall yr Ymddiriedolwyr ddirprwyo cyfrifoldeb gweithredol i'r staff a'r is-bwyllgorau priodol yn ôl yr angen.
2 Penodi Ymddiriedolwyr a Chyfnod yn y Swydd
2.1 Yn amodol ar Erthygl 23.2 a 24.2 isod, bydd Ymddiriedolwyr Lleyg ac Ymddiriedolwyr sy'n Fyfyrwyr yn cael eu penodi trwy bleidlais fwyafrifol syml y Pwyllgor Penodiadau ac Etholiadau Llywodraethu, a’u cadarnhau yng nghyfarfod dilynol y Bwrdd, cyhyd â bod penodiad pob Ymddiriedolwr sy'n Fyfyriwr ac Ymddiriedolwr Lleyg yn cael ei gadarnhau gan bleidlais o fwyafrif gan Fwrdd Gweithredol y Myfyrwyr. Er mwyn osgoi amheuaeth, byddant yn cael eu hystyried yn aelod llawn â’r hawl i bleidleisio o'r Bwrdd cyn hyn o dan Erthygl 30.5. Os bydd Bwrdd Gweithredol y Myfyrwyr yn gwrthod cadarnhau, byddant yn peidio â bod yn Ymddiriedolwr.
2.2 Mae cyfnod swydd Ymddiriedolwyr Lleyg ac Ymddiriedolwyr sy’n Fyfyrwyr fel y'i manylir yn 23.2 a 24.2 o'r Erthyglau Cymdeithasu
2.2 O dan amgylchiadau arferol bydd Ymddiriedolwyr sy'n Swyddogion Myfyrwyr yn dechrau eu penodiad o 1 Gorffennaf yn y flwyddyn y cânt eu hethol, a bydd eu cyfnod yn y swydd yn dod i ben ar 30 Mehefin y flwyddyn ganlynol.
2.3 Os oes swydd wag yn bodoli i Ymddiriedolwr sy'n Swyddog Myfyriwr, gellir galw is-etholiad gan ddilyn y weithdrefn a amlinellir yn yr Is-Ddeddf Etholiadau. Pennir eu cyfnod yn y swydd gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a bydd yn dod i ben yn unol ag Ymddiriedolwyr Swyddogion etholedig eraill.
2.4 Rhaid i bob Ymddiriedolwr sy'n Fyfyriwr fod yn fyfyriwr ar adeg eu penodi a thrwy gydol cyfnod eu swydd fel Ymddiriedolwr sy'n Fyfyriwr.
2.5 Ni all Ymddiriedolwr Lleyg fod yn fyfyriwr presennol.
3 Swyddogaethau, Cyfrifoldebau a Disgwyliadau Ymddiriedolwyr
3.1 Disgwylir i bob Ymddiriedolwr wneud y canlynol:
3.1.1 Cynnal Cenhadaeth, Gweledigaeth a Gwerthoedd Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) ar bob adeg.
3.1.2 Glynu wrth saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan wrth gyflawni eu dyletswyddau: sef Anhunanoldeb, Uniondeb, Gwrthrychedd, Atebolrwydd, Bod yn Agored, Gonestrwydd ac Arweinyddiaeth.

3.1.3 Mynd i bob cyfarfod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, a'r is-bwyllgorau priodol, neu anfon ymddiheuriadau ysgrifenedig ymlaen llaw.
3.1.4 Hyrwyddo gwaith, amcanion ac ideoleg yr Undeb, gan gynnal cyfrinachedd pan fo angen.
3.1.5 Rhagweld, monitro a gwerthuso cyfeiriad strategol yr Undeb.
3.1.6 Cynnal diddordeb byw yn yr Undeb a sicrhau eu bod yn cael eu paratoi a'u cyfarwyddo'n briodol er mwyn gwneud penderfyniadau hyddysg er budd myfyrwyr ym Mangor.
3.1.7 Cyfrannu tuag at ddatblygiad parhaus Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a fydd yn perfformio i safon uchel.
3.1.8 Cymryd rhan mewn gweithgareddau priodol ychwanegol fel y pennir gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr i hyrwyddo'r Undeb.
3.1.9 Sicrhau bod yr Undeb: yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol a'r Erthyglau Cymdeithasu hyn, yn defnyddio cronfeydd ac asedau elusennol dim ond i hyrwyddo amcanion yr Undeb, ac yn sicrhau solfedd parhaus.
3.1.10 Cymryd camau priodol i osgoi gweithgareddau a allai roi asedau, adnoddau neu enw da’r elusen mewn perygl gormodol.
3.2 Gwerthusiad Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr
3.2.1 Yn unol ag Erthyglau Cymdeithasu, mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am ddarparu gwerthusiad blynyddol addas o Gyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr.
3.2.2 Caiff gwerthusiad Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr ei arwain gan y Llywydd gyda chefnogaeth Is-bwyllgor Gwerthuso Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr, a bydd yr aelodaeth yn cynnwys Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.
3.2.4 Dylid cwblhau gwerthusiad Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr cyn y cyfnod Trosglwyddo Swyddogion a’i arwain gan Gadeirydd a Dirprwy Gadeirydd y Bwrdd. Os nad yw'r Cadeirydd a/neu'r Dirprwy Gadeirydd ar gael neu'n methu â dod i'r gwerthusiad, gall Swyddog Myfyrwyr arall ac aelod Ymddiriedolwr Lleyg ddod fel eu henwebeion i gyflawni'r rôl hon.
4 Is-bwyllgorau'r Bwrdd
4.1 Gall Bwrdd yr Ymddiriedolwyr sefydlu is-bwyllgorau yn ôl yr angen i ddarparu fforwm mwy manwl ar gyfer trafodaeth a/neu i gyflawni gofynion gweithredol a monitro.
4.2 Dylai Bwrdd yr Ymddiriedolwyr sicrhau bod y strwythur is-bwyllgorau'n gweithio yn effeithlon ac yn effeithiol a cheisio dirprwyo a chyfeirio at y Tîm Swyddogion Myfyrwyr fel sy'n briodol.
4.2.1 Lle dirprwyir cyfrifoldebau Bwrdd yr Ymddiriedolwyr i'r Tîm Swyddogion Myfyrwyr, mae croeso i aelodau Bwrdd yr Ymddiriedolwyr fynychu cyfarfodydd Tîm Swyddogion Myfyrwyr heb bleidlais.
4.2.2 Dylai cofnodion cyfarfodydd y Tîm Swyddogion Myfyrwyr gael eu cyflwyno ym mhob cyfarfod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr er gwybodaeth a thrafodaeth.
4.3 Cyfarfod Bwrdd Gweithredol y Myfyrwyr
4.3.1 Mae'r Swyddogion Myfyrwyr yn ffurfio aelodau pleidleisio Cyfarfod Bwrdd Gweithredol y Myfyrwyr, sy'n bodoli fel cyfarfod gweithredol, ffurfiol a rheolaidd a bydd hefyd yn gweithredu i gymeradwyo neu wrthod syniadau. Ei brif fusnes yw trafod gweithredu projectau a syniadau a fydd yn gwella bywydau myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor.
4.3.2 Bydd Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr (ac Uwch Reolwyr eraill lle cytunir) yn aelodau di-bleidlais o Gyfarfod Bwrdd Gweithredol y Myfyrwyr.

4.3.3 Rhaid i Gyfarfod Bwrdd Gweithredol y Myfyrwyr sicrhau bod holl weithgareddau Undeb y Myfyrwyr yn cydymffurfio â'r holl bolisïau a gweithdrefnau
4.3.4 Dylid cyhoeddi agendâu a chofnodion y Tîm Swyddogion Myfyrwyr ar wefan Undeb y Myfyrwyr yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn academaidd.
4.3.5 Dylai Cyfarfod Bwrdd Gweithredol y Myfyrwyr gymryd cyfarwyddyd gan y Panel Atebolrwydd a Chyfarfod yr Aelodau sy'n Fyfyrwyr, bod yn atebol iddynt, ac adrodd ar gynnydd iddynt, a gall ymgymryd â swyddogaethau Bwrdd yr Ymddiriedolwyr fel y'u dirprwyir.
4.3.6 Fel rheol, bydd Cyfarfod Bwrdd Gweithredol y Myfyrwyr yn cyfarfod o leiaf unwaith y mis ac yn ôl yr angen i gyflawni ei gylch gwaith.
4.3.7 Mae aelodau cyfarfod Bwrdd Gweithredol y Myfyrwyr yn rhydd i strwythuro'r cyfarfodydd fel y gwelant yn dda, cyhyd â bod yr amodau a amlinellir yn yr is-ddeddf hon yn cael eu cyflawni, yn ogystal ag is-ddeddf 4.
4.4 Bydd cyfansoddiad a chylch gwaith yr is-bwyllgorau eraill yn cael eu penderfynu gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr yn flynyddol.
5 Diswyddo Ymddiriedolwyr drwy Refferenda ac Aelodau sy’n Fyfyrwyr
5.1 Bydd gan Ymddiriedolwr a ddiswyddwyd o'i swydd yn unol ag erthygl 26 o'r Erthyglau Cymdeithasu hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad gyda Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.
5.1.1 Dylai cwynion ynglŷn â phroses refferendwm diffyg hyder mewn ymddiriedolwr neu gynnig o ddiffyg hyder yng Nghyfarfod yr Aelodau sy’n Fyfyrwyr gael eu cyflwyno i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr i'w hystyried o fewn 7 niwrnod o'r bleidlais. Gall Bwrdd yr Ymddiriedolwyr benderfynu: i. Cynnal y gŵyn a disodli'r penderfyniad i ddiswyddo'r Ymddiriedolwr. ii. Gwrthod y gŵyn a chynnal y penderfyniad i ddiswyddo'r Ymddiriedolwr. iii. Gwneud cais am wybodaeth bellach, atal y broses, ac ail-gynnull ar ddyddiad a gytunir arno yn y dyfodol.
5.1.2 Bydd pwyllgor apêl yn cyfarfod yn ôl yr angen i glywed apêl sy'n ymwneud â diswyddo Ymddiriedolwr Lleyg neu Ymddiriedolwr sy’n Fyfyriwr penodedig o'i swydd. Cyfrifoldeb Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a/neu'r Prif Weithredwr fydd dewis aelodau'r Panel Apêl. Bydd ymddiriedolwyr yn cael eu hatal dros dro nes dilynwyd pob llwybr apêl.
5.1.3 Mae penderfyniad Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn derfynol.
5.1.4 Yn dilyn penderfyniad y Bwrdd mae gan unrhyw ymddiriedolwr sy'n cael ei ddiswyddo o rôl ymddiriedolwr yr hawl i godi pryderon ynghylch y broses hon gyda'r Brifysgol yn eu rôl o dan Ddeddf Addysg 1994, o fewn 14 diwrnod i'w diswyddo, a chaiff wybod sut i wneud hynny.
5.2 Mewn achos pan fo refferendwm neu gynnig o ddiffyg hyder mewn Cyfarfod Aelodau sy’n Fyfyrwyr yn cael ei basio, bydd yr unigolyn dan sylw yn peidio â bod yn Ymddiriedolwr ar unwaith. Mewn achosion sy'n ymwneud ag Ymddiriedolwyr sy'n Swyddogion Myfyrwyr, bydd eu cydnabyddiaeth ariannol yn peidio 7 niwrnod ar ôl dyddiad y bleidlais oni bai bod apêl yn cael ei chyflwyno i’r Brifysgol, ac yn yr achos hwnnw bydd yn dod i ben ar ôl cwblhau'r broses apêl os gwrthodir yr apêl.
6. Ymddiriedolwyr sydd wedi'u Diswyddo
6.1 Unwaith y bydd Ymddiriedolwr wedi cael ei ddiswyddo o'i swydd, ni chaiff byth ail-sefyll na gwneud cais eto i fod yn Ymddiriedolwr yr Undeb.

Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau
Is-ddeddf 6 – Deisebau
Mae'r Is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, a Chyfarfodydd Aelodau sy'n Fyfyrwyr Undeb Bangor, yn unol â'u gweithdrefnau
1. Gall unrhyw aelod sydd am gael Refferendwm ar unrhyw un o'r canlynol ofyn am ddeiseb: a. I apelio yn erbyn penderfyniad Syniad a wnaed mewn Cyfarfod bwrdd Gweithredol o’r Swyddogion Myfyrwyr fel yr amlinellir yn Is-ddeddf 4 b. I ddechrau'r broses o ddiswyddo Swyddog sy’n Fyfyriwr
2. Gellir gwneud cais am ddeiseb ar unrhyw adeg i'r Tîm Gwasanaethau Aelodaeth fel yr amlinellir yn yr Is-ddeddfau dilynol. Bydd y swyddfa hon yn sicrhau bod y ddeiseb ar agor ac ar gael i'w llofnodi gan aelodau o fewn dau ddiwrnod gwaith.
3. Bydd deiseb yn cau ar yr un pryd, ar yr un diwrnod ag y'i hagorodd ddeng niwrnod gwaith yn ddiweddarach
4. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn ceisio sicrhau bod Deisebau ar gael i holl aelodau'r Undeb eu llofnodi.
5. Gall aelodau ymgyrchu i annog myfyrwyr eraill i lofnodi'r ddeiseb.
6. Pan fydd y ddeiseb yn cau, bydd y Swyddog Canlyniadau yn cadarnhau cyfanswm y myfyrwyr sydd wedi llofnodi'r ddeiseb.
7. Os darganfyddir rhifau neu enwau myfyrwyr dyblyg neu annilys, yna cânt eu tynnu a'u diystyru o'r ddeiseb.
8. Y cworwm ar gyfer deisebau yw 50 o lofnodion aelodau.

Is-ddeddfau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor)
Is-ddeddf 7 - Etholiadau
Mae'r Is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Chyfarfodydd Aelodau sy'n Fyfyrwyr Undeb Bangor, yn unol â'u gweithdrefnau.
1 Etholiadau
1.1 Cynhelir etholiadau yn unol â'r Is-ddeddf hon yn flynyddol ar gyfer y swyddi canlynol:
1.1.1 Cynrychiolwyr i Gynhadledd UCM Cymru a Chynhadledd Grwpiau Rhyddid UCM Cymru,
1.1.2 Cynrychiolwyr i Gynhadledd UCM y Deyrnas Unedig a Chynhadledd Grwpiau Rhyddid UCM y Deyrnas Unedig,
1.1.3 Swyddogion Myfyrwyr,
1.1.4 Ymddiriedolwyr sy’n Fyfyrwyr (os cytunir gan y Pwyllgor Penodiadau)
2 Is-etholiadau
2.1 Yn amodol ar Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor), dylid llenwi unrhyw swyddi gwag sy'n codi yn ystod y flwyddyn trwy isetholiad a gynhelir yn unol â'r Is-ddeddf hon.
3 Hawliau Aelodau
3.1 Mae gan bob Aelod sy’n Fyfyriwr, fel y'i diffinnir yn Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) yr hawl i sefyll fel ymgeisydd mewn unrhyw etholiad, gyda'r eithriadau canlynol:
3.1.2 Cyfyngir Swyddogion sy’n Fyfyrwyr ac Ymddiriedolwyr sy’n Fyfyrwyr i ddau dymor yn y swydd.
3.1.3 Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer swydd Is-lywydd Myfyrwyr Cymraeg / Llywydd UMCB fodloni meini prawf cymhwysedd ymgeiswyr a phleidleisio fel y nodir yn Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor)
3.1.4 Mae gan Aelodau sy'n Fyfyrwyr sy'n cwblhau eu cwrs ym mis Ionawr, a myfyrwyr PhD yn eu blwyddyn ysgrifennu, yr hawl i sefyll fel ymgeiswyr yn etholiadau'r Swyddogion Myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd honno.
4 Penodi'r Swyddog Canlyniadau
4.1 Penodir y Swyddog Canlyniadau yn flynyddol gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr
4.2 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn annibynnol ac ni fydd yn Aelod.
5 Pwerau a Dyletswyddau'r Swyddog Canlyniadau
5.1 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn gyfrifol am ymddygiad da a gweinyddiad yr etholiadau a bydd ganddynt yr unig hawl dros ddehongli Is-ddeddf a Rheoliadau'r Etholiadau.

5.2 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn penodi Dirprwy Swyddog Canlyniadau a swyddogion etholiadol eraill i sicrhau bod yr etholiad yn cael ei weinyddu a'i hyrwyddo'n dda Caiff y Dirprwy Swyddog Canlyniadau a'r swyddogion etholiadol eu cyfarwyddo gan y Swyddog Canlyniadau ynghylch eu dyletswyddau a byddant yn cyflawni'r rhain mewn modd diduedd.
5.3 Gall y Swyddog Canlyniadau ddiddymu swyddogion nad ydynt yn dilyn cyfarwyddiadau'r Swyddog Canlyniadau neu nad ydynt yn gweithredu mewn modd diduedd.
5.4 Gall y Swyddog Canlyniadau geisio cyngor cyfreithiol os yw'n credu y gallai datganiadau a wnaed neu gynnwys cyhoeddusrwydd adael Undeb Bangor yn agored i gamau cyfreithiol.
5.5 Gall y Swyddog Canlyniadau ddiystyru unrhyw ddatganiad neu gynnwys unrhyw gyhoeddusrwydd sydd, yn eu barn hwy, yn torri Erthyglau Cymdeithasu, Is-ddeddfau neu Reoliadau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor).
5.6 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn dewis dull pleidleisio priodol ar gyfer pob etholiad ac yn sicrhau ei fod yn cael cyhoeddusrwydd ac yn cael ei egluro i'r aelodau.
5.7 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn cyhoeddi rheolau a rheoliadau etholiadau o flaen unrhyw etholiad. Bydd y rheolau a'r rheoliadau yn canolbwyntio ar sefydlu proses etholiadol deg, tryloyw a chyfartal ac yn cynnig eglurder ynghylch ymddygiad wrth ymgyrchu, cyhoeddusrwydd a gwariant. Rhaid cyflwyno'r rheolau a’r rheoliadau hyn i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr i'w mabwysiadu cyn dechrau'r broses etholiadol.
5.8 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn cyhoeddi Trefn Cwynion Etholiadau a Refferenda o flaen unrhyw etholiad. Bydd y drefn cwynion yn sefydlu llwybr clir i aelodau gwyno am ymddygiad ymgeiswyr a swyddogion etholiadol ac yn amlinellu'r pwerau y gellir eu defnyddio gan y Swyddog Canlyniadau a'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau. Rhaid i'r drefn gwynion hefyd dynnu sylw at lwybr apêl i ymgeiswyr nad ydynt yn cytuno â phenderfyniadau'r Swyddog Canlyniadau. Rhaid cyflwyno'r drefn gwynion i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr er mwyn ei mabwysiadu cyn dechrau'r broses etholiadol.
5.9 Gall y Swyddog Canlyniadau ddirprwyo unrhyw dasg i'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau ond nhw fydd yn cadw cyfrifoldeb dros yr etholiad ar bob adeg.
5.10 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn dirprwyo i'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau i wneud adroddiad i'r Pwyllgor Llywodraethu, Etholiadau a Phenodiadau ar bob cyfnod etholiad, gydag unrhyw argymhellion ar gyfer newidiadau i reolau, is-ddeddfau ac erthyglau yn ôl yr angen yn eu barn hwy.
6 Gweithgor Gweithredol Etholiadau
6.1 Bydd y Gweithgor Gweithredol Etholiadau yn:
6.1.1 Cefnogi'r Swyddog Canlyniadau i weinyddu'r etholiadau.
6.1.2 Gwerthuso rheolau, rheoliadau a phrosesau etholiadau yn flynyddol, gan ddefnyddio mewnbwn myfyrwyr.
6.1.3 Cefnogi’r Swyddog Canlyniadau i gyhoeddi rheolau a rheoliadau etholiadau cyn unrhyw etholiad.
6.2 Bydd y Gweithgor Gweithredol Etholiadau yn cynnwys:
6.2.1 Y Swyddog Canlyniadau Etholiadau.
6.2.2 Y Dirprwy Swyddog Canlyniadau Etholiadau.

6.2.3 Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr.
6.2.4 Staff Undeb y Myfyrwyr a oedd yn rhan o weinyddu'r Etholiadau.
6.2.5 Unrhyw unigolion ychwanegol a ddewisir gan y Swyddog Canlyniadau am eu harbenigedd a'u cyngor.
6.3 Rhaid i bob aelod o'r Gweithgor Gweithredol Etholiadau aros yn ddiduedd, ac yn annibynnol ar ymgeiswyr ac ymgeiswyr posibl, bob amser.
6.4 Rhaid i bob aelod o'r Gweithgor Gweithredol Etholiadau ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau posibl cyn unrhyw etholiadau.
7 Amserlen Etholiadau
7.1 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn llunio Amserlen Etholiadau, a fydd yn cynnwys y dyddiadau a'r amseroedd ar gyfer hysbysu a chwblhau'r canlynol:
7.1.1 Enwebiadau
7.1.2 Hyfforddi'r Ymgeiswyr
7.1.3 Maniffestos
7.1.4 Sesiwn Holi'r Ymgeiswyr
7.1.5 Pleidleisio
7.1.6 Y cyfrif
7.2 Cyhoeddir yr Amserlen Etholiadau a'i chylchredeg yn ddigonol ynghyd â deunyddiau sy'n hyrwyddo'r etholiad.
7.3 Bydd yr Amserlen Etholiadau yn caniatáu digon o amser i sicrhau'r lefel uchaf o gyfranogiad yn yr etholiad.
8 Enwebiadau
8.1 Bydd ffurflenni enwebu ar gael ar wefan Undeb Bangor, ac mewn mannau eraill fel y pennir gan y Swyddog Canlyniadau.
8.2 Bydd y cyfnod enwebu yn lleiafswm o bum (5) diwrnod clir cyn dechrau canfasio.
8.3 Pan fydd y Swyddog Canlyniadau yn fodlon, caiff pob enwebiad dilys ei gadarnhau gyda'r ymgeiswyr.
9 Hyfforddi'r Ymgeiswyr
9.1 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn trefnu bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu a disgwylir i bob ymgeisydd fod yn bresennol.
9.2 Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys sesiynau briffio ar sgiliau ymgyrchu, Rheoliadau'r Etholiadau, Sesiwn Holi'r Ymgeiswyr, cyhoeddusrwydd, a swyddogaethau'r Ymddiriedolwyr.
10 Maniffestos
10.1 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn cyhoeddi canllawiau ar faniffestos yn rheolau a rheoliadau'r etholiadau.

10.2 Rhaid i bob ymgeisydd sy'n dymuno cyflwyno Maniffestos sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno erbyn y dyddiad a nodir yn yr Amserlen Etholiadau.
10.3 Bydd y Maniffestos yn cael eu harddangos ar wefan Undeb Bangor, ac mewn mannau eraill fel y pennir gan y Swyddog Canlyniadau.
11 Ymgeiswyr sy'n Ddeiliaid Swyddi
11.1 Rhaid i Swyddogion presennol sy’n Fyfyrwyr ddatgan gwyliau â thâl i'r Swyddog Canlyniadau os ydynt am ymgymryd â gweithgaredd ymgyrchu yn ystod oriau swyddfa arferol dros gyfnod yr etholiadau.
11.2 Ni chaiff Swyddogion presennol sy’n Fyfyrwyr ddefnyddio unrhyw adnoddau o'u swydd bresennol i gynorthwyo ag unrhyw ymgyrch etholiadol.
11.3 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn llunio canllawiau i gynorthwyo Swyddogion presennol sy’n fyfyrwyr i gydymffurfio â Chymal 11 yr Is-ddeddf hon.
12 Sesiwn Holi'r Ymgeiswyr
12.1 Bydd y Swyddog Canlyniadau yn trefnu o leiaf un Sesiwn Holi'r Ymgeiswyr.
12.2 Bydd y Swyddog Canlyniadau neu eu penodai enwebedig yn cadeirio Sesiwn Holi'r Ymgeiswyr. Cynhelir Sesiwn Holi'r Ymgeiswyr yn unol â phroses a gytunir arni yn hyfforddiant yr ymgeiswyr.
12.3 Dylid cyfeirio cwestiynau at yr holl ymgeiswyr sy'n sefyll am y swydd. Gall y Cadeirydd ddiystyru unrhyw gwestiynau nad ydynt wedi'u cyfeirio at bob ymgeisydd.
12.4 Gall ymgeiswyr sydd ar leoliad, neu sy'n astudio dramor, enwebu dirprwy i siarad ar eu rhan.
13 Pleidleisio
13.1 Cyhoeddir manylion yr etholiadau a'r broses bleidleisio trwy wefan Undeb Bangor, ac mewn mannau eraill fel y pennir gan y Swyddog Canlyniadau.
13.2 Bydd y bleidlais yn cynnwys enw pob ymgeisydd ac enw'r swydd yr ymgeisir amdani.
13.3 Cynhwysir yr opsiwn i bleidleisio dros 'Ailagor Enwebiadau'
14 Cwynion
14.1 Rhaid cyflwyno unrhyw gwynion ynghylch cynnal yr etholiad yn ysgrifenedig i'r Swyddog Canlyniadau cyn dechrau'r cyfrif. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn penderfynu ar unrhyw gwynion, a bydd llwybr apêl fel y nodir yn y Drefn Cwynion Etholiadau a Refferenda sy'n ofynnol gan Gymal 5.8 yr Is-ddeddf hon.
15 Y Cyfrif
15.1 Gall yr ymgeisydd neu ei gynrychiolwyr penodedig neu unrhyw Aelod arall, os dymunant, fod yn bresennol yng nghyfrif y pleidleisiau, fel arsylwyr yn unig.
15.2 Rhaid i unrhyw aelod sy'n dymuno arsylwi wneud cais i'r Swyddog Canlyniadau cyn cau'r cyfnod pleidleisio.
15.3 Y Swyddog Canlyniadau, neu ei ddirprwy enwebedig, yw'r unig unigolyn a all ddechrau'r cyfrif.

15.4 Dim ond pan fo'r Swyddog Canlyniadau yn fodlon bod yr holl gwynion yn ymwneud â chynnal a gweinyddu'r etholiad wedi eu datrys y bydd y cyfrif yn dechrau. Dim ond cwynion yn ymwneud â'r cyfrif a fydd yn cael eu hystyried ar ôl i'r cyfrif ddechrau.
15.5 Pan fo hynny'n bosibl, cynhelir y cyfrif yn unol â'r canllawiau a osodir gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, neu fel y cytunir gan y Swyddog Canlyniadau lle nad oes canllawiau.
16 Datganiad
16.1 Caiff canlyniadau'r etholiadau eu cyhoeddi gan y Swyddog Canlyniadau pan fydd y cyfrif wedi'i gwblhau yn llwyddiannus ar gyfer pob swydd.
16.2 Caiff canlyniadau'r etholiadau eu postio ar wefan Undeb Bangor o fewn un (1) diwrnod gwaith o'r cyfrif.

Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau
Is-ddeddf 8 - Dewis peidio â bod yn aelod
Mae'r Is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, a Chyfarfodydd Aelodau sy'n Fyfyrwyr Undeb Bangor, yn unol â'u gweithdrefnau
O dan Adran 22(2)c Deddf Addysg 1994, mae gan unrhyw Fyfyriwr yr hawl i beidio â bod yn Aelod o'r Undeb.
7.1.1 I arfer yr hawl honno rhaid i Fyfyriwr hysbysu'r Llywydd o'i fwriad i 'optio allan' yn ysgrifenedig.
7.1.2 Bydd y Llywydd yn rhoi gwybod i'r Brifysgol am benderfyniad y Myfyriwr.
Os bydd myfyriwr yn dewis peidio â bod yn aelod o'r Undeb ni fydd yn gallu:
7.1.3 Cael swydd o fewn Grŵp Cyfleoedd i Fyfyrwyr, na sefyll mewn etholiad ar gyfer unrhyw swyddi'r Undeb;
7.1.4 Cymryd rhan mewn democratiaeth yr Undeb;
7.1.5 Cael eu cynrychioli gan yr Undeb mewn unrhyw amgylchiadau (e.e. apêl ar ddosbarthiad gradd/canlyniadau arholiad).
● Ni fydd Myfyriwr sy'n dewis optio allan yn derbyn unrhyw gyllid y byddai'r Brifysgol fel arall wedi'i roi i'r Undeb i'w cynrychioli.
● Gall Myfyriwr ailymuno, ar unwaith, ar unrhyw adeg drwy ysgrifennu at y Llywydd ac yna bydd ganddynt hawl i holl fuddion aelodaeth. Bydd y Llywydd yn rhoi gwybod i'r Brifysgol am benderfyniad y Myfyriwr.

Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau
Is-ddeddf 9 – Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB)
Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Cyngor Myfyrwyrynghyd â’u gweithdrefnau.
Cyfeirir at yr ‘Undeb Cymraeg’ fel y’i diffinnir gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor fel Undeb Myfyrwyr
Cymraeg Bangor (UMCB) a caiff ei lywodraethu gan yr is-ddeddf hwn.
1. Aelodaeth
1.1 Bydd unrhyw fyfyriwr Prifysgol Bangor sy’n medru’r Gymraeg yn ôl rhestr myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dod yn aelod yn awtomatig. Yr aelodau hyn yn unig fydd â hawliau pleidleisio mewn cyfarfodydd cyffredinol, refferendwm neu etholiad o fewn UMCB.
1.2 Bydd hawl gan unrhyw aelod UMCB i dynnu eu haelodaeth yn ôl trwy roi hysbysiad ysgrifenedig i UMCB.
1.3 Gall unrhyw un sy’n medru’r Gymraeg neu’n dysgu’r iaith, neu sydd â diddordeb yn yr iaith a diwylliant Cymru ond nad ydynt ar restr siaradwyr Cymraeg y Brifysgol ymuno ag UMCB fel Aelodau Cysylltiol. Gellir ymuno fel Aelod Cysylltiol hyd at ddiwrnod cyntaf y cyfnod etholiadau ffurfiol.
1.4 Gall unrhyw un nad ydynt yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor sy’n medru’r Gymraeg neu’n dysgu’r iaith, neu sydd â diddordeb yn yr iaith a diwylliant Cymraeg ymuno fel Aelodau Cyswllt am £15 y flwyddyn neu bris arall wedi’i osod yng nghyfarfod cyffredinol UMCB ond ni fyddant yn aelodau o’r Undeb.
1.5 Ni all mwy na 25% o aelodau UMCB fod yn Aelodau Cyswllt. Ni fydd hawl gan Aelodau Cyswllt bleidleisio mewn cyfarfodydd cyffredinol, refferenda neu etholiadau UMCB.

2. Pwyllgor Gwaith UMCB
2.1 Yn seiliedig ar Erthygl 30.1 ac Erthygl 30.3 yr Undeb, bydd y Pwyllgor Gwaith yn gyfrifol am:
2.1.1 Lywodraethu UMCB;
2.1.2 Cyllido UMCB;
2.1.3 Strategaethau UMCB; a
2.1.4 Digwyddiadau cyffredinol UMCB.
2.2 Etholir y pwyllgor yn flynyddol yng Nghyfarfod Cyffredinol mis Mai, heblaw am gynrychiolydd y flwyddyn gyntaf a chynrychiolydd myfyrwyr cartref (caiff y rhain eu hethol yng nghyfarfod cyffredinol cyntaf y flwyddyn academaidd briodol).
2.3 Y canlynol yw’r swyddogion fydd yn aelodau o’r Pwyllgor Gwaith (14 safle):
2.3.1 Llywydd UMCB- Cadeirydd;
2.3.2 Llywydd JMJ;
2.3.3 Cynrychiolydd y Flwyddyn Gyntaf;
2.3.4 Cynrychiolydd yr Ail Flwyddyn;
2.3.5 Cynrychiolydd y Drydedd Flwyddyn;
2.3.6 Cynrychiolydd Ôl-radd;
2.3.7 Cynrychiolydd Galwedigaethol;
2.3.8 Cynrychiolydd Myfyrwyr Cartref;
2.3.9 Cynrychiolydd Dysgwyr Cymraeg;
2.3.10 Y Cymric (4 safle); a
2.3.11 Golygydd Y Llef.
2.4 Penodir unigolyn i gymryd cofnodion y cyfarfodydd yn y cyfarfod cyntaf wedi cyfarfod cyffredinol mis Mai. Penodir is-gadeirydd o blith aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn y cyfarfod cyntaf.
3. Gweithredoedd
3.1 Disgwylir i bob aelod o’r pwyllgor i fynychu bob cyfarfod ac i ddanfon ymddiheuriad ysgrifenedig os nad ydynt yn medru mynychu.
3.2 Bydd y Pwyllgor Gwaith yn cyfarfod unwaith y tymor. Bydd pleidlais yr un gan bob aelod ond 2 bleidlais gan 4 aelod y Cymric rhyngddynt.

3.3 Llywydd UMCB bydd cadeirydd y cyfarfodydd ond os nad yw’r person hwnnw’n medru bod yno bydd yr is-gadeirydd yn cadeirio.
3.4 Bydd Is-bwyllgor Cymdeithasau- bydd yr is-bwyllgor yn cwrdd yn fisol.
3.5 Bydd y canlynol yn aelodau o’r is-bwyllgor Cymdeithasau:
3.5.1 Is-bwyllgor Cymdeithasau (9 safle):
3.5.1.1 Llywydd UMCB;
3.5.1.2 Llywydd JMJ;
3.5.1.3 Y Cymric (x4);
3.5.1.4 Golygydd Y Llef; a
3.5.1.5 2 gynrychiolydd Chwaraeon
3.6 Gall y Llywydd neu ddau aelod o’r Pwyllgor Gwaith neu’r is-bwyllgor alw cyfarfod.
3.7 Dylid rhoi gwybod am gyfarfod i aelodau’r pwyllgorau 5 diwrnod o flaen llaw, heblaw am mewn achosion pan fo’r holl aelodau’n cytuno gyda llai o rybudd.
3.8 Caiff bob aelod o’r is-bwyllgor un bleidlais yr un. Llywydd UMCB fydd y cadeirydd- os nad yw’r Llywydd ar gael bydd aelodau’r is-bwyllgor yn penodi cadeirydd ar ddechrau’r cyfarfod.
4. Amcanion
Amcanion UMCB yw:
4.1 Hyrwyddo cydweithrediad rhwng aelodau, ac i amddiffyn a hybu eu diddordebau academaidd, ieithyddol, diwylliannol, cymdeithasol ac allgyrsiol.
4.2 Hyrwyddo’r iaith Gymraeg a digwyddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn y Brifysgol a’r gymuned ehangach.
4.3 Darparu ar gyfer lles yr aelodau a’u cynrychioli ym mhob agwedd sy’n ymwneud â’u diddordebau.
4.4 Cynrychioli myfyrwyr yn y Brifysgol a fyddai’n hoffi gweinyddiaeth gwbl neu’n rhannol Gymraeg gan y Brifysgol.

5. Iaith
5.1 Cymraeg yw iaith swyddogol UMCB.
5.2 Bydd cyhoeddiadau swyddogol UMCB (e.e. llawlyfr UMCB a’r Llef) trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig.
5.3 Cymraeg fydd prif iaith UMCB ar wefannau cymdeithasol (Instagram, Twitter a Facebook).
5.4 Bydd gwasanaeth cyfieithu Saesneg ar gael i aelodau UMCB yn ystod cyfarfodydd os derbynnir cais amdani o leiaf 7 diwrnod cyn cyfarfod, heblaw am gyfarfodydd brys.
6. Cyfleoedd Cyfartal
Mae UMCB yn ymroddedig i gynnig cyfleoedd cyfartal i’r holl aelodau. Ni fydd unrhyw un o aelodau UMCB o dan anfantais yn seiliedig ar ryw, anabledd, rhywioldeb, iaith, hil, crefydd, oed, ethnigrwydd neu ddosbarth cymdeithasol. Bydd y Llywydd yn cynrychioli unrhyw aelod sydd yn wynebu niwed o fewn y Brifysgol.
7. Pwyllgor Ymgynghorol UMCB
• Gall y Pwyllgor Gwaith wahodd cyn-lywyddion UMCB i fod yn aelodau o Bwyllgor Ymgynghorol. Ni fydd y pwyllgor hwn yn cwrdd yn gyson ond gall y Pwyllgor Gwaith alw arnynt am gyngor ar unrhyw fater, ar unrhyw adeg ac mi fydd y Llywydd presennol yn rhoi diweddariad iddynt bob tymor. Gall y Pwyllgor Gwaith dynnu cyn-lywydd oddi ar y Pwyllgor Ymgynghorol os bo dros 50% o’r Pwyllgor Gwaith yn cytuno mai dyna fyddai orau.
8. Llywodraethu
8.1 Mae llywyddu UMCB yn cynnwys:
8.1.1 Y Cyfansoddiad hwn;
8.1.2 cyfarfod cyffredinol UMCB sydd â hawl i basio polisïau ac os bo’r Ymddiriedolwyr a’r Cyngor Myfyrwyr yn cytuno, i newid y cyfansoddiad;
8.1.3 y Pwyllgor Gwaith a’r is-bwyllgor, i weithredu polisi;
8.1.4 y Llywydd, sydd yn gyfrifol am dasgau gweinyddol dydd i ddydd; a
8.1.5 Pwyllgor Ymgynghorol UMCB.
8.2 Bydd copi o’r cyfansoddiad presennol ar gael i bob un o aelodau UMCB yn swyddfa’r Llywydd.

9. Cyfarfodydd Cyffredinol
9.1 Bydd awdurdod gan Gyfarfod Cyffredinol UMCB i wneud y canlynol:
9.1.1 cynrychioli llais aelodau UMCB;
9.1.2 ar sail Erthygl 30.3 yr Undeb, gosod polisi UMCB;
9.1.3 ar sail Erthygl 49 yr Undeb, creu, diddymu a diwygio’r Cyfansoddiad; ac
9.1.4 ethol y Pwyllgor Gwaith.
9.2 Cworwm cyfarfodydd cyffredinol fydd 50 o aelodau UMCB.
9.3 Ni fydd hawl gan Aelodau Cyswllt i bleidleisio mewn cyfarfodydd cyffredinol neu refferenda.
9.4 Gellir galw am gyfarfod cyffredinol o leiaf 5 diwrnod o flaen llaw gan:
9.4.1 Y Llywydd; neu
9.4.2 hanner aelodau’r Pwyllgor Gwaith; neu
9.4.3 Y Llywydd neu’r Pwyllgor Gwaith yn dilyn deiseb ynglŷn â mater penodol wedi’i harwyddo gan o leiaf 20 o aelodau.
9.5 Gellir galw am Gyfarfod Cyffredinol Brys gan y Llywydd neu’r Pwyllgor Gwaith o leiaf 2 ddydd o flaen llaw ynghyd ag esboniad o’r mater/materion i’w trafod yn y cyfarfod hwnnw.
9.6 Mae’n rhaid i’r Llywydd drefnu Cyfarfod Cyffredinol bob tymor yn Ystafell Gyffredin JMJ neu leoliad arall sy’n gyfleus i’r aelodau.
9.7 Y Llywydd fydd Cadeirydd y cyfarfodydd cyffredinol. Os nad yw’r Llywydd yn bresennol, bydd yr Is-lywydd yn cadeirio ac os nad yw’r Is-lywydd yn bresennol bydd yr aelodau yn penodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwnnw.
10. Llywydd UMCB
Bydd gan y Llywydd yr awdurdod a’r dyletswyddau canlynol fel y manylir yn Is-ddeddf 3:

10.1 Bydd y Llywydd yn atebol i’r Pwyllgor Gwaith ac i’r Cyfarfod Cyffredinol.
10.2 Bydd y Llywydd yn gyfrifol am gynrychioli aelodau UMCB.
10.3 Bydd y Llywydd yn gyfrifol am gydlynu ymgyrchoedd UMCB.
10.4 Y Llywydd yn unig fydd â’r hawl i siarad â’r cyfryngau ynghylch UMCB. Yn absenoldeb y Llywydd, bydd y Pwyllgor Gwaith yn dewis cynrychiolydd arall i wneud hynny.
10.5 Bydd cyfrifoldeb gan y Llywydd i gadw rhestr aelodaeth wedi’i ddiweddaru.
10.6 Bydd y Llywydd yn gweithio o swyddfa UMCB yn Undeb Bangor, Pontio a bydd hefyd cynnal oriau swyddfa yn swyddfa UMCB yn Neuadd John Morris-Jones.
10.7 Bydd y Llywydd yn gyfrifol am sicrhau bod y Cyfansoddiad a’r ddogfen bolisi yn cael eu diweddaru’n gyson.
11. Etholiadau UMCB
11.1 Caiff y Pwyllgor Gwaith ei ethol mewn Cyfarfod Cyffredinol am dymor o flwyddyn yn unol â’r Is-ddeddf hon.
11.2 Caiff Llywydd UMCB ei ethol yn rhan o dîm y Swyddogion Sabothol yn unol â’r Is-ddeddf hon.
12. Cyhoeddiadau UMCB
Y Llef
12.1 Caiff y Llef ei gyhoeddi unwaith bob tymor.
12.2 Bydd y Golygydd yn aelod o Bwyllgor Gwaith UMCB.
12.3 Bydd is-olygyddion yn rhoi cymorth i’r golygydd.
12.4 Llywydd UMCB bydd Swyddog Gweithredol y Llef a bydd ef/hi yn sicrhau bod y Llef yn cydfynd â Chytundeb Cyfryngau Myfyrwyr cyn ei gyhoeddi.
13. Cod Ymddygiad
Bydd Cod Ymddygiad a gweithdrefnau disgyblaethol ar gyfer Aelodau Myfyrwyr yn cynnwys holl aelodau ac Aelodau Cyswllt UMCB.

14. Refferenda
14.1 Gellir galw refferenda ar unrhyw achos sy’n briodol i UMCB gan:
14.1.1 gydran o’r Pwyllgor Gwaith;
14.1.2 bleidlais fwyafrifol gan yr aelodau mewn Cyfarfod Cyffredinol; neu
14.1.3 yn unol ag Erthygl 30.3 yr Undeb, deiseb wedi’i harwyddo gan o leiaf 35 o aelodau.
14.2 Yn unol ag Erthyglau 30.3 yr Undeb, er mwyn pasio datrysiad trwy refferenda mae’n rhaid i o leiaf 110 o aelodau bleidleisio mewn refferendwm a bod mwyafrif syml o blaid y datrysiad hwnnw.
14.3 Cynhelir refferenda yn unol â’r Erthyglau a’r Is-ddeddfau.
14.4 Yn unol ag Erthygl 30.3 yr Undeb, gall yr aelodau osod polisi UMCB trwy refferenda. Gall polisi wedi’i osod trwy refferenda ddiddymu polisi wedi’i osod gan y pwyllgor gwaith a pholisi wedi’i osod gan yr aelodau mewn Cyfarfod Cyffredinol.
15. Diswyddo Llywydd UMCB o’r tîm Swyddogion Sabothol
Caiff y Llywydd ei ddiswyddo os ei fod yn:
15.1 ymddiswyddo neu’n marw; neu
15.2 eu bod yn cael eu diswyddo fel Swyddog Sabothol:
15.2.1 o ganlyniad i fwyafrif syml mewn pleidlais diffyg hyder yn y Swyddog Sabothol mewn refferendwm, cyn belled a bod o leiaf 110 o aelodau wedi bwrw pleidlais. Cynhelir refferendwm os bo Deiseb Ddiogel wedi’i harwyddo gan o leiaf 35 aelod; neu
15.2.2 o ganlyniad i bleidlais diffyg hyder gan fwyafrif o ddwy ran o dair mewn Cyfarfod Cyffredinol. Cynhelir pleidlais os bo deiseb wedi’i harwyddo gan o leiaf 35 aelod neu gan Gyfarfod Cyffredinol a gelwir gan y Pwyllgor Gwaith;
Bydd unrhyw ddiswyddiad yn unol â chamau priodol yr Undeb o ran diwygio cytundeb cyflogaeth ac/neu unrhyw weithdrefn ddisgyblaethol y dylid ei gweithredu yn unol ag arferion cyflogaeth dda.
15.3 Bydd unrhyw Swyddog Sabothol caiff ei ddiswyddo o’i rôl yn cael ei ddiswyddo fel Ymddiriedolwr Sabothol hefyd.
16. Darpariaethau anghyson â’i gilydd
Os bo unrhyw wrthdaro rhwng y Cyfansoddiad hwn ac Erthyglau Cymdeithasiad yr Undeb, dylid dilyn erthyglau’r Undeb. Unwyd UMCB a’r Undeb trwy ewyllys da ac awydd i gydweithio er mwyn ffurfio perthynas barhaol. Os nad yw’r berthynas honno’n parhau, dylid ystyried ewyllys democrataidd aelodau UMCB wrth wneud penderfyniadau o ran dyfodol y berthynas.

17. Diffiniadau
Yn y Cyfansoddiad hwn dylid defnyddio’r diffiniadau canlynol, heblaw bod y cyd-destun yn gofyn yn wahanol:
Cyfansoddiad – is-ddeddfau UMCB
UMCB – Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor
Undeb – Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor

Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau
Is-ddeddf 10 - Atebolrwydd Aelod Etholedig
Mae'r Is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, a Chyfarfodydd Aelodau sy'n Fyfyrwyr Undeb Bangor, yn unol â'u gweithdrefnau
1. Diben
1.1. Pwrpas yr is-ddeddf hon yw sicrhau bod pob aelod etholedig Undeb Bangor yn cael eu trin yn deg a’i bod yn rhoi dull teg o ymdrin â phleidleisiau o ddiffyg hyder.
2. Pleidleisiau o ddiffyg hyder mewn Swyddogion Myfyrwyr.
2.1. Gellir diswyddo Swyddogion Myfyrwyr sy'n methu â chyflawni eu dyletswyddau trwy bleidlais o ddiffyg hyder (VONC), trwy fwyafrif syml mewn Refferendwm, sy'n agored i bob myfyriwr sy'n gymwys ar gyfer y swydd honno, gan ddilyn y weithdrefn a amlinellir isod:
2.1.1.Cyflwynir Deiseb fel yr amlinellir yn Is-ddeddf 6 ac mae'n rhaid i 50 o fyfyrwyr ei llofnodi o fewn yr amser y cytunwyd arno.
2.1.2.Cynhelir Refferendwm fel yr amlinellir yn Is-ddeddf 3
2.1.3.Os bydd pleidlais o ddiffyg hyder yn llwyddiannus, ystyrir bod y Swyddog hwnnw wedi ymddiswyddo o'i swydd a dilynir y prosesau mewnol sy'n llywodraethu Swyddog sy'n gadael ei rôl.
3. Pleidleisiau o ddiffyg hyder yn ymwneud ag aelodau etholedig o Grwpiau Undeb Myfyrwyr
3.1. Mae pleidlais o ddiffyg hyder (VONC), sy'n ymwneud ag aelodau etholedig o Grwpiau Undeb Myfyrwyr (Clybiau, Cymdeithasau a phrojectau gwirfoddoli), yn rhoi cyfle i fyfyrwyr godi pryderon ynghylch methiant aelodau etholedig i gyflawni eu dyletswyddau'n ddigonol a dechrau gweithdrefnau i'w diswyddo o'u swydd.
3.2. Yn y lle cyntaf, dylid ymdrin â hyn drwy'r weithdrefn a amlinellir yn y cyfansoddiad perthnasol. Os nad oes gweithdrefn yn bodoli, yna gellir codi pleidlais o ddiffyg hyder drwy'r weithdrefn ganlynol:
3.3. Gellir diswyddo Aelodau Etholedig sy'n methu â chyflawni eu dyletswyddau o'u swydd trwy bleidlais o ddiffyg hyder (VONC), fel a ganlyn:
3.3.1. Pleidlais mwyafrif syml o ddiffyg hyder mewn Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol (CCE) ar ôl ceisio dod i benderfyniad drwy drafodaethau anffurfiol gyda'r Swyddog sy’n Fyfyriwr a'r Cydlynydd Staff perthnasol, gan ystyried unrhyw amgylchiadau lliniarol. I gynnig pleidlais o ddiffyg hyder, rhaid cyflwyno deiseb ysgrifenedig yn amlinellu'r rhesymau dros bleidlais o'r fath i'r Swyddog sy’n Fyfyriwr a’r Cydlynydd Staff perthnasol, gan o leiaf 20% o aelodau'r grŵp. Dylai cynnig pleidlais o ddiffyg hyder ymwneud â chyflawni'r rôl yn unig.
3.3.2. Ar ôl derbyn y ddeiseb, bydd Undeb y Myfyrwyr yn hysbysu pwyllgor y grŵp bod ganddynt o leiaf 3 diwrnod gwaith i roi gwybod i aelodau'r grŵp y bydd Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol yn cael ei gynnal i glywed y ddeiseb hon.
3.3.3. Rhaid gwahodd y Swyddog sy’n Fyfyriwr a/neu'r Cydlynydd Staff perthnasol i'r Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol hefyd i ddychwelyd canlyniad y pleidlais o ddiffyg hyder.

Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau
Is-ddeddf 11 - Polisi Undeb Bangor
Mae'r Is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Chyfarfodydd Aelodau sy'n Fyfyrwyr Undeb Bangor, yn unol â'u gweithdrefnau
1 Llunio a Phasio Polisi
1.1 Gellir llunio a phasio polisi Undeb y Myfyrwyr yn unol ag Is-ddeddf 3
1.1.1
1.2 Ni all polisi fod yn groes i gyfraith gwlad na gwerthoedd Undeb y Myfyrwyr.
2 Polisi a Basiwyd
2.1 Bydd polisi a basiwyd yn para mewn grym am weddill y flwyddyn academaidd pan gytunwyd arno ac am un flwyddyn academaidd gyflawn yn dilyn hynny, oni bai;
2.1.1 Fod ei amcanion yn cael eu cwblhau.
2.1.2 Ei fod yn cael ei wrthdroi gan syniad drwy Is-ddeddf 3
2.1.3 Ei fod yn cael ei ail-gadarnhau yn unol ag 14.3.
3 Ail-gadarnhau Polisi
3.1 Bydd polisïau'n cael eu hailgadarnhau yng Nghyfarfod Gweithredol cyntaf y Swyddogion Myfyrwyr yn y flwyddyn academaidd y maent yn cael eu hadnewyddu ar ei chyfer.

Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau
Is-ddeddf 12 – Cyfleoedd Myfyrwyr
Mae'r Is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Chyfarfodydd Aelodau sy'n Fyfyrwyr Undeb Bangor, yn unol â'u gweithdrefnau
Mae Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor yn cynnwys Clybiau Chwaraeon Undeb Bangor a’r Undeb Athletau, Cymdeithasau Undeb Bangor ac Urdd y Cymdeithasau, Gwirfoddoli Myfyrwyr a Phrosiectau Gwirfoddoli, Clybiau a Chymdeithasau UMCB, Prosiectau Ehangu Mynediad a Chodi Arian gan Grwpiau Myfyrwyr.
Strwythur Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor
Gweler Atodiad Cyfansoddiad |Clybiau.
Gweler Atodiad Cyfansoddiad Cymdeithasau.
10.1. Clybiau Chwaraeibm Cymdeithasau a Phrosiectau Gwirfoddoli Undeb Bangor.
10.1.1. Mae Clybiau, Cymdeithasau a Phrosiectau Gwirfoddoli sydd wedi’u cydnabod yn gysylltiedig ag Undeb Bangor ac felly disgwylir i’r aelodau ddilyn ei reolau a’i ddogfennau llywodraethu. Mae’n rhaid i geisiadau i ddechrau cyfle newydd i fyfyrwyr ddilyn Polisi Cadarnhad Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor.
10.1.2. Undeb Bangor sy’n berchen ar unrhyw adnoddau ac offer y’u prynir gan Glwb, Gymdeithas neu Brosiect Gwirfoddoli.
10.1.3. Mae Is-lywydd yr UA ac Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli yn gyfrifol am ddarparu adnoddau cyffredinol a chyfleusterau i’r Clybiau, Cymdeithasau ac aelodau Gwirfoddoli.
10.1.4 Mae pob Clwb, Cymdeithas a Phrosiect Gwirfoddoli yn gysylltiad anghorfforedig, yng nghlwm gan gyfansoddiad neu gytundeb partneriaeth ac mae eu pwyllgorau gwaith yn gyfrifol am eu holl ddigwyddiadau.
10.1.5 Disgwylir i aelodau clybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli ddilyn deddfwriaeth blaenorol gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i gyfraith elusennau priodol, cyfraith iechyd a diogelwch, cyfraith diogelu data ac unrhyw Bolisi Prifysgol Bangor neu Undeb Bangor priodol.
10.2. Cyfarfodydd Cyffredinol Clybiau, Cymdeithasau a Phrosiectau Gwirfoddoli.
10.2.1 Disgwylir i bob clwb, cymdeithas a phrosiect gwirfoddoli ddanfon o leiaf 2 gynrychiolydd i bob cyfarfod cyffredinol. Mae Cyfarfodydd Cyffredinol yn ddigwyddiadau pwysig sy’n galluogi trafodaethau a chyfathrebu gwybodaeth bwysig. Gall unrhyw glwb, gymdeithas neu brosiect gwirfoddoli nad ydynt yn mynychu’r cyfarfodydd neu’n danfon ymddiheuriadau boddhaol

dderbyn cosb yn unol â Pholisi Cadarnhad Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor gan gynnwys gwaharddiad neu derfyniad os canfyddir eu bod yn segur.
10.2.2 Cynhelir Cyfarfodydd Cyffredinol unwaith y tymor ac unrhyw bryd arall fel sydd angen. Fel arfer penderfynir ar hyn gan Is-lywydd yr UA neu Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli.
10.2.3 Caiff pob clwb, cymdeithas a phrosiect gwirfoddoli hysbysiad ynglŷn â chyfarfod cyffredinol o leiaf 14 diwrnod o flaen llaw.
10.2.4 Mewn Cyfarfod Cyffredinol bydd gan bob clwb, cymdeithas a phrosiect gwirfoddoli caiff eu cydnabod un bleidlais yr un. Os bo canlyniad cyfartal, bydd pleidlais yr Is-lywydd yr UA neu Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli yn pennu’r canlyniad.
10.3. Pwyllgorau Gwaith Clybiau, Cymdeithasau a Phrosiectau Gwirfoddoli.
10.3.1 Pwyllgorau Gwaith y Clybiau (Undeb Athletau), Cymdeithasau (Urdd y Cymdeithasau) a Phrosiectau Gwirfoddoli yw pwyllgorau gwaith y Clybiau Chwaraeon, Urdd y Cymdeithasau a Phrosiectau Gwirfoddoli Myfyrwyr. Etholir dau aelod o bob Pwyllgor Gwaith i fod yn aelodau o Gyngor Undeb Bangor.
10.3.2 Pwyllgor Gwaith Undeb Athletau
- Gweler Atodiad 1
10.3.3 Pwyllgor Gwaith Cymdeithasau
- Gweler Atodiad 1
10.3.4 Pwyllgor Gwaith Prosiectau Gwirfoddoli
- Gweler Atodiad 1
10.3.5 Y Swyddogion Sabothol sydd ag awdurdod dros Bwyllgorau gwaith y clybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli gan gynnwys tu hwnt i dymhorau israddedig ac academaidd. Dylid cyfathrebu unrhyw benderfyniad yng nghyfarfod nesaf Pwyllgorau Gwaith y clybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli.
10.4. Cydnabyddiaeth clybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli
Gweler Polisi Cadarnhad y clybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli.
STRWYTHUR CLYBIAU, CYMDEITHASAU A PHROSIECTAU GWIRFODDOLI
10.5. Aelodaeth clybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli
10.5.1 Mae Aelodaeth Gyffredinol ar gael i aelodau llawn Undeb Bangor cyn belled a gyrhaeddir y telerau isod:
a) Eu bod wedi cofrestru fel Aelodau Cyffredin o glwb neu gymdeithas ar www.undebbangor.com.

b) Maent yn boddhau neu’n gweithio tuag at foddhau lefel gallu angenrheidiol fel nodir yn nhaflen rheolaeth peryglon neu bolisi iechyd a diogelwch.
c) Nad ydynt wedi’u gwahardd trwy Weithdrefnau Disgyblaethol Undeb Bangor.
10.5.2 Mae Aelodaeth Gysylltiol ar gael i aelodau cysylltiol Undeb Bangor cyn belled a gyrhaeddir y telerau isod:
a) Eu bod wedi cofrestru fel Aelodau Cysylltiol o glwb neu gymdeithas ar www.undebbangor.com
b) Eu bod wedi talu ffioedd Aelodau Cysylltiol clybiau a/neu gymdeithasau Undeb Bangor (swm sy’n hwy na swm aelodaeth gyffredinol).
c) Bod eu haelodaeth wedi’i gadarnhau gan bwyllgor y clwb/cymdeithas yn ogystal â’r IL Chwaraeon neu IL Cymdeithasau a Gwirfoddoli.
d) Maent yn boddhau neu’n weithio tuag at foddhau unrhyw lefel o allu angenrheidiol sydd ei hangen ar sail y daflen reoli peryglon neu bolisi iechyd a diogelwch.
e) Nid ydynt wedi’u gwahardd trwy weithdrefnau disgyblaethol Undeb Bangor.
*Pennir statws aelodaeth prosiectau gwirfoddoli trwy gais i wirfoddoli ar brosiect. Gellir ffeindio’r daflen ymgeisio ar www.undebbangor.com yn unol â Pholisi Gwirfoddoli Undeb Bangor.
10.5.3 Gellir gwobrwyo cyn-aelodau neu aelodau presennol clwb, cymdeithas neu brosiect gwirfoddoli gydag Aelodaeth Anrhydeddus gan Bwyllgor Gwaith Undeb Bangor.
10.5.4 Cyfrifoldeb y clwb, cymdeithas neu brosiect gwirfoddoli yw sicrhau bod yr rheiny sy’n mynychu eu digwyddiadau’n aelodau o Undeb Bangor.
10.6. Aelodau Pwyllgorau Clybiau, Cymdeithasau a Phrosiectau Gwirfoddoli
10.6.1 Mae aelodau pwyllgorau’n Swyddogion i’r clwb, cymdeithas neu brosiect wirfoddoli hwnnw ac mae’n rhaid eu hethol yn unol â chyfansoddiad y clwb neu gymdeithas neu yn achos y prosiectau gwirfoddoli, mae’n rhaid eu recriwtio gan ddilyn Polisi Gwirfoddoli Undeb Bangor a Pholisi Recriwtio a Dewis Undeb Bangor.
10.6.2 Mae’n rhaid i bwyllgor bob Clwb, Cymdeithas a Phrosiect Gwirfoddoli gynnwys y canlynol;
a) Capten/Cadeirydd (neu rôl sy’n gydradd â’r rhain)
b) Trysorydd (neu rôl gydradd)
c) Ysgrifennydd
Gellir creu rolau newydd yng Nghyfarfod Cyffredinol y Clwb, Cymdeithas neu Brosiect Gwirfoddoli.
*Arweinydd y Prosiect fydd yr Ysgrifennydd pan ddaw at brosiectau Gwirfoddoli.

10.6.3 Cyfrifoldeb Pwyllgorau’r clybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli yw sicrhau bod y Swyddogion yn arwain trwy esiampl pan ddaw at:
a) Cydraddoldeb ac Amrywioldeb
b) Diogelwch
c) Ymddygiad addas.
10.6.4 Disgwylir i’r Swyddogion fynychu hyfforddiant sy’n briodol i’w rôl nhw, darperir yr hyfforddiant hwn yng Nghynhadledd Arweinyddiaeth Myfyrwyr ac unrhyw ddigwyddiadau hyfforddi eraill caiff eu trefnu (fel arfer gan y Cydlynydd Cyfleoedd Myfyrwyr priodol).
10.7. Democratiaeth Clwb, Cymdeithas a Phrosiect Gwirfoddoli unigol.
10.7.1 Cyfarfod Cyffredinol Grwp Cyfleoedd:
a) Yw’r prif gorff pan ddaw at wneud penderfyniadau ar gyfer clwb, cymdeithas neu brosiect gwirfoddoli.
b) Mae’n rhaid cael Cyfarfod Cyffredinol o leiaf 1 waith y flwyddyn.
c) Gellir ethol Aelodau Gweithredol trwy system bleidleisio ‘Single Transferable’. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar https://www.electoral-reform.org.uk/voting-systems/types-of-voting-system/singletransferable-vote/ neu https://www.electoral-reform.org.uk/ers-cymru/?lang=cy
d) Dim ond Aelodau Cyffredinol y clwb, cymdeithas neu brosiect gwirfoddoli caiff bleidleisio.
e) Dim ond Aelodau Cyffredinol caiff enwebu’u hunain mewn etholiad.
f) Un bleidlais i bob aelod. Cyfrir pob pleidlais yn hafal.
g) Dylid cadw cofnod o funudau bob cyfarfod am gyfnod o ddwy blynedd.
10.7.2 Cworwm:
O ganlyniad i egwyddorion cyfranogiad e.e. gall aelodau cyfranogi hyd at ba lefel yr hoffant, ni benderfynir ar gworwm cyfarfodydd cyffredinol clybiau, cymdeithasau neu brosiectau gwirfoddoli trwy ffigur mesurol. Y cafeat yw bod yn rhaid i’r Cyfarfod Cyffredinol ddigwydd yn ystod y tymor ac mae’n rhaid hysbysu’r rheiny ddylai fynychu o leiaf 14 diwrnod o flaen llaw.
10.8. Cyllid
Gweler Gweithdrefnau Cyllidol Undeb Bangor ar undebbangor.com.
10.9. Cydraddoldeb ac Amrywioldeb
10.9.1 Mae’n rhaid i bob Clwb, Cymdeithas a Phrosiect Gwirfoddoli fod yn gynhwysol ac sicrhau cydraddoldeb.

10.9.2 Disgwylir i bob Clwb, Cymdeithas a Phrosiect Gwirfoddoli ddilyn rheolau ac arferion Prifysgol Bangor ac Undeb Bangor a chanllaw ymarfer da pan yn trefnu a chynnal gweithgareddau.
10.9.3 Disgwylir i bob Clwb, Cymdeithas a Phrosiect Gwirfoddoli ddelio â materion mewnol mewn modd broffesiynol, cyson a chyfrinachol. Os bo mater yn codi nad ydy’r Pwyllgor yn teimlo y medran nhw ddelio ag ef, dylai’r Pwyllgor ofyn am gymorth gan yr IL neu gydlynydd priodol.
11.0 Polisïau a Phrosesau
11.1 Disgwylir i bob Clwb, Cymdeithas a Phrosiect Gwirfoddoli gadw cofnod wedi’i ddiweddaru o’u holl aelodau ac unrhyw ddatblygiadau yn eu polisïau. Gellir ffeindio’r polisïau ar www.undebbangor.com neu www.bangor.ac.uk.
11.2 Gweler rhai o’r polisïau a phrosesau allweddol isod:
Polisïau a Phrosesau Allweddol Undeb Bangor
Polisi Aelodau Cysylltiol Undeb Bangor
-Proses, meini prawf a chanllawiau ar gyfer bobl nad ydynt yn fyfyrwyr sydd ag awydd ymuno â Grŵp Cyfleoedd
Polisi Dosraniad Grant Undeb Bangor
- Proses ac amserlen ar gyfer y broses dosrannu grantiau.
Polisi Amddiffyn Undeb Bangor
-Polisi yng nghylch lles y cyfranogwyr.
Polisi Cyfryngau Myfyrwyr Undeb Bangor
-Cyngor, canllawiau a rheolau ynglŷn â radio, argraffu a chyfryngau ar lein.
Gweithdrefn Hysbysu mewn Argyfwng Undeb Bangor
-Cyngor a chanllawiau ynglŷn â beth i’w wneud mewn argyfwng.
Polisi Cod Ymddygiad a Rhyddid Llafar gan gynnwys Siaradwyr Gwadd Prifysgol Bangor
-Polisi yng nghylch gweithgaredd siaradwyr gwadd yn mynychu digwyddiadau myfyrwyr.
Polisi Ymgyrchu Etholiadol ar dir Prifysgol Bangor
-Gwybodaeth, canllawiau a rheolau o ran ymgyrchu ar gampws y Brifysgol.
Polisi Cadarnhad Grŵp Cyfleoedd Undeb Bangor

-Proses a meini prawf ar gyfer cadarnhad agor a chau Clybiau a Chymdeithasau.
Gweithdrefnau Cyllidol Undeb Bangor
-Gwybodaeth fanwl ynglŷn â Chyfrifoldebau Cyllidol y Clybiau a Chymdeithasau.
Cytundeb Arweinyddiaeth Grwpiau Undeb Bangor
-Rolau a chyfrifoldebau arweinwyr y grwpiau.
Polisi Iechyd a Diogelwch Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor
-Cyngor a chanllawiau i roi cymorth ynglŷn â dyletswyddau aelodau’r grwpiau cyfleoedd i’w hunain ac i eraill.
Cyfansoddiad Clybiau Undeb Bangor
-Templed Cyfansoddiad i glybiau gan gynnwys sut i newid y Cyfansoddiad.
Gweithdrefn Disgyblaethol Aelodau Cysylltiol a Myfyrwyr Undeb Bangor
-Amlinellu y broses er mwyn delio â chwyn ffurfiol.
Cyfansoddiad Cymdeithasau Undeb Bangor
- Templed Cyfansoddiad i gymdeithasau gan gynnwys sut i newid y Cyfansoddiad.
Atodiadau
Atodiad 1: Rolau’r Pwyllgor Gwaith
Atodiad 1.1: Undeb Athletau
Llywydd yr Undeb Athletau
- Is-lywydd Chwaraeon.
Ysgrifennydd yr Undeb Athletau
- Cofnodi munudau pob cyfarfod ac yn cefnogi Llywydd yr UA fel sydd angen.
Swyddog Digwyddiadau yr Undeb Athletau
- Trefnu digwyddiadau i’r UA ac yn chwarae rôl yn themâu ‘AU Nights’.
Swyddog Ehangu Mynediad yr Undeb Athletau
- Hybu cyfranogiad yn y chwaraeon ac yn gweithio ynghyd â Chydlynwyr Chwaraeon Campws.

Swyddog BUCS yr Undeb Athletau
- Cefnogi logisteg timau sy’n chware i ffwrdd a diweddaru sgôr-fyrddau ar hyd y campws.
Swyddog Cyfathrebu a Chyhoeddusrwydd yr Undeb Athletau
- Hybu digwyddiadau a gweithgaredd clybiau ar y cyfryngau cymdeithasol a chydweithio gyda’r Seren a’r Llef.
Swyddog Byw’n Iach yr Undeb Athletau
- Hybu byw’n iach ac arwain yr Wythnos Byw’n Iach gyda Llywydd yr UA.
Atodiad 1.2: Urdd y Cymdeithasau
Cadeirydd y Cymdeithasau
- Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli.
Ysgrifennydd y Cymdeithasau
- Cofnodi munudau pob cyfarfod ac yn cefnogi’r Cadeirydd fel sydd angen.
Swyddog Newyddion y Cymdeithasau
- Hybu digwyddiadau a gweithgaredd cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli ar y cyfryngau cymdeithasol a chydweithio gyda’r Seren a’r Llef.
Swyddog Rhwydweithio y Cymdeithasau
- Hybu rhyngweithio rhwng cymdeithasau.
Swyddog Digwyddiadau y Cymdeithasau
- Trefnu digwyddiadau ar gyfer y cymdeithasau a chefnogi ceisiadau gan gymdeithasau.
Swyddog Cyfathrebu y Cymdeithasau
- Annog a chefnogi cyfathrebu gyda’r gymuned leol.
Atodiad 1.3: Gwirfoddoli Myfyrwyr
Cadeirydd Gwirfoddoli Myfyrwyr
- Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli.
Ysgrifennydd ac is-gadeirydd Gwirfoddoli Myfyrwyr
- Cefnogi’r Pwyllgor ac IL Cymdeithasau a Gwirfoddoli fel sydd angen.

Aelod Pwyllgor Gwaith Gwirfoddoli Myfyrwyr
- Cefnogi datblygiad Gwirfoddoli Myfyrwyr ac yn helpu llywio syniadau newydd.
Aelod Pwyllgor Gwaith Gwirfoddoli Myfyrwyr
- Cefnogi datblygiad Gwirfoddoli Myfyrwyr ac yn helpu llywio syniadau newydd.
Aelod Pwyllgor Gwaith Gwirfoddoli Myfyrwyr
- Cefnogi datblygiad Gwirfoddoli Myfyrwyr ac yn helpu llywio syniadau newydd.
Aelod Pwyllgor Gwaith Gwirfoddoli Myfyrwyr
- Cefnogi datblygiad Gwirfoddoli Myfyrwyr ac yn helpu llywio syniadau newydd.
Cynrychiolydd Tîm Hyrwyddo Gwirfoddoli Myfyrwyr
- Arwain hyrwyddo gweithgareddau’r gwirfoddolwyr.
Cynrychiolydd RAG Gwirfoddoli Myfyrwyr
- Cefnogi datblygiad Gwirfoddoli Myfyrwyr ac yn cefnogi codi arian myfyrwyr.
Atodiad 2.0: Cyfansoddiad Clybiau Undeb Bangor
- Templed Cyfansoddiad i glybiau gan gynnwys modd i newid y Cyfansoddiad.
CYFANSODDIAD [ENW] PRIFYSGOL BANGOR
1 Enw
1.1 Gelwir y clwb yn “[enw] Prifysgol Bangor” o hyn ymlaen.
2 Cysylltiad
2.1 [Cydnabyddir/cysylltir] y clwb ag Undeb Athletau Prifysgol Bangor [a Chorff Llywodraethu].
3 Amcanion
3.1 Cynnig hyfforddiant, cyfleoedd cystadleuol a di-gystadleuol i aelodau.
3.2 Cynnal amgylchedd gyfrifol, gadarnhaol a chynhwysol i bawb.
3.3 Bod yn gynaliadwy ac wedi’i rheoli’n llwyddiannus.
3.4 Cynnal ymddygiad a bod mor dda ag sy’n bosib yn ymarferol.

3.5 Sicrhau iechyd, diogelwch a lles pob aelod.
3.6 Sicrhau taw aelodau yn unig sy’n cyfranogi o fewn eu gallu nhw fel hyfforddwyr yn unig.
3.7 [amcanion eraill priodol]
4 Aelodaeth
4.1 Bydd y clwb yn agored i aelodau Undeb Bangor yn unig, cyfeirir atynt fel ‘Aelodau Clwb’.
4.2 Diffinnir aelodau clwb fel un o’r canlynol; Aelodau Cyffredinol (Aelodau Cofrestredig Prifysgol Bangor) neu Aelodau Cysylltiol (Personau nad ydynt yn aelodau cyffredin).
4.3 Ni all Aelodau Cysylltiol fod yn fwy na % aelodau cyffredinol y clwb.
4.4 Bydd yr aelodaeth yn cytuno i gefnogi a derbyn amcanion y clwb.
4.5 Trwy dderbyn aelodaeth, cytuna’r person i lynu wrth y cyfansoddiad a rheolau’r clwb yn ogystal â phenderfyniadau pwyllgor y clwb.
4.6 Ni fydd ffioedd aelodaeth, fodd bynnag mae’n bosib bydd ffioedd os bo angen hyfforddiant bellach. Cytunir ar unrhyw ffioedd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM).
4.7 Mae’n rhaid i bob aelod dderbyn anwythiad addas i’r clwb a’r weithgaredd a derbyn briff ynglŷn ag unrhyw asesiad risg neu daflen rheoli peryglon sy’n briodol.
5 Pwyllgor Clwb
5.1 Bydd y swyddogion etholedig canlynol ar y pwyllgor:
5.1.1 Capten Clwb
5.1.2 Ysgrifennydd
5.1.3 Trysorydd
5.1.4 [swyddogion priodol eraill e.e. Swyddog Hyfforddi, Swyddog Cymdeithasol ayyb- gofynnwch i aelod o’r Tîm Cyfleoedd Myfyrwyr am gyngor….]
5.2 Dyletswyddau
5.2.1 Rheoli’r clwb.
5.2.2 Ystyried ceisiadau aelodaeth a phenderfynu os dylid eu derbyn. Bydd y penderfyniad hwn yn unol â’r polisi manylir yn 4.
5.2.3 Penderfynu pa adnoddau/eiddo dylid eu prynu.
5.2.4 Cyfrifol am holl eiddo’r clwb yn cynnwys cofnodion cynnal a chadw.

Sicrhau bod pob aelod yn ymwybodol o’r cyfrifoldebau ar gyfer eu hoffer personol maent yn eu defnyddio yn ystod gweithgareddau e.e. eu cynnal ac yswiriant.
5.2.5 Cynnal cysylltiadau ag Undeb Bangor a rheoli gweinyddiaeth er mwyn cynnwys:
5.2.6 Risg a chofnodion hyfforddiant- i’w adolygu’n flynyddol ynghyd â staff yr Undeb.
5.2.7 Cyfansoddiad- adolygu’n flynyddol ynghyd â staff yr Undeb.
5.2.8 Polisi Iechyd a Diogelwch- adolygu’n flynyddol ynghyd â staff yr Undeb.
5.2.9 Ffurflen Grant- adolygu’n flynyddol ynghyd â staff yr Undeb.
5.2.10 Rhestr aelodaeth a chadw cofnodion cyffredinol- adolygu bob semester ynghyd â staff yr Undeb.
5.2.11 Cyflyrau Meddygol- Adolygu pob aelod a’u cyflwyno i staff yr Undeb os bod angen.
5.2.12 Dogfennau eraill fel sydd angen o dro i dro.
6 Dylai Swyddogion Pwyllgor y clwb ofyn am gyngor gan y Cydlynydd Cyfleoedd Myfyrwyr priodol.
6.1 Bydd Capten y Clwb yn gyfrifol am:
6.1.1 Gadeirio pob Cyfarfod Cyffredinol a phob cyfarfod pwyllgor y clwb.
6.1.2 Arwain gweithgareddau’r clwb fel yr hoffai’r mwyafrif o’r aelodau.
6.1.3 [Cynrychioli neu drefnu cynrychiolaeth i’r clwb mewn cyfarfodydd a mudiadau neu gynghreiriau eraill.]
6.1.4 Rhoi adborth ar waith y pwyllgor mewn cyfarfod cyffredinol.
6.1.5 Dewis timau i gystadlu (ble fo’n briodol).
6.1.6 Sicrhau bod chwaraewyr yn gymwys i chwarae a bod ganddynt y cymwysterau, hyfforddiant neu brofiad addas i gyfranogi.
6.1.7 [dyletswyddau priodol eraill]
6.2 Bydd yr Ysgrifennydd yn gyfrifol am:
6.2.1 Drefnu pob Cyfarfod Cyffredinol a chyfarfodydd y pwyllgor.
6.2.2 Gymryd cofnodion ym mhob cyfarfod a’u cadw’n ddiogel.
6.2.3 Sicrhau bod cofnod o bob penderfyniad cyllidol caiff eu gwneud.
6.2.4 Gadw cofnod wedi’i ddiweddaru o’r holl aelodau a’i drosglwyddo i Undeb Bangor.

6.2.5 [dyletswyddau priodol eraill]
6.3 Bydd y Trysorydd yn gyfrifol am:
6.3.1 Gadw cofnod o’r holl incwm a gwariant.
6.3.2 Rhoi holl arian y clwb i Undeb Bangor.
6.3.3 Bryniannau cytunwyd arnynt gan y pwyllgor ond bydd hawl ganddynt wrthod gwariant o gyfrif y clwb.
6.3.4 Arwyddo holl wariannau’r clwb yn unol â gweithdrefnau Cyllid Undeb Bangor.
6.3.5 Gyflwyno adroddiad ariannol yn y Cyfarfod Cyffredinol yn dangos cyflwr ariannol y clwb.
6.3.6 Baratoi y cais grant blynyddol.
6.3.7 [dyletswyddau priodol eraill]
6.4 Ethol Swyddogion
6.4.1 Etholir swyddogion yn flynyddol yn y Cyfarfod Cyffredinol a bydd y rhai caiff eu dewis yn parhau yn y rôl am flwyddyn.
6.4.2 Bydd ffurflenni enwebu ar gael gan yr Ysgrifennydd 7 diwrnod cyn y Cyfarfod Cyffredinol.
6.4.3 Mae’n rhaid i ddau aelod gynnig ac eilio pob enwebiad.
6.4.4 Caiff pob swyddog eu ethol trwy system Bleidlais Drosglwyddadwy Sengl.
7 Cyfarfodydd
7.1 Dylid danfon ymddiheuriadau at yr Ysgrifennydd.
7.2 Bydd gan bob aelod bleidlais a bydd hawliau
7.3 Bydd gan y Cadeirydd y bleidlais sy’n pennu’r canlyniad os bo’r pleidleisiau’n gyfartal.
7.4 Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM)
7.4.1 Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol yn flynyddol- fel arfer ym mis Ebrill.
7.4.2 Dylid cyhoeddi Cyfarfod Cyffredinol o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad y cyfarfod.
7.5 Cyfarfod Cyffredinol mewn Argyfwng (EGM)
7.5.1 Gellir galw AGM os bo holl aelodau’r pwyllgor yn cytuno bod angen gwneud hynny.
7.5.2 Dylid cyhoeddi bod EGM o leiaf 3 diwrnod o flaen llaw.

7.6 Cyfarfodydd Pwyllgorau Clybiau
7.6.1 Bydd holl aelodau’r pwyllgor yn mynychu.
7.6.2 Cynhelir cyfarfod o leiaf unwaith y mis.
8 Disgyblaeth ac Apeliadau
8.1 Gall unrhyw achos o dorri rheolau’r cyfansoddiad peri gweithred ddisgyblaethol ac o bosib gwaharddiad o’r clwb.
8.2 Bydd y pwyllgor yn cwrdd a thrafod unrhyw achos o dorri’r cyfansoddiad o fewn 7 diwrnod.
8.3 Bydd y pwyllgor yn gweithredu yn erbyn unrhyw aelod os bod y pwyllgor yn cytuno y byddai’n addas.
8.4 Mae hawl gan unrhyw aelod wneud apêl mewn ysgrifen i’r pwyllgor o fewn 7 diwrnod.
8.5 Wedi derbyn apêl bydd y pwyllgor yn cysylltu ag aelodau’r clwb er mwyn ffurfio Pwyllgor Apêl o fewn 7 diwrnod.
8.6 Bydd y Pwyllgor Apêl yn cyfarfod o fewn 7 diwrnod wedi ffurfio’r pwyllgor a dylai gynnwys un cynrychiolydd o Undeb Bangor.
8.7 Bydd penderfyniad y Pwyllgor Apêl yn derfynol.
8.8 Dylid sicrhau bod y Tîm Cyfleoedd Myfyrwyr yn gwybod am unrhyw weithred ddisgyblaethol.
9 Adolygiad o’r Cyfansoddiad
9.1 Caiff y cyfansoddiad hwn ei adolygu yn flynyddol.
9.2 Cytunir ar unrhyw newidiadau i’r cyfansoddiad mewn Cyfarfod Cyffredinol.
9.3 Dylid cyflwyno unrhyw newidiadau i’r cyfansoddiad i’r Ysgrifennydd o leiaf 7 diwrnod cyn y Cyfarfod Cyffredinol.
Capten Clwb Enw:
Llofnod:
Ysgrifennydd Enw:
Llofnod:
Trysorydd Enw:
Llofnod:

Dyddiad:
Atodiad 3.0 Cyfansoddiad Cymdeithas Undeb Bangor
-Templed Cyfansoddiad ar gyfer Cymdeithasau gan gynnwys modd i newid y Cyfansoddiad.
CYFANSODDIAD [ENW] PRIFYSGOL BANGOR
1 Enw
Gelwir y gymdeithas yn “[enw] Prifysgol Bangor” o hyn ymlaen.
2 Amcanion
2.1 Cynnig cyfleoedd i gyfranogi i’r aelodau.
2.2 Cynnal amgylchedd gyfrifol, gadarnhaol a chynhwysol i bawb.
2.3 Bod yn gynaliadwy ac wedi’i rheoli’n llwyddiannus.
2.4 Cynnal ymddygiad a bod mor dda ag sy’n bosib yn ymarferol.
2.5 [amcanion eraill priodol]
3 Aelodaeth
4.1 Bydd y clwb yn agored i aelodau Undeb Bangor yn unig, cyfeirir atynt fel ‘Aelodau Clwb’.
4.2 Diffinnir aelodau clwb fel un o’r canlynol; Aelodau Cyffredinol (Aelodau Cofrestredig Prifysgol Bangor) neu Aelodau Cysylltiol (Personau nad ydynt yn aelodau cyffredin).
4.3 Ni all Aelodau Cysylltiol fod yn fwy na % aelodau cyffredinol y clwb.
4.4 Bydd yr aelodaeth yn cytuno i gefnogi a derbyn amcanion y clwb.
4.5 Trwy dderbyn aelodaeth, cytuna’r person i lynu wrth y cyfansoddiad a rheolau’r clwb yn ogystal â phenderfyniadau pwyllgor y clwb.
4.6 Ni fydd ffioedd aelodaeth, fodd bynnag mae’n bosib bydd ffioedd os bod angen hyfforddiant bellach. Cytunir ar unrhyw ffioedd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM).
4.7 Mae’n rhaid i bob aelod dderbyn anwythiad addas i’r clwb a’r weithgaredd a derbyn briff ynglŷn ag unrhyw asesiad risg neu daflen rheoli peryglon sy’n briodol.

4 Pwyllgor Cymdeithas
4.1 Caiff ei ffurfio gan yr unigolion canlynol:
4.1.1 Cadeirydd
4.1.2 Ysgrifennydd
4.1.3 Trysorydd
4.1.4 [Swyddogion priodol eraill]
4.2 Dyletswyddau
4.2.1 Rheoli’r gymdeithas
4.2.2 Ystyried ceisiadau aelodaeth a phenderfynu os dylid derbyn y ceisiadau hynny. Bydd y penderfyniad yn unol â pholisi 3.
4.2.3 Penderfynu pa offer/eiddo dylid eu prynu ar gyfer y gymdeithas.
4.2.4 Byddant yn gyfrifol am holl eiddo’r gymdeithas.
4.2.5 Cynnal cysylltiadau â’r Undeb Myfyrwyr a rheoli’r agweddau gweinyddol er mwyn cynnwys:
4.2.6 Asesiad Risg- adolygu’n flynyddol ynghyd â staff yr Undeb.
4.2.7 Cyfansoddiad- adolygu’n flynyddol ynghyd â staff yr Undeb.
4.2.7 Polisi Iechyd a Diogelwch- adolygu’n flynyddol ynghyd â staff yr Undeb.
4.2.8 Ffurflen Grant- adolygu’n flynyddol ynghyd â staff yr Undeb.
4.2.9 Rhestr aelodaeth- adolygu’n flynyddol ynghyd â staff yr Undeb.
4.2.10 Cyflyrau meddygol- adolygu’n flynyddol ynghyd â staff yr Undeb.
4.2.11 Dogfennau eraill fel sydd angen o dro i dro.
5 Swyddogion Pwyllgor y Gymdeithas
5.1 Bydd Cadeirydd y Gymdeithas yn gyfrifol am:
5.1.1 Gadeirio holl Gyfarfodydd Cyffredinol y gymdeithas a holl gyfarfodydd pwyllgor y gymdeithas.
5.1.2 Llywio holl ddigwyddiadau’r gymdeithas fel yr hoffai mwyafrif o’r aelodau.
5.1.3 Roi adborth am holl waith y pwyllgor yn y Cyfarfodydd Cyffredinol.

5.1.4 [dyletswyddau priodol eraill]
5.2 Bydd yr Ysgrifennydd yn gyfrifol am:
5.2.1 Drefnu pob Cyfarfod Cyffredinol y gymdeithas a holl gyfarfodydd y pwyllgor.
5.2.2 Gymryd cofnodion ym mhob cyfarfod a’u cadw’n ddiogel.
5.2.3 Sicrhau bod pob penderfyniad cyllidol yn cael eu cofnodi.
5.2.4 Gadw cofnod wedi’i ddiweddaru o holl aelodau’r gymdeithas.
[dyletswyddau priodol eraill]
5.3 Bydd y Trysorydd yn gyfrifol am:
5.3.1 Gadw cofnod o incwm a gwariant y gymdeithas.
5.3.2 Drosglwyddo holl arian y gymdeithas i Undeb Bangor.
5.3.3 Bryniannau cytunwyd arnynt gan y pwyllgor ond bydd hawl ganddynt wrthod gwariant o gyfrif y gymdeithas.
5.3.4 Arwyddo holl wariannau’r gymdeithasu yn unol â gweithdrefnau Cyllid Undeb Bangor.
5.3.5 Gyflwyno adroddiad cyllid yn y Cyfarfod Cyffredinol er mwyn dangos cyflwr ariannol y Gymdeithas.
5.3.6 Baratoi’r cais grant er mwyn ei gyflwyno i’r Cydlynydd Cyfleoedd Myfyrwyr priodol pan fo angen.
5.3.7 [dyletswyddau priodol eraill]
5.4 Ethol Swyddogion
6.4.1 Etholir swyddogion yn flynyddol yn y Cyfarfod Cyffredinol a bydd y rhai caiff eu dewis yn parhau yn y rôl am flwyddyn.
6.4.2 Bydd ffurflenni enwebu ar gael gan yr Ysgrifennydd 7 diwrnod cyn y Cyfarfod Cyffredinol.
6.4.3 Mae’n rhaid i ddau aelod gynnig ac eilio pob enwebiad.
6.4.4 Caiff pob swyddog eu ethol trwy system Bleidlais Drosglwyddadwy Sengl.
7 Cyfarfodydd
7.1 Dylid danfon ymddiheuriadau at yr Ysgrifennydd.
7.2 Bydd gan bob aelod bleidlais a bydd hawliau pleidleisio hafal gan bawb.

7.3 Bydd gan y Cadeirydd y bleidlais sy’n pennu’r canlyniad os bo’r pleidleisiau’n gyfartal.
7.4
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM)
7.4.1 Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol yn flynyddol- fel arfer ym mis Ebrill.
7.4.2 Dylid cyhoeddi Cyfarfod Cyffredinol o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad y cyfarfod.
7.5 Cyfarfod Cyffredinol mewn Argyfwng (EGM)
7.5.1 Gellir galw AGM os bo holl aelodau’r pwyllgor yn cytuno bod angen gwneud hynny.
7.5.2 Dylid cyhoeddi bod EGM o leiaf 3 diwrnod o flaen llaw.
7.6 Cyfarfodydd Pwyllgorau Clybiau
7.6.1 Bydd holl aelodau’r pwyllgor yn mynychu.
7.6.2 Cynhelir cyfarfod o leiaf unwaith y mis.
8 Disgyblaeth ac Apeliadau
8.1 Gall unrhyw achos o dorri rheolau’r cyfansoddiad peri gweithred ddisgyblaethol ac o bosib gwaharddiad o’r gymdeithas.
8.2 Bydd y pwyllgor yn cwrdd a thrafod unrhyw achos o dorri’r cyfansoddiad o fewn 7 diwrnod.
8.3 Bydd y pwyllgor yn gweithredu yn erbyn unrhyw aelod os bod y pwyllgor yn cytuno y byddai’n addas.
8.4 Mae hawl gan unrhyw aelod wneud apêl mewn ysgrifen i’r pwyllgor o fewn 7 diwrnod.
8.5 Wedi derbyn apêl bydd y pwyllgor yn cysylltu ag aelodau’r gymdeithas er mwyn ffurfio Pwyllgor Apêl o fewn 7 diwrnod.
8.6 Bydd y Pwyllgor Apêl yn cyfarfod o fewn 7 diwrnod wedi ffurfio’r pwyllgor a dylai gynnwys un cynrychiolydd o Undeb Bangor.
8.7 Bydd penderfyniad y Pwyllgor Apêl yn derfynol.
8.8 Dylid sicrhau bod y Tîm Cyfleoedd Myfyrwyr yn gwybod am unrhyw weithred ddisgyblaethol.
9 Adolygiad o’r Cyfansoddiad
9.1 Caiff y cyfansoddiad hwn ei adolygu yn flynyddol.
9.2 Cytunir ar unrhyw newidiadau i’r cyfansoddiad mewn Cyfarfod Cyffredinol.

9.3 Dylid cyflwyno unrhyw newidiadau i’r cyfansoddiad i’r Ysgrifennydd o leiaf 7 diwrnod cyn y Cyfarfod Cyffredinol.
Capten Clwb Enw:
Llofnod:
Ysgrifennydd Enw:
Llofnod:
Trysorydd Enw:
Llofnod:
Dyddiad:

Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau
Is-ddeddf 13 – Dwyieithrwydd
Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Cyngor Myfyrwyr ynghyd â’u gweithdrefnau.
Mae’r is-ddeddf hon yn unol â, ac yn barhad o’r ‘Language Statement’ cytunir arni gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ar y 18fed o Ionawr, 2018.
1. Mae Undeb Bangor yn defnyddio ac yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant ym mhob agwedd o’u waith ac yn fudiad sy’n gweithredu’n ddwyieithog.
1.1 Mae Undeb Bangor yn ymroddedig i gadw at Safonau’r Iaith Gymraeg sydd gan y Brifysgol, polisi Iaith Gymraeg y Brifysgol ac is-ddeddf dwyieithrwydd yr Undeb. Bydd yn sicrhau bod yr holl wasanaethau ar gael yn ddwyieithog.
1.2 Mae Undeb Bangor yn ymroddedig i ddangos ymwybyddiaeth a pharch tuag at yr iaith a’r diwylliant ac yn gwneud ymdrech i drafod materion Cymreig a materion sy’n ymwneud â’r iaith gyda Llywydd UMCB. Bydd Undeb Bangor yn gweithio tuag at hybu’r iaith pryd bynnag bod cyfle.
1.3 Canolfan Bedwyr yw cyfieithwyr swyddogol Undeb Bangor a gellir lan lwytho unrhyw ddogfen i’w gwefan i’w cyfieithu, boed yn Saesneg neu’n Gymraeg.
1.4 Mae Undeb Bangor yn ymroddedig i sicrhau bod yr holl staff a swyddogion sabothol yn ymwybodol o’r is-ddeddfau Dwyieithrwydd a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg trwy hyfforddiant cyson, a dylid hysbysu’r bobl yma o unrhyw newidiadau i’r Is-ddeddfau.
2. Gweithredu
2.1 Mae’r is-ddeddf hon yn briodol i bob agwedd o waith Undeb Bangor; yr eiddo caiff ei reoli gan Undeb Bangor, dosbarthiadau’r trydydd parti a digwyddiadau wedi’u trefnu neu’u rhedeg gan Undeb Bangor.
2.2 Ysgrifenedig
2.2.1 Mae’n rhaid i bob ddogfen ysgrifenedig fod yn ddwyieithog.
2.2.2 Mae’n rhaid i bob cyfatebiaeth swyddogol fod yn ddwyieithog, er gellir ateb cyfatebiaeth trwy gyfrwng yr iaith y derbyniwyd ymateb ynddi. Bydd Undeb Bangor yn gwneud ymdrech i amlygu’r ffaith y gellir cysylltu â nhw yn naill iaith.

2.2.3 Dylid cynhyrchu pob poster neu hysbyseb gan Undeb Bangor yn ddwyieithog, gyda’r fersiwn Gymraeg naill ai uwch ben neu i’r chwith o’r fersiwn Saesneg. Pan ddaw at bosteri, gellir cynhyrchu dwy fersiwn, un yn y naill iaith a’u arddangos ochr yn ochr.
2.2.4 Os bod ymgais i gyfieithu neges mewn argyfwng (e.e. argyfwng meddygol, tywydd) yn methu, gellir arddangos y neges mewn un iaith gyda chaniatâd gan Gyfarwyddwr Undeb Bangor ac/neu Llywydd UMCB.
2.3 Galwadau Ffôn
2.3.1 Dylid ateb y ffôn â chyfarchiad dwyieithog, gyda’r fersiwn Gymraeg gyntaf.
2.3.2 Os bod y person sy’n galw yn dymuno cael sgwrs trwy gyfrwng y Gymraeg dylid delio â’r alwad drwy’r Gymraeg nes ei fod yn hollol angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad ydynt yn siarad Cymraeg.
2.4 Gwefannau
2.4.1. Gweithreda Undeb Bangor wefan ddwyieithog. Pan caiff testun ei ychwanegu/newid ar y wefan, dylid diweddaru a chyhoeddi’r testunau Cymraeg a Saesneg ar yr un pryd.
2.5 Cyfryngau Cymdeithasol
2.5.1. Mae’r Cyfryngau Cymdeithasol yn fodd cyfathrebu swyddogol, felly dylid sicrhau bod y tudalennau swyddogol ar Facebook, Twitter ac Instagram (ac unrhyw gwefannau cyfryngau cymdeithasol swyddogol sydd gan Undeb Bangor) i gyd yn ddwyieithog.
2.5.2 Mewn achosion pan fo’r cyfryngau cymdeithasol yn gosod mwyafrif o eiriau y gellir eu rhoi, dylid uwch lwytho’r Cymraeg a’r Saesneg ar wahân.
2.6. Clybiau, Cymdeithasau a Gwirfoddoli
2.6.1 Mae Undeb Bangor yn ymroddedig i gefnogi’r holl glybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli yn eu hymdrechion i fod yn ddwyieithog.
2.6.2 Bydd Undeb Bangor yn darparu hyfforddiant, cyngor a chefnogaeth pan ddaw at agweddau ymarferol a gweithrediadol defnyddio’r Gymraeg ar ddechrau bob blwyddyn academaidd, gan gyd-weithio â Llywydd UMCB.
2.6.3 Bydd Llywydd UMCB yn gyfrifol am gynnig cymorth i bob clwb a chymdeithas yn eu hymdrechion i weithredu’n ddwyieithog.
2.6.4 Os bod aelod o glwb neu gymdeithas yn gofyn am dderbyn cyfatebiaeth Gymraeg, mae’n rhaid i’r clwb neu gymdeithas ddarparu cyfatebiaeth ddwyieithog.

2.6.5 Disgwylir i bob clwb, cymdeithas a phrosiect gwirfoddoli sicrhau bod unrhyw ddeunyddiau hyrwyddo, boed yn ddigidol neu wedi’u hargraffu yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg naill ai uwch ben neu i’r chwith o’r Saesneg. Gyda phosteri, gellir argraffu un yn y naill iaith a’u harddangos ochr yn ochr.
2.7. Cyfarfodydd a Digwyddiadau
2.7.1 Bydd pob cyfarfod Undeb Bangor caiff eu cyhoeddi’n ddwyieithog: bydd hysbyseb y cyfarfod, yr agenda, papurau a munudau yn ddwyieithog a bydd cyfieithydd yn y cyfarfod.
2.7.2 Priodola pwynt 2.7.1 i gyfarfodydd adrannau o fewn yr Undeb (Cyfleoedd, Llais y Myfyrwyr) heblaw am y cyfieithydd. Bydd Undeb Bangor yn sicrhau bod pawb fydd yn mynychu’r cyfarfod yn gwybod bod angen gofyn am gyfatebiaeth Gymraeg o leiaf 5 diwrnod cyn y cyfarfod.
2.7.3 Pob digwyddiad arall cynhelir gan Undeb Bangor e.e. Cynhelir Seremonïau Gwobrwyo’n ddwyieithog.
2.8 Deunyddiau Allanol
2.8.1 Dylai Undeb Bangor ddefnyddio ei gysylltiadau ag asiantaethau eraill i hybu dwyieithrwydd gan sicrhau bod unrhyw deunyddiau yn ddwyieithog.
2.8.2. Ni fydd Undeb Bangor yn derbyn nac yn arddangos deunyddiau unieithog yn unol â pwynt 2-2.8.
2.8.3 Ble mae deunyddiau allanol yn unieithog, mae’n rhaid i’r cyrff allanol ddarparu cyfieithiad o safon uchel. Os nad yw’r cyfieithiad yn cyrraedd safonau Undeb Bangor mae hawl gan Undeb Bangor i wrthod ei arddangos.
2.8.4 Byddwn yn gweithio gydag Academi, yn ogystal ag annog a rhoi pwysau arnynt i sicrhau bod eu hysbysebu’n ddwyieithog. Gellir ychwanegu hwn rhywle o dan 2.8 ‘Deunyddiau allanol’.
3. Eithriadau
3.1 Teitlau
3.1.2. Pan yn hysbysebu darlith, trafodaeth, araith, cyngerdd ne ddadl ayyb gellir cadw’r teitl gwreiddiol. Dylai pob deunydd arall ddilyn amodau’r is-ddeddf hon.
3.2 Mudiadau Gwirfoddol
3.2.1 Caiff unrhyw ddeunyddiau unieithog y dymuna unrhyw fudiadau gwirfoddol neu elusennol eu defnyddio eu trosglwyddo i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith.

3.2.2 Cymraeg yn unig iaith weithiol Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB), sy’n rhan o Undeb Bangor, a dylai holl staff Undeb Bangor gefnogi UMCB er mwyn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg. Pan fo’n briodol bydd UMCB yn darparu gwybodaeth ddwyieithog.
3.3 Cyhoeddiadau
3.3.1 Gellir cadw erthyglau caiff eu hanfon i’r Llef neu’r Seren yn eu hiaith wreiddiol. Gall y golygydd ddewis os bod angen eu cyfieithu neu beidio.
3.3.2 Rhaid cyfieithu unrhyw un o gyhoeddiadau Undeb Bangor heblaw am y Llef a’r Seren.
4. Staff
4.1. Penodir pob aelod o staff Undeb Bangor yn unol â Chod Gweithredu Prifysgol Bangor.
4.2. Anogir pob aelod o staff yr Undeb (gan gynnwys Swyddogion Sabothol) i ddysgu Cymraeg gyda chefnogaeth lawn y tîm rheoli i wneud hynny yn ystod oriau gwaith, yn cydweithio gyda’r Brifysgol i ddysgu a datblygu sgiliau ieithyddol Gymraeg.
4.3. Bydd pob aelod o staff rheoli’r Undeb yn medru’r Gymraeg neu’n ymroi I ddysgu’r iaith.
5. Ymchwil
5.1. Os derbynnir cais gan y Brifysgol i gydweithio er mwyn gwneud ymchwil sy’n edrych ar ddatblygiad iaith a’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, bydd yr Undeb yn cefnogi’r Brifysgol.
6. Safonau Cyfieithu
6.1. Yn unol â’r is-ddeddf hon, mae Undeb Bangor yn cydnabod ac yn dilyn polisïau cyfieithu Canolfan Bedwyr.
6.2. Os bod amheuaeth o ran safon cyfieithiad mewnol, dylid danfon y testun i Canolfan Bedwyr.
6.3. Nid yw gwasanaethau cyfieithu ar lein (e.e. Google Translate) yn cyrraedd y safonau disgwyliedig ac ni ddylid eu defnyddio.
7. Ymdrin â Chwynion
7.1. Mewn achosion pan caiff yr is-ddeddf hon ei thorri a derbynnir cwyn, dylid dilyn gweithdrefn cwynion Undeb Bangor (is-ddeddf 9).
7.2. Trosglwyddir cwynion ynglŷn â’r iaith Gymraeg i Llywydd UMCB a’r rheolwr priodol. Os derbynnir cwyn ynglŷn â Llywydd UMCB, trosglwyddir y gwyn i’r Cyfarwyddwr.