Canllaw hwylustod

Page 1


Canllaw hwylustod Serendipity

Cafodd y canllaw hwylustod eu wneud ar y cyd rhwng Undeb Bangor (Undeb Myfyrwyr Bangor), UNDOD (Cymdeithas ar gyfer myfyrwyr awtistig), Cymdeithas Myfyrwyr Anabl Prifysgol Bangor ac Fully Accessible Bangor (FAB).

Gyda diolch i:

 Charlie Cross – Cadeirydd Undod

 Mathew Watson – Cadeirydd Cymdeithas Myfyrwyr anabl

Prifysgol Bangor

 Jemima Simson – Trysorydd Undod

 Kathryn Hughes – Arweinydd Cyfleoedd Myfrwyr yr Undeb

 Ffion Hughes – Arweinydd Marchnata a Chyfathrebu yr Undeb

Os yr hoffech ddarganfod mwy o wybodaeth ynghylch Undod, ebostiwch unite@undebbangor.com , neu y cadeirydd chc20ryt@bangor.ac.uk, neu gallwch edrych ar ein wefanau cymdeithasol (Instagram, Facebook, Discord). 65 & 66 yw rhif ein stondin ni. Cychwynir ein sesiynau ar Hydref y 1af, cynhelir sesiynau bob dydd Mercher a Sul 3-5yp yn yr Ystafell Angen yn Undeb y Myfyrwyr sydd wedi ei leoli ar bedwerydd llawer adeilad Pontio. Nid oes angen i chi gysylltu gyda ni o flaen llaw, dim ond troi fyny i’r sesiwn ac nid yw diagnosis yn ofynnol.

Os yr hoffech ddarganfod mwy ynghylch BUDSS, ebostiwch disabilitystudents@bangor.ac.uk neu y cadeirydd mtw22rbt@bangor.ac.uk .Gallwch gysylltu a ni ar ein wefanau cymdeithasol hefyd: (Instagram: bangordisabledstudents). 65 & 66 yw rhif ein stondin ni. Cychwynir ein sesiynau ar Hydref y 4ydd, cynhelir sesiwn pob dydd sadwrn rhwng 5-7yp yn yr Ystafell Angen yn Undeb y Myfyrwyr sydd wedi ei lleoli ar bedwerydd llawer adeilad Pontio.

Os oes ganddoch unrhyw bryderon ynghylch hwylustod peidiwch oedi cyn anfon ebost, ond nid oes angen cysylltu a ni er mwyn ymuno na bod â diagnosis er mwyn ymuno. Gellir darganfod mwy o wybodaeth amdanom yn yr adran am y ‘stondinau i edrych allan amdanynt’.

Os oes ganddoch unrhyw adborth am y canllaw hwn, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda! Carwn glywed ganddoch er mwyn gwella ein adnoddau ac ein hwylustod.

Beth yw Serendipity?

Digwyddiad dau ddiwrnod a gynhelir ar gampws Ffriddoedd (un o’r prif bentrefi preswyl) yw Serendipity. Hwn yw ffair glas-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, digwyddiad a alluogir myfyrwyr newydd i weld yr holl gyfleoedd sydd ar gael, megis:

 Cymdeithasau (Neuadd 2)

 Clybiau Chwaraeon (Neuadd 2)

 Gwirfoddoli (Neuadd 1)

 Sefydliadau allanol (Neuadd 1)

Pryd mae o?

Cynhelir Serendipity ar Fedi 25 a 26 rhwng 10yb – 4yp.

Ble mae o?

Cynhelir Serendipity yn Nghanolfan Brailsford sydd wedi ei leoli ym mhentref Ffriddoedd. Mae maes parcio gerllaw a thu allan, mae mwy o wybodaeth amdanynt isod o dan y teitl ‘Canllaw hwylustod i’r rhai â anableddau symudedd’ Mae mwy o wybodaeth i’r rhai â anableddau symudedd yn yr adran sydd yn dwyn y teitl ‘Canllaw hwylustod i’r rhai â anableddau synhwyrol’.

Beth yw Cymdeithas/Clwb?

Grwp gan fyfyrwyr yn cael ei redeg gan fyfyrwyr yw cymdeithas neu glwb. Tueddir i gyfeirio at grwpiau sydd yn ymwneud â chwaraeon fel ‘Clybiau’ ac unrhyw beth arall fel ‘Cymdeithas’.

Yn arferol mae nhw yn cael eu harwain gan bwyllgor o: Gadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd a swyddog lles a chynhwysiant. Rolau cyffredin eraill ar bwyllgor yw Ysgrifennydd Cymdeithasol a Rheolwr cyfryngau cymdeithasol. Caiff y rolau yma eu cymryd gan fyfyrwyr a gaiff eu hethol yn flynyddol, rolau gwirfoddol ydynt a bydd rhaid iddynt ymgymryd a hyfforddiant Cymorth Cyntaf (neu Gymorth Cyntaf chwaraeon).

Mae gan Brifysgol Bangor dros gant o glybiau a chymdeithasau a olygir fod yna rhywbeth at ddant pawb. Bydd modd ymaelodi â chlybiau a chymdeithasau nail a’i ar-lein drwy gydol y flwyddyn neu yn ystod Serendipity. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am sut i ymuno yn y canllaw hwn.

Bydd rhan fwyaf o gymdeithasau, yn enwedig clybiau chwaraeon yn cynnal sesiynau blasu yn ystod yr Wythnos Groeso. Mae’r sesiynau hyn yn hynod boblogaidd fel arfer ac felly bydd y niferoedd a fynychir y sesiynau oddeutu tair Gwaith yn fwy na’r niferoedd fydd yn rhan o’r grwp wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi.

Fel amcangyfrif, tueddir y cymdeithasau lleiaf gael oddeutu 5-10 o fynychwyr bob wythnos, y cymdeithasau canolig fod â 10-20, a’r rhai mwyaf fod â 20-30 neu fwy. Gallwch wastad ofyn i’r grwpiau beth yw nifer cyfartalog eu mynychwyr.

Ar gyfer y rhan fwyaf o gymdeithasau mae amseroedd cwrdd, lleoliad a’r hyn y byddwch yn ymrwymo iddo wrth ymaelodi i’w weld ar wefan yr undeb, gallwch wirio rhain cyn mynd (neu wedi i chi fod!)

Mae hi’n ofynnol i bob cymdeithas gael swyddog lles a chynhwysiant, eu rol nhw yw sicrhau fod pob aelod yn cael yr un chwarae teg, beth bynnag eu hil, anabledd, rhyw a.y.y.b. Os oes ganddoch unrhyw bryder ynghylch pa mor gynhwysol yw cymdeithas neu unrhyw rwystr arall, siaradwch gyda’r swyddog hwn yn gyntaf. Os nad yw hynny o gymorth, gallwch gysylltu â Fully Accessible Bangor (FAB) pan bydd manylion cyswllt wedi eu pennu ar ei gyfer. Yn y cyfamser, ebostiwch chc20ryt@bangor.ac.uk neu mtw22rbt@bangor.ac.uk.

Prysurdeb traffic rhagweladwy:

Awr Dawel Eithaf tawel
Prysur iawn Prysur Eithaf tawel

Awr Dawel

Bydd oriau tawel yn cael eu cynnal yn ystod deuddydd serendipity rhwng 10-11yb.

Mae’r oriau tawel wedi eu cynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd yn ffafrio awyrgylch dawelach ar gyfer crwydro’r stondinau a myfyrwyr a gaiff eu heffeithio gan awyrgylch brysur.

Yn ystod yr awr dawel:

 Ni fydd cerddoriaeth yn cael ei chwarae

 Bydd cyn-lleied o sŵn a phosib

 Bydd y goleuadau yn cael eu troi lawr

 Rydym wedi gofyn i staff a stondinau i beidio a cychwyn sgwrs oni bai eich bod chi yn cychwyn sgwrs yn gyntaf. (Os ydych eisiau symbylu nad ydych eisiau unrhyw un i gychwyn sgwrs gyda chi ar adegau ar wahan i’r awr dawel, edrychwch ar adran y system sticeri ar dudalen ..)

 Ni fydd stondinau yn arddangos nac yn defnyddio offer chwaraeon a props.

Gellir bwcio’r awr dawel drwy gyfrwng y linc isod (Am ddim!): https://undebbangor.native.fm/event/serendipity-quiet-hour/256231

Gellir fynychu’r awr dawel drwy ofyn yn y fynedfa pan ydych yn cyrraedd yn ogystal.

Ystafell Dawel:

Mae’r Ystafell Dawel ar gael ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau seibiant tra yn ymweld â’r Serendipity. Bydd yr ystafell I’w ganfod rhwng y ddwy ganolfan yn

Brailsford, sydd wedi eu lleoli yn y cwrt sboncen. Bydd arwyddion yno o gymorth i chi, ond os ydych yn ansicr, cofiwch holi aelod o staff.

Mae dwy ffordd o gyrraedd yr Ystafell Dawel. Wedi i chi fynd drwy’r neuadd gyntaf, byddwch yn mynychu coridor, bydd arwyddion i’ch arwain I’r Ystafell

Dawel yma, bydd arwydd ‘Croeso’ ar y stondin. Bydd aelodau o staff o amgylch i’ch cynorthwyo os ydych yn ansicr.

Gallwch fynychu’r Ystafell Dawel drwy’r ail neuadd ble mae’r clybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli wedi eu lleoli yn ogystal. Mae wedi ei leoli tua’r hanner ffordd drwyddo, drws nesaf i’r stondinau Unite a BUDSS.

Gofynnwch I un o’r stondinau hynny am fynediad.

Nid oes grisiau i’r ystafell ac mae’n hygyrch ar gyfer cadeiriau olwyn.

Mae croeso ichi aros yn yr ystafell am gyn-hired ac yr hoffwch. Gofynwn i chi wneud cyn-lleied o sŵn a phosib yn y gofod hwn. Peidiwch a defnyddio’r gofod hwn ar gyfer cymdeithasu a gwneud galwadau ff ôn os gwelwch yn dda!

Bydd yno:

 Gadeiriau

 Bagiau ffa

 Corneli ar gyfer preifatrwydd ychwanegol

 Fidget toys

 Llyfrau lliwio y gallwch eu cymryd gyda chi

 Beiros

 Goleuadau wedi eu pylu

 Gwybodaeth ynghylch:

 Gwasanaethau ar gyfer anableddau

 Gwasanaethau lles

 Undod (Cymdeithas myfyrwyr awtistig)

 BUDSS (Cymdeithas myfyrwyr anabl)

 Cyn-lleied o sŵn a phosib o’r neuaddau

System Sticeri:

Wrth i chi fynychu Brailsford, bydd yno fwrdd lle y gallwch gasglu sticeri o wahanol liwiau i ddynodi pa mor gyfforddus ydych wrth ymwneud â eraill.

Drwy gyfrwng y sticeri bydd staff a stondinwyr yn ymwybodol os ydych yn gyfforddus i sgwrsio, derbyn cymorth neu os ydych am dderbyn y wybodaeth sylfaenol yn unig neu yn ffafrio pori drwy’r stondin yn dawel.

Triongl glas tywyll Nid ydwyf yn dymuno ymwneud â eraill, gadewch i mi bori drwy eich stondin yn ddi-sgwrs, peidiwch a chynnig cymorth

Sgwar melyn Siaradwch gyda mi dim ond os ydw i yn cychwyn sgwrs

Cylch lafant

Rwyf yn hapus i siarad a chyfathrebu

System Cydymaith

Eleni rydym yn treialu system newydd, felly byddem yn gwerthfawrogi unrhyw adborth.

Eisiau mynd ond yn teimlo’n fel ei fod yn ormod i chi?

Eisiau arweiniad wrth fynd o amgylch?

Dymuno cael cwmni am unrhyw reswm?

Mae modd ceisio am gwmniaeth drwy gyfrwng y ddolen ar y wefan.

Byddwch yn ymwybodol fod argaeledd yn amrywio.

CANLLAW HWYLUSTOD:

Canllaw hwylustod ar gyfer rhai sydd â Anableddau Symudedd

Crewydd yr adran hon ar gyfer unigolion a ddefnyddir cymorth ar gyfer symudedd, megis cadair olwyn, ffon, baglau neu roliwr, neu ar gyfer unrhyw un sydd â unrhywfath o anhawster symudedd a effeithir ar eu gallu i gerdded neu y pellter y gallent gerdded. Os oes ganddoch unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch yr adran hon, ebostiwch mtw22rbt@Bangor.ac.uk

Er Gwybodaeth: Crewyd yr adran hon gan unigolyn a ddefnyddir gadair olwyn llaw-weithredol a olygir bod ganddynt amgyffred o’r anhawsterau y gallwch eu gwynebu ar dir anwastad/elltydd. Rwyf wedi cymryd y rhai a ddefnyddir gymhorthyddion symudedd eraill gan gynnwys cadeiriau pŵer i ystyriaeth. Fe geisiaf yn ogystal ystyried agweddau eraill megis palmentau cyffyrddol. Ymddiheuraf am unrhyw gamgymeriadau.

Teithio mewn car/tacsi:

Os ydych yn bwriadu teithio i’r Serendipity mewn car neu dacsi, mae mannau parcio ar gael wrth ochr Canolfan Brailsford. Mae wedi ei leoli ar allt felly mae posib y bydd angen i’r rhai a ddefnyddir cymorth symudedd sydd â olwynion neu i’r rheini ble y perir dir anwastad/serth anhawster iddynt gymryd gofal ychwanegol a/neu gymryd seibiant neu sicrhau fod ganddynt rhywun gyda nhw i’w cynorthwyo.

Mae maes parcio amgen ar gael os yw hwn yn brysur/ wedi ei lenwi, ond mae’n bellach.

Cyrraedd ar fws:

O ran trafnidiaeth cyhoeddus, bws yw’r dull rhwydda o drafeilio. Yr arosfanau bws agosaf yw Llys Tryfan a’r Ganolfan Hamdden.

Os yn bosib, argymhellaf ichi ddal bws sydd yn mynd i Lys Tryfan gan mai dyna’r arosfan bws agosaf. Taith gerdded fer ydyw o’r arosfan bws i Ganolfan Brailsford, fodd bynnag o ganlyniad i dir serth rhwng Llys Tryfan a Canolfan Brailsford, fodd bynnag wedi’r tir serth mae tir gwastad ble y gallwch gymryd seibiant. Os ydych yn cerdded efallai y byddech yn dymuno eistedd ar y wal gerllaw gan nad oes meinciau. Gall y tir serth beri anhawster i’r rhai â cadeiriau olwyn llaw-weithredol trwm neu os oes ganddoch lai o gryfder corfforol. Byddwn yn cynghori’r rhai ble mae lefelau egni yn peri anhawsterau iddynt ei osgoi.

Yn ddibynnol ar y prysurdeb o ran ceir/pobl, efallai y byddai'n well gennych gymryd taith fyrach (i'r chwith tuag at y ceir) neu i'r dde ar hyd y palmant ar hyd lethr arall. Mae llethr cyson drwy'r maes parcio. Yna trowch i’r chwith ble mae’r palmant yn fwy gwastad. Os oes angen seibiant arnoch am fwy nag ychydig funudau erbyn hyn, ac os ydych chi'n gallu defnyddio grisiau, byddai'n well troi i'r dde yma tuag at Bar Uno. Mae meinciau yno a allai fod ar gael i'w defnyddio y tu allan mewn cwrt bach.

Yna daliwch ati i gerdded heibio’r adeilad diogelwch, bydd palmant gostyngedig yma a nid oes palmant cyffyrddol, daliwch ati i gerdded I lawr ac yna rownd y gornel a dylech fod ar y llwybr cywir.

Mae llwybr i ganolfan Brailsford o flaen y dome gwyn mawr. Trowch i’r chwith yma a dylai fod mynedfa ddi-step i’r ganolfan!

Os ydych mewn cyfyng-gyngor neu ar goll, dylai fod digon o bobol o amgylch i’ch arwain. Peidiwch oedi cyn gofyn am help, neu dilyn eraill!

Tu allan i’r adeilad:

Wrth gyrraedd y Ganolfan, nid oes grisiau yn yr adeilad ei hun, ond mae step bychan i droedio’r rhwng y maes parcio a'r adeilad. Bydd angen i'r rhai na

allant wneud y gris hwn fynd ychydig i'r chwith rhwng y bollardau. Dylai fod llwybr clir.

Y tu mewn i’r adeilad:

Dylai'r lleoliad fod yn gwbl ddi-risiau y tu mewn. Bydd dwy adran, un ar gyfer cwmnïau/endidau allanol i ryngweithio â myfyrwyr ac un ar gyfer cymdeithasau. Mae cadeiriau olwyn wedi eu cymryd I ystyriaeth wrth drefnu ac felly mae’n ofod eang. Fodd bynnag, mae'n werth nodi fod gan Serendipity gyfnodau prysur ac efallai y bydd tagfeydd a thyrfaoedd, a allai beri gofid i'r rhai sydd ar uchder is gan y bydd posibilrwydd na fyddwch o fewn golwg ac y byddwch yn cael eich gwthio o gwmpas. Dyma pam yr argymhellwn i chi ymweld yn ystod yr adegau tawelach.

Yr oriau prysuraf fel arfer yw rhwng 12-2pm, felly argymhellwch i chi ymweld yn ystod y bore.

Unwaith y byddwch y tu mewn i’r neuaddau, mae’n ofynnol i chi ddilyn y system unffordd a parhau trwy'r neuaddau nes eich bod wedi ymweld â’r ddwy. Rhwng y neuaddau bydd cadeiriau i chi gymryd seibiant ac allanfa os ydych yn dymuno gadael yn ogystal a mynediad I’r Ystafell Dawel. Dyma'r unig gyfle i gymryd seibiant wrth ymweld â’r neuaddau. Bydd aelodau staff yno hefyd i helpu os oes arnoch angen. Dylech ddod o hyd i’r staff gerllaw Neuadd yr Arholwyr Allanol ar Stondin fawr yr undeb ble bydd arwydd yn dweud

“Croeso”. Gall y staff fod o gymorth i chi os yw’r cyfan yn ormod neu eich bod yn dymuno mynd i'r Ystafell Dawel.

Mae'r ystafell dawel yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a bydd cadeiriau ar gael yno i’ch galluogi i gymryd seibiant. Mae croeso i chi fod yno am gyn-hired ac y dymunwch. Gallwch hefyd gael mynediad i'r ystafell hon yn yr ail neuadd, hanner ffordd drwy eich taith o amgylch y digwyddiad, felly gallwch gymryd seibiant yma neu os ydych eisiau gadael y digwyddiad fan hyn. Byddwch yn wyliadwrus, efallai nad yw'r allanfa hon yn ddigon llydan i rai cadeiriau.

Gallwch ddod o hyd i'r allanfa hon ger stondinau BUDSS ac Undod hanner trwy’r neuadd ar yr ochr dde.

Mewn argyfwng, bydd angen i chi naill ai fynd i'r allanfa dân rhwng y ddwy neuadd, neu ddilyn llif y dorf allan o neuadd y cymdeithasau i'r allanfa dân yn y cefn. Bydd yn rhaid i chi ddilyn y llwybrau rhwng y stondinau mewn dull serpentine - mae'r llwybrau sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r waliau yn rhy gul i'r rhan fwyaf o gadeiriau, ac maent wedi eu rhwystro ar gyfer stondinau.

Byddwch yn wyliadwrus o wifrau pwer sydd yn cysylltu stribedi pŵer â stondinau yn rhedeg ar hyd y llawr. Bydd gorchuddion ramp drostynt.

Canllaw Hygyrch i'r Rhai ag Anableddau Synhwyraidd

Mae hwn yn ganllaw sydd wedi'i gynllunio i fod o gymorth i’r rhai ag anableddau synhwyraidd, megis unigolion dall a rhai â golwg gwan, unigolion byddar a phobl â cholled clyw, yn ogystal â'r rhai ag awtistiaeth ac unrhyw anhwylderau sy'n effeithio ar brosesu synhwyraidd.

Er Gwybodaeth: Crewyd hwn gan unigolion awtistig nad ydynt yn gwbl fyddar na dall ond sy'n defnyddio cymhorthion clyw. Rydym wedi ymgynghori â thiwtor astudiaethau byddar i gael cyngor. Os oes gennych anabledd synhwyraidd a bod ganddoch unrhyw bryderon a chwestiynau ynghylch hygyrchedd y digwyddiad hwn, cysylltwch â chc20ryt@bangor.ac.uk neu mtw22rbt@bangor.ac.uk.

Rhai sy'n ddall/â golwg gwan neu sydd â nam ar eu golwg:

Bydd y goleuadau yn cael eu pylu y tu mewn i'r lleoliad yn ystod yr Awr Dawel, gall hyn achosi problemau i'r rhai sy'n ddall neu â golwg gwan. Cynhelir yr Awr Dawel rhwng 10am-11am.

Dylai’r llwybrau fod yn glir ac yn llydan ar gyfer cerdded drwyddynt, er gallai fod gwrthrychau'n sticio ar rai stondinau gallai fod pobl yn sefyll ym mlaen y stondin. Mae hyn yn annhebygol fodd bynnag.

Mae palmant cyffyrddol rhwng Llys Tryfan (yr arhosfan bws agosaf) a Chanolfan Brailsford, fodd bynnag nid oes un tu allan I’r adeilad diogelwch, Nid oes unrhyw farciau cyffyrddol ar y llawr y tu mewn i'r neuaddau.

Os ydych chi'n defnyddio ffon wen, dylai fod digon o le i'w symud, fodd bynnag, mae'n debyg y byddy neuadd yn orlawn rhwng 12-2pm. O ganlyniad I hyn a’r ffaith y bydd y goleuadau’n pylu yn ystod yr Awr Dawel, byddwn yn bersonol yn argymell mynd rhwng 11am a 12yp neu 2-3yp.

Bydd cyhoeddiadau dros y sain uchel er mwyn dynodi cychwyn yr Awr Dawel am 9:50, 10:00 ac 11:00 a allai fod yn uchel, ac efallai y bydd ansawdd y sain yn aneglur.

Yn anffodus nid oes gennym wybodaeth wedi'i hysgrifennu mewn Braille.

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, siaradwch ag aelod o staff ac esboniwch. Bydd aelodau staff yn y gofod rhwng y neuaddaua byddant o amgylch stondin fawr. Rydym yn treialu System Gydymaith eleni sydd yn eich galluogi i ofyn i un o'n gwirfoddolwyr gadw cwmni i chi pan gyrhaeddwch fynedfa Serendipity. Byddwch yn ymwybodol y gall argaeledd amrywio.

Os oes gennych gi tywys, bydd powlenni dŵr ar gael yn ogystal â lle i gŵn cymorth ddefnyddio'r toiled y tu allan.

Y rhai sy'n fyddar/yn drwm eu clyw

Bydd y neuadd yn uchel a bydd atseiniadau, gyda llawer o leisiau'n gorgyffwrdd. Bydd gan y rhan fwyaf o stondinau wybodaeth am bwy ydyn nhw, beth maen nhw'n ei wneud a phryd maen nhw'n cwrdd, ond nid yw hyn wedi'i warantu ar gyfer pob stondin. Gallwch ofyn i stondinau ddweud wrthych neu ysgrifennu eu hamseroedd cyfarfod i lawr.

Bydd cyhoeddiadau dros y sain uchel yn dynodi’r Awr Dawel am 9:50, 10:00 ac 11:00 a allai fod yn uchel, ac efallai y bydd ansawdd y sain yn aneglur.

Mae gen i golled clyw ysgafn/cymedrol ac rwy'n gwisgo cymhorthion clyw yn y ddwy glust ac felly byddwn yn cynghori i’r rhai a ddefnyddir gymhorthyddion clyw ystyried ambell beth:

Bydd hi’n swnllyd iawn yno ac o ganlyniad efallai yr hoffech chi droi'r gyfrol ar eich cymhorthion clyw i lawr, neu ddiffodd sŵn cefndir, os nad ydych yn sgwrsio.

Peidiwch ag ofni defnyddio meicroffon o bell. Os oes gennych chi ddyfais meicroffon o bell (e.e.: Oticon ConnectClip, EduMic), bydd hyn yn ddefnyddiol iawn ar gyfer clywed pobl uwchben y sŵn. Bydd Swyddogion Cynhwysiant (swydd orfodol ar bwyllgor pob cymdeithas) wedi derbyn hyfforddiant sy'n cynnwys gwybodaeth am wahanol gymhorthion hygyrchedd, gan gynnwys cymhorthion clyw a meicroffonau o bell. Peidiwch ag ofni gofyn i bobl siarad i'ch meicroffon!

Defnyddiwch yr Awr Dawel. Mae Serendipity yn ddigwyddiad prysur iawn gyda llawer o bobl. Dylai fod yn llawer tawelach yn ystod yr Awr Dawel, ac yn haws i chi glywed.

Defnyddiwch yr Ystafell Dawel. Mae cymhorthion clyw yn codi llawer o sŵn cefndir, os yw'r sŵn yn mynd yn llethol ar unrhyw adeg, gallwch fynd i'r Ystafell Dawel, sydd wedi ei lleoli gerllaw’r ail neuadd. Gallwch gael mynediad i hwn ger stondin Croeso yn y coridor rhwng y ddwy neuadd, neu ofyn yn stondinau BUDSS ac Undod yn yr ail neuadd a defnyddio'r drws yno.

Eich penderfyniad chi yw a ydych chi am roi gwybod i bobl am eich clyw yn

Serendipity a’i peidio. Bydd sticeri gwyn a glas ar gael wrth y fynedfa sy'n dweud "Rwy'n drwm fy nghlyw" ar y brig a "Siaradwch yn glir os gwelwch yn

dda" ar y gwaelod, gyda symbol glas yn dangos clust gyda llinell drwyddi. Mae pob sticer yn 30mm mewn diamedr. Yn anffodus, ni allem ddod o hyd i unrhyw becynnau o sticeri ar gyfer pobl fyddar.

Codwch daflenni a thynnwch luniau. Bydd gan lawer o gymdeithasau gardiau neu daflenni gyda gwybodaeth am eu hamseroedd a'u lleoliad cyfarfodydd. Os ydych chi'n cael trafferth clywed pobl, cymerwch un o'r rhain neu os nad oes ganddyn nhw rai i’w darparu, tynnwch lun o'r wybodaeth ar y stondin.

Peidiwch ac ofni gofyn i bobl siarad â chi yn rhywle tawelach. Gan ddibynnu ar draffig traed, bydd mannau tawelach i siarad rhwng y ddwy neuadd neu yn y coridor ar y ffordd i'r Ystafell Dawel.

Dewch â rhywbeth i ysgrifennu pethau i lawr. Gall hyn fod yn llyfr nodiadau, ap nodiadau, neu unrhyw beth arall sy'n eich galluogi i ysgrifennu pethau rydych am eu cyfathrebu, a chael eraill i gyfathrebu'n ôl, gallai hyn fod yn ddefnyddiol fel cynllun wrth gefn.

Mae ffordd i gyrraedd yr Ystafell Dawel yn yr ail neuadd, lle mae'r clybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli, mae tua hanner ffordd drwodd, wrth ymyl stondinau Undod a BUDSS. Gofynnwch i'r naill neu'r llall o'r stondinau hyn am fynediad. Os ydych chi'n teimlo na allawch i siarad, gallwch:

 Bwyntio at y drws i'r chwith o'r stondinau (dyma'r ffordd i'r ystafell)

 Ysgrifennu eich neges i lawr

 Os ydych chi'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL), llofnodwch eich cwestiwn (Bydd ambell berson ar y ddwy stondin hyn yn gybyddus â Iaith Arwyddion Prydain sylfaenol neu Lefel 1, ond nid oes sicrwydd y byddant ar shifft pan fyddwch chi yno)

Yn anffodus nid ydym yn gallu darparu dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer y digwyddiad hwn.

Rydym yn treialu System Gydymaith eleni a fydd yn eich galluogi i ofyn i un o'n gwirfoddolwyr gadw cwmni i chi pan gyrhaeddwch fynedfa Serendipity. Mae

gan un o'r cyfeillion Iaith Arwyddion Prydain Lefel 1. Byddwch yn ymwybodol o’r ffaith y bydd argaeledd yn amrywio.

I’r rhai a all gael eu llethu gan wybodaeth synhwyraidd:

Mae'r adran hon wedi ei chynllunio ar gyfer y rhai sydd ag Anhwylder Prosesu Synhwyraidd, awtistiaeth, ac eraill.

Mae Canllaw Synhwyraidd ar dudalen ???.

Mae gennym Awr Dawel rhwng 10am ac 11yb, os ydych chi'n cael eich llethu'n hawdd gan wybodaeth synhwyraidd, rydym yn argymell mynd i Serendipity rhwng yr amseroedd hyn. Yn ystod yr Awr Dawel:

 Mae pobl wedi cael cyfarwyddiadau i ostwng eu lleisiau.

 Ni fydd arddangosiadau/cerddoriaeth uchel na thaflu peli neu ategolion eraill.

 Bydd goleuadau'n cael eu pylu.

Bydd cyhoeddiadau dros y sain uchel yn dynode cychwyn/diwedd yr Awr

Dawel am 9:50, 10:00 ac 11:00 a allai fod yn uchel, ac efallai y bydd ansawdd y sain yn aneglur.

Mae'n debygol o fod yn orlawn y tu allan i'r lleoliad yn ystod y cyfnodau prysura yn ogystal. Yn ystod blynyddoedd blaenorol bu hyrwyddwyr o Domino's yn dosbarthu bagiau ac efallai y byddant yn siarad â chi. Os nad ydych chi eisiau cyfathrebu, gallwch chi barhau i gerdded neu ddweud "Na dim diolch".

O fewn y lleoliad, mae’n debyg y bydd llawer o sŵn gweledol a chlywedol a allai ei gwneud hi’n anodd darllen neu wrando ar bobl. Gall pobl, yn enwedig yn y neuadd allanol, geisio siarad â chi. Fodd bynnag, i geisio osgoi hyn, codwch sticer sy’n ymwneud â’ch lefel cysur ar ddechrau Brailsford. Mae pob sticer yn

helpu i gyfleu i’r rhai sy’n gweithio ar y stondinau pa mor gyfforddus ydych chi’n siarad. Mae rhagor o wybodaeth am y System Sticeri isod. Ceisiwch osod eich sticer yn rhywle amlwg a cheisiwch ei osod lle mae’n cyferbynnu â lliw eich dillad. Os nad ydych chi eisiau rhywun siarad â chi, rydym yn argymell gwisgo dillad lliw golau a fydd yn cyferbynnu’n dda â’r sticer glas tywyll sy’n golygu “Nid wyf yn dymuno rhyngweithio, gadewch i mi edrych ar y stondin yn ddi- sgwrs, peidiwch a chynnig help”. Os mai dim ond pan byddwch chi’n cychwyn sgwrs yr hoffech sgwrsio, rydym yn argymell i chi wisgo dillad lliw tywyll i gyferbynnu â’r melyn. Bydd hyn yn helpu pobl i adnabod eich sticer a pharchu eich ffiniau. Mae’n dal yn bosibl y gallai pobl anghofio, ond bydd cymryd y camau hyn o gymorth

Mae dwy ffordd i gyrraedd yr Ystafell Dawel. Ar ôl i chi fynd drwy'r neuadd allanol, byddwch yn cyrraedd coridor. Mae arwyddion i'r Ystafell Dawel yma. Os ydych yn ansicr, bydd aelodau o staff o amgylch, chwiliwch am yr arwydd “Croeso” ar stondin.

Dyma rai cwesitynau o ddefnydd:

“Esgusodwch fi, a allwch chi ddangos i mi ble mae’r Ystafell Dawel, os gwelwch yn dda?”

“Esgusodwch fi, a allwch chi ddangos yr allanfa i mi, os gwelwch yn dda?”

“Esgusodwch fi, a allwch chi ddangos i mi ble mae’r toiledau, os gwelwch yn dda?”

Mae yna hefyd fynedfa I’r Ystafell Dawel yn yr ail neuadd, ble mae'r clybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli. Mae tua hanner ffordd trwyddo, gerllaw stondinau Undod a BUDSS. Gofynnwch i'r naill stondin neu'r llall am fynediad. Os ydych chi'n teimlo eich bod wedi eich llethu ac yn methu siarad, gallwch chi:

 Bwyntio at y drws i'r chwith o'r stondinau (dyma'r ffordd i'r ystafell)

 Ysgrifennu

 Os ydych chi'n gwybod Iaith Arwyddion Prydain (BSL), llofnodwch eich cwestiwn (mae rhai pobl yn y ddau stondin hyn yn gwybod Iaith

Arwyddion Prydain sylfaenol neu Lefel 1, ond nid oes sicrwydd y byddant ar shifft pan fyddwch chi yno)

Mae'r Ystafell Dawel yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae ganddi gadeiriau. Gallwch dreulio cymaint o amser yno ag sydd ei angen arnoch, ond cofiwch y gallai fod eraill yn mynd a dod. Mae croeso i chi ofyn i unrhyw un ar stondin Undod neu BUDSS eich arwain i'r Ystafell Dawel . Dylai aelod o staff fod yno hefyd i'ch helpu chi.

Cofiwch: Gall Serendipity fod yn ddigwyddiad a allai eich llethu, ac rydym yn argymell dod ag unrhyw eitemau i’ch cysuro fel clustffonau a theganau fidget. Cymerwch hi mor araf ag sydd ei angen arnoch a chofiwch - os ydych chi'n teimlo wedi eich llethu mae yna ffyrdd eraill o ymuno â chymdeithasau. Rydych chi'n gwneud yn wych. :)

Gwybodaeth sy'n berthnasol i’r rhai sydd â nifer o anableddau:

Bydd powlenni dŵr ar gael ar gyfer cŵn cymorth yn ogystal â manau i fynd allan i ganiatáu i gŵn cymorth fynd i'r toiled.

Mae yna nifer o allanfeydd tân:

Gerllaw desg dderbynfa'r gampfa

Ar ddechrau Neuadd 1

Ger stondin Croeso rhwng y neuaddau

Ar ddiwedd Neuadd 2

Mae pob allanfa yn ddi-risiau.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.