ADRODDIAD MEWNWELEDIAD MYFYRWYR:
PROFIAD MYFYRWYR CYMRAEG
Rhagarweiniad
Yn yr Adroddiad Cipolwg Myfyrwyr hwn, rydym yn canolbwyntio ar brofiad myfyrwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor, gan amlygu llwyddiannau ac arferion gorau, yn ogystal â chyfleoedd i gyfoethogi profiad myfyrwyr Cymraeg. Mae 'myfyrwyr Cymraeg' yn cynnwys siaradwyr Cymraeg rhugl a dysgwyr, a myfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Ffynonellau mewnwelediad
Un o’r cymhellion allweddol i ymgymryd â’r darn hwn o waith oedd bwlch yn ein gwybodaeth am brofiad myfyrwyr Cymraeg, yn enwedig yr agweddau anacademaidd. Er mwyn ennill mewnwelediad, aethom ati i gynnal arolwg cynhwysfawr o brofiad myfyrwyr
Cymraeg, a luniwyd ar y cyd â Chanolfan Bedwyr. Mae’r mewnwelediad hwn yn greiddiol i’r adroddiad, gyda mewnwelediad ychwanegol o arolwg strategaeth Undeb Bangor, a gynhaliwyd gan Redbrick Research, a’n hymgyrch ‘Dydd Mawrth Dweud’, sef cyfres o arolygon barn byr ar bynciau amrywiol gyda’r nod o gael cipolwg o adborth myfyrwyr. Ceir manylion llawn y mewnwelediad yn atodiad 1.
Themâu
• Pam mae myfyrwyr yn dewis Prifysgol Bangor
• Addysgu a Dysgu
• Cymuned Gymraeg ar y campws
• Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor
• Cysylltiadau rhwng cymuned, cyfranogiad UMCB a llety
• Amgylchedd Campws Cymreig
• Profiadau Dysgwyr Cymraeg
• Pam mae myfyrwyr yn dewis Prifysgol Bangor
Pam mae myfyrwyr yn dewis Prifysgol Bangor
Mae ansawdd addysgu rhagorol Prifysgol Bangor, y cyrsiau unigryw a gynigir, a'r diwylliant
Cymreig bywiog yn chwarae rhan allweddol wrth ddenu myfyrwyr Cymraeg. Er mai’r prif reswm pam mae myfyrwyr Cymraeg yn dewis astudio ym Mangor yw aros yn agos i’w cartref, dewisodd nifer o fyfyrwyr Brifysgol Bangor oherwydd ansawdd ac ehangder y cyrsiau, gyda sawl myfyriwr yn dweud mai Prifysgol Bangor oedd y brifysgol orau i astudio
eu cwrs, oedd yr unig le oedd yn cynnig eu cwrs dewisol, neu’n crybwyll elfennau penodol o’u cwrs, megis cyfleoedd gwaith maes. Denwyd llawer o fyfyrwyr hefyd i Brifysgol Bangor oherwydd ei diwylliant, ei hiaith a’i chymuned Gymraeg lewyrchus, ac i fod mewn amgylchedd sydd ag ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o’r Gymraeg, hyd yn oed ymysg staff sy’n siarad Saesneg.
“Mae pwyslais Prifysgol Bangor ar ddarpariaeth addysgu’r Gymraeg yn adlewyrchu ei hymrwymiad i ddiogelu a hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Cymraeg, a oedd yn unigryw ac yn ysbrydoledig yn fy marn i.”
“Cymuned Gymraeg arbennig. Yr adrannau gorau yng Nghymru o ran fy mhynciau dewisol."
Pam mae myfyrwyr Cymru yn dewis astudio ym Mangor?
Yn agos i'w cartref
Proximity to home
Y cwrs
The course
Diwylliant, iaith a chymuned Cymru
Welsh culture, language and community
Amgylchedd lleol
Local environment
Astudio yn y Gymraeg
Studying in Welsh
Enw da'r brifysgol
University reputation
Nifer y sylwadau
Dywedodd 45% o fyfyrwyr fod yr opsiwn i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ffactor pwysig iawn yn eu penderfyniad i astudio ym Mhrifysgol Bangor, a dywedodd 20% arall ei fod yn lled bwysig iddynt. Roedd hyn yn arbennig o bwysig i fyfyrwyr a oedd wedi ymgymryd â rhannau eraill o'u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Denwyd llawer o fyfyrwyr i Brifysgol Bangor oherwydd yr opsiwn i astudio eu cwrs yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd y cyfle i gael cyllid i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd yn ffactor pwysig. Dywedodd un myfyriwr a gymerodd ran yn y grŵp ffocws nad oedd yn ymwybodol bod modd dilyn modiwlau ei gwrs trwy gyfrwng y Gymraeg cyn dod i Brifysgol Bangor, sy'n amlygu cyfle i hyrwyddo hyn ymhellach i ddarpar fyfyrwyr.
Dywedodd 34% o fyfyrwyr fod UMCB yn ffactor pwysig iawn wrth benderfynu astudio ym
Mhrifysgol Bangor, a dywedodd 25% fod UMCB wedi bod yn lled bwysig. Prif agweddau
UMCB a ddenodd fyfyrwyr i Brifysgol Bangor oedd y gymuned Gymraeg glos, y cyfleoedd cymdeithasol a’r gweithgareddau chwaraeon a diwylliannol.
Roedd 85% o ymatebwyr yr arolwg (167 o fyfyrwyr) wedi clywed am UMCB, yn bennaf ar lafar (38%) ac yna’r cyfryngau cymdeithasol, diwrnodau agored, gwefan y brifysgol a gwefan Undeb Bangor.
Sut clywodd myfyrwyr am UMCB?
20, 12% 7, 4% 5, 3%
18, 11%
25, 15%
26, 15% 3, 2%
63, 38%
Ar lafar
Cyfryngau cymdeithasol
Digwyddiad arall e.e.
Eisteddfod
Diwrnod agored
Gwefan Undeb Bangor
Gwefan y Brifysgol
Ysgol
Arall
Byddai marchnata’r diwylliant a’r gymuned Gymreig unigryw a chryf ym Mangor, y cyfleoedd sydd ar gael i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, a’r cyfleoedd cymdeithasol sydd ar gael i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg trwy UMCB, yn amlygu manteision astudio ym
Mhrifysgol Bangor i fyfyrwyr Cymraeg. Gan fod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn clywed am UMCB ar lafar ar hyn o bryd, mae cyfle i hyrwyddo hyn ymhellach trwy lwyfannau ffurfiol, er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd yr amrywiaeth fwyaf o siaradwyr Cymraeg.
Canmoliaethau
• Mae gan Brifysgol Bangor enw da o ran bod yn rhywle sydd â diwylliant a chymuned Gymreig ffyniannus, addysg o safon uchel, a darpariaeth ragorol o ran addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
Argymhellion
• Y meysydd allweddol i’w marchnata i ddarpar fyfyrwyr yw diwylliant a chymuned Gymraeg gref Bangor, y cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r manteision i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Ystyried targedu siaradwyr Cymraeg yn benodol ynghylch cyfleoedd astudio yn y Gymraeg.
• Sicrhau bod staff addysgu’n hyrwyddo cyfleoedd i astudio modiwlau neu gyrsiau penodol trwy gyfrwng y Gymraeg i ddarpar fyfyrwyr, ac ar adegau allweddol o’r flwyddyn i fyfyrwyr presennol (cyn i fyfyrwyr ddewis eu modiwlau ar gyfer y flwyddyn ganlynol).
• Sicrhau bod UMCB yn cael ei hyrwyddo trwy ystod o sianeli, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, gwefan Undeb Bangor a Phrifysgol Bangor, a diwrnodau agored, er mwyn cyrraedd yr ystod ehangaf o fyfyrwyr.
Addysgu a Dysgu
Roedd 25% o’r myfyrwyr (48 o fyfyrwyr) a holwyd yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfan gwbl, a 27% arall (52 o fyfyrwyr) yn astudio o leiaf un modiwl trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd y rhan fwyaf o fyfyrwyr a ddewisodd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn ei chael yn haws dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal, roedd myfyrwyr eisiau datblygu eu sgiliau Cymraeg, magu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg a dysgu iaith pwnc-benodol a fyddai’n eu helpu i gyfathrebu’n Gymraeg yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Roedd y myfyrwyr yn canmol ansawdd a lefel y gefnogaeth a gawsant trwy gyfrwng y Gymraeg. Dywedodd myfyrwyr sy’n astudio modiwlau cyfrwng Cymraeg, sydd â niferoedd astudio llai, eu bod yn teimlo bod darlithwyr yn gallu rhoi mwy o amser iddynt, eu bod yn gallu cyfarfod yn rheolaidd â’u darlithwyr, a chael llawer o adborth ar eu gwaith. Roedd rhai myfyrwyr yn ei chael hi’n anodd dod i adnabod siaradwyr Cymraeg eraill ar eu cwrs, ond yn dweud bod mentrau staff i ddod â siaradwyr Cymraeg o nifer o ysgolion at ei gilydd wedi rhoi cyfle iddynt gwrdd â siaradwyr Cymraeg eraill ac wedi rhoi hyder iddynt siarad Cymraeg. Roedd myfyrwyr nad oedd ganddynt lawer o gysylltiad â gweithgareddau allgyrsiol i fyfyrwyr Cymraeg, oherwydd llwyth gwaith neu ymrwymiadau amser eraill, yn gwerthfawrogi sesiynau wedi'u hamserlennu fel rhan o'r cwrs i siaradwyr Cymraeg.
Diffyg hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg oedd y rhwystr mwyaf sy’n atal myfyrwyr rhag astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, canfu llawer o fyfyrwyr hefyd nad oedd y modiwlau yr oeddent eisiau eu hastudio ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr ysgolion gyda'r niferoedd uchaf o fyfyrwyr yn dweud nad oedd eu dewis o fodiwlau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg oedd Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig (7 myfyriwr) a Gwyddorau Iechyd (7 0 5 10 15 20 25 30 35 40 45
Ydych chi wedi profi unrhyw un o'r rhwystrau yma wrth astudio trwy'r Gymraeg?
Diffyg adnoddau yn y Gymraeg i gefnogi fy nysgu (e.e.…
Teimlaf nad yw'r ddarpariaeth cystal â'r modiwl/cwrs
Diffyg cefnogaeth gan staff
Teimlaf nad yw lefel fy Nghymraeg yn ddigon da
Diffyg cefnogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg
Arall
Nifer y myfyrwyr
myfyriwr). Roedd llawer o fyfyrwyr yn ei chael hi’n heriol bod diffyg adnoddau pwnc ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddweud bod yn rhaid iddynt ddatblygu’r sgil i allu darllen ac ymchwilio’n Saesneg ac yna prosesu’r wybodaeth honno trwy gyfrwng y Gymraeg. Er bod myfyrwyr yn cydnabod y gall hyn helpu i ddatblygu dealltwriaeth o'u pwnc, mae rhai myfyrwyr yn poeni y gallai gymryd llawer o amser, neu’n teimlo bod hyn yn broses annymunol.
Yn ôl y Siarter Myfyrwyr Cymraeg, mae gan bob myfyriwr yr hawl i gyflwyno aseiniadau trwy gyfrwng y Gymraeg, fodd bynnag, dim ond 51% o fyfyrwyr a ddywedodd eu bod yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth i gyflwyno aseiniadau trwy gyfrwng y Gymraeg pan addysgwyd y modiwl trwy gyfrwng y Saesneg. Mewn cyferbyniad, dywedodd 72% o fyfyrwyr eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i gyflwyno aseiniadau Cymraeg ar gyfer modiwlau cyfrwng Cymraeg. Gan fod llawer o fyfyrwyr Cymraeg yn ei chael hi’n haws dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, mae hyn yn rhoi myfyrwyr dan anfantais academaidd: teimlai 20% o fyfyrwyr sy’n cyflwyno aseiniadau trwy gyfrwng y Saesneg fod hyn yn rhwystr iddynt berfformio ar eu gorau mewn arholiad neu aseiniad. Dywedodd 8 myfyriwr eu bod yn teimlo eu bod yn cael adborth yn llai cyflym wrth gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg, a allai atal myfyrwyr rhag cyflwyno gwaith Cymraeg, hyd yn oed os mai dyna yw eu dewis iaith.
Canmoliaethau
• Mae myfyrwyr yn gwerthfawrogi’n fawr y gefnogaeth a gânt wrth astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig mewn grwpiau bach lle gall darlithwyr roi mwy o amser ac adborth manwl i fyfyrwyr.
• Mae mentrau a arweinir gan staff i ddod â myfyrwyr ynghyd yn eu hysgolion neu golegau’n cynnig ffordd i fyfyrwyr ddod i adnabod ei gilydd a magu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg mewn amgylchedd prifysgol. Mae hyn yn arbennig o fuddiol i fyfyrwyr sy’n astudio ar gyrsiau lle nad oes llawer o fyfyrwyr yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Argymhellion
• Cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau a hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg mewn amgylchedd astudio yn gynnar yn eu cwrs, er enghraifft seminarau neu sesiynau un-tro cyfrwng Cymraeg fel rhan o fodiwlau a addysgir trwy gyfrwng y Saesneg, neu annog myfyrwyr i gyflwyno asesiadau ffurfiannol trwy gyfrwng y Gymraeg.
• Cynnig cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr fel eu bod yn teimlo’n fwy hyderus i gael mynediad at adnoddau dwyieithog wrth astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Gall hyn gynnwys helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau cyfieithu, darparu terminoleg pwncbenodol iddynt, neu ystyried a oes angen addasiadau rhesymol ar fyfyrwyr i gwblhau gwaith.
• Cynyddu arweiniad a chefnogaeth gan staff ac i fyfyrwyr sy’n cyflwyno gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg wrth astudio modiwlau cyfrwng Saesneg, sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod bod ganddynt hawl i gyflwyno gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag fo iaith yr addysgu, a beth yw’r broses i gyflwyno gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg.
• Sicrhau bod unrhyw newidiadau i’r cwricwlwm neu staffio’n cynnal yr ehangder presennol o fodiwlau cyfrwng Cymraeg, ac archwilio meysydd lle gellid cyflwyno rhagor o fodiwlau cyfrwng Cymraeg.
Cymuned Gymraeg ar y campws
Mae bod yn rhan o gymuned a ffurfio cysylltiadau â myfyrwyr eraill yn creu ymdeimlad o berthyn, yn lleihau unigrwydd ac yn cefnogi iechyd meddwl myfyrwyr.
Dywedodd y rhan fwyaf o fyfyrwyr (71%) fod teimlo’n rhan o gymuned o fyfyrwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn bwysig iddynt, gan gynnwys 79% o siaradwyr Cymraeg rhugl. Fodd bynnag, dim ond 62% oedd yn teimlo eu bod yn rhan o gymuned o fyfyrwyr Cymraeg ar hyn o bryd (71% o siaradwyr Cymraeg rhugl). Dywedodd 15% (29 o fyfyrwyr) ei bod yn bwysig
Mae’n bwysig i mi fy mod yn teimlo’n rhan o gymuned o fyfyrwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor
Nifer y myfyrwyr
Rhugl yn y Gymraeg
Dysgwr - gallaf siarad dipyn o Gymraeg
Dysgwr - gallaf siarad dim ond ychydig o Gymraeg
Nifer y myfyrwyr
Rwy'n teimlo'n rhan o gymuned o fyfyrwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor
Rhugl yn y Gymraeg
Dysgwr - gallaf siarad dipyn o Gymraeg
Dysgwr - gallaf siarad dim ond ychydig o Gymraeg
iddynt deimlo’n rhan o gymuned o fyfyrwyr Cymraeg, ond nid oeddent yn cytuno eu bod yn teimlo’n rhan o’r gymuned honno ar hyn o bryd. Mae’r bwlch hwn yn amlygu cyfle i wella sut y gall myfyrwyr Cymraeg ymgysylltu â chymuned ym Mangor.
Yn yr arolwg Strategaeth, gofynnwyd sut oedd myfyrwyr yn meithrin cysylltiadau a chymunedau yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Bangor. Yr ymateb mwyaf cyffredin oedd 'fy nghwrs'. Roedd nifer sylweddol is o siaradwyr Cymraeg wedi ymateb i’r cwestiwn hwn gyda 'llety myfyrwyr' neu 'gymdeithasau / grwpiau myfyrwyr', o gymharu â myfyrwyr di-Gymraeg, fodd bynnag dyma'r ffordd fwyaf poblogaidd nesaf i fyfyrwyr feithrin cymunedau o hyd. Roedd myfyrwyr a oedd yn ymwneud yn rheolaidd ag UMCB neu’n byw yn JMJ yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n rhan o gymuned. Myfyrwyr oedd bron byth yn ymwneud ag UMCB, myfyrwyr oedd yn byw mewn neuaddau preifat, neu fyfyrwyr nad oedd yn astudio unrhyw fodiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg oedd fwyaf tebygol o ddweud nad oeddent yn teimlo’n rhan o gymuned o fyfyrwyr Cymraeg.
Trwy ba rai o’r canlynol, os unrhyw rai, ydych chi wedi datblygu cysylltiadau a chymunedau yn ystod eich cyfnod ym Mhrifysgol Bangor?
Fy nghwrs
Llety myfyrwyr
Cymdeithasau / grwpiau myfyrwyr
Clybiau chwaraeon
Digwyddiadau / gweithgareddau ym…
Gweithgareddau a digwyddiadau…
Cefnogaeth gan gyfoedion
Cyflogaeth lawn amser / rhan amser
Gwirfoddoli
Dydw i ddim wedi datblygu unrhyw…
Rhwydweithiau Undeb Bangor
Cynrychiolwyr cwrs
Grwpiau ffydd
Arall
Llety


Siaradwr Cymraeg
Non-Welsh speaker Welsh speaker Siaradwr di-Gymraeg
* Gwahaniaeth arwyddocaol rhwng siaradwr Cymraeg a siaradwr diGymraeg

O’r 197 o fyfyrwyr a gwblhaodd yr arolwg, dewisodd 34% fyw gartref, 28% mewn tai preifat, 23% yn Neuadd JMJ, 11% mewn neuaddau eraill y brifysgol a 4% mewn neuaddau preifat. Roedd canrannau uwch o fyfyrwyr ar eu blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn yn byw mewn neuaddau, gan gynnwys JMJ. Dewisodd myfyrwyr ar eu trydedd flwyddyn fyw mewn tai preifat yn bennaf, a'r prif resymau oedd eu bod eisiau byw gyda ffrindiau a bod tai preifat yn fwy fforddiadwy.
Roedd myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Bangor yn sylweddol fwy tebygol o fyw gartref, gyda'r
Arolwg Strategaeth yn dangos bod 36% o siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yn byw'n lleol neu'n cymudo o gartref, o gymharu â dim ond 11% o fyfyrwyr di-Gymraeg. Y prif resymau dros barhau i fyw gartref wrth astudio oedd costau byw is (18 sylw), hwylustod byw gartref (19 sylw) ac ymrwymiadau teuluol (11 sylw).
Neuadd JMJ a'r Gymuned Gymraeg
Bod yn rhan o gymuned Gymraeg gref yw’r prif atyniad i fyfyrwyr sy’n dewis byw yn Neuadd
JMJ, gyda myfyrwyr eisiau gallu byw a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg a byw ymysg Cymry eraill (28 sylw). Dywedodd bron pob un o’r myfyrwyr a holwyd o Neuadd JMJ eu bod yn teimlo’n rhan o gymuned o fyfyrwyr Cymraeg, cyfran uwch na myfyrwyr sy’n byw mewn mathau eraill o lety. Dywedodd sawl myfyriwr sy’n byw mewn tai preifat eu bod wedi byw yn JMJ yn flaenorol cyn symud i dŷ preifat gyda’r ffrindiau hynny yn eu blwyddyn olaf, gan bwysleisio pwysigrwydd JMJ wrth helpu myfyrwyr Cymraeg i ddod o hyd i’w cymuned.
Ble mae myfyrwyr Cymru yn byw?
Rwy'n teimlo'n rhan o gymuned o fyfyrwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor
Cytuno/ Cytuno'n gryf
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
Anghytuno/ Anghytuno'n gryf
O’r grŵp ffocws, clywsom fod dysgwyr oedd wedi dewis byw yn JMJ wedi mwynhau cymryd rhan yng ngweithgareddau UMCB, gan amlygu ymhellach fanteision byw yn JMJ wrth ddod yn rhan o’r gymuned Gymraeg. Fodd bynnag, dewisodd llawer o ddysgwyr Cymraeg neuaddau prifysgol eraill dros JMJ oherwydd nad oeddent yn siarad Cymraeg yn rhugl, neu oherwydd diffyg hyder yn lefel eu Cymraeg, er bod JMJ yn neuadd i ddysgwyr Cymraeg yn ogystal â siaradwyr rhugl.
Cyfeiriwyd at gost uwch JMJ o gymharu â rhai neuaddau eraill, megis Bryn Eithin, a’r awydd i fyw mewn llety brafiach, mwy modern, neu o ansawdd gwell fel y prif ffactorau dros beidio
â dewis JMJ ymhlith siaradwyr Cymraeg rhugl (4 sylw yr un). Mae myfyrwyr sy'n byw yn JMJ
hefyd wedi dweud bod yr ystafell gyffredin yn JMJ yn teimlo'n hen ffasiwn, felly gallai gwella'r man hwn helpu i ddenu mwy o fyfyrwyr. Teimlai 6 allan o 22 o fyfyrwyr oedd yn byw mewn neuaddau eraill ei bod yn aneglur wrth archebu eu llety fod JMJ yn neuadd i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.
“Nid oedd mewn lleoliad gwych yn fy mawn i, ac mae'n un o'r adeiladau hŷn, felly nid yw'r lle storio a chynllun yr ystafell mor braf. Byddai’n dda gweld mannau brafiach yn cael eu neilltuo i fyfyrwyr Cymraeg.”
Llety a rhwystrau i ymgysylltiad cymunedol
Mynegodd myfyrwyr nad oeddent yn byw yn JMJ ei bod weithiau'n anodd cymryd rhan mewn digwyddiadau neu weithgareddau Cymraeg gan nad oeddent yn teimlo'n rhan o'r gymuned. Mewn sgyrsiau gydag Undeb Bangor, mynegodd rhai myfyrwyr bryder bod cynnydd yn nifer y myfyrwyr di-Gymraeg sy'n byw yn JMJ eleni’n effeithio ar yr ymdeimlad o gymuned Gymraeg yn y neuadd. Dywedodd nifer fechan o fyfyrwyr a gwblhaodd yr arolwg eu bod wedi dewis JMJ gan ei fod yn un o’r neuaddau rhatach, sydd efallai’n esbonio pam fod myfyrwyr di-Gymraeg yn dewis byw yno.
Man i fyfyrwyr Cymraeg
Mynegodd sawl myfyriwr eu bod yn teimlo bod gweithgareddau cyfrwng Cymraeg yn weithgareddau i fyfyrwyr sy’n byw yn JMJ yn unig, o bosibl oherwydd bod llawer o weithgareddau’n digwydd yn ystafell gyffredin JMJ. Gallai cael man mwy canolog, lle mae myfyrwyr nad ydynt yn breswylwyr JMJ yn teimlo’n fwy cyfforddus, helpu i wneud digwyddiadau a gweithgareddau’n fwy cynhwysol. Roedd 71% o siaradwyr Cymraeg rhugl, a 69% o ddysgwyr oedd yn gallu siarad cryn dipyn o Gymraeg, yn meddwl ei bod yn bwysig i fyfyrwyr Cymraeg gael lleoliad Cymraeg pwrpasol ar y campws. Roedd hyn yn llai o flaenoriaeth i fyfyrwyr sydd ag ychydig o Gymraeg, gyda 46% yn dweud ei fod yn bwysig. Roedd myfyrwyr eisiau man i astudio, cymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac ymarfer neu ddysgu Cymraeg, gyda'r man wedi'i ddodrefnu i ddiwallu'r anghenion hyn, a lle i ddesgiau, cyfrifiaduron a phwyntiau gwefru, seddau cyfforddus a chyfleusterau cegin.
Awgrymodd y myfyrwyr y gallai’r man hwn fod yn ganolbwynt adnoddau a gwybodaeth i siaradwyr Cymraeg, ac yn rhywle i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau Cymraeg, megis nosweithiau ffilm, gweithgareddau diwylliannol a gweithgareddau y gallai dysgwyr gymryd rhan ynddynt. Gofynnodd y myfyrwyr am adnoddau a fyddai’n cynnig cefnogaeth o ran gramadeg a sillafu, llyfrau, posteri a deunyddiau academaidd, adnoddau i ddysgwyr, a gwybodaeth am ddigwyddiadau Cymraeg, gan gynnwys digwyddiadau sy'n digwydd yn y gymuned leol.
Cysylltiadau rhwng Cymuned, Llety a chyfranogiad UMCB
Roedd myfyrwyr a oedd yn ymwneud yn rheolaidd ag UMCB neu’n byw yn JMJ yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n rhan o gymuned. Myfyrwyr oedd bron byth yn ymwneud ag UMCB, myfyrwyr oedd yn byw mewn neuaddau preifat, neu fyfyrwyr nad oedd yn astudio unrhyw fodiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg oedd fwyaf tebygol o ddweud nad oeddent yn teimlo’n rhan o gymuned o fyfyrwyr Cymraeg.
Mynegodd sawl myfyriwr eu bod yn teimlo mai rhywbeth i fyfyrwyr sy’n byw yn JMJ yn unig yw UMCB, neu fod peidio â byw yn JMJ yn ei gwneud hi’n anodd gwneud ffrindiau a chymdeithasu â myfyrwyr Cymraeg eraill. Roeddynt yn teimlo bod cymunedau JMJ ac UMCB yn gymunedau clos iawn, ac os nad oeddent wedi cymryd rhan ar ddechrau'r flwyddyn, ei bod yn heriol ymuno’n ddiweddarach.
I astudio mewn awyrgylch Cymraeg Pe bai'r Brifysgol yn neilltuo ystafell i fyfyrwyr Cymraeg ei defnyddio ar y campws, sut fyddech chi'n defnyddio'r gofod hwn?
Cymdeithasu gyda ffrindiau Cymraeg
Cyfarfod pobl eraill sy'n siarad Cymraeg
Fel lle tawel
Arall Dysgu neu ymarfer fy Nghymraeg
Na fyddai'n ei ddefnyddio
Canmoliaethau
• Mae cael neuadd wedi’i neilltuo i fyfyrwyr Cymraeg yn creu man lle gall myfyrwyr Cymraeg fod yn gyfforddus i siarad a defnyddio’r Gymraeg, yn ogystal â darparu canolbwynt i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg. Dylai'r brifysgol barhau i sicrhau'r ddarpariaeth hon yn y dyfodol.
Argymhellion
• Gwneud newidiadau i ystafell gyffredin JMJ er mwyn gwneud iddi deimlo'n fwy modern a chroesawgar i ddarpar fyfyrwyr.
• Sicrhau bod neuaddau eraill ar gael i fyfyrwyr di-Gymraeg yn yr un amrediad prisiau â JMJ, er mwyn sicrhau bod JMJ yn parhau i fod yn lleoliad i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.
• Creu gofod pwrpasol mewn lleoliad campws canolog i’w ddefnyddio fel canolbwynt i astudio ac i gynnal gweithgareddau cymdeithasol a digwyddiadau Cymraeg.
Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB)
UMCB a Chymdeithasau UMCB
Er bod 85% o fyfyrwyr wedi clywed am UMCB, dim ond 56% o fyfyrwyr a gwblhaodd yr arolwg, a 60% o siaradwyr Cymraeg rhugl, oedd yn ystyried eu hunain yn aelod o UMCB.
Teimlai llawer o fyfyrwyr fod angen iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau i ddod yn aelod o UMCB, neu fod yn rhaid iddynt gofrestru, gan awgrymu bod llawer o fyfyrwyr yn meddwl am UMCB i fod yn debycach i gymdeithas nag undeb i fyfyrwyr Cymraeg.
Mae UMCB yn gartref i nifer o gymdeithasau a chlybiau chwaraeon, sydd wedi’u sefydlu ers amser maith ac sy’n cael eu harwain gan fyfyrwyr, ac sy’n trefnu teithiau a nosweithiau cymdeithasol rheolaidd. O’r 60 o fyfyrwyr a ddywedodd eu bod yn ymwneud â’r gweithgareddau hyn o leiaf unwaith yr wythnos yn yr arolwg, dywedodd 59 o fyfyrwyr eu bod yn teimlo’n rhan o gymuned o fyfyrwyr Cymraeg, gan bwysleisio’r rôl bwysig y mae
UMCB yn ei chwarae yng nghymuned a diwylliant Cymraeg Prifysgol Bangor. Roedd myfyrwyr nad oeddent yn ymwneud ag UMCB yn fwy tebygol o ddweud nad oeddent yn teimlo'n rhan o gymuned o fyfyrwyr Cymraeg.
Rwy'n teimlo'n rhan o gymuned o fyfyrwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor
Ymwneud ag UMCB
Sawl gwaith yr wythnos
Unwaith yr wythnos
Unwaith y mis
Llai nag unwaith y mis
Bron byth
Byth
Mae rhwystrau sylweddol i fyfyrwyr Cymraeg rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol. Yn yr Arolwg Strategaeth, roedd myfyrwyr Cymraeg yn sylweddol llai tebygol o ddweud eu bod yn teimlo bod croeso iddynt gymryd rhan mewn digwyddiadau/gweithgareddau ym Mhrifysgol Bangor na myfyrwyr di-Gymraeg (64% o gymharu â 70%). Dywedodd 38% o fyfyrwyr Cymraeg yr hoffent ymwneud mwy â gweithgareddau allgyrsiol ym Mhrifysgol Bangor, ond roeddent yn wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan: y ffactorau mwyaf oedd diffyg hyder i gymryd rhan, amserlen yn gwrthdaro ag ymrwymiadau eraill, a pheidio â gwybod am unrhyw un arall sy’n cymryd rhan. Roedd myfyrwyr Cymraeg yn sylweddol fwy tebygol o nodi cymudo a chael teulu neu gyfrifoldebau gofalu fel rhesymau o gymharu â myfyrwyr di-Gymraeg. Pan ofynnwyd yn benodol iddynt am weithgareddau UMCB, teimlai sawl myfyriwr eu bod wedi colli’r cyfle i gymryd rhan oherwydd nad oeddent wedi cofrestru ar ddechrau’r flwyddyn. Mynegodd rhai myfyrwyr hefyd ei bod yn anodd i’r rhai sy’n byw y tu allan i JMJ ymwneud â gweithgareddau UMCB, gwneud ffrindiau neu gymdeithasu â myfyrwyr Cymraeg eraill, gan fod cymuned UMCB a JMJ yn cael ei ystyried i fod yn gymuned glos iawn, gyda nifer fach o fyfyrwyr yn ei ddisgrifio fel ‘clicaidd’. Dim ond 42% o fyfyrwyr oedd yn teimlo bod gweithgareddau UMCB yn 'hawdd iawn' i gymryd rhan ynddynt.
Mae cyfle i atgyfnerthu’r gymuned a’r diwylliant Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor ymhellach drwy wneud gweithgareddau UMCB yn haws i ymwneud â nhw ac yn fwy cynhwysol i fyfyrwyr sy’n byw y tu allan i JMJ neu nad ydynt yn gallu ymrwymo i ddigwyddiadau cymdeithas rheolaidd. Gall ymrwymiad isel, digwyddiadau un-tro neu weithgareddau ar ffurf rhoi cynnig arni helpu myfyrwyr i fagu hyder ac apelio at fyfyrwyr na allant fynychu nosweithiau cymdeithas rheolaidd oherwydd ymrwymiadau eraill. Mae hefyd angen egluro beth yw UMCB i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol: gallai ymgyrch wybodaeth sy'n esbonio agweddau cynrychioliadol UMCB i fyfyrwyr, yn ogystal â sut i gymryd rhan, fynd i'r afael â'r diffyg dealltwriaeth hwn. Gallai sicrhau bod cyfleoedd allgyrsiol y tu allan i UMCB yn cael eu hyrwyddo’n ddwyieithog, lle bo’n bosibl, wneud i fyfyrwyr Cymraeg deimlo’n fwy croesawgar.
Yr hyn y mae myfyrwyr yn ei ddisgwyl gan UMCB a chyfeiriad y dyfodol Teimlai myfyrwyr mai prif flaenoriaethau UMCB ddylai fod hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant, cynrychioli barn myfyrwyr Cymraeg i’r brifysgol, gwella profiad academaidd myfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a gweithgareddau cymdeithasol i fyfyrwyr Cymraeg. Roedd blaenoriaethau’n amrywio yn seiliedig ar lefel y Gymraeg, gyda gweithgareddau cymdeithasol yn bwysicach i siaradwyr Cymraeg rhugl, a hyrwyddo diwylliant Cymreig a dysgu Cymraeg yn bwysicach i ddysgwyr. Er bod myfyrwyr yn teimlo bod UMCB yn cynrychioli myfyrwyr Cymraeg yn effeithiol (88% o fyfyrwyr yn cytuno â'r datganiad hwn), mae canfyddiad o UMCB fel rhywbeth y mae'n rhaid i fyfyrwyr ymuno ag ef yn awgrymu diffyg dealltwriaeth o bwrpas UMCB. Mae’n bwysig tynnu sylw at rôl UMCB
wrth gynrychioli’r holl fyfyrwyr Cymraeg, nid dim ond y myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn rheolaidd.
Canmoliaethau
• Mae UMCB yn creu ymdeimlad cryf o gymuned i’r myfyrwyr sy’n ymwneud yn rheolaidd â gweithgareddau.
Argymhellion
• Sicrhau bod darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol yn ymwybodol o beth yw UMCB, ei ddiben a bod pob siaradwr a dysgwr Cymraeg yn aelod o UMCB yn awtomatig.
• Gwneud gweithgareddau UMCB yn fwy cynhwysol a chroesawgar i’r holl fyfyrwyr
Cymraeg trwy:
o Cynnig amrywiaeth o weithgareddau ymrwymiad isel sydd wedi’u targedu at fyfyrwyr nad ydynt yn cymryd rhan ar hyn o bryd, megis sesiynau rhoi cynnig arni neu ddigwyddiadau ymlacio a sgwrsio, i helpu myfyrwyr i fagu hyder wrth gwrdd â phobl newydd a siarad Cymraeg.
o Sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu cynnal mewn amrywiaeth o leoliadau fel bod myfyrwyr nad ydynt yn byw yn JMJ yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys.
o Sicrhau bod gweithgareddau presennol, megis nosweithiau cymdeithas, yn cael eu hyrwyddo trwy ystod eang o sianeli, nid ar gyfrifon cymdeithasol y gymdeithas yn unig, fel bod myfyrwyr yn ymwybodol o'r hyn sydd ar gael iddynt a sut i gymryd rhan.
o Creu cyfathrebiadau penodol ynghylch cymryd rhan hanner ffordd drwy'r flwyddyn
• Sicrhau bod gweithgareddau allgyrsiol ar draws y brifysgol ac Undeb Bangor yn cael eu hyrwyddo’n ddwyieithog lle bynnag y bo modd, i sicrhau bod myfyrwyr Cymraeg yn teimlo bod croeso iddynt gymryd rhan.
• Cynnig mwy o ddigwyddiadau un-tro y gall myfyrwyr ymwneud â nhw o amgylch diwylliant Cymru i ddatblygu gwaith UMCB mewn perthynas â hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru, a rhoi mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr ymwneud ag UMCB.
• Datblygu rôl UMCB mewn gwaith cynrychioliadol, gan sicrhau bod gan fyfyrwyr lwybrau i adrodd yn ôl i Lywydd UMCB, naill ai trwy gynrychiolwyr neu ddulliau eraill, waeth beth fo’u lefel o ymgysylltiad â gweithgareddau UMCB.
Amgylchedd Campws Cymreig
Siarad Cymraeg ar y Campws
Teimlai mwyafrif y myfyrwyr (68%) fod digon o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar y campws, er bod y gyfran a oedd yn cytuno â’r datganiad hwn yn is ymysg dysgwyr Cymraeg
(ffigur). Roedd 86% o fyfyrwyr yn teimlo’n gyfforddus yn defnyddio’r Gymraeg ar y campws, er unwaith eto, roedd hyn yn uchel ymhlith siaradwyr Cymraeg rhugl ac yn llawer is ymhlith dysgwyr.
Rwy'n teimlo bod gen i ddigon o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ar y campws
Rwy'n teimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r Gymraeg ar y campws
Rhugl yn y Gymraeg
Dysgwr - gallaf siarad dipyn o Gymraeg
Dysgwr - gallaf siarad dim ond ychydig o Gymraeg
Rhugl yn y Gymraeg
Dysgwr - gallaf siarad dipyn o Gymraeg
Dysgwr - gallaf siarad dim ond ychydig o Gymraeg
Gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg
Roedd myfyrwyr yn gallu cyrchu’r rhan fwyaf o wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg o leiaf 73% o’r amser, naill ai drwy gael cynnig y gwasanaeth yn Gymraeg, neu drwy ofyn am y gwasanaeth yn Gymraeg (ffigur). Dim ond 65% o fyfyrwyr oedd yn gallu cyrchu Canolfan
Brailsford trwy gyfrwng y Gymraeg, a dim ond 54% o fyfyrwyr oedd yn gallu cyrchu
Gwasanaethau Arlwyo trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd y rhan fwyaf o'r ddau wasanaeth hyn yn cael eu defnyddio wyneb yn wyneb, sy'n gallu gosod heriau i'r ddarpariaeth gwasanaeth Cymraeg gan ei fod yn dibynnu ar lefel Cymraeg aelodau unigol o staff. Gellir cynyddu'r gwasanaethau a ddarperir yn y meysydd hyn trwy sicrhau bod staff sy’n ymwneud â defnyddwyr, gan gynnwys myfyrwyr a gyflogir gan y brifysgol, yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.
Mae'r ffigurau canlynol yn dangos ymatebion y myfyrwyr a oedd wedi defnyddio'r gwasanaeth.
Ers dechrau'r tymor academaidd, sut wnaethoch chi gysylltu â'r gwasanaethau canlynol, os o gwbl?
Swyddfa Neuaddau
Canolfan Brailsford
Gwasanaeth Arlwyo (Bar Uno, Cegin, Caffi Teras, Teras)
Gwasanaeth Gyrfaeoedd
Sgiliau Astudio
Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr (Tai, Cymorth Ariannol)
Undeb Bangor (Undeb Myfyrwyr)
Pontio
Wyneb yn wyneb
Drwy e-bost neu ffurflen ar-lein
Dros y ffon
Gan feddwl am y tro diwethaf i chi gysylltu â'r gwasanaethau, a gawsoch chi wasanaeth cwsmer trwy'r Gymraeg?
Swyddfa Neuaddau
Canolfan Brailsford
Gwasanaeth Arlwyo (Bar Uno, Cegin, Caffi Teras, Teras)
Gwasanaeth Gyrfaoedd
Sgiliau Astudio
Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr (Tai, Cymorth Ariannol)
Undeb Bangor (Undeb Myfyrwyr)
Pontio
Do, cefais ei gynnig
Do, ond roedd rhaid i mi ofyn amdano
Naddo, ni chefais ei gynnig
Gwasanaethau Iechyd Meddwl
Roedd 69% o fyfyrwyr yn gwybod y gallent gael mynediad at y gwasanaeth Iechyd Meddwl a Lles trwy gyfrwng y Gymraeg. O’r myfyrwyr a oedd wedi defnyddio’r gwasanaeth hwn, roedd 32 o fyfyrwyr (76%) wedi cael cynnig cefnogaeth yn Gymraeg, dywedodd 2 fyfyriwr (5%) bod yn rhaid iddynt ofyn amdano, a dywedodd 8 myfyriwr (19%) na chynigiwyd hynny iddynt. Mae'r rhain yn gyfrannau tebyg i wasanaethau eraill y brifysgol. Dywedodd un myfyriwr nad oedd wedi gweld unrhyw gyfathrebu gan y gwasanaeth yn Gymraeg. Roedd
myfyriwr arall wedi gofyn am gefnogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, ond dywedodd nad oedd cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn dod yn naturiol gan fod y cynghorydd yn siaradwr Cymraeg ail iaith: “Gofynnais am help trwy gyfrwng y Gymraeg ond ges i berson Saesneg sydd wedi dysgu Cymraeg, felly ni wnaethom ddechrau siarad Saesneg yn naturiol”.
Dywedodd 10 myfyriwr y cynigiwyd y gwasanaeth iddynt trwy gyfrwng y Gymraeg eu bod wedi dewis peidio â defnyddio’r gwasanaeth yn Gymraeg. Dywedodd un myfyriwr ei fod yn bryderus y byddai'n adnabod y cynghorydd pe bai'n defnyddio'r gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Er bod 73% o fyfyrwyr yn teimlo y byddent yn elwa ar wasanaeth Iechyd Meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg, dim ond 33% o fyfyrwyr oedd wedi clywed am myf.cymru, a dim ond 8 myfyriwr (4%) oedd wedi defnyddio’r gwasanaeth. O'r 8 myfyriwr hyn, dywedodd 6 eu bod yn teimlo eu bod wedi elwa ar y gwasanaeth.
Gallai cyfathrebiadau penodol wedi’u targedu at fyfyrwyr Cymraeg am y Gwasanaeth Iechyd Meddwl a Lles a myf.cymru sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod sut i gael mynediad at ddarpariaeth Gymraeg. Yn benodol, ni wneir digon o ddefnydd o adnodd myf.cymru, er gwaethaf galw amlwg gan fyfyrwyr.
Canmoliaethau
• Mae’r brifysgol yn meithrin amgylchedd lle mae mwyafrif helaeth y siaradwyr
Cymraeg yn teimlo’n gyfforddus yn defnyddio’r Gymraeg ar y campws
• Mae mwyafrif y myfyrwyr wedi gallu cyrchu gwasanaethau a ddarperir gan y brifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Argymhellion
• Archwilio cyfleoedd i gefnogi staff ymhellach, gan gynnwys staff dan hyfforddiant, mewn rolau sy’n wynebu defnyddwyr o fewn gwasanaethau’r brifysgol i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith.
• Sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod y gallant gael mynediad at y Gwasanaeth Iechyd Meddwl a Lles trwy gyfrwng y Gymraeg, drwy sicrhau bod yr holl gyfathrebu â myfyrwyr yn ddwyieithog a thrwy gynhyrchu cyfathrebiadau wedi’u targedu at fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg i roi gwybod iddynt sut i gael mynediad at y gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
• Hyrwyddo myf.cymru i bob myfyriwr Cymraeg eu hiaith trwy amrywiaeth o sianeli cyfathrebu, megis y bwletin myfyrwyr, y wefan, y cyfryngau cymdeithasol, tiwtoriaid personol a staff addysgu cyfrwng Cymraeg.
Profiadau Dysgwyr Cymraeg
Nododd 19% o’r myfyrwyr a holwyd eu bod yn ddysgwyr Cymraeg, gyda 6% yn dweud eu bod yn gallu siarad cryn dipyn o Gymraeg a 13% yn dweud mai dim ond ychydig y gallent ei siarad.
Mynegodd llawer o ddysgwyr Cymraeg ddiffyg hyder yn lefel eu Cymraeg fel y prif reswm dros beidio â chymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg, ac anaml oedd dysgwyr yn ymwneud â gweithgareddau UMCB. Adlewyrchir hyn yn y ffaith bod dysgwyr yn llai tebygol o deimlo'n gyfforddus wrth ddefnyddio'r Gymraeg ar y campws, ac yn llai tebygol o deimlo'n rhan o'r gymuned o fyfyrwyr Cymraeg. Yn y grŵp ffocws, mynegodd myfyrwyr ei bod yn bwysig i bobl beidio â theimlo bod angen iddynt fod yn gwbl rugl er mwyn cymryd rhan yn y gymuned Gymraeg a theimlo’n rhan ohoni. Roedd dysgwyr a oedd wedi dewis byw yn JMJ a chymryd rhan yng ngweithgareddau UMCB wedi mwynhau cymryd rhan.
Mewn arolwg barn Dydd Mawrth Dweud o 200 o fyfyrwyr, fe wnaethom holi myfyrwyr am gyfleoedd i ddysgu Cymraeg. Dywedodd 71% fod ganddynt ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg. Dywedodd 83 o fyfyrwyr y byddai'n well ganddynt ddysgu trwy gwrs Cymraeg strwythuredig, a dywedodd 51 o fyfyrwyr y byddai'n well ganddynt gyfleoedd dysgu cymdeithasol. Byddai datblygu cyfleoedd dysgu cymdeithasol ar draws y campws, yn debyg i broject Ffrind Cymraeg Undeb Bangor, sy’n paru siaradwyr Cymraeg rhugl gyda dysgwyr, yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg a chreu cyfleoedd i ddysgwyr deimlo’n rhan o gymuned gyda siaradwyr Cymraeg eraill. Gallai gweithredu system debyg ar lefel ysgol roi cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu Cymraeg a chwrdd â siaradwyr Cymraeg eraill ar eu cwrs.
Canmoliaethau
• Mae’r brifysgol yn darparu dosbarthiadau Cymraeg am ddim i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn dysgu Cymraeg.
• Mae project Ffrind Cymraeg yn creu cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu Cymraeg ac i gwrdd â siaradwyr Cymraeg mewn amgylchedd cymdeithasol.
Argymhellion
• Archwilio cyfleoedd dysgu cymdeithasol pellach o fewn ysgolion, trwy ddosbarthiadau Cymraeg anffurfiol mewn grŵp, neu ddigwyddiadau cymdeithasol cyfrwng Cymraeg.
• Gallai UMCB drefnu mwy o ddigwyddiadau ymlacio a sgwrsio drwy gyfrwng y Gymraeg i roi cyfleoedd pellach i ddysgwyr Cymraeg gwrdd â siaradwyr Cymraeg eraill ac ymarfer eu Cymraeg.