Adolygiad Ar Y Swyddogion Myfyrwyr Etholedig

Page 1


Adolygu’r Swyddogion Myfyrwyr Etholedig

Pwrpas y Swyddogion etholedig yw cynrychioli, ymgyrchu ac eirioli dros fyfyrwyr er mwyn creu newid. Mae eu rôl o natur wleidyddol, ac wedi ei seilio ar wireddu’r syniadau a’r addewidion y gwnaethon nhw ei nodi yn eu maniffesto yn ystod cyfnod yr etholiad. Fodd bynnag, dros amser, mae’r rôlau hyn wedi gwyro fwy tuag at dasgau gweithredol, e.e trefnu digwyddiadau neu ddelio â thasgau gweinyddol a dynnir y ffocws oddi ar brif nod eu rôl sef sefyll dros fyfyrwyr a cheisio am newid.

Pam adolygu’r rôlau?

Nod yr adolygiad yw ail-edrych ar rôl y swyddogion mewn perthynas â’r gofynion a’r disgwyliadau cyfredol sydd ar gyrff myfyrwyr. Yr amcan yw sefydlu strwythur ffocwsedig, strategol a gaiff ei arwain gan fyfyrwyr. Mae Undeb Bangor yn ceisio sicrhau fod swyddogion etholedig wedi eu galluogi i arwain ymgyrchoedd, dylanwadu ar benderfyniadau, a chynrychioli myfyrwyr yn effeithiol, tra y cefnogir y ddarpariaeth weithredol gan staff a myfyrwyr gwirfoddol.

Y prif faterion a nodwyd:

 Aneglurdeb ynglyn a rôl swyddogion – Mae hyn yn arbennig o wir yn achos rôl y Llywydd (sydd hefyd yn

Gadeirydd yr Ymddiredolwyr) a Llywydd UMCB (sydd yn sicrhau cydbwysedd rhwng digwyddiadau a chynrychiolaeth).

 UMCB yn teimlo’n ddatgysylltiedig – Mae ambell i fyfyriwr Cymraeg ei iaith, sef y rhai sy’n ymwneud leiaf â gweithgareddau cymdeithasol UMCB yn bennaf, wedi mynegi nad ydyn nhw’n teimlo eu bod yn cael eu llwyr gynnwys a’i cynrychioli.

 Rôlau Swyddogion yn Or-Weithredol- Dros amser mae’r rôlau hyn wedi gwyro’n fwy tuag at dasgau gweithredol megis trefnu digwyddiadau neu dasgau gweinyddol. O ganlyniad, maen’r swyddogion wedi eu pellhau oddi wrth eu prif bwrpas, sef sefyll dros fyfyrwyr, ymgyrchu a gyrru am newid.

 Gormod o rôlau swyddogion – Mewn cymhariaeth â

Phrifysgolion o faint cyffelyb, mae gan Undeb Bangor fwy o swyddogion (5 ar y funud sef – Llywydd, Llywydd UMCB, Is-lywydd Addysg, Is-lywydd Chwaraeon ac Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli) a gaiff effaith ar ffocws a chefnogaeth.

Sylwch os gwelwch yn dda: Nid yw’r tabl meincnodi hwn yn cynnwys pob ffactor, megis nifer y grwpiau myfyrwyr, gweithgareddau, a staff ym mhob Undeb Myfyrwyr. Mae hefyd yn bwysig ystyried cyd-destun unigryw Prifysgol Bangor, lle mae’r Gymraeg yn chwarae rhan ganolog ym mywyd y myfyrwyr. Mae gan Aberystwyth a Bangor ill dwy Swyddog Iaith Gymraeg dynodedig, sy’n amlygu pwysigrwydd cynrychiolaeth yr iaith Gymraeg. Mae’r elfen ddiwylliannol a ieithyddol hon yn ystyriaeth allweddol i fyfyrwyr wrth ymateb i’r ymgynghoriad.

O ganlyniad mae’r adolygiad yn cynnig strategaeth newydd ar gyfer swyddogion a adlewyrchir natur esblygol bywyd myfyrwyr a’r newidiadau cyson sydd i anghenion corff y myfyrwyr.

Cynigion:

Ailstrwythuro Tim y Swyddogion i ganolbwyntio ar wir anghenion myfyrwyr:

 Llywydd (Bywyd Myfyrwyr) – Mae’r rôl hon yn ddatblygiad pellach ar swydd bresennol y Llywydd, ond gyda ffocws gliriach ar faterion sydd ddim yn academaidd megis, cartrefu, rhent, costau byw, a thrafnidiaeth.

Byddai’r swyddog yn arwain ymgyrchoedd wedi eu anelu at wella bywyd o ddydd i ddydd myfyrwyr, gan barhau i fod y llinyn cyswllt allweddol rhwng y myfyrwyr a’r Brifysgol.

 Llywydd Cymraeg – UMCB – Mae’r rôl hon yn cael ei ailstrwythuro er mwyn cryfhau ei phrif bwrpas: cynrychioli ac ymgyrchu dros hawliau myfyrwyr Cymraeg eu iaith. Tra mai eiriolaeth fu hanfod y swydd hon o’r cychwyn cyntaf, o bryd i’w gilydd mae’r pwyslais ar ddigwyddiadau wedi cymryd blaenoriaeth. Byddai’r rôl ddiwygiedig yn rhoi pwyslais ar hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant ar draws corff cyfan y myfyrwyr, gyda pwyllgor UMCB yn cymryd gwell arweinyddiaeth ar weithgareddau cymdeithasol.

 Is-lywydd dros Addysg – Ni fyddai llawer o newid i’r rôl hon, byddai’n parhau i arwain ar gynrychiolaeth academaidd, dysgu ac addysgu. Y ffocws yw sicrhau fod profiadau academaidd myfyrwyr yn cael eu clywed a’u gweithredu arnynt.

 Is-lywydd ar gyfer Pwyllgorau Myfyrwyr- Mae’r rôl newydd hon yn canolbwyntio ar fod o gymorth i fyfyrwyr

deimlo ymdeimlad o berthyn a meithrin cysylltiadau.

Mae’n cefnogi grwpiau a gweithgareddau a gaiff eu harwain gan fyfyrwyr gan annog myfyrwyr i ddod o hyd i’w cymuned drwy gyfrwng cymdeithasau, chwaraeon, a gwirfoddoli. Mae’r rôl yn hyrwyddo digwyddiadau cynhwysol ac ymgyrchoedd sydd yn dathlu amrywiaeth, annog integreiddio, a chryfhau cysylltiadau cymunedol. Mae’n eirioli dros grwpiau a gaiff eu tan-gynrychioli a’r rheini a wyneba rwystrau wrth geisio cymryd rhan, gan sicrhau fod pob myfyriwr yn cael ei cynnwys, cynrychioli, ac yn teimlo y gallant arwain.

 Cryfhau Strategaethau Cyfleoedd Myfyrwyr – Cryfhau strwythurau’r undeb athletaidd, cymdeithasau a gwirfoddoli. E.e pwyllgorau Gweithredol a rôlau etholedig, er mwyn galluogi myfyrwyr i gyflwyno eu adborth yn effeithiol ar y meysydd hyn o weithgarwch yr Undeb, a gweithio gyda’r Is-lywydd cymdeithasau ar faterion sydd o bwys iddyn nhw. Gall rôlau fwy swyddogol ar gyfer myfyrwyr gael eu harchwilio e.e swyddogion rhan-amser a gormodedd er mwyn creu cyfeloedd arweinyddiaeth o fewn yr Undeb.

I Gloi:

Nod y diwygiadau a gynnigwyd yw:

 Gwella ymatebolrwydd ac hygyrchedd Undeb Bangor a chryfhau arweinyddiaeth myfyrwyr

 Amlygu cyfrifoldebau’r Swyddogion a gwella atebolrwydd

 Adeiladu Undeb sydd yn rhoi’r ffocws pennaf ar y materion sydd yn peri’r gofid mwyaf i fyfyrwyr.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.