82734-Undeb_Bangor_Associate_Member_Policy_-_September_2025-CY

Page 1


Polisi Aelodaeth Gyswllt Undeb Bangor

Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor.

Fel elusen a sefydliad o aelodau sy'n cael ei arwain yn ddemocrataidd, mae Undeb Bangor yn cyfeirio cyllid ac adnoddau yn bennaf er budd a datblygiad yr aelodau presennol (myfyrwyr Prifysgol Bangor). Gellir cymeradwyo aelodaeth gyswllt i fyfyrwyr nad ydynt ym Mhrifysgol Bangor os yw'r unigolyn yn gymwys dan feini prawf aelodaeth gyswllt Undeb Bangor.

1. Grwpiau Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor (yr Undeb Athletau, Cymdeithasau a Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor) ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB)

1.1. Grwpiau swyddogol Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor yw'r grwpiau hynny sydd wedi eu cofrestru a'u cadarnhau gan Undeb Bangor ac sydd wedi llofnodi cytundeb grŵp yn unol â Threfn Gadarnhau Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor

1.2. Rhaid i bob grŵp a gaiff ei gadarnhau gan Undeb Bangor gynnwys mwyafrif o fyfyrwyr presennol Prifysgol Bangor

1.2.1.Rhaid i hynny fod yn ddim llai na dwy ran o dair o sylfaen aelodaeth y grŵp a gydnabyddir trwy ddata'r system aelodaeth ar-lein.

1.2.2.Rhaid i'r mwyafrif hwn fod yn gymwys ar bob adeg trwy gydol y flwyddyn

1.2.3.Ni chaniateir aelodau cyswllt i'r grwpiau oni bai bod y mwyafrif hwn yn dal i fod yn gymwys wrth dderbyn aelod cyswllt newydd.

1.2.4.Bydd aelodaeth gyswllt UMCB yn cael ei phrosesu yn unol â'r polisi hwn a dylid ei chynnwys pan gyfeirir at 'Grŵp Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor'.

2. Aelodaeth Gyswllt

2.1. Mae aelodaeth gyswllt, yn unol â’r hyn a ragnodir yn Erthyglau Cymdeithasu Undeb

Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Erthygl 15) yn caniatáu i'r Bwrdd Gweithredol a/neu’r Bwrdd Ymddiriedolwyr gynnig darpariaeth i fyfyrwyr nad ydynt ym Mhrifysgol Bangor ymaelodi ag Undeb Bangor a chael y manteision canlynol:

2.1.1.Mynediad i ystafelloedd Undeb Bangor ar gyfer gweithgareddau grŵp, yn unol â'r drefn archebu ystafelloedd

2.1.2.Y gallu i ymuno ag unrhyw glwb, cymdeithas neu grŵp gwirfoddoli Undeb Bangor

2.1.3.Y gallu i ymuno ag UMCB

2.1.4.Bydd angen tâl pellach ar gyfer aelodaeth bellach ag unrhyw glwb, cymdeithas neu grŵp gwirfoddoli arall.

2.1.5.Y gallu i fynd i gyfarfodydd blynyddol a chyffredinol Undeb Bangor ac unrhyw gyfarfodydd democrataidd a gynhelir gan yr Undeb Athletau, cymdeithasau, Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor neu UMCB.

2.1.6.Y gallu i ddefnyddio gwasanaethau a chyfleusterau Undeb Bangor pan maent ar gael iddynt

2.2. Nid yw aelodaeth gyswllt yn caniatáu'r canlynol:

2.2.1.Yr hawl i bleidleisio mewn unrhyw etholiad Undeb Bangor nac etholiad Grŵp

Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor

2.2.2.Yr hawl i gymryd swydd fel Swyddog Sabothol neu gynrychiolydd myfyrwyr yn Undeb Bangor

2.2.3.Yr hawl i fynediad i ofod Prifysgol Bangor ac eithrio yn sgil gweithgaredd Grŵp

Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor sydd wedi ei gadarnhau

2.2.4.Yr hawl i le ar bwyllgor Grŵp Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor

2.2.5.Yr hawl i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd pwyllgor Grŵp Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor

2.2.6.Yr hawl i gymryd rhan mewn cystadlaethau BUCS

2.3. Mae aelodaeth gyswllt ar gael i'r canlynol:

2.3.1.Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor

2.3.2.Staff Prifysgol Bangor (mae hyn yn cynnwys Undeb Bangor)

2.3.3.Myfyrwyr presennol mewn sefydliadau sydd â chytundebau darpariaeth addysgol â Phrifysgol Bangor (yn unol â diffiniad Prifysgol Bangor)

2.3.4.Aelodau Undeb Bangor sy'n aelodau cyswllt er anrhydedd

2.3.5.Aelod o gymuned leol Bangor

2.4. Mae aelodaeth gyswllt yn agored i'r sawl sydd dan 18 oed ond mae'n rhaid ei phrosesu a'i chefnogi yn unol â Threfn Ddiogelu Undeb Bangor a gweithdrefnau i fyfyrwyr ac aelodau cyswllt dan 18 oed, yn amodol ar graffu ychwanegol gan yr Arweinydd Cyfleodd Myfyrwyr a’r Rheolwr Datblygu Aelodaeth.

2.5. Rhaid anrhydeddu pob aelodaeth oes neu aelodaeth gyswllt er anrhydedd

3. Aelodaeth Gyswllt er Anrhydedd

3.1. Cymeradwyir aelodaeth gyswllt er anrhydedd i unigolion a enwebir gan Fwrdd Gweithredol Undeb Bangor

3.2. Mae aelodaeth gyswllt er anrhydedd yn dyfarnu aelodaeth gyswllt awtomatig i'r unigolyn a enwebir sy'n ddilys am oes

3.3. Nid yw aelodaeth gyswllt er anrhydedd yn rhoi aelodaeth awtomatig i unrhyw Grŵp Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor ac mae'n rhaid gwneud cais am aelodaeth fel y disgrifir yn y Drefn Geisiadau Aelodaeth Gyswllt, gyda'r eithriadau canlynol:

3.3.1.Rhaid i'r Llywydd, y Capten neu'r Arweinydd Project gyflwyno ffurflen aelodaeth gyswllt ar ran y darpar aelod cyswllt.

3.3.2.Bydd yn ofynnol i'r darpar aelod cyswllt ddarparu gwybodaeth / tystiolaeth o'r aelodaeth gyswllt er anrhydedd a phryd y'i dyfarnwyd.

3.3.3.Yn dilyn cymeradwyaeth, ni chodir tâl aelodaeth gyswllt ar aelodau sy'n aelodau cyswllt er anrhydedd.

3.4. Mae gan aelodau cyswllt er anrhydedd yr hawl i'r buddion a nodir uchod yn 2.1 ac maent wedi eu rhwymo gan y cyfyngiadau a nodir yn 2.2

4. Trefn Geisiadau Aelodaeth Gyswllt

4.1. Rhaid i ddarpar aelod cyswllt (fel y disgrifir yn 2.3) wneud cais am aelodaeth gyswllt yn uniongyrchol trwy'r Grŵp Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor y maent yn dymuno ymuno ag ef.

4.2. Ni chaiff aelodaeth gyswllt ei chymeradwyo heb y bwriad i ymuno ar unwaith â Grŵp Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor

4.3. Rhaid i Lywydd, Cadeirydd neu Arweinydd Project y Grŵp Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor gynnig ffurflen gais aelodaeth gyswllt ar ran y darpar aelod

4.4. Ystyrir ceisiadau am aelodaeth gyswllt fesul achos

4.5. Rhoddir cymeradwyaeth i aelodaeth gyswllt yn amodol ar i'r ymgeisydd fodloni'r meini prawf cymhwyster

4.6. Bydd y Swyddog Sabothol Undeb Bangor a'r Arweinydd Cyfleoedd Myfyrwyr (neu eu cynrychiolydd enwebedig) yn adolygu'r cais ac yn cyfleu'r penderfyniad i'r cynigydd.

4.7. Yn dilyn cymeradwyaeth (ac os oes angen) gofynnir am y ffi aelodaeth gyswllt berthnasol a bydd yn daladwy o fewn 10 diwrnod o'i gymeradwyo.

4.8. O bryd i'w gilydd, gall Bwrdd Gweithredol Undeb Bangor hepgor y ffi aelodaeth gyswllt yn achos unigolyn sy'n cefnogi datblygiad a thwf Undeb Bangor. Bydd hyn yn ôl doethineb Bwrdd Gweithredol Undeb Bangor a bydd y rhesymau dros hynny ar gael ar gais.

4.9. Telir y ffi aelodaeth gyswllt am flwyddyn lawn rhwng 1 Medi a 31 Awst. Gellir gwneud addasiad pro rata i'r ffi yn achos aelodaeth ar ganol blwyddyn (rhaid trafod hynny gyda'r Swyddog Sabothol perthnasol a/neu’r Arweinydd Cyfleoedd Myfyrwyr)

4.10. Ni fydd yr aelodau cyswllt yn fwy na 25% o aelodaeth y grŵp

5. Ffioedd Aelodaeth Gyswllt

5.1. Bydd y ffioedd canlynol yn daladwy am aelodaeth i'r canlynol: 5.1.1.Clybiau yn Undeb Athletau Undeb BangorCyn-fyfyrwyr: Ffi UM £50 + £30 y clwb

Cyn-fyfyrwyr: Rhwyfo neu Sub Aqua Ffi UM £100 + £30

Allanol: Ffi UM £50 + £55 y clwb

Allanol: Rhwyfo neu Sub Aqua Ffi UM £100 + £55

5.1.2. Cymdeithasau Undeb Bangor –

Cyn-fyfyrwyr Ffi UM £10 + £15 y gymdeithas

Allanol Ffi UM £10 + £15 y gymdeithas

5.1.3.Projectau Gwirfoddoli sy'n rhan o Wirfoddoli Myfyrwyr Bangor - £25

5.1.4.Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor –

Cyn-fyfyrwyr: Ffi UM £50 + £30 y clwb

Allanol: Ffi UM £50 + £55 y clwb

Cyn-fyfyrwyr Ffi UM £10 + £15 y gymdeithas

Allanol Ffi UM £10 + £15 y gymdeithas

5.2. Lle bo'n berthnasol, bydd yr holl arian a delir mewn perthynas ag aelodaeth gyswllt i Grŵp Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor unigol yn cael ei dalu yn uniongyrchol i'w cyfrif codi arian.

5.3. Ar ôl derbyn y taliad bydd Canolfan Myfyrwyr Undeb Bangor yn cynhyrchu cerdyn aelodaeth gyswllt Undeb Bangor, sydd i'w chyflwyno ar gais wrth ymweld ag unrhyw ofod neu ddigwyddiad Undeb Bangor.

5.4. Ni ellir ad-dalu'r ffi aelodaeth gyswllt ar ôl iddi gael ei thalu.

6. Torri'r Polisi Aelodaeth Gyswllt hwn

6.1. Gall unrhyw achos o dorri'r polisi hwn arwain at gamau disgyblu yn unol ag Is-ddeddf 9 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor: Trefn Gwynion a Disgyblu a Threfn Ddisgyblu Aelodau Undeb Bangor.

6.2. Dylai unrhyw gwynion ynglŷn ag aelodaeth gyswllt ddilyn Trefn Gwynion a Disgyblu Myfyrwyr ac Aelodau Cyswllt Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor.

Dyddiad yr adolygiad: Mehefin 2024

Dyddiad Adolygu Nesaf: Medi 2025

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.