Canllawiau Cam wrth Gam a Rheolau a Reholiadau'r Etholiadau Swyddogion Sabothol 2021

Page 1

Canllawiau Cam wrth Gam a Rheolau a Rheoliadau Etholiadau Swyddogion Sabothol 2021

Canllawiau Cam wrth Gam Etholiadau Swyddogion Sabothol Dyma'r prif gamau a'r prosesau i sefyll yn Etholiadau’r Swyddogion Sabothol: enwebiadau, eich maniffesto, eich cyhoeddusrwydd, ymgyrchu, pleidleisio a'r cyfrif. Enwebiadau Er mwyn sefyll mewn etholiad rhaid i enwebiad ffurfiol gael ei gyflwyno ar-lein trwy www.UndebBangor.com. Yn dilyn enwebiad llwyddiannus byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau bod yr enwebiad wedi'i dderbyn ac yn cadarnhau eich ymgeisyddiaeth yn yr etholiad. Ni dderbynnir enwebiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau a hysbysebwyd. Drwy gyflwyno enwebiad rydych yn cytuno i'r canlynol ac yn rhoi caniatâd i Undeb Bangor fel a ganlyn:    

Cynnwys eich enw mewn cyhoeddusrwydd a datganiadau i'r wasg yn ymwneud ag Etholiadau Undeb Bangor Arddangos eich maniffesto/datganiad ysgrifenedig a'ch llun mewn cyhoeddusrwydd ar gyfer Etholiadau Undeb Bangor Arddangos eich enw a manylion cyswllt ar ein gwefan os cewch eich ethol yn llwyddiannus Anfon eich enw, cyfeiriad e-bost a Rhif Cerdyn Myfyriwr y Brifysgol at y Brifysgol er mwyn iddynt wirio bod y wybodaeth rydych wedi'i roi yn gywir a chadarnhau eich bod yn fyfyriwr cofrestredig presennol neu'n fyfyriwr PhD yn eu cyfnod ysgrifennu.

Maniffestos Anogir ymgeiswyr yn gryf i gyflwyno maniffesto ymgeisydd. Mae cyfyngiad geiriau caeth o 350 o eiriau i faniffestos. Gellir eu cyflwyno naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg a chânt eu cyfieithu gan Undeb Bangor. Rhaid cyflwyno maniffestos fel dogfen prosesu geiriau i elections@undebbangor.com erbyn y dyddiad cau a nodir yn yr Amserlen Etholiadau. A fyddech cystal ag enwi eich dogfen yn y fformat canlynol: Maniffesto Enw Ymgeisydd. (e.e. Maniffesto Rob Samuel.docx) Beth yw maniffesto? Mae maniffesto yn ddatganiad yn dweud pam eich bod yn sefyll yn yr etholiad, yr hyn yr ydych yn gobeithio ei gyflawni os cewch eich ethol, manylion am eich prif bolisïau a pham y dylai myfyrwyr bleidleisio drosoch. Meddyliwch am y pwyntiau isod wrth lunio eich maniffesto:  Beth ydych eisiau ei gyflawni yn y swydd hon a fydd o fudd i fyfyrwyr eraill?  Beth sydd wedi'ch ysbrydoli i sefyll ar gyfer y swydd hon?  Beth ydych chi'n ei feddwl yw prif swyddogaeth Undeb Myfyrwyr Bangor a pham? 1


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.