Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau Is-ddeddf 6 – Cyngor Undeb Bangor Eiddo Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yw'r is-ddeddf hon a gall y Bwrdd hwnnw a Chyngor Undeb Bangor ei diwygio, yn unol â'u trefnau. At ddibenion Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor), ystyrir mai Cyngor y Myfyrwyr yw Cyngor Undeb Bangor. 1.
Diben 1.1. Mae Cyngor Undeb Bangor yn bodoli er mwyn: 1.1.1. Trafod, ystyried a gosod polisi'r Undeb rhwng Cyfarfodydd Aelodau Myfyrwyr. 1.1.2. Adolygu, arwain, dal i gyfrif a chreu projectau ar gyfer y Swyddogion Sabothol rhwng Cyfarfodydd Aelodau Myfyrwyr. 1.1.3. Trafod materion sy’n berthnasol i fyfyrwyr rhwng Cyfarfodydd Aelodau Myfyrwyr. 1.1.4. Gweithio i wella bywyd myfyrwyr drwy ymgynghori a deall anghenion y myfyrwyr fel corff, hyrwyddo gwaith yr Undeb, trafod materion a syniadau a chreu projectau a chynlluniau newydd.
2.
Aelodaeth 2.1. Dim ond myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru'n llawn ym Mhrifysgol Bangor ac aelodau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) sy'n gymwys i gael eu hethol i eistedd ar Gyngor Undeb Bangor. 2.2. Bydd aelodaeth Cyngor Undeb Bangor fel a ganlyn: 2.2.1. Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol Undeb Bangor 2.2.2. Cynghorydd Myfyrwyr yr Undeb Ewropeaidd Undeb Bangor 2.2.3. Cynghorydd Myfyrwyr Ôl-radd Hyfforddedig Undeb Bangor 2.2.4. Cynghorydd Myfyrwyr Ôl-radd Ymchwil Undeb Bangor 2.2.5. Cynghorydd Myfyrwyr Hŷn Undeb Bangor 2.2.6. Cynghorydd Myfyrwyr sy'n Rhieni a Gofalwyr Undeb Bangor 2.2.7. Cynghorydd Myfyrwyr sy'n Byw Gartref Undeb Bangor 2.2.8. Cynghorydd Myfyrwyr Rhan Amser Undeb Bangor 2.2.9. Cynghorydd Myfyrwyr Anabl Undeb Bangor 2.2.10. Cynghorydd Myfyrwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Undeb Bangor 2.2.11. Cynghorydd Myfyrwyr Cymraeg eu Hiaith Undeb Bangor 2.2.12. Cynghorydd Myfyrwyr LHDT+ Undeb Bangor 2.2.13. Cynghorydd Myfyrwyr Traws Undeb Bangor 2.2.14. Cynghorydd Myfyrwyr Benywaidd Undeb Bangor 2.2.15. Cynghorydd Undeb Athletau (UA) Undeb Bangor (Lle Agored) 2.2.16. Cynghorydd Undeb Athletau (UA) Undeb Bangor (Lle i Ferch) 2.2.17. Cynghorydd Cymdeithasau Undeb Bangor (Lle Agored) 2.2.18. Cynghorydd Cymdeithasau Undeb Bangor (Lle i Ferch) 2.2.19. Cynghorydd Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor (GMB) Undeb Bangor (Lle Agored) 2.2.20. Cynghorydd Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor (GMB) Undeb Bangor (Lle i Ferch) 2.2.21. Cynghorydd Cynrychiolwyr Cwrs Undeb Bangor (Lle Agored) 2.2.22. Cynghorydd Cynrychiolwyr Cwrs Undeb Bangor (Lle i Ferch) 2.2.23. Cynghorydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) Undeb Bangor (Lle Agored) 2.2.24. Cynghorydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) Undeb Bangor (Lle i Ferch) 2.2.25. Cynghorydd Campws Wrecsam Undeb Bangor 2.2.26. Cynghorydd Coleg Bangor yn Tsiena (CBT) Undeb Bangor 2.2.27. Cynghorydd Hyrwyddo Iechyd Meddwl Undeb Bangor
Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau
Tudalen 1 o 5