Pasiwyd yn CUB 16/11/17
Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau Is-ddeddf 9 - Trefn Gwynion Eiddo Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yw'r is-ddeddf hon a gall y Bwrdd hwnnw a Chyngor Undeb Bangor ei diwygio, yn unol â'u gweithdrefnau. Gall unrhyw fyfyriwr sy’n anhapus ag unrhyw beth yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) gyflwyno cwyn. Gallant gwyno am unrhyw beth, a gall hynny gynnwys timau, adrannau, gwasanaethau, grwpiau myfyrwyr neu unigolyn. Proses Gwyno Anffurfiol: Gellir datrys y rhan fwyaf o gwynion yn anffurfiol. • • •
Y cam cyntaf yw cysylltu â'r sawl sy'n gyfrifol am y maes mae’ch cwyn yn ymwneud ag ef e.e. Ymddiriedolwr sy’n Swyddog Sabothol, Arweinydd y Grŵp Cyfleoedd Myfyrwyr neu Aelod Staff. Dylech gynnwys eich manylion cyswllt yn y neges a byddwn yn cysylltu yn ôl â chi o fewn 5 diwrnod gwaith. Os yw’r mater yn cael ei ddatrys, ni chaiff unrhyw gofnodion eu cadw gan ei fod yn cael ei ystyried yn gwyn anffurfiol.
Proses Gwyno Ffurfiol: Os ydych yn anhapus ac yn dymuno mynd â’ch cwyn ymhellach neu'n credu bod eich cwyn yn rhy ddifrifol i'r Drefn Gwyno Anffurfiol mae gennym Drefn Gwyno Ffurfiol y gallwch ei dilyn. Mae’r Drefn Gwyno Ffurfiol yno i’w dilyn os: • • •
Ydych yn anfodlon â'r ymateb a gawsoch ar ôl eich cwyn anffurfiol. Eich bod yn teimlo bod eich cwyn yn ddifrifol iawn. Eich bod wedi dewis ymwrthod o’ch aelodaeth ag Undeb y Myfyrwyr ac yn teimlo eich bod dan anfantais o’r herwydd.
Cam Un: Mae angen ichi ddechrau trwy lenwi a chyflwyno ffurflen gwyno. Gellir cael copi yn www.undebbangor.com neu drwy ymweld â Chanolfan Myfyrwyr Undeb Bangor. Mae'n bwysig iawn bod eich cwyn yn bodloni'r meini prawf canlynol. Os caiff unrhyw gamau eu hepgor, ni fyddwn yn gallu ymchwilio i'ch cwyn. Rhaid ichi wneud y canlynol: • • • • •
Cyfeirio eich cwyn at y Llywydd a fydd wedyn yn y rhan fwyaf o achosion yn gofyn i Gyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr drefnu i un o Reolwyr Undeb Bangor ymchwilio i’r mater. Os yw'r gwyn yn ymwneud â'r Llywydd cyfeiriwch hi at Gyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr a fydd yn trefnu iddi gael ei throsglwyddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Cyflwynwch eich cwyn o fewn 28 diwrnod gwaith i'r digwyddiad yr ydych yn cwyno amdano, oni bai bod amgylchiadau eithriadol. Rhowch eich enw, cyfeiriad cyswllt, cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn. Rhowch fanylion am y digwyddiad yr ydych yn cwyno yn ei gylch.
Cam Dau: Byddwn yn rhoi gwybod ichi ein bod wedi derbyn eich cwyn o fewn 3 diwrnod ar ôl ei derbyn. Os yw eich cwyn yn bodloni'r meini prawf a fanylir yn y Drefn Gwyno hon, yna caiff ei hymchwilio ac efallai y gofynnir i’r sawl sy'n gysylltiedig gynnig tystiolaeth, er na fydd unrhyw wrandawiadau ffurfiol yn cael eu cynnal. Fel rhan o'r ymchwiliad hwn, bydd y Llywydd neu Reolwr Undeb Bangor hefyd yn ystyried a ddylid cyfeirio'r gwyn at gorff perthnasol arall (ee Cadeirydd Cyngor Undeb Bangor, Uwch Aelod Staff Prifysgol neu'r Heddlu). University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws
Page 1 of 2