Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau Is-ddeddf 10 - Trefn Ddisgyblu Myfyrwyr ac Aelodau Cyswllt Eiddo Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yw'r is-ddeddf hon a gall y Bwrdd hwnnw a Chyngor Undeb Bangor ei diwygio, yn unol â'u trefnau. At ddibenion Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor), ystyrir mai’r drefn hon yw’r Cod Ymddygiad. Diben a Chwmpas Mae Undeb Bangor yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein gwasanaethau, gweithgareddau a lleoliadau yn ddiogel ac yn hyrwyddo profiad cadarnhaol i bawb sy'n eu defnyddio. Er mwyn gwarchod hynny mae’r Drefn Ddisgyblu hon mewn lle i fynd i'r afael ag achosion o gamymddwyn honedig. Rydym yn ei defnyddio i ymchwilio i weithredoedd gan: • • •
Aelodau Undeb Bangor Grwpiau Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor Aelodau Cysylltiol Undeb Bangor sy’n cymryd rhan yng ngweithgarwch Undeb Bangor neu’n defnyddio lleoliadau Undeb Bangor.
Os cadarnheir honiad o gamymddwyn ac y canfyddir eich bod chi neu eich grŵp wedi ymddwyn yn amhriodol, yna byddwch yn derbyn rhybudd neu gosb. Mewn achosion lle bo’r Drefn Ddisgyblu hon yn cael ei gweithredu ar Grŵp Cyfleoedd Myfyrwyr, bydd arweinydd y grŵp yn cynrychioli’r grŵp a phennir unrhyw gosb yn uniongyrchol i’r grŵp neu arweinydd y grŵp yn eu swyddogaeth fel aelod arweiniol yn hytrach nag i fyfyrwyr unigol. Ni ddylid defnyddio’r drefn hon os yw’r achosion yr ymchwilir iddynt yn ymwneud â’r canlynol: •
Etholiadau neu Refferenda Undeb Bangor (ymdrinnir â'r rhain trwy Drefn Cwynion Etholiadau a Refferenda Undeb Bangor) • Staff cyflogedig neu staff sy’n fyfyrwyr Undeb Bangor / Prifysgol Bangor (ymdrinnir â'r rhain trwy Drefnau Adnoddau Dynol Prifysgol Bangor) • Ymddiriedolwyr sy’n Swyddogion Sabothol neu Ymddiriedolwyr sy’n Fyfyrwyr Undeb Bangor (ymdrinnir â’r rhain trwy’r Drefn Atebolrwydd Aelodau Etholedig) • Ymddiriedolwyr Allanol Undeb Bangor (ymdrinnir â'r rhain trwy Is-Ddeddf Bwrdd yr Ymddiriedolwyr) • Cynghorwyr Undeb Bangor (ymdrinnir â'r rhain trwy Drefn Atebolrwydd Aelodau Etholedig Undeb Bangor) I gael gwybod mwy a darllen polisïau a threfnau cysylltiedig ewch i'n gwefan www.undebbangor.com Cefnogaeth Mae bod yn destun ymchwiliad disgyblu yn gallu bod yn gyfnod anodd i'r rheiny sy’n gysylltiedig. Byddwn yn gwneud yn siŵr fod unrhyw ymchwiliad yn cael ei gynnal gyda’r disgresiwn, gofal ac ystyriaeth briodol. Bydd Undeb Bangor yn sicrhau bod pob cam yn y broses yn parhau i fod yn deg ac yn unol â pholisi a threfnau Undeb Bangor. Camymddwyn Mae camymddwyn fel arfer yn cyfeirio at: • • • • • •
Ymddygiad gwrthgymdeithasol Defnyddio neu ddosbarthu sylweddau anghyfreithlon Torri Polisi neu Drefn Undeb Bangor Lladrad Ymddygiad sy'n debygol o achosi niwed i enw da Gweithgareddau troseddol eraill sy'n ymwneud â gweithgarwch, lleoliadau neu unigolion Undeb Bangor.
University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws
Page 1 of 4