Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

Page 1

Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs 2012 - 2013

www.myfyrwyrbangor.com/cynrychiolwyrcwrs

cynrychiolwyrcwrs@myfyrwyrbangor.com

01248 383651


Cynnwys 4

18

Rhestr Wirio’r Cynrychiolwyr Cwrs

Cyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs - Eich Undeb Myfyrwyr Chi

6 Pam cael Cynrychiolwyr Cwrs?

8 Y fframwaith Cynrychiolwyr Cwrs

10 Eich cyfrifoldebau chi

12 Ymdrin â phryderon myfyrwyr - Gwasanaethau cefnogaeth sydd ar gael - Canllawiau cam wrth gam

16 Cyfarfodydd ysgolion: Pwyllgorau Cyswllt Staff-Myfyrwyr a’r Byrddau Astudio

20 Cynghorion pwysig: - Cyfarfodydd - Ymdrin â myfyrwyr eraill - Tystiolaeth ac adborth

24 Hyfforddiant a chyfleoedd

26 Dathlu eich llwyddiant - Gwobr Cyflogadwyedd Bangor - Noson Wobrwyo’r Cynrychiolwyr Cwrs - Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn

28 Rhestr cysylltiadau


Helo! Llongyfarchiadau ar ddod yn Gynrychiolydd Cwrs! Dros y flwyddyn i ddod, fe gewch gyfle anhygoel i gynrychioli myfyrwyr, gweithio gyda phobl o’r un anian â chi a chreu newidiadau cadarnhaol ledled y Brifysgol. Byddwch hefyd yn datblygu amrywiaeth anghyffredin o sgiliau a chyneddfau a fydd yn eich helpu chi ymhell ar ôl eich cyfnod yn y Brifysgol. Bydd y llawlyfr hwn yn helpu i ateb y cwestiynau sydd gennych ac yn eich cynorthwyo i wneud y gorau o’ch amser fel Cynrychiolydd Cwrs. Ac os nad yw’r atebion yma, cysylltwch â ni! Diolch am ymuno â’n tîm ni - rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chi. Pob hwyl,

Shôn, Is-Lywydd Addysg a Lles

Mae cynrychiolaeth myfyrwyr wrth wraidd arddeliad y Brifysgol i weithio gyda myfyrwyr fel partneriaid, yn yr ystafell ddosbarth a thu allan. Mae’n bwysig iawn gwybod beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio yn y sefydliad ar lefel cwrs, Ysgol a Choleg er mwyn gallu gwella profiad myfyrwyr trwy ddatblygu dulliau newydd a mireinio’r systemau presennol. Mae arolygon fel yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn ddefnyddiol iawn ond mae cysylltu’n uniongyrchol gyda chynrychiolwyr cyrsiau yn ein helpu i ddatblygu arfer da a newid pethau’n gyflym lle bo’r angen. Trwy fod yn gynrychiolydd cwrs byddwch yn helpu eich cyfoedion i ddylanwadu ar y broses gwneud penderfyniadau ym Mangor a chael effaith mewn meysydd ar draws y sbectrwm: addysgu a dysgu, cyfleusterau a phrosesau gweinyddu. Mae’n rôl hollbwysig y mae’r Brifysgol yn ei hystyried yn un werthfawr iawn.

Yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is ganghellor Myfyrwyr a’r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is ganghellor Addysgu a Dysgu. 3


Rhestr Wirio’r Cynrychiolwyr Cwrs Gobeithio y gwnewch chi ddarllen y llawlyfr yma i gyd gan ei fod yn llawn o wybodaeth ddefnyddiol, ond os ydych chi dim ond yn darllen un rhan ohono, yna Rhestr Wirio’r Cynrychiolwyr Cwrs ddylai hwnnw fod!

1. Ewch ar gwrs hyfforddi Cynrychiolwyr Cwrs. Ewch at www.myfyrwyrbangor.com/cynrychiolwyrcwrs i neilltuo lle ar sesiwn hyfforddi i Gynrychiolwyr Cwrs newydd neu ar sesiwn i’r rheiny sy’n dychwelyd i’r swydd. 2. Cyflwynwch eich hun i’r staff a myfyrwyr yn eich ysgol. Gwelwch tud.22 am gynghorion ar wahanol ffyrdd o wneud hyn. 3. Gwnewch yn siŵr o gael gwybod pryd mae’r cyfarfodydd staff-myfyrwyr yn cael eu cynnal yn eich ysgol chi. Dylai eich ysgol fod yn cynnal dau bob semester a dylai pob cynrychiolydd cwrs dderbyn gwahoddiad mewn da o bryd. 4. Siaradwch â’r myfyrwyr! Mynnwch gael eu hymateb a chael gwybod am faterion sy’n peri gofid (gwelwch tud. 23 am gasglu tystiolaeth) a rhowch wybod iddyn nhw am gasgliadau a chynnydd cyfarfodydd eich ysgol.


Eisiau mwy o wybodaeth am rai o’r pwyntiau yma? - Darllenwch drwy’r llawlyfr yma. - Ewch at www.myfyrwyrbangor.com/ cynrychiolwyrcwrs - Cysylltwch â Michelle, y Cydlynydd Cynrychiolwyr Cwrs: 01248 383651 michelle.hamlet@bangorstudents.com

De fn hwn yddiw nad i wne ch y ll a u dim ydych d yn s wlyfr iŵ u y pwy n o’r n me r th pw s Gy nry ig am yntia u chio u f lyd od yn dC wrs .

5. Mynychwch gyfarfodydd staff-myfyrwyr eich ysgol. Mae’r rhain yn rhoi’r cyfle i chi gynrychioli llais eich cyd fyfyrwyr – gwelwch dud. 20 am gynghorion ynghylch mynychu cyfarfodydd yr ysgol. 6. Dewch i gyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs. Mae’n gyfle i gwrdd â Chynrychiolwyr Cwrs eraill a rhoi adborth yn ôl i’ch Undeb Myfyrwyr – gwelwch dud. 18 am wybodaeth am natur cyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs. 7. Cymerwch ran mewn cyfleoedd ychwanegol a mynychwch ddigwyddiadau hyfforddi arbenigol. Gwelwch dud. 24 am fanylion hyfforddiant a chyfleoedd arbennig ar gyfer Cynrychiolwyr Cwrs. 8. Dathlwch eich llwyddiant. Hawliwch holl bwyntiau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor y mae gennych hawl iddynt, mynychwch y noson wobrwyo i dderbyn eich tystysgrif a gweld os ydych wedi ennill gwobr Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn (gwelwch dud. 26 am fwy o wybodaeth). 5


Pam cael Cynrychiolwyr Cwrs? Etholir Cynrychiolwyr Cwrs i wneud yn siŵr fod y profiad dysgu ac addysgu ym Mhrifysgol Bangor yn datblygu’n ddemocrataidd, gan sicrhau fod barn pob myfyriwr yn cael ei gynrychioli a’i werthfawrogi gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Maent yn cynnig darlun cytbwys a gwybodus o farn myfyrwyr i aelodau staff y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ac yn rhoi darlun cytbwys a gwybodus i fyfyrwyr ynghylch sut mae’u hysgol a’u Hundeb yn mynd i’r afael â’r materion sydd wedi cael eu codi.

Ein nod:

fod democracy gwneud yn siwr

y

ac r c o

DEM

em H AET d ATI OCR DEM CY ar waith demo A R cracy OC


Rafael,

Alison,

Cynrychiolydd Cwrs

Cynrychiolydd Cwrs

“Yn ystod fy nghyfnod fel cynrychiolydd, fe wnes i fwynhau’r cyfrifoldeb a deimlais a sylweddoli fy mod yn gyfrifol am sicrhau fod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed. Fe wnes i wahaniaeth. Agwedd fwyaf heriol fy swyddogaeth oedd magu’r hyder i godi materion gyda darlithwyr oedd wedi cael eu dwyn at fy sylw gan fyfyrwyr ac unigolion eraill, ac roeddwn wedi disgwyl i’r cyfarfodydd staffmyfyrwyr fod yn gymharol frawychus. Fodd bynnag, fe wnaeth yr hyfforddiant a dderbyniais gan Undeb y Myfyrwyr roi hyder i mi a’i wneud yn gymharol hawdd i mi fynegi fy mhryderon, ac roedd cyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs yn ysgafn a hwyliog eu naws. Fy nghyrhaeddiad personol uchaf oedd gweithio gyda staff yr ysgol i ddatrys mater o bwys oedd yn ymwneud â modiwl roedd dros 1000 wedi cofrestru ar ei gyfer. ”

“Mae bod yn Gynrychiolydd Cwrs yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, cwrdd â myfyrwyr â’r un weledigaeth a helpu i wella Prifysgol Bangor ar gyfer myfyrwyr y dyfodol. Gallwch wella eich cwrs yn uniongyrchol drwy ddylanwadu ar newidiadau yn eich ysgol, ac mae mynychu cyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs yn ffordd o allu didoli’r materion hynny sy’n peri pryder a gwneud newidiadau ar lefel Prifysgol. Gall y gwaith fod yn heriol, ond mae gennych gefnogaeth eich staff ysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Un o’r cyraeddiadau rwyf fwyaf balch ohonynt oedd pan oedd fy adran yn cynllunio canslo taith addysgiadol dramor ar gyfer myfyrwyr y dyfodol; drwy fynychu cyfarfodydd staff-myfyrwyr a chynrychioli barn fy nghyd fyfyrwyr, llwyddais i a’r Cynrychiolwyr Cwrs eraill sicrhau y bydd y daith honno’n parhau i gael ei chynnal yn y dyfodol.”

7


Y Fframwaith Cynrychiolwyr Cwrs

Myfyrwyr Myfyrwyr

Myfyrwyr

Myfyrwyr

Myfyrwyr

Myfyrwyr

Myfyrwyr

Myfyrwyr Myfyrwyr

Myfyrwyr

Myfyrwyr

Myfyrwyr

Myfyrwyr

MyfyrwyrMyfyrwyr Myfyrwyr

Myfyrwyr Myfyrwyr Myfyrwyr Myfyrwyr Myfyrwyr

Myfyrwyr

Myfyrwyr

Myfyrwyr

Cynrychiolwyr Cwrs Pwyllgorau Cyswllt Staff-Myfyrwyr

Cyfarfodydd Lefel Coleg

Cyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs

Tîm Uwch Reolwyr

Cyngor a Senedd y Brifysgol

Undeb y Myfyrwyr


Mae gofyn i Gynrychiolwyr Cwrs fynychu dau fath o gyfarfod: Pwyllgorau Cyswllt Staff-Myfyrwyr ble mae myfyrwyr (chi) ac aelodau staff yn eich ysgol yn dod ynghyd i siarad am faterion academaidd sy’n effeithio ar fyfyrwyr yn benodol o fewn eich ysgol.

Cyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs ble mae’r holl Gynrychiolwyr Cwrs yn dod ynghyd gydag Undeb y Myfyrwyr i drafod y prif faterion sy’n cael effaith ar eu hysgol yn ogystal â materion sy’n effeithio ar fyfyrwyr drwy’r Brifysgol gyfan. Dyma hefyd ble fydd UM yn eich diweddaru â gwybodaeth bwysig sy’n ymwneud â’ch swyddogaeth. Senior Reps will also be asked to attend College level meetings, and this is where a Senior Course Rep from each School in your College gets together with key staff members to discuss issues affecting students.

Pam fo Cynrychiolwyr Cwrs yn mynychu’r holl gyfarfodydd yma? Os mai dim ond Pwyllgorau Cyswllt Staff-Myfyrwyr yr oeddech yn eu mynychu, byddai’r pwynt ble roedd barn myfyrwyr yn cael ei gynrychioli yn y broses gwneud penderfyniadau yn gorffen ar lefel Ysgol neu Goleg. Yn dilyn hynny, byddai i fyny i’r staff yn eich Coleg fynegi barn myfyrwyr i’r Tîm Uwch Reoli. Drwy fynd i gyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs hefyd, byddwch yn bwydo gwybodaeth ymlaen i Undeb y Myfyrwyr am faterion sy’n cael effaith ar fyfyrwyr yn eich Ysgol neu Goleg. Prif ddiben Tîm Sabothol Myfyrwyr UM yw cynrychioli myfyrwyr. Maent yn cwrdd yn rheolaidd gyda’r Uwch Dîm Rheoli ac yn mynd i gyfarfodydd Senedd y Brifysgol, er mwyn iddynt allu cynrychioli llais myfyrwyr ar y lefel uchaf un yn y broses gwneud penderfyniadau. 9


Eich cyfrifoldebau chi Mae yna rai pethau y dylai pob Cynrychiolydd Cwrs ei wneud i sicrhau ei fod/bod yn cyfrannu at wella profiad academaidd y myfyrwyr yn ei (h)ysgol: Mynychu hyfforddiant Cynrychiolwyr Cwrs - 2 awr a hanner o hyd - popeth sydd angen i chi ei wybod -ymarferiadau defnyddiol i’ch paratoi chi ar gyfer gweithio gyda myfyrwyr, staff ac UM.

Gweithio gyda Chynrychiolwyr Cwrs eraill - yn eich Ysgol, Coleg neu ledled y Brifysgol, bydd pethau’n digwydd yn gyflymach os byddwch yn cydweithio!

Mynychu Cyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs - 2 y semester - Gwelwch dud. 18 am fwy o wybodaeth

Get student feedback

- cyflwyno eich hun i fyfyrwyr - cael adborth da a drwg i’w gyflwyno ar gyfer trafodaeth yn y Pwyllgorau Cyswllt a chyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs - gwelwch dud. 22 am fwy o wybodaeth.

Mynychu cyfarfodydd y Pwyllgorau Cyswllt Staff-Myfyrwyr - lleiafswm o 2 pob semester - Gwelwch dud. 16 am fwy o wybodaeth

Cynnig adborth i fyfyrwyr - Adrodd wrth fyfyrwyr am bob trafodaeth, penderfyniad a gweithredu - Gwelwch dud. 23 am fwy o wybodaeth


Eisiau gwneud hyd yn oed mwy? Mae i fyny i chi’n llwyr faint o amser wnewch chi ei dreulio ar fod yn Gynrychiolydd Cwrs, ond y mwyaf o ymdrech y byddwch yn ei roi i gyflawni eich swyddogaeth yn dda, y mwyaf o newid rydych yn debyg o’i greu er gwell.

Gwnewch yn siŵr fod pawb yn eich nabod! Cylchwch e-bost, gwnewch gyhoeddiad mewn darlithiau, dechreuwch grŵp Facebook neu trefnwch ‘Gornel Cynrychiolwyr Cwrs’ yn eich ysgol. Gwelwch dud. 22 am amryw o syniadau.

Uwch Gynrychiolwyr Cwrs:

Fe’ch gwahoddir i un cyfarfod staffmyfyrwyr lefel Coleg pob semester hefyd!

Byddwch yn rhagweithiol yn eich cais am adborth gan fyfyrwyr ac am dystiolaeth i gefnogi’r materion rydych yn dymuno eu codi. Gwelwch dud. 23 am amryw o syniadau fydd yn fan cychwyn i chi.

Gwneud yn fawr o’ch cyfle fel Cynrychiolydd Cwrs Holwch eich ysgol am gyfarfodydd a chyfleoedd eraill y gallwch gymryd rhan ynddynt, fel cyfarfodydd y Bwrdd Astudio neu arolygon myfyrwyr, gan gynnwys Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS).

Mynychwch sesiynau hyfforddi Cynrychiolwyr Cwrs ychwanegol (a chael pwyntiau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor am wneud hynny) ar faterion fel sgiliau negydu, casglu tystiolaeth a siarad cyhoeddus. Gwelwch dud. 24 am fwy o wybodaeth. 11


Ymdrin â phryderon myfyrwyr

COFIWCH

Chi sy’n gyfrifol am ymdrin â materion sy’n cael effaith ar brofiad academaidd/dysgu myfyrwyr ar eich modiwl neu gwrs neu’ch blwyddyn yn yr ysgol – p’run bynnag rydych yn ei gynrychioli. Nid ydych yn gyfrifol am ymdrin â materion unigol na phersonol, na materion nad ydynt yn ymwneud â phrofiad academaidd/dysgu’r myfyrwyr.

Materion yn Ymwneud a Cynrychiolwyr Cwrs

Ddim yn Faterion

Cynrychiolwyr Cwrs

Dysgu - traddodi darlithiau, eu cynnwys a’u fframwaith a dulliau eraill o ddysgu.

Unrhyw faterion academaidd a restrir ar y chwith sy’n effeithio ar un unigolyn.

Asesiad ac Adborth – manyldeb adborth, tegwch a defnyddioldeb, dulliau asesu a thegwch.

Gweithdrefnau swyddogol yn ymwneud ag asesu, llên-ladrad a chwynion.

Trefn a Rheoli – amserlennu, oriau cyswllt, gweinyddu ac argaeledd gwybodaeth. Adnoddau Dysgu – sleidiau darlithiau, deunydd Blackboard, llyfrau, deunydd darllen ar-lein ac offer TG. Cefnogaeth Academaidd – tiwtoriaid personol, cyngor ar astudio a’r gallu i gysylltu â staff.

Materion sy’n ymwneud â bywyd personol myfyriwr, gan gynnwys arian, llety, teulu a pherthnasau personol. Materion yn ymwneud â gweithgareddau allgyrsiol, gan gynnwys clybiau athletaidd a chymdeithasau myfyrwyr. Unrhyw faterion rydych yn teimlo na allwch ymdrin â nhw – rydym am i chi ddweud wrthym pan fydd pethau’n ormod, a bydd disgwyl i chi ymdrin ag unrhyw beth nad ydych yn gysurus ag ef.


Os daw myfyriwr atoch gyda mater nad yw’n fater i Gynrychiolydd Cwrs, neu’n rhywbeth na allwch ymdrin ag ef, mae yna ddigon o wasanaethau cefnogi y gallwch gyfeirio myfyriwr atynt:

Undeb Myfyrwyr Bangor undeb@bangorstudents.com | 01248 388000 www.myfyrwyrbangor.com Gall UM helpu myfyrwyr gydag unrhyw agwedd sy’n ymwneud â bywyd Prifysgol. Os ydyw’n fater academaidd rydych yn teimlo na allwch ymdrin ag ef neu na all aros tan gyfarfod Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs nesaf, yna cysylltwch â Shôn Prebble (shon.prebble@myfyrwyrbangor.com). Fel arall, cysylltwch ag UM neu ffeindiwch y Swyddog Sabothol rydych ei angen ar wefan UM.

Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr

studentservices@bangor.ac.uk | 01248 382024 www.bangor.ac.uk/studentservices Mae yna amryw o wasanaethau ar gael yma i gefnogi myfyrwyr mewn agweddau amrywiol o’u bywydau, gan gynnwys cyngor am arian, llety, cefnogaeth astudio, cefnogaeth i fyfyrwyr gydag anabledd a chefnogaeth yn ymwneud ag iechyd a lles, gan gynnwys cwnsela.

Gwasanaethau Eraill

Y Gofrestrfa Academaidd - www.bangor.ac.uk/ar/main/ Yn darparu gwasanaethau hanfodol i’r Brifysgol, a gall gynnig manylion am agendâu a pholisïau’r Brifysgol. Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd - www.bangor.ac.uk/careers

Yn cynnig cyfarwyddyd ar yrfaoedd a hyfforddiant sgiliau cyflogadwyedd ar gyfer profiad gwaith, gwaith rhan-amser, cyflogi graddedigion a hunangyflogaeth. Canolfan Dyslecsia Miles - http://www.dyslexia.bangor.ac.uk/ Yn cynnig cefnogaeth a chyfarwyddyd i fyfyrwyr gyda dyslecsia. Nawdd Nos - http://www.bangorstudents.com/nightline | 01248 362121 Gwasanaeth cyfrinachol gwrando, cynnig cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr. 13


Ymdrin â phryderon myfyrwyr: cyfarwyddyd cam wrth gam Ydy hyn yn fater academaidd?

Gwelwch tud.12 am fanylion - “Materion Cynrychiolwyr Cwrs”

Na, nid yw hwn yn fater academaidd.

Ydy, mae hwn yn fater academaidd.

Nid yw hwn yn fater i Gynrychiolwyr Cwrs! Cyfeiriwch y myfyriwr/myfyrwyr i’r gwasanaeth priodol, gan ddefnyddio tud.13 fel canllaw.

Ydy hwn yn fater personol, sy’n cael effaith ar un neu ddau o fyfyrwyr yn unig?

Ydy, dim ond un person a effeithir. Nid yw hwn yn fater i Gynrychiolwyr Cwrs! Cyfeiriwch y myfyriwr at eu tiwtor personol, pennaeth ysgol neu’r gefnogaeth briodol, gan ddefnyddio tud.13 fel canllaw.

Na, mae hyn yn effeithio ar amryw o fyfyrwyr neu ddosbarth cyfan. Mae hwn yn fater i Gynrychiolwyr Cwrs! Dilynwch y canllawiau i ganfod y ffordd orau o ymdrin â’r mater hwn.


A fydd siarad gyda’r aelod staff sydd wrth graidd y broblem yma’n helpu i’w datrys?

Bydd Y broblem wedi’i datrys – da iawn chi!

Nodyn: Gall siarad gyda’r aelod staff neu dîm sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r broblem yn aml fod y ffordd hawsaf a chyflymaf i ddatrys mater, ond os yw’r mater yn sensitif ac y gallai achosi tramgwydd i’r aelod staff, gallwch ddewis siarad â rhywun arall.

Na fydd

A fydd siarad gyda’r Pennaeth Ysgol neu Uwch Diwtor am y mater yn helpu i’w datrys? Nodyn: Siarad gyda Phennaeth yr Ysgol yw’r ateb gorau o ran datrys materion a all fod yn sensitif neu greu tramgwydd yn gyhoeddus. Fodd bynnag, os nad yw’r mater yn un personol ac yr hoffech i’r holl staff fod yn ymwybodol ohono, efallai yr hoffech ddisgwyl tan y cyfarfod nesaf.

Bydd

Na fydd

Y broblem wedi’i datrys – da iawn chi!

Gall Y broblem wedi’i datrys – da iawn chi!

A all y mater gael ei ddatrys yn eich cyfarfod Staff-Myfyrwyr nesaf. Nodyn: Os oes mater sensitif wedi mynd o ddrwg i waeth ac nad yw’n briodol ar gyfer cyfarfod staff-myfyrwyr, neu eich bod wedi codi mater mewn cyfarfod staff-myfyrwyr ac nad yw wedi’i ddatrys o hyd, gallwch gysylltu â Shôn yn Undeb y Myfyrwyr. Cysylltwch â Shôn Prebble yn Undeb y Myfyrwyr -

Na all

shon.prebble@myfyrwyrbangor.com

01248 388019

15


Cyfarfodydd ysgol Gall Cyfarfodydd Pwyllgorau Cyswllt Staff-Myfyrwyr fod ag enwau gwahanol mewn gwahanol ysgolion (cyfarfodydd staffmyfyrwyr, cyfarfodydd ysgol, cyfarfodydd cynrychiolwyr cwrs etc.) ond dylai fod ganddynt bob amser y nodweddion canlynol: - dylai dau gyfarfod gael eu cynnal pob semester - dylai pob Cynrychiolydd Cwrs dderbyn gwahoddiad a bod yn bresennol. - dylai fod lleiafswm o dri aelod staff yn bresennol ym mhob cyfarfod. - dylent ffocysu ar y materion ac adborth a godir gan y Cynrychiolwyr Cwrs. - dylai aelod o staff gymryd cofnodion a’u cylchu i bob Cynrychiolydd Cwrs yn dilyn y cyfarfod.

Mae Cyfarfodydd Byrddau Astudio’n cael eu cynnal ym mhob ysgol, ac er nad yw’n ofyniad o’ch swyddogaeth, bydd llawer o ysgolion yn gwahodd un neu fwy o Gynrychiolwyr Cwrs i fod yn bresennol. Mae i fyny i chi p’un ai eich bod yn mynd ai peidio! Mae’r cyfarfodydd yma’n wahanol i’r Pwyllgorau Cyswllt mewn amryw o wahanol ffyrdd: - maent yn tueddu i fod yn fwy ffurfiol. - mae penderfyniadau ysgol pwysig yn aml yn cael eu gwneud yno. - gall amser penodol gael ei bennu i fyfyrwyr godi materion, yn hytrach na bod yn ganolbwynt i’r cyfarfod. - gall fod yna rai eitemau agenda a neilltuir tan ddiwedd y cyfarfod, a gofynnir i fyfyrwyr adael cyn eu trafod.


Beth fydd yn digwydd mewn cyfarfod nodweddiadol? Yn nodweddiadol, bydd y cyfarfodydd hyn yn dechrau gyda’r Cadeirydd yn cyhoeddi ymddiheuriadau’r aelodau nad ydynt yn bresennol. Yna bydd y grŵp yn bwrw golwg dros gofnodion y cyfarfod blaenorol i weld a oes unrhyw faterion yn codi. Yna bydd y Cadeirydd yn mynd drwy eitemau’r agenda yn unigol, gan adael amser ar gyfer trafodaeth ac yna bennu pa aelodau staff neu Gynrychiolwyr Cwrs a fydd yn gyfrifol am bwyntiau gweithredu i ddatrys unrhyw broblemau. Yn olaf bydd y Cadeirydd yn gofyn am Unrhyw Fusnes Arall (UFA) a dyma pryd y gellir codi unrhyw faterion sydd angen eu trafod nad oeddynt ar y prif agenda. Bydd y cyfarfod yn gorffen drwy osod neu gadarnhau dyddiad y cyfarfod nesaf. Cyfarfodydd - Rhestr Termau UFA - ‘unrhyw fusnes arall,’ yr adeg i godi unrhyw faterion nad oeddynt ar yr agenda. Pwynt gweithredu – pan fo person yn cytuno i wneud rhywbeth erbyn amser neilltuol, a gofnodir yn y cofnodion fel pwynt gweithredu. Agenda – y ddogfen sy’n disgrifio trefn trafod pwyntiau. Eitem Agenda – pwynt penodol yn agenda’r cyfarfod sydd angen ei drafod. Cadeirydd – y person sy’n arwain y cyfarfod, gan wneud yn siŵr bod yr holl eitemau ar yr agenda yn cael sylw teg a llawn. (Dylai Pwyllgorau Cyswllt Staff-Myfyrwyr gael eu cyd-cadeirio gan fyfyriwr ac aelod staff). Materion yn Codi – trafodaeth bellach ynghylch unrhyw fater yng nghofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion – cofnod ysgrifenedig o’r trafodaethau, canlyniadau a phwyntiau gweithredu mewn cyfarfod (dylid anfon drafft at bawb sy’n bresennol i’w adolygu cyn i fersiwn terfynol gael ei anfon at bawb a fynychodd ac a wahoddwyd i’r cyfarfod. 17


Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs Trefnir cyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs gan Undeb y Myfyrwyr a byddant yn cael eu cynnal bob semester. Cânt eu cadeirio gan yr Is-Lywydd Addysg a Lles; gwahoddir pob Cynrychiolydd Cwrs a bydd y Cydlynydd Cynrychiolwyr Cwrs yn bresennol. Yn achlysurol, bydd cynrychiolwyr o wasanaethau’r Brifysgol a Swyddogion Sabothol eraill yn mynychu’r cyfarfodydd am gyfnod byr i roi gwybodaeth ar faterion penodol a chael eich adborth. Diben cyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs - Gall Cynrychiolwyr Cwrs o ledled y brifysgol gwrdd â’i gilydd i rannu arfer gorau a thrafod materion sy’n cael effaith ar fyfyrwyr ar eu cwrs. - Gall Undeb y Myfyrwyr glustnodi materion sy’n effeithio ar fyfyrwyr ledled y Brifysgol a gwrando ar eich barn ynghylch sut y dylid ymdrin â nhw. - Caiff adrannau allweddol o’r brifysgol (Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth, Gwasanaethau Llyfrgell, Gwasanaethau Cefnogi etc.) y cyfle i fynychu cyfarfodydd a derbyn eich adborth ar sut mae eu cefnogaeth yn effeithio ar brofiad academaidd myfyrwyr, ac fe gewch chithau fewnbwn i sut y bydd y gwasanaethau hyn yn datblygu. Caiff dyddiadau cyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs eu hanfon atoch drwy e-bost cynted â bod Undeb y Myfyrwyr yn derbyn eich manylion. Er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn yr e-bost, atgoffwch eich cyswllt ar staff yr ysgol i anfon manylion pob Cynrychiolydd Cwrs drwy e-bost at Michelle, y Cydlynydd Cynrychiolwyr Cwrs. Bydd dyddiadau’r cyfarfodydd yma hefyd ar fodiwl Blackboard y Cynrychiolwyr Cwrs ac ar-lein : www.myfyrwyrbangor.com/cynrychiolwyrcwrs


EICH UNDEB MYFYRWYR ...caiff ei redeg gan 5 Swyddog Sabothol sy’n fyfyrwyr; cânt eu hethol gan eu cyd fyfyrwyr i gymryd blwyddyn o’u hastudiaethau academaidd i redeg eich Undeb Myfyrwyr.

Mae sicrhau fod gan Brifysgol Bangor Drefn Cynrychiolwyr Cwrs effeithiol yn un o’r pethau mae Undeb y Myfyrwyr yn ei wneud i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynrychioli ym mhob agwedd o fywyd Prifysgol. Am fwy o wybodaeth, ewch at www.myfyrwyrbangor.com

neu...

galwch heibio i ddweud helo.

Gwn EIN eu PWR dy PAS n e yn i : s ca ch l iwr el b l ei ais od gl ywe d

19


Cynghorion pwysig Cyfarfodydd…

Mae cyfarfodydd y pwyllgorau cyswllt staff-myfyrwyr yn cael eu rhedeg gyda myfyrwyr mewn golwg, felly maent yn debygol o fod yn llai ffurfiol na chyfarfodydd pwyllgor eraill y Brifysgol (cyfarfodydd Byrddau Astudio er enghraifft). Fodd bynnag, mae yna dal rai pethau y dylid eu cofio wrth fynychu’r cyfarfodydd hyn.

Cyn cyfarfod - siaradwch gyda’ch cyd fyfyrwyr i dderbyn adborth (da a drwg) am eu profiad academaidd.

Cwrs, gwnewch nodiadau ar yr hyn yr hoffech ei gyflawni yn y cyfarfod.

- gwnewch nodyn o unrhyw faterion penodol sydd angen mynd i’r afael â nhw yn y cyfarfod a gwnewch gais iddynt gael eu cynnwys ar yr agenda (drwy gysylltu â chadeirydd neu ysgrifennydd y cyfarfod.)

- casglwch dystiolaeth i gefnogi eich dadleuon: e-byst, arolygon, deisebau myfyrwyr, sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol, adroddiadau etc. a phrintiwch grynodebau o dystiolaeth i’w cylchu mewn cyfarfodydd, os oes angen.

- siaradwch â Chynrychiolwyr Cwrs eraill yn eich ysgol i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pa faterion maent eisiau eu codi, a gadewch iddyn nhw wybod am y materion rydych chi wedi dod ar eu traws.

- darllenwch a phrintiwch y cofnodion blaenorol, unrhyw dystiolaeth sydd gennych a nodyn ysgrifenedig o’r hyn rydych eisiau ei ddweud.

- gan weithio ar ben eich hun neu gyda’ch cyd Gynrychiolwyr

- gwnewch gynllun o’r holl bethau rydych am eu dweud mewn cyfarfod a’r dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich pwyntiau.


Gwnewch yn siwr o gyrraedd 5 Cymerwch gopi o’r munud yn gynnar i ymgynefino, cofnodion blaenorol, ffeindiwch sedd dda a chael unrhyw dystiolaeth sgwrs gyffredinol gyda’r bobl sydd gennych a nodyn eraill sydd yno ysgrifenedig o’r hyn rydych Ceisiwch eistedd gyferbyn am ei ddweud â’r Cadeirydd ac yng Rhowch adborth cadarnhaol yn ogystal ngwmni’r Cynrychiolwyr â negyddol a gwnewch y siwr bod eich Cwrs eraill – bydd hyn yn beirniadaeth yn adeiladol drwy aros yn ffeithiol rhoi mwy o gyfle i chi siac awgrymu ffyrdd o ddatrys problemau arad ac yn rhoi hyder i chi Ceisiwch fod yn amyneddgar a pheidio â chyffroi ac ymateb yn emosiynol – bydd hyn yn gwneud i chi ymddangos yn fwy cyfrifol a chredadwy.

Yn ystod cyfarfod Rydych yno i gynrychioli myfyrwyr, nid chi eich hun! Defnyddiwch ‘Mae myfyrwyr yn credu...’ yn hytrach na ‘Rwy’n credu...’

Ceisiwch beidio â gwneud sylwadau ynghylch aelodau unigol o’r staff na myfyrwyr unigol – dadleuwch y pwynt ac unrhyw benderfyniadau a wnaed!

Cymerwch eich nodiadau eich hun drwy gydol y cyfarfod, gan gofnodi’r prif bwyntiau a godir, diweddariadau, pwyntiau gweithredu ac unrhyw benderfyniadau a wnaed.

Yn dilyn cyfarfod Rhowch drefn ar eich nodiadau’n fuan ar ôl y cyfarfod i osgoi anghofio unrhyw fanylion Cwblhewch unrhyw bwyntiau gweithredu y gwnaethoch gytuno arnynt, siaradwch gyda Chynrychiolwyr Cwrs eraill am y cyfarfod a gwnewch yn siŵr o fonitro’r cynnydd ar wahanol faterion

Darllenwch drwy’r cofnodion swyddogol i wneud yn siŵr eu bod y gywir, ac awgrymwch newidiadau os oes eu hangen Adroddwch yn ôl i fyfyrwyr ar yr hyn a ddigwyddodd yn y cyfarfod (cylchwch y cofnodion) a thrafodwch gynnydd gyda nhw fel mae’n datblygu 21


Cynghorion pwysig (parhad) Ymgysylltu â chyd fyfyrwyr… Mae’n bwysig iawn eich bod yn siarad â’ch cyd fyfyrwyr gymaint â phosib ynghylch materion academaidd: - mae’n helpu’r ysgolion i ddeall pa anawsterau mae myfyrwyr yn eu hwynebu - mae’n helpu ysgolion i ddatrys materion mewn ffordd sy’n dderbyniol i fyfyrwyr - mae’n sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod fod eu safbwynt yn cael ei werthfawrogi - mae’n sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybod am ymdrechion eu hysgol i wella eu profiad academaidd - mae’n sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn ymwybodol o’r anawsterau mae myfyrwyr yn eu hwynebu Mae yna dri phrif faes y gallwch ffocysu arnynt i ymgysylltu â myfyrwyr:

Gwnewch eich hun yn hysbys i bawb Ni all myfyrwyr siarad gyda chi oni bai eu bod yn gwybod ble i ddod o hyd i chi! Mae yna ddigonedd o ffyrdd i wneud eich hun yn hysbys:

Gwnewch gyhoeddiad mewn darlithiau – cyflwynwch eich hun ar ddechrau darlithiau mae eich cyd fyfyrwyr yn eu mynychu. Anfonwch e-bost grwp – bydd eich ysgol yn eich helpu i anfon e-bost at bob myfyriwr sydd dan eich cyfrifoldeb Sefydlwch hysbysfwrdd Cynrychiolwyr Cwrs - dylai eich ysgol fod yn hapus i ddarparu gofod i arddangos ffotograffau ohonoch a manylion cyswllt. Dechreuwch grwp Cyfryngau Cymdeithasol – ond gwnewch yn siwr ei fod drwy wahoddiad yn unig ac mai dim ond drwy negeseuon preifat y caiff myfyrwyr adael i chi wybod am eu pryderon. Trefnwch gyfarfod cwrdd a chyfarch - trefnwch amser a lle pan gall myfyrwyr ddod i ddweud helo, boed hynny yn yr ysgol, yn y parc neu mewn tafarn!


Hel barn myfyrwyr

Yn ogystal â myfyrwyr yn chwilio amdanoch chi i’ch hysbysu am bryderon, gallwch chi: Anfon e-byst rheolaidd cyn cyfarfodydd - efallai y gwnaiff e-bost berswadio rhywun i drafod mater gyda chi. Anfonwch negeseuon drwy gyfryngau cymdeithasol - parhewch i wahodd pobl i siarad gyda chi; bydd rhai myfyrwyr angen anogaeth! Sefydlwch flwch adborth dienw – mae’n bosib bydd rhai myfyrwyr yn rhy swil i siarad gyda chi ond dal eisiau cynnig eu hadborth. Lluniwch arolygon a holiaduron – os oes yna fater sy’n codi yn eich ysgol, mae gennych lawer gwell siawns o gael yr ysgol i weithredu os oes gennych dystiolaeth i gefnogi eich honiad. Dadansoddwch ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr ac ystadegau am farn myfyrwyr – bydd Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr ac arolygon myfyrwyr eraill yn rhoi syniad da i chi o’r meysydd mae angen i’ch ysgol ffocysu arnynt, a gallai gynnig themâu i chi hel barn myfyrwyr yn eu cylch.

Adborth yn ôl i fyfyrwyr Yn ogystal â gadael i’ch ysgol ac UM wybod beth mae myfyrwyr yn ei feddwl, mae’r un mor bwysig i adael i fyfyrwyr wybod sut mae UM a’r Brifysgol yn gweithredu. Rhowch adborth yn dilyn cyfarfodydd – rhowch drosolwg o sut mae’r cyfarfodydd yn mynd a chylchwch y cofnodion pan eu bod wedi’u cwblhau, gan ofyn i fyfyrwyr beth oeddynt yn meddwl o’r cyfarfod. Cylchwch y newyddion diweddaraf ar gynnydd – pan fo eich ysgol, y Brifysgol neu Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu ar fater, gadewch i’r myfyrwyr wybod amdano er mwyn iddyn nhw weld bod eu safbwynt yn cael ei gymryd o ddifrif. Pasiwch wybodaeth bwysig ymlaen – os wnewch chi glywed am newidiadau sydd ar droed, gadewch i fyfyrwyr wybod am hynny. Mewn cyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs efallai y clywch ddiweddariadau gan wasanaethau allweddol yn y Brifysgol fel TG, Gwasanaethau Llyfrgell a’r Gofrestrfa Academaidd; ceisiwch gylchu cymaint o wybodaeth â phosib i’ch cyd fyfyrwyr.

23


Hyfforddi a chyfleoedd Hyfforddiant Sylfaenol:

Pryd? Sawl dyddiad drwy fis Hydref a Thachwedd, gyda sesiynau’n para 2 awr a hanner (awr a hanner i gynrychiolwyr sy’n dychwelyd i’r gwaith). Pwy? Bydd yna sesiynau hyfforddi ar gyfer pob Cynrychiolydd Cwrs, gan gynnwys y rheiny sy’n newydd i’r swydd a’r rheiny sy’n dychwelyd. beth? Bydd yr hyfforddiant yn cyflwyno’r holl wybodaeth rydych ei angen i fod yn Gynrychiolydd Cwrs yn ogystal â rhoi profiad ymarferol i chi o fynychu cyfarfodydd ac ymdrin â materion academaidd myfyrwyr. Bydd y rheiny sy’n dychwelyd yn edrych ar ffyrdd o fod yn rhagweithiol a gwella fel Cynrychiolwyr Cwrs. NOdyn: Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn mynychu’r hyfforddiant hwn ac mae’n orfodol i fynychu sesiwn os ydych am hawlio pwyntiau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor am fod yn Gynrychiolydd Cwrs (ac eithrio cynrychiolwyr sy’n dychwelyd sydd eisoes wedi derbyn hyfforddiant).

Hyfforddiant pellach: Bydd sawl sesiwn yn cael eu cynnig gan Undeb y Myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn, a byddant yn eich helpu chi i ddatblygu’r sgiliau hynny y byddwch yn eu defnyddio fel Cynrychiolwyr Cwrs. Gall meysydd hyfforddi nodweddiadol gynnwys: - Sgiliau uwch ar gyfer cyfarfodydd - Creu ymgyrchoedd ar sail tystiolaeth - Sgiliau Negydu - Hyrwyddo eich hun i fyfyrwyr - Trosglwyddo sgiliau ar gyfer cyflogaeth Am restr lawn o sesiynau a dyddiadau hyfforddi, mewngofnodwch i’r modiwl Blackboard Cynrychiolwyr Cwrs, ewch at www.myfyrwyrbangor.com/cynrychiolwyrcwrs neu cysylltwch â Michelle (michelle.hamlet@myfyrwyrbangor.com).


Cyfleoedd ysgol:

Mae Cynrychiolwyr Cwrs yn bwysig iawn i’r ysgolion, gan eu bod yn helpu staff i ddeall anghenion a barn myfyrwyr yn well, ac maent yn rhan hanfodol o’r broses barhaus o wella’r profiad myfyrwyr. Felly, gall ysgolion gynnig nifer o gyfleoedd i’w Cynrychiolwyr Cwrs gymryd rhan mewn digwyddiadau ysgol fel cyfarfodydd Byrddau Astudio, Pwyllgorau Dysgu ac Addysgu a gweithgareddau eraill. Os oes gennych ddiddordeb, siaradwch gyda chyswllt Cynrychiolwyr Cwrs eich ysgol (mae rhestr lawn ar gael ar www.myfyrwyrbangor.com/cynrychiolwyrcwrs). Helpwch UM i ysgrifennu Astudiaethau Achos ynghylch sut beth yw bod yn Gynrychiolydd Cwrs, sut mae Cynrychiolwyr Cwrs yn effeithiol a beth mae bod yn Gynrychiolydd Cwrs wedi’i gynnig i chi.

Helpwch ysgrifennu ‘prosbectws amgen’ ar gyfer Prifysgol Bangor - wedi’i ysgrifennu gan fyfyrwyr ar gyfer darpar fyfyrwyr i adael iddyn nhw wybod sut brofiad yw bod yn fyfyriwr ym Mangor.

Cyfleoedd Undeb y Myfyrwyr: Cymerwch y cyfle i fod yn Seneddwr Gweithgaredd Undeb y Myfyrwyr – rydym angen dau Gynrychiolydd Cwrs pob blwyddyn i gynrychioli’r holl Gynrychiolwyr Cwrs yn Senedd UM.

Cymerwch ran mewn grwpiau ffocws i helpu Undeb y Myfyrwyr ddeall barn myfyrwyr yn well yn ogystal â sut y gallwn wella’r Drefn Cynrychiolwyr Cwrs.

CynrychiolwyrCwrs+ Bydd bod yn Gynrychiolydd Cwrs yn ehangu a gwella eich sgiliau, yn gwella eich dealltwriaeth o ddemocratiaeth, prifysgolion ac undebau myfyrwyr, yn ogystal â chynnig profiadau rhagorol i chi. Er mwyn clustnodi’r holl ffyrdd rydych wedi cael budd yn ogystal â dweud wrthym sut y gallai eich profiad wedi bod yn well, rydym yn darparu teclyn hunan werthuso ar-lein ar eich cyfer - CynrychiolwyrCwrs+, Darperir manylion am Cynrychiolwyr Cwrs+ tua diwedd Semester 2 pob blwyddyn. 25


Dathlu eich llwyddiant Gallwch hawlio eich pwyntiau profiad at eich Gwobr Cyflogadwyedd Bangor am fod yn Gynrychiolydd Cwrs a chymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau Cynrychiolydd Cwrs. - 5 pwynt am fynychu hyfforddiant Cynrychiolwyr Cwrs (pob blwyddyn academaidd) - 5 pwynt y semester am fod yn Gynrychiolydd Cwrs (rhaid i chi fynd i gyfarfodydd ysgol a mynychu o leiaf un cyfarfod Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs i fod yn gymwys) - 5 pwynt am bob cwrs hyfforddi Cynrychiolwyr Cwrs ychwanegol rydych yn eu mynychu - 5 pwynt am gwblhau’r CynrychiolwyrCwrs+, eich teclyn hunan werthuso ar-lein

Sut i hawlio eich pwyntiau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor Bydd y Cydlynydd Cynrychiolwyr Cwrs yn cadw cofnod o bwy sy’n mynychu cyfarfodydd ysgolion a Chyngor y Cynrychiolwyr Cwrs ac yn gadael i’r tîm wybod i bwy y dylid dyfarnu pwyntiau. Gyda phob hyfforddiant Cynrychiolwyr Cwrs, byddwch yn derbyn gwybodaeth bellach ar y dydd, a gyda CynrychiolwyrCwrs+ , byddwch yn cyflwyno eich tasg arlein i gynhyrchu pwyntiau.

Eisiau mwy o wybodaeth am GCB?

www.facebook.com/ BangorEmployabilityAward Cysylltwch â thîm Cyflogadwyedd Bangor: employability@bangor.ac.uk 01248 368732


Noson Wobrwyo’r Cynrychiolwyr Cwrs – Bydd pob Cynrychiolydd Cwrs yn derbyn tystysgrif i gofnodi eu hymroddiad gwirfoddol dros bob blwyddyn academaidd. Byddant hefyd yn cael y cyfle i fynychu Noson Wobrwyo’r Cynrychiolwyr Cwrs; noson o ddathlu a drefnir ar y cyd gyda Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol Bangor tua diwedd semester 2 bob blwyddyn academaidd.

Gwobr Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn – Bob blwyddyn bydd eich Undeb Myfyrwyr yn siarad gyda myfyrwyr ym Mangor i gael gwybod sut effaith mae Cynrychiolwyr Cwrs yn ei gael ar eu profiad academaidd ac i gael gwybod am y gwahanol ffyrdd y mae Cynrychiolwyr Cwrs wedi cerdded y filltir ychwanegol. Byddwn hefyd yn gwahodd myfyrwyr i enwebu eu Cynrychiolwyr Cwrs ar gyfer Gwobr Cynrychiolydd Cwrs y flwyddyn, os ydynt yn teimlo bod eu Cynrychiolydd Cwrs yn ei haeddu! Bydd y Cynrychiolwyr Cwrs buddugol yn cael cyflwyno eu gwobrau yn y Noson Wobrwyo Cynrychiolwyr Cwrs, yn ogystal â chael eu gwahodd am gyfweliad ynghylch eu teimladau am ennill y wobr.

Sut allwch chi gymryd rhan? Yn gyntaf, gwnewch yn siwr eich bod yn gwneud eich gwaith yn dda!

Yna, pan fyddwch yn derbyn gwybodaeth am y broses enwebu yn semester 2, cylchwch y wybodaeth i’ch cyd fyfyrwyr fel eu bod yn gwybod sut i’ch enwebu chi. Mae’r gweddill i fyny iddyn nhw – pob lwc! 27


Rhestr Gyswllt undeb myfyrwyr:

Y Tîm Cynrychiolwyr Cwrs (Uned Cynrychiolaeth Academaidd)

cynrychiolwyrcwrs@undebmyfyrwyr.com 01248 383651

Michelle Hamlet Cydlynydd Cynrhychiolwyr Cwrs michelle.hamlet@undebmyfyrwyr.com 01248 383651 Nightline nightline@undebmyfyrwyr.com

01248 362121

Shôn Prebble shon.prebble@undebmyfyrwyr.com

Is Lywydd Addysg a Lles 01248 388019

prifysgol Bangor: Gwobr Cyflogadwyedd Bangor employability@bangor.ac.uk

01248368732

Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

01248 382071

careers@bangor.ac.uk Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr studentservices@bangor.ac.uk

01248 382024

Ysgolion Academaidd Mae pob ysgol academaidd ag aelod staff wedi’i ddewis y gallwch gysylltu â nhw i gael gwybod am weithgareddau Cynrychiolwyr Cwrs o fewn eich ysgol neu i gael ateb i unrhyw ymholiadau sydd gennych. I gael gwybod pwy yw cyswllt eich ysgol, ewch at: www.myfyrwyrbangor.com/cynrychiolwyrcwrs

Mae’r llawlyfr hwn ar gael yn Saesneg: www.bangorstudents.com/coursereps


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.