Adroddiad Effaith a Chynllun Strategol

Page 1

Ni yw Undeb Myfyrwyr Bangor

Adroddiad Effaith (2010-2012) a Chynllun Strategol (2012-2014)


Rydym wedi bod yn gweithio’n galed dros y ddwy flynedd ddiwethaf... ...yn gweithio ar eich rhan chi, i wneud eich bywyd yn y Brifysgol yn well. Mae’r adroddiad effaith, y cyntaf o’i fath gan Undeb Myfyrwyr Bangor, wedi’i gynllunio i roi darlun eglur iawn i chi o’r holl ffyrdd y mae’r gwaith rydym yn ei wneud drosoch chi yn gwneud gwahaniaeth. Mae wedi bod yn gwpl o flynyddoedd rhyfedd i fyfyrwyr, yn y Brifysgol hon a ledled gwledydd Prydain ac rydym i gyd wedi cael ein dal mewn cyfnod o newid digynsail. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol ar nifer o faterion o bwys mawr i chi, ond nid dim ond ymateb i newid oeddem ni, rydym wedi bod yn cynllunio ar gyfer y dyfodol hefyd. Yn dilyn yr Adroddiad Effaith yma fe welwch ein Cynllun Strategol newydd sbon, cynllun rydym wedi’i ddatblygu i wneud eich undeb yn well. Rwyf wrth fy modd o wybod ei fod yn mynd i gael ei weithredu a braidd yn genfigennus o’m holynwyr a fydd yn ei roi ar waith! Ni allwn fod yn fwy balch o gyflwyno’r Adroddiad Effaith a Chynllun Strategol swmpus hwn. Diolch yn fawr i’r holl bobl hynny sydd wedi gwneud i bethau ddigwydd yma. Rydych chi’n gwybod pwy ydych chi. Jo Caulfield,

Jo Caulfield

Llywydd 2010 - 2012

Danielle Buckley

IL Addysg a Lles 2010 - 2012

Danielle Giles

IL Chwaraeon a Byw’n Iach 2010 - 2012

Rich Gorman IL Cymdeithasau a’r Gymuned 2010 - 2012

Mair Rowlands

Matt Ison

Llywydd UMCB 2010 - 2012

IL Cysylltiadau a Digwyddiadau 2010 - 2011

Sharyn Williams

IL Materion Cymreig 2010 - 2011


Pnawniau

Mercher Rhydd

Mae sicrhau pnawniau Mercher rhydd wedi bod yn nod i lawer i dîm o swyddogion sabothol dros amryw o flynyddoedd, ac yn hyn o beth nid oeddem yn wahanol. Yn 2010/11 fe wnaethom ei wneud yn flaenoriaeth ymgyrchu i ryddhau pnawniau Mercher drwy gynnal deiseb (a chael llofnodion dros 3,000 arni!) ac ymgyrch posteri gweledol iawn oedd yn cynnwys dwsinau o fyfyrwyr o bob rhan o Fangor. Hyn i gyd wedi’i gyfuno ag ymdrech o ddifrif i lobïo tîm rheoli’r brifysgol a ddaeth a llwyddiant i ni ac erbyn hyn mae gan 98% o fyfyrwyr bnawniau Mercher yn rhydd o waith academaidd. Erbyn i adeilad Pontio gael ei gwblhau bydd y darlithfeydd ychwanegol yn troi’r ffigwr hwn yn 100%. Mae’n gyrhaeddiad rydym yn hynod o falch ohono.


O 2012/13 ymlaen bydd ein holl glybiau a chymdeithasau yn rhad ac am ddim i ymaelodi â nhw. Go iawn!

Pan benderfynodd y brifysgol godi ffioedd i £9,000 roeddem am sicrhau mwy o’r arian hwnnw ar eich cyfer chi. Roedd ein syniad yn un syml: cynyddu cyllid Undeb y Myfyrwyr fel na fo angen i’n clybiau a chymdeithasau godi ffi aelodaeth. Fel yna, gall ein clybiau a chymdeithasau gael eu cyllido’n well ac mae ffioedd myfyrwyr yn mynd ymhellach. Fe wnaethom gyflwyno ein dadleuon ac fe gytunodd y brifysgol ac felly o flwyddyn nesaf ymlaen bydd pob clwb a chymdeithas Undeb y Myfyrwyr yn rhad ac am ddim i’n holl fyfyrwyr ymaelodi â nhw.


Caru Bangor, Casáu’r Toriadau Yn 2010/11 fe aethom â 250 o fyfyrwyr i Lundain i wrthdystio yn erbyn y cynnydd mewn ffioedd a thoriadau i addysg uwch; roedd yn ddiwrnod rhagorol ac roedd ymddygiad ein myfyrwyr yn destun balchder i’r undeb hwn. Yn anffodus fe gododd ffioedd ac fe aeth cyllidebau prifysgolion i lawr ac o ganlyniad i hynny roedd ein hundeb yn wynebu toriadau o £75,000 ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Fe wnaethom lobïo’n galed yn erbyn hyn i amddiffyn ein cyllid ar gyfer gweithgareddau sydd wedi’u harwain gan fyfyrwyr – rhoi ein hachos gerbron ac ennill. Nid yn unig wnaethon ni ddiogelu ein hunain rhag cwtogiad yn ein cyllideb, fe wnaethom lwyddo i ennill ymron i hanner miliwn mewn cyllido ychwanegol o gynllun ffioedd y brifysgol (mwy am hwnnw i ddilyn). Ddim yn ddrwg, nac ydy?

Grwpiau Rhyddid a Dim Goddefgarwch i Wahaniaethu

Rydym yn falch o fod yn Undeb Myfyrwyr sy’n rhoi blaenoriaeth i feysydd rhyddid ac amrywioldeb ac eleni rydym wedi treulio llawer o amser ar ein polisi Dim Goddefgarwch. Nid yn unig mae safiad clir gan eich Undeb Myfyrwyr ar faterion sydd ynghlwm â chydraddoldeb, ond rydym wedi gwneud yn siŵr bod Academi yn adlewyrchu ein gwerthoedd. Mae ein Hundeb hefyd wedi cynnal dwy orymdaith Adennill y Nos lwyddiannus ac fe gomisiynwyd ein harolwg diogelwch yn y gymuned cyntaf erioed diolch i’n Cymdeithas Merched. Yn ychwanegol at hynny, roeddem yn falch iawn eleni o fod yr undeb cyntaf yng Nghymru i gynnal noson Caru Cerddoriaeth, Casáu Homoffobia diolch i waith caled ein hactifyddion rhagorol.


Cynrychiolwyr Myfyrwyr Rhoi Llais i Chi

Mae gwneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed ar bob lefel o’r brifysgol wedi bod yn flaenoriaeth enfawr i ni am y ddwy flynedd ddiwethaf. Pan wnaethom ni ddechrau yn ein swyddi dim ond 25 o gynrychiolwyr cwrs oedd yna drwy’r brifysgol; mewn dwy flynedd fe wnaethom gynyddu’r nifer yma i 300 ac rydym wedi sefydlu trefn cynrychiolwyr cwrs na all ond ehangu a gwella.

Buddsoddi mewn gwirfoddoli Eleni rydym wedi gwneud buddsoddi mewn gwirfoddoli yn flaenoriaeth drefniadol, a diolch i’n lobïo, o flwyddyn nesaf ymlaen bydd y Brifysgol yn cyllido dau aelod newydd o staff ar gyfer ein hadran wirfoddoli. Ynghyd â hynny, rydym wedi sicrhau £100,000 i ehangu a datblygu mwy o gyfleoedd gwirfoddoli ar eich cyfer, ac mae’n destun cynnwrf i ni weld hyn yn digwydd.


Fe gyrhaeddodd eich clwb nos... o’r diwedd.

Ydych chi’n cofio pan nad oedd gennych chi glwb nos? Roedd hynny’n sefyllfa warthus. Fe wnaeth y Brifysgol ddymchwel ein Hundeb Myfyrwyr ym mis Mai 2010 ac nid oedd ganddynt unrhyw gynlluniau i roi cartref newydd i glwb Amser nac Academi dros y flwyddyn academaidd ganlynol. Dydy “annerbyniol” ddim yn dod yn agos ati. Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf fe wnaethom dreulio llawer o amser yn dadlau ein hachos, yn craffu ar gyllidebau, yn lobïo ar gyfer y gorau y gallem ei gael ac yn y pendraw, ym mis Medi 2011, agorwyd drysau Academi Bangor. Rydym yn dal i gredu fod gan y clwb dipyn o waith gwella ac mae’r tîm sy’n rhedeg y lle yn datblygu syniadau ffres ar gyfer blwyddyn nesaf, ond roedd hi’n destun balchder a gollyngdod mawr i ni pan agorwyd drysau’r clwb o’r diwedd.

Rydym yn caru’r amgylchedd Dros y 2 flynedd ddiwethaf rydym wedi ennill 5 gwobr genedlaethol am ein gwaith amgylcheddol. Eleni, fe’n dyfarnwyd yn Undeb Myfyrwyr y Flwyddyn (anfasnachol) 2012 yng Ngwobrau Effaith Gwyrdd UCM, cyrhaeddiad rydym yn falch iawn ohono.


Ein gwaith yn y gymuned Dros y 2 flynedd ddiwethaf, rydym wedi gwneud llwyth o waith yn y gymuned leol. Fe wnaethom drefnu Diwrnod Canoloesol ym Miwmares, cymryd rhan flaenllaw yng Ngŵyl Gwledd Conwy a chreu ein Gŵyl Theatr y Cyrion Bangor ein hunain: dathliad o’r holl celfyddydau perfformio. Hyn oll, ar ben y gwaith rhagorol mae ein gwirfoddolwyr yn ei wneud yn rheolaidd.

Eich Llyfrgell Chi, Ein Lobïo Ni

Rydym wedi rhoi pwysau ar y brifysgol dro ar ôl tro ynghylch y mater ac wedi gwneud cynnydd rydym yn falch o adrodd amdano. Un mater o bwys oedd yr oriau agor dros yr haf i fyfyrwyr ôl-radd sydd angen yr adnodd pwysig hwn drwy’r flwyddyn. Fe wnaethom lobïo’r Brifysgol ynghylch hyn ac roeddem yn llwyddiannus o ran ennill estyniad i’r oriau llyfrgell dros yr haf. Rydym hefyd wedi gwneud cynnydd yn sefydlu egwyddor o ran lleiafswm y nifer o lyfrau testun craidd i’r llyfrgell, cymhareb a fydd yn cael ei chyflwyno gan y Brifysgol flwyddyn nesaf.


Cynllun We areStrategol Bangor Students’ Union Undeb Myfyrwyr Bangor 2012 - 2014


Mae’n bur amlwg bod Undeb y Myfyrwyr mewn cyfnod o drawsnewid wrth i bawb ddisgwyl symud i’n cartref newydd, adeilad Pontio. Mewn cyfres o weithgareddau a gynhaliwyd rhwng Mehefin 2011 ac Ionawr 2012 fe wnaethom ofyn am eich barn chi am eich Undeb y Myfyrwyr. Fe gofnodwyd pob ymateb, hyd yn oed y rhai distawaf, ac aed ati i ystyried sut y gellid gwneud yn siŵr fod gennych chi Undeb y Myfyrwyr i fod yn falch ohono. Amlinellir canlyniadau’r ystyriaeth honno yn y ddogfen hon. Dyma ein haddewid ni i chi. Jo Caulfield, Llywydd UM 2010-2012


Gyda’n gilydd, Byddwn yn gweithio i gyfoethogi a gwella eich profiad fel myfyrIwr. Ein Datganiad o Genhadaeth


Ymatebodd gormod o bobl nad oeddynt yn gwybod beth oedd diben Undeb y Myfyrwyr, neu eu bod yn teimlo nad oedd yn bodoli ar eu cyfer nhw. Rydym yma i’ch cefnogi chi i gyd, drwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Bangor. Er mwyn sicrhau newidiadau ar eich rhan, er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn derbyn y gwasanaethau gorau ac yn cael mynediad at y cyfleoedd gorau ac i sicrhau nad oes yna unrhyw rwystrau rhag i chi gyflawni eich potensial. Beth bynnag yw eich sefyllfa, blaenoriaethau neu ddiddordebau rydym eisiau i chi fod wrth eich bodd drwy’ch holl gyfnod ym Mangor.


Datganiad o Weledigaeth:

Erbyn Mehefin 2015, byddwn yn gallu dangos yn eglur i chi, ein haelodaeth, a rhanddeiliaid eraill, ein bod ni wedi arwain y broses o wella profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor. Byddwn yn gwneud hynny drwy eich cynrychioli drwy gyfrwng ymgyrchu ac eiriolaeth wedi’i seilio ar dystiolaeth; drwy ffocysu ar wella eich darpariaeth academaidd; a thrwy gynnig cyfleoedd allgyrsiol rhagorol i chi.


Ein gwerthoedd

Democratiaeth Atebolrwydd sicrhau mai eich llais chi sy’n ein harwain.

sicrhau bod gennych berthynas agos â’n gwaith

Cydraddoldeb ac Amrywioldeb sicrhau bod gennych gyfle cyfartal a rhyddid rhag camwahaniaethu

Dwyieithrwydd Cynaliadwyedd sicrhau triniaeth gyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg

sirchau parhad ein gweithgareddau a gwneud ymrwymiad i leihau effaith ein mudiad ar yr amgylchedd


nod 1 CYDweithio i greu newid ar faterion lleol a chenedlaethol sy’n effeithio arnoch chi. Fe wnaethoch ddweud wrthym eich bod wedi’i chael yn anodd mynd i’r afael â’n fframweithiau a deall ein prosesau gwneud penderfyniadau. Ein her yw eu gwneud nhw’n fwy perthnasol ac agored er mwyn eich galluogi i deimlo mwy o gysylltiad â’n gwaith.

Byddwn yn defnyddio Byddwn yn sicrhau Byddwn yn ein gwybodaeth, bod ein gweithgareddau gwneud pob arbenigedd a cynrychioli wedi fframweithiau i’ch ymdrech i gael eu hymchwilio, yn galluogi i lunio eich berthnasol ac wedi eu eich barn ac profiad myfyrwyr gwreiddio yn ymateb i ddi. eich hunain. eich profiad.

Byddwn yn datblygu fframweithiau democrataidd hyblyg ac egnïol sy’n annog ymgysylltiad.


nod 2 Adeiladu cymuned ar eich cyfer chi i gyd. Fe wnaethoch ddweud wrthym eich bod am rannu profiadau a syniadau diwylliannol, a theimlo mwy o integreiddiad gyda holl elfennau’r corff myfyrwyr. Fe’i gwnaethoch yn glir hefyd eich bod yn teimlo weithiau nad ydych yn cael eich ystyried pan fo digwyddiadau’n cael eu cynllunio. Byddwn yn eich helpu chi i greu cymuned myfyrwyr yr ydych eisiau bod yn rhan ohoni.

Byddwn yn Byddwn yn Byddwn yn gweithio’n dathlu diwylliant, gwneud eich galed i’ch helpu chi treftadaeth a profiad fel i integreiddio gyda’r delfrydau lleol, myfyriwr yn gymuned leol, yn annog rhanbarthol a rhyngwladol, ac yn dinasyddiaeth dda a chenedlaethol creu canolbwynt phwysleisio’r cyfraniad ac yn hyrwyddo cadarnhaol y gallwch ei ar gyfer cyfnewid digwyddiadau a a chyswllt wneud yn lleol. chyfleoedd. diwylliannol.

Byddwn yn canfod beth yw’r rhwystrau sy’n eich atal rhag cyfranogi o’n gweithgareddau ac yn gweithio’n galed i’w dileu.


nod 3 Gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau er eich budd chi. Fe wnaethoch ddweud wrthym eich bod yn teimlo nad oeddem wedi newid ers tro byd a’n bod ni angen mabwysiadu syniadau a dulliau gweithredu newydd. Byddwn yn fudiad sefydlog sy’n esblygu, mudiad a fydd wedi’i ganolbwyntio ar eich anghenion chi.

Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid allweddol i sicrhau bod effaith ein hadnoddau mor eang a chynaliadwy â phosibl.

Byddwn yn sicrhau sefydlogrwydd ariannol ac yn manteisio ar amrediad o ffynonellau cyllido.

Byddwn yn buddsoddi mewn datblygu ein staff ac yn annog dysgu sgiliau newydd.

Byddwn yn mabwysiadu agwedd o welliant parhaus ac yn gwerthuso’r hyn rydym wedi ei gyflawni’n rheolaidd yn erbyn ein cynlluniau.


nod 4 Ei gwneud yn hawdd i chi ddilyn diddordebau, datblygu sgiliau a chael hwyl.

Yn ôl eich sylwadau, ein clybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli oedd o bell ffordd yr agwedd ar Undeb y Myfyrwyr roeddech yn rhoi mwyaf o werth arni. Mae’r problemau yn y maes yma’n ymwneud ag adnoddau a bod gennych chi’r amser i dreulio ar eich diddordebau. Rydym eisiau i fwy ohonoch chi gymryd rhan a byddwn yn ceisio cael gwared ar rwystrau, a lleoli adnoddau, er mwyn eich helpu chi i gyfranogi.

Byddwn yn Byddwn yn darparu Byddwn Byddwn yn darparu gweithio gyda yn darparu fframwaith i’ch cefnogi fframwaith er mwyn phartneriaid eich cefnogi a’ch digwyddiadau chi a’ch annog i arwain perthnasol i eich cymdeithasau a’ch annog i wirfoddoli, diddorol a clybiau chwaraeon yn sicrhau eich bod a byddwn yn ceisio chyffrous ddiogel, gyda’r nod o yn gwybod sut i cynyddu’r nifer wedi’u creu gynyddu cyfranogiad o drosglwyddo o wirfoddolwyr o yn benodol ar flwyddyn i flwyddyn. eich sgiliau. flwyddyn i flwyddyn. eich cyfer chi.


nod 5 CyfathreBu gyda chi mewn ffordd berthnasol ac effeithiol.

Roeddech yn eglur iawn ynghylch y ffaith nad ydych bob amser yn gwybod pwy ydan ni a beth ydan ni’n ei wneud. Nid ydym wedi bod yn targedu ein cyfathrebu’n effeithiol ac nid yw budd ein gwasanaethau a phrosiectau bob amser yn amlwg. Byddwn yn gweithio i wneud yn siŵr bod ein negeseuon allweddol yn cael proffil uchel, yn hawdd i’w deall ac wedi’u canolbwyntio arnoch chi.

Byddwn yn flaengar yn ein dulliau o gyfathrebu ac yn croesawu’r defnydd o ddulliau a thechnolegau newydd.

Byddwn yn sicrhau eich bod yn derbyn gwybodaeth glir a pherthnasol oddi wrthym.

Byddwn yn cydnabod amrywioldeb ein haelodaeth a byddwn yn hyblyg yn ein dulliau o gyfathrebu.


nod 6 CYNNIG amgylchedd croesawus a bywiog i BAWB OHONOCH.

Roeddech yn feirniadol iawn o’n hadeilad presennol, ac o’n lleoliad a phresenoldeb ar y campws. Byddwn yn defnyddio’r strategaeth hon i newid hynny i gyd...

Bydd ein hamgylcheddau corfforol a haniaethol yn agored ac yn ddefnyddiol i chi.

Bydd diwylliant ein mudiad yn adlewyrchu ein gwerthoedd craidd.

Bydd ein dylanwad, gwerthoedd a’n gwaith yn ymestyn tu allan i’n hadeilad.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.