Prosbectws YDDS Israddedig 2013

Page 67

Dyniaethau Oddi mewn i’r Ysgolion, cynigiwn ystod eang o ddisgyblaethau, o Astudiaethau Canoloesol i Archaeoleg, o Astudiaethau Clasurol i Hanes yr Hen Fyd, o Astudiaethau Tsieineaidd i Ysgrifennu Creadigol ac o Athroniaeth i Ddiwinyddiaeth. Cynigir rhai o’r pynciau sydd gennym yn eang mewn Ysgolion a Cholegau Chweched Dosbarth: Saesneg, Hanes, Astudiaethau Crefyddol, ac i raddau cynyddol Athroniaeth. Mae’n bosibl, fodd bynnag, y bydd eraill yn gwbl newydd. Ni fydd llawer o ymgeiswyr wedi cael y cyfle i astudio Astudiaethau Clasurol, Hanes yr Hen Fyd, Anthropoleg, Diwinyddiaeth, neu Astudiaethau Tsieineaidd o’r blaen. Er bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn astudio ar gyfer rhaglen astudio Anrhydedd Sengl, astudia llawer ar gyfer rhaglenni astudio sy’n cyfuno un neu ragor o ddisgyblaethau, megis y cynllun gradd poblogaidd mewn Archaeoleg a Hanes yr Hen Fyd. Trwy astudio ar gyfer cynllun gradd Anrhydedd Cyfun mae modd i fyfyrwyr astudio dwy ddisgyblaeth sy'n perthyn yn agos i'w gilydd neu gyfuno un ddisgyblaeth sy'n gyfarwydd ag un newydd. Mae rhai rhaglenni astudio, megis y BA mewn Gwareiddiadau’r Hen Fyd yn cwmpasu’r Gyfadran gyfan, gan ganiatáu i fyfyrwyr fanteisio ar arbenigedd ar draws pob un o’i Hysgolion. Cynigia pob rhaglen astudio, fodd bynnag, y cyfle i ddarganfod meysydd na fyddwch wedi’u hastudio erioed o’r blaen. Mae teithiau maes, safle ac amgueddfa’n rhan bwysig ac annatod o lawer o’n rhaglenni astudio, gan

ganiatáu i’n myfyrwyr archwilio safleoedd sy’n agos iawn i gampws Llambed, sef prif safle’r Gyfadran, ac yn bellach o lawer i ffwrdd. Mae, er enghraifft, safleoedd cynhanesyddol pwysig, mwyngloddiau aur Rhufeinig, safleoedd Celtaidd, cestyll canoloesol, gweddillion mynachlogydd a chapeli anghydffurfiol gerllaw. Mae’r dirwedd drawiadol yn cynnig llawer o gyfleoedd i archaeoleg môr ac amgylcheddol. Bydd teithiau a chloddfeydd ymhellach i ffwrdd yn arwain myfyrwyr i Fôr y Canoldir, y Dwyrain Canol, Tsieina, a ledled y DU yn cynnig cyfleoedd i ymwneud â materion sy’n gysylltiedig â chadwraeth a gwarchodaeth; mae cyfleoedd i astudio dramor ar gael gyda phrifysgolion a cholegau yn Ewrop a Gogledd America. Er bod llawer o ddisgyblaethau’r Gyfadran yn ymwneud â’r gorffennol, mae llawer, megis Hanes neu Astudiaethau Islamaidd hefyd yn berthnasol dros ben i’r prif broblemau a’r materion y mae’r byd yn eu hwynebu heddiw. Mae pob un o’n disgyblaethau’n gyffrous, diddorol sy’n ysgogi’r meddwl wrth iddynt ymchwilio i gwestiynau pwysig. Beth bynnag yr ydych wedi dewis ei astudio, mae'r dulliau addysgu yn rhai modern ac mae staff oddi mewn i nifer o'n Ysgolion wedi cipio gwobrau cenedlaethol am eu haddysgu blaengar. Yn anad dim, fodd bynnag, mae modd o hyd i ni gynnig profiad wedi’i deilwra ar eich cyfer sy’n eich paratoi ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Byddwch yn cael addysg sy’n cynnig ystod eang o opsiynau i chi ar ôl i chi gwblhau eich rhaglen astudio gyda ni.

Er bod elfen alwedigaethol gref i rai o’n rhaglenni (e.e. Archaeoleg, Ysgrifennu Creadigol), mae pob rhaglen wedi cynnwys cyflogadwyedd yn y cwricwlwm. Anogant fyfyrwyr i fod yn feddylwyr dadansoddol ac annibynnol a chwestiynu’r hyn a astudir. Yn ogystal, sicrhânt hefyd, er bod myfyrwyr yn astudio’r pynciau a garant, eu bod hefyd yn ennill y sgiliau lu sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae myfyrwyr yn y Gyfadran yn datblygu, er enghraifft, sgiliau cyfathrebu trwy gyflwyniadau, gwaith tîm a rhyngbersonol o ganlyniad i brosiectau grŵp, sgiliau datrys problemau a hyblygrwydd trwy gwblhau prosiectau a phortffolios gydag amserlenni tynn iawn a sgiliau TG cadarn. Yn ôl Bwrdd Cyflogadwyedd a Sgiliau Cymru, ‘Prisia cyflogwyr y sgiliau hyn, yn aml uwchlaw rhai mwy technegol neu rai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â swyddi.'

C Y FA D R A N Y DY N I A E T H AU

Cyfadran y

Cynigir profiad ymarferol hefyd trwy gasgliad Roderic Bowen, sef casgliad llawysgrifau pwysig ac amhrisiadwy’r Brifysgol yn ogystal â thrwy bosibilrwydd cynnwys profiadau amgueddfeydd ac archifau, sgiliau gwaith maes ymarferol, lleoliadau gwaith a sesiynau blasu, er enghraifft, yn sectorau Treftadaeth, twristiaeth ac addysg, profiad gwaith, a chyfleoedd gwirfoddoli, yn y rhaglenni astudio. DR MIRJAM PLANTINGA Deon Cyfadran y Dyniaethau

www.ydds.ac.uk | 67


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.