Croeso...
Prifysgol aml-gyswllt Ffurfiwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ar 18 Tachwedd 2010 trwy uno Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a Choleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin dan Siarter Frenhinol Llanbedr Pont Steffan sy’n dyddio o 1828. Ar 1 Awst 2013 daeth Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn rhan o PCYDDS. Siarter Frenhinol y Brifysgol yw’r hynaf yng Nghymru a Lloegr ar ôl prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Yn 2011 daeth Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn Noddwr Brenhinol y Brifysgol. Mae Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnwys Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion fel rhan o strwythur grŵp sector deuol sy’n cynnwys colegau addysg bellach a’r brifysgol. Gyda’n gilydd rydym yn darparu buddion clir a phendant i ddysgwyr, cyflogwyr, diwydiant a chymunedau drwy gynnig dull galwedigaethol o lefel fynediad i ymchwil ôl-ddoethurol. Cryfheir y Grŵp ymhellach maes o law pan fydd Prifysgol Cymru yn ymgyfuno â PCYDDS. Lleolir prif gampysau’r Brifysgol mewn lleoliadau amrywiol o gwmpas canol dinas Abertawe ac yn nhrefi gwledig Llambed a Chaerfyrddin yn Ne-orllewin Cymru. Lleolir Academi Llais Ryngwladol Cymru, dan Gyfarwyddiaeth Dennis O’Neill a’r Fonesig Kiri Te Kanawa yn noddwr arni, yng Nghaerdydd. Hefyd mae campws Busnes gan y Brifysgol yn Llundain. Mae gan PCYDDS gynllun strategol eglur a chyffrous sy’n gosod pwyslais ar ddysgu cymhwysol, disgyblaethau academaidd cadarn ac ymrwymiad eglur ag arloesi, mentergarwch a throsglwyddo gwybodaeth. Mae’r Brifysgol aml-gyswllt hon yn gyrru newid strwythurol a strategol yn ei flaen sydd â chysylltiadau agos â diwydiant, busnes a mentergarwch. Mae gan y Brifysgol broffil cenedlaethol eglur – gan gyflawni dros Gymru a chan ddathlu’i chymeriad arbennig ar lwyfan Brydeinig a rhyngwladol.
Amcan...
Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gatalydd ar gyfer twf economaidd drwy greu cyfleoedd newydd ar gyfer addysg, masnach a datblygiad economaidd.
Trawsnewid Addysg… . . Trawsnewid Bywydau Bydd datblygu Ardal Arloesi SA1 Glannau Abertawe yn cefnogi nod PCYDDS o ysbrydoli unigolion a datblygu graddedigion ac ymarferwyr adfyfyriol sydd â’r gallu i wneud gwahaniaeth yn y gymdeithas. Bydd yn cyfoethogi nod y Brifysgol o fod â rôl yr un mor bwysig ym maes hyrwyddo addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang. Lleolir Ardal Arloesi Glannau Abertawe mewn llecyn bywiog, modern ar y glannau â mynediad rhwydd i ganol y ddinas. Y bwriad yw sefydlu cyfleusterau pwrpasol ar gyfer dysgu, addysgu ac ymchwil yn ogystal â mannau cymdeithasol a hamdden. A hithau’n brifysgol sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, bydd cynllun ac adeiladwaith yr adeiladau’n plesio’n weledol ac yn gynaliadwy gyda mannau gwyrdd yn darparu digon o gyfleoedd i fwynhau’r amgylchedd ysgogol hwn yn yr awyr agored. Mae PCYDDS yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Dinas a Sir Abertawe i gyflwyno’r weledigaeth gyffrous hon.
Ymgynghori â’r Cyhoedd Mae’r uwchgynllun ar gyfer ardal y glannau yn SA1, ac yn benodol i’r de ac i’r gorllewin o Ddoc Tywysog Cymru, yn cefnogi datblygiad defnydd cymysg yn cynnwys y Brifysgol, swyddfeydd masnachol, bwytai, manwerthu ar raddfa fach, cyfleusterau gwesty a hamdden, mannau preswyl a chyfleoedd chwaraeon a hamdden. Darperir ardaloedd mynediad cyhoeddus newydd. Mae’n gynllun defnydd cymysg gyda’r ddinas yn ganolbwynt ac a gynlluniwyd i greu ymdeimlad o le bywiog a deniadol mewn lleoliad dethol ar y glannau. Rydym yn croesawu’ch barn wrth helpu i lunio’r cynigion a’r ystod o gyfleusterau sydd i’w cynnig yn seiliedig ar yr arddangosfa yn yr ymgynghoriad hwn. Gweler y bwrdd ‘Camau Nesaf’ am fanylion ynghylch sut i rannu’ch barn ar gynigion PCYDDS.
Adeiladau Presenol PCYDDS Safleoedd PCYDDS Tir a gedwyr gan Llywodraeth Cymru Adeiladau cyfagos
Uwchgynllun 2015 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ymgynghoriad Cyhoeddus