BETH BYDD EI ANGEN ARNAF I WNEUD CAIS? ■ Eich ffurflen gais wedi’i chwblhau (wedi ei chynnwys yn y llyfryn hwn). ■ 1 ffotograff maint pasbort diweddar ar gyfer pob ymgeisydd (neu mae rhai canolfannau hamdden yn cynnig ffotograffau am £2 y person – wedi’u nodi gyda☼). ■ Ffi ymgeisio o £2 ar gyfer pob ymgeisydd – bydd eich cerdyn PTL yn ddilys am flwyddyn o’r dyddiad rhoi. Gallwch adnewyddu PTL hyd at 14 diwrnod cyn y dyddiad terfyn fel a ddangosir ar y cerdyn cyfredol. ■ Prawf cyfeiriad, ar gyfer pob ymgeisydd e.e. bil cyfleustodau diweddar, cyfriflen banc ar gyfer oedolion, i blant – gellir defnyddio’r llythyr dyfarnu budd-dal plant. ■ Prawf cymhwyster ar wahân ar gyfer y budd-dal rydych yn ei hawlio: Budd-dal Tai Llythyr diweddar sy’n cadarnhau eich bod yn derbyn y budd-dal hwnnw Budd-dal Treth y Cyngor Llythyr diweddar yn cadarnhau eich bod yn ei dderbyn Cymhorthdal Incwm Y llythyr dyfarnu, neu lythyr diweddar sy’n cadarnhau eich bod yn ei dderbyn Lwfans Ceisio Gwaith (Seiliedig ar Incwm) Y llythyr dyfarnu neu lythyr diweddar sy’n cadarnhau eich bod yn derbyn y budd-dal Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Seiliedig ar Incwm). Y llythyr dyfarnu neu lythyr diweddar yn cadarnhau derbyn budd-dal
Cynllun incwm isel y GIG gyda thystysgrif HC2 Credyd Pensiwn Gwarantedig Y llythyr dyfarnu neu lythyr diweddar sy’n cadarnhau eich bod yn derbyn y budd-dal Credyd Treth Gwaith Y llythyr dyfarnu a Thystysgrif/Cerdyn Eithrio Credyd Treth y GIG Credyd Treth Plant Y llythyr dyfarnu a Thystysgrif/Cerdyn Eithrio Credyd Treth y GIG Partner rhywun sy’n derbyn budd-dal Prawf eich bod wedi’ch cynnwys yn yr hawl am fudd-dal Plentyn rhywun sy’n derbyn budd-dal Prawf eich bod wedi’ch cynnwys yn yr hawl am fudd-dal 17-19 oed ac mewn addysg amser llawn/cwrs hyfforddi Prawf statws myfyriwr nad yw'n addysg uwch /cofrestru ar gwrs hyfforddi gyda phrawf o fod ar gais budd-dal rhieni/gwarcheidwad Oedolion Ifanc a Gefnogir Gwasanaethau Cymdeithasol i gysylltu â swyddfa PTL i drefnu Rhieni Maeth i ffonio swyddfa PTL yn uniongyrchol ar 635473 i drefnu Ceiswyr Lloches i ffonio swyddfa PTL yn uniongyrchol ar 635473 i drefnu Sylwer: y bydd y Swyddfa Pasbort i Hamdden yn gwirio cymhwyster hawliad gyda’r asiantaeth berthnasol cyn rhoi cerdyn. Bydd eich PTL yn cael ei roi o fewn 10 niwrnod gwaith.