Issuu on Google+

Rhifau lleol defnyddiol Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 01792 517222 Cefnogaeth i Rieni Tîm Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar 01792 612155 Mae Plant yn Bwysig - Prosiect Cefnogaeth i Deuluoedd Barnardo’s www.barnardos.org.uk/swanseachildrenmatter 01792 797289 NCH - Teuluoedd Ifanc Abertawe (cefnogaeth i rieni rhwng 16 a 25 oed) 01792 294006 Canolfannau Teulu Canolfan Deuluoedd Mayhill 01792 468584 Canolfan Deuluoedd Bonymaen 01792 700821 Canolfan Deuluoedd Penplas 01792 588487 Canolfan Deuluoedd Treforys 01792 543628 Canolfan Integredig i Blant Abertawe 01792 572060 Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bobl ifanc 11-25 oed Info-Nation http://www.info-nation.org.uk/index.cfm?articleid=12233 01792 484010

Cyffredinol Cymorth i Ddioddefwyr Abertawe www.victimsupport.org.uk Llinell Gymorth Trais Domestig Abertawe 0808 80 10 800 Cymorth i Fenywod Abertawe 01792 644683 www.womensaid.org.uk Black Association of Women Step Out Cyf (BAWSO) (gwasanaeth arbenigol ar gyfer menywod a phlant o gymunedau pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig a wnaed yn ddigartref oherwydd trais domestig) 01792 642003 www.bawso.org.uk Gwasanaethau Cyfreithiol Cymunedol (gwybodaeth am wasanaethau cyngor a chyfreithiol lleol) 0845 3454345 www.clsdirect.org.uk Gwasanaethau i Deuluoedd a Ffrindiau Carcharorion 01792 458645 Gofal Galaru Cruse Abertawe 01792 462845 www.crusebereavementcare.org.uk Canolfan Cyngor Ar Bopeth 08444 77 20 20 http://www.swanseacab.org.uk/Welsh/index.php Dial (gwybodaeth a chefnogaeth i bobl anabl a’u gofalwyr) 01792 455565 www.dialuk.info Rhwydwaith Menywod Lleiafrifoedd Ethnig (MEWN) 01792 467222 www.mewnswansea.org.uk Y Samariaid (cefnogaeth ymarferol, gyfrinachol) Llinell Gymorth Genedlaethol 08457 90 90 90 Llinell Gymorth Leol 01792 655999 www.samaritans.org Prosiect Cynghori ar Anghenion Arbennig (SNAP) 01792 457305 Gwasanaethau Cymdeithasol (gwybodaeth) 01792 635700 Opsiynau Tai 01792 533100 Budd-daliadau Budd-dal Plant 0845 302 1444 Credydau Treth 0845 300 3900 Lwfans Byw i'r Anabl 08457 123456 Hawliadau newydd 08000 556688 Llinell Gymorth ar gyfer hawliadau cyfredol 08456 003016 Cronfa Gymdeithasol Abertawe 08456 060208 Mae rhifau mwy o asiantaethau a all gynnig cyngor a chefnogaeth ar gael ar wefan Dinas a Sir Abertawe. www.abertawe.gov.uk/index.cfm?articleid=1317

Wedi’i gynllunio a'i farchnata gan Coles McConnell Cyf, Maidstone © 2009 Cedwir Pob Hawl. Ffôn: 01622 685959 www.coles-mcconnell.com

Camddefnyddio Sylweddau Prosiect Cyffuriau Abertawe 01792 472002 www.swanseadrugsproject.org.uk Cyngor Camddefnyddio Alcohol a Chyffuriau Gorllewin Morgannwg 01792 646421 www.wgcada.org


Cyflwyniad

Cynnwys Page

Croeso i’n Llawlyfr Magu Plant: Canllaw i rieni a gofalwyr plant o’u geni i 19 oed yn Abertawe.

Gwybodaeth gyffredinol

Mae bod yn rhiant neu’n ofalwr yn brofiad hyfryd, heriol ac yn un sy’n newid eich bywyd.

Magu plant yn gadarnhaol a hunan-barch Gwnewch iddynt deimlo’n wych!

4

Diben y llawlyfr hwylus hwn yw cynnig syniadau a gwybodaeth i rieni a gofalwyr i’w helpu i weld eu ffordd trwy’r hyn all fod yn nifer fawr o faterion.

Pob math o rieni Beth yw teulu?

6

Gwneud eich cartref yn lle diogel Diogelwch

8

Mae’r pynciau a ddewiswyd yn cynnwys syniadau a gwybodaeth fuddiol, ynghyd â rhifau cyswllt lleol a chenedlaethol os ydych am fwy o wybodaeth.

Pwysigrwydd cyfeillgarwch Ymdopi â gofynion

10

Yr ydym yn credu fod pob rhiant yn cael anhawster o bryd i’w gilydd gan nad oes y fath beth â rhiant perffaith na phlentyn perffaith. Fodd bynnag, mae modd gwneud rhai pethau i wneud magu plant yn llai o straen ac yn fwy o werth.

Plant cyn-ysgol

Gobeithio y cewch y llawlyfr hwn yn ddefnyddiol ac yn werth ei gadw (a’i rannu) at y dyfodol.

Bwydo eich baban Rhoi’r cychwyn gorau iddynt

12

Cadw’r baban yn ddiogel Gofalu am eich baban

14

Ffitiau o dymer Pan fo pob dydd yn anodd

16

Gwlychu’r gwely ac anawsterau cysgu Sut galla’i helpu fy mhlentyn?

18

Gwarchod plant a babanod, a gofal dydd Sut mae gwneud y dewis iawn?

20

Diogelwch Richard Parry - Cyfarwyddwr Arweiniol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc

Bwlio Y stori go-iawn

22

Diogelwch y rhyngrwyd Technoleg newydd, hen broblem

24

Gadael plant ar eu pennau eu hunain Synnwyr cyffredin

26

Pobl ifanc mewn trwbl Pa mor gyffredin ydyw?

28

Ofn trosedd Dod i delerau

30

Ar goll O’r cartref a’r ysgol

32

Gwahanol anghenion Plant ag anabledd Dydych chi ddim ar eich pen eich hun

34

Plant mewn angen Gweithio gyda’n gilydd dros ein plant

36

Ymdopi â digwyddiadau bywyd

Cysylltiadau allweddol Mynediad a Gwybodaeth (Y Gwasanaethau Cymdeithasol) 01792 635700 Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 01792 517222

Ysgaru a phrofedigaeth Ymdopi â galar

38

Iselder wedi geni Adnabod yr arwyddion

40

Camdrin yn y cartref Sut mae’n effeithio ar blant?

42

Gofalwyr ifanc Gweithio gyda’n gilydd

44

Byw oddi cartref Bod yn barod

46

Iechyd Glasoed a glaslencyndod Amser Newid

48

Iechyd rhywiol a beichiogrwydd yn yr arddegau Magu er Mwyn Atal

50

Camddefnyddio alcohol, cyffuriau a sylweddau Adnabod yr arwyddion

52

Lles Cadw cydbwysedd

54


Mae ar blant angen teimlo’n ddiogel, fod rhywun yn eu caru ac yn rhoi gwerth arnynt - dyma sail hunan-barch a hyder Sylwi ar ymddygiad da a’i wobrwyo yw’r ffordd orau o ddylanwadu ar ymddygiad eich plentyn Byddwch yn realistig am yr hyn yr ydych yn ei ddisgwyl gan eich plentyn Rhaid i rieni a gofalwyr weithio gyda’i gilydd a bod yn gyson Gwrandewch ar eich plentyn a siarad ag ef - mae’n dda cael sgwrs! Gwnewch bethau gyda’ch plentyn yr ydych ill dau yn eu mwynhau beth am gael hwyl?

Gwnewch iddynt deimlo’n wych! Mae magu plant yn gadarnhaol yn fater o ddwyn y gorau allan o’ch plentyn, gwrando a deall, canmol a rhoi anogaeth i’w ymdrechion, sylwi ar ymddygiad da a’i wobrwyo a gwneud pethau gyda’ch gilydd sydd yn rhoi pleser i chi’ch dau.

Wrth geisio bod o help, mae’n aml yn rhy hawdd nodi lle mae plentyn yn gwneud rhywbeth yn anghywir ac anghofio sylwi ar y pethau mae’n eu gwneud yn iawn. Trwy wneud hyn, rydych yn ddiarwybod yn rhoi llawer o sylw i’ch plentyn am ymddygiad negyddol a gwael, yn hytrach nac am yr ymddygiad da. Sylw a chanmol gan rieni yw un o’r prif bethau sy’n symbylu plant, felly mae’n rhaid i chi ddefnyddio hyn yn y ffordd iawn. Nid yn unig y bydd hyn yn dylanwadu yn gadarnhaol ar ymddygiad eich plentyn, ond fe fydd hefyd yn gwneud iddo deimlo’n hapus, fod rhywun yn ei garu a’i eisiau, a bydd yn ddiogel, a dyma sylfaen hyder a hunan-barch trwy ei oes.

Mae mam yn wych -

mae ganddi amser i mi yn wastad, hyd yn oed pan

mae’n brysur.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

RHIFAU CYSWLLT

Efallai na fydd rhai. A yw eich plentyn yn bwyta’n iawn? Yn ymarfer digon? A oes unrhyw newid mewn ymddygiad? A yw eich plentyn yn trio dweud rhywbeth wrthych?

Cymerwch ran a datblygu perthynas dda gyda’ch plentyn yn gynnar. Ceisiwch fyw yn iach. Rhannwch weithgareddau gyda’ch gilydd.

Gyda phlant iau, gosodwch ffiniau clir a chadw atynt. Fel hyn bydd eich plentyn yn deall fod na yn golygu na a bydd yn teimlo’n ddiogel.

Byddwch yn wallgo! Mwynhewch eich hun gyda’ch plentyn. Anogwch gyfeillgarwch a diddordebau y tu allan i’r cartref. Gwrandewch yn ofalus ar farn eich plentyn. Helpwch ef i ystyried dewisiadau.

• Tîm Magu Plant y Blynyddoedd Cynnar 01792 612155 • Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 01792 517222 • Llinell Rhieni a Mwy 0808 800 2222 • YoungMinds 0800 018 2138

CYSYLLTIADAU GWE

4

Rhaid i blant ddysgu gwneud eu penderfyniadau eu hunain a bod yn annibynnol ar eu rhieni. Mae hybu iechyd eich plentyn yn dasg y mae’r rhan fwyaf o rieni yn ei gwneud heb feddwl, boed hynny yn annog eich plentyn i lanhau ei ddannedd neu olchi ei ddwylo wedi defnyddio’r toiled. Yr ydych yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth a chyngor ac yn batrwm dylanwadol i’ch plentyn. Mae bwyta yn rhan bwysig a phleserus o fywyd. Anogwch eich plentyn i roi prawf ar lawer math o fwyd iach gwahanol. Os ydych yn sylwi ei fod yn mynd yn rhy drwm, helwch ef i wneud rhywbeth am y peth mewn ffordd gadarnhaol. Awgrymwch weithgareddau y gallwch eu gwneud gyda’ch gilydd. Gofalwch ei fod yn teimlo’n dda am y ffordd mae’n edrych fel amddiffyniad yn erbyn problemau bwyta a hunan-barch wrth iddo brifio.

Gwnewch i’ch plentyn deimlo’n wych trwy fod yn esiampl dda, rhoi ymateb cadarnhaol a chywir, gweld beth yw credoau anghywir eich plentyn a’u hail-gyfeirio, a thrwy fod yn gariadus ac yn frwd.

www.parentlineplus.org.uk • www.youngminds.org.uk

5


Louise yw fy merch. Mae’n ddeng mis oed.

Tad sengl ydw i - mae’n waith caled, ond yn ffodus,

mae gen i deulu cariadus yn gefn i mi.

Mae eich teulu yn unigryw. Pwy sydd yn eich teulu? Sut mae’n gweithio? Gall rhieni sengl fod yn fam neu’n dad Mae pobl wahanol yn trin newid mewn ffyrdd gwahanol Mae ar blant angen sefydlogrwydd; gall newid wneud iddynt deimlo’n arbennig o fregus Mae’n cymryd tipyn o amser i arfer â newid yn y teulu - i dad-cu a mam-gu, ewythrod a modrybedd hefyd! Pa bynnag fath o deulu sydd gennych, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Os oes arnoch angen help, cysylltwch!

Beth yw teulu? Does mo’r fath beth â theulu ‘arferol’ mae pob math o rai ar gael. Mae gan bob gwahanol fath o deulu ei her ei hun, felly mae’n bwysig deall sut y gall ffurfiant eich teulu chi effeithio ar eich plentyn, yn enwedig pan fo pethau’n newid. Ar eich pen eich hun Gall prifio gydag un rhiant fod yn beth da, gan arwain at berthynas agos rhwng y rhiant a’r plentyn. Os yw eich plentyn yn treulio amser gyda’r rhiant arall, mae’n bwysig ei helpu i ddeall y byddwch ill dau yn rhan o’i fywyd a’i bod yn iawn caru’r ddau riant heb deimlo’n euog.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

RHIFAU CYSWLLT

Gall newidiadau yn y ffordd mae eich plentyn yn ymddwyn fod yn arwydd nad yw’n teimlo’n sicr am y newidiadau sy’n digwydd o gwmpas. Gwyliwch am arwyddion o fai neu euogrwydd os nad yw eich perthynas gyda’ch cymar yn gweithio. Gall newidiadau yn y ffordd yr ydych chi’n ymddwyn gael effaith uniongyrchol hefyd ar eich plentyn.

Siaradwch yn gynnar am unrhyw newidiadau ym mywyd y teulu mae plant yn synhwyro pethau yn sydyn iawn ac fe fyddant yn gwybod os ydych yn ceisio cadw rhywbeth rhagddynt. Daliwch ati i siarad â’ch plentyn am y pethau newydd sy’n digwydd i chi a’ch teulu. Byddwch yn bwyllog ac yn amyneddgar.

Soniwch am sut yr ydych yn teimlo am eich gilydd gymaint ag y gallwch. Mae bywyd teuluol sefydlog yn bwysig i blant, waeth pa mor anarferol yw sefyllfa eich teulu. Atgoffwch hwy eich bod yn eu caru, waeth beth sy’n digwydd.

Ystyriwch gwnsela, cyfryngu a chyrff cefnogi gan y gallant hwy yn aml helpu i adnabod problemau posibl cyn iddynt godi. Byddwch yn ymwybodol o’ch hawliau fel cymar ac fel rhiant. Siaradwch ag ysgol eich plentyn.

• Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 01792 517222 • Tîm Magu Plant y Blynyddoedd Cynnar 01792 612155 • Teuluoedd Un Rhiant / Gingerbread 0800 018 5026 • Gofal mewn Galar 0844 477 9400 • Winston’s Wish 08452 03 04 05

CYSYLLTIADAU GWE

6

www.oneparentfamilies.org.uk • www.gingerbread.org.uk • www.crusebereavementcare.org.uk • www.winstonswish.org.uk

Ymdopi â marwolaeth yn y teulu Pan fyddwn yn ceisio ymdopi â’n galar ein hunain wrth golli cymar, mae’n anodd weithiau gweld sut y gall plant ymateb pan fo rhiant yn marw. Bydd pob plentyn yn ymddwyn yn wahanol, gyda rhai yn teimlo’n euog am ddal i fod yn fyw a rhiant wedi marw, tra bo eraill yn meddwl am farwolaeth a cholled a phwy arall allai eu ‘gadael’. Mae amynedd a chefnogaeth teulu a chyfeillion yn hollbwysig ar adeg fel hon. Efallai eu bod yn rhy ifanc i ddeall beth ddigwyddodd. Rhieni yn eu harddegau Fel rhiant ifanc, fe fyddwch yn wynebu llawer her. Fodd bynnag, mae pob rhiant newydd yn ei chael yn anodd ar adegau, felly peidiwch â bod â chywilydd gofyn am gefnogaeth a chyngor. Efallai y bydd toriad yn eich addysg, ond peidiwch â rhoi’r gorau i’ch holl gynlluniau ar gyfer y dyfodol, gan fod digon o amser. Cofiwch feddwl am eich anghenion eich hun a cheisio mwynhau rhai o’r pethau mae pobl eraill yn eu harddegau yn eu gwneud fel cyfarfod ffrindiau neu fynd i glwb.

Gofalwch fod gennych ofal plant da os byddwch yn gadael eich plentyn gartref. Teuluoedd newydd Os byddwch yn dechrau perthynas newydd, bydd ar bawb angen amser i ddod i arfer â’r teulu newydd; gall hyn fod yn fwy anodd os oes gan eich cymar blant ei hun neu os ydych yn mabwysiadu neu yn maethu plentyn. Gall newid wneud i ni oll deimlo’n ansicr, felly mae’n bwysig gofalu fod pawb yn teimlo’n gyfforddus gyda’r trefniadau newydd. Cymerwch bwyll, byddwch yn ofalus a cheisiwch weld pethau trwy lygaid eich gilydd, gan ddychmygu sut y mae pawb yn teimlo yn y cyfnod hwn o newid. Mam-gu a thad-cu fel rhieni/mam-gu a thad-cu newydd Gall mam-gu a thad-cu fod yn gymorth ychwanegol gwerth eu cael, ac y maent yn gyswllt pwysig â hanes y teulu ac ymdeimlad o berthyn. Ond efallai y bydd arnynt hwy angen help i ddygymod â newidiadau yn eich teulu hefyd. Efallai y byddant yn colli cysylltiad ag wyrion ac wyresau annwyl pan fydd perthynas yn chwalu, neu yn gorfod dod i arfer ag aelodau newydd o’r teulu pan fydd perthynas newydd yn cychwyn. Cofiwch y gall fod gan dad-cu a mam-gu broblemau iechyd eu hunain; peidiwch â gofyn iddynt wneud gormod, a hwythau yn dal â bywydau prysur eu hunain. Cadwch mewn cysylltiad Pa bynnag fath o deulu sydd gennych, mae llawer math o gymdeithas ar gael i’ch helpu i ymdopi. Peidiwch â theimlo fod yn rhaid i chi frwydro ar eich pen eich hun. Dewch i gysylltiad, a chael yr help sydd ei angen arnoch chi a’r teulu. 7


Cyn i Rhys gael ei

eni, doeddwn i erioed yn

meddwl am lle’r oeddwn i’n

Mae babanod a phlant yn dysgu trwy ymchwilio i’r hyn sydd o’u cwmpas

gadael pethau. Nawr, mae

Nid yw babanod yn gwybod beth sy’n beryglus a beth sydd heb fod yn beryglus

popeth yn y t yn ymddangos

Rhaid cadw babanod yn ddiogel yn y cartref

mor beryglus felly rwyf wedi

Symudwch unrhyw beryglon y gallwch yn eich cartref

cymryd camau i wneud y t yn haws i blentyn.

Gwyliwch eich plentyn a’i gadw draw o berygl Esboniwch yn gynnar i’ch plentyn am ddiogelwch

Diogelwch Mae babanod a phlant ifanc yn dysgu am eu byd trwy’r hyn y maent yn ei weld a’i gyffwrdd. Cyn gynted ag y medrant, byddant yn cropian, cyffwrdd a gafael ym mha beth bynnag y gallant ei weld. Maent eisiau gwybod am bethau a bydd arnynt angen help gofalus a thyner yn ifanc iawn i wybod am beth yw perygl ac o ba bethau i gadw’n glir. Ni fydd gweiddi ar blant neu eu taro yn eu dysgu am ddiogelwch. Fe all beri iddynt fod ofn y ffwrn neu’r drws a dim mwy. Mae’r rhan fwyaf o ddamweiniau yn digwydd yn y cartref. Dyna pam ei bod yn hanfodol i chi ofalu bod eich cartref yn ddiogel i’ch teulu i gyd, yn enwedig plant ifanc.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

Treuliwch beth amser yn edrych o gwmpas eich tŷ fel petaech chi’n blentyn ifanc. Bydd hyn yn dangos y peryglon posibl i chi, a allai niweidio eich plentyn os na chânt eu symud.

Rhestrwch y peryglon hyn a’u symud i le diogel neu amddiffynnwch eich plentyn rhagddynt trwy ddefnyddio dyfeisiadau diogelwch. Mynnwch air â’r bobl yn y rhestr cysylltiadau os nad ydych yn siŵr o hyn.

Gyda phlant ifanc iawn, mae goslef eich llais ac iaith eich corff yr un mor bwysig â’r hyn a ddywedwch. Mae hyn oherwydd bod plant yn ymateb fwy i’r hyn a welant neu a glywant na rhybuddion ar lafar.

Symudwch bethau • Gwasanaeth peryglus fel cyffuriau, Gwybodaeth i nodwyddau, Deuluoedd meddyginiaethau a 01792 517222 chemegolion y cartref • Eich Ymwelydd allan o afael plant a’u Iechyd neu cloi ymaith yn Fydwraig ddiogel. Gwnewch • Ymddiriedolaeth hyn cyn i’ch plentyn Atal Damweiniau ddod i gysylltiad â i Blant hwy. 020 7608 3828 • Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (ROSPA) 0121 248 2000

CYSYLLTIADAU GWE

8

www.capt.org.uk • www.rospa.co.uk

RHIFAU CYSWLLT

• Gofalwch fod pob meddyginiaeth, cyffuriau a phethau glanhau megis can allan o afael dan glo. • A yw eich plant yn ddiogel yn eich cartref? A yw’r gadwyn ddiogelwch yn ddigon uchel ar y drws ffrynt hyd yn oed i blentyn bach bywiog iawn? • Peidiwch â gadael ffenestri yn agored a gofalwch fod cloeon diogelwch ar bob ffenestr. • Mae cropian ac edrych o gwmpas yn rhan hanfodol o’u datblygiad, ond cadwch lygad ar eich plant ifanc, yn enwedig yn agos i wifrau a socedi, ac

mae’n syniad hefyd gosod caeadau i warchod plygiau. • Gofalwch eich bod yn cadw matsis a thanwyr draw oddi wrth blant. • Defnyddiwch glwydi ar y grisiau unwaith y bydd eich plentyn yn dechrau cropian. • Gwnewch eich cartref yn rhydd o lanast. • Byddwch yn ofalus o anifeiliaid anwes o gwmpas plant bach. Gall hyd yn oed anifeiliaid dof iawn a hynaws droi’n ddig pan fydd plant o gwmpas. • Gofalwch fod haearn smwddio, sosbenni a diodydd poeth yn cael eu gadael allan o gyrraedd plant. Mae sgaldian a llosgiadau yn gyffredin, ac y mae modd eu hosgoi. • Mae’r tŷ yr ydych yn byw ynddo yn llawn llwch. Gall hyn gychwyn neu waethygu unrhyw alergedd sydd gan eich plentyn, fel asthma. Cadwch eich cartref mor rhydd o lwch ag sydd modd. • Edrychwch ar labeli diogelwch teganau. Gofalwch nad yw eich plentyn yn chwarae â theganau nad yw’n addas i’w oed. Gall teganau anniogel fod yn beryglus iawn, yn enwedig os yw’r darnau yn ddigon bach i dagu arnynt. • Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r seddi a’r gwregysau addas i ddiogelu eich plentyn yn y car.

9


Mae cyfeillgarwch yn helpu i’ch plentyn yn ei arddegau ddatblygu mewn llawer ffordd

Bob tro mae ffrind gorau fy merch

yn cael torri ei gwallt, mae hi’n ei dorri yn yr

Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc eisiau edrych fel pawb arall a bod yn rhan o’r criw

un ffordd yn union. Pam na wnaiff hi drio bod

yn fwy o unigolyn?

Gall pwysau o du pobl eraill yn eu harddegau i ymddwyn mewn ffordd arbennig fod yn gryf iawn Mae cefnogaeth y teulu yn bwysig - ond byddwch yn barod, gallai eich plentyn yn ei arddegau droi at gyfeillion yn gyntaf

Ymdopi â gofynion Mae cyfeillgarwch yn bwysig iawn i bobl yn eu harddegau. Mae bod â ffrind agos neu grŵp o ffrindiau a pherthyn i grŵp yn help iddynt deimlo’n dda amdanynt eu hunain, dysgu i drin pobl, a datblygu eu hunaniaeth eu hunain. Mae hyn yn eu helpu i ddysgu am werthoedd a syniadau eraill. Pwysigrwydd cyfeillgarwch Gall ffrindiau yn aml gael blaenoriaeth dros aelodau o’r teulu, a gall rhieni weithiau deimlo eu bod wedi eu gadael allan a’u cymryd yn ganiataol. Mae hyn yn ymateb naturiol, ond mae’n bwysig deall fod eich plentyn yn dysgu ymwneud â’i g/chyfoedion, dod yn naturiol annibynnol a dysgu rheoli ei f/bywyd ei hun. Rhowch gefnogaeth a ‘mynd gyda’r sefyllfa’. ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

RHIFAU CYSWLLT

Os yw eich plentyn yn anarferol o dawel neu’n ymddangos yn anhapus, efallai fod yna broblemau cyfeillgarwch. Mae bod ag arian neu ddillad newydd yn sydyn, ymddygiad anarferol a all fod wedi ei achosi gan ddiod neu gyffuriau, a pheidio bod eisiau dweud wrthych beth maent yn ei wneud, oll yn arwyddion y gall eich plentyn yn ei arddegau fod yn mynd i drwbl. Mae’n annhebyg ei fod yn gwneud hyn ar ei ben ei hun.

Dewch i wybod a yw eich plentyn yn cael problemau yn yr ysgol neu gyda ffrindiau. Gofynnwch a fedrwch chi helpu gan roi gwybod iddo/iddi eich bod chi yno ar ei gyfer/chyfer. Os yw'r broblem yn parhau, siaradwch â'r ysgol neu weithiwr cymdeithasol.

Siaradwch yn dawel â’ch plentyn a cheisio peidio â’i farnu, gan y bydd hyn ond yn ei gwneud yn llai tebygol y byddant yn siarad â chi ac yn teimlo y gallant ymddiried ynoch. Mae problemau chwalu cyfeillgarwch a all ymddangos yn ddibwys i chi fod yn bwysig iawn i rywun yn ei arddegau.

Er nad chi, efallai, yw’r person cyntaf y bydd eich plentyn yn ei arddegau yn troi ato pan fydd mewn trwbl, mae eich cefnogaeth yn dal yn bwysig. I helpu i atal eich plentyn rhag celu problemau, rhowch wybod iddo eich bod wastad ar gael pan fydd angen.

• Info-Nation 01792 484010 • Connexions Direct 080 800 13 2 19

CYSYLLTIADAU GWE

10

Ystyr cyfeillgarwch Mae merched yn dueddol o gael grwpiau llai o ffrindiau. Mae ffitio i mewn gyda grŵp a rhannu cyfrinachau yn bwysig iawn; felly hefyd sut yr ydych yn edrych, pa gerddoriaeth yr ydych yn ei hoffi, a hyd eich gwallt - rhaid i bob dim fod yn “iawn”. Mae cyfeillgarwch yn bwysig i fechgyn hefyd, ond maen nhw fel arfer yn ffurfio grwpiau mwy o ffrindiau. Efallai eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon gyda rhai ffrindiau, a dim ond yn mynd o gwmpas gydag eraill. Mae bechgyn eisiau edrych yn dda, ond dydyn nhw ddim yn siarad gymaint am ffasiwn â merched. Mae pryderu am bwy sy’n ‘ei wneud e’ a phwy sydd ddim yn fwy pwysig!

Grwpiau cyfoed Mae grwpiau cyfoed (neu grwpiau o bobl yn eu harddegau o’r un oed) yn aml yn ffurfio yn yr ysgol neu mas ar y stryd. Mae perthyn i grŵp yn bwysig iawn. Gall pobl ifanc fod eisiau bod yn rhan o grŵp am mai dyna mae eu ffrindiau yn ei wneud, hyd yn oed os nad ydynt mewn gwirionedd yn hoffi beth mae pawb arall yn ei hoffi. Wrth iddynt gyrraedd eu harddegau hwyr, mae’n debyg y byddant yn penderfynu drostynt eu hunain yn hytrach na llifo gyda’r criw. Bod dan bwysau Mae llawer o bobl yn eu harddegau yn teimlo dan bwysau i wneud pethau nad ydynt yn hapus yn eu cylch am nad ydynt eisiau bod yn wahanol i’r criw. Gall hyn olygu gwisgo rhai mathau o ddillad neu siopa yn y ‘llefydd iawn’. Ar lefel fwy difrifol, gall hyn olygu bod yn absennol o’r ysgol, trio alcohol neu gyffuriau, dwyn o siopau neu fynd ymhellach gyda chariad nac y maent yn teimlo’n barod i’w wneud. Poeni am ffrindiau Efallai eich bod yn poeni am effaith rhai ffrindiau ar eich plentyn yn ei arddegau. Efallai fod y plentyn hefyd yn poeni am yr hyn mae’n ei wneud a heb wybod sut i siarad â chi am y peth. Cefnogwch eich plentyn trwy roi gwybod iddo y gall siarad â chi ac y byddwch yn helpu. Gallwch helpu eich plentyn yn ei arddegau i ymddiried yn ei deimladau a’i werthoedd ei hun, gan lunio cryfder emosiynol fydd yn help fel yr aiff yn hŷn.

www.info-nation.org.uk/index.cfm?articleid=12233 • www.bbc.co.uk/parenting • www.raisingkids.co.uk • www.connexions-direct.com

11


Mae gofalu y caiff eich baban ddiet iach o’r cychwyn yn beth gwych y gallwch ei wneud fel rhiant

Pan aned Ffion, fe

gefais rai problemau yn ei bwydo ar y fron i ddechrau, ond rwy’n

Nes bydd eich baban yn chwe mis oed, mae popeth y bydd arni ei angen yn llaeth y fron neu laeth arbennig i fabanod

falch i mi ddal ati - mae’n dda iddi hi ac yn gwneud i mi deimlo

Po hwyaf y bwydwch ar y fron, mwyaf o fanteision fydd i chi a’ch baban

mor agos ati.

Bwydo ar y fron yw’r ffordd orau i fwyd babanod am ei fod yn helpu i’w hamddiffyn rhag heintiau Efallai y bydd gennych hawl i laeth, ffrwythau a llysiau ffres, fitaminau a llaeth baban am ddim i’ch cadw chi a’ch baban yn iach

Rhoi’r cychwyn gorau iddynt

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

Unwaith iddo gael ei sefydlu, mae bwydo ar y fron yn hawdd i’r rhan fwyaf o famau a babanod. Fodd bynnag, yn y dyddiau cyntaf, yr ydych chi a’ch baban yn dysgu sut mae’n gweithio. Mae’n bwysig i’ch baban ddysgu sut i glymu’n iawn ar eich bron gan y bydd hyn yn help i chi eich dau fwydo’n dda ar y fron ac osgoi problemau megis tethi dolurus. Bydd eich bydwraig yn helpu yn y dyddiau cyntaf a gallwch hefyd alw’r cwnselwyr gwirfoddol bwydo ar y fron, a chefnogwyr cyfoed.

Mae’n bwysig bwydo eich baban pryd bynnag y mae’n edrych fel petai eisiau bwyd arno. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr eich bod yn cynhyrchu digon o laeth i ateb ei ofynion. Y rheswm am hyn yw, bob tro mae’r baban yn bwydo, gyrrir negeseuon i’ch ymennydd, sydd wedyn yn anfon signalau i’ch bron i gynhyrchu mwy o laeth. Mwy o fwydo = Mwy o signalau = Mwy o laeth.

Peidiwch â bod ag ofn siarad â’ch bydwraig, ymwelydd iechyd, cwnselydd gwirfoddol bwydo ar y fron neu gefnogwraig cyfoed bwydo ar y fron, neu alw i mewn i un o’r grwpiau cefnogi bwydo ar y fron lle mae mamau yn rhannu syniadau defnyddiol am fwydo eu babanod.

Mae llaeth y fron yn cynnwys yr holl fwyd a dŵr mae ar eich baban ei angen. Gall rhoi bwyd neu ddiod arall neu ddwmi iddynt achosi iddo fod â llai o ddiddordeb mewn bwydo ar y fron. Os nad yw’n bwydo ar y fron yn ddigon aml, efallai na fyddwch yn gwneud digon o laeth ar gyfer ei anghenion yn y dyfodol. Peidiwch byth â rhoi llaeth buwch, llaeth gafr, llaeth sych, llaeth cyddwys na llaeth anwedd i’ch baban nes ei bod o leiaf yn flwydd oed.

RHIFAU CYSWLLT

CYSYLLTIADAU GWE

12

• Cymdeithas y Mamau sy’n Bwydo ar y Fron 08444 122 949 • Rhwydwaith Bwydo ar y Fron 0844 412 4664 • Cychwyn Iach www.healthystart.nhs.uk. Gallwch ofyn am ffurflen gais Cychwyn Iach trwy alw 08701 555 455 a dyfynnu’r cyfeirnod HS01 neu lenwi ffurflen ar-lein. • Ymddiriedolaeth Esgor Genedlaethol 0870 444 8708 (Llinell Bwydo ar y Fron) • La Leche League 0845 120 2918 • Cefnogwyr Cyfoed BayF yn Abertawe • Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 01792 517222 • Llinell Gymorth Genedlaethol Bwydo ar y Fron 0845 120 2 918 www.breastfeeding.nhs.uk • www.abm.me.uk • www.breastfeedingnetwork.org.uk • www.healthystart.nhs.uk • www.nctpregnancyandbabycare.com • www.laleche.org.uk • www.mams.org.uk

Rhoi diet iach i’ch baban o’r cychwyn yw un o’r pethau pwysicaf y gallwch ei wneud iddo - nid yn unig yn awr ond am y dyfodol hefyd.

iddo gael llaeth y fron, er enghraifft os byddwch i ffwrdd oddi wrth eich baban am amser tra byddwch yn gweithio, gallwch odro llaeth eich bronnau â llaw neu bwmp.

Nid yn unig y mae bwydo ar y fron yn dda i’ch baban - gall fod o wir fantais i chi hefyd. Mae’n gyfle i fondio gyda’ch baban a theimlo’n agos ato.

Mae rhai mamau yn dewis peidio â bwydo ar y fron ac yn bwydo llaeth baban i’w babanod yn lle hynny. Mae hwn fel arfer yn cael ei gymysgu â dŵr, ond gallwch brynu llaeth hylif mewn cartonau. Un o anfanteision hyn yw bod arnoch angen mwy o gyfarpar, gan gynnwys poteli, tethi, offer steryllu a brws i lanhau’r poteli. Mae’n bwysig cadw’r cyfarpar yn lân gan y bydd perygl i’ch baban gael haint. Nes bydd eich baban yn chwe mis oed, mae’n hanfodol eich bod yn steryllu’r cyfarpar ar ôl i chi ei ddefnyddio bob tro. Gwnewch botel unwaith ar y tro yn union cyn i chi ei roi i’r baban.

Mae’r rhan fwyaf o famau yn bwydo eu babanod ar y fron, rhai yn rhoi llaeth baban mewn potel, a rhai mamau yn rhoi cymysgedd o’r ddau. Mae llaeth y fron yn dda i fabanod am ei fod yn cynnwys gwrthgyrff sydd yn help i amddiffyn rhag salwch megis heintiau’r stumog, y glust a’r frest. Mae babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron yn llai tebygol o ddod yn ordew neu gael diabetes neu dermatitis. Mae tystiolaeth hefyd y gall bwydo ar y fron leihau perygl marwolaeth yn y crud. Rhoi dim ond llaeth y fron i’ch baban yw’r amddiffyniad gorau, ond gall babanod gael rhyw fantais gyda phob cegaid o laeth y fron a gânt. Mae manteision eraill hefyd - mae am ddim, does dim rhaid i chi ei baratoi, a gallwch ei wneud yn y rhan fwyaf o lefydd. Gall gymryd peth amser weithiau i chi a’ch baban arfer â bwydo ar y fron, ond unwaith i chi wneud, mae’n hawdd. Mae rhai mamau newydd yn cael anhawster wrth ddechrau, ond os ydych yn cael problemau, holwch eich bydwraig gymunedol, cwnselydd bwydo ar y fron, eich ymwelydd iechyd a chefnogwyr cyfoed BayF am gyngor. Os na allwch fwydo eich baban ar y fron am unrhyw reswm ond eich bod eisiau

Pan fydd eich baban yn chwe mis oed, bydd arno angen bwydo ar y fron o hyd, neu gael llaeth baban, os mai dyna’r ydych yn ei roi iddi, ond mae’n bryd yn awr cynnig peth bwyd solet i’ch baban. ‘Diddyfnu’ yw’r cyfnod hwn, sef ‘tynnu oddi wrth’ - bydd eich baban yn symud oddi wrth laeth yn unig ac yn trio llawer o fwydydd i weld beth mae’n ei hoffi. Cofiwch na all babanod yfed llaeth buwch nes eu bod yn flwydd oed. Holwch a oes gennych hawl i laeth, ffrwythau a llysiau ffres, fitaminau a llaeth baban am ddim dan y cynllun Cychwyn Iach. Efallai eich bod yn gymwys os ydych yn disgwyl a bod gennych un neu fwy o blant dan bedair oed a bod eich teulu yn cael rhai budd-daliadau. Gweler y rhifau cyswllt am sut i gael ffurflen gais. 13


Peidiwch byth ag ysgwyd plentyn. Gall achosi niwed na allwch ei weld, a gall hyd yn oed ladd Babanod dan chwe mis oed sydd fwyaf mewn perygl o farwolaeth yn y crud neu Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod (SIDS) Rhowch eich baban i gysgu o hyd yn y safle ‘Cefn i Gysgu’ a ‘Traed ar y Troed’ Peidiwch ag ysmygu o gwmpas eich plentyn, ac os oes unrhyw un arall yn gofalu am eich baban, gofynnwch iddynt hwythau beidio ag ysmygu chwaith Peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun; mynnwch gefnogaeth gan eraill. Bydd cael yr help iawn yn eich helpu i deimlo bod gennych reolaeth fel y gallwch fwynhau bod yn rhiant

Gofalu am eich baban

Mae cael Tomos yn rhyfeddol ond yn gyfrifoldeb mawr. Wedi’r cyfan, dim

ond fi sy’n gofalu amdano ac yn gwneud yn si r ei fod yn ddiogel. Mae wedi bod o help siarad â mamau newydd eraill am sut maen nhw’n dod i ben, ac mae

f’ymwelydd iechyd wedi bod yn wych.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

RHIFAU CYSWLLT

Ymysg arwyddion y gall eich baban fod wedi cael ei ysgwyd mae: trafferth yn bwyta; mae’n swrth; anaf i’r llygad; chwydu a ffitiau. Dyma rai arwyddion fod eich baban yn dost: tymheredd dros 36.5C neu 98F; dolur rhydd neu chwydu; llefain uchel ei sain; dim diddordeb mewn bwyta; problemau anadlu; neu lid nad yw’n mynd pan fyddwch yn pwyso arno.

Sut i ymdopi os yw’ch baban yn llefain llawer: cyfrifwch i ddeg cyn gwneud unrhyw beth a gadael i chi’ch hun ymdawelu; cwtsio’r plentyn i helpu i’w dawelu; mynd am dro neu yn y car i’w helpu i gysgu; galwch linell gymorth os oes angen; gofynnwch i rywun arall yr ydych yn ymddiried ynddo/i i gymryd drosodd am dipyn bach. Os ydych yn pryderu am eich baban, ewch ag ef i weld eich meddyg, ymwelydd iechyd neu’r i’r Adran Ddamweiniau. Gall babanod fynd yn dost yn sydyn iawn, felly mae’n bwysig gofyn am help.

Defnyddiwch gyswllt llygad, gwenu, cwtsho a siarad â’ch baban. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall beth mae ei eisiau a phryd mae problemau’n codi. Gwnewch yn siŵr fod pawb sy’n gofalu am eich baban yn gwybod am beryglon marwolaeth yn y crud. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydynt yn smygu. Os na wyddoch beth i’w wneud, mynnwch gyngor meddygol ar unwaith.

Bydd gwybod sut i gadw eich baban yn ddiogel bob dydd yn atal pethau rhag mynd o chwith. Os gallwch, mynnwch yr wybodaeth tra’ch bod yn disgwyl. Bydd siarad â phobl eraill yn yr un sefyllfa yn help - gallai eich ymwelydd iechyd eich rhoi mewn cysylltiad â rhai grwpiau cefnogi.

• Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 01792 517222 • Cry-sis 08451 228 669 • Llinell Rhieni a Mwy 0808 800 2222 • Galw Iechyd Cymru 0845 4647 • Gofal mewn Galar 0844 477 9400 • Gwasanaeth Atal Smygu y GIG 0800 022 4 332

CYSYLLTIADAU GWE

14

Gall cael baban newydd fod yn brofiad ofnus, cyffrous a rhyfeddol ar yr un pryd. Efallai eich bod yn teimlo’n nerfus na wyddoch sut i edrych ar ôl baban, ond peidiwch â phoeni - unwaith i chi arfer â bod yn rhiant, fe fydd yn haws o lawer. Mae rhai pethau pwysig iawn i’w cofio am gadw eich baban yn ddiogel. Mae babanod fel arfer yn llefain am o leiaf dwy awr y dydd - fe all fod eisiau bwyd, eisiau diod, angen newid cewyn neu dim ond eisiau cwtsh. Mae rhai rhieni yn mynd yn rhwystredig pan na fydd eu babanod yn peidio â llefain a gallant eu hysgwyd. Peidiwch byth ag ysgwyd eich baban, gan y gall hyn achosi niwed i’r ymennydd neu hyd yn oed farwolaeth. Mae gwell ffyrdd o ymdopi â baban sy’n llefain: gofynnwch i’ch ymwelydd iechyd am gyngor. Cofiwch roi eich baban i gysgu ar ei gefn o hyd. Peidiwch â gadael iddynt gwympo i gysgu ar soffa neu gadair, heboch neu gyda chi. Y lle mwyaf diogel i’ch baban gysgu yn y nos yw mewn crud yn eich ystafell wely chi am y chwe mis cyntaf. Cadwch ef yn syml ac yn daclus peidiwch â defnyddio dim y gallai eich baban gael ei ddal ynddo, a dim bylchau rhwng y fatres ac ochrau’r crud. Mae’n beryglus i fabanod fynd yn rhy boeth, felly cadwch yr ystafell wely rhwng 16 a 20 gradd Celsius. Peidiwch â defnyddio dwfe, cwiltiau na gobennydd nes bod eich baban yn flwydd oed; yn hytrach, rhowch un haen ysgafn o ddillad

neu ddillad gwely yn fwy nag yr ydych chi’n ei wisgo. Rhowch eich baban yn y safle ‘Traed wrth y Droed’ o hyd, gyda’r traed wrth droed y crud fel na fedr symud i lawr y tu mewn i’r flanced. Peidiwch â gadael i neb ysmygu yn agos at eich baban. Gall mwg tybaco hefyd beri niwed tymor hir i’w hiechyd. Mae manteision iechyd i’r baban a’r fam o fwydo ar y fron. Mae babanod sydd wedi eu bwydo ar y fron yn llai tebygol o fod angen gweld y meddyg neu fynd i’r ysbyty am eu bod yn cael llai o heintiau. Peidiwch â bwydo eich baban o botel wedi ei gosod. Bwydo gosod yw gadael eich baban ar ei ben ei hun gyda photel yn ei geg. Gall baban dagu mewn eiliadau, felly gofalwch eich bod yn dal y botel trwy’r adeg. Gall amser bath fod yn brofiad hyfryd i chi a’ch baban, ond peidiwch byth â gadael eich baban ar ei ben ei hun yn y bath. Gall babanod sgaldanu yn hawdd, felly profwch y dŵr gyda’ch penelin i weld a yw ar y tymheredd iawn. Os ydych yn poeni am unrhyw beth am eich baban, mynnwch sgwrs â’ch ymwelydd iechyd neu eich meddyg cyn gynted ag y gallwch. Fel hyn, byddwch yn gwybod fod eich baban yn ddiogel ac yn iach - a gallwch fwynhau bod gyda’r un bach. Gall fod yn help hefyd siarad â rhieni newydd eraill neu ymuno â grŵp cefnogi.

www.cry-sis.org.uk • www.parentlineplus.org.uk • www.nhsdirect.nhs.uk • www.crusebereavementcare.org.uk • www.gosmokefree.nhs.uk

15


Mae un o bob pump o blant dwyflwydd oed yn cael ffit o dymer o leiaf dwywaith y dydd. Mae’r ‘Dwyflwydd Dieflig’ yn rhan arferol o brifio. Mae gwylltio yn naturiol, ond wnaiff hyn ond gwneud pethau’n waeth. Trïwch ddod o hyd i ffordd dda o ymdopi â phroblemau. Cynlluniwch i osgoi’r hyn sy’n achosi ffitiau o dymer Cofiwch, wnawn nhw ddim para am byth!

Pan fo pob dydd yn anodd

Nid yn unig mae hi

wedi dysgu cerdded a siarad, ond

nawr mae hi wedi dysgu stampio’i throed, dadlau, sgrechian nes bod ei hwyneb hi’n goch, a chodi cywilydd arna’i yn gyhoeddus bob tro. Beth

ddigwyddodd i’r babi bach annwyl oedd gen i?

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

RHIFAU CYSWLLT

Gallai ddigwydd yn unman, ond gwyliwch os yw eich plentyn yn flinedig neu eisiau bwyd ar adeg pan mae eisiau rhywbeth ond eich bod chi wedi dweud “na”, er enghraifft wrth siopa neu pan fyddwch allan am y dydd.

Cadwch yn bwyllog, ystyriwch a oes ar eich plentyn angen bwyd neu orffwys. Rhowch sylw i’ch plentyn a thrio dod o hyd i le tawel neu ryw ffordd o gael ei sylw. Peidiwch ag ildio, ond trïwch ddeall teimladau eich plentyn.

Trïwch roi dewis neu ffordd allan i’ch plentyn. Byddwch yn bwyllog a llawn deall. Cadwch bethau’n syml a chlir. Canmolwch eich plentyn am ymdawelu.

Trïwch osgoi teithiau siopa maith neu ddyddiau allan sy’n blino. Mae’n aml yn help rhoi cwtsh i’ch plentyn neu siarad mwy ag ef. Trïwch weld beth allai achosi ffitiau o dymer yn y dyddiau a ddaw, a meddwl am ffyrdd o’u hosgoi.

• Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 01792 517222 • Ymwelydd Iechyd • Llinell Rhieni a Mwy 0808 800 2222 • Tîm Magu Plant y Blynyddoedd Cynnar 01792 612155

CYSYLLTIADAU GWE

16

Pam fod ffitiau tymer yn digwydd Gall ffitiau o dymer ddechrau tua 18 mis oed, maent yn gyffredin pan fo’r plentyn yn ddwyflwydd ac yn llawer llai cyffredin yn bedair oed. Yn aml, all plant ifanc iawn ddim dweud pethau mor rhugl ag y dymunant, a gall eu rhwystredigaeth ddod ar ffurf ffit o dymer. Mae ffitiau tymer yn fwy tebygol o ddigwydd os yw plentyn yn flinedig, eisiau bwyd neu yn anghysurus. Mae ffitiau tymer hefyd yn aml yn digwydd mewn mannau cyhoeddus, prysur, a all godi cywilydd ar y rhieni a gwneud iddynt deimlo’n waeth. Os ydych yn pryderu am y ffordd mae eich plentyn yn ymddwyn, mynnwch sgwrs â’ch ymwelydd iechyd neu feddyg. Ymdopi â ffitiau o dymer • Pwyllwch. Wnaiff digio wrth eich plentyn a gweiddi ond gwneud pethau’n waeth. • Efallai bod eich plentyn wedi blino neu eisiau bwyd, felly gallai gorffwys neu fwyd helpu. Neu efallai mai dim ond eisiau cwtsh mae e. • Trïwch ddod o hyd i rywbeth arall diddorol i’w wneud neu i edrych arno. Os ydych mewn lle prysur neu swnllyd, trïwch fynd i rywle tawelach. • Os na fydd yr un o’r rhain yn gweithio, trïwch weld pethau o safbwynt eich plentyn a deall beth mae arno ei eisiau. Trïwch roi dewis iddo, gan fod hyn yn rhoi ymdeimlad o reolaeth i’ch plentyn a gall fod yn well na dim ond dweud “na”. Cofiwch drio cynnig ffordd gadarnhaol allan.

• Os ydych y dweud “na”, peidiwch ag ildio yn nes ymlaen i’w dawelu. Os ildiwch, bydd eich plentyn yn dysgu fod ffitiau tymer yn gweithio! • Os ydych gartref, gallwch drio anwybyddu’r ffit o dymer, neu efallai gerdded i ystafell arall os yw’n ddiogel gwneud hynny. Gadewch i’ch plentyn ymdawelu ar ei ben ei hun a siarad yn fwy tawel am yr hyn mae ei eisiau. • Wedi’r ffit o dymer, canmolwch eich plentyn am ymdawelu. Er nad yw bellach yn ddig, efallai ei fod yn dal yn poeni, felly rhowch gwtsh a’i gwneud yn glir eich bod yn dal i’w garu. Osgoi ffitiau o dymer Mae ffitiau o dymer yn llai tebygol os byddwch yn cynllunio ymlaen llaw. • Trïwch atal eich plentyn rhag mynd yn rhy newynog neu flinedig. • Gofalwch fod eich plentyn yn cael digon o sylw a chariad. • Gofalwch fod eich amser gyda’ch gilydd yn werthfawr, yn enwedig os ydych yn gweithio oriau maith. • Cadwch deithiau siopa a theithiau eraill mor fyr ag sydd modd. • Trïwch gynllunio dull i chi ei ddefnyddio â ffitiau o dymer pan fyddant yn digwydd a rhannu’r agwedd gyda’r oedolion eraill ym mywyd eich plentyn. Cofiwch, mae ffitiau o dymer yn normal ac nad ydynt fel arfer yn arwain at broblemau difrifol. Wrth i’ch plentyn brifio, fe fydd yn dysgu trin pwysau bywyd yn fwy tawel.

www.parentlineplus.org.uk • www.kidshealth.org/parent

17


Nid yw plant yn gwlychu nac yn dwyno yn fwriadol Gall gwlychu’r gwely fod yn arwydd o broblem gorfforol, ond yn amlach na pheidio, bydd eich plentyn yn dysgu rheoli ei bledren yn ei amser ei hun Mae patrwm cysgu pob plentyn yn wahanol Cymerwch amser i sefydlu trefn wrth fynd i noswylio, gan gynnwys amser i’ch plentyn ymlacio cyn mynd i’r gwely Os bydd eich plentyn yn deffro’n aml yn y nos, ceisiwch ddarganfod pam, er enghraifft, hunllef neu fod eisiau bwyd

Sut galla’i helpu fy mhlentyn? Roeddwn yn teimlo fy

hun yn mynd i banig bob tro y byddwn yn ei roi yn y gwely. Efallai mai diffyg trefn iawn oedd hi, ond ar y pryd roeddwn yn teimlo mor flinedig a diamynedd. Wnes i erioed ei ganmol am fynd drwy’r nos heb wlychu ei wely. Fydden i ond yn mynd yn

Mae eich plentyn yn fwy tebygol o ddysgu rheoli ei bledren os ydych chi’n hwyliog ac yn bwyllog am y peth. Cofiwch y bydd eich plentyn yn dysgu ar ei gyflymder ei hun, a bydd canmoliaeth yn hytrach na chosb yn helpu. Rhwng tair a phedair oed, mae eich plentyn yn debyg o fod yn sych yn ystod y dydd, gydag ambell i ddamwain. Cofiwch, nid newid sydyn mo hyn yn aml, ond proses raddol lle daw mwy a mwy o nosweithiau yn rai sych.

ddig pan oedd rhaid i mi newid

y cynfasau eto, a doedd hynny ddim help.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

RHIFAU CYSWLLT

Efallai nad oes rhai, ond a yw eich plentyn yn ymddangos yn anhapus? A ddigwyddodd rhywbeth yn y teulu neu ym mywyd eich plentyn allai ei b/phoeni?

Arhoswch yn amyneddgar os yw eich plentyn yn gwlychu neu’n dwyno’r gwely. Trïwch weld a oes amser arbennig pan fo’ch plentyn yn gwlychu neu yn dwyno. Gofalwch fod eich plentyn yn mynd i’r toiled yn syth cyn mynd i’r gwely. Os ydych yn poeni, trafodwch eich pryderon gyda gweithiwr iechyd proffesiynol. Ceisiwch gefnogaeth eich hun.

Rhowch gyfle i’ch plentyn drafod ei deimladau gyda chi, ceisiwch bwyllo ac ymlacio heb ddangos ôl pryder na straen. Canmolwch eich plentyn pan gysga drwy’r nos. Peidiwch â dwrdio eich plentyn os nad yw’n cysgu drwy’r nos, neu os bydd yn gwlychu’r gwely. Ceisiwch ddod i ddeall sut mae’n teimlo ac a yw’r gwlychu yn ei b/phoeni.

Gofalwch fod eich plentyn yn gwybod y gall rannu unrhyw bryderon gyda chi. Os ydych eisiau cyngor am bethau y gallwch eu gwneud i geisio atal gwlychu, trafodwch eich pryderon gyda’ch Ymwelydd Iechyd neu eich meddyg.

• Ymwelydd Iechyd neu Feddyg • Addysg ac Adnoddau i Wella Ymataliad mewn Plant (ERIC) 0845 370 8008 • Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 01792 517222

CYSYLLTIADAU GWE

18

Gwlychu’r gwely Nid yw’n hawdd gwybod pam fod rhai plant yn cymryd yn hwy i fod yn sych yn y nos na phlant eraill. Fodd bynnag, nid diogi na diffyg ewyllys sy’n achosi gwlychu. Er y gall hyn fod yn anodd i chi a’ch plentyn, ceisiwch beidio â cholli eich amynedd; anaml iawn y mae plentyn yn gwlychu neu’n dwyno yn fwriadol. Os bydd eich plentyn yn saith oed neu’n hŷn ac yn dal i wlychu ei wely yn gyson, gall nifer o ffactorau fod yn gyfrifol. Siaradwch wrth eich plentyn am y peth, a’i sicrhau fod hyn yn digwydd i blant hŷn hefyd. Trafodwch unrhyw bryderon am eich plentyn gyda’ch meddyg neu’ch ymwelydd iechyd. Anawsterau cysgu • Mae llawer o resymau gwahanol pam nad yw babanod a phlant ifanc yn cysgu drwy’r nos. Boliau bychain iawn sydd gan fabanod, tua maint eu dwrn, felly mae’n arferol iddynt ddeffro yn y nos i fwydo am beth amser.

• Mae trefn noswylio yn helpu babanod i ddysgu’r gwahaniaeth rhwng y dydd a’r nos. • Teimlwch yn hyderus ynoch eich hun i wybod a yw eich plentyn mewn gwirionedd yn dioddef loes, neu a yw ond yn aflonydd. • Os yw eich plentyn aflonydd yn aml yn tarfu ar eich cwsg, trefnwch i berthynas neu ffrind dibynadwy i ofalu am eich baban neu blentyn er mwyn i chi gael tipyn o gwsg. Sefydlu trefn Mae llawer o fabanod a phlant yn cael anhawster cysgu ar ryw adeg. Mae’n bwysig ceisio sefydlu trefn noswylio reolaidd i’ch plentyn trwy fynd i’r gwely ar adeg reolaidd bob nos. Paratowch le cynnes, cyfforddus iddynt ymlacio. Mae darllen i’ch plentyn amser gwely yn ei helpu i ymlacio. Os oes ar eich plentyn ofn y tywyllwch, ceisiwch adael golau nos ymlaen. Bydd rhai o’i hoff deganau yn y gwely yn gysur os bydd eich plentyn yn deffro yn y nos. Os ydych yn pryderu fod eich plentyn yn cael anhawster mawr i gysgu, neu os nad yw’n cysgu trwy’r nos yn gyson, trafodwch eich pryderon gyda’ch meddyg neu eich ymwelydd iechyd.

www.eric.org.uk • www.kidshealth.org/parent

19


Mae Efan yn saith, ac yr oeddwn i’n ofalus iawn i ymweld a thrafod ei

anghenion yn y clwb ôl-ysgol. Mae’n golygu nawr y galla’i weithio diwrnod llawn

yn gwybod fod ei anghenion yn cael eu hateb a’i fod mewn lle diogel.

Rhaid i bob lleoliad gofal plant cofrestredig yng Nghymru fodloni safonau cenedlaethol a osodir gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) Mae gan y Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd restrau o glybiau ôl-ysgol cofrestredig, grwpiau chwarae a gweithgareddau hamdden i blant Gwnewch restr o gwestiynau a mynd ag ef gyda chi pan fyddwch yn ymweld â phob canolfan gofal plant Gwnewch yn siŵr fod y gofalydd yn gwybod sut i gysylltu â chi mewn argyfwng a phwy y byddwch chi’n ei ganiatáu i gasglu eich plentyn Peidiwch â gadael eich plentyn gyda rhywun dan 16

Sut mae gwneud y dewis iawn? Fel rhiant, chi all farnu orau a fydd gwasanaeth gofal plant yn addas i’ch plentyn. Pan fyddwch yn gadael eich plentyn yng ngofal eraill, efallai y byddwch eisiau bwrw golwg ar y canlynol: yr atebir ei anghenion; fod y lleoliad yn gweld a deall y cefndir diwylliannol; y bydd y plentyn yn hapus yno; fod yr un grŵp o blant yn mynychu’n aml fel y gall eich plentyn wneud ffrindiau; fod amser bwyd yn hapus a hwyliog; fod llawer i’w wneud a’i fod wedi ei gynllunio’n ofalus. Gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn cael ei adael mewn lle diogel a bod staff hyfforddedig a phrofiadol yn edrych ar ôl eich plentyn. Byddwch hefyd eisiau ymwneud a dod i wybod beth mae eich plentyn yn ei wneud o ddydd i ddydd.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

RHIFAU CYSWLLT

Weithiau, all plant ddim dweud bob amser os oes rhywbeth o’i le felly edrychwch am newidiadau yn eu tymer, beth maen nhw’n ei wneud a’r ffordd y maent yn edrych.

Siaradwch ar unwaith wrth y sawl sydd â gofal am eich pryderon. Os oes gennych bryderon difrifol am ddiogelwch eich plentyn, ewch â’ch plentyn oddi yno ar unwaith a chysylltwch â’ch tîm amddiffyn plant lleol yn adran y Gwasanaethau Cymdeithasol lleol. Galwch ESTYN.

Dywedwch wrth eich plentyn pwy fydd yn edrych ar ei ôl, lle mae’n mynd, am ba hyd ac i bwy y mae’n rhaid iddynt ofyn am anghenion dyddiol. Dewch i wybod beth sy’n digwydd mewn diwrnod neu sesiwn nodweddiadol. Byddwch yn barod a holwch ddigon o gwestiynau.

Siaradwch ag eraill sydd wedi defnyddio gwasanaeth gofal plant penodol. Chwiliwch am staff hyfforddedig a phrofiadol. Ymwelwch â’r lle fydd yn gofalu am eich plentyn a chadwch lygad am blant sy’n edrych yn brysur ac yn ymlacio. Gwnewch yn siŵr sut y byddwch yn cael gwybod am gynnydd eich plentyn a sut i gysylltu mewn argyfwng.

• Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 01792 517222 • Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru 01792 310420 • Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (ROSPA) 0121 248 2000 • NSPCC 0808 800 5000 • NCMA 0845 880 0044

CYSYLLTIADAU GWE

20

Dyma’r prif fathau o ofal plant sydd ar gael: Mae gwarchodwyr plant fel arfer yn gofalu am blant yng nghartref y gwarchodwr. Maent wedi eu cofrestru gydag AGGCC ac yn cael eu harchwilio ganddynt. Gall gwarchodwyr plant yn aml fod yn hyblyg am yr oriau maent yn eu gweithio a byddant yn gofalu am eich plentyn gyda llawer o hwyl a dysgu. Mae meithrinfeydd dydd i blant dan bump am gyfnod y diwrnod gwaith. Gallant gael eu rhedeg gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, cyrff gwirfoddol, cwmnïau preifat, unigolion, busnesau neu grwpiau cymunedol. Maent wedi eu cofrestru gydag AGGCC ac yn cael eu harchwilio ganddynt.

Mae grwpiau chwarae cyn-ysgol i blant rhwng dwyflwydd a hanner a phedair. Mae sesiynau yn para dwy i dair awr. Mae’r rhan fwyaf yn cael eu rhedeg gan grwpiau o rieni gydag un neu ddau o staff taledig. Mae clybiau tu allan i’r ysgol yn rhoi sesiynau chwarae a gofal i blant oed ysgol cyn neu ar ôl yr ysgol. Mae clybiau brecwast, clybiau ôl-ysgol a chynlluniau chwarae adeg gwyliau ar gael. Cant eu harchwilio gan AGGCC unwaith y flwyddyn. Rhywun i warchod Fel rhieni, mater i chi yw diogelwch a lles eich plentyn. Felly, mae’n bwysig eich bod yn meddwl yn ofalus iawn am y sawl y byddwch yn eu rhoi yn eu gofal, boed yn ddieithryn, yn berthynas agos neu’n ffrind. Nid oes angen cymwysterau na thystysgrif i warchod plant fel hyn. Felly gall unrhyw un warchod. Cyngor Canolfan Gyfreithiol y Plant a’r NSPCC yw mai 16 yw’r isafswm oed i rywun warchod plant. Sylfaen hyn yw’r syniad fod rhywun ifanc 16 oed neu hŷn yn deall peryglon posibl ac yn gallu cael help yn fuan os bydd angen. Yn gyffredinol, fe ddaw gwarchodwr i’ch cartref i ofalu am eich plentyn. Gwnewch y siŵr eich bod yn siarad â’ch gwarchodwr cyn i chi adael. Rhowch wybod pryd y disgwyliwch fod yn ôl a gwneud yn siŵr fod ganddynt fanylion cyswllt os cyfyd argyfwng.

www.walesppa.org • www.cssiw.wales.gov.uk • www.rospa.co.uk • www.nspcc.org.uk • www.ncma.org.uk

21


Mae gan blant yr hawl i beidio â chael eu dolurio Nid yw bwlio yn ymddygiad iawn Gall bwlio ddigwydd i unrhyw blentyn ar unrhyw oed. Gwnewch rywbeth yn syth os tybiwch fod eich plentyn yn cael ei fwlio Mae ar blant angen ffyrdd o amddiffyn eu hunain a chael help Gofynnwch i’ch plentyn redeg, gweiddi a dweud

Mae’n digwydd bob dydd, bron.

Maen nhw’n dweud fy mod i’n drewi ac yn dew. Maen nhw yn yr un dosbarth ac yn wastad yn chwerthin am fy mhen. Fe ddywedon nhw, os gwna’i ddweud, fe fydd hi ddeg gwaith yn waeth. Weithiau fydda’i ddim yn mynd i’r ysgol…… alla’i

Y stori go-iawn

ddim goddef dim mwy.

Mae bwlio yn codi ofn. Gall wneud i blentyn deimlo’n unig ac yn anhapus iawn a gwneud iddo feddwl nad yw mor bwysig â’i ffrindiau nad ydynt yn cael eu bwlio. Os aiff y bwlio yn ei flaen gall gael effeithiau tymor hir drwg ar blant, a’u harwain i deimlo’n isel a hyd yn oed meddwl am wneud amdanynt eu hunain. Mae dyddiau ysgol yn amser pan fo barn plant eraill yn gallu bod o’r pwys mwyaf i’ch plentyn. Os yw plant yn cael eu gweld yn wahanol am ba bynnag reswm, gellir pigo arnynt a’u bwlio. Gwaetha’r modd, yr ydym yn dal mewn cymdeithas lle gall bod yn wahanol mewn unrhyw ffordd olygu sarhad a bwlio (sydd yn aml yn cael ei gopïo oddi wrth rieni). Mae’n bwysig iawn gofalu eich bod yn gyfarwydd ag arwyddion bwlio.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

RHIFAU CYSWLLT

Rhedeg i ffwrdd, peidio â mynd i’r ysgol, anawsterau dysgu ac ymddygiad eraill am ddim rheswm amlwg. Mae gan eich plentyn anafiadau heb ddim esboniad rhesymol.

Ewch i weld rhywun yn yr ysgol i gael cefnogaeth a gweithredu. Os yw’r bwlio yn digwydd y tu allan i’r ysgol, ystyriwch gysylltu â theulu’r plentyn sy’n bwlio a cheisio dod o hyd i ffordd o weithio’r peth allan gyda’ch gilydd.

Gwrthodwch oddef bwlio. Cerddwch ymaith, dywedwch wrth oedolyn neu ffrind, a pheidiwch ag ymladd. Rhieni gwrandewch ar eich plentyn, rhowch sicrwydd a byddwch yno i’r plentyn.

Siaradwch â’ch plentyn am y diwrnod yn yr ysgol. Dysgwch eich plentyn i barchu eraill yn gynnar. Dysgwch eich plentyn nad yw rhagfarn a bwlio yn dderbyniol.

• Ysgol eich plentyn • ChildLine 0800 1111 • Kidscape 08451 205 204

CYSYLLTIADAU GWE

22

Efallai eich bod yn meddwl nad yw eich plentyn chi yn debygol o gael ei fwlio, ond gall ddigwydd ar unrhyw adeg i unrhyw blentyn.

• Gall bwlio ddigwydd yn unman, ond mae’n digwydd yn yr ysgol fel arfer. • Gall bwlio fod ar lawer ffurf, o alw enwau i ymosod yn gorfforol. • Bwlio yw pan mae un neu lawer o bobl yn cam-drin plentyn yn gyson. • Nid yw bwlis yn wastad yn hŷn na’r plentyn y maent yn ei niweidio. • Mae’r rhan fwyaf o fwlio yn cael ei wneud gan blant sydd yr un oed â’r dioddefwr. Os dywed eich plentyn wrthych am ffrind neu blentyn arall sy’n cael ei fwlio gwrandewch yn ofalus a’i gymryd o ddifrif. Efallai na all y plentyn hwnnw ddweud drosto’i hun beth sy’n digwydd. Heddiw, mae gofyn i bob ysgol gael Polisi Gwrth-Fwlio. Ond ni all gweithredu gan yr ysgol ar ei ben ei hun gael gwared â bwlio, felly mae’n bwysig fod y rheini a’r ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd.

Mae bwlis sy’n dal ati i frifo plant eraill angen cefnogaeth a help hefyd. Efallai fod ganddynt broblemau eu hunain gartref, a all fod wedi arwain at hyn. Gall sôn am eich pryder eu helpu hwy i gael help hefyd.

www.childline.org.uk • www.kidscape.org.uk • www.kidshealth.org/parent

23


Mae camfanteisio ar blant yn cael effaith ddrwg arnynt Mae pedoffiliaid wedi dysgu’n gyflym i ddefnyddio’r rhyngrwyd fel erfyn, ac y maent yn grefftus iawn yn y modd y maent yn mynd at blant Mae gan blant ddiddordeb ym myd ‘oedolion’, ond y mae camau y gallwch eu cymryd i amddiffyn eich plentyn rhag peryglon ar-lein a’i helpu i fanteisio’n ddiogel ar y rhyngrwyd Byddwch yn sensitif i newidiadau yn ymddygiad eich plentyn. Mater i oedolion yw chwilio am arwyddion camfanteisio rhywiol

Technoleg newydd, hen broblem

Mae Gareth yn ddeg oed - ‘run oed â fi. Dwi i ddim wedi ei gwrdd, ond

rydym yn sgwrsio ar y rhyngrwyd drwy’r amser. Mae’n ddoniol iawn. Mae e eisiau

cwrdd fory i chwarae pêl-droed…. Alla’i ddim aros i weld sut un yw e.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

Treulio amser maith yn ddirgel ar y rhyngrwyd, newid mewn ymddygiad neu dymer, ymddygiad rhywiol anarferol, holi cwestiynau am brofiadau neu eiriau rhywiol, gadael deunydd pornograffig, dyddiaduron, llythyrau neu ebostiau lle mae modd eu darganfod.

Os ydych yn meddwl fod eich plentyn wedi ei ecsploetio mewn unrhyw ffordd, ceisiwch ei gael i ddweud wrthych. Dywedwch wrtho nad yw wedi gwneud dim o’i le ac y byddwch chi’n ei gefnogi. Cysylltwch â’r Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwasanaethau Pobl Ifanc neu sefydliadau addas eraill am fwy o gyngor a chefnogaeth.

Gofalwch fod eich plentyn yn gwybod eich bod yn credu beth a ddywed, er mwyn creu ymddiriedaeth rhyngoch. Esboniwch yn eich ffordd eich hun pam fod y pethau hyn yn digwydd a cheisiwch osgoi gwneud i’r plentyn deimlo cywilydd neu deimlo’n ddwl am y profiad. Rhowch wybod y byddwch chi’n ei amddiffyn rhag mwy o niwed.

Byddwch yn • Llinell Rhieni ymwybodol lle mae a Mwy eich plentyn, eich bod 0808 800 2222 yn adnabod eu • Kidscape cyfeillion ac yn 08451 205 204 gwybod am eu • Canolfan gweithgareddau Camfanteisio ar beunyddiol. Dysgwch Blant a’u eich plentyn i Hamddiffyn Ar-lein ymddiried yn ei 0870 000 3344 deimladau ei hun a rhoi sicrwydd fod ganddo/i hawl i ddweud NA pan deimlant fod rhywbeth o’i le. Gwrandewch yn ofalus ar ofnau eich plentyn a bod yn gefn.

CYSYLLTIADAU GWE

24

RHIFAU CYSWLLT

Peryglon y Rhyngrwyd Mae’r rhyngrwyd yn erfyn defnyddio i bobl sydd eisiau camfanteisio ar blant. Dangosodd achosion diweddar ar y newyddion fod modd i bedoffiliaid ddefnyddio ystafelloedd sgwrsio ar y rhyngrwyd i ffurfio perthynas â phlant. Maent wedyn yn ‘paratoi’ plant i fod yn ysglyfaeth iddynt, naill ai ar y rhyngrwyd ei hun, neu trwy drefnu i’w cyfarfod. Mae’r dioddefwyr yn aml yn meddwl mai sgwrsio â phlant eraill ar-lein y maent, am na fedrant weld â phwy maent yn siarad. Gall pornograffi ar y rhyngrwyd achosi niwed i’r plant sy’n ei weld. Ond yn waeth byth, mae’r Rhyngrwyd yn fodd cael a chyfnewid delweddau pornograffig o blant. Gwaetha’r modd, mae galw mawr am ddelweddau o’r fath, felly fe fydd pornograffwyr yn ymdrechu’n galed i ddwyn plant i mewn yn erbyn eu hewyllys. Ei gwneud yn ddiogel i syrffio Mae ffyrdd i chi helpu i amddiffyn eich plentyn ar-lein a gofalu bod y rhyngrwyd yn ddull diogel o ddysgu a chael hwyl. Gofynnwch i’ch Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd neu arbenigwr cyfrifiadurol lleol am ddulliau rheoli i rieni, a all atal eich plentyn rhag gweld gwefannau gyda chynnwys rhywiol neu niweidiol arall. Ni all y dulliau hyn roi diogelwch llwyr, ond y maent yn cynnig rhywfaint o amddiffyniad. Dysgwch hynny a allwch am y rhyngrwyd. Yn union fel y buasech yn dysgu eich plentyn am beryglon oddi wrth

ddieithriaid, rhybuddiwch eich plentyn am beryglon ar y rhyngrwyd a gosod rhai rheolau sylfaenol am yr amser maent yn ei dreulio ar-lein. Os oes modd, ceisiwch atal eich plentyn rhag mynd ar-lein yn breifat, neu o leiaf gwnewch yn siŵr y gallwch chi fynd at ei g/chyfrifiadur. Gofalwch fod plant yn gwybod na ddylent fyth drefnu i gyfarfod ffrind newydd a wnaed ar y rhyngrwyd heb i oedolyn y maent yn ymddiried ynddo/i fynd gyda hwy. Gwyliwch am arwyddion posibl o gamfanteisio neu gam-drin. Mae rhai o’r arwyddion hyn yn aml yn hollol ddiniwed, ond gwyliwch am newidiadau yn nhymer eich plentyn neu sut mae’n ymddwyn, diffyg cwsg neu wlychu’r gwely, cleisiau neu farciau, problemau yn yr ysgol, mynd ar goll neu anafu eu hun yn fwriadol, neu fod ag unrhyw ddefnydd pornograffig. Byddwch yn arbennig o ymwybodol o unrhyw gyfeillgarwch newydd rhwng eich plentyn â phobl hŷn, boed ddynion neu fenywod. Os caiff eich plentyn ei gam-drin, yn ysgafn neu’n ddifrifol, mae’n hollbwysig ei gefnogi 100%, gwneud yn glir nad oes bai arno/i a’ch bod chi yno i’w helpu a’i amddiffyn, waeth beth sy’n digwydd. Cadwch mewn cysylltiad Mae gan yr Heddlu a’r Gwasanaethau Cymdeithasol lleol dimau arbenigol sydd wedi eu hyfforddi yn arbennig i ymdrin â’r mathau hyn o gamfanteisio a chynnig cefnogaeth i blant a’u teuluoedd.

www.parentlineplus.org.uk • www.kidscape.org.uk • www.ceop.gov.uk • www.iwf.org.uk

25


Peidiwch byth â gadael plentyn ifanc ar ei ben ei hun Nid yw plant yn barod am gymaint â hyn o gyfrifoldeb Mae gadael plentyn ar ei ben ei hun yn ei adael yn agored i niwed Gall fod yn brofiad unig a brawychus Cynlluniwch â phwy y gallwch gysylltu am ofal mewn argyfwng

Synnwyr cyffredin Os nad yw plentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun gartref, gall fod yn brofiad trist, unig, brawychus a pheryglus. Mae llawer math o berygl, corfforol ac emosiynol, a allai gael effaith negyddol ar eich plentyn.

Man fydd mam yn mynd mas, fydda’i yn cloi’r drws o’r tu mewn… mae’n galw

trwy’r twll llythyrau i ddweud ta-ta, a bydda’i yn gadel y golau ymlaen rhag ofn y bydd

rhywun yn trio dod i mewn. Mae fel arfer yn dod i mewn yn y nos pan fydda’i yn cysgu.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

RHIFAU CYSWLLT

Rhieni heb lawer o gefnogaeth. Plentyn a welir yn aml y tu allan ac ar ei ben ei hun am gyfnodau maith o amser. Trefniadau gofal plant sy’n gyson yn mynd o’u lle.

Os oes perygl uniongyrchol o niwed i blentyn, galwch yr Heddlu.

Os ydych yn poeni am blentyn yn cael ei adael ar ei ben ei hun, siaradwch â’r rhiant, ymwelydd iechyd, athro/ athrawes neu weithiwr cymdeithasol.

Meddyliwch am rannu gwarchod a thrafod hyn gyda’r cymdogion, cyfeillion neu rieni eraill yr ydych mewn cysylltiad â hwy. Dewch i wybod am, glybiau ôl-ysgol a chynlluniau chwarae adeg gwyliau.

• Yr heddlu (mewn argyfwng) • NSPCC 0808 800 5000 • Llinell Rhieni a Mwy 0808 800 2222 • ChildLine 0800 1111 • Mynediad a Gwasanaeth (Gwasanaethau Cymdeithasol) 01792 635700 • Tîm Dyletswydd Tu Allan i Oriau (Gwasanaethau Cymdeithasol) 01792 775501 • Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 01792 517222

CYSYLLTIADAU GWE

26

www.nspcc.org.uk • www.parentlineplus.org.uk • www.childline.org.uk

Hefyd, mae lefel y cyfrifoldeb a roddir i’r plentyn i edrych ar ei ôl ei hun i ymdopi â beth bynnag all ddigwydd yn amhosibl i blentyn iau. Efallai y bydd yn dweud nad oes ots ganddo gael ei adael a bod hyn yn gyffrous i ddechrau, ond nid oes modd iddo sylweddoli’n llawn beth yw’r peryglon a sut i’w trin. Gall hyd yn oed y pethau gweddol gyffredin sy’n digwydd mewn bywyd, megis bod eisiau bwyd, storm, y ffôn yn canu neu rywun yn dod i’r drws, achosi problemau. Gallai damwain, salwch neu doriad pŵer ddigwydd ac nid yw’r rhain yn bethau y gallai plentyn ddelio â hwy.

Os cânt wybod, gall yr Heddlu a/neu y Gwasanaethau Cymdeithasol weithredu os ydynt yn meddwl fod plentyn wedi ei esgeuluso trwy gael ei adael ar ei ben ei hun. Mae esgeulustod yn digwydd pan fydd rhiant neu ofalwr yn methu â chwrdd ag anghenion sylfaenol plentyn am fwyd, cysgod, diogelwch, sylw neu amddiffyn rhag perygl. Rhoddodd yr NSPCC ganllawiau yn cynghori na ddylai plant dan 13 oed gael eu gadael ar eu pennau eu hunain. Er nad oes grym cyfraith i’r argymhelliad hwn, mae’n cael ei awgrymu fel arfer da. Nid yw plant dan yr oed hwn yn ddigon aeddfed i ymdopi â chyfrifoldeb cael eu gadael ar eu pennau eu hunain a gall hyn fod yn arbennig o wir os ydynt yn anabl o ran corff neu ddysg.

Mewn ardal yng nghanol dinas, prin, os byth, y mae modd gadael eich plant a chymryd yn ganiataol y bydd rhywun yn edrych ar eu hol yn ôl y galw, fel sy’n gallu digwydd mewn rhai cymdeithasau a diwylliannau.

27


Mae Dafydd

wedi gadael ei holl hen

ffrindiau ac yn dechrau mynd o gwmpas gyda chriw h n. Nawr mae’n

Troseddau ceir, dwyn a thrin nwyddau wedi eu dwyn yw’r troseddau mwyaf cyffredin a wneir gan bobl ifanc Mae lladrad yn cyfrif am lai na 2% o’r holl droseddau a gyflawnir gan bobl ifanc

prynu dillad a gemau a

Y prif resymau y mae pobl ifanc yn eu rhoi am droseddu yw diflastod a phwysau o du ffrindiau.

stwff, ond wnaiff e ddim

Mae pobl ifanc o gartref gyda theulu cefnogol yn llai tebygol o droseddu

dweud wrtha’i o ble mae’n cael yr arian.

Os tybiwch fod rhywbeth o’i le, siaradwch â’ch plentyn yn gynt yn hytrach nac yn hwyrach.

Ddylen i boeni?

Pa mor gyffredin ydyw? Mae lefelau troseddau ieuenctid y rhoddwyd adroddiad amdanynt wedi aros yn sefydlog dros y tair blynedd diwethaf, gyda 26% o bobl ifanc mewn ysgolion a 60% o ddisgyblion a eithriwyd o ysgolion yn dweud iddynt gyflawni trosedd yn y flwyddyn a aeth heibio. Troseddau ceir, dwyn a thrin nwyddau wedi eu dwyn yw’r troseddau mwyaf cyffredin a wneir gan bobl ifanc. Mae lladrad yn cyfrif am lai na 2% o’r holl droseddau a gyflawnir gan bobl ifanc. Atal pobl ifanc rhag troseddu Y prif resymau y mae pobl ifanc yn eu rhoi am droseddu yw diflastod a phwysau o du cyfoedion. Fel rhiant/gofalwr mae gennych chi gyfrifoldeb i ofalu am eich plentyn a’i helpu i wneud penderfyniadau am sut y bydd yn byw ei fywyd. Ni fyddwch yn droseddol gyfrifol am eich plentyn unwaith iddo/i gyrraedd deg oed.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

Mae llawer o arwyddion a allai ddangos fod rhywbeth o’i le. Efallai fod eich plentyn yn dod dan ddylanwad eraill, yn aros allan yn hwyr, wedi cael dillad newydd neu bethau eraill nad oes esboniad amdanynt, neu yn defnyddio cyffuriau ac alcohol.

Siaradwch â’ch plentyn am eich pryderon. Medrwch gael help a chyngor gan y Tîm Troseddu Ieuenctid lleol. Peidiwch ag anwybyddu’r broblem. Gall treulio mwy o amser gyda’ch plentyn yn gwneud pethau eraill helpu.

Ceisiwch gadw’n bwyllog; mae plant i gyd yn torri rheolau o bryd i’w gilydd, a rhai yn fwy felly nac eraill. Os byddwch yn gwneud rheolau, cadwch atynt.

Mae’n bwysig eich • Mynediad a bod yn ymddiddori Gwasanaeth yn eich plant. (Gwasanaethau Dylech wybod pwy Cymdeithasol) yw eu ffrindiau a sut 01792 635700 y maent yn gwneud • Info-Nation yn yr ysgol. Os 01792 484010 tybiwch fod • Bwrdd Cyfiawnder rhywbeth o’i le, Troseddol Cymru gwnewch rywbeth yn a Lloegr gynt yn hytrach nac 020 7271 3033 yn hwyrach.

CYSYLLTIADAU GWE

28

RHIFAU CYSWLLT

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymadrodd a ddefnyddir yn aml iawn y dyddiau hyn. Gall amrywio o hwyl diniwed i ymddygiad sy’n difrodi ac yn codi ofn. Os yw eich plentyn yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol mae nifer o gamau y gellir eu cymryd: Cerydd a rhybuddion terfynol Bydd trosedd gyntaf yn dwyn cerydd neu rybudd terfynol, yn dibynnu ar ddifrifoldeb y drosedd. Wedi un cerydd, bydd trosedd arall yn dwyn rhybudd terfynol neu gyhuddiad. Os bydd rhywun ifanc yn derbyn rhybudd terfynol, caiff ei gyfeirio at y Tîm Troseddu Ieuenctid lleol.

Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Gall y llysoedd roi’r gorchymyn hwn ar gais yr heddlu neu awdurdodau lleol yn erbyn unrhyw un o 10 oed neu’n hŷn yr ystyrir eu hymddygiad yn wrthgymdeithasol. Mae’r gorchymyn yn cyfyngu ar lle y gall rhywun ifanc fynd, beth fedr ei wneud neu na fedr, ac y mae’n drosedd torri amodau’r gorchymyn. Os yw rhywun ifanc yn parhau i droseddu a/neu riant yn gwrthod derbyn cefnogaeth yn wirfoddol, gellir gosod Gorchymyn Rhiantu. Golyga Gorchymyn Rhiantu fod yn rhaid i riant fynd i uchafswm o 12 sesiwn cefnogi rhieni. Os na wnânt, gallant gael eu dirwyo. Ceisir Gorchmynion Rhiantu fel arfer yn unig pan fydd pob cynnig o gefnogaeth wirfoddol wedi eu gwrthod. Gellir gwahodd eich plentyn hefyd i fynd ar ryw fath o wasanaeth “cyfiawnder adferol” i gyfarfod y rhai ddioddefodd yn sgil eu troseddau, neu i wneud gwaith yn y gymuned, e.e., glanhau’r graffiti y maent wedi ei wneud. Timau Troseddu Ieuenctid Siop dan yr unto yw Timau Troseddu Ieuenctid (TTI) i bob troseddwr ifanc. Caiff pob person ifanc sydd wedi troseddu ei asesu gan y TTI a bydd tîm o arbenigwyr yn gwneud penderfyniadau ynghylch pa gamau y dylid eu cymryd i sicrhau y bydd y troseddwr ifanc yn cadw allan o drwbl pellach. I gefnogi’r gwaith hwn, mae’r TTI yn cydweithio’n agos ag aelodau’r gymuned sydd yn gwirfoddoli ac yn cael eu hyfforddi i weithio gyda phobl ifanc i’w helpu i gadw allan o drwbl.

www.info-nation.org.uk/index.cfm?articleid=12233 • www.yjb.gov.uk/cy/default.htm

29


Mae ofn trosedd bron yn wastad yn fwy na nifer y troseddau Mae pobl yn eu harddegau yn fwy tebygol na’u rhieni o gael eu mygio Mae pobl ifanc heddiw yn cario eitemau gwerthfawr o gwmpas sy’n denu troseddwyr Yn hytrach nac atal eich plentyn rhag mynd allan, esboniwch sut i gadw’n ddiogel Dywedwch wrth eich plentyn am gadw pethau gwerthfawr o’r golwg Anogwch eich plentyn i fynd o gwmpas gyda grŵp o ffrindiau Bydd ymddwyn yn hyderus yn golygu y bydd eich plentyn yn ei arddegau yn llai tebygol o ddioddef ymosodiad

Dod i delerau

Efallai y gŵyr eich plentyn yn ei arddegau am rywun o’r un oed a ddioddefodd drosedd neu efallai iddi/o ddioddef ei hun. Efallai i’w ffôn gael ei ddwyn neu iddynt gael eu gorfodi i roi arian i rywun - cael eich mygio yw hyn. Efallai i rywun ymosod arnynt oherwydd eu crefydd neu liw eu croen, neu iddynt ddioddef dyrnu dwl.

Pan ddygwyd ffôn ffrind fy

merch, roedd arni ofn y byddai’r un peth

Gall fod yn demtasiwn ceisio amddiffyn eich plentyn yn ei arddegau trwy ei atal rhag mynd allan i unman, ond fydd hyn ddim o help - yr unig beth a wna yw peri iddi/o or-bryderu am drosedd. Mae’n well dysgu sut i fod yn ddiogel. Fel hyn, bydd yn teimlo’n fwy hyderus a fydd dim rhaid i chi boeni cymaint. Mae ofn trosedd bron yn wastad yn fwy na nifer y troseddau.

yn digwydd iddi hi. Felly fe ddangosais iddi sut i aros yn saff ac ymddwyn yn hyderus pan fydd allan. Nawr dyw hi ddim

yn poeni - na finnau chwaith.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

Gwyliwch am arwyddion fod eich plentyn yn ei arddegau mewn perygl o ddioddef trosedd, er engraifft, os yw’n hawdd gweld ei ffôn symudol a’i waled ac eiddo gwerthfawr arall, os yw’n gwisgo llawer o emwaith, neu os yw’n cerdded o gwmpas ar ei b/phen ei hun, yn enwedig yn y nos.

Gofalwch fod eich plentyn yn ei arddegau yn gwybod am y prif ddulliau o aros yn ddiogel pan fydd allan. Mae’n well iddynt deimlo’n hyderus bob dydd nac yn nerfau i gyd. Hefyd, gofalwch eich bod yn wastad yn gwybod lle mae eich plentyn.

Siaradwch â’ch plentyn yn dawel am y peryglon all godi pan fydd allan. Os byddwch chi’n ymddangos yn orbryderus am ddioddef trosedd, mae’n bosib iawn y bydd y plentyn hefyd.

Mae pobl yn eu • Info-Nation harddegau yn fwy 01792 484010 tebygol na’u rhieni o • Llinell Gymorth i gael eu mygio, felly Ddioddefwyr mae’n hanfodol eu 0845 0845 30 bod yn gwybod sut i • Llinell Rhieni gadw’n ddiogel. a Mwy 0808 800 2222 • Yr heddlu (999 mewn argyfwng)

CYSYLLTIADAU GWE

30

RHIFAU CYSWLLT

Mae llawer o gyngor y medrwch ei roi i’ch plentyn fel y gŵyr sut i gadw’n ddiogel: • Cadwch eich ffôn symudol, chwaraewr MP3 a’ch waled neu bwrs allan o’r golwg, gan fod y rhan fwyaf o bethau’n cael eu dwyn wrth gael eu defnyddio neu pan mae modd eu gweld. • Strapiwch eich bag ar draws eich brest a rhoi un llaw ar y strap. • Cariwch larwm ymosod personol clywadwy i’w ddefnyddio os ydych yn teimlo mewn perygl. • Trïwch fod gyda ffrind neu grŵp o ffrindiau drwy’r adeg, yn enwedig os ydych yn mynd i rywle newydd. • Cofiwch ymddwyn yn hyderus, hyd yn oed os nad ydych yn teimlo felly edrychwch yn fywiog a cherdded yn

falch ac yn fuan. Os byddwch yn edrych yn hyderus, rydych yn llai tebygol o ddioddef trosedd. • Cadwch at lwybrau troed a mannau wedi eu goleuo’n dda. Peidiwch byth â chymryd llwybr byr trwy lôn dywyll dim ond er mwyn cyrraedd adre’n gynt. • Os ydych yn tybio fod rhywun yn eich dilyn, croeswch i ochr arall y ffordd a dal i gerdded. Os ydych yn meddwl eu bod yn dal i’ch dilyn, anelwch am fan lle mae llawer o olau a digon o bobl. Gofynnwch am help o hyd os oes arnoch ei angen. • Os gwnaiff rhywun ymosod arnoch, sgrechiwch a gweiddi, ond rhowch yr eiddo i’r ymosodwr. Mae’n well dianc a bod yn ddiogel nac aros i ymladd a chael eich anafu. A dyma sut i gadw ffôn symudol yn ddiogel: • Peidiwch â’i ddangos i grwpiau o bobl. • Trïwch beidio â’i ddefnyddio pan fo llawer o bobl eraill o gwmpas. • Teipiwch *#06# i mewn i gael eich rhif IMEI, ac ysgrifennwch ef i lawr. Os caiff eich ffôn ei ddwyn, gallwch atal unrhyw un arall rhag gwneud galwadau arno. • Byddwch â rhif Pin sy’n hysbys i chi yn unig. • Cadwch y ffôn wedi ei gloi gyda’r rhif PIN oni bai eich bod yn ei ddefnyddio.

www.info-nation.org.uk/index.cfm?articleid=12233 • www.victimsupport.org • www.parentlineplus.org.uk

31


Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod lle mae eich plentyn yn ei arddegau Rhowch gefnogaeth y teulu - mae eich plentyn mewn perygl Gall cam-drin corfforol a rhywiol wneud i bobl ifanc redeg i ffwrdd Mynnwch help i’ch teulu

O’r cartref a’r ysgol Mae pobl ifanc wrth eu bodd yn gallu gwneud yr hyn maen nhw eisiau a rhan o hynny yw peidio â dweud wrthoch chi o hyd lle maent na bod yn atebol i chi.

Mae hyn yn iawn os ydych yn ymddiried yn eich gilydd ac y gallwch ddibynnu arno i fod yn synhwyrol a bod adref ar adeg yr ydych ill dau yn cytuno arno. Gall problemau godi os yw eich plentyn yn aml yn aros allan yn hwyr neu os bydd ar goll am noson neu ddwy, neu na fydd yn dweud wrthych lle mae wedi bod neu â phwy. Os digwydd hyn efallai ei fod yn trio cyffuriau neu alcohol a gall fod yn agored i gam-drin rhywiol neu fynd i drafferth gyda’r heddlu. Peidiwch â dychryn, ond trïwch siarad â’ch plentyn yn bwyllog a chefnogol.

Tydw i ddim yn bwriadu dal i’w bwrw, ond

mae hi’n fy ngwneud mor ddig pan nad yw’n gwneud beth rwy’n ddweud wrthi nes fy mod yn methu dal. Nawr wnaiff hi ddim siarad â mi na dweud wrtha’i lle

mae wedi bod.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

RHIFAU CYSWLLT

Mae aros allan yn hwyr, peidio â dweud wrthych lle mae wedi bod, peidio â dod adref yn y nos a pheidio â mynd i’r ysgol oll yn arwyddion y gall eich plentyn yn ei arddegau fod yn mynd i drwbl.

Bydd gosod rheolau sylfaenol fel pa amser i fod i mewn yn rhoi gwybod i’ch plentyn beth a ddisgwylir ohono. Efallai fod gan eich plentyn resymau dros beidio â bod eisiau bod adref, megis problemau teuluol neu gamdrin corfforol neu rywiol. Gadewch i’ch plentyn wybod eich bod yno os yw eisiau siarad am broblemau.

Os nad yw eich plentyn yn ei arddegau am fod gartref ac yn methu â siarad â chi am beth sy'n digwydd yn ei fywyd, mae angen i chi ailddechrau cyfathrebu. Dewiswch adeg pan fyddwch yn eistedd yn dawel gyda'ch gilydd gan drafod unrhyw faterion a sut gallwch ailadeiladu eich perthynas.

Siarad yw’r allwedd i berthynas dda. Os gŵyr eich plentyn yn ei arddegau y gall siarad â chi am unrhyw broblemau, mae modd trin y broblem cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Mater i chi yw cadw eich plentyn yn ddiogel, felly os oes gennych berthynas dda mae’n fwy tebygol o ddweud wrthych lle mae’n mynd a beth mae’n ei wneud.

• ChildLine 0800 1111 • Llinell Gymorth Genedlaethol Shelterline 0808 800 4444 • Llinell Gymorth Pobl ar Goll 0500 700 700 • Gwasanaeth Ar Goll o Ofal 020 8392 4527

CYSYLLTIADAU GWE

32

Unman yn debyg i gartref? Os ydynt yn treulio llawer o amser allan o’r tŷ a ddim eisiau bod adref gyda’r teulu, rhaid i chi edrych ar y rhesymau pam. A oes cwerylon adref? A oes problemau ariannol neu bersonol? A yw aelodau’r teulu yn cael trafferth siarad â’i gilydd yn dawel a synhwyrol? A ydych yn poeni am ffrindiau eich plentyn neu lle y gallant fod? A ydych wedi gosod rheolau teg fydd yn gwneud bywyd pawb yn haws?

peidiwch â dychryn. Ceisiwch ddeall pam ei fod yn ymddwyn fel hyn. Efallai nad yw’n teimlo ei fod yn cael y gefnogaeth mae ei angen gan y teulu neu fod camdrin meddyliol, corfforol neu rywiol. Os ydynt allan tan berfeddion nos a ddim eisiau dweud wrthych lle maent wedi bod, efallai eu bod yn cymysgu gyda phobl sy’n ymwneud â chyffuriau, alcohol, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu drosedd. Mae hefyd yn fwy tebygol o fod yn colli’r ysgol. Rhaid i chi ddweud wrth yr heddlu os aiff eich plentyn ar goll. Rhedeg i ffwrdd Mae rhedeg i ffwrdd yn alwad am help gan bobl ifanc. Mae’r rhan fwyaf yn rhedeg i ffwrdd oherwydd cwerylon neu drais yn y cartref, oherwydd beichiogrwydd, neu gam-drin corfforol a rhywiol. Dywed yr elusen Childline fod 37% o fechgyn a 63% o ferched sy’n eu galw oherwydd rhedeg i ffwrdd neu fod yn ddigartref hefyd wedi sôn am gael eu cam-drin yn gorfforol neu yn rhywiol. Os yw eich plentyn wedi rhedeg i ffwrdd a’ch bod eisiau dod o hyd iddo, cysylltwch â’r heddlu neu sefydliad lleol all helpu.

Beth allai ddigwydd? Os na ddaw eich plentyn adref pan fyddwch yn gofyn ac y bydd yn aml yn aros allan yn hwyrach, neu weithiau ddim yn dod adref o gwbl ac yn dweud ei fod wedi bod yn ‘aros gyda ffrindiau’,

www.childline.org.uk • www.housemate.org.uk/cym/home/cymraeg.aspx • www.missingpeople.org.uk

33


Mae eich plentyn yn cael ei warchod o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd

Pan wnes i ddarganfod fod Mari

yn anabl doeddwn i ddim yn gwybod sut

Mae’r Llywodraeth, eich cyngor lleol, yr awdurdodau addysg ac iechyd yno i helpu

i ymdopi. Doeddwn i ddim yn meddwl y

Efallai y medrwch gael help ariannol gyda gofalu am eich plentyn

gallwn i ei wneud ar fy mhen fy hun.

Mae llawer math o wasanaeth a chefnogaeth ychwanegol ar gael i chi a’ch plentyn

Ond yn fuan iawn, fe sylweddolais nad

oedd rhaid i mi.

Mae grwpiau cefnogi, grwpiau rhieni a chyrff eraill yno i’ch helpu i ymdopi

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun Os oes gan eich plentyn anabledd gall y dyfodol edrych yn ddu nid yn unig iddynt hwy, ond i chi hefyd. Cofiwch nad ydych chi a’ch plentyn ar eich pennau eich hunain. Mae’r Llywodraeth, y cyngor lleol, yr awdurdodau iechyd ac addysg yn darparu amrywiaeth o fudd-daliadau, cyfleusterau, cefnogaeth a chyngor i blant anabl a’u gofalwyr. Gwarchodaeth gyfreithiol Mae’r gyfraith yn gwarchod eich plentyn yn arbennig. Mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn ei gwneud yn anghyfreithlon i unrhyw ddarparwr gwasanaeth (gan gynnwys ysgolion, busnesau a sefydliadau) i drin pobl anabl yn llai ffafriol na phobl eraill oherwydd eu hanabledd. Mae hefyd yn mynnu eu bod yn gwneud addasiadau rhesymol fel y gall pobl anabl fynd at eu gwasanaethau.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

RHIFAU CYSWLLT

Mae anableddau rhai plant yn cael eu canfod yn weddol fuan. Mae eraill yn ymddangos yn raddol neu’n digwydd yn sydyn. Os ydych chi’n meddwl fod gan eich plentyn ryw fath o anabledd, cysylltwch â’ch ymwelydd iechyd neu feddyg am gyngor.

Peidiwch â meddwl fod yn rhaid i chi fod ar eich pen eich hun. Mynnwch gymaint o wybodaeth ag y gallwch am gyflwr eich plentyn. Dewch i wybod pa wasanaethau, cefnogi, budddaliadau a chyngor sydd ar gael, a dewch i gysylltiad.

Mae llawer o gyrff wedi eu sefydlu yn unswydd i roi cefnogaeth a chyngor i rieni plant anabl. Cysylltwch â hwy a dywedwch eich hanes. Fe fydd eraill allan fan’na yr un fath â chi.

Allwch chi ddim atal cyflwr eich plentyn. Ond gallwch liniaru’r anabledd a deimlant trwy ofalu cael y gefnogaeth orau, a chofio fod ganddynt hawliau.

• Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 01792 517222 • Meddyg neu Ymwelydd Iechyd • Llinell Gymorth Gofalwyr 0808 808 7777 • Galw Iechyd Cymru 0845 4647 • Llinell Ymholiadau am Fudd-daliadau 0800 88 22 00

CYSYLLTIADAU GWE

34

Iechyd O’r cychwyn, bydd eich meddyg a’r gwasanaeth iechyd lleol yno i chi. Fe fyddan nhw’n rhoi’r help a’r cyngor mae arnoch ei angen i ddarganfod ac asesu anabledd eich plentyn. Fe fyddant yn helpu i gynllunio’r driniaeth, y therapi, y cyfarpar a’r gofal meddygol y bydd ar eich plentyn eu hangen. Budd-daliadau Mae llawer budd-dal penodol y gallech dderbyn i’ch helpu gyda chostau gofalu am blentyn anabl. Ymysg y rhain mae Lwfans Byw i’r Anabl, Lwfans Gofalwyr, help gyda chostau tai ychwanegol a

chynllun Bathodyn Glas Gofalwyr. A chofiwch y driniaeth ddeintyddol a phresgripsiynau am ddim, help gyda chost sbectol, a than rai amgylchiadau, teithio i’r ysbyty, prydau ysgol, a hyd yn oed eithriad o dreth car. Addysg Yn dibynnu ar y math o anabledd, gall eich plentyn elwa fwyaf o fynd i ysgol arbennig - amgylchedd a gynlluniwyd yn benodol i gyfateb i anghenion arbennig. Neu fe all eich plentyn dderbyn cefnogaeth ychwanegol trwy ddarpariaethau anghenion arbennig sydd ar gael mewn ysgol prif-ffrwd. Bydd eich awdurdod addysg a’r darparwyr gwasanaeth iechyd yn helpu i asesu anghenion addysgol arbennig eich plentyn ac argymell y ffordd fwyaf addas ymlaen ar gyfer ei addysg. Cefnogaeth ychwanegol Gall eich cyngor roi cefnogaeth ychwanegol i chi a’ch plentyn. Gall hyn gynnwys cyfleusterau hamdden arbennig a seibiant byr, cymhorthion ac addasiadau a llawer o wasanaethau ychwanegol ar gyfer anghenion penodol. Hefyd, mae llawer o sefydliadau ac elusennau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol wedi eu sefydlu yn unswydd i roi mwy o help, cyngor a chefnogaeth i bobl yn union fel chi. Cadwch mewn cysylltiad Dydych chi ddim ar eich pen eich hun, felly cysylltwch heddiw a chael y gefnogaeth sydd arnoch ei hangen.

www.carersuk.org • www.nhsdirect.nhs.uk • www.mencap.org.uk

35


Mae plant yn gwneud yn dda pan fydd eu rhieni neu eu gofalwyr yn rhoi safon uchel o ofal iddynt ac ambell waith mae ar rieni a gofalwyr angen help i wneud hyn Gall plant fod ‘mewn angen’ am amrywiaeth o resymau Mae ‘Gweithdrefnau Plant mewn Angen’ Abertawe yno i ofalu fod plant yn cael y gwasanaethau a’r gofal iawn Trwy ddwyn y plentyn, y rhieni neu’r gofalwyr a’r holl ddarparwyr gwasanaeth perthnasol ynghyd, y nod yw darganfod y problemau a’u datrys yn gynnar ac yn llwyddiannus Mae angen caniatâd yn wastad gan rieni a gofalwyr i rannu gwybodaeth ymysg grwpiau o weithwyr proffesiynol, oni fydd plentyn mewn perygl dirfawr Mae gan blant hawl i gael eu hanghenion sylfaenol wedi eu diwallu a chael eu hamddiffyn rhag cam-drin ac esgeulustod

Gweithio ynghyd dros ein plant

Roeddwn i’n wastad eisiau bod yn fam dda, ond roedd yn anodd cadw trefn ar

bopeth. O’r diwedd, fe gefais help, a chredech chi ddim y gwahaniaeth wnaeth e. Rwy mor

falch o’r hyn rydyn ni wedi ei gyflawni. Rydyn ni’n deulu eto.

36

ARWYDDION RHYBUDDIO

ACHOSION POSIBL

BETH I’W DDWEUD

ATAL

RHIFAU CYSWLLT

Colli apwyntiadau iechyd, peidio â chwrdd ag anghenion sylfaenol, problemau ymddygiad, peidio â mynd i’r ysgol neu fethu â dod ymlaen yn yr ysgol, peidio edrych ar ôl eu hunain a niweidio eu hunain yn fwriadol.

Teulu’n chwalu, anabledd plentyn neu aelod arall o’r teulu, trais yn y cartref, rhieni yn defnyddio cyffuriau neu alcohol, neu broblemau iechyd meddwl.

Trïwch helpu eich plentyn gystal ag y gallwch, ond os oes problemau na fedrwch eu goresgyn, mynnwch help ar unwaith gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, eich meddyg neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill. Trïwch ddweud wrthynt beth sy’n digwydd mor agored a gonest ag y gallwch. Byddwch yn rhan o bob cyfarfod a chyfweliad.

Po gynharaf y ceisiwch help, llai o ddifrod a wneir a bydd yn haws datrys yr anawsterau yr ydych chi a’ch plentyn yn eu hwynebu.

• Mynediad a Gwasanaeth (Gwasanaethau Cymdeithasol) 01792 635700 • Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 01792 517222 • Trafodwch eich pryderon gydag unrhyw asiantaeth sy’n ymwneud â’ch teulu. • Siaradwch â’ch ymwelydd iechyd neu ysgol eich plentyn

Pwy yw ‘Plant mewn Angen’? Mae pob math o blant a theuluoedd yn wynebu amrywiaeth o anawsterau, pan fydd angen help i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel ac yn cael cymorth. Gall yr anhawster godi o anabledd neu chwalu’r teulu neu o anawsterau sy’n dod i ran llawer o rieni wrth ymateb i anghenion newidiol eu plentyn. Gall yr help y mae ar blant a theuluoedd ei angen ddod o lawer adran ac asiantaeth wahanol, felly nod ‘Gweithdrefnau Plant mewn Angen’ Abertawe yw dwyn ynghyd yr holl asiantaethau all gynnig help. Y nod yw ateb anghenion plant a theuluoedd yn ein cymuned cyn i broblem droi’n argyfwng. Sut mae’r cyfan yn gweithio Pan fydd pobl broffesiynol yr ydych chi mewn cysylltiad â hwy yn dod yn ymwybodol fod arnoch angen help i ateb anghenion eich plentyn, fe fyddant yn siarad â chi am sut y gallant helpu. Os nad oes modd i’w hasiantaeth hwy roi’r gwasanaeth neu’r cyngor iawn, fe fyddant yn gofyn eich caniatâd i ofyn i asiantaeth arall i helpu. Os bydd ar nifer o asiantaethau angen gwneud cynllun gyda chi i gwrdd ag anghenion eich plant, fe allant alw cyfarfod, y cewch chi wahoddiad iddo, a lle cewch gefnogaeth i rannu eich barn. Yn y cyfarfod hwn,

byddwch chi, eich plentyn a chynrychiolwyr o wahanol asiantaethau yn gweithio ynghyd i ddarganfod ffordd lwyddiannus ymlaen i oresgyn eich anawsterau unigol. Bydd cynlluniau a wneir mewn cyfarfod plant mewn angen yn cael eu hysgrifennu a’u hadolygu o fewn cyfnod penodedig o amser. Ffocysu ar y teulu Byddwn yn ymgynghori’n llawn gyda chi a’ch plentyn, a chewch eich annog i ddod i unrhyw gyfarfodydd sy’n cael eu cynnal ynglŷn â’ch sefyllfa. Yn ôl y gyfraith, mae pob gwybodaeth am eich teulu yn cael ei drin yn hollol gyfrinachol, a bydd angen eich caniatâd chi i wybodaeth gael ei rhannu, onid oes pryderon difrifol am ddiogelwch eich plentyn. Ar unrhyw adeg, mae gennych chi a’ch plentyn yr hawl i fynegi eich barn a chael esboniad am unrhyw fater. Cadwch mewn cysylltiad Sefydlwyd y ‘Polisi a Gweithdrefnau Plant mewn Angen’ i helpu plant a theuluoedd. Os ydych yn teimlo y gall eich plentyn fod mewn angen, cofiwch nad ydych ar eich pen eich hun. Dewch i gysylltiad trwy ddefnyddio’r manylion ar y dudalen gyferbyn neu mynnwch air â’ch ymwelydd iechyd neu ysgol eich plentyn.

37


Rhannwch y golled Ers i’w dad farw, mae fy mab fel petai wedi diflannu i’w

Mae colled neu farwolaeth yn effeithio ar bawb mewn ffyrdd gwahanol

fyd bach ei hun. Mae arna’i eisiau ei helpu gymaint, ond wn i ddim

Mae siarad yn helpu i liniaru’r boen

beth i’w wneud, dyw e ddim am siarad â mi.

Bydd deall y broses alaru yn helpu’ch plentyn Byddwch yno i’ch gilydd

Ymdopi â galar Mae colled, megis ysgariad neu wahanu oddi wrth gariad, rhywun yn gadael neu yn marw, yn anodd i bawb. Gall marwolaeth rhywun annwyl ymddangos yn llethol. Gall marwolaeth anifail anwes fu’n rhan o’r teulu neu golli cyfaill agos sy’n symud i ffwrdd hefyd beri llawer o loes i blant. Bydd llawer o amynedd a dealltwriaeth yn eu helpu trwy eu galar.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

Mae pawb yn ymateb yn wahanol i farwolaeth ac fe gymer fwy o amser i rai pobl ddygymod â’r golled. Rhowch gymaint o amser ac amynedd ag sydd ei angen ar y plentyn, ond os ydych yn meddwl fod yno anawsterau tymor hir, efallai y carech feddwl am gael sgwrs â chwnselydd profedigaeth.

Cymerwch eich arweiniad gan eich plentyn. Efallai nad chi yw’r person hawsaf iddynt siarad ag ef, felly anogwch eraill i fod ar gael. Ond rhowch wybod yn wastad eich bod chwithau ar gael hefyd os oes eich angen arno.

Efallai fod eich plentyn yn meddwl ei bod yn rhy boenus i chi siarad am rywun annwyl sydd newydd farw. Gadewch iddo wybod fod yna adegau pan ydych eisiau siarad. Mae siarad am rywun sydd wedi marw yn help i gadw ei h/ysbryd yn fyw. Cofiwch roi gwybod i’r plentyn ei bod yn iawn chwerthin neu gael hwyl - dyw hyn ddim yn golygu eich bod yn galaru llai.

Daliwch i • Cruse Abertawe gyfathrebu, 01792 462845 oherwydd po fwyaf y • Gofal mewn Galar byddwch yn siarad, 0844 477 9400 hawsaf fydd y • Winston’s Wish broses o wella. Fel 08452 03 04 05 rhiant, gallwch helpu eich plentyn drwy’r cyfnod anodd hwn. Gallwch ddweud wrtho os bu rhywun yr oeddech chi’n ei adnabod wedi marw, a sut yr oeddech yn teimlo.

CYSYLLTIADAU GWE

38

RHIFAU CYSWLLT

Does dim un ffordd iawn neu anghywir i ymateb ac y mae pawb yn ymateb yn wahanol. Mae eich plentyn yn debyg o fynd trwy ystod o emosiynau: • Teimlo’n ddiffrwyth wrth geisio sylweddoli nad yw rhywun yn wir am ddod yn ôl. • Dicter at y sawl sydd wedi gadael neu farw, atoch chi, at eraill neu ei hunan. • Beio’i hun am y golled. Meddwl y gall fod wedi gyrru rhywun ymaith. • Euogrwydd, beio’i hun, o bosibl, mewn rhyw ffordd, neu deimlo’n euog am nad ydynt yn teimlo eu bod yn galaru ‘digon’. • Ofn fod y byd cyfarwydd wedi newid am byth. • Tristwch am na fydd yn gweld yr unigolyn fyth eto. • Rhyddhad, os oedd y sawl fu farw mewn poen neu yn dioddef. • Iselder, teimlo fod bywyd wedi colli ei holl ystyr.

Gall ymddygiad y plentyn newid wrth iddo drin ei emosiynau a cheisio dod i delerau â’r golled. Gall fod yn anodd iddo ymdopi â phethau byw bob dydd. Gall fynegi ei ddicter yn eich erbyn chi, neu greu trafferth yn y feithrinfa. Mae llawer ffurf ar alar. Sut y gallwch helpu Siaradwch â’ch plentyn gymaint ag y dymuna am beth ddigwyddodd, ond efallai y bydd hyn yn anodd, felly anogwch gyfeillion neu athro/athrawes i fod yno i’r plentyn hefyd. Gall elwa hefyd o siarad â chwnselydd profedigaeth. Gofalwch fod y feithrinfa’n gwybod am y golled ac y bydd angen amser, dealltwriaeth a help wrth i’r plentyn weithio drwy’r brofedigaeth. Mae gan Cruse, Gofal mewn Galar, hefyd wefan wedi ei hanelu yn benodol at bobl ifanc. Os ydych chwithau hefyd yn dioddef, yna fe fydd yn arbennig o anodd i chi nid yn unig i ymdopi â’ch emosiynau eich hun, ond rhai eich plant yn ogystal. Ceisiwch ddal i siarad â’ch gilydd, er mwyn rhannu eich galar, yn hytrach na bod pob un ohonoch yn galaru’n unig. Gall eich plentyn fod yn rhy ifanc i ddeall beth sydd wedi digwydd mewn gwirionedd, felly peidiwch â disgwyl iddo alaru yn yr un ffordd â chi.

www.crusebereavementcare.org.uk • www.winstonswish.org.uk

39


Nid pob mam sy’n dod i delerau yn syth â bod yn fam Mae’r rhan fwyaf o famau yn dioddef ‘blws y babi’ yn y deg diwrnod cyntaf Cynharach y cewch help, cynharaf y teimlwch yn well Siaradwch â’ch bydwraig neu’ch ymwelydd iechyd am eich pryderon Manteisiwch ar help eich teulu a’ch cyfeillion

Roedd gen i bopeth - cartref,

g r cariadus a merch fach annwyl. Ac eto roeddwn i’n teimlo’n

ddiwerth ac yn ddiamddiffyn.

Adnabod yr arwyddion Mae gofalu am eich baban yn brofiad hyfryd, ond i rai mamau ar adegau yn ystod y dyddiau, wythnosau neu fisoedd cyntaf, nid yw fel yr oeddent yn disgwyl. Blŵs y babi Mae rhyw 50-80% o famau newydd yn cael ‘blŵs y babi’ pan fyddant yn teimlo yn flinedig iawn, yn poeni ac yn ddagreuol am y dyddiau cyntaf wedi’r geni - a dim rhyfedd. Mae hyn fel arfer yn diflannu heb fod angen triniaeth ryw ddeg diwrnod wedi’r geni, ac y mae’n eithaf normal.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

RHIFAU CYSWLLT

Mae’n arferol teimlo’n emosiynol ac yn flinedig iawn ar ôl cael baban, ond ymysg symptomau IWG mae llefain cyson, teimlo wedi eich torri ymaith oddi wrth bawb arall, methu cysgu, teimlo’n bryderus a llawn tyndra methu closio at eich baban.

Os ydych yn teimlo’n isel, peidiwch â cheisio ymdopi ar eich pen eich hun a pheidiwch â bod ofn gofyn am help mae ar bob mam newydd angen help gan deulu a chyfeillion. Peidiwch â phoeni am gadw’r tŷ yn lân neu wneud prydau mawr - gorffwyswch pan fydd eich baban yn cysgu.

Os ydych yn teimlo na allwch ymdopi, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd, bydwraig neu feddyg - a pheidiwch â theimlo cywilydd neu’n ddrwg am nad ydych yn trin bod yn fam cystal ag y mae mamau eraill yn ymddangos. Siaradwch â mamau eraill - fwy na thebyg, mae pethau’r un mor anodd iddyn nhw.

Er bod mwy o bobl yn awr yn gwybod am IWG, dim ond rhyw hanner y mamau sydd angen help sy’n ei gael. Felly peidiwch â chadw eich teimladau i chi’ch hun - cynharach y soniwch am y peth, cynharach y cewch help a thriniaeth os oes arnoch ei hangen.

• Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 01792 517222 • Eich Meddyg, Bydwraig neu Ymwelydd Iechyd • Cymdeithas Salwch Wedi Geni 020 7386 0868

CYSYLLTIADAU GWE

40

Iselder wedi geni (IWG) Bydd rhyw 10-15% o fenywod yn cael iselder gwaeth, weithiau wythnosau neu fisoedd ar ôl geni eu baban. Mae tua hanner yr achosion yn digwydd yn y tri mis cyntaf, a 75% o achosion erbyn y chweched mis. Mae’r mamau hyn yn cael symptomau cryfach sy’n para’n hwy, megis: • Llefain drwy’r amser • Pryder, tyndra • Anhawster closio at y baban. • Colli diddordeb mewn rhyw. • Trafferth cysgu, bod yn aflonydd. • Teimlo’n flinedig iawn. • Teimlo’n hollol unig neu yn byw mewn ‘swigen’. • Teimladau o euogrwydd a dicter.

mae arnynt ei angen. Yn aml, menywod sy’n disgwyl llawer ganddynt eu hunain ac o fod yn famau sydd yn cael gofalu am faban newydd yn waith anodd. Os ydych yn teimlo’n isel, mae’n bwysig iawn rhoi gwybod i’ch teulu a’ch ffrindiau sut yr ydych yn teimlo er mwyn i chi gael help. Gall eich meddyg sôn am wahanol fathau o driniaeth gyda chi, megis cwnsela a chyffuriau gwrth-iselder. Gallwch hefyd ddod i wybod am grwpiau mamau lleol a all fod o gymorth mawr i famau newydd gan eich meddyg, bydwraig neu ymwelydd iechyd. Cael cefnogaeth Mae bod gartref gyda baban newydd sydd fel pe bai wastad angen ei fwydo a’i newid, sy’n mynnu eich sylw i gyd ac sy’n eich gadael chi wedi blino’n lân, yn brofiad unig iawn. Manteisiwch ar unrhyw gynigion o help a chefnogaeth gan ffrindiau a theulu. Os ydych yn teimlo nad ydych yn dod i ben, cofiwch siarad â’ch meddyg, ymwelydd iechyd neu fydwraig. Peidiwch â theimlo cywilydd gofyn am help. Mae IWG yn gyffredin iawn, ac mae modd ei drechu bron yn syth gyda’r help iawn. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.

Mae llawer o fenywod heb sylweddoli mai iselder wedi geni sydd arnynt ac y maent yn ceisio bwrw ymlaen heb gael yr help y

www.pni.org.uk • www.apni.org

41


Gall trais yn y cartref effeithio ar blant yn ddifrifol a gall yr effaith bara am amser maith Lle bo trais yn y cartref, mae plant yn aml yn cael eu cam-drin Gall plant weithiau feio eu hunain am broblemau yn y teulu Mae bron i draean o gam-drin yn y cartref yn dechrau adeg beichiogrwydd

Fe wnes i

gripad lawr y staer am fy mod i’n clywed cweryla. Roedd dad yn

Sut mae’n effeithio ar blant?

sefyll dros ben mam ac yn ei Trosedd yw trais yn y cartref sy’n digwydd mewn teuluoedd neu berthynas agos. Mae sefyllfa pawb yn wahanol ond mae pob ffurf ar gam-drin yn y cartref yn deillio o angen y treisiwr i deimlo grym a rheolaeth dros aelodau’r teulu. Mae unrhyw un sy’n cam-drin ei g/chymar yn peryglu’r teulu cyfan.

chicio. Fe wnes yn siwr nad oedd fy chwaer yn gweld, ond fe wnaethon ni glywed. Pan ddaeth mam lan y staer, roedd ei thrwyn yn gwaedu ac

Mae trais yn y cartref yn gyffredin, gan effeithio ar un o bob pedwar o fenywod yn ystod eu hoes. Mae hefyd yn digwydd mewn perthynas rhwng yr un rhyw. Gall dynion ddioddef hefyd.

yr oedden ni i gyd yn llefain, ac fe wnaethon ni aros yno nes i dad

fynd mas.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

RHIFAU CYSWLLT

Bydd unrhyw drais rhwng oedolion yn effeithio’n negyddol ar blant. Mynnwch gefnogaeth a help cyn gynted ag y bo modd. Po hwyaf mae’n para, mwyaf o ddifrod mae trais yn ei wneud.

Soniwch wrth yr Heddlu am eich pryderon amdanoch chi neu rywun arall. Os ydych yn poeni y gall hyn effeithio ar eich plentyn, siaradwch â hwy am yr hyn sy’n digwydd. Treuliwch amser yn siarad gyda’ch gilydd am eu pryderon.

Mae ar blant angen amser i drafod y teimladau sydd ganddynt am drais. Mae angen i blant wybod nad eu bai hwy ydyw ac nad fel hyn y dylai perthynas fod.

Dylai’r cymar treisgar gymryd cyfrifoldeb am y trais a’r cam-drin trwy geisio help i roi’r gorau iddi. Cynigiwch esiampl gadarnhaol i blant fel eu bod yn dysgu ffyrdd eraill o ymddwyn. Mae Cynllun Diogelwch yn helpu i’ch amddiffyn chi a’ch plant.

• Llinell Gymorth Trais yn y Cartref Abertawe 0808 80 10 800 • NSPCC 0808 800 5000 • 999 (mewn argyfwng) • Llinell Rhieni a Mwy 0808 800 2222 • Llinell Gymorth i Ddioddefwyr 0845 30 30 900

CYSYLLTIADAU GWE

42

Mae plant yn gwybod am drais yn y cartref hyd yn oed pan fo’r rhieni yn dweud nad ydynt yn cweryla o’u blaen. Gall gweld cam-drin yn y cartref wneud difrod emosiynol a gall y trais niweidio’r plant. Weithiau, mae plant yn cael eu defnyddio gan y camdriniwr i roi pwysau ar y dioddefwr, er enghraifft, i gadw rhywun yn y berthynas dreisgar. Mae’r rhan fwyaf o rieni eisiau amddiffyn eu plant ond mae cam-drin yn y cartref yn eu hatal rhag gwneud eu gorau am eu bod yn wastad yn flinedig ac yn anhapus. Mae dioddefwyr weithiau yn defnyddio alcohol a chyffuriau fel ffordd o ymdopi â’r camdrin, yn fwy felly os ydynt yn teimlo’n unig. Gall cam-drin yn y cartref wneud i blant deimlo’n ofnus ac yn encilgar. Gall darfu ar gwsg, tarfu ar eu bywyd ysgol ac achosi problemau wrth wneud ffrindiau. Gall arwain at ddiffyg hunanhyder, iselder ac anawsterau wrth ffurfio perthynas. Gall

plant hefyd deimlo fod taro neu weiddi yn ffordd dda o roi diwedd ar ddadl. Mae cefnogaeth o’r tu allan i’r teulu yn helpu plant. Felly hefyd berthynas dda gyda’r rhiant nad yw’n cam-drin a phrofiadau cadarnhaol y tu allan i’r cartref - yn enwedig yn yr ysgol. Mae’n beth da siarad â’r ysgol neu’r feithrinfa am brofiadau eich plentyn gartref. Caiff hyn ei drin yn gyfrinachol ac fe fydd yn helpu eich plentyn. Nid yw dianc rhag cam-drin yn hawdd. Bydd llawer o ddioddefwyr yn gadael ac yn dychwelyd lawer gwaith cyn torri’n rhydd. Ond mae gwasanaethau all helpu. Ymysg y rhain mae Llochesi, sef tai diogel lle gall menywod a phlant fyw ymhell o’r camdrin. Mae llochesi a rhai gwasanaethau allgymorth hefyd yn rhoi help i blant ymaddasu i adael. Os ydych wedi gwahanu oddi wrth eich cymar, ac eisiau teimlo’n ddiogel yn y cartref, gallwch ofyn i’r cyngor lleol am fanylion am sut i aros yn ddiogel yn eich cartref. Gall y llinellau cymorth eich helpu i gynllunio sut i adael mewn argyfwng a dod o hyd i le diogel. Os byddwch yn gadael ar eich pen eich hun, gofalwch wneud hynny’n ddiogel fel nad oes modd dod o hyd i chi’n hawdd. Gwnewch gynllun diogelwch mewn argyfwng i’ch cadw chi a’ch plant yn ddiogel. Gofalwch eich bod yn gwybod sut i gael help mewn argyfwng unrhyw bryd.

www.womansaid.org.uk • www.refuge.org.uk • www.nspcc.org.uk • www.parentlineplus.org.uk

43


Ddywedodd hi ddim, ond

Mae gofalwyr ifanc yn cael eu gwarchod gan Ddeddf Plant 1989; Deddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995 a Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000

roeddwn i’n gallu dweud fod gorfod gofalu amdana’i yn cael effaith ar Jessie. Ond sut

Mae’r Llywodraeth, eich cyngor lleol, yr awdurdodau addysg ac iechyd yno i helpu a byddant yn gweithredu unwaith iddynt gael gwybod am y mater

oedd modd i mi ofalu am fy merch, a hithau’n gofalu amdana’i a’i brawd

Mae llawer math o gefnogaeth ar gael i chi a’ch plentyn ymdopi â gofalu

bach? Fe wnes rai galwadau ffôn a

Rydych yn llawn gofal am eich gofalwr ifanc! Felly dewch i gysylltiad â’r grwpiau cefnogi a’r sefydliadau sydd yno i helpu

darganfod, hyd yn oed gyda fy salwch, y gallwn

ddal i fod yn rhiant da.

Gweithio gyda’n gilydd Mae ar lawer o bobl angen gofal arbennig yn eu cartrefi. Efallai eu bod yn wael, yn anabl neu’n oedrannus, neu fod ganddynt broblemau cyffuriau neu alcohol. Gall gofal gan aelod o’r teulu fod o gymorth. Pan fo’r gofalwr yn blentyn neu’n oedolyn ifanc, mae’n bwysig iawn gwneud yn siŵr ei f/bod yn cael popeth angenrheidiol hefyd. Os yw eich plentyn yn gofalu, amdanoch chi neu aelod arall o’r teulu, mae’n hollbwysig nad yw’n dioddef oherwydd y gofal. Yn bwysicaf oll, dywedwch wrth eich Adran Gwasanaethau Cymdeithasol lleol, a’ch Awdurdodau Addysg ac Iechyd lleol am hyn. Does dim rhaid i chi ymdopi ar eich pen eich hun; gallant eich helpu chi’ch dau i gael y gefnogaeth a’r cyngor y mae arnoch ill dau ei angen.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

RHIFAU CYSWLLT

Mae bod yn hwyr gyda gwaith cartref, colli’r ysgol, teimlo’n flinedig drwy’r amser ac ymddwyn yn anarferol yn gallu bod yn arwyddion fod eich plentyn yn cael rôl gofalu yn anodd. Mae’n bwysig iawn eich bod yn siarad â’ch plentyn ac yn gwrando fel y gallwch gymryd camau i’w helpu i ymdopi.

Peidiwch â thybio fod yn rhaid i chi a’ch plentyn ymdopi â phethau ar eich pen eich hun. Mynnwch hynny o wybodaeth ag y gallwch, a dewch i wybod pa wasanaethau, cefnogaeth, budddaliadau a chyngor sydd ar gael. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun cysylltwch!

Gofalwch fod eich Adran Gwasanaethau Cymdeithasol lleol, eich Awdurdodau Iechyd ac Addysg lleol, a’ch meddyg, yn gwybod beth sy’n digwydd a dywedwch wrthynt os bydd unrhyw beth yn newid.

Gall bod yn ofalwr ifanc gael effaith andwyol ar iechyd, addysg a lles. Medrwch atal hyn trwy wneud yn siŵr fod ganddynt y gefnogaeth a’r cyngor gorau sydd ar gael.

• Llinell Gymorth Gofalwyr 0808 808 7777 • ChildLine 0800 1111

CYSYLLTIADAU GWE

44

Iechyd Weithiau gall gofalwyr ifanc fod mor brysur yn edrych ar ôl eraill fel eu bod yn anghofio gofalu amdanynt eu hunain, a gallant fynd yn wael, dan straen neu yn isel. Y ffordd orau o osgoi hyn yw cael help gan eich meddyg a’ch Awdurdod Iechyd Lleol. Rhowch wybod iddynt beth sy’n digwydd fel y gallant roi’r help a’r cyngor y mae arnoch ill dau ei angen. Cefnogaeth ychwanegol Gall eich cyngor roi cefnogaeth ychwanegol i ofalwyr. Gall hyn gynnwys seibiant arbennig i ofalwyr a gwasanaethau cefnogi ychwanegol ar gyfer anghenion penodol. Mae hefyd lawer o sefydliadau lleol a chenedlaethol wedi eu sefydlu i helpu gofalwyr ifanc a’u rhieni.

Addysg Fe fyddwch am iddynt wneud yn dda yn yr ysgol. Mae llawer gofalwr ifanc yn cael canlyniadau da, ond dangosodd ymchwil y gall gofalu gael effaith andwyol ar addysg. I helpu i atal hyn, mae’n bwysig fod eich Awdurdod Addysg Lleol a’r ysgol yn cael gwybod fod y plentyn yn gofalu. Fel hyn gallant roi mwy o help os bydd angen a byddant yn deall ac yn rhoi cefnogaeth.

www.carersuk.org • www.childline.org.uk

45


Rwy’n llawn cyffro dros fy mab nawr ei fod yn gadael

Pan fydd yn penderfynu gadael cartref, gofalwch fod eich plentyn yn ei arddegau yn barod

cartref, ond rwy’n poeni hefyd am sut y bydd yn ymdopi â thalu’r

rhent a’r biliau. Dyw e erioed wedi gorfod trin arian o’r blaen.

Dysgwch ef am gost pethau Gofynnwch iddo gadw mewn cysylltiad Mynnwch gefnogaeth gan y teulu a chyfeillion pan fydd yn gadael

Bod yn barod Pan fydd eich plentyn yn gadael cartref i fyw oddi wrthoch chi am y tro cyntaf, mae’n gam mawr i’r ddau ohonoch. Efallai ei fod yn mynd i addysg bellach mewn coleg neu brifysgol mewn tref neu ddinas arall, neu i hyfforddi neu weithio. Mae hyn yn golygu bod eich perthynas yn symud i gyfnod gwahanol. Gall y newid fod yn gyffrous ac anodd i chi’ch dau.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

Gall problemau gartref olygu eich bod ill dau yn dymuno fod y plentyn yn byw yn rhywle arall. Trïwch drafod a datrys problemau po hwyaf y bydd eich plentyn yn ei arddegau yn byw gartref, mwyaf parod y bydd pan fydd yn symud allan. Os yw eich plentyn yn awyddus i adael cartref, gofalwch ei fod yn gwybod yn union beth i’w ddisgwyl pan fydd yn gorfod edrych ar ôl ei hun.

Gwnewch yn siŵr eu bod yn barod i fyw oddi cartref. Mae hyn yn golygu dysgu sut i gyllidebu, sut i goginio prydau iach, dysgu am gadw’n ddiogel a dysgu byw gydag eraill.

Ceisiwch eu cael i siarad am unrhyw bryderon ynghylch byw oddi cartref. Atgoffwch hwy, os byddant yn teimlo’n unig y gallant yn wastad eich ffonio a dychwelyd adref i ymweld. Dylent hefyd allu siarad â’u coleg, prifysgol, man hyfforddi neu waith.

Siaradwch â hwy • Info-Nation am adael cartref yn 01792 484010 rhy fuan neu os • Connexions Direct ydych yn teimlo eu 080 800 13 2 19 bod yn rhy ifanc i • Shelter ymdopi ag edrych ar 0808 800 4444 ôl eu hunain. Gall (llinell gyngor peidio â thalu rhent 24 awr) neu filiau arwain at gael eu dirwyo neu fod yn ddigartref.

CYSYLLTIADAU GWE

46

RHIFAU CYSWLLT

Nid yw rhai pobl ifanc yn meddwl ddwywaith am y ffaith fod eu prydau’n cael eu coginio, eu dillad yn cael eu golchi a’u smwddio, fod rhywun yn talu am alwadau ffôn a bod y tŷ yn lân. Pan fyddant yn symud o gartref, gall fod yn sioc enfawr iddynt sylweddoli fod yn rhaid iddynt wneud yr holl bethau hyn eu hunain ac ni fyddant, mae’n debyg, yn sylweddoli faint mae pethau’n ei gostio. Mae llawer o bethau y mae’n rhaid i’ch plentyn yn ei arddegau ddeall cyn dechrau byw ar ei ben ei hun, a medrwch ei helpu trwy sgwrsio am y canlynol: • Talu rhent: sefydlu archebion sefydlog neu ddebyd uniongyrchol, llofnodi contract, a hawliau fel tenant • Talu biliau: neilltuo arian i Dreth Cyngor, biliau megis nwy, trydan, dŵr a theliffon, teithio, yn ogystal â bwyd a mynd allan. • Bwyta’n iach: allwch chi ddim disgwyl gwyrthiau, ond gallwch esbonio beth

yw diet cytbwys gydag amrywiaeth o ffrwythau a llysiau. Helpwch hwy i goginio ambell bryd syml cyn iddynt fynd. • Byw gydag eraill: bydd angen iddynt ddeall sut i ystyried dymuniadau pobl eraill, rhannu tasgau o gwmpas y tŷ a rhannu treuliau byw. Er y bydd eich plentyn yn ei arddegau yn mwynhau’r rhyddid newydd, ceisiwch ei gael i gadw mewn cysylltiad a dod adref i ymweld. Anawsterau bod gartref Gall fod yn anodd byw gyda rhywun sydd yn oriog a gall llawer o gwerylon godi. Efallai nad ydych yn hoffi’r ffaith eich bod yn talu am ei ddull o fyw ac yn dymuno i’ch plentyn yn ei arddegau beidio â byw gyda chi. Waeth sut y mae am ymddangos, mae’r plentyn yn ei arddegau yn dal yn ifanc ac y mae arno eich angen chi, felly po hwyaf y bydd yn byw gartref, mwy o gyfle fydd ganddo o fagu’r hyder sydd ei angen i ymdopi â’r byd y tu allan ar ei ben ei hun. Hyd yn oed wrth brifio a newid, bydd angen eich cariad a’ch cefnogaeth o hyd. Os yw eich plentyn eisiau gadael cartref yn erbyn eich ewyllys, rhowch ef mewn cysylltiad â’r Cyngor lleol. Os yw’n anabl, yn ddi-waith neu yn ddigartref, gall yr Adran Dai ei helpu.

www.info-nation.org.uk/index.cfm?articleid=12233 • www.connexions-direct.com • www.thesite.org • www.shelter.org.uk

47


Gall glaslencyndod fod yn amser pryderus i’r arddegau Mae hormonau yn cychwyn newidiadau corfforol ac emosiynol Gofalwch fod eich plentyn yn ei arddegau yn meddu ar ddigon o wybodaeth Gwrandewch ar ei bryderon

Amser Newid Mae glaslencyndod yn amser o newid corfforol mawr i’r arddegau. Er y gall rhai newidiadau eu cyffroi, gallant fod yn llai hapus ag eraill.

Mae plant yn eu harddegau yn datblygu ar adegau gwahanol, felly gall sylweddoli fod ei ffrind gorau wedi cychwyn ei mislif a’ch merch heb wneud, neu fod eich mab yn sylweddoli nad yw’n datblygu corff cryf fel eraill yn ei ddosbarth, fod yn bryder gwirioneddol. Rwy’n fam i ddwy ferch yn eu harddegau. Rwy

wedi hen roi’r gorau i drio mynd i mewn i’r ystafell ymolchi ac eithrio pan fyddan nhw yn yr ysgol - na sôn am unrhyw

beth ond chwaraeon a bechgyn.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

Yn ogystal ag ymdopi â newidiadau emosiynol a achosir gan hormonau, bydd eich plentyn yn gorfod delio â newidiadau corfforol amlwg fel blew cedor, bronnau neu bidyn yn tyfu, poen mislif, a phroblemau cyffredin megis arogleuon corff, gwallt seimllyd, plorod a gwynt drwg.

Byddwch yn amyneddgar. Mae hwn yn gyfnod anodd yn emosiynol a chorfforol i rywun yn ei arddegau wrth iddi /iddo hi neu ef geisio dod i arfer â newid yn ei g/wedd ac emosiynau sy’n mynd o un pegwn i’r llall. Po fwyaf y mae rhywun ifanc yn deall beth sy’n digwydd, hawsaf fydd hi i ymdopi. Mae llawer o wefannau wedi eu creu ar gyfer pobl yn eu harddegau, ond fe allant fod yn ddefnyddiol i chi hefyd i’ch atgoffa eich hun o rai ffeithiau (gweler isod).

Erbyn yr arddegau fe ddylai eich plentyn wybod ffeithiau bywyd a bod yn barod am brofiadau newydd megis mislif neu freuddwydion gwlyb. Mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi ateb llawer o gwestiynau am laslencyndod. Peidiwch â bod â chywilydd a byddwch yn barod gydag atebion syml a ffeithiol.

Po fwyaf y mae eich • Llinell Rhieni plentyn yn ei a Mwy arddegau yn ei 0808 800 2222 wybod, gorau y gall • Galw Iechyd Cymru ymdopi â’r 0845 464 newidiadau sy’n • Info-Nation dod yn sgil 01792 484010 glaslencyndod. Anogwch sgwrsio i atal unrhyw bryderon neu broblemau rhag chwyddo’n rhy fawr.

CYSYLLTIADAU GWE

48

RHIFAU CYSWLLT

www.parentlineplus.org.uk • www.nhsdirect.nhs.uk • www.thesite.org • www.raisingkids.co.uk • www.ukparentslounge.com • www.info-nation.org.uk/index.cfm?articleid=12233

Mae glaslencyndod mewn bechgyn a merched yn dechrau’n gynt. Hormonau testosteron mewn bechgyn ac oestrogen a phrogesteron mewn merched, yn cychwyn llawer o newidiadau. • Gall cyrff bechgyn ddechrau newid o ddeg oed ymlaen, gyda datblygiad rhywiol o dair ar ddeg ymlaen. Bydd hyn yn golygu y bydd y llais yn dyfnhau, cyhyrau’n datblygu, blew yn tyfu, chwarennau chwys yn fwy bywiog, a chyfnodau o dyfu cyflym. Mae’r pidyn yn tyfu ac yn caledu’n rheolaidd, yn aml o ganlyniad i feddyliau rhywiol, ond er mawr gywilydd i fechgyn, mewn sefyllfaoedd normal hefyd. Mae bechgyn hefyd yn dechrau cael breuddwydion, gan alldaflu yn eu cwsg. • Gall glaslencyndod mewn merched ddechrau o tua naw mlwydd oed. Mae’r bronnau a’r tethi yn chwyddo, a’r corff yn dod yn fwy crwn, mae blew yn ymddangos ar y corff, chwarennau chwys yn dod yn fwy bywiog, a’r mislif yn cychwyn. Gall merched hefyd ddechrau creu ffantasïau am ryw ac am berthynas. Mae hwn yn amser pryderus i’r rhai yn eu harddegau, sydd yn naturiol yn cymharu’r

hyn sy’n digwydd iddynt hwy â’u ffrindiau. Gall merched boeni am gychwyn eu mislif yn gynt neu’n hwyrach nac eraill, neu fod un o’u bronnau yn fwy na’r llall, neu fod eu gwallt yn seimllyd o hyd. Gall bechgyn bryderu nad ydynt mor gyhyrog â’u ffrindiau, neu fod eu hwynebau yn blorod i gyd, neu fod eu pidyn yn edrych yn rhy fach. I’r ddau ryw, bydd pryderon am gael cariad a sut a phryd i gael rhyw (mae 30% yn cael rhyw cyn eu bod yn 16) yn llenwi eu meddyliau. Gofalwch eu bod yn gwybod Mae camsyniadau yn arwain at ofn a chamgymeriadau, felly gwnewch yn siŵr fod gwybodaeth gan eich plentyn. Os nad ydych yn siŵr sut i esbonio ffeithiau bywyd na beth i’w ddisgwyl yn ystod glaslencyndod, mae llawer o lyfrau ar gael a gwefannau wedi eu creu ar gyfer pobl yn eu harddegau. Beth am eistedd i lawr gyda’ch gilydd a mynd trwyddynt fel y gallwch drafod unrhyw bynciau sy’n peri pryder? Mae’n bwysig meddwl am y ffordd orau i wneud hyn, er mwyn osgoi embaras naturiol. Efallai y bydd yn well gan fechgyn wneud hyn gyda dad, yn hytrach na theimlo cywilydd ofnadwy gyda mam. Rhai dan 16 - eu hawliau Yn ôl y gyfraith, mae gan blant dan 16 oed yr hawl i gyngor a thriniaeth gyfrinachol gan feddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd eraill, heb i chi wybod. Golyga hyn y gall eich plentyn gael cyngor am gael rhyw ac, os credir bod y plentyn yn ddigon aeddfed i ddod i benderfyniad, i gael dulliau atal cenhedlu neu gael erthyliad. Er y gwneir pob ymdrech i annog rhywun dan 16 oed i siarad â rhiant, mater iddynt hwy yw’r penderfyniad terfynol, oni thybir fod eu bywyd mewn perygl mewn rhyw ffordd. 49


Gan y DU y mae’r gyfradd uchaf o feichiogrwydd ymysg merched yn eu harddegau yn Ewrop Mae diffyg gwybodaeth yn broblem gyffredin i’r rhai yn eu harddegau Siaradwch â’ch plentyn yn ei arddegau

Magu er Mwyn Atal Gan y DU y mae’r gyfradd uchaf o feichiogrwydd ymysg merched yn eu harddegau yn Ewrop.

Esboniodd fy rhieni i gyn lleied am ryw, roedd yn rhaid i mi ffeindio

mas gan ffrindiau ac yr oedd hanner beth ddywedon nhw yn anghywir. Rwy’n benderfynol y bydd fy mhlant i’n gwybod yn union beth i’w ddisgwyl ac yn

dysgu am ryw diogelach.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

RHIFAU CYSWLLT

Mae traean o rai dan 16 oed eisoes yn cael rhyw, felly peidiwch â meddwl fod eich plentyn chi yn wahanol. Ymysg arwyddion a all rybuddio fod eich merch yn ei harddegau yn feichiog mae cadw cyfrinachau, colli mislif, bod yn sâl yn y bore, poeni, a newid yn siâp y corff.

Os ydych yn tybio fod eich merch yn feichiog, cynharaf y byddwch yn sôn am y peth ac y gall hi wneud dewis yn seiliedig ar wybodaeth, gorau oll. Po hwyaf y bydd hi’n gwneud dim am y peth, llai o ddewis fydd ganddi. Trïwch ei chael i fynd at ei meddyg neu glinig lleol a chynigiwch fynd gyda hi os yw hi eich eisiau yno.

Er y gall fod yn sioc deall fod eich merch neu gymar eich mab yn feichiog, mae arnynt angen eich help a’ch dealltwriaeth, felly trïwch beidio â’u beirniadu. Soniwch wrthi am ddewisiadau erthyliad, mabwysiadu neu gadw’r baban, a manteision ac anfanteision pob dewis. Beth bynnag yw eich barn chi, ganddi hi yn unig y mae’r dewis terfynol.

Po fwyaf y mae pobl yn eu harddegau yn wybod, lleiaf tebygol ydynt o gael rhyw yn rhy gynnar ac y maent yn fwy tebygol o ddefnyddio dulliau atal cenhedlu. Mae hyn yn lleihau perygl beichiogrwydd yn ogystal â Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (HDRh).

• Info-Nation 01792 484010 • Cynllunio Teuluoedd Abertawe 01792 517976 • Llinell Gymorth Sexwise 0800 28 29 30 • Marie Stopes 0845 300 8090 • Canolfannau Cynghori Brook 0800 0185 023 • FPA 0845 122 8690 • Parentline Plus 0808 800 2222 • Galw Iechyd Cymru 0845 4647

CYSYLLTIADAU GWE

50

Mae cyfraddau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (HDRh) hefyd wedi codi yn y DU. Yn aml, nid yw’r sawl yn eu harddegau yn deall pa ddulliau atal cenhedlu sydd ar gael a sut i’w cael. Efallai nad ydynt yn gwybod sut i’w defnyddio (megis sut i wisgo condom) ac y gallant gael y bilsen os ydynt dan 16. Does yr un oedolyn wedi dweud wrth rai yn eu harddegau ei bod yn iawn dweud ‘na’ a pheidio â chael rhyw dim ond am fod eu ffrindiau i gyd yn dweud eu bod. Mae’n bwysig rhoi gwybod iddynt fod perthynas yn fater o gariad a chyfeillgarwch, nid dim ond rhyw. Mae’r rhan fwyaf o rieni yn teimlo y byddai llai o ferched beichiog yn eu harddegau petai mwy o rieni yn siarad â’u plant am ryw. Beth y dylai eich plentyn wybod Er bod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn cael addysg am ryw a pherthynas yn yr ysgol (mai rhai ysgolion yn well nac eraill am hyn) mae plant yn eu harddegau eisiau i’w rhieni siarad wrthynt am ryw a pherthynas. Po gynharaf y dechreuwch siarad â hwy am ryw, perthynas ac atal cenhedlu, llai tebygol fyddant o gael rhyw yn rhy gynnar. Byddant hefyd yn fwy tebygol o gael rhyw diogel, a lleihau perygl beichiogrwydd yn yr arddegau a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

Atebwch gwestiynau fydd ganddynt am ryw neu eu cyrff gydag atebion clir a syml, a dewch o hyd i’r ateb os nad ydych yn siŵr. Defnyddiwch raglenni teledu neu erthyglau mewn papurau newydd i gyflwyno pynciau ac edrychwch arnynt gyda’ch gilydd. Soniwch am berthynas yn ogystal ag am ryw, a sut y mae angen i fechgyn a merched feddwl am atal cenhedlu. Esboniwch nad yw beichiogrwydd heb ei gynllunio yn ddelfrydol, ac y gall fod yn anodd iawn bod yn fam neu’n dad yn eich arddegau. Er mai 16 yw oedran cydsynio i ryw, mae traean o bobl ifanc dan yr oed hwn yn cael rhyw eisoes. Gall y rhai sydd dan 16 oed gael cyngor, offer atal cenhedlu neu erthyliad heb orfod dweud wrth eu rhieni os yw’r meddyg yn tybio eu bod yn ddigon aeddfed i wneud y dewis hwn. Rhyw diamddiffyn Mae atal cenhedlu mewn argyfwng ar gael i bobl ifanc a gall atal beichiogrwydd fel arfer os caiff ei gymryd mewn pryd (fel arfer hyd at dridiau wedi rhyw diamddiffyn). Os yw’n dridiau neu fwy, efallai y bydd modd iddynt o hyd gael ffitio Dyfais yn y Groth (DyyG) mewn argyfwng. Mae atal cenhedlu mewn argyfwng ar gael am ddim o glinigau cynllunio teulu a rhai fferyllwyr. Os yw eich plentyn yn ei harddegau wedi cael atal cenhedlu brys a heb gael mislif ymhen tair wythnos, dylai gael prawf beichiogrwydd a gweld ei meddyg.

www.info-nation.org.uk/index.cfm?articleid=12233 • www.ruthinking.co.uk • www.mariestopes.org.uk • www.brook.org.uk • www.fpa.org.uk • www.parentlineplus.org.uk • www.nhsdirect.nhs.uk • www.sensecds.com

51


Mae’n normal i bobl ifanc fod eisiau trio pethau newydd

Roeddwn i’n meddwl fy mod yn yfed fel unrhyw

un arall. Doeddwn i ddim yn meddwl fod y plant yn sylwi

Mae bod â’r wybodaeth iawn yn arwain at ddewisiadau mwy diogel

a wnes i ddim sylweddoli am amser sut effaith oedd e’n

Byddwch yn ymwybodol am ba arwyddion i chwilio

gael arnyn nhw.

Cefnogwch eich plentyn yn ei arddegau yn hytrach na’i farnu

Adnabod yr arwyddion Mae’n naturiol i bobl ifanc fod allan yn amlach a bod â ffrindiau nad ydych chi’n eu hadnabod, a mynd i lefydd na wyddoch lawer amdanynt. Mae’n eithaf tebygol hefyd y bydd eich plentyn yn ei arddegau yn cymysgu gyda rhai pobl sy’n defnyddio alcohol, cyffuriau neu gemegolion eraill (megis arogli glud). Er y bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc eisiau trio pethau newydd, gallwch roi cyngor iddynt ar sut i ddweud na os cynigir cyffuriau neu alcohol iddynt. Mae’r rhai sydd wedi cael gwybod am y peryglon yn llai tebygol o yfed yn drwm neu gymryd unrhyw gyffuriau.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

RHIFAU CYSWLLT

Gall newidiadau mewn ymddygiad, megis dwyn, bod yn absennol o’r ysgol, ymladd, bod yn oriog, yn ddiog a chadw cyfrinachau oll fod yn arwyddion fod eich plentyn yn ei arddegau yn cymryd cyffuriau neu yn yfed.

Ceisiwch gael y plentyn yn ei arddegau i siarad â chi am beth mae’n wneud, heb wthio’n ormodol. Os ydych yn meddwl fod problem ddifrifol, siaradwch am y mater heb eu barnu, gan y bydd ar eich plentyn angen eich help a’ch cydymdeimlad.

Mae perthynas dda rhyngoch yn golygu y bydd eich plentyn yn ei arddegau yn gwneud dewisiadau mwy diogel. Gofalwch eu bod yn gwybod am y gwahanol gyffuriau y gallant ddod ar eu traws a’u peryglon. Po fwyaf y gwyddoch, mwyaf y gallwch eu helpu.

Mae cael addysg am gyffuriau a’u problemau yn gynnar yn eu bywyd yn golygu ei bod yn llai tebygol y cânt broblemau difrifol gyda chyffuriau neu alcohol. Mae’n dda arwain trwy roi esiampl hefyd. Os gwêl eich plant chi yn meddwi neu’n cymryd cyffuriau, mae’n ei gwneud yn fwy tebygol y byddant hwy yn gwneud yr un fath.

• Info-Nation 01792 484010 • ADFAM 020 7553 7640 • Llinell Gymorth Alcohol Genedlaethol Drinkline 0800 917 8282 • Llinell Gymorth Gyffuriau Genedlaethol 0800 77 66 • Rhieni yn Erbyn Camddefnyddio Cyffuriau (PADA) 08457 023867

CYSYLLTIADAU GWE

52

www.info-nation.org.uk/index.cfm?articleid=12233 • www.adfam.org.uk • www.drinkaware.co.uk • www.talktofrank.com • www.pada.org.uk • www.alcoholconcern.org.uk

Dengys astudiaethau gan yr elusen Alcohol Concern fod lefelau yfed yn codi ymysg pobl ifanc. Mewn un astudiaeth, roedd 47% o rai 15 oed wedi yfed alcohol yn ystod yr wythnos a aeth heibio. Mae’n ffaith hefyd fod pobl ifanc yn fwy tebygol o gael rhyw peryglus (e.e., heb atal cenhedlu, gyda llawer cymar gwahanol neu gael rhyw heb fwriadu) pan fyddant wedi bod yn yfed neu’n cymryd cyffuriau. Dywedodd cymaint ag un o bob pedwar ar ddeg o rai 15-16 oed eu bod wedi cael rhyw heb unrhyw ddull atal cenhedlu wedi yfed. Yr oedd hyd at 40% o rai 13-14 oed oedd yn cael rhyw yn ‘feddw neu allan o’u pennau’ wrth gael rhyw y tro cyntaf. Ddylech chi boeni? Er bod yfed a chymryd cyffuriau yn ddifrifol, i’r rhan fwyaf o bobl ifanc, cyfnod i fynd trwyddo ydyw ac y maent yn prifio allan ohono wrth iddynt fynd yn hŷn. Er y gall fod yn broblem i chi, mae’n

debyg na fydd eich plentyn yn ei arddegau yn gweld yfed neu gymryd cyffuriau weithiau yn broblem. Mae hwn yn oedran naturiol i fod eisiau trio pethau newydd, profi ffiniau a bod yn rhan o’r criw. Fe all fod arwyddion fod eich plentyn yn ei arddegau yn yfed neu’n cymryd cyffuriau yn aml. Gallant fod yn cadw cyfrinachau, yn dwyn ac yn ei chael yn anodd canolbwyntio ar waith ysgol neu fod yn absennol o’r ysgol. Gall eu natur newid a gallant ddod yn fwy diog neu anodd. Bod yn gefn Gallwch helpu eich plentyn yn ei arddegau trwy ofalu rhoi’r ffeithiau iddynt a gwybodaeth am beryglon cyffuriau ac alcohol. Mae llunio perthynas dda gyda’ch plentyn yn ei arddegau yn golygu ei fod yn fwy tebygol o siarad â chi am unrhyw bryderon, sydd hefyd yn golygu ei fod yn llai tebygol o droi at gyffuriau neu alcohol fel ffordd o ddianc rhag problemau. Os ydych yn meddwl fod gan eich plentyn yn ei arddegau broblem, dewiswch amser tawel i gael sgwrs. Peidiwch â gorymateb, cyhuddo na bygwth, ond ceisiwch ei gael i siarad am yr hyn sy’n digwydd. Os yw’n anodd iddo siarad â chi, ceisiwch gael oedolyn arall, fel ffrind i’r teulu neu athro/athrawes y gall fod yn onest â hwy. Siaradwch â’ch meddyg os teimlwch fod arno angen mwy o help. Mae llawer corff ar gael hefyd sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor i’ch helpu chi a’ch plentyn yn ei arddegau.

53


Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn oriog, ond os byddant yn isel am amser, iselder yw hyn Pan fydd rhywun yn defnyddio bwyd fel ffordd o reoli ei fywyd gall arwain at anhwylder bwyta Mae hunan-niweidio yn ffordd arall y mae rhai pobl yn ei defnyddio i gael rheolaeth dros eu bywydau Gall bywyd teuluol fod yn straen, felly cymerwch beth amser i chi’ch hun a chael cymaint o gefnogaeth ag y gallwch

Mae anhwylder bwyta ar

ffrind fy merch, ac rwy’n teimlo

dros ei rhieni. Rwy’n gwybod fod bywyd yn yr arddegau yn gallu bod yn anodd felly rwy’n trio siarad â’m

Cadw cydbwysedd

merch am ei theimladau gymaint ag

sydd modd.

Mae lles yn golygu cadw cydbwysedd da rhwng sut yr ydych yn teimlo’n gorfforol a sut yr ydych yn teimlo’n feddyliol ac yn emosiynol. Mae’r arddegau yn amser anodd ac y mae gan bobl ifanc lawer o bethau i ddelio â hwy, felly does dim rhyfedd fod rhai yn teimlo’n bryderus a dan straen weithiau. Mae llawer rheswm dros hyn, megis: rhieni yn ysgaru neu’n gwahanu; teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu neu nad oes neb yn eu caru; neb yn gwrando arnynt; colli ffrindiau; newid ysgol neu symud tŷ; poeni am y ffordd y maent yn edrych, rhywioldeb, iechyd, arholiadau neu gam-drin.

ARWYDDION RHYBUDDIO

GWEITHREDU

BETH I’W DDWEUD

ATAL

RHIFAU CYSWLLT

Iselder: methu cysgu; llefain; osgoi ffrindiau a theulu; peidio â malio sut y maent yn edrych. Anorecsia: Colli llawer o bwysau; osgoi bwyd; dweud eu bod wedi bwyta eisoes; cuddio’u corff; colli mislif; teimlo’n oer; methu cysgu; bod yn oriog; gwallt yn cwympo allan. Bwlimia: bwyta mewn hyrddiau; gwddf tost; colli mislif; diflannu wedi prydau; croen chwyddedig; defnyddio cyffuriau agor. Hunan-niweidio: toriadau; llosgiadau; sgaldian neu gleisiau.

Os yw eich plentyn yn isel, dan straen neu’n bryderus, yn dioddef anhwylder bwyta neu yn niweidio’i hun, byddwch yn amyneddgar. Rhowch gyfle i siarad am sut mae’n teimlo fel y gallwch drafod problemau gyda’ch gilydd. Mynnwch hynny o gefnogaeth ag y gallwch gan bobl o’ch cwmpas.

Gadewch i’ch plentyn yn ei arddegau wybod eich bod yno i’w helpu, dim ots beth. Efallai eich bod yn poeni fod ganddynt broblemau ond ceisiwch beidio â’u beirniadu. Gwnewch amser i wrando arnynt o ddifrif.

Gwrandewch ar eich plentyn yn ei arddegau a siarad â hi. Mae teulu cefnogol sydd yn deall yn golygu y gall eich plentyn deimlo’n fwy abl i siarad â chi am unrhyw broblemau, yn hytrach na’u cau i mewn.

• Info-Nation 01792 484010 • Young Minds 0800 018 2138 • Y Samariaid 08457 90 90 90 • Llinell Rhieni a Mwy 0808 800 2222 • Curo Anhwylderau Bwyta 0845 634 1414

CYSYLLTIADAU GWE

54

Gall golwg y corff fod yn bwysig iawn i bobl ifanc, ac y mae rhai yn defnyddio bwyd i ddelio â’u problemau. Gall hyn arwain at anhwylder bwyta - Anorecsia Nerfosa neu Bwlimia Nerfosa. Mae anorecsia yn gyflwr difrifol a all achosi problemau trwy gydol oes, a gall hyd yn oed ladd. Mae pobl â Bwlimia fel arfer yn cadw ar yr un pwysau ond yn bwyta mewn hyrddiau yn y dirgel.

Ffordd arall y mae rhai pobl ifanc yn delio â phroblemau yw trwy niweidio eu hunain. Gall hyn fod trwy eu torri eu hunain, taro, pigo’r croen, curo’u pen yn erbyn wal neu gymryd gorddos. Dywed y rhai sy’n hunan-niweidio fod y boen gorfforol yn tynnu eu meddwl oddi wrth eu problemau. Ni all rhywun sy’n hunan-niweidio benderfynu rhoi’r gorau iddi - mae angen help i oresgyn y broblem. Nid yw’r rhan fwyaf o achosion niweidio yn arwain at farwolaeth, ond gall fod yn arwydd fod eich plentyn yn ei arddegau yn meddwl am niwed mwy difrifol neu hyd yn oed hunanladdiad. Os yw eich plentyn yn ei arddegau yn dioddef oddi wrth unrhyw un o’r problemau hyn - mae angen eich help arno. Efallai y bydd y gwirionedd yn eich dychryn, ond ceisiwch ddeall a cheisio help proffesiynol os oes angen. A chofiwch nad mater i’ch plant yn unig yw lles; mae’n bwysig eich bod yn gofalu amdanoch eich hun hefyd!

Pobl ag anhwylder bwyta fel arfer yw’r rhai diwethaf i gydnabod fod ganddynt broblem. Os tybiwch fod anhwylder felly ar eich plentyn yn ei arddegau, mae angen eich help arno. Trïwch ei gael i fwyta’n synhwyrol, ond yr un mor bwysig, trïwch ddarganfod pam y cychwynnodd.

www.info-nation.org.uk/index.cfm?articleid=12233 • www.youngminds.org.uk • www.samaritans.org • www.selfharm.org.uk • www.parentlineplus.org.uk • www.b-eat.co.uk • www.cool2talk.org

55


Llawlyfr Magu Plant o'u geni i 19 oed yn Abertawe