Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Y mater hwn:
Digwyddiad Rhwydweithio Darparwyr Gofal Plant Abertawe 2016.
Gwobr Ansawdd Gwybodaeth I Deuluoedd.
Cymdeithas Darparwyr Cynysgol Cymru.
Gwobr Pluen Eira.
Y Canllaw Bwyta’n Dda.
Gwobr Byrbrydau Iach Safon Aur I Leoliadau Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant.
Rhaglen Hyfforddiant Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd Abertawe. Fforwm Rhieni/ Gofalwyr Abertawe.
Dyddiadau i’ch dyddiadur.
Cynnydd ar gyfer llwyddiant.
Cylchlythyr
Medi 2016
Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant (ADGP) Cyn bo hir, bydd Abertawe’n cynnal yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant (ADGP) nesaf. Trwy’r asesiad hwn byddwn yn mesur natur a graddau’r angen am ofal plant yn yr ardal, a’r cyflenwad sydd ar gael. Trwy’r dadansoddiad hwn, byddwn yn gallu nodi unrhyw fylchau o ran darpariaeth gofal plan lle nad yw anghenion rhieni’n cael eu diwallu’n llawn, a fydd yn ei dro’n ein galluogi ni I gynllunio sut I gefnogi’r farchnad I lenwi’r bylchau a nodwyd. Eleni, cefnogir yr awdurdod lleol gan Coda Consultants Ltd. Yn ystod diwedd mis Medi/dechrau mis Hydref, er mwyn cael yr wybodaeth orau bosib, bydd Coda’n cynnal cyfweliadau dros y ffon gyda darparwyr cofrestredig presennol ar ran y Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd (GGD). Eu ffocws fydd canfod gwybodaeth am gynaladwyedd parhaus y ddarpariaeth a ystyrir/ragwelir, tueddiadau yr arsylwyd arnynt sy’n gysylltiedig a’r galw, mathau o gefnogaeth (gweithlu) a hyfforddiant y byddai darparwyr yn ei dderbyn, ac ati. Rydym yn gwerthfawrogi pa mor brysur yw pob darparwr gofal plant ac felly caiff cyfweliadau ffon eu cadw mor fyr a phosib. Fodd bynnag, ddarperir gennych yn allweddol er mwyn cynhyrchu Asesiad Digonolrwydd o safon. Bydd gan nifer o randdeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys rhieni, gofalwyr a gweithwyr, gyfle I ddweud eu dweud am sut mae gofal plant yn effeithio arnyn nhw neu eu gweithlu drwy gwblhau arolygon ar-lein neu fynychu grwpiau ffocws, fel y bo’n briodol. Bydd y rhain yn ymddangos ar wefan y GGD maes o law www.abertawe.gov.uk/ggd I ddechrau, bydd adroddiad cryno ADGP yn cael ei lunio ac ymgynghorir arno ac, unwaith eto, bydd gennych chi’r cyfle I fynegi’ch barn. Yn dilyn y cyfnod ymgynghori hwn, caiff yr asesiad llawn ei gyflwyno I Lywodraeth Cymru erbyn 31 Mawrth 2017.
Hoffem achub ar y cyfle hwn I ddiolch I chi ymlaen llaw am eich cefnogaeth barhaus a’ch cyfraniadau gwerthfawr.