Arwain Abertawe - Tachwedd 2017

Page 1

Arwain Abertawe Rhifyn 109

Tachwedd 2017 tu mewn

Papur newydd Cyngor Abertawe

eich dinas: eich papur

Amser Panto Mae Gorymdaith y Nadolig ar y ffordd hefyd!

hefyd

tudalen 3

• ARWYR LLEOL: Ymunodd y chwiorydd (ch i dd) Lucie, Skye a Kelsey Edwards ag arwr yr Elyrch, Leon Britton, ar gyfer gwobrau Rho 5 eleni, digwyddiad sy'n dathlu cyfraniad pobl ifanc i'w cymunedau. Mwy ar dudalen 7.

Mae ein ffocws ar eich blaenoriaethau’n gwneud gwahaniaeth bob dydd MAE gwasanaethau allweddol sy'n bwysig i bobl Abertawe'n ddyddiol yn parhau i wella. Addysg, diogelu pobl ddiamddiffyn, gwella ffyrdd ein dinas, trechu tlodi, creu canol dinas bywiog a chymunedau cefnogol yw'r blaenoriaethau pwysicaf sy'n cael eu cyflwyno'n llwyddiannus gan y cyngor. Meddai'r Cyng. Clive Lloyd, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes, "Yr hyn sy'n bwysig i'n preswylwyr yw darparu ysgolion gwych gydag addysgu gwych, gwell cefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu tlodi a'r gofal cywir yn y lle cywir ar yr adeg gywir ar gyfer ein pobl ddiamddiffyn hen ac ifanc.” Meddai, "A'r hyn y mae ffigurau diweddaraf y llywodraeth yn ei ddangos yw ein bod yn y gynghrair uchaf o'i gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru pan ddaw i bethau fel gwasanaethau addysg a'r amgylchedd.

2018

gwybodaeth YN ôl y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Uned Ddata Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Abertawe'n perfformio yn y chwarter uchaf o awdurdodau lleol Cymru ar gyfer 32% o ddangosyddion o'i gymharu â 24% ar gyfer Caerdydd a 12% ar gyfer Casnewydd. Bedair blynedd yn ôl, roedd Abertawe yn yr 20fed safle ar gyfer presenoldeb ysgolion cynradd a'r 19eg safle ar gyfer ysgolion uwchradd. Ac mae'r ddau o fewn 1% o fod yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru.

“Er enghraifft, mae cyfraddau ailgylchu wedi gwella mwy na 6% ers yr amser hwn y llynedd ac mae swm y gwastraff a gaiff ei ailgylchu bron wedidyblu ers 2010 ac mae presenoldeb ysgolion yn parhau i wella." Ychwanegodd y Cyng. Lloyd, "Rydym yn gwybod

Recyc Recycling cling Calendar Calen ndar insi inside! de

bod gan breswylwyr Abertawe ddisgwyliadau uchel fel y dylent ac rydym ni hefyd. Er gwaethaf toriadau cyllidebol a gwerth £54 miliwn o arbedion a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf, mae preswylwyr yn dal i ddisgwyl gwasanaethau o safon y maent yn gallu eu gweld yn gwneud gwahaniaeth bob dydd. “Yn Abertawe, rydym wedi ymateb i ostyngiadau go iawn yn y gyllideb ac nid trwy gyfyngu ar wasanaethau ond trwy eu trawsnewid. Mae llawer i'w wneud o hyd mewn meysydd lle mae angen mwy o welliant. Ond fel y dengys y ffigurau diweddar gan Lywodraeth Cymru, rydym mewn sefyllfa dda i gymryd camau i'r cyfeiriad cywir." Ond ychwanegodd, "Er bod y rhain yn ganlyniadau da, nid ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau. Bedair blynedd yn ôl, roedd 22% o'n gwasanaethau yn y chwartel isaf o'i gymharu ag awdurdodau lleol eraill. Bellach, mae'r ffigur hwnnw wedi gostwng i 14% ac mae hynny'n dangos bod llawer o waith i'w wneud o hyd."

Bargen Ddinesig

Arena'n helpu i drawsnewid canol ein dinas tudalen 5

Byddwch yn rhan ohoni! Ymunwch â'n hymgyrch Dinas Diwylliant

Calen Calendar Cale ndar da ailgylc chu ailgylchu

2018 y tu fewn!

www www.swansea.gov.uk/recyclingsearch .swansea.ggov.uk/recyclingseearch www.aber www.abertawe.gov.uk/chwiliocasgliadau rtawe.gov.uk/chwiiliocasgliadau

tudalen 8


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.