Arwain Abertawe Rhifyn 105
Tachwedd 2016 tu mewn
Papur newydd Dinas a Sir Abertawe
eich dinas: eich papur
Panto! Mae paratoi at y Nadolig yn dechrau yma hefyd
tudalen 3
• O'R RADD FLAENAF: Bu pobl ifanc o Gomisiynwyr Ifanc 4C ymhlith y sêr ym mhumed seremoni flynyddol Gwobrau Rho 5 ein dinas sy'n dathlu eu straeon o gyflawni er gwaethaf pob disgwyl. Mwy o wybodaeth ar dudalen 7. Llun gan Jason Rogers
Mae ein ffocws ar eich blaenoriaethau’n gwneud gwahaniaeth bob dydd
Canol y Ddinas Sut rydym yn paratoi at y dyfodol
gwybodaeth
tudalen 5 MAE gwasanaethau allweddol sy'n bwysig i bobl Abertawe'n ddyddiol yn parhau i wella. Addysg, diogelu pobl ddiamddiffyn, gwella ffyrdd ein dinas, trechu tlodi, creu canol dinas bywiog a chymunedau cefnogol yw'r blaenoriaethau pwysicaf sy'n cael eu cyflwyno'n llwyddiannus gan y cyngor. Mae 91% o ymrwymiadau polisi'r cyngor eisoes wedi cael eu cyflwyno, neu maent ar y trywydd iawn i gael eu cyflwyno. Mae'r cyngor hefyd wedi ennill nifer o wobrwyon, gan gynnwys cael ei enwi fel Dinas Dysg Ryngwladol ac ennill cydnabyddiaeth gan Ymddiriedolaeth y Tywysog a Gwobrau Cynaladwyedd Sector Cyhoeddus y DU, ymysg eraill. Mae tri o arolygwyr annibynnol mwyaf Cymru Swyddfa Archwilio Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru -
YN ôl yr arolygwr addysg, Estyn, cafwyd gwelliant cyflym a chryf yn y Cyfnod Sylfaen hollbwysig, yn ogystal â lefelau Cyfnod Allweddol 3 a TGAU. Mae'r AGGCC yn dweud ei bod yn cydnabod bod y cyngor yn 'adeiladu model gofal cymdeithasol cynaliadwy o safon'. Meddai hefyd bod gan y cyngor weledigaeth glir a'i fod mewn sefyllfa gref i barhau i wella dros y blynyddoedd nesaf.
hefyd yn gytûn bod gallu'r cyngor i barhau i wella yn argoeli'n dda. Mae Swyddfa Archwilio Cymru'n edrych yn fanwl ar holl awdurdodau lleol Cymru'n gyson, a'i barn ddiweddaraf am Abertawe yw ei bod yn cyflawni disgwyliadau a'i bod mewn cyflwr da i gynnal hyn.
Meddai'r Cyng. Clive Lloyd, Aelod y Cabinet dros Berfformiad a Thrawsnewid, "Yn Abertawe, rydym wedi ymateb i ostyngiadau go iawn yn y gyllideb ac nid trwy gyfyngu ar wasanaethau ond trwy eu trawsnewid. "Y targedau rydym yn eu gosod ar gyfer ein hunain, a'r rheiny rydym yn cael ein beirniadu arnynt gan y tri arolygydd annibynnol cenedlaethol, yw'r mesurau go iawn rydym yn eu defnyddio er mwyn gwella'n gwasanaethau i bawb." Meddai'r Cyng. Lloyd, "Er gwaethaf toriadau cyllidebol a gwerth £54 miliwn o arbedion a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf, mae preswylwyr yn dal i ddisgwyl gwasanaethau o safon y maent yn gallu eu gweld yn gwneud gwahaniaeth bob dydd. "Mae llawer i'w wneud o hyd mewn meysydd lle mae angen mwy o welliant, ond, fel y dywed Swyddfa Archwilio Cymru, rydym mewn sefyllfa dda i barhau i ddilyn y trywydd cywir."
Addysg Pam mae disgyblion yn perfformio'n dda tudalen 6
Defnyddiwch gewynnau go iawn a chael £100 Gall newid i gewynnau go iawn haneru gwastraff eich teulu ac arbed cannoedd o bunnoedd i chi! Ac os ydych yn byw yn Abertawe, gallwch gael £100 tuag at y gost trwy ein cynllun ad-dalu. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.abertawe.gov.uk/cewynnau