Arwain Abertawe - Tachwedd 2015

Page 1

Arwain Abertawe Papur newydd Dinas a Sir Abertawe

Rhifyn 100

Tachwedd 2015

tu mewn

Eich calendr casgliadau ailgylchu a sbwriel 2016 - gweler y tudalennau canol eich dinas: eich papur

Ein hysgolion

plws

Pam bydd buddsoddi'n gwneud gwahaniaeth tudalen 5

Tyllau yn y Ffordd • BRIG Y DOSBARTH: Roedd Morgan Smith ymhlith sêr y sioe yng Ngwobrau Rho 5 blynyddol ein dinas sy’n dathlu straeon pobl ifanc sy’n cyflawni er gwaethaf anfanteision. Cewch wybod mwy ar dudalen 7 Llun gan Jason

Rogers

MAE rhaglen drawsnewid Cyngor Abertawe, sy'n ceisio creu gwasanaethau sy'n fwy effeithiol ac ymatebol i'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu, yn cymryd cam ymlaen yr wythnos hon. Bydd gwasanaethau pwysig fel gwasanaethau glanhau adeiladau dinesig a chefnogi busnes y cyngor, gan gynnwys cyswllt cwsmeriaid, yn cael eu trawsnewid yn dilyn adolygiad o'r ffordd maen nhw'n gweithredu ar hyn o bryd. Bydd gwasanaethau eraill yn cael eu newid yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf wrth i'r cyngor gynnal adolygiadau manwl o'i wasanaethau. Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, “Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r cyngor wedi arbed tua £50m, ond mae llawer mwy i'w wneud o hyd. Mae Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud yn amlwg y bydd y caledi ariannol yn parhau ac, oherwydd y pwysau ychwanegol ar wasanaethau a llai o

gwybodaeth

Sut rydym yn bwriadu trawsnewid eich gwasanaethau Y TRI gwasanaeth cyntaf a fydd yn elwa o adolygiadau comisiynu yw: • Cefnogi busnesau – bydd gweithgareddau swyddfa gefn yn cael eu trawsnewid i ganoli gwasanaethau a lleihau costau. • Canolfannau Gweithgareddau Awyr Agored Gŵyr – bydd y gwasanaeth yn canolbwyntio ar ganolfannau yn Nhŷ'r Borfa ac yn Rhosili ar ôl cau Dan-y-coed. • Gwasanaethau glanhau mewnol – bydd y tîm mewnol yn moderneiddio ac yn gwella'r gwasanaethau.

gyllid, rhagwelir y bydd disgwyl i ni orfod arbed tua £100m yn y blynyddoedd nesaf. “Hyd yn oed heb y pwysau ariannol hyn, bydden ni dal eisiau trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn Abertawe i gyflawni'r blaenoriaethau rydyn ni'n eu rhannu â phobl Abertawe. “Dyna pam i ni gydnabod beth amser yn ôl na fyddai modd torri cyllidebau fel salami a bellach rydym wedi cytuno mai trawsnewid gwasanaethau mewnol yw'r dewis gorau i gyflwyno'r gwasanaethau effeithlon y mae eu hangen ar ein cymunedau.

“Oherwydd ein craffter rydyn ni ar flaen y gad a dyna pam ein bod ni wedi gwneud llawer o gynnydd wrth drawsnewid gwasanaethau trwy Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i'r Dyfodol, rhaglen drawsnewid y cyngor. “Mae'n rhaid i ni wneud hyn oherwydd bod yn rhaid i ni arbed arian. Fel arall, oherwydd graddfa'r toriadau sy'n cael eu gorfodi arnon ni, byddai gwasanaethau'n cael eu colli'n gyfan gwbl ac am byth.” Diben adolygiad comisiynu yw cymryd golwg manwl ar bob gwasanaeth a ddarperir gan y cyngor,

meddwl am yr hyn y bydd angen i bob un ei wneud yn y blynyddoedd i ddod a phenderfynu wedyn sut mae'n gallu cael ei wneud yn well. Nod yr ymagwedd hon yw sicrhau bod gwasanaethau'n fwy hyblyg ac yn ymatebol i anghenion pobl, yn ogystal â lleihau costau. Meddai Clive Lloyd, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad, “Ar yr un pryd, byddwn ni'n mabwysiadu ymagwedd fwy masnachol o lawer at y ffordd rydym yn cyflwyno gwasanaethau ac yn gwneud yn fawr o'r holl gyfleoedd i greu incwm i'r cyngor. “Rydyn ni'n gwybod bod preswylwyr yn cytuno â ni nad yr hen ffordd, sef torri gwasanaethau neu ddod â nhw i ben, yw'r ffordd ymlaen. Dyna pam ein bod ni wedi mabwysiadu'r ymagwedd adolygiad comisiynu hon.” Mae proses yr adolygiad comisiynu wedi bod ar waith o fewn y cyngor ers nifer o fisoedd ac mae wedi cynnwys ymgynghoriad eang â staff, ag undebau llafur a sefydliadau partner trwy'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol.

Ar ein ffordd i atgyweirio strydoedd yn eich ardal chi tudalen 2

Diolch yn fawr! Ymgyrch yn codi canran ailgylchu i fwy na 61% tudalen 7

CDLl yn denu miloedd o sylwadau tudalen 8


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.