Arwain Abertawe tu mewn
Papur newydd Dinas a Sir Abertawe
Rhifyn 94
Tachwedd 2014
Amser Panto
Canol y Ddinas
Ar eu gorau
Stori glasurol Antur Eira Wen
Buddsoddi mewn syniadau gwych ar y gorwel
Sut mae disgyblion yn gwneud yn fawr o fywyd ysgol
tudalen 3
tudalen 6
tudalen 7
BYDD gan breswylwyr y cyfle i ddweud eu dweud ar ddyfodol gwasanaethau eu cyngor dros yr wythnosau nesaf. Mae sesiynau galw heibio, gweithgareddau ar-lein a chyfarfodydd gyda grwpiau a sefydliadau lleol i gyd ar yr agenda wrth i'r cyngor barhau â'r sgwrs am wasanaethau cynaliadwy sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Ac mae miloedd o lyfrynnau hefyd yn cael eu dosbarthu i ganolfannau cymunedol, llyfrgelloedd, swyddfeydd tai rhanbarthol ac adeiladau cyhoeddus eraill er mwyn i bobl leol ddarganfod mwy am Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i’r Dyfodol, rhaglen y cyngor ar gyfer rheoli dros £70 miliwn o ostyngiadau yn y gyllideb a newidiadau sylweddol i wasanaethau dros y blynyddoedd sydd i ddod. Bydd pobl yn gallu derbyn cipolwg ar yr heriau sy'n wynebu'r cyngor yn ogystal â chael y cyfle i gynnig adborth a syniadau ar yr hyn y gallant ei wneud er mwyn helpu. Meddai Dean Taylor,
gwybodaeth
Ymunwch yn y drafodaeth am ddyfodol ein dinas SUT gallwch chi ymuno yn y drafodaeth: • Casglwch lyfryn o'ch llyfrgell, canolfan hamdden neu ganolfan gymunedol leol • Ewch ar-lein i www.abertawe.gov.uk/sustainableswansea • Dilynwch ni ar Twitter @cyngorabertawe #dinasgynaliadwy neu @swanseacouncil #sustainablecity • Dilynwch ni ar Facebook
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, "Fel pob cyngor yng Nghymru, mae Abertawe yn wynebu gostyngiadau cyllidebol sylweddol gan Lywodraeth Cymru. "Ond mae'n fwy na gostyngiadau yn y gyllideb. Hyd yn oed pe na bai rhaid i'r cyngor wynebu'r realiti ariannol hwn, byddai'n rhaid i ni edrych ar yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yn y dyfodol o ganlyniad i'r galw cynyddol mewn meysydd megis gofal i bobl hŷn, yn ogystal â'r angen i newid y ffordd y mae rhai gwasanaethau yn cael eu cyflwyno." Dywedodd fod annog pobl leol i barhau â'r sgwrs am Abertawe Gynaliadwy yn hanfodol gan fod angen cynnal trafodaethau am sut y gall preswylwyr a chymunedau helpu eu hunain yn y
blynyddoedd i ddod yn lle ar y cyd â'r cyngor. Meddai, "Yr hyn sydd angen i ni fel preswylwyr, cymunedau a chyngor lleol ei wneud yw adeiladu ar y math hwn o lwyddiant. Mae angen i ni leihau'r galw am wasanaethau, gwneud pethau'n wahanol a phan fydd achos dros wneud hynny - gael gwared ar wasanaethau nad oes eu hangen mwyach. "Dros yr wythnosau sydd i ddod, dyma'r math o drafodaethau sydd angen eu cynnal er mwyn i'r cyngor allu gwrando ar breswylwyr, cymunedau a grwpiau er mwyn gweld yr hyn y byddant yn ei wneud drostynt eu hunain. Byddwn yn ystyried yr adborth ac yn gwneud penderfyniadau ond ddim nes bod y preswylwyr wedi dweud eu dweud."
• SWNIO'N WYCH: Tom Leckie yn derbyn sylw o ganlyniad i Rho 5 Llun gan Jason Rogers
Cyfle mawr Tom MAE’R DJ addawol a'r enillydd Gwobr Rho 5, Tom Leckie, ar ben ei ddigon ar ôl derbyn lle mewn clwb nos yn y ddinas. Roedd Tom yn un o'r enillwyr Gwobrau Rho5 a gefnogir gan y cyngor, a'i wobr oedd cyfle i fod yn DJ yn y Monkey Bar. Meddai, "Mae'r Gwobrau Rho 5 yn ardderchog. Ni allaf gredu fy mod wedi
ennill, ond y peth gorau oedd y wobr wych, sef cyfle i fod yn DJ yn y Monkey Bar. Roedd yn syndod mawr. Mae'n anodd iawn cael eich cyfle cyntaf ac mae Rho 5 wedi agor y drws i mi. Rwyf mor gyffrous! Mae mwy o wybodaeth am y bobl ifanc a dderbyniodd gydnabyddiaeth am eu hymrwymiad i'w cymunedau ar dudalen 5.
HEFYD: Eich arweiniad hwylus i ailgylchu'r Nadolig hwn - gweler y tudalennau canol