Arwain Abertawe Medi 2015

Page 1

Arwain Abertawe Rhifyn 99

Medi 2015 tu mewn

Papur newydd Dinas a Sir Abertawe

eich dinas: eich papur

Proms

a hefyd

Rebecca Evans yn perfformio yn nigwyddiad cofiadwy'r BBC tudalen 3

Canol y Ddinas • EIN DINAS DDIGIDOL: Bu disgyblion mewn ysgolion yn Abertawe'n gweithio gyda'r DVLA i loywi eu sgiliau digidol ac mae Cyngor Abertawe'n chwarae ei ran wrth annog oedolion i fynd ar-lein. Mwy ar dudalen 7

ANOGIR preswylwyr y ddinas i ymuno yn y drafodaeth barhaus ar ddyfodol gwasanaethau eu cyngor. Mae rhaglen drawsnewid y cyngor, Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i'r Dyfodol, wedi helpu i arbed rhyw £16m a chynnig amrywiaeth o fanteision eraill yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Ond mae llawer mwy i'w wneud a bydd y cyngor yn troi at breswylwyr i wrando ar eu syniadau, a dysgu ganddynt, o ran datblygu a gwella gwasanaethau yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Blaenoriaethau pobl Abertawe yw ein blaenoriaethau ni. Mynd i'r afael â thlodi, diogelu'r diamddiffyn, cefnogi cyrhaeddiad disgyblion, datblygu canol y ddinas ac adeiladu cymunedau cryfach a mwy diogel yw'r hyn rydym yn ei wneud. "Rhaid i ni arbed o leiaf £81m dros y blynyddoedd nesaf. Ond hyd yn

gwybodaeth

Paratowch i ymuno yn y drafodaeth ar ddyfodol gwasanaethau’r ddinas MAE rhaglen Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i'r Dyfodol wrth wraidd ymgyrch y cyngor i wella, a fydd yn trawsnewid gwasanaethau ac arbed arian. Mae ymgynghori a chynnwys staff a phreswylwyr yn y rhaglen wedi sicrhau adborth cadarnhaol dros y ddwy flynedd diwethaf, ac mae'r rhaglen wedi'i chymeradwyo bellach gan arolygwyr ariannol Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru. Yn ei Hadroddiad Asesiad Corfforaethol diweddar am y cyngor, canmolodd SAC y cyngor am ei berfformiad hyd yn hyn ac am eglurder a chynaladwyedd ei gynlluniau i wynebu heriau'r dyfodol.

oed pe na bai'n rhaid i ni wynebu'r her honno, byddem am i'r cyngor symud gyda'r oes, gan weithio gyda phreswylwyr i sicrhau ein bod ni'n canolbwyntio ein hadnoddau ar y gwasanaethau y mae ar bobl eu heisiau a'u hangen." Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae'r cyngor wedi trawsnewid gwasanaethau fel gofal cymdeithasol i oedolion, gwasanaethau plant ac addysg. Mae wedi arbed miliynau o bunnoedd ar gostau swyddfa gefn a, diolch i gefnogaeth preswylwyr, mae gwelliannau o ran cyfraddau

ailgylchu'n helpu i arbed costau rheoli gwastraff. Mae'r cyngor hefyd yn rhoi hwb i'w bresenoldeb ar-lein er mwyn i fwy o bobl allu gwneud mwy o fusnes gyda'r cyngor fwy o'r amser, gyda sefydlu cyfleoedd newydd fel adnewyddu trwyddedau parcio preswylwyr i ychwanegu at wasanaethau eraill fel dulliau cyflym a hawdd o roi gwybod am sbwriel, tyllau ffyrdd a diffygion goleuadau stryd. Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae'r cyngor hefyd yn dod yn fwy masnachol trwy gynnig

gwasanaethau ychwanegol y tu hwnt i'r rheiny rydym yn eu darparu fel arfer. Rydym eisoes wedi dechrau gwneud hynny gyda gwasanaeth trin canclwm Japan newydd ac mae mwy yn yr arfaeth. "Y syniad y tu ôl i hyn yw defnyddio'r sgiliau a'r doniau sydd eisoes gan ein staff i ddarparu gwasanaethau y telir amdanynt, a defnyddio'r elw i gydbwyso cost gwasanaethau eraill. "Mae llawer mwy i'w wneud ac mae angen arnom i breswylwyr, staff, busnesau lleol a sefydliadau eraill edrych ymlaen ac ymuno yn y drafodaeth ar yr hyn y dylai'r cyngor ei wneud yn y blynyddoedd i ddod. "Gyda'n gilydd mae angen i ni ystyried pa wasanaethau gallwn roi terfyn arnynt, lle mae sail gadarn i wneud hynny. "Rydym hefyd am gael syniadau gan breswylwyr am yr hyn y mae preswylwyr a chymunedau'n barod i'w wneud dros eu hunain ac eraill a pha rôl y gallai asiantaethau eraill ei chyflawni hefyd."

Rydym yn chwilio am fuddsoddiad tudalen 5

Tyllau yn y Ffordd Tîm PATCH yn atgyweirio strydoedd ar draws y ddinas tudalen 8

Pam addysg yw un o'n prif flaenoriaethau tudalen 9


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Arwain Abertawe Medi 2015 by City and County of Swansea - Issuu