Arwain Abertawe - Mawrth 2016

Page 1

Arwain Abertawe Papur newydd Dinas a Sir Abertawe

Rhifyn 102

Mawrth 2016

tu mewn

Sut mae'ch Treth y Cyngor yn ein helpu i gyflwyno gwasanaethau hanfodol - gweler y tudalennau canol

eich dinas: eich papur

Canol y ddinas Cynlluniau adfywio trawiadol yn mynd rhagddynt

hefyd

tudalen 5

Sioe awyr • ARLOESI: Mae cwrs a chymhwyster gwarchod babanod cyntaf erioed Cymru wedi cychwyn yn Abertawe ac mae'n helpu pobl ifanc i baratoi at yrfa yn un o'r proffesiynau gofal. Gweler tudalen 4 am fwy o fanylion.

Mae Cyngor Abertawe'n bwriadu gwario miliynau o bunnoedd yr wythnos i gefnogi cymunedau lleol, addysg, y gwasanaethau cymdeithasol, gwella ffyrdd a chadw strydoedd yn lân. Bydd y cyngor yn gwario oddeutu £1.5m y diwrnod, gan weithio hyd yn oed yn agosach gyda phreswylwyr i sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr hyn sy'n flaenoriaeth i bobl. Dros y flwyddyn i ddod, bydd £1m ar gael ar gyfer atgyweiriadau hanfodol i ysgolion i ychwanegu at y buddsoddiad mewn adeiladu ysgolion, bydd £2m ar gyfer rhaglen adeiladu tai cyngor newydd ac £1m er mwyn atgyweirio ffyrdd. Mae £3.2m ychwanegol hefyd mewn arian uniongyrchol ar gyfer cyllidebau ysgolion. Dylai'r arian hwn, o'i ychwanegu at y Grant Amddifadedd Disgyblion, gynorthwyo ysgolion i ddarparu i raddau helaeth ar

Holi'ch Barn

Rydym yn targedu miliynau i’ch blaenoriaethau rheng flaen DROS y flwyddyn i ddod, mae angen i'r cyngor arbed £21m i ychwanegu at y £50m a arbedwyd eisoes dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Disgwylir y bydd angen arbed £55m arall yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r cyngor eisoes wedi lleihau costau rheoli o filiynau o bunnoedd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae hefyd yn symleiddio gwasanaethau gweinyddol, gan gyflwyno ffyrdd callach o weithio a lleihau costau cyffredinol drwy fuddsoddi mewn mwy o dechnoleg ddigidol. Mae hyn wedi golygu bod mwy o wasanaethau i'w cael arlein, a bydd mwy ar gael yn y blynyddoedd i ddod. Er enghraifft, gall preswylwyr dalu eu treth y cyngor ac adnewyddu trwyddedau parcio i breswylwyr ar-lein 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

gyfer y rhan fwyaf o'r pwysau o ran costau sy'n eu hwynebu. Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, fod y cyngor yn gwneud ei orau glas i fod yn gallach, yn fwy effeithiol ac yn fwy effeithlon. Dywedodd fod cymaint â phosib o'r gyllideb flynyddol yn cael ei gwario ar flaenoriaethau rheng flaen a nodwyd gan bobl Abertawe. Meddai, "Rydym yn wynebu'r her drwy barhau â'n rhaglen i adolygu'n holl feysydd gwariant - gan gynnwys meysydd fel gwasanaethau diwylliannol, rheoli gwastraff a

phriffyrdd - i weld sut byddwn yn parhau i sicrhau bod pob ceiniog a gaiff ei gwario'n cael ei defnyddio'n ddoeth ac yn y ffordd orau i bobl Abertawe." Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae ein menter Abertawe Gynaliadwy-Yn Addas i'r Dyfodol wedi cael croeso cyffredinol oherwydd bydd yn ein helpu i barhau i gefnogi gwasanaethau hanfodol drwy fod yn gallach ac yn fwy effeithlon. "Er gwaethaf y toriadau cyllidebol y mae pob cyngor yng Nghymru yn eu hwynebu, mae Abertawe mewn

sefyllfa dda i barhau i gefnogi plant a phobl hŷn, i fynd i'r afael â thlodi a buddsoddi mewn gwasanaethau ymyrryd ac atal a fydd yn helpu i arbed arian yn y tymor hir." Yn dilyn ymgynghoriad â'r cyhoedd, mae'r cyngor hefyd yn bwriadu agor Ffordd Liniaru'r Morfa flwyddyn yn gynnar, parhau i gadw'i doiledau cyhoeddus ar agor, cynnal y nifer presennol o lyfrgelloedd a chreu cyllidebau cymunedol i ariannu prosiectau lleol bach ond mawr eu hangen. Parheir i fuddsoddi hefyd mewn cludiant cymunedol a mynd i'r afael â thaflu sbwriel a baw cŵn. Ychwanegodd y Cyng. Stewart, "Yn sgîl yr ymgynghoriad a gynhaliwyd â phobl leol, mae ein cynlluniau cyllidebol wedi'u cryfhau. Mae'r cyngor yn gwrando ar ein cymunedau lleol, a thrwy barhau i weithio'n agos gyda hwy, byddwn yn canolbwyntio'n fwy ar gyflawni eu blaenoriaethau bob dydd."

Awyrennau'n dychwelyd i'r ddinas yn yr haf tudalen 3

Ailgylchu Gall pob un ohonom wneud ein rhan i gyrraedd y targedau tudalen 7

Gwaith adeiladu mewn ysgolion yn brif flaenoriaeth tudalen 9


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.