Arwain Abertawe - Mai 2017

Page 1

Arwain Abertawe Rhifyn 107

Mai 2017 tu mewn

Papur newydd Dinas a Sir Abertawe

eich dinas: eich papur

Eich Cyngor Y gwasanaethau sy'n gweithio drosoch chi bob dydd hefyd

tudalennau canol

• AMSER SBLASH: Nid yw'n rhywbeth arferol i bobl ifanc ddysgu nofio gydag enillydd medal aur ond dyna'r hyn y mae Chloe Davies, y nofiwr Paralympaidd, yn ei wneud ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe. Mwy ar dudalen 10. Llun gan Jason Rogers

Canol y ddinas yn datblygu’n gyrchfan o fri MAE trawsnewid canol dinas Abertawe'n gyrchfan blaenllaw ar gyfer manwerthu, hamdden, adloniant a busnes yn dechrau dwyn ffrwyth. Mae cais cynllunio amlinellol ar gyfer safle datblygu Dewi Sant wedi'i gyflwyno. Bydd gwaith yn dechrau'n hwyrach eleni ar wella Ffordd y Brenin, ac mae brîff datblygu sy'n gofyn am gynigion i adfywio Sgwâr y Castell bellach yn cael ei lunio. Rivington Land sy'n rheoli ailddatblygu safle Dewi Sant ar ran Cyngor Abertawe. Mae'r cynlluniau ar gyfer safle hen ganolfan siopa Dewi Sant a maes parcio'r LC, yn cynnwys arena ddigidol dan do, siopau, bwytai, sinema bwtîc, gwesty, digon o fannau parcio ceir a phont lydan i gerddwyr dros Heol Ystumllwynarth. Bydd y brîff datblygu ar gyfer Sgwâr y Castell yn nodi nifer o amcanion allweddol, gan gynnwys

Cynlluniau Ffordd y Brenin BYDD gwaith dymchwel hen adeilad clwb nos Oceana ar Ffordd y Brenin bron wedi'i gwblhau, gyda gwaith yn dechrau'n hwyrach eleni ar gynllun a fydd yn gwella golwg a naws Ffordd y Brenin yn sylweddol. Mae'r cynlluniau'n cynnwys mwy o ardaloedd gwyrdd a newid y system draffig unffordd bresennol am system ddwyffordd, ynghyd â dileu'r lôn fysus ddynodedig.

mwy o wyrddni, cadw'r un faint o fannau cyhoeddus, ac argaeledd parhaus ar gyfer digwyddiadau. Meddai Phil Holmes, Pennaeth Cynllunio ac Adfywio Canol Dinas Abertawe Cyngor Abertawe, "Mae canol dinas Abertawe'n bwysig - nid ar gyfer preswylwyr Abertawe ac ymwelwyr yn unig, ond hefyd fel ysgogwr economaidd ar gyfer Dinas-

ranbarth Bae Abertawe. “Mae canol y ddinas wedi dirywio dros y blynyddoedd am sawl rheswm gan gynnwys siopa ar y we a pharciau manwerthu ar gyrion y ddinas, ond yn ogystal â'r polisi cynlluniau sydd gennym ar waith sy'n rhwystro datblygu parciau manwerthu ar gyrion y ddinas yn y dyfodol, rydym hefyd wedi nodi nifer o gynlluniau a fydd yn gwrthdroi'r dirywiad. "Bydd y datblygiad defnydd cymysg ar gyfer safle Dewi Sant yn rhoi hwb i'r cynnig manwerthu a hamdden, a gallai syniadau ar gyfer Sgwâr y Castell ei drawsnewid yn lle mwy bywiog a phleserus wrth wraidd canol y ddinas. "Mae hefyd yn glir iawn bod angen denu mwy o ymwelwyr i ganol y ddinas i wario mwy a fydd yn creu buddsoddiad newydd, felly bydd ardal gyflogaeth ar Ffordd y Brenin ymhlith y cynlluniau a fydd yn arwain at fwy o bobl yn byw ac yn gweithio yng nghanol y ddinas."

Sioe Awyr Y Red Arrows yn dychwelyd i'r sioe genedlaethol tudalen 3

Rho 5 Ymunwch â Leon wrth iddo chwilio am y sêr tudalen 9


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Arwain Abertawe - Mai 2017 by City and County of Swansea - Issuu