Arwain Abertawe Rhifyn 103
Mai 2016 tu mewn
Papur newydd Dinas a Sir Abertawe
eich dinas: eich papur
Sioe Awyr Y Red Arrows yn anelu at y sêr plws
tudalen 3
• MAE RHO 5 YN ÔL: Mae seren yr Elyrch, Leol Britton, yn arwain yr ymgyrch i ddod o hyd i bobl ifanc y mae eu cymunedau'n ymfalchïo ynddyn nhw. Gweler tudalen 7 am fwy o fanylion. Llun gan Jason Rogers
MAE trafodaethau cyfrinachol â manwerthwyr, bwytai a gweithredwyr sinema wedi dechrau, wrth i ganol y ddinas gael ei drawsnewid yn gyrchfan hamdden a siopa o safon ddod gam yn nes. Mae'r datblygwyr a benodwyd gan Gyngor Abertawe i reoli adfywio safleoedd Dewi Sant a'r Ganolfan Ddinesig wedi dechrau ar y broses o sicrhau tenantiaid ar gyfer y cynlluniau. Rivington Land ac Acme sy'n rheoli adfywio safle datblygu Dewi Sant, sy'n cynnwys hen ganolfan siopa Dewi Sant, maes parcio aml-lawr Dewi Sant a maes parcio'r LC. Trebor Developments bydd yn rheoli adfywio safle'r Ganolfan Ddinesig. Hefyd, cynigir bod y cwmni'n gweithio'n agos gyda Phrifysgol Abertawe i
gwybodaeth
Cyrchfan o’r radd flaenaf yn dechrau datblygu YMYSG y cynlluniau i ddatblygu cyrchfan o'r radd flaenaf yw cynigion ar gyfer: Arena dan do gyda 3,500 o gadeiriau ar safle maes parcio'r LC. 700 o gartrefi ar draws dau safle'r glannau. Safle manwerthu, sinema, bwytai a bariau a swyddfeydd newydd. I weld fideos o'r cynigion ewch i www.abertawe.gov.uk
archwilio ymhellach i botensial creu 'canolfan hydro' ar y safle a allai gynnwys acwariwm cyhoeddus a chanolfan ymchwil gwyddorau dŵr o'r radd flaenaf. Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Ychydig fisoedd yn unig sydd wedi bod ers y cyhoeddwyd y syniadau buddugol ar gyfer safle
Dewi Sant a'r Ganolfan Ddinesig. Ond mae datblygiad calonogol eisoes yn mynd rhagddo y tu ôl i'r llenni wrth i ni barhau i weithio mewn partneriaeth agos gyda'n rheolwyr datblygu a Llywodraeth Cymru. "Mae denu siopau poblogaidd, bwytai, caffis a gweithredwyr hamdden yn allweddol i lwyddiant y cynlluniau adfywio. Dyma pam mae ein rheolwyr datblygu eisoes wedi dechrau gweithio ar yr agwedd hon o'r ailddatblygiadau cynlluniedig. "Er na allwn roi manylion am y busnesau na'r brandiau rydym mewn cysylltiad â nhw, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau tenantiaid sy'n boblogaidd ac o'r safon orau. Mae gwaith dylunio manwl hefyd wedi dechrau er mwyn cyfeirio prif gynlluniau safle a fydd yn destun ystyriaeth gynllunio ac ymgynghoriad cynhwysfawr yn y dyfodol."
CDLl Ymgynghori ar lasbrint ar gyfer ein dinas tudalen 5
Yn yr Awyr Agored Mae gan Damian y swydd orau yn y byd tudalen 6
Defnyddiwch gewynnau go iawn a chael £100 Gall newid i gewynnau go iawn haneru gwastraff eich teulu ac arbed cannoedd o bunnoedd i chi! Ac os ydych yn byw yn Abertawe, gallwch gael £100 tuag at y gost trwy ein cynllun ad-dalu. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.abertawe.gov.uk/cewynnau