Arwain Abertawe Papur newydd Dinas a Sir Abertawe
Rhifyn 97
Mai 2015
Cadwch mewn cysylltiad trwy ddefnyddio ein siart wal wych tu mewn
-tudalennau canol
eich dinas: eich papur
Sioe awyr Croeso cynnes am y sioe a hefyd
tudalen 3
Dewch ar-lein • MAE GWOBRAU RHO5 YN ÔL: Mae Leon Britton, seren Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, a John Hayes yn helpu i lansio'r ymgyrch i chwilio am bobl ifanc sy'n haeddu gwobr gymunedol. Mwy ar dudalen 7. Llun gan Jason Rogers
MAE cymunedau sy'n gweithio gyda'i gilydd i fanteisio i'r eithaf ar eu doniau a'u profiad i helpu i wella ansawdd bywyd yn eu cymdogaethau'n cael cefnogaeth gan y cyngor. Mae preswylwyr eisoes yn ymuno i fwrw iddi a helpu i ofalu am eu parciau cymdogaeth a'u hyrwyddo ac mae pobl hŷn yn dod at ei gilydd i sefydlu eu clybiau cymdeithasol eu hunain yn ystod y dydd i ddilyn y diweddaraf am fywyd lleol. Ac mae'r cyngor yn chwarae ei ran hefyd fel rhan o raglen drawsnewid Abertawe Gynaliadwy - yn Addas i'r Dyfodol. Mae un o'r mentrau diweddaraf sy'n cael ei pheilota mewn tair cymuned yn y ddinas wedi cynnwys penodi ‘cydlynwyr
gwybodaeth
Cymunedau i elwa ar ymgyrch wella MAE cydlynu ardal leol yn ffordd o weithio a ddatblygwyd yn Awstralia ac sy'n cael ei pheilota yn Abertawe gydag arian o Gronfa Atal y cyngor. Mae cydlynwyr ardal leol yn helpu i atal pobl rhag cyrraedd sefyllfa a fyddai yn y gorffennol wedi arwain at gynnwys y Gwasanaethau Cymdeithasol. Y ffordd hon, gall pobl a chymunedau ddod o hyd i ddatrysiadau mwy lleol i broblemau cyffredin. Byddan nhw'n gallu helpu pobl i bennu eu gweledigaeth ar gyfer bywyd da, nodi eu cryfderau a'u hanghenion eu hunain i aros yn ddiogel, yn gryf, yn gysylltiedig ac yn cyfrannu fel dinasyddion a werthfawrogir.
ardal leol’ sy'n mynd allan i gefnogi pobl anabl, pobl â phroblemau iechyd meddwl, pobl hŷn a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae Jon Franklin, cydlynydd ardal leol, yn gweithio yn ardaloedd Sgeti, Tŷ Coch a Pharc Sgeti ac mae ei gydweithiwr, Daniel Morris, yn gweithio yn ardal St Thomas, sydd hefyd yn cynnwys Bonymaen, Pentrechwyth, Port Tennant a Glannau SA1. Meddai, “Nid yw hyn ynghylch penderfynu beth yw
‘problemau’ pobl. Mae ynghylch gwrando ar bobl a gweithio gyda'n gilydd fel y gall pobl a chymunedau gefnogi ei gilydd i aros yn gryf. “Yn y bôn, mae'n cyfuno popeth dwi wedi'i wneud ac yn mwynhau ei wneud dros y blynyddoedd. “Mae'n rhaid i ni fod yn wrandawyr creadigol, hyblyg a da.” Meddai Dean Taylor, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor
Abertawe, “Mae cydlynwyr ardal leol a grwpiau sy'n mabwysiadu parciau'r ddinas yn rhan o uchelgais y cyngor i ymuno â'n cymunedau, gan ddefnyddio'u doniau a chreu gwasanaethau cymdogaeth sydd o bwys gwirioneddol. “Mae angen i Abertawe Gynaliadwy yn Addas i'r Dyfodol – arbed o leiaf £81m dros y blynyddoedd nesaf. Ond mae ynghylch gwella gwasanaethau trwy wneud pethau'n wahanol hefyd ac mae grwpiau ‘Cyfeillion Parc…’ a chydlynwyr ardal leol yn rhan o hynny. “Maen nhw'n agosach at gymunedau, gan ddisgwyl materion ac atal problemau fel nad oes rhaid i'r cyngor gamu mewn gyda ‘datrysiadau’ drud. Gwell rhwystro'r clwy na'i wella ac rydyn ni'n gobeithio y bydd hynny'n un o fanteision mawr y mentrau gweithredu yn y gymuned.”
Cyrsiau am ddim yn datgloi’r we tudalen 4
Canol y Ddinas Yn trawsnewid y gem yn y goron tudalen 5
Chi ofynnodd amdani: mae sioe flodau gwyllt y ddinas yn ôl tudalen 8