Arwain Abertawe Papur newydd Dinas a Sir Abertawe
Rhifyn 95
Ionawr 2015
tu mewn
Eich calendr casgliadau ailgylchu a sbwriel 2015 - gweler y tudalennau canol eich dinas: eich papur
Marchnad
To newydd, ond yr un profiad gwych
plws
tudalen 3
Tyllau yn y Ffordd • SIOP FARGEINION Os ydych yn chwilio am fargen ym mis Ionawr, does dim lle gwell na'r Siop Gornel yn Safle Byrnu Cyngor Abertawe yn Llansamlet. Mwy o wybodaeth ar dudalen 5. Llun gan Jason Rogers
MAE preswylwyr y ddinas yn cael eu hannog i fynegi eu barn am gynigion uchelgeisiol y cyngor sy'n ceisio rhoi blaenoriaeth gymharol i ofal cymdeithasol ac addysg yn y blynyddoedd nesaf. Mae preswylwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus sylweddol sy'n cynnig y cyfle i'w barn gael ei hystyried am gynigion sy'n ceisio arbed £81m dros y tair blynedd nesaf. Mae'r cynigion yn rhan bwysig o raglen trawsnewid Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol lle bydd y cyngor yn gwario mwy na £700m ar wasanaethau cyhoeddus yn y flwyddyn ariannol nesaf. Er y bydd angen i holl feysydd y cyngor newid sut maent yn cyflwyno gwasanaethau a pharhau â'r ymgyrch am effeithlonrwydd, bydd y cynigion
gwybodaeth
Cewch fynegi barn am gynlluniau cyllideb y cyngor BYDD amrywiaeth o ffyrdd i'r cyhoedd a rhanddeiliaid gymryd rhan, gan gynnwys: • Ymgynghoriad ar-lein ar wefan y cyngor, www.abertawe.gov.uk/abertawegynaliadwy • Dogfennau ymgynghoriad copi caled a ffurflenni adborth mewn llyfrgelloedd, swyddfeydd tai rhanbarthol a rhai canolfannau cymunedol.
yn golygu y bydd gostyngiadau mewn gofal cymdeithasol ac addysg yn llai nag mewn meysydd eraill ar adeg pan fo pwysau cynyddol ar gyllidebau llywodraeth leol ar draws Cymru oherwydd llai o adnoddau a galw cynyddol. Ni chafwyd penderfyniadau ar y cynigion cyn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ar 24 Chwefror. Meddai Dean Taylor, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, “Mae'r rownd ymgynghori gyntaf â staff, preswylwyr, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill wedi bod yn llwyddiannus iawn.
“Dyma ail flwyddyn y rhaglen Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i'r Dyfodol ac rydym wedi bod yn parhau â'r sgwrs gyda sesiynau galw heibio a chyfarfodydd grwpiau cymunedol. “Mae preswylwyr a staff hefyd wedi cael y cyfle i fynegi eu barn arlein. “Er bod yn rhaid i ni leihau ein cyllideb yn sylweddol dros y 3 blynedd nesaf, hyd yn oed os caiff y cynigion hyn eu cymeradwyo, byddwn yn dal i wario £1.5m y dydd yn Abertawe i gefnogi cymunedau a'r economi leol.”
Bydd proses yr ymgynghoriad cyhoeddus yn parhau tan 21 Ionawr. Ar ôl hynny, caiff adroddiad arall ei lunio gan y Cabinet, gan ystyried adborth gan y cyhoedd, y staff a sefydliadau eraill. Mae'r rhaglen arbed arian sy'n cael ei chynnig yn cynnwys mwy o reolaeth dros wario, parhau i leihau costau rheoli a busnes, cynyddu incwm, gwneud pethau'n wahanol, gweithio gydag eraill, darparu mwy o wasanaethau ar-lein ac annog pobl i helpu eu hunain. Meddai Mr Taylor, “Bydd Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i'r Dyfodol yn newid y ffordd rydym yn gweithio a gwedd ac ymdeimlad y cyngor. “Ond, yn bwysicaf oll, bydd yn ein helpu i wella canlyniadau i'n preswylwyr dros y tymor hwy.” • Ceir mwy o wybodaeth am y cynigion a'r broses ymgynghori hyd yn hyn ar dudalen 4.
Ar ein ffordd i atgyweirio strydoedd yn eich ardal chi tudalen 2
Dinas daclus Bydd ysgolion yn helpu i'w chadw'n lân tudalen 5
Mae fersiwn newydd ohonoch yn aros yn Abertawe Actif tudalen 7