Arwain Abertawe - Awst 2017

Page 1

Arwain Abertawe Rhifyn 108

Awst 2017 tu mewn

Papur newydd Dinas a Sir Abertawe

eich dinas: eich papur

Mae'r ysgol ar gau Hwyl yr haf i'r teulu cyfan hefyd

tudalen 3

• CHWARAEON GWYCH: Mae plant bach yn Ysgol Gynradd Sea View wedi bod yn dathlu eu diwrnod mabolgampau cyntaf ar eu cae chwaraeon newydd a grëwyd gan ddisgyblion gydag ychydig o help gan dîm NEAT y cyngor. Mwy ar dudalen 10. Llun gan Jason Rogers

Cyllid y fargen ddinesig yn paratoi ar gyfer dyfodol penigamp MAE cyngherddau penigamp, comedïwyr, sioeau teithiol, perfformiadau theatr ac arddangosfeydd ar y gweill wrth i brosiect adfywio canol dinas Abertawe fynd rhagddo. Mae Cyngor Abertawe bellach wedi penodi ATG (Ambassador Theatre Group) i gynnal yr arena dan do ddigidol â 3,500 o seddi sydd wedi'i chynllunio ar gyfer safle adeiladu Abertawe Ganolog. Mae ATG, busnes rheoli lleoliadau a chynyrchiadau yn berchen ar arenâu a theatrau mewn dinasoedd gan gynnwys Llundain, Efrog Newydd a Sydney, ac yn eu rheoli. Uwchben maes parcio aml-lawr newydd, cynllunnir adeiladu arena dan do ddigidol Abertawe yn ardal maes parcio'r LC o safle datblygu Abertawe Ganolog sy'n cynnwys hen ganolfan siopa Dewi Sant. Bydd yr arena'n denu hyd at 200 o

Rhan o’r fargen BYDD cyllid y fargen ddinesig hefyd yn arwain at ardal gyflogaeth newydd ar Ffordd y Brenin a fydd yn elwa o dechnoleg ddigidol gyfoes. Ymysg y datblygiadau fydd swyddfa newydd ar gyfer busnesau technoleg yn hen safle clwb nos Oceana. Bydd y gwaith adeiladu hefyd yn dechrau ar ddiwedd yr hydref eleni ar ddatblygiad Icon 21 ar Stryd Mariner, gan gynnwys llety ar gyfer 725 o fyfyrwyr uwchben siopau a busnesau eraill.

ddigwyddiadau'r flwyddyn. Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Dyma gam arall ymlaen ar gyfer ein cynlluniau i drawsnewid canol y ddinas yn gyrchfan bywiog sy'n bodloni dyheadau pobl leol ac ymwelwyr. "Mae cais cynllunio amlinellol ar gyfer datblygiad cyffredinol Abertawe Ganolog wedi'i

gymeradwyo'n ddiweddar, sy'n golygu ein bod nawr yn gweithio gyda Rivington Land, ein rheolwyr datblygu ar gyfer y safle, er mwyn sicrhau tenantiaid ac i gwblhau dyluniadau adeiladu manwl ar gyfer cynllun a fyddai hefyd yn cynnwys siopau, bwytai, caffis, sinema bwtîg, digonedd o leoedd parcio newydd a phont lydan newydd i gerddwyr ar draws Heol Ystumllwynarth. "Bydd yr arena dan do ddigidol yn llunio rhan o raglen y Fargen Ddinesig a fydd yn gweld £1.3biliwn yn cael ei fuddsoddi yn ardal Bae Abertawe. Rydym yn gobeithio dechrau ar y safle flwyddyn nesaf, a'r arena fydd cam cyntaf y datblygiad cyffredinol. "Ar y cyd â chynlluniau eraill, bydd y cynllun hwn yn denu mwy o bobl i ganol y ddinas, yn sicrhau bod mwy o arian yn cael ei wario yn ein busnesau canol y ddinas ac yn hybu'r economi ranbarthol, gyda chanol dinas Abertawe yn wraidd i'r cyfan."

Yn y pinc Gwneud ailgylchu’n haws tudalen 4

Yr adeiladu mawr Mynd i mewn i dai cyngor newydd sbon tudalen 9


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Arwain Abertawe - Awst 2017 by City and County of Swansea - Issuu