Arwain Abertawe Rhifyn 104
Awst 2016 tu mewn
Papur newydd Dinas a Sir Abertawe
eich dinas: eich papur
Hwyl yr Haf Mae cymaint i'w wneud yn ein dinas hefyd
tudalen 3
• LLONGYFARCHIADAU! Mae plant ar draws Abertawe'n dathlu 10 mlynedd o Ddechrau'n Deg yn y Ganolfan Blant. Mwy o wybodaeth ar dudalen 7. Llun gan Jason Rogers
BYDD miloedd o dyllau yn y ffordd yn cael eu llenwi mewn cymunedau ar draws y ddinas wrth i wasanaeth atgyweirio 48 awr newydd gael ei lansio. Mae Cyngor Abertawe wedi sefydlu timau atgyweirio tyllau yn y ffordd newydd sy'n ceisio trwsio tyllau o fewn 48 awr. Yn ôl y cynllun newydd, bydd preswylwyr sy'n adrodd am broblemau'n derbyn diweddariad ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau. Mae timau atgyweirio tyllau yn y ffordd newydd y cyngor yn rhan o raglen atgyweirio ffyrdd a phalmentydd sy'n ceisio cadw traffig y ddinas i symud drwy drwsio tua 10,000 o ddiffygion y flwyddyn. Dywedodd David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Briffyrdd a Chludiant, fod y timau atgyweirio tyllau yn y ffyrdd newydd yn ychwanegol i'r timau PATCH poblogaidd a gwelliannau ffyrdd
gwybodaeth
Byddwn yn trwsio tyllau yn y ffordd i sicrhau bod traffig yn symud GALL preswylwyr helpu drwy adrodd am dyllau yn y ffordd ar-lein yn www.abertawe.gov.uk/article/2042/Mewng ofnodi Mae’n bwysig bod y rhai sy'n adrodd am dyllau yn y ffordd yn dweud yn union ble mae'r twll er mwyn i dîm y cyngor allu dod o hyd iddo pan fyddant yn mynd allan i archwilio. Dylai'r rheini sy'n adrodd am dwll yn y ffordd gynnwys gwybodaeth am dirnodau agos megis rhifau tai ac enwau strydoedd.
cynlluniedig. Meddai, "Rydym am i bobl roi gwybod i ni am dyllau yn y ffordd cyn gynted ag y maent yn eu gweld nhw. Ein hymrwymiad yw gwneud popeth y gallwn i'w hatgyweirio o fewn 48 awr. Mae tyllau yn y ffordd yn cael eu creu gan fod pwysau traffig a'r tywydd yn treulio'r ffyrdd. Mae'n golygu bod tyllau'n ymddangos trwy'r amser ac mae llenwi'r
tyllau'n waith diderfyn, ond mae ein Timau Atgyweirio Tyllau yn y Ffordd yn benderfynol o fynd i'r afael â hyn. Bydd gan y timau faniau ac arwyddion arbennig fel y gall modurwyr sy'n mynd heibio weld eu bod yn gweithio'n galed i lenwi'r tyllau yn y ffordd a chadw traffig i symud." Yn ôl y system newydd bydd y rhai sy'n adrodd am y diffyg yn cael y cyfle i gael yr wybodaeth ddiweddaraf os ydynt yn rhoi eu cyfeiriad e-bost i'r cyngor. Meddai'r Cyng. Hopkins, "Mae trwsio tyllau o fewn 48 awr o gael gwybod amdanynt yn her fawr a byddwn yn gwneud ein gorau glas i gyflawni'r her honno. Ar rai adegau pan fydd llawer o law, eira neu iâ, efallai na fyddwn yn gallu cwblhau'r gwaith oherwydd cyflwr y ffyrdd, er y byddwn yn gwneud popeth y gallwn i ddal i fyny wedyn. Ychwanegodd, "Gall preswylwyr fod yn hyderus y byddwn yn gwneud popeth y gallwn i gwblhau'r gwaith cyn gynted â phosib."
Canol y Ddinas Sut rydym yn paratoi ar gyfer y dyfodol tudalen 5
Addysg Ysgolion i dderbyn hwb ariannol gwerth miliwns tudalen 8
Defnyddiwch gewynnau go iawn a chael £100 Gall newid i gewynnau go iawn haneru gwastraff eich teulu ac arbed cannoedd o bunnoedd i chi! Ac os ydych yn byw yn Abertawe, gallwch gael £100 tuag at y gost trwy ein cynllun ad-dalu. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.abertawe.gov.uk/cewynnau